Gwaith Sion Cent/Yn Ymofyn yr Hen Wyr Gynt
← Cywydd Brud | Gwaith Sion Cent gan Siôn Cent golygwyd gan Thomas Matthews |
Gosteg yn Ymofyn yr Hen Wyr Gynt → |
III.
YMOFYN YR HEN WYR GYNT.
UN fodd yw'r byd, cyngyd cêl,
A phaentwr delwau â phwyntel
Yn paentiaw delwau lawer,
A llu o saint a lliw ser.
Fal hudol a'i fol hoewdew
Yn bwrw hud iangwr glud glew,
Dangos a wna da diddim
Dwys dal lle nad oes dim.
Felly'r byd hwn, gwn ganwaith,
Ond hud a lliw nid gwiw gwaith.
Mae'r budd oll, mawr bu dwyllwr?
Mae Addaf fu gyntaf gwr?
Mae Sesar a mae Farsil?
Mae feirdd Ewropia; mae fil?
Alecsander a dderyw,
Ector, Arthur, eglur yw.
Mae Gwenhwyfar gain hoewfedd,
Merch Gogran gawr, gwawr i gwedd?
Ar sidan ares ydyw,
A'r gwallt yn llawn perls aur gwiw.
Mae Tegfedd, ryfedd yr hawg,
Cu ferch Owain Cyfeiliawg?
Mae fun arall fain wryd
O Ffrainc oedd decaf i phryd?
Mae Herod greulon honnaid?
Mae Siarlymaen o'r blaen blaid?
Mae Owain, iôr archfain oedd,
A Risiart frenin yr oesoedd?
Mae'r haelion bobl mawr helynt?
Mae'r gwyr da fu i Gymru gynt?
Mae'r perchen tai, mae'r parchau,
Yn fab a welais yn fau?
Maent hwy a'u gwragedd heddyw
A'u muroedd gwych, mawredd gwiw?
Ni wyr cennad gredadwy
Na Herod gynt, i hynt hwy;
Ar undawns gwn i wrandaw,
I ninnau diau y daw.
Dyrys union dros annerch
Duc o Iorc, roi forc i ferch;
Anniweiriaf fu Ddafydd,
Selyf ddoeth salw fu'i ddydd.
Mae Catwn Ddoeth, mae Cytal
Mae'r saith celfyddyd mawr sâl?
Mae rôd iaith; mae rai doethion;
Mae saith dysg Fferyll; mae sôn
Er i callter medd gwerin,
A'i mawr gelfyddyd o'i min?
Er i dewredd, wyr diraid
A'u balchedd anrydedd raid,
Yn ddinam, igram ograff,
I'r pridd ydd aethant, wyr praff.
O'r pridd y daethon er praw,
I'r pridd yddawn i'n priddaw.
Afraid i ddyn fryd ar dda
A'i ryfig a'i heraufa,
A'i dolcog gorff o'i dalcen,
A'i bwys o bridd a'i bais brenn,
Ag wyth cant, meddant i mi,
O bryfaid yn i brofi.
Rôd daear ar hyd dwywaith,
Ond hyd a lliw nid gwiw gwaith.
Pan ddêl Crist, poen ddial cred,
Parth i gaer, porth agored,
Ar dda a drwg, ar ddôr drom,
Dduw-Sul, a farn yn ddi-siom;
Rhai'n crynu fal maeddu mab;
Ereill yn llawen arab;
Rhai a gaiff nefoedd ryw gyd,
Rhai i boen neu ryw benyd.