Neidio i'r cynnwys

Gwaith Sion Cent (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Sion Cent (testun cyfansawdd)

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Gwaith Sion Cent
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Siôn Cent
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cyfres y Fil
ar Wicipedia



SION CENT.

Oddiwrth y darlun yn Llys Llan Gain.

Gwaith
Sion
Cent

GWAITH


SION CENT.



—ↈ—



O GASGLIAD A THAN OLYGIAETH


T. MATTHEWS.




1914.

LLANUWCHLLYN: AB OWEN.



ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD, DROS AB OWEN.

GAN GWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),

CAERNARFON.



RHAGAIR.




HYD yn hyn, ni chyhoeddwyd yng Nghyfres y Fil neb o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg ond Dafydd ab Gwilym. Un rheswm am hynny ydyw mai cyfres i'r werin, nid cyfres i ysgolheigion yw'r gyfres; ac am hynny gwell, ar y dechreu, beth bynnag, cyhoeddi gwaith beirdd mwy diweddar, oherwydd eu bod, o ran iaith a mater a cnyfeiriadau, yn fwy dealladwy.

Ond yn awr ymddengys, ymysg cyfrolau ereill, rai o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg, y bymthegfed, a'r unfed ar bymtheg. Y mae dau reswm dros eu cyhoeddi.

Yn un peth, y mae gwerin gwlad, erbyn hyn, yn ddigon dysgedig i ddeall rhediad cywyddau'r canol oesoedd, os rhoddir hwy yn sillebiaeth y dyddiau hyn. Y mae arnynt awydd cael gwaith eu hen feirdd, oherwydd gwyddant mai ohonynt hwy y cafodd llenyddiaeth ddiweddar lawer o'i hysbryd.

A pheth arall, yr ydym ar fin pum canmlwyddiant marw Owen Glyndŵr. Dyrysodd rhyfel chwerw ei amcanion mawrion ef, a daeth cymylau duon dros ddydd y buasai ei fore'n llachar, ac yn llawn addewid oes newydd i grefydd, llenyddiaeth ac addysg. Hoff gan Gymry pob oes yw edrych i'r bore prydferth hwnnw.


Beth well, ynte, na chyhoeddi gwaith beirdd Owen Glyndŵr.

Dechreuir gyda Sion Cent.

Cymered y darllenydd amynedd efrydydd wrth ddarllen. Y mae'n wir fod yr ystyr yn dywyll yn ddigon aml, a'r geiriau yn anghywir, ac yn aneglur lle maent yn gywir, er pob chwilio a gofal. Bydd y nodiadau ar waelod y dalennau, a'r eirfa ar y diwedd, yn beth help. Cofier, hefyd, mai yr hen ffurf i sydd i ei, ac yn i ein.

Os rhaid mynd dros ambell gwpled, ie ac ambell dudalen, heb ei ddeall, na ofaler. Deallir mwy wrth geisio eu darllen yr ail waith. Os oes peth yn y llyfr na ddeallir y waith gyntaf, y mae llawer o ganu grymus a ddeallir, weithiau yn ein had goffa o Oronwy Owen, dro arall of Ann Griffiths.

Yr oedd Sion Cent ymysg ser y bore newydd. Ynddo ceir cip olygon ar y purdan a'r offeren a'r addoli Mair, ac ar lawer cyfrif y mae ei serch gyda'r hen grefydd. Ond gwel i'r dyfodol hefyd, gwel ddirywiad yr urddau cardod ac effaith andwyol golud ar grefyddwyr, hyd yn oed ar y "myneich mawr i mwnai"—ei urdd ef ei hun; y mae ei gydymdeimlad, nid â'r goludog, ond â'r tlawd. A gofyn uwchben. mawrion daear,—

"Oes a edwyn, syw ydych,
Bridd rhain rhagor pridd y rhych?"

Urddasol ymysg rhagflaenwyr Owen Glyndŵr yw y bardd meddylgar a grymus hwn, a'i gred mewn cydraddoldeb ac addysg.

OWEN M. EDWARDS.

LLANUWCHLLYN.
Awst 24, 1914.

SION CENT.

NID rhyfedd i gymaint amryfusedd godi ynglyn a Sion Cent, gan fod mwy na dau o'r un enw yn byw yn yr un cyfnod. O un agwedd, yr enwocaf o honynt oedd y brawd llwyd Sion Cent, neu Sion Gwent —ugeinfed geidwad ei urdd yn nhalaeth Caer Odor. Bu hwn yn ddarllenydd duwinyddiaeth yn Rhydychen; yr oedd yn ddoethawr brifysgol; "gwnaeth amryw wyrthiau drwy ystod ei fywyd, a gorwedd efe yn Henffordd"—felly cofnoda hanesion y Brodyr Llwydion ei fywyd. Hunodd tua 1348. Nid hwn oedd y bardd, ac nid oes yr un prawf gennym fod i'r bardd radd doethawr yn y brifysgol.

Ganed y bardd tua 1323, ac yn ol traddodiad yn Abertridwr lle dangosir yr ystafell y ganed ef ynddi. Cododd toreth o hanesion—"traddodiadau"—am dano. Hwyrach y gwelwn yn y rhain ddylanwad "gwyrthiau" y brawd llwyd o'r un enw. Efallai mai efe gafodd ei eni yn Abertridwr, a hwyrach y ganed y bardd ar lan Gwy. Ym Mhentyrch, dywedir, y cafodd ei addysg, gan ei ewythr—Dafydd Ddu Hiraddug (o Ewias?)—yr hwn a drigai yno.

Fodd bynnag ymunodd a'r myneich gwynion, y Sistertiaid, ym Mwstwr Gras Duw, ar gyffiniau eithaf Gwent. Ar gais Roger Cradog Esgob Llandaf (1361-1382) urddwyd ef yn is-ddiacon ac yn ddiacon gan Lewis Charlton, Esgob Henffordd ar Wyl y Pasg, 1366, ym Mosbury, fel un o fyneich Gras Duw.

Ar y Sadwrn cyn y Nadolig yn yr un flwyddyn cafodd urdd offeiriad gan yr un esgob ym Mromyard. Rhoddwyd gofal eneidiau Cent iddo. Felly cafodd gyfeillgarwch teulu Scudamor, ac o hyn tarddodd yr holl dybiau parthed ef ac Owen Glyndŵr. Hunodd tua'r flwyddyn 1420, a gorffwys yn eglwys Cent.

Perthyn barddoniaeth Sion Cent i fudiad ledaenodd drwy orllewin Ewrop ac hyd gyrrau eithaf y Werdd Ynys. Nid Sion yw yr unig fardd Cymreig roddodd fynegiant i'r yspryd hwn. Saif ymhlith y blaenaf o feirdd y mudiad—y cyffro addfedodd yn ol llaw yn y Diwygiad elwir yn Brotestanaidd. Y mae dau agwedd i'w gweled yn ei waith. Yn gyntaf y "Piwritan," cyn cynllunio'r gair. Dymunal alw ar bawb i fyw felly ger bron y Goruchaf, fel y caffent fynediad helaeth i fewn i "Fwstwr Ion." Gan hynny, traethai ar destynau crefyddol a "phrotestiai" yn erbyn pechodau a gwendidau ei oes. Ond os ceisiai argyhoeddi, nac anghofiwn fod llef gwanobaith Cymru a'i dyheadau yn adsain yn y cywyddau—llet gweledydd yn erbyn gormes a thraha yr arglwydd a'r eglwyswr. Hiraethai, gobeithaw, addaw ydoedd y goreu i'r "blaenaf nasiwn o gwmpas" a fu erioed mewn gras, a dydd pan tyddai "Cymru fawr" yn rhydd. Yr oedd ymhlith y rhai utganodd gyntaf, os nad y cyntaf, yr alwad i'r deffro arweiniodd Glyndŵr. Nid rhyfedd i'r ysgolhaig ynddo hiraethu am "yr hen wyr gynt." Yr oedd yn ddi-ameu yn wr o argyhoeddiadau cryfion, felly cymerodd ran yng ngwrthdystiad ei oes yn erbyn coegni a rhagrith yr eglwyswr, a chydymdeimlodd a Syr John Oldcastle. Ond nid Syr John ddylanwadodd ar y bardd, gan na ymunodd ef â'r mudiad hyd 1410, ac yr oedd y bardd wedi hen ddatgan ei argyhoeddiadau cyn hynny. Y mae'n llawer mwy tebygol taw efe ddylanwadodd ar Syr John—yr oedd yn wr o gyrhaeddiadau uwch a gwell na'r Lolard—ac yn hynach dyn.

Nid ydyw fawr gwahaniaeth ai yng ngwaith Rhys Goch Eryri ynte yng ngwaith Sion Cent y cawn y mynegiant cyntaf o gyfriniaeth y canol oesau. Amlwg ydyw fod yr athroniaeth hynod honno elwir y "cabala" yn wybyddus iddo—y ddysgeidiaeth ryfedd geisiai "brofi cymaint, drwy ryw gyfrin ystyron llythrenau'r wyddor, a phethau tebyg. Nid oes angen son am oferedd yr honiadau, na'r "profion" dyddorol. Ond ni ddylem anghofio y gyfriniaeth arall y gyfriniaeth uchel honno sydd ag apel parhaus i'r meddylgar drwy'r oesau—y ddolen anesboniadwy sydd rhyngom a'r ysbrydol. Yn ei ddatganiad o hyn, ac o'i wladgarwch cawn acen uchaf athrylith y bardd.

Os ydyw enwau yn brawf, yr oedd Sion Cent yn wr hyddysg iawn, ac os ydyw cyfeiriadau yn sail, yr oedd yn adnabyddus a llên Roeg ac felly ymhell o flaen ei gyfoedion. Dyma achos arall gododd amryfusedd, gan fod dau o'r un enw, a'r ddau yn awduron. Credaf y dylid priodoli y llyfrau Lladin i'r brawd Llwyd, ac i'r bardd y llyfrau Cymreig. Heblaw y farddoniaeth sydd yma, dywedir iddo ysgrifenu gramadeg, Araeth y Tri Brawd, chwedlau, traethawd ar farddas; hefyd iddo gyfieithu Llyfr yr Offeren ac Efengyl Ioan i'r Gymraeg. Fel ereill o'r myneich gwynion yr oedd ganddo ddyddordeb mewn adaeladaeth, fel y tystia Pont Sion Cent dros y Fynwy. Tystia y cywyddau taw gwr gostyngedig o galon oedd y bardd, a chadarnha nodiad gan Iolo Morgannwg hyn. Cynhaliwyd Eisteddfod dan nawdd Llewelyn ap Gwilym yn y Ddôl Goch yn Emlyn. Daeth Sion Cent a Rhys Goch Eryri yno. Rhys oedd oreu ar foliangerdd ond Llywelyn a rodd y blaen a'r gadair i'r wengerdd, ond ni fynnai Sion y Cent ei wisgo ag addurn Cadair Ceredigion a Dyfed, eithr i Dduw y rhoddai ef y blaen, am hynny y gwedai rhai mai Duw ei hunan a enillws y gadair hon."

Cymerwyd gofal wrth ddethol y cywyddau, gan y priodolir llawer o gywyddau i Sion Cent yn unig am eu bod yn datgan symbyliadau yr un mudiad. Y mae rhai amheus yn y casgliad hwn, a nodir hynny yn y lle priodol. Sylfaen- wyd y testyn yn bennaf ar lawysgrifau Llan- ofer; y mae acen y Wenhwyseg drwyddynt, a cheisiais ei chadw. Dymunaf gydnabod y ddi- weddar Anrhydeddus Augusta Herbert o Lan- ofer, a'i mab, y Cadfridog Syr Ifor Herbert o Lanarth, am lawer caredigrwydd i mi. Boed rhad Duw arnynt.

T. MATTHEWS.

CYNHWYSIAD.

[Trefnir y Cywyddau yn ol eu testynau-ni ellir gwneuthur
rhyw lawer er cael eu hamseriad
].

RHAGAIR
BYWYD SION CENT

i. Dewis Bethau Sion Cent
ii. Cywydd Brud
[Amserir hwn yn fynych mewn llawysgrifau yn 1399].
iii. Yn Ymofyn yr Hen Wyr Gynt.
iv. Gosteg yn Ymofyn yr Hen Wyr Gynt.
v. Y Llyfr
vi. Llyfr Arall.
[Ni ysgrifennwyd hwn cyn 1413].
vii. Y Cybydd
viii. Degwm
ix. Y Beirdd.
[Ysgrifennodd Rhys Goch Eryri atebi hwn].
x. Yr oedran.
xi. Y Siampl
xii. Y Cyfaillt
xiii. Y Deuddeg Apostol.
xiv. Y Grog ym Merthyr
xv. Dioddefaint yr Iesu
xvi. Mair.
xvii. I Dduw a Mair.
xviii. Iesu .
xix I'r Iesu.
xx. Enw Duw
xxi. I Dduw
xxii. I Dduw (2)
xxiii. I Dduw a'r Byd.
xxiv. Y Drindod
xxv. Daioni Duw
xxvi. Y Deng Air Deddf
xxvii. Twyll y Byd.[1]
xxviii. Y Byd, y Cnawd, a'r Cythrel.
xxix. Yr Wyth Dial
xxx. Myfyrdod
xxxi. Y Saith Weithred o Drugaredd
xxxii. Balchder.
xxxiii. Edifeiriwch
xxxiv. I Dduw a'r Byd.
xxxv. Cofio Angeu
xxxvi. Y Bedd.
xxxvii. Y Farn.
xxxviii. Englynion ar Wely Angau.


GEIRFA A NODIADAU.

Y DARLUNIAU.

SION CENT — Wyneb-ddarlun.
Oddiwrth y gwreiddiol yn Llys Llan Gain. Yn ddiameu darlun
o Sion Cent yw—y mae digonedd o brofion i symud pob amheuaeth.

ABER TRIDWR — Oddiwrth ddarlun Iolo Hopcyn James
Dywed traddodiad y ganwyd Sion Cent yn yr ystafell bellaf ar y chwith. Cedwid crochan bychan
yma hyd yn ddiweddar, ym mha un, dywedwyd, yr arferai ei fam ddarparu bwyd iddo, ac yntau
yn blentyn. Y mae y crochan yn awr yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

CYMRU ANWYL —Oddiwrth ddarlun gan G. Howell-Baker.

TWR OWEN GLYNDWR — Oddiwrth wawl-arlun.<ref>Ffotograff
Rhan o lys Llan Gain—y mae ystafell Sion Cent ar yr ail lawr.

GWLAD SION CENT. — Oddiwrth ddarlun gan G Howell-Baker.
Yn edrych ar Grosmont o Lan Gain. Nid oes ond rhyw filldir rhyngddynt.

GROSMONT. — Oddiwrth ddarlun gan G. Howell-Baker.
Dywed traddodiad y claddwyd Sion Cent yma.

YR UTGYRN OLAF. — Oddiwrth ddarlun gan G. Howell-Baker.

"Pan ganer trympau gynadl.
Peremtori yn codi dadl."


GWAITH SION CENT.

I.

DEWIS BETHAU SION CENT.

MYFYR encilgoed,
Trem serchog,
Wynepryd siriol,
Boddlondeb i'r byd a fo.

Cof am går a chyfaill,
Hoffi rhagor-gamp,
Blasu y bwyd a fo.

Ymddwyn syber,
Hunan hyder hybwyll,
Hunan ofnocrwydd,
Cyfanred ymgais,
Ymorheula pen mynydd,
Ymwerfela caead-lwyr,
Gwrthruthro rhuthr.

Teuluwr gwybod-bell,
Canmoliaeth cydwybod,
Caru a garo,
Maddeu a gasao,
A Duw yn maddeu i bawb.


II.

BRUD.

OCH Gymru fynych gamfraint!
Och wyr o'r dynged uwch haint!
Och! Faint fu'r wrsib[2] uwchfod
Yn nechreu claer dyddiau clod?
A heddyw y diweddir
Ar drai, heb na thai na thir?
Rhyfedd ynnof rhag gofid
Na'm lladd, meddyliaw o'm llid.
Ag eto enwog ytwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.

Penna nasiwn o gwmpas,
Erioed oeddem ni o râs.
Cyntaf arglwydd arwydd-wynt,
Fu o honom, heb gam gynt,
Siaffeth fab Noë, wr hoffir,
Fab Lameg oedd, deg i dir.
Am hynny lle'r ymhonwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.

Tair caer pennaf fedd Twrci,
Gynt heb gam a wnaethom ni,
Caer Droea, lle da lliw dydd,
A Chaer Rufain a'i chrefydd;
Ninnau fuom yno enyd,
Yn hwy na thair oes o'n hyd;
Gweinion ydym mewn gwiw-nwyf
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.


Daeth holl goeg-ddoeth ry-ddadl,
I Gaer Droea, gwyr drwadl;
Yno eu llas gan y llu
O ddwyblaid wedi ddyblu;
Deunaw canmil o filoedd,
Ag wyth canmil eiddil oedd.
Gwiwdeg, a chanmil gwedi,
A phedwar canmil, hil hy;
Deng mlynedd anghyfeddir,
A chwe mis bu'r sis hir.
Draws dadl egwan-drist ydwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.

Penna llwyth am eu gwythi,
Llwyth Dardan, meddan i ni;
O'r hwn y doe yr hen dôn,
Oreu Dduw a'r Iddewon;
O'r hwn y down ninnau'r rhawg
O dad i dad odidawg;
Sesar ein car di-areb
A wnaeth yr hyn ni wnaeth neb;
Aurglod ef a wnaeth arglwydd
Omnes terrae Romae rwydd;
Poen dolur pan feddyliwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.

Yr ynys hon oreu i ny-ni
'Roisai Crist o ras ag ynni;
Gyrrodd angel gwehelyth
At Frytus ab Sylfus syth,
Pan gysgodd Brytus esgud
Ar groen yr ewig oer gryd;
"Dos i'r eigion dwys rwygad,
A'th hil, a'th epil, a'th hâd."
Gwir o gweryl gŵr gwiwrwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.


Nid ŷm un fonedd heddyw
Ag Alan, hil gweision gwiw;
Nag un nasiwn, gwyddwn gur,
A Hengist na Hors hensur;
Nag un reolaeth draeth dri,
Myn Duw, a gwyr hoc mundi;
Na hil Bola oerfa oer-fost,
O For Tawch[3] a wna ferw tost;
Galon waeth-waeth y gwelwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.

Well-well, mae Cymru wylliaid,
Ddydd rag ei gilydd a gaid;
Gwelwyf waeth—waeth i'm galon,
Waeth—waeth, fil wych-waeth a fôn.
Nes—nes mae cerdd Daliesin
Wrawl ei ffawd ar ael ffin;
Mair o'r nef, nes-nes mae'r nôd,
Difai mae'r gwaith yn dyfod;
Gwae ddwyblaid Loegr, gwiw ddeublwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.

Un wedd im, Gymru anwyl,
A phum oes yn aros hwyl;
Yn uffern gynt o'n affaith
Limbo Patrum gwn y gwaith;
Disgwyl beunydd dydd di-cer,
Gweled goleued gwiw loer;
A chael yn rydd wlad i'th wr,
Draw y gwyr y daroganwr
Awr, pa awr, Gymru fawr, fu—
Disgwyl yr ym a dysgu—
Disgwyl ydd wyf y gwelwyf—
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.

III.

YMOFYN YR HEN WYR GYNT.

UN fodd yw'r byd, cyngyd cêl,
A phaentwr delwau â phwyntel
Yn paentiaw delwau lawer,
A llu o saint a lliw ser.
Fal hudol a'i fol hoewdew
Yn bwrw hud iangwr glud glew,
Dangos a wna da diddim
Dwys dal lle nad oes dim.
Felly'r byd hwn, gwn ganwaith,
Ond hud a lliw nid gwiw gwaith.
Mae'r budd oll, mawr bu dwyllwr?
Mae Addaf fu gyntaf gwr?
Mae Sesar a mae Farsil?
Mae feirdd Ewropia; mae fil?
Alecsander a dderyw,
Ector, Arthur, eglur yw.
Mae Gwenhwyfar gain hoewfedd,
Merch Gogran gawr, gwawr i gwedd?
Ar sidan ares ydyw,
A'r gwallt yn llawn perls aur gwiw.
Mae Tegfedd, ryfedd yr hawg,
Cu ferch Owain Cyfeiliawg?
Mae fun arall fain wryd
O Ffrainc oedd decaf i phryd?
Mae Herod greulon honnaid?
Mae Siarlymaen o'r blaen blaid?
Mae Owain, iôr archfain oedd,
A Risiart frenin yr oesoedd?
Mae'r haelion bobl mawr helynt?
Mae'r gwyr da fu i Gymru gynt?
Mae'r perchen tai, mae'r parchau,
Yn fab a welais yn fau?


Maent hwy a'u gwragedd heddyw
A'u muroedd gwych, mawredd gwiw?
Ni wyr cennad gredadwy
Na Herod gynt, i hynt hwy;
Ar undawns gwn i wrandaw,
I ninnau diau y daw.
Dyrys union dros annerch
Duc o Iorc, roi forc i ferch;
Anniweiriaf fu Ddafydd,
Selyf ddoeth salw fu'i ddydd.
Mae Catwn Ddoeth, mae Cytal
Mae'r saith celfyddyd mawr sâl?
Mae rôd iaith; mae rai doethion;
Mae saith dysg Fferyll; mae sôn
Er i callter medd gwerin,
A'i mawr gelfyddyd o'i min?
Er i dewredd, wyr diraid
A'u balchedd anrydedd raid,
Yn ddinam, igram ograff,
I'r pridd ydd aethant, wyr praff.
O'r pridd y daethon er praw,
I'r pridd yddawn i'n priddaw.

Afraid i ddyn fryd ar dda
A'i ryfig a'i heraufa,
A'i dolcog gorff o'i dalcen,
A'i bwys o bridd a'i bais brenn,
Ag wyth cant, meddant i mi,
O bryfaid yn i brofi.
Rôd daear ar hyd dwywaith,
Ond hyd a lliw nid gwiw gwaith.
Pan ddêl Crist, poen ddial cred,
Parth i gaer, porth agored,
Ar dda a drwg, ar ddôr drom,
Dduw-Sul, a farn yn ddi-siom;

Rhai'n crynu fal maeddu mab;
Ereill yn llawen arab;
Rhai a gaiff nefoedd ryw gyd,
Rhai i boen neu ryw benyd.


IV.

GOSTEG I YMOFYN AM YR HEN WYR GYNT.

OND rhyfedd wirionedd, ar union—olwg
Na welan i digon,
A gweled mwy argoelion,
Bywyd o frâd, Byd o'i fron.


Bradwrus yw'r byd, bradorion,
Y sy i gyd yn methu, yn ddi-gydmaethion,—
Rhyfeddach gennyf fi, rhyw foddion,
Yn bur o bydd o'r doethwyr, o ba dir y daethon.
Adda, wr cynta o'r canon,-ble ydd wyd?
Mae Noe, ail broffwyd, wr llwyd llon?

Mae Abraham, ben ffydd, o lyn Ebron?
Mae Moesen, ar hynt gerynt geirwon?
Mae Dafydd Brofiwyd, addefion-diwael,
Mae Siosua o'r Israel, hael a'i holion?

Mae y gwyr dethyl, gore o'r doethion
Priflirw a Swmsder, Prydyr a Samson?
Mae Selyf Ddoeth, fab Dafydd deg,
Mae fo Ddanareg, addfwyn wirion?

Mae Fferyll, wr rhyll, mae Rhiallon?
Mae Hector o Droia, daera o'r dewrion?
Mae Alecsander, a'i lân arferion,
A fu yn c'niweira naw ugain coron?


Mae Fulwas, Ownias, i fargenion-gwych?
Mae Sioswas, hir wych, mae Sieseron?
Mae Aeneas ddyrwas, a'i ddewrion-am wr,
Anfad gwerylwr; mae Herod greulon?

Mae hen ac ifanc, a hyn a gofion,
Ag o fawr ddeall, ple mae Caswallon?
Mae Siarlas, reolwas rhiolion-nawcad?
Mae i bawb i weled. Y mae Babilon?
Mae Arthur mwydic, maer y rhai dewrion;
Medrod a Gwalchmai, di-fai a fuon?
Mae Thomas cyrwas, coron-yr India:
Mae Sem o'r Asia, mwy swn a roeson?

Mae Gwenhwyfar, wyn lliw, a'r Macson?
Mae Eigr, ac Esyllt, a'r gair a gawson?
Mae Elen Luddiog, a'i llu marchogion,
A gaes reolaeth y groes a'r hoelion?
Mae Io oludog, mae'r cowethogion,
O bybyr ddoniau, mae pawb o'r dynion?
Pob man dan sêr, medd Sain Sierôn,
O ddyn a ddygwyd, ble mae'r meddygon?

Rhaid i wr gwrawl, megis i'r gwirion,
Er i greulondeb, fod dan ddiarebion.
Oddi barth yn mudo fel mudion o'r byd;
Yn rhoi o'i fywyd, a meirw a fuon;
A myned a orfu wyr mwynion felly,
A'i rhannu yn ddau lu, rhin ddialon,-
Rhai i'r uchelder, a'i glan arferon,
Ag ereill i'r dyfnedd, am i camweddon,
A fu yn anwadal, yn arfer anudon;
Heb edifeirwch, gwelwch argolion.
Drwy ochi, boeni, bu yma'n rhy hir,
Heb un a gerir o boenau geirwon;


Rhai yn ddrwg, i'r mwg gan gwyn gweigion,
A'r nifer dethol i'r nef y doethon;
A ninnau o'r goreu, gwirion ddyfodaeth,
O nwyf ddyfoliaeth, i nef y ddelon.


Y LLYFR.

LLAWER gwaith y darllenais
Llyfr mawr er llafur i'm ais,
Er gwybod ple mae'r gobaith,
Ag enwi gwyr, gwn y gwaith,—
Adda, Noe, Abram oeddynt,
A Moesen fu gymen gynt,
A Dafydd, teg fu'r dyfyn,
Broffwyd, frenin, walld-lwyd wyn.
Cymen fuon bôb enyd,
Cyn croes, dyna bumoes byd.
O darllain gwr bedair-llith
O hwn sy Lyfr byrgrwn brith,
Ef a wyl a fu o waith,
A thalm o bethau eilwaith,
A manegu oes Moesen,
A'r llif rhydd, a wna'r llyfr hen,
A fynnwyd i 'sgrifennu
A llaw dyn o'r lliw du.
Gwialen drwynwen a drig
Ar y naidr ddu grynedig—
Arwydd ar wyry ddi-fai
Y genid a ddigonai.
Awyr dduodd a boddi
Y bobl, medd y Baibl i mi.
O ddydd Adda i ddioddef
I boen oll, heb un i nef,—

Gwên Efa, ag un afal,
Gwae'r byd; hi a'r gwr a'r bâl;
O'i camau cyn oes cymwyll,
Hi droes y pumoes i'r pwll;
A wnelo gam ddegymawl
A i gerwyn dân ar gyrn diawl;
Lle y gwelas Pawl ddiawl ryw ddydd,
Oer o boen ag eiry beunydd;
A mil o eneidiau mân,
Ochi anferth a chwynfan;
A chythrel ar i chwethroed,
A bêr cam mwy na bar coed,
Yn dwyn a'i gorn hynny dal
Eneidau'r bobl anwadal;
A'i bwrw'n faith o'i barn fil,
Ar gigwen hagr i'w gwegil;
Rhai i'r pair glud a fwriodd,
A rhai i'r iâ rhy oer oedd;
Rhai'n rhydeg mewn rhôd rhydwym,
A rhai, mysg nadredd yn rhwym;
A rhai'n gruddfan rhag anwyd,
A rhai dan dawdd plwm mewn rhwyd;
Ag ereill wedi gyrru,
A bwyall diawl, i bwll du;
Ag enaid mewn coffr gwynias
A golwg rynn, heb gael grâs;
Yng nghrog pob gradd o naddun,
A bach am dafod pob un;
A braich yn dân ger i bronn,
Mewn nodau am anudon;
Ag wrth biler tân i gyd,
A gwynt garw o gant gwryd,
A chwithau, gwrandewch weithian
Ar lais yr Ysgrythyr lân,—
Gwae chwi diogi digael,
Glwthineb, godineb gwael,

Llid a balchedd, lled bolchwant,
Cenfigedd, chwerwedd, a chwant;
Na ddygwch mwy gam ddegwm,
Nag ewch er cewch i dir cwm;
Dewch i'r uchelffordd i'w chaffel.
O'r pwll lle mae'n fawr y pêl,
I weglyd y iâ oglas,
A'r llu brwnt, a'r lle heb râs.
Gochelwch chwi gilio i'ch ôl,
A marw mewn pechod marwol.
Dewch a'r llêf hyd y nefoedd,
Gweddiwch chwi, heddwch oedd,
Ar y mab serchog diogan,
A'n tynnawdd o'r tawdd a'r tân.
Fe ddwetbwyd mewn proffwydi,
Ystyriwch a choeliwch chwi,
O'n delir ni gwedi'r gwaith
Ar ol yn prynu'r eilwaith.


VI.

LLYFR ARALL.

DILYS gan anfedrus gau,
Taerus fawr, i anturiau.
Llyfr wyd heb roi llafar iawn,
Dalennog diwael uniawn.
Arwest gecr o bymthec-ryw,
A ro dy farn, o'r wyd fyw;
Neu dithau cryn eiriau cred,
A'i ffo rwng hen gist a ffared;
Drud wyd ym mhob direidi,
Darfu dy ddifiniti di.
Paid erof onid côf cwymp
Olcastr ti a gei'r eilcwymp.

Dig yw'r cedyrn clochwyrn clud,
Dig iawn nas diogenid.
Dig hefyd, wiw ffydd, i ffordd
Yw'r esgyb, gwael yw'r osgordd.
Dig yw'r gwyr llên a'r myneich,
Dygn fyth dwyn dogn o faich.
Dig i'n ryw odrig rydrist,
Yw'r brodyr crefyddwyr Crist,
Di-wann gannoedd dan gynnull.
Dig yw'r offeiriaid y'n dull.
Truth noeth, traethu a wnaethost,
Na chânt hwy gan achwyn tost.
Groen du ffol, graen yw dy ffed,
Gaeryd nef yn agored.
Nawdd y goruchel Geli;
Ni thraethais, ni soniais i;
Na ddelynt yn un ddolef,
A'i llu o nerth oll i nef.
Dywedaf chwedl, gwiraf chwyrn,
O'm ceudawd, am y cedyrn;
Oni chant nef, dref dradoeth,
O fod Duw, wr ufuud doeth,
Meddir, o bydd cywir cant,
I minnau hwy a'i mynnant.
Eirau glew ar a glywais
Orddwy drwy ar Dduw o drais.
Hoew-dda rwysg, heddyw'r esgob,
A'i sidan yn i gyfan gob,
Gwin a fynn, nid gwan i fâr,
Awch a geidw, a chig adar;
Llefain na bai allufawr
A llyfau'n dameidiau mawr.
Ni wydd o Gwyl i Arglwyddes,
F'enaid têg, aur fannau tês.
Anwyl oedd, a wnel ynddi,
Yn i lle'i hunai hi.

Y myneich aml i mwnai,
Muriau teg, mawr yw y tai.
Braisgon ynt ar eu brasgig,
Braisgon dinwygyddion dig.
Ba hawl drom, ba hwyl dramwy,
Na ddeallynt i hynt hwy?
Twyn unfodd, tinau unfaint,
Tyrched yn synned ar saint.
A'r brodyr, pregethwyr gynt,
A oeddyn heb dda iddynt,
Ar i traed eiriau trydyn
Wrth bwys heb orffwys o'i ffyn,
Y maent hwy hoew-bwy hybeirch.
Yn dri llu yn meddu meirch;
Nid amlach cyfeddachwyr
Gwleddau, na gwarrau y gwyг;
Cryfion ynt yn i crefydd,
Cryfion ddiffodyddion ffydd;
Y 'ffeiriaid, yn amlaid ni,
Ymrwntan am i rhenti.
Pob un, heb na llun na lles,—
Ofer iawn a'i farones;
"Ni bia'r gwragedd," meddant,
Hwyntau bia'r plwyfau a'r plant;"
Pob plwyf heb berchen Duw fyw,
A'u plant yn bwyta da Duw.
"I weddi nid oedd wiwdda
I wlad Nêf," medd ef, "a'i da."
Minnau o'm dysg a'm anian,
A thrwy liw'r Ysgrythyr Lan,
Mi a gaf, gwiraf gwarant,
O'i gwrs ef, goreu sant,
Na lewas gwiwras gwerin,
Ddewi ar i weddi win;
Na medd glas gloew eglwys-lew;
Na rhost mawr i sawr, na sew;

Na gwisgo crys gwiw ysgawn,
Na ffais ond yr un bais rawn;
Na llanw ynddi, salw i sain,
Y pot; na rhuthro putain.
Cyd bod ynnof, cof cawdnwyf,
A medr oll, mae awdur wyf.
Nid un nerth yn ymdynnu,
Unig ag eglwysig lu,
Gwn gyfraith, auriaith arab,
Y Tad, eirau mad, a'r Mab;
Eu nifer hwy, nef ar hynt,
Am i gael ymogelynt.
Wedi'r cig rhost, fost feithrin,
A'r lliain gwyn-fain a'r gwin,
A'r gwleddau gwarrau gwiwreg,
A'r gwragedd, tud aurwedd têg,—
Astud wyf ystad ofwy,
Ystyru twyll, ystyrient hwy,
Nad o wleddau gau gymen
Ydd eir i nef, ddioer nen.


VII.

Y CYBYDD.

LLYMA'R hawl, lle mae rhaid,
Llef ar Dduw, llyfr a ddywaid:
Gwyn i fyd, ennyd, annyn,
A fo hael o'i dda i hun;
Rhyw bechawd feddyl-gnawd fydd,
Gwag obaith a gwae gybydd;
Gwys ag awydd gwas gau-dduw,
A gar da, mwy na gair Duw.
Cyffelyb o fawr-dyb a fydd
Tomen geuben i gybydd;
Ni ellir lle'r enwir hi,
Wyth-ryw lwgr eithr halogi;

O bwrier lle gwrth gwaith,
Y dom at y naid ymaith;
I ogylch amlwg eigion,
A'i lliw hi a wellha hon.
Tebyg yw'r cybydd, bydd ben,
A fo hwyr i fyharen,
Fe orfydd Gwiailydd Geli,
I rwymo er cneifo'r cnu;
Ag felly o dery y dydd,
Am y cwbl mae'r cybydd.
Tâl o'i unfodd fileinfa,
O câr ddyn, y ceir i dda;
Braw yw'r hael iawn afaelion,
Berw ffyniant y brif ffynnon;
Llawn a hawdd, llyn i roddi,
Lli a'r hyf, ac nid llai hi.
I dwrch cyfflyber y dyn,
A'i warding angor deng-nyn;
Pob lluniaeth bai pell hynny,
A fyn y twrch o fewn y ty;
Ag ni ddwg amlwg ymladd,
Unos o lês, nes i ladd;
Felly ydd a fal lladd iddew,
Y twrch am i foly tew;
Pan ddarffo heno i hwn,
Gasglu ato, gwas glwtwn,
Marw fydd ef mawi i dda,
Mur ing ag nid Mair yna;
I stór hael a gaiff drafael
A'i goffor hen a gaiff yr hael;
Nid cwbl, ni ad y cybydd,
Rhannu dim hyd yr un dydd;
Hyd yr awr hy, daer orhoen,
Y dêl i'r pwll dalar poen:
Pan ddel yno rho rhygraff
I'r gwely pridd arogl praff;

Odid y medd, dan do main,
O'i law ond un lenlliain;
Oer dwrw ar i derfyn,
Ond a roes nid oes i'r dyn;
Rhoed Grist yn ddidrist her,
I'r llawrwydd aur lle rhodder,
Ar gongl fethiant ag angen
A roir y rhawg i'r angor hen.


VIII.

DEGWM.

YN DANGOS FOD DEGWM YN DEILWNG I'W DALU.

DYNION a roes Duw ennyd,
Ar bwynt er ennill da'r byd;
Yn ddwy radd dan Dduw yr ym,
Oll yr oedd felly 'r yddym,—
Gradd dda garedig ddi-wg,
A gradd ffol ddifeiriol ddrwg;
A gradd wiw-Grist rywiog nef,
A'i llin a wna i lle'n y nef:
O'r hon a daeth yr henwg,
O wraidd y dras yr oedd drwg;
A saith brif bechod y sydd,
Gwaelach bob un na'i gilydd;
Tyfiad bob drwg ynt hefyd,
Tadau holl bechodau byd.
Anhawdd yw cael heb wenwyn
Un yn dda fo yn i ddwyn;
Rhai mawr bob awr yn bod,
Rhai bychain am ryw bechod;
A chwedel hen bechodau,
O frad a gawsom yn frau;
Nid aeth am bechod un dyn
Ran Adda, er hynny oeddyn;

Anfoddog yn na fyddwn,
O chaed twyll y pechod hwn;
Dawn oll roddo Duw i ni,
A gras am hyn i 'mgroesi,
I ymwrthod pechodau
Y byd trwy fawnfyd yn frau;
A cheisiwn nef loew-dref lân,
Yn holl o hynny allan;
Rhown bawb rhag talu'r iawn bwyth,
A dalodd yr hen dylwyth;
Os rhown megis y rhannodd
Duw'n yn mysg, da iawn yn modd.

Rhan oreu o'r dechreuad,
A wnaeth Duw, di-weniaith Dad,
Dwyn o bob da yn y byd,
Naw rhan y corff ni weryd;
Y degfed rhan, cyfan, caid
A rannodd Duw i'r enaid;
I ddyn fyth o'i iawn dda fo,
Rhown i hwn y rhan honno;
Cam oedd orfod yn cymell
I roi rhan a'i gwnai'n gan gwell;
Rhown ddegwm, rhan ddiogel,
Rhown i Dduw y rhan a ddêl.
Siwr yn ol onis rhown ni,
O syr! fe wna yn sorri;
Mae'n deg in ddegymu'n dda,
A dyfod i'n cof naid Efa;
Buan y daeth i boen dål,
O'r nef am yr un afal;
Aeth hon a'i holl dylwyth hi
I ganol y drygioni;
Buon yn dwyn i bywyd,
Yn hir boen, gwae nhwy o'r byd!

Gwnaeth drwy wraig yr annoeth dro,.
I Grist wyn a'i groes dano,
Dywallt yn dost, ar osteg,
I brynu dyn, waed bron deg.
Ni phrynodd un hoff frenin,
Ar groes ni fu'r loes mor flin.
Rhai nawmis nis rhôn yma,
Offrwm na degwm o'u da;
Maent eto'n fforffetio'r ffydd,
Rhan nefol, heb roi'n ufudd;
Gan Dduw hwy a gan' ddial,
A llwyr tost fydd lle mae'r tal.
Ni chan' nef i gartrefu,
Bro y saint lle mae'r fraint fry,
Na bywyd iawn, na da byd,
Tra fo'n byw terfyn bywyd,
Y sydd, a fydd, ac a fu,
Dda gwamal heb ddegymu;
Dyna dda'n dwyn dyn i ddiawl,
A drwg iddo'n dragwyddawl.
I Dduw a dal yn ddiwyd
Ddegwm ac offrwm i gyd,
Ion a dâl iddynt hwy,
O gan modd yn ddeugeinmwy.
Degwm y rhai diogan,
Yna y rhoed o'r naw rhan,
Duw a lwydda dâl iddyn,
Fal yr el yn fil o'r un,
Yn llwyddiant i'w plant a'u plaid,
Yn filoedd o 'nifeiliaid;
A Duw a wna'u da well-well,
A'u dwyn i nef, dyna well;
Rhan Dduw'r neb nis rhy'n ddiwyd,
A i'r boen pan el o'r byd;
Rhown ddegwm, rhan ddiogel,
A gwn, fe gaiff nef a'i gwnel.

IX.

Y BEIRDD.

CYMRY hy, cam y rheol,
Cymry a'u ffug Cymraeg ffol,
Pam hesgyd gwir, hyd gair hardd,
Profi hyn a wnel prifardd.
Dau ryw awen, dioer ewybr,
A fu'n y byd loew-bryd lwybr,-
Awen gan Grist ddidrist ddadl,
O iawn dro awen drwyadl,
Hon a gafas yn rasawl
Proffwydi a meistri mawl,
Englyn saint angylion Seth,
Aur dyfiad groew fydr difeth;
Awen arall, nid call cant
Ar gelwydd fydr argoeliant,
Yr hon a gafas gair hy,
Camrwysg prydyddion Cymru.

Pob prydydd a newydd nôd,
Perigl a'i weniaith parod,
Medru dwy art, nid mydr da,
'Mogel araeth am glera;
Os moliant yn oes milwr,
Er gwn, oes, a gân i wr.

Crefft annog ydyw gogan,
Celwydd ar gywydd a gân,
Yn haeru bod gwin iraidd,
A medd, lle hyfer y maidd;
Hefyd haearn, gair hoew-fainc,
Yn ffrom bwrw cestyll yn Ffrainc;
Rolant ail Arthur rylew,
Ym mrwydr ymladd, lladd fal llew;

Y cweryl, och, nas gwyl gwyr
Ei ystod drwg a'i ystyr.
Canmol dyn tlawd, wawd wadu,.
Yn fwy na duw anfwyn du,
Mwy nag iarll mynig aurllawr,
Ior mwy nag amherawdr mawr;
A'r gwr mul, a gâr mawlair,
A'i crêd fal llw ar y crair.
O Dduw, p'un ffolaf o ddau,
Y gŵr, er prydydd gorau?
Os prydu ferch yn serchog,
Neu wraig cu, myn y wir grog,
Ni bu Fair, pen diwairdon,
Na haul, mor ganniad a hon.
Os cablu heb allu bod,
Arglwydd neu frenin eurglod,
Costog yw cestog ewin,
Chwannog a chrestog a chrin,
Neu ba ddiawl ni bu ddolef,
Neu gi a fai waeth nag ef?
Awen yw hon wan i hawl,
Offwrn natur uffernawl.

Ysbryd da naws berw y taid,
Nawdd Duw, celwydd ni ddywaid;:
Na thwyll weniaith na saethug,
Na ffalst gerdd gelwydd, na ffug..
Pob celwydd yn nydd a nod
Bychan, mae ynddo bechod;
A dyst ar hyn derfyn da,
Ffwl ar lyfr Ffolicsena,
Neu lyfr Erculys, brys bro,
Neu Ďaitys, ond mynd ato;
Iaith y gwyr, gwaith agored,
A'r celwydd, grefftydd digrêd

A ddengys a bys, bai aeth,
Aed iawn i hangrediniaeth;
Bryd arfain barod arfoll,
Brydyddion Iddewon oll.
Od oes prydydd wydd ddiwisg,
O Gymro hun ddi-gamrwysg
O gwyr ateb gair ato
O'i fin atebed y fo.


X.

YR OEDRAN.

TRI oedran hoewlan helynt,
Tri oed a fu gyfoed gynt,
Tri oed pawl gwern a fernir,
Ar gi da mewn argoed ir;
A thair oes ci, iaith hoew-ryw,
Ar farch dihafarch, da yw;
Tri oed march dihafarch droed
Ar wr, pond bychan wr-oed;
Tri oed y gŵr, herwr hoew-rym,
Ar yr hydd, llamhidydd llym;
Tri oed carw, hwyr-farw hirfain,
Ar fwyalch goed, aurfalch gain;
Tair oes y fwyalch falch-geg
Ar y ddâr uwch daear deg;
Pob un o hyn, rhemyn rhod,
A dderfydd yn ddiarfod.
Ni wyr neb wrthwynebu,
Mor ing y daw'r angeu du;
Ni âd angeu nod angof
Na gwyllt na diwyllt na dôf;
Ceisiwn gan yn Ion gwiw-syth,
Y gŵr fry a bery byth

Yn y nef yn bendefig,
Heb dranc, heb orffen, a drig;
Lle mae pob prif digrifwch,
A phlâs yn benadur fflwch;
Dydd heb nos, cyfnos canu,
Heb fŵg, heb dywyllwg du;
Iechyd heb orfod ochain,
O glwyf cyn iached a glain;
Pawb yn ddengmlwydd, arwydd Ior,
Ar ugain, heb ddim rhagor.
Gochel uffern, gethern gaeth,
A'i holwyr drwg i halaeth,
Lle mae parod cyfnod cas,
Bachau cigweiniau gwynias,
A'r rhew er hyn cyn cannoed,
A'r iâ ni thoddes erioed;
A phawb yn poeni o'r ffon,
Eneidau am anudon;
Nid oheni gwegi gwaith,
Mair a'i gwybydd, y mae'r gobaith;
Nid oheni, tro y trymryd,
I ddyn fu dda iawn i fyd;
Ne ffario cyn offeren,
Sul a gwyl a seli gwen.
Awn bob dau a goleuad,
I eglwys Duw, mewn glwys sdâd;
Os hynny wnair, gair gwrawl,
Ar hynt, nyni gawn yr hawl;
A thrugaredd a wedda,
Ag yn y bedd, diwedd da.

Cymru Anwyl


XI.

Y SIAMPL.

ARGLWYDD, creawdr arglwyddi,
Gwir un-Duw nef, gwrando ni.
Arglwydd yn gorwydd gariad,
Mwy obaith, un Mab a Thad,
Maddeu in beiau yn bywyd,
Er bar, cyn elom o'r byd.
Na choffa, Duw byw, o'r bedd,
Yn un awr yn anwiredd;
Ond rho i'n mysg, dysg a dawn,
Ffraethlef a chariad ffrwythlawn;
A ffydd Abram ddinam ddwys,
Croew-deg a'r modd y credwys;
A gobaith da waith dy was,
Hoen lewych, hen Elias;
A chyfiawnder, Ner, in wyd,
Praffwaith Dafydd y proffwyd;
Ag ufudd-dawd parawd pur
lo dduwiol yn i ddolur;
A duwioldeb per parawd
Moesen frai awen, a'i frawd;
Rhanna rodd, rho i ni ras,
Duw byw, fel i Dobias;
A doethineb croew-deb cryf,
Brins hael, y brenin Selyf;
Goreu dim i'th garu di,
Daith ddyfnaf, Duw, a'th ofni;
Ysbryd gwirion, gwâr, llonydd,
O'th rad gwir, Dduw, byw y bydd;
Cariad perffaith a weithia
Rinweddau a doniau da;
Swydd rhyngom sydd i rhengi,
Bai ddiwed hyn bodd i ti;

Cariad a gaiff i le cywraint
Yn nefoedd fry'n ufydd fraint;
Balchder a gaiff cymeriad,
Yn llys diawl yn lle i 'stad;
Bid fwy na'n rhod bechodau,
Dy drugaredd mawredd mau;
I'th lid na farna o'th lys,
I ryw boen y rhai beius;
Ond o'th ras, un-Duw a thri,
I luniaeth dy oleuni.
Trugarha, trwy garu hedd,
Yn wâr, ar yn anwiredd.
Goleua'n ffydd, galon ffawd,
Trwy iawnder y tri-undawd;
Felly cawn mewn dawn a dull,
Dewis y ffordd ddi-dywyll.
O Iesu, brenin Hu hael,
Ras-rodd o lwyth yr Israel,
Rho im o'th law rhannu o'th wledd,
Yr un Duw, ar y diwedd.

XII.

Y CYFAILLT.

LLYMA'R twrf, lle mae'r terfyn,
Llyma waeth-waeth difaeth dyn;
Waeth-waeth fydd y byd weithan,
Hyd dydd brawd medd tafawd tân.
Nid cofawdr neb, nid cyfun.
Nid oes iawn gyfaillt ond un.

Natur drwg mewn difwg du,
I hunain a wna hynny;
Un natur yw lle naitiau,
A rhew gyfeillach i rai;

Llwydrew ni phery lledrad
Y min gwlyb, deirnos mewn gwlad;
Cyfeillach eglurach glos
Dynion ni phery dwy-nos,
O duellir lles dwyllun,
Nid oes iawn gyfaillt ond un.

Gwir fu gynt, gwae erfai går,
I Dduw felldigo y ddaear;
O'r ddaear goeg ddiwair gam
I henyw pawb o honam,
A'i natur, lle henwir hi,
A sydd ynnom yn soddi;
Gormodd, medd rhai, myn Garmon,
Yn neutu rhai yw natur hon.
Ni wnaf i, ormodd wrafun,
Nid oes iawn gyfaillt ond un.

Ni ellir mwy ymddiried
Na llw ar grair na llwyr gred,
Nag estron 'nawr nac ystryw,
Na da, na byd, na dyn byw;
Ni ddichon brawd, gŵr tlawd-gall,
Na'r llaw ymddiried i'r llall;
Er pwyth byd, er peth bydawl,
Er da o dda a'r dyn i ddiawl,
Nis gomedd naws esgymun,
Nid oes iawn gyfaillt ond un.

Profais i megis prifardd,
Pawb o'r byd, wr hyfryd hardd.
Profais yn rhwydd arglwyddi
Tlawd, cyfoethog, rhywiog rhi.
"Nid cymwys gwyr eglwysig,"
Medd Duw i hunan, mewn dig.
Merched, gwragedd bonedd byd,
Meibion, plant ieuanc mebyd,

Nid cywir gradd o naddun,
Nid oes iawn gyfaillt ond un.

Er neb, ni thorres Iesu
I lân gyfeillach â'i lu.
Pwy'r glew a gymer pur glod.
Angeu dros gyfaillt yng-nghod?
Pwy erbynawdd pur bennaeth?
Pwy'r ddau a wnai,-un a'i gwnaeth.
Ni thry wyneb er nebun,
Nid oes iawn gyfaillt ond un.

Rhai a ry serch ar ferched,
Ereill ar gyfaill aur ged;
Rhai ar aur, rhai ar arian,
Rhai ar olud, fy myd mân.
Minnau o'm serch a'm anwyl,
O'm cardawd hyd dyddbrawd hwyl;
A'm henaid âf i'm hunan,
A rôf i'm cyfaillt o ran.
Pan ddel cythreuliaid plaidawr,
A'u llef i gyd hyd y llawr,
Pwy a'm ceidw y'm pum cadair?
Pwy rhag fy myned i'r pair?
Duw o'm cof sy dda i ofyn,
Nid oes iawn gyfaillt ond un.

XIII.

Y DEUDDEG APOSTOL.

PRYDU a wna, mwya mawl,
I Beder wiw wybodawl;
Porther cyn yddyn addef,
Pêr ar nifer y nef.

Ail yw Ifan, lân lonydd,
Ebostol nid ffol i ffydd;
Llun eryr mewn llen arab,
Llewych crair, nai Mair yw'r mab.

Trydydd ebostol tradoeth
Yw Andreas, gyweithas goeth;
Diodde a wnaeth Duw iddyn,
Da a fu i gof, difai gun,
Dal eurliw mewn dolur-loes
Yw aur grair ar yr wir groes.

Y pedwerydd, pid warant,
Ebostol, sy ddwyfol sant,—
I beri nef yn birawd,
Bartholomeus, weddus wawd,
Am gredu yn wir drwy hirboen
I Grist, fo dynnwyd i groen:
Ar boen a droes loes loew-syth,
Yn llawenydd beunydd byth.

Pena a gwiria gwarant,
Pumed, chweched, seithfed sant,
Phylip prudd, da fudd yw fo,
Dega wr, a dau Iago.
Pan gyfflybwy fwyfwy fawl,
Wythfed, a nawfed nefawl,
Sain Simwnd, hil Edmwnd hoew,
Sain Sudwaew o wchlyd wych loew,
Adwen dau gefnder ydyn
I wâr Dduw, ag i wir ddyn.

Degfed Thomas hoew urddas hir,
A'r India yw i randir;
Pan aeth Mair ufuddair f'addef
Gyda i nifer Ner i nef.

XIV.

Y GROG YM MERTHYR.

(CYWYDD Y DIODDEFAINT).

Y GROG hualog hoelion,
Gwryd fraen agored fron,
Merthyr, benadur ydwyd,
Prynwr a noddwr yr wyd;
Prynaist o uffern werin,
Ryddhau yn eneidau in.
Duw Gwener,[4] drwy bryder brad,
Ar y pren mawr fu'r pryniad;
Nid ystyr myrdd dostur maint,
Duw Ddofydd, dy ddioddefaint;
Pan y'th alwyd i'th holi,
I'th rym tost y'th rwymwyd ti,
Wrth biler, fy aur-Nêr wyd,
Waith ysgars, y'th ysgwrswyd;
A chwedy'n llym, drwy rym draw,
Duw, er amarch, dy rwymaw,
Dy roi i eistau yn dristawr
Ar y garn, gwedy'r farn fawr.
Gwisgwyd y'th iad, ddeiliadaeth,
Ddrain llymon yn goron gaeth;
A'th yrru gyda'th arwain
Ar y groes, mur grisiau main;
Cytuno dy hoelio'n hawdd,
Ar un pren, Un a'n prynnawdd;
Yno dy ladd, yn Duw lwyd,
A gwaew'r ffon y gorffennwyd;

Gollwng dy waed i golli
Yn ffrydiys drwy dy 'stlys di;
Buost yn oerdost, fy Nhad,
Grist dynawl, a'r groes danad,
Deirawr uwchlaw daearydd,
Yn un yn rhoi minnau'n rhydd.
Ag yno, cyn digoni,
I'r bedd y'th orwedd a thi;
Yno y buost mewn tostur
A rhai i'th gadw ar hur,
Deugain awr, yn deg ennyd,
Dan y bedd daioni byd;
A chwedy hyn, Duw gwyn gŵyl,
Gollaist pan fynnaist, f'anwyl,
Codi oddiwrth y cadwyr
O'r bedd, a gorwedd o'r gwyr;
A dwyn pumoes o oesau
O'i ffwrn gaeth, o uffern gau,
I wlad nef a'u cartrefydd,
O'u tâl, y deugainfed dydd.
Oddyno trwy ddaioni,
Grist, dy nawdd yn gyrraist ni;
Dyfod y'th lun dy hunan,
Mab y wiryf Fair, loew-grair lân,
Yn barod gwedi'n buraw,
Yn brudd i'r dref newydd draw;
Yno ni thrigyd unawr,
Gwrdd yw'r môdd, y gwir-Dduw mawr,
Y daethost, mawr fost a fu.
Rhaid oedd y'th anrydeddu;
A'th wrthau lle ni'th werthir,
Duw lwys, i Dref Eglwys dir.
Yno'n Tad, ceidwad cadarn,
Tuedda fod hyd dydd barn,
Rag pob creulon ddrygioni,
Dy aberth yn nerth i ni,

Er cur dy holl archollion,
Er d'oer frath dan dy ir fron,
Er toriad yn gwarteru,
Er gwaewon dy galon gu,
Er cof dioddefaint, er cur,
Er ffagl waed dy gorff eglur,
Er dy-ceri dy irwaed,
Er ffaglau gwelyau gwaed,
N'ad i'r cythrel yn gelyn,
Os daw i demtiaw y dyn.
Dyro, Crist, i bob Cristiawn,
Dy rás, iaith urddas, a'th ddawn;
A nef yn llês i'r bresen
A mawr drugaredd.Amen.

XV.

DIODDEFAINT YR IESU.

LLYMA fyd cyd cadarn,
A diwedd byd yw dydd barn.
Rhaid i bawb, cyn rhodio bedd,
Goelio i Dduw gael 'i ddiwedd;
A galw ar Grist yn ddistaw
Am râs a ffydd, ddydd a ddaw;
A galw eilwaith rhag gelyn,
A chredu Dduw Iesu wyn;
Credu'r Tad yn anad neb,
Pae'n ddoeth, un pen ddoethineb;
Goreu hwyl geiriau helyth,
Credu'r gŵr fry bery byth.
Ni phery dyn, offer dig,
Uwch adwy ond ychydig;
Darfod yr wyf ar derfyn,
Gorwedd yw diwedd pob dyn;
Ddoe'n wan, heddyw'n wannach,
Rhyw dwyll, neu hud, yw'r byd bach;

Yfory mewn oferedd,
A thrennydd y bydd 'n y bedd;
A nawcant, meddant i mi,
O bryfaid yn i brofi.
Yr enaid ni wyr yna,
Ba du ar ol byd yr â;
Ai i'r purdan difan dall,
Ai bennawr i boen arall.

Nid oes nerth ag a berthyn,
Onid Duw i enaid dyn;
Iesu, wrth gyfraith Moesen,
Awr bryd, a'n prynawdd ar bren;
Godde' 'naeth, y gwiw-Dduw Ner,
Gwanu'i gorff, dduw Gwener;
I brynu dyn a bron donn,
Gwedi cael gwaed o'i galon.
Ni ddiodde dyn er Duw,
Nid modd y dioddefodd Duw,
Hoeliaw 'i ddwylaw ryw ddydd,
Hoeliaw draed ar hoel drydydd;
Coronwyd mewn cur yno,
Boeni o'r drain a'i benn ar dro:
Dwy noswaith, bu Duw'n Iesu,
Yn y bedd addwyn y bu;
A'r trydydd yn wr tradoeth
O garchar daear y doeth;
Ag yno'r aeth, bennaeth barn
Barth offys, i borth uffern,
Ag a dynnodd, naw-rodd Ner,
I nefoedd yr holl nifer;
Tynnodd Addaf a Dafydd,
A Moesen a phen y ffydd;
Tynnodd Abram lan a'i lu,
A Noe hen gyn no hynny.

Pwy yn ôl a ddug dolur,
Er tynnu pawb o'r tân pur,
Os diraid haint ystrydyn,
Ond Iesu Dâd? Nid oes dyn
Ag i Dduw y gweddiaf
A'i fron yn donn, Frenin Dâf.

XVI.

MAIR.

Y FERCH wen o fraich Anna,
A garawdd Duw i gwraidd da,
Wyd ti, o lwyth Lefi lân,
O lwyth Siwda, láth sidan.
Os Iesu yn oes oesoedd,
Er ryw ddydd ryfedd oedd,
Balch a llawen yw gennym,
Dy ddychlyn o'r gwreiddyn grym.
Gwinwydden, gwn i haddef,
Gwialen yw a'n geilw i nef.
Blodeuaist, egin gwyn gwyn,
Abl o Duw yw'r blodeuyn;
Duw sydd Dâd yn y gadair,
Duw sydd Fab y dewis Fair;
Duw sydd ysbryd cyngyd call,
Ag un Duw gwn i deall.
Duw'n gwbl, nid iawn i gablu,
A'th gennad, Fair, i'th gnawd fu.
Mae yng nghenol ei dduwoliaeth,
Mae yn yr un man yr aeth.
Dedwydd fuost, ni'm didawr,
Gael Duw yn fab a'i glod yn fawr.
Dawnus gan fod, a dinam,
Deg lån Fair, dy gael yn fam.
Rhagoraist, synhwyraist sôd,
Fair wendeg, dy forwyndod,

Medd y rhai a'th broffwydodd,
Morwyn a mam yn yr un modd.
Ni châd ar holl lwyth Adam,
O gyfrif oll, gyfryw fam;
O buost, er bost i'r byd,
Feichiog heb ddim afiechyd,
Cedwaist, mawr egluraist glod,
Fair wendeg, dy forwyndod.
Dy Fab a sy'n yr aberth,
Yn fara a gwin, yn fawr gwerth;
A'r gweithredoedd pan oeddynt.
Y byd oll ar gyfrgoll gynt,
I gorff a roes ar groes gref,
Dduw addwyn, i ddioddef.
Dug oer boen, deg awr y bu
Ar un pren er yn prynnu.
O dywyllwg a dellni
Yr aeth ef i'r nef a ni.
Yn ol holl gystudd fy Ner,
A'i ddigoniant dduw Gwener,
Gorwedd mewn caledfyd cul,
A ddewisaist hyd dduw-Sul;
Ag yno cyn tywyn' tes,
Cof ydyw, y cyfodes.
Ef a roddes yr lesu,
Ennyd yn y byd i ni.
Fel eryr o filwriaeth,
Yno fry i'r nef yr aeth.
Oddyno e ddaw unwaith,
Ddydd-gwyl i ddiweddu'r gwaith.
Gwyllt i'r farn gadarn a gwâr,
Lle dawant holl lu daear,
Y ddianed o ddynion,
A aned oll yno i don,
Pan rhoir y farn gadarn gaeth
Ar ddynion, awr ddiweniaeth.

Nef a llawr pob swynfawr sant,
O'i gerwineb a grynant;
Gwn na chair trawsair trasyth,
Yr ail farn ar i ol fyth,
Am hyn da yw y'm honni.
Dewin wyf, da yw i ni,
Dy eiriol, mam Duw arab,
Dy eiriau, Mair, a dry'r Mab.
In' gael unwaith yn glennig,
I'n rhoddi'n rhydd rhag dydd dig,
A maddeu'r ffol fabolaeth,
A dwyn i nef y dyn a wnaeth,


XVII.

I DDUW A MAIR.

MEDDYLIAW am addoli
Duw a'i fam ydd wyf fi.
Madws im amodau sawl
Beidio a maswedd bydawl;
Bum yn dwyn heb amau
Baich adwyth o bechodau,
Balchder yn mysg niferoedd
Bydra gwaith, bywyd drwg oedd.
Gyda balchder f'arfer fu,
Gwag weniaith a goganu;
Cenfigen a fu'n llenwi,
Anghywir ffawd, fy nghorff i;
A llid eilwaith lle delai,
Anedwydd lwydd, nid oedd lai;
Llesgedd hyd fedd hoew wawd fu'm,
A diogi mi a'i dygym;
Chwennych o ddyn chwaen oedd waeth,
A boddi mewn cybyddiaeth;
Glothineb, godineb dyn,
Oedd eilwaith im ddau elyn;

Tri gelyn i ddyn a ddaw,
I roi i dull ar i dwylaw,
Yr anyspryd, y byd bás,
A'r cnawd swyddog, cnwd Suddas;
Gwae dyn, fyth gwyddwn i fau,
Drythyll i lywodraethau;
I fyd cyn myned i'w fedd,
Yn ddof erbyn i ddiwedd.
Er cospi drygioni drud,
A phoenau i gorff enyd;
Addef fy hun 'ddwy fy haint,
I Dduw archa' faddeuaint.
Pob afles a gyffesaf,
Profi, mynegi a wnaf;
F'annoeth rwyf rhag ofn a thranc,
Fy mywyd tra fum ifanc:
Cam gerdded bedw a rhedyn,
A choed glas yn iechyd glyn;
Cam glywed peth, a dywedyd,
Campau serch, cwmpas a hyd:
Cam rhyfyg a chenfigen,
Cam edrych am ddyn wych wen;
Cam deimlo cymod amlwg,
Ceisio da cyfar a'i dwg;
Canmol heb reol, heb ras,
Pryd, a thorri priodas;
Trythyllwg a ddwg i ddyn
Ddialedd o'i hir ddilyn,
Oni wna iawn o newydd,
I Dduw cyn dyfod i ddydd;
Na wylied neb o waelod naint
Wedi farw o edifeiriaint,
Wylaf, galwaf ar Geli,
A Mair wen, cyn fy marw i,
I gael lle golau llawen,
Wrth raid i'm enaid.Amen.

XVIII.

IESU.

Y MAE bai ar bywyd
Bawb o hudolion byd;
A raid i ddyn roi hyder ar dda,
Marwol aneddfol noddfa?
Aml y sydd, a melus son,
Marwol saith bechod meirwon.
Balchder yw yn harfer ni,
Cybyddi, digio, a diogi;
Cenfigen bresen heb radd,
Godineb mewn gwaed anadd;
Gloddineb a glwth enau,
Llid ar ddyn, lleidr yw'r ddau;
Nid trwm fâr, ag nid trwm fod,
Nid baich, onid o bechod;
Er hyn, i'n gwneuthur yn rhydd
A ddioddefai Dduw Ddofydd,
Mawr gur a gafas, mawr gwyn,
Mawr fâr i un mab Mair Forwyn;.
A'i boen ar i wyneb y bu,
Ar un pren er yn prynnu.
I nef yr aeth e'n ufydd,
Y Tad, y deugeinfed dydd,
Yn Dad, yn Fab, bâb y byd,—
Yn oesbraff, yn Lân Ysbryd.
Duw'n cyfoeth, daw a'n cyfyd
Y dydd y bo diwedd byd,
Y dydd briw a fydd dydd brawd,.
Dydd trallu, diwedd trallawd;
A fu o Adda a fo,
A fo o ddyn a fydd yno.
Pum archoll hyn oll i ni,
Pum aelod, y pum weli,

Yn rhoi yn wych i'n rhan oedd,
Iawn Siesws yn oes oesoedd.
Byd aneiri bod yn wrol,
Byd y nef fo'n bywyd yn ol;
Er i loes dros bumoes byd,
Er i lun ar i elenyd,
Er i len ar i oleini,
Er i wnaeth Duw ero ni,
Er i wyneb ar Wener,
Er i boen fawr ar y bêr,
Er yn gwadd ar yn gweddi,
Y nef a grewyd i ni;
Y marw ni wyr ymorol,
Am a wnaeth yma'n ôl.
Nid edwyn e'n odidog,
Na phlant draw na phle yno drig,
Na cherydd yn iach arian,—
Nid oes ond a roes o ran.
Lles yw bod, o'm llais y bu,
Llaswyr Fair yn llaw'r Iesu;
Unpryd Gwener offeren,
O'm dig byth a'm dwg i ben;
A'm gwlad fyth a'm golud fo,
F'ymgeledd, Duw fo'm gwylio.
I'r bedd a'i chwerwedd a'i chwys,
Yr iawn farn Dduw ar enfys;
Un Duw, dêl i'n didoli,
I'r nef, a thrugaredd i ni.


XIX.

I'R IESU.

Y GROG aur droedog drydoll,
Arfau crwys dear Crist oll,
Y sy draw yn ystrwaid,
Ystor uwch ben côr y caid,

Ar oror, wiw yr arwydd,
Hyd yno af, Hodni swydd.
Rhoed ar groes o wydd Moesen,
Rwng Desmas a Dismas hen,
A'i fron gron farw'n i gred
Enwog wr yn agored
I roi i galon yn rhydd
I'r byd ffordd y mae'r bedydd.
Talodd ddeugain cant weli,
Drwy swm, a naw, drosom ni;
A'i ddwyfraich a'i ddiofryd,
Dros i gorff ar draws i gyd.
Yn erbyn o, ddyn a ddel
I nef ato, 'n i fetel,
A thri pump cadarn arnaw,
A thrigain, gweli drain draw.
Ni thale'r byd, gwryd gur,
Byth i ddelw bwyth i ddolur.
Pedwar defnydd, gwydd goddef,
Y grawys oedd i grwys ef,—
Sef salma[5] o palma pur,
Sedrws, Sipresws prysur.
Ar y groes, pumoes y 'pêl,
Y dringawdd pedwar angel,—
Marc yw'r llew mawr cur llid,
Lucas mal ych a locid,
Mathias angel melyn
O ddeall Duw ar ddull dyn,
Delw Ievan ochlan uwchlaw

TWR OWEN GLYNDWR.

Ystafell Sion Cent ar yr ail lawr.


Yw'r eryr wedi' oreuraw,
Dan arwydd, dawn oreu-ryw,
Duw mawr mae, ucha' dim yw.
Dodaf am danaf rhag diawl,
Dy arwydd, fab Duw wrawl.
Yn enw'r Tad a'r Mab rhad rhwydd,
A'r Ysbryd wryd arwydd.
Ag yn henw yn gain hynaif,
Y saith archangel a saif,
Ger bron Crist, gwir brennau praff,—
Gabriel gorcheidwad gwiwbraff;
Mihangel dawel dywydd,
Moliawdwr ymddiffynawdr ffydd;
Raffel da, angel dengyn,
I Dduw y dwg weddi dyn;
Uriel tan arail y tân;
Sairiel ar ddyfr glas eirian;
A Riniel yn rhyw ennyd
Ar bob anifail o'r byd;
Panagiel, gwyry angel gwâr
Ar ffrwythau diau daear.
Gwisgaf i'm cylch, rhag asgen
Croes Duw a Mair, Crist, amen.
Arfer o grwys arfau'r grog
A orfydd ar bob arfog.
Sioseff gyntaf a gafas,
O blwyf Armathia blas,
Enwau y geiriau garwn;
Ar ucha lled erchyll hwn.
Dwyn Siosus da iawn Sioseb,
Adonai nis edwyn neb;
Agios sgirios, ias gur,
Alpha agla o eglur.
Unias ein dinas yw d'enw;
Eleison nid yw lysenw.

Tydi afrwydd to difreg,
Tragramaton, tri grym teg;
Saith rhif enwau ni sathrwn,
Iesu, wr hael, sy ar hwn;
Cyfrwys a wyr i cyfrif,
Câf 'n y rhol cyfenwau rhif;
Irwn, di-rydwn i draed,
O rinwedd i wirionwaed;
Cymunaf, nid cam anedd,
O'r byd cyn myned i'r bedd,
I'w Dad enaid Duw dinam,
A'r cnawd i fedrawd i fam.


XX.

ENW DUW.

Duw Tri,, Duw Celi, coeliwn,—Dâf, Eli,
Dwyf eilwaith, da folwn;
Gwiw Ner, i glod a ganwn,
Arglwydd Dad, mawr gariad, gwn.

Ener, Muner, Ner, Naf ydyw,—heb au
Pob bywyd a wneddyw;
Cynnon nebun nis cenyw,
Modur y byd, am du'r byw.

Iôr, Pôr, puraf Iâf, iawn weithiau,—Deon
Yn deall calonnau;
Huon, Iôn, goreu i ddoniau,
Duw, Dofydd mawr, Ionawr, Iau.

Crist, Rhion, Dafon difeth,—Creawdur
Cariadawl i achreth;
Mab Mair, dianair eneth,
Pab byd yn peri pob peth.


Pannon ar Ganon gannaid,—i gelwir,
Da gwelwn ef o'n plaid;
O, I, ac W yw a gaid,
Oiw beunydd i bob enaid.


XXI.

I DDUW.

YN Tad Sanctaidd, buraidd barch,
Duw unben, diau iawnbarch;
Yr hwn a all bob gallu,
Naf yr wyd yn y nef fry;
Sancteiddiol rasol ddi-rus,
Yw dy enw, Dduw daionus;
Deled i ni dy wlad, Naf,
Drwy achos Duw oruchaf;
Dy ewyllys heb gel a welon,
Iôr hael, ar y ddaear hon;
Fal y mae geiriau ar goedd,
Jawna Naf, yn y nefoedd:
Dyro i ni, dirion Naf,
Hoew ddawn Bôr, heddyw'n buraf;
Beunyddiol diboen weddi,
Moddion oll, a maddeu i ni
Yn dyledion aflonydd,
A rhown faddeuant yn rhydd,
I'r sawl wnaeth dystiolaeth syn,
Hirbwynt erioed i'n herbyn.
Nad, yr hael-Dad, yn gadaw,
O'th olwg i'r lle drwg draw;
Ymddiffyn, Dduw Frenin fry,
Cynnal ni bawb rhag hynny;
Amen, yn Tad cariadus.
Duw gwyn, a'th law ni'th lys;

Er mwyn dy un Mab a'i aberth
Byw Dduw nef, bydd i ni'n nerth;
O'i gadw naws gwna ysger,
Rhag uffern chwerw-wag offer;
Lle mae llys anwedduslan,
Diawliaid, cythreuliaid, a thân;
Satan goch, mae'n rhaid gochel,
Llwydd waith ni chynnyrch lle dêl,
Y llwdn a gais golledu,
Crybachog, crafangog fu;
Wynebwr brwnt anniben,
Corniog, danheddog hen;
Pryf anhawddgar dig, aruth'
Ag a gais i fantais fyth;
I ddwyn llawer o werin
I'r ffwrn lle telir y ffin;
Lle mae gwlad ddrwg i hagwedd,
Heb barch, heb gariad, heb hedd;
Ond ochain a dadsain dig,
Ar i gwarr awr ag orig;
E bwyntiodd Duw, nefoedd Naf,
Dan amod i hon ynnaf;
Erbyn y del arw boen du,
Siol diawl, i'r sawl a'i dylu:
Rhai mewn iâ ag eira gwyn,
A Duw Ne yn dwyn newyn;
A rhai mewn pydew drewllyd,
O flaen barn yn flin i byd;
Rhai eilwaith mewn diffaeth don,
Arw flin hwyl, ar flaen hoelion;
A rhai fydd chwerw a suddan',
Gwâl dig, mewn gwely o dân;
Rhai'n y pair anhap o wres,
A ffwrlwm brwd a fflam o bres.
Gwyr Iesu hael, garwa syd,
Uffern dinlom, ffwrn danllyd;

Arglwydd Crist, rhag ofn tristwaith,
Drych iawn gof, edrych yn gwaith;
Nad in wir bechaduriaid,
Gyrchu i hon rhag gwarchae haid;
Iesu cadarn, dod arnom
Dy law hael, da eli yw hon;
Rhag ofn cael dofn i haelwyd,
Uffern wael iawn, a'i ffwrn lwyd:
Dyro dy ffyrdd, hael wir-Dduw,
A'th iawn ddysg i'th ddynion, Dduw:
Rhag in wneuthyd, sobrfyd sen,
Fath naws dêl byth ni's dylen.
Hawdd i bob mab gydnabod,
Gywrain waith y gwir a'i nod;
A wnelo ddrwg, anial draith,
A geiff uffern gyff affaith;
A wnelo dda, anial ddewis,
A geiff nef heb goffa'n is;
Lle mae dawn lawn lawenydd,
A phawb yn dduwiol i ffydd;
Lle ceir wellwell y cariad,
A rhol deg gyda'r hael Dad;
Yno cael hael wehelyth,
Lle ni ddaw na glaw na gwlith,
Nag iâ, nag eira, nag ôd,
Na thymestl fyth i ymod;
Na digter ofer afiaith,
Na thrais twyll na thrist waith;
Ond pob llawnder per perawd,
Mewn ffydd, mewn cariad, mewn ffawd;
Pob cân, pob chwareu, pob cerdd,
Pob mawl wisg, pob melusgerdd,
Pob rhyw fath, pob rhai a fydd,
Yn orlawn o lawenydd;

Syched, niwed, na newyn,
Ni ad Duw i enaid dyn,
Pawb yn i rhif yn ifanc,
Heb dro, heb niwed, heb dranc;
Yno trigant, lwyddiant lu,
Oes oesoedd, yn llys Iesu.


XXII.

I DDUW.(2)

Y GWR uwchben goruwch byd,
Goruchaf, a'n gwir iechyd,
A'n Ceidwad hoff, a'n Proffwyd,
A'n Duw o Nef, a'n Dyn wyd.
Hebod ni allwn rodiaw,
Na throi nag yma na thraw,
Na chael, er a drafaelien,
Na ffrwyth ar ddaer, na phren,
Na dyn byw, na da ni bydd,
Na lluniaeth na llywenydd.
Dewis goel, nid oes, Geli,
Un Tad oll, onid Tydi.
Mawr yn Arglwydd a'n llwyddiant
Y troist dy blaid tros dy blant,
Pan ddoethost, Aur Bost, i'r byd,
Gwnest gywydd a'r gras genyd;
Wedi'r afal droi Efa
Or bywyd hir a'r byd da,
A'i gyrru hi a'i gŵr hon
I dywyllwg fal deillion;
Ag i'r un gist gerwyn gau,
I plant a'i hepil hwythau;
Prynu wnaethost heb fostiad,
Prynu trwm a fu'r pryniad,

O adrodd drwy fodd a fu,
Pen brenin, poen o brynu;
Gwnai Suddas, cyn y soddi
'Difaru'n drwm Dy frad di;
A'r Iddewon ar ddeg air,
A thala'i Fab ddoeth-loew-Fair,
Dy rwymo dan grio'n grych,
Dy holi, Fab Duw gall-wych;
Rhoi am Dy ben, brenin,
Goron ddrain, bleth geirwon blin.
Y ddaear oll, da Wr wyd,
A grymodd pan goronwyd.
Dwy o'r hoelion, Duw helaeth,
I'th ddwylaw, i'th hoelio aeth;
A'r drydedd, o'r direidi,
Ai yn dy draed, un-Duw Dri.
Dy frath a roid yn Dy fron,
Un-Duw gwyl, yn dy galon,
Wrth weled pob caledi
Er enaid dyn arnad Di,
O Dduw gwyn, i briddyn brych—
Onid yw, O dewn i edrych?
Er dy gur a'th ddolurion
A'th friw a gefaist i'th fron,
A'th goron, a'th wirion waed,
A'th boen draw, o'th ben i'th draed—
Rho in rhag pob rhyw annerth,
Yr Iesu o Nef, ras a nerth;
Anfon, o'n holl ddrygioni,
Yma, Dduw Nef, madde i ni.

XXIII.

I DDUW A'R BYD.

GWYN i fyd, nid er gwynfydu
Y dyn, cyn gloes angeu du,
A fedro gweddio'n dda
Er ennill bodd ŵyr Anna.
Barn iawn, a'i bwrw un-awr,
Yn llwyth bechodau i'r llawr;
A rhoi yn bryd i gyd ar gael,
Yr aur iesin o'r Israel;
A chael aur, dirfawr derfyn,
Dda cyn diodde o ddyn;
A chael corff Crist uchelair,
A chyffes o fynwes Fair;
A chael olew nefolydd,
A rhoi ym meddiant yn ffydd;
A chael dodi corff o raid
Yn deg mewn tir bendigaid;
A nawdd a gras urddasol,
A nef i'n eneidiau'n ôl.
Bob amser y dyle'r dyn,
Alw ar Dduw rhag i elyn.
Ni wyr y Cristion aflonydd
Pa hyd yn y byd y bydd.
Heddyw'n Arglwydd rhwydd mewn rhan,
Heno mewn bedd i hunan.
Gwyd i bwyll a gwedi bo
Un awr yn y bedd yno,
Ni phraw gael serch, ni pherchir;
Ni phryn un tyddyn o'r tir;
Ni ddwg ran a fo gwannach;
Nid eiff i'r wledd o'r bedd bach;
Ni roir yn ol bob golud,
Gwin mwy yn y genau mud;

Ni a un cam i dramwy;
Nid ysig er meddyg mwy;
Ni wyl un fry gwedi gwin
O'i ddeiliaid yn i ddilin;
Ni rydd ordderch o ferch fain
I llaw dan yr un lliain;
Ni ddeil ferch yn ddilys;
Ni orfedd ar i fedd ef fis,
Pan él enaid dyn pleidfawr,
Pair dân mwr, i'r Purdan mawr.
Câs llid ni ddaw, cwrs llydan,
O'r tir i ddiffodi'r tân.
Ni wel, er graddau neu er grym
Siessws o lwyth Siohasym.
Chwi a'n dygodd, dan oddef,
O nyth Peilatws i Nef;
Chwi a'n par, Mab Maria,
I drigaredd, diwedd da.
Tydi a fydd pan nad dedwydd
I'n barnu a fu ag a fydd.
Eiriol yr wyf, mwy na maint,
Erfyn Duw ar faddeuaint.
Maddeu'r balchder camweddus,
A maddeu'r holl bechod rhus;
Maddeu im ddilyn ffolineb
Ennyd awr yn anad neb;
Maddeu fy ngham ddrwg amwyll,
A'm taer ddychmygiaw a'm twyll;
Maddeu y geiriau gwirion,
A maddeu'r masweddau sôn;
Maddeu, Mab Mair ddiwair wen,
A fegais o genfigen;
Maddeu a wnaethum benbwl,
A maddeu mechod meddwl.

XXIV.

Y DRINDOD.

Y TAD o'r dechreuad chwyrn
A godes bawb yn gedyrn;
Y Drindod Undod o'n iaith
A dry i alw'n dri eilwaith;
Ysbryd Glan anian inni,
A'r Mab rhad, o'r Tad wyt ti;
lawn yw dy enw yn Dâd,
Duw a Chreawdwr yn dechreuad;
Ac yn Fab, arab eirian,
Ac yn Ysbryd gloew-bryd glân;
Dy enwi yn Dad yn y gadair,
Dy enwi yn Mab Duw a Mair,
Dy enwi yn Ysbryd gyd gwedi,
Glân o'th râd gloew Un a Thri.

Pan fy'ch yn dri cyfrifawr,
O'r Tri i'r Un yn troi yr awr;
Un Duw, tri pherson anair,
Mewn aberth gwiw nerth y gwnair;
Dy gorff o'r tan cyfan-rin,
Duw o'r gwaed, a'r dwfr a'r gwin,
A hoff eiriau yr offeren,
A thafawd y darllawdwr llên.
Yn yr un modd yr oeddyd
O'r bedd yn codi i'r byd;
Yn ol o'th fodd ddioddef,
Duw, try i'n dwyn ni i nef.
Yn ddiau Tad ydwyt ti,
Yn dda cael yn Dduw Celi,
Yn dri yn un, bob unawr,
Tad, Mab, Ysbryd, gwiwbryd gwawr:

Tri da agwedd tra digoll,
Ag un Duw gogoned oll.
Duw cyn y byd ennyd wyd,
Duw wedi diau ydwyd;
Tad y'th gair i Fair Forwyn,
I brawd, a'i Mab, o bryd mwyn.

Os yn dri yth gyfrifa,
Yn dri o'th gyfri y'th ga;
Yn un Duw nef union Dad;
Yn fwya fri, yn Fab rhad;
Yn Ysbryd gloew-lan anwyl,
Yn ben Rhaith ddydd gwaith a gwyl;
Yn Frenin y nef hefyd;
Yn ben brenhinoedd y byd;
Yn Arglwydd yr Arglwyddi,
Duw dy nerth yn Dad i ni,
Yn ben ffurfaen ffurf ôd,
Yn dri un-Duw, yn Drindod;
Daethost yn Dad, rhad rhoddi,
A'th wrthiau o'r Nef i ni.
Ar ben y twyn fwyn faner,
Dy Deml yw, fy Nuw Ner:
Yno yr wyd yn Waredydd,
Pob elw yn rhoi pobl yn rhydd.
Pedair arch lle'i cyfarchaf,
I'r holl fyd gennyd a gaf,—
Cyweth dibech, ac iechyd,
A maddeu i beiau i'r byd;
Nef, Amen, i bob enaid,
Yn rhydd, a chwbl o'n rhaid.

XXV.

DAIONI DUW.

YN DANGOS Y DAIONI A WNAETH DUW DROSOM, AC
FAL YDYM NINNAU YN AMHERCHI DUW.

CREAWDWR mawr, creawdwr mwyn,
Crist crair, mab y Fair Forwyn,
Celi, un-Mab Duw culwyf.
Duw Celi, clyw fi, claf wyf!
Ysbryd wyd galon drydoll,
A Duw a dyn, dydd daed oll.
Tad ag Ysbryd o'i gadair,
Gwir fab o fru y gwyry Fair.

Gwyllt ag uchel yw helynt
Gwalch cyn ebrwydded a gwynt;
Pob march, a phob gwarchawr
A ardd y maes, wir-Dduw mawr,
Bara os llafuria y fo
I ddyn a gair oddyno.
Teg oedd yn diolch i ti,
Duw i ddyn dy ddaioni.

Peraist yr olew newydd
A'r gwin i ddyfod o'r gwydd;
Y tân, o'th gelfyddyd têg,
Mab Mair, a gair o'r garreg;
Dilys bod crwth, neu delyn,
Yn ceisio dihuno dyn;
Dyn yn anad creadur
A wnaethost, gwybuost gur,
O nerth tragwyddol i ni,
Ar dy ddelw er dy addoli.

Er maint yn gywraint dan go
Urddas a wnaethost erddo,
Nid oes a'th wnêl yn elyn,
Egni dig, fel y gwna dyn.
O daw arnaw braw gerbron,
Dan nod, e dwng anudon
I'th gorff tragwyddol a'th gig,
Ag i'th ddelw wiw gatholig.
Ereill yn dost er dy ostwng
I waed dy fron donn a dwng.
Mynych y gwnair ar grair oll
Amherchi dy bum archoll.
Pam hefyd o'r byd y bydd
Gelyn pob un i'w gilydd?
Salw yw'r byd trymryd trwch,
Swyddau ni ad nos heddwch.
Rhoi a wna'r cedyrn yn rhwydd.
Er hirglod aur i'w Harglwydd;
A'i haddo er blino'r blaid,
A'i gynnull ar y gweiniaid.
Na roed neb, cywirdeb call,
Er gwst aur ar gost arall.

Braint brwysg bâr fyd rhwysg y rhawg,
Hwyl berw lliw hael byr llawiawg,
A fo hael gafael gyfun,
A hy, bid o'i dda i hun.
Anhoff odl oni pheidir
Môr Tawch a dyrr muriau'r tir,
A'r mellt a lysg yr elltydd,
A'r gwynt a ddiwreidda'r gwydd.
Cyn no hyn cwyn a honnir,
Clywan a gwelan y gwir.
Y ddaear o'i darpar da
A gryn, a'r coed a grina;

Odid cael yn ddi-adwyth,
Na dyn na phren yn dwyn ffrwyth.
Pan ddêl er yn rhyfelu,
Corn dydd brawd i'r giwdawd gu,
Yn dwyn hyd yn oed unawr,
Yn un dydd i'r mynydd mawr,
Ag yno, gwiw ogoned,
Y byddi, Grist, budd i gred,
Yn dangos o'r tabl glós tau
I luoedd dy weliau;
Yn derbyn y llu gwyn gwydd,
I'th ddeheulaw, iaith hoew-lydd;
A'r rhi di-fedydd er hynn
I'th aswy a wnaethost in.

Deall gorthrwm yw'r dial,
Y dyn a'i farn yn i dâl;
Yno e gryn, myn y grog,
Yn wir, gywir ag euog.
Gwae ni haeddawdd ffynniawdd ffer,
Gwiw fendith drwy gyfiawnder;
Gwyn i fyd y cywir tiriawn,
A gwae gorff y gaeog iawn.


XXVI.

Y DENG AIR DEDDF.

LLOWRODD a roes i Foesen,
Da fu i rodd difai wen.
Llyma rodd, os adroddaf,
Daw'r oll a roddes Duw Naf,—
Y Deng Air Deddf buchedd-fawr,
Arwydd graen ar y maen mawr.
Gwn ganmol fy nefol Naf,
Gwir a'i cant y gair cyntaf,—

"Câr dy Dduw lle cair dy ddysg,
Cei roddion, câr i addysg."
Yr ail gair glew gariad,—
"Ni wna twyll o enau y Tad
Yna yd oes, na wna di,
Ddelwau hyll i'w haddoli."
Y trydydd gair, pand tradoeth,
I ddyn o ras Duw a ddoeth,—
"Câr er Grist dy gyd Gristawn,
Cymerth a'th ymborth a'th ddawn
Yn gymaint, nid yw'n gamach,
A thi dy hun, mae'n un iach."
Geiriau'r ffawd a gair o'r ffydd
Di-ofer yw'r pedwerydd,—
"Cais gadw'n abl ddi-gabl-fraint,
Gwyliau a noswyliau saint;
Trosot ti y gweddiant,
Bechadur, nid segur saint."
Y pumed ddi-occed ddysg,
Goreu-ddawn gair o addysg,
"Câr dy dad, fwriad fawredd,
A'th hael fam, waith ddinam wedd,
Deudad a gâr dyn didwyll,
Dedwydd y bydd yn i bwyll,
I dad bedydd herwydd hawl
Ffurfaidd i dad corfforawl."
Y chweched, afrifed fron,
O'r geiriau dan aur goron,—
"Na ladd ddyn, na bydd einioes,
Na wna di niwed yn d'ces."
Mae tri di-ymgel elyn,
A eilw Duw i ddial dyn,—
Calon lawn anffyddlawn ffawd,
Dreigiau dyfn a drwg dafawd.
Y seithfed, na fydd sythfalch;
Gair byr a ddowaid gŵr balch,—

"Na ddwg dan gilwg wylaw
Ledrad waith liwaid i'th law."
Yr wythfed gair i Fair Forwyn.
O arwydd cael oer waedd cwyn,—
"Na wna hawl nerthawl ar neb,
A doniau Duw yn d'wyneb.
Na chwennych drwy rych y rhawg,
Mudo gwraig dy gymydawg.
Na ddwg mewn modd rhag goddef
Ddim a fo yn i eiddo ef."
Y nawfed gair rhag nwyfaint
Nefol Ior cedol a'i cant,—
"Na thwng, na wna waith angall
Anudon. Bydd gyfion gall
Yn erbyn dyn gloew-ddyn glod,
Dynged abl dy gydwybod."
Y deg fed, mae'n lludded maith,
O eiriau Crist yw'r araith,—
"Na ddwg letffol dystiolaeth
Yn gam rhag dy ddal yn gaeth."
Y deng air deddf buchedd-fawl
A ddywaid Duw, ddiwyd hawl,
Luniodd dafod cyfrodedd,
Llyma'nt hwy, da llanwant hedd.
Dilesg oedd i hadeiliwr,
Di-ameu mae goreu gwr;
Di-gabl yw'r parabl o'r pen,
A'i mesur yng nghôr Moesen.
Dysgyblaeth fal alaeth sy,
Disgybl a gâr i dysgu;
Dysgwn ag eirwn bob gair,
Di-angall yw y deng air.

GIPOLWG AR WLAD SION CENT.


XXVII.

TWYLL Y BYD.

PRUDDLAWN fydd y corff priddlyd,
Pregeth oer o beth yw'r byd;
Hoew ddyn aur, heddyw'n arwain
Caeau a modrwyau main,
Ysgarled aml a chamlod,
Sidan glân, os ydyw'n glod;
Gorhoff gyrn buail haelwin,
Gweilch, a hebogau, a gwin.
Os hynny ar was gweinaid,
O'i blaen a gostwng i blaid,
Ymofyn am dyddyn da,
Y ddaear dreth oedd ddurdra
I ostwng gwan, ni eiste
Dan i law a dwyn i le.
Dwyn syddyn ar y dyn dall,
A dwyn erw ar y dyn arall,
Ni ymroddai ddifai ddwy fyw,
O'r da ddoe, er dae o Dduw.
Heddyw mewn pridd, yn ddiddim,
O'i dda i ddiawl ganto e ddim,
Poen a leinw pan el yno
Mewn gorchan a graean a gro.
Rhy isel fydd i wely,
A'i dal with nenbren i dy,
A'i ddewr gorff yn y dderw gist,
A'i drwyn yn rhy laswyn-drist;
A'i bais o goed hoed hydgun,
A'i grys heb lewys, heb lun,
A'i ddir hynt yn y ddaear hon,
A'i ddwy fraich ar i ddwyfron,
A'i gorsied yn ddaered ddu,
A'i rhidils wedi rhydu,

A'i gog yn gado i gegin,
A llwybrau gwag, lle bu'r gwin,
A'i neuadd fawr-falch galch-fryd,
Yn arch bach yn annerch byd,
A'i wraig, o winllad adail,
Gywir iawn, yn gwra ail;
A da'r wlâd yn i adaw
I lawr heb ddim yn i law.

Pan el mewn arch heb archan,
Ar frys o'r llys tua'r llan,
Nis calyn merch elerchwedd,
Na gwr iach, bellach na'r bedd:
Wedi bod yno unawr,
Y dyn a'r gwallt melyn mawr.
Llyffan hyll, tywyll yw'r tŷ,
Os gwyl yw, i was gwely.
Hyder dan war y garreg
Yw'r braeg tew ar y brig teg.
Amlach yn cerdded clodlawr
Yn i gylch eirch meirch mawr.
Câs gan grefyddwr y côr,
Gytal a'r tri secetor,
A'r trichan punt ar futal
A gawsant ar swyddant sal.
Balch fydd i gariad a'i ben,
O pharant un offeren.

Yna ni bydd i'r enaid,
Na phlâs nag urddas na phlaid,
Na gwiw addurn na gau-dduw,
Na dim ond a wnaeth er Duw.
Mae'r trefi teg? Mae'r treftad?
Mae'r llysoedd aml?
Mae'r llesiad?
Mae'r tai caregion? Mae'r tir?
Mae'r swyddau? Mae'r gorseddwyr?

Mae'r sew? Mae'r seigiau newydd?
Mae'r cig rhost? Mae'r cogau rhydd?
Mae'r feddgell deg? Mae'r gegin?
Islaw'r allt, mae'r seler gwin?
Mae'r genedl? Mae'r digoniant?
Mae'r gwaewyr gwych? Mae'r gwyr gant?
Mae'r siwrnai' Loegr? Mae'r sairnal?
Mae'r beirdd o'r ty? Mae'r bwrdd tal?
Mae'r trwsiad aml? Mae'r tresor?
Mae'r da mawr, ar dir a môr?
Mae'r cwn addfwyn cynyddfawr?
Mae'r gadwyn eirch, mae'r meirch mawr?
O'r naddgar a'r neuadd gau,
O'r plasoedd a'r palisau,―
Diddywt na chaiff o dyddyn,
Ond saith troedfedd,-diwedd dyn.
Y corff a fu mewn porffor,
A mewn cist ym min y côr,
A'r enaid, ni wyr yna,
Pwl o ddysg, pa le ydd a;
Am y trosedd a wneddyw,
A'r camwedd tra foedd fyw.
Rhy hwyr a fydd 'n y dydd du,
Od wyf wr, edifaru.

Nis anrhega yna un
O'r cant, rhy hir yw'r cyntun;
Nis calyn na dyn na dau,
Nis gorfydd 'n y wisg arfau;
Nis câr merch, nid anerchir,
Ni sang mewn dadlau, na sir;
Ni chais wledd i gyfeddach,
Ni chyrch un wledd o'r bedd bach;
Ni rhoi'r pen un o'r cenin,
Er i ysgrwd o'r ysgrin;

A'r enaid mewn dilif difost,
O'r tân a'r ia, oerfel tost,
Lle gorfydd, celfydd nis cêl,
Cydfod anorfod oerfel,
Tyllau, ffyrnau uffernawl,
Peiriau, dreigiau, delwau diawl;
Gweled pob pryf, cryf yw Crist,
Cornog, ysgythrog, athrist,
Yn llaw pob bydredd yn llawn,
Cigweinau cogau Anawn.
Cedwyd Crist, lle trist bob tro,
Yn dynion rhag mynd yno.
"Astud fod ystad fydawl,
A ddwg llawer dyn i ddiawl,"
Medd Sant Bernad gredadyn,
Ni fynn Duw fod nef ond un;
Ag am hyn o gymhennair,
Onid gan emynau Mair,
Dyn na chymered er da,
Onwyf aml i nêf yma,
Rhag colli, medd meistri mawl.
Drwy gawdd y nêf dragwyddawl.
Ni phery'r byd gyd goed-nyth,—
A'r nef fry a bery byth,
Heb dranc, heb lun yn unair,
Heb orffen, Amen a Mair.


XXVIII.

Y BYD A'R CNAWD A'R CYTHREL.

GWN nad da, gwae enaid dyn
Draw o goelio i dri gelyn;
Y cnawd gan anudonef,
Ni âd, wn, enaid i nef;
A'r cythrel yw'r ail gelyn,
Bwriad tost a wnâ brâd dyn;

Hudol yw'r byd, gyıryd gwn
Am a ddêl pe'i meddyliwn.
Pa na wyl gŵr cyflwr caeth,
Mor ful[6] y daw marfolaeth?
Yr hwya i oes yn rhoi win
Yn farw, rhaid yn frenin.
Meddylied am wydd elawr—
Ni phery'r byd ennyd awr.
Mynu gwneuthur tai maenin―
Seilio'r gwaith, seleri gwin;
A gwen sidan dan amod,
Meirch a chlych mawrwych, a chlod;
Ennill tiroedd a mwnai;
Ennill o gestyll a gai;
Pan el y ddeu-droed, pan ân
Yma'n haws mewn un hosan;
Ac yna yn y gynfas
I'r ty o glai a'r to glâs,
A gwely o hyd gwialen,
A chlai yn borth uwch i ben.
Ag yna mae'r tai maenin?
Mae'r tyre gwych? Mae tai'r gwin?
A gasglodd a ddeuodd o dda,
Drwy gamwedd a drig yma,
A gedy'r golud gyd, gwn,
A'r gwyndai a'r gwndwn.
I weithred wrth yr edef,
Coelia'n wir, a'i calyn ef.
Ag yma yr awn i'r mynydd,
Ag yna y down yr un dydd,
A dyn a'i weithred i'w dal
Yn dyfod dan i ofal.
Ag, myn fy nghred a'm bedydd,
Mor gadarn yw'r farn a fydd.

Y gaeth weithred sydd gadarn,
A'i troi i gyd at yr un gwan.
khoi bwyd a diod, o dôn,
Ag edrych glwyfych gleision.
Hebrwng corff, o'r bryn i'r côr,
A charu pob carcharor;
Rhoi llety, gwely, i'r gwan,
A dillad, rhag bod allan;
Llyma'r saith ben eto'i henwi
Y tâl Ef yn Nef i ni.
A heliwn goed gwehelyth
A gwnawn dy a bery byth.
Archaf i'r uchel Geli
Lle rhanodd Ef y Nef i ni,
Gael i ni oleuni'r wledd
A bodd Duw cyn bedd diwedd.


XXIX.

YR WYTH DIAL.

YSTUDIO yddwyf, was didwyll,
Ystad y byd, ystod bwyll,
Astud boen, ystod benyd,
Ystad beirdd yw 'studio byd.
Astrus erioed mewn ystryw,
Ystyr y byd ynfyd yw—
Llawn dialedd, llawn dolur,
Llawn llid, llawn gofid, llawn cur.

Cyntaf dial, medd Saleg,
Erioed fu er dysgu deg,
Dyrr Lusiffer diraid,
O'r nef, lle'r oedd fawr i naid;
Uchaf angel heb Geli,
Euraid i fodd erioed fu;

A meistr oedd ym Mwstr Ion,
Yng ngolwg yr angylion;
Tegach na'r haul, gythraul gi
O'r diwedd, yn oer dewi.
Cwympawdd ym marn lleidr campus,
Ef o'i grefydd frydd ar frys.

A'r ail gofal, dial dwys,
Brwydr Addaf o baradwys.

Dial trydydd, cynnydd cwyn,
Yn amser Noe iawn ymswyn,
Boddes yr holl fyd byddar,
Onid wyth canllwyth a'u câr.
Noë a'i blant, cwbl foliant côr,
A'i gwraged hwynt, myn Grygor,
Rannodd y byd ennyd awr,
Noë a'i dri mab yn dramawr,
Sem, Asia, swm a esyd,
Hainar bair hanner y byd;
Cain, Affrica, cawr cymwys;
Siaffeth, Ewropia dda, ddwys.
Aeth pob gwlad, gad gydiad,
Tyfu fwy-fwy, planwy plaid.

Dial pedwrydd dwyawl
Pabilwn dŵr, pob elyn diawl,
Ar faes Enar oer fesur,
A main y gwnaethbwyd y mur,
Trwy gyngor lle trig angeu,
Nemrwth gawr 'n i 'myriaeth gau;
Dwy leg oedd hyd, bryd bradwr,
I'r nen o'r talcen i'r tŵr.
Yno symudawdd anadl.
Y byd oll ddidoll o ddadl.

Pedair ugein-iaith, myn Pedr,
A dwy hefyd, da hyfedr.
Er maint hyn, meddynt i mi,
Bwnn sor oedd o ben seiri.

Llyma'r ieithau llwm aruthr,
Cyntaf ond un eithaf uthr,—
Iaith Groeg, wyth a grewyd,
Dardan fab i leian lwyd,
Fab Siaffeth, lle pregethian,
Fab Noe deg, fab Lameg lân;
Gomer, fab hyber hoewbant,
Fab Sem, fab Noe hen, fab sant;
Cyff Ebryw, cyff saethryw son,
A gwiw Dduw ag Iddewon,
Proffwydi a'r padrieirch,
A Sem drwy eiriol a seirch;
Sacso lâs, cyff y Saeson,
Fab Niconys, dilys dôn
Fab Elami, rhi roddlawn,
Fab Sem, fab Noe ddwywedd ddawn;
Sarbistanum, drwm dramwy
Tabor wlad yw i'w hâd hwy;
Galer a Ffrainc, fab Geleras,
Fab Twrcwm, Siaffeth lwm lâs.
Llyma'r achau, heidiau hil,
Ewropia wiw, a'r epil.

Llin mab trydydd, dedwydd dysg,
Cam, Affrica o'r cymysg;
Sethrym fab Nemrwth sathrydd
Fab Nef, fab Cam ddinam ddydd;
Llin holl blant Agramantes,
A llin Ystelna a'i llês;
Hael fab Sythal mal milwr,
Fab Nef, fab Cam, derfflam dŵr;

Cyff Persarum drwm drimis
A chyff Vrabia a Chis;
Selan fab Caenan annoeth—
Wyr Mezran, wr Caenan coeth;
Cyff y cewri, rhi rhiwael,
A'r seirff a'r ogodes hael.

Pumed trofa cwbl pla cam,
O braff yn amser Abram.
Pump dinas ffol i helynt,—
Sodma a Gomorra gynt;
A dinasoedd dref nefawl,
Saban, Segor, maenor mawl,
Llosged oll, rif llysgiaid od,
Bychain a mawr, am bechod.

Chweched dial gofal-lysg
Tân gwyllt o'r wybr, ryw lwybr lysg.

Seithfed dial ynial oedd,
Mae y Beibl, mwynion bobloedd,
Deuddeg breniniaeth gaeth gôr,
Ar ugain, gynt, a rhagor,
A laddodd Sioswy loew-ddoeth,
I gyd o arch Iehofa goeth,
Gwyr, gwragedd, plant, sant synwyr,
A lladd 'nifeiliaid yn llwyr.

Dial wythfed, ged gadarn,
A diwedd byd yw dydd barn.
Yn Siosaffad, hab wadu,
Y farn a fydd, y dydd du;
Pan ddelom mewn poen dolur,
I gyd gerbron Duw o gur.
Yno y cryn yn un cri,
Llin uchel yn llawn ochi.


Dy nawdd, Arglwydd, dan addef,
Dy nerth un Mab Duw o'r nef,
Dy fersi yn dy farsoedd,
Dy garennydd, ufudd oedd,
Rhag myned, osged asgen,
Asau i mi, Iesu,{{bwlch}Amen.


XXX.

MYFYRDOD AR Y BYD, A'I WAGEDD.

PAND angall na ddeallwn,
V bywyd hir a'r byd hwn?
Anair i ddyn na roe'i dda
A byrred fydd i bara.
Pam na welir o hir-hynt
Y gwyr a fu yma gynt?
Mae Salmon, nid oedd annoeth
O ddysg? P'le mae Sibli ddoeth?
Mae tal a gwallt Absalon
Deg ei bryd? Dwg ef gar bron.
Mae Samson galon y gwyr
Nerthol? Mae i nai Arthur?
Mae Gwalchmai, ni ddaliai ddig,
Gwrol? Mae Gei o Warwig?
Mae Siarles o'r maes eurlawr?
Neu mae Alexander mawr?
Ple mae Edward? Piwm ydych,
Y gwr a wnae gae yn wych.
Mae'i ddelw pei meddylien.
Wych yn y porth uwch yn pen;
Yntau'n fud hwnt yn i fedd,
Dan garreg acw yn gorwedd.
Mae Fyrsil ddiful o ddysg,
A fu urddol o fawrddysg,

A goleddodd saith gelfyddyd,
A fu ben awen y byd,
A'i fwriad wrth fyfyrio
Atebai lais Tuwbalo,—
"Cerdd dafawd o geudawd gwŷr,
Pibau miwsig pob mesur."
Mae Hywel y Pedole?
Mae'r llall a'r gron fwyall gre?
Cwympason, dewrion, bob dau,
Yn brudd oll yn briddellau.
Oes a edwyn, syw ydych,
Bridd rhain rhagor pridd y rhych?
Afraid i lawen hyfryd,
I ryfig er benthyg byd.
Ni wn amod, awn ymaith,
Ar fyw'n hir ofer yw'n hiaith,
Megis siarter yr eira,
Ag aros haul a gwres ha;
Ni phery'r byd hoff irwych,
Mwy na'i drem ým min y drych;
Nid oes o deiroes i'r dall,
Deirawr wrth y byd arall;
Yn llygaid yw'n amnaid ni,
Y sy yma i'n siomi;
Rhedwn, ceisiwn anrhydedd,
Rhodiwn bawb, rhedwn i'n bedd;
Rhodiwn dir yn hir a nhw,
Rhodiwn, ond rhaid in farw.
Awstin a erchys ystyr
Beth ydyw hyd y byd byr;
Yna ni cheisi unawr,
Dueddu ymysg dy dda mawr;
A fynno nef i'w enaid,
A'i feiau byth ef a baid,—

Rhaid yw gochel tri gelyn,—
Swyn tost sy i enaid dyn,
Y cythrel dirgel i don,
Y cnawd, a'r cwyn anudon.

Tri meddyg, safedig sydd,
Ar ran dyn o'r un deunydd,—
Cardod o'i dda, cywirdeb,
Ympryd, a nenbryd i neb,
A chariad gwych a weryd,
Perffaith yw'n gobaith i gyd;
Ni wn un, yn y neall,
A wnelo lles heb y llall.
Awn i 'studio'n wastadol,
O bwys a nerth be sy'n ol;
Mae corn o fryd i'm cern fry,
A eilw bawb o'i wely.
Mae y farn mor gadarngref,
A'r cri'nol fal y cryn nef;
Yno pan dduo'r ddaear,
Gwellt a gwydd, a gwyllt a gwâr;
Llu eiddo Duw, llaw ddeau dôn;
Llu du a eilw lle y delon;
O! Dduw Iesu! Ni ddewiswn,
Awr dda, a hap ar ddeau hwn;
I'n ledio oll i liw dydd,
O'r lle yno i'r llawenydd.

XXXI.

Y SAITH WEITHRED O DRUGAREDD.

DULL iawn feirdd, deallwn fod
Derfyn i'r hoed yn darfod,
E fwrir pawb o'i fawredd
I gyd, er da'r byd, i'r bedd.
Nef pan gaffer ni dderfydd,
Ag yma gwarsedda sydd.
Rhyfedd yw ystyr rhyfalch,
A Duw ni châr bâr na balch,
Ni châr genfigen gennym,
Nag afrwyog ddiog ddyn,
Na chybydd anwych wybod,
Yn lwtwn[7] ni fynnwn fod;
Ni châr odineb na chwant,
Ond trwy ochel yn trachwant;
Doeth yr Isrêl uchelryw,
Ddeuddeg llwyth o dylwyth Duw,
Degair iddynt y dyged,
Dau yn y crair, dyn a'i cred.
Cadw'r ddau cyd-arweddol
A'r wyth a gedwir ar ôl.

Câr lawndad cywir un-Duw,―
Yn fwy na dim ofni Duw
A châr ddyn megis dy hunan
Dyna'r modd y down i'r man;
It dy hun a ddamunyd,
Gwna ar goedd i bobloedd y byd.

Saith weithred heb rwymedi
Gael nef da yw'r goel i ni,—
Torri newyn croewddyn cred;
Os achwyn, torri syched;

Dyro i'r gwan rag annwyd
Dillata'r noeth, doeth od wyd;
Claddu'r marw, a bwrw i'r bedd,
Wedi rhwyf o'r byd rhyfedd;
Y dyn claf, druanaf dro,
Drych oerni, edrych arno;
Carcharor trwy'r ystori,—
Sirwch a chynffwrddwch chwi.
Dydd y farn, pan ddėl arnyn,
I cyfeddliw Duw a dyn;
Saith weithred dyluedair,
A'r sawl nas gwnaeth, caeth y cair;
A fu o ddyn yn unwedd,
A gyfyd o'r byd i'r bedd;
Pawb o'i feddrawd yn gnawd-ddyn,
Tri deg yw oed, unoed in.
Daw i'r farn dri chadarnlu,
Y sydd, y fu, ag a fu;
Llu du a welir lle delon,
O aswy Crist, trist y tron;
Llu heb farn a sydd arnynt,
A llu breiniol heiniol hynt;
Arllaisant o'r llaw asau,
Ffyrnig wedi i uffern gau;
A'r llaw ddeheu er llwyddiant,
O'r arwedd i'r nef yr ânt;
Dioer, Iesu, Duw a esyd
Yr eneidiau gorau gyd;
Deheu lesu dewiswn,
E ddaw hael i ddear hwn.

XXXII.

BALCHDER.

PERYGL rhyfel rhyfeliwn,
A pha fyd hefyd yw hwn?
Byd ymladd cas à glâs gledd,
Byd rhyfalch a byd rhyfedd;
Ni edwyn brawd, cenawd call,
Bryd eirian y brawd arall;
Anwylach gilfach gelyn,
Yw'r da o'r hanner na'r dyn;
Oherwydd y ddihareb,
Gwyl Nudd ni bydd hael neb."
Duw, pa wlad newidiad noeth
Y ganed balchder geunoeth?
Pam y bydd balch ddyn calchliw,
Ffraethed er teced i ffriw?
Os o'i dda, nis ai ddyn,
Diffrwyth islaw y dyffryn;
Os o'i grefft is y grafftydd,
Rhyw oer fost rhy ofer fydd;
Os o'i gryfdwr, filwr faint,
Is gorallt; os i geraint;
Tremyg gan filwr tramawr,
Dir fydd golli daear fawr;
A gadu chwedl di led-laes,
Golud gwr mud ar y maes;
Caffael crys difelys fath,
Dilys o lai na dwylath;
Cychwyn i'r llan gyfannedd,
Ar i farch tra oer i fedd;
Yn ol gwin rhoi anwyl gâr,
I'w ddiwedd tan y ddaear;
A'i genedl yn i gwynaw,
Y rhawg a'i orchudd â rhaw,

Poenwr dwys penna yw'r dyn,
Dwys orchwyl nad oes erchwyn
Ina ond daear unig,
I ddal dyn i ddial dig;
Y ddaear ddwys yn pwyso.
A'r grudd yn ymwasg a'r gro,
Sydd o ddyn, er yn oes Adda;
A roes Duw, dyma ras da,—
Daear yw'n tad diryw oer,
Y ddaear yw'n mam dduoer;
O'r ddaear noeth y daethom,
A ffawd tost ydyw'r ffrost ffrom;
I'r ddaear, dda wâr dyddyn,
Ydd â, a aned o ddyn.

Pan nad ystyr poen distadl,
Pendefig urddedig ddadl,
Pan egorer, poen geiriad,
Fedd y gŵr a feddai gad,
Yno gwelir di-hirwallt,
Y dyn a roed dan yr allt;
In noeth i wen a'i benguwch,
Y llaw a aeth fel y lluwch;
Heb gler i'w galyn, heb glod,
Heb arfau dur, heb orfod;
Heb asau, heb fwnau fân,
Heb aros ffair, heb arian;
Heb lin, heb Elin f'anwylyd,
Heb ddawn barch, heb dda'n y byd,
Heb wyn-gnawd chwerw dafawd-chwyrn,
Na disgwyl dim ond esgyrn;
A hyn o son ymhen saith,
Y daw annerch diweniaith;
Afraid i ddyn cyndyn call,
Eiriach i dda i arall.

GROSMONT.

Lle'r hun Sion Cent.


XXXIII.

EDIFEIRWCH.

TYDI ddyn tew dy ddoniau,
Trist hael o natur trawstau,
Saith niwarnawd, gwawd gwydlym,
Bod o Grist yn gwneuthur byd grym;
Gwnaeth bob peth yn ddifethiant,
Mewn y saith, mynn lô sant.
Dyn yn bennaf Addaf oedd,
A wnaeth yr holl wenithoedd.
Ryfedd oll, 'rwyf eiddig,
I ddyn o'i dda wnai Dduw'n ddig.
Pumoes byd, meddylgryd maith,
I uffern aeth o affaith;
Ond lesu ddoeth, wr coeth call,
Yn Dduw, i'r byd iawn ddeall,
Tynnodd gwedi dioddef
O'r tân poeth pob noeth i'r nef.
Och! pam y gwnai ddau ddirmyg,
Ddiddawn ddyn, dy Dduw yn ddig?
Edrych yn fynych, f'einoes,
Ar Grist a'i gorff ar y groes;
A'i fronn a'i galon i gyd,
A'i wiwdlws gorff yn waedlyd,
A'i draed gwrdd mewn diriad gur,
A'i ddwylo'n llawn o ddolur,
O'th ddadleu, ddyn, a'th adlam,
O'th gas y cafas y cam;
O'th rwyf dithau a'th ryfig,
A wnai Dduw beunydd yn ddig.
Roes Duw Ion bob daioni,
Teg ym mhob agwedd, i ti;
Dithau, ym mhob modd dethol
Draetur[8] ffalst aneglur ffol;

Yn gwnaethur fyth, nyth noethfrig,
Fal gau dduw, dy Dduw yn ddig.
Pa well it gael gafael gann
Y byd oll, a bod allan?
Bod frenin pob dinas,
Bod arglwydd canmlwydd câs?
Corff call, myn yr allawr,
Cyfoethog wyd, marchog mawr,
Rianedd pob ryw ynys,
Medd a gwin gwyn, llyn pob llys,
Swyddau gwlad a sydd gadarn,
Saith celfyddyd byd a barn,—
Pai meddid oll ar golled,
Y byd, a'r lloer, bid ar Iled—
Diffrwyth oedd fal dwy Affrig
I ddyn ddim, a'i Dduw yn ddig.
Daw amser dyn di-ymswyn,
Daw praw tost gwedi'r fost fwyn,
Daw gwaew'n y tal gofalus,
Daw ymryson rhôn a rhus;
Daw ymliw dig, daw ymladd;
Daw Ilu cyn dydd braw, a lladd;
Daw llu uffern, gern gyrnig,
Daw'n ddwys, am wnaethur Duw'n ddig.
Ystyr ddyn, na wna stor i ddiawl;
Ystyria yn ystyriawl;
Ystyr dy ddechreu yn ieuanc,
A'th ddiwedd drwy orsedd dranc;
Ystyr mai pridd yw'r westai,
Ag yn briddyn, ddyn, ydd ai.
Os dewr, dyn, ystyr d'enaid,
Ystyr yn raen o'r blaen blaid;
Ystyr na thâl yn ystig,
I ddyn ddim, a'i Dduw yn ddig.

XXXIV.

DUW A'R BYD.
A CHYFFELYBU DYN I DDIWRNOD.

DYN yn gyfflybrwydd y daw,
Dydd oedd a diwedd iddaw,
B'reugwaith gardd, brith hy,
Hanner dydd yn ol hynny,
Brynhawn yr aeth wrth draethu
Y newydd dydd yn nos du.
Darfod a wnaeth ar derfyn
Y dydd fel derfydd dyn.
Mabolaeth mab a welir,
I byrhau fel bore hir.
Diau i'r mab, wedi'r maeth
Yn greulon ddwyn gwrolaeth,
Wedi hynny daw henaint
Ag yn hen gorwedd gan haint.
Yno y nosa, myn Iesu,
Einoes y dyn yn nos du.
Py ddelw, neu pa ddialedd,
Yr a'r byw yn farw i'r bedd,
Dialedd trwch fflwch a phla,
Dros afal a droes Efa;
Diau i'r bobl, dewr yw bwbach
Ryngu bodd i'r Angeu bach;
Nid eiriach un aderyn,
Na balch na difalch dyn.
Y drud Alecsandr ydoedd,
Er cyn cred cwncwerwr oedd;
Ni allodd yr enillwr
'N i oes gael ond einioes gwr.
Hector gadarn o'r farn fau
Ni ddiengodd yn nydd Angeu.

Hefyd Arthur ddihafarch,
Ond tra fu ni bu'ni barch;
A fu, darfu i derfyn;
A fydd, a dderfydd o ddyn.
Rhaid i berchen anrhydedd,
Myn fy nghred, fyned i fedd,
A gorwedd yn y gweryd,
A chau'r bedd, yn iach i'r byd.
A fago'r ddaear aren
A lwnc oll fal Afanc hen;
Dall mewn daear dywyllwg,
Dan draed, ni wna, na da, na drwg;
A'r enaid ni wyr yna,
Pa ffordd o'r ddwyffordd ydd â,
A'r lle bo'i frawd y llwybr fry,
Ai'r llwybrau ereill obry;
Od à i'r nef, rhaid yn wif
Ffinio dros y corff anwir;
A thalu'r ffydd gatholig
Ran y tân o'r enaid deg;
Crist ni dderbyn o'r cras-tan,
Enaid o'i law ond yn lân.
Yn un cnawd ddydd brawd a ddaw
Yn dudded enaid iddaw.
Clud i'r corff clodfawr y caed,
O phrynawdd ffafr i'w enaid;
Pob cardawd i dlawd o'i law,
A roddes, a roir iddaw;
Yno y rhoir pan fo rhaid
Yr awr yna i'r enaid.

XXXV.

ANGAU.

LLYMA fyd llwm o fedydd,
Llwyr o dwyll er llawer dydd,
Llyma freuddwyd ceisiwyd cêl,
Llafar doniog llyfr Daniel.
Gwyn i fyd er gwynfydu,
Y dyn cyn gloes angeu du,
A fedro gweddio'n dda,
Ar ennill bedd ŵyr Anna;
A chael yr olew newydd,
A rhoi maddeuant yn rhydd,
A chael corff Crist uchelair,
A chyffes o fynwes Fair,
A chael dodi y corff o chaid,
Yn deg mewn daer fendigaid.
Dodwn fryd i gyd ar gael,
Yr aer Iesu o'r Israel,
Farn iawn, a'i fwrw'n unawг,
Er lles, bechodau i'r llawr.
Afraid i ddyn derfyn dig,
Er rhwyf, neu ormod rhyfig;
Ni wyr Cristion aflonydd
Pa hyd yn y byd y bydd;
Heddyw yn arglwydd rhwydd ran,
Heno mewn bedd i hunan;
Gwael ydyw i bwynt gwedi bo
Un-awr dan y pridd yno;
Ni wisg sidan am dano
Yn y llan, ond graean a gro;
Ni ŵyl serch, na pherchir,
Ni phryn un tyddyn o'r tir;
Nid a yn ol, ni chais olud,
Na gwin mwy yn y genau mud;

Ni wyl obry gwedi gwin
Un o'i ddeiliaid i'w ddilyn,
Ni cherdda gam na thramwy,
Nid ysig er meddyg mwy;.
Ni ddwg ran a fo gwannach,
Ni ddaw i'r wledd o'r bedd bach;
Gwedi darffo, gwawl orffwll,
I bawb i ado'n i bwll;
Ni ddwg dyddyn y dyn dall,
Nac erw'r un gwan arall;
Gwedi i farw, nid à carwr
Gyd ag ef, ond gwadu'r gŵr;
Nac aur, na mud, trud troedfedd,
Na mab iach, bellach na'r bedd!
Nid ai wraig, hoew-saig hy,
Fain wyl, o fewn i'w wely;
Ni ddyd gordderch o ferch fain
I llaw dan gwrr y llïain;
Ni ddeila serch yn ddilis,
Ni orwedd ar i fedd fis;
Maddeu weithred a meddwl,
Ymwrthod a'r pechod pwl.


XXXVI.

Y BEDD.

OCH, pam y gwnai ddau ddirmyg,
Ddiddawn ddyn, i Dduw yn ddig!
Edrych yn fynych, f'einioes,
Ar Grist, a'i gorff ar y groes,
A'i fron, a'i galon i gyd,
A'i wiw-dlws gorff yn waedlyd:
A'i draed gwrdd mewn diriaid gur,
A'i ddwylo yn llawn o ddolur!
O'th odlau, ddyn a'th adlam,
O'th gâs, y cafas y cam.

O'th rwyf, dithau, a'th ryfig,
A wnai Dduw beunydd yn ddig.
Diffrwyth oedd, fel dwy Affrig,
I ddyn i dda, a'i Duw yn ddig!
Anair i ddyn na ro i dda,
A byrred fydd i bara.
Mae Salmon nid oedd annoeth
O ddysg? Ple mae Sibli ddoeth?
Mae tal a gwallt Absalon
Dêg o bryd? Dwg ef ger bron.
Mae Samson, galon y gwŷr
Nerthol? Ple mae nai Arthur?
Oes a edwyn, syw ydych,
Bridd y rhain rhagor pridd y rhych?
Afraid i lawen hyfryd
Ryfyg er benthyg y byd.
Ni phery'r byd hoff ir-wych,
Mwy na'i drem ym min y drych;
A fynno nef i'w enaid,
O'i feiau byth ef a baid.
Dir i'r bobl, dewr yw'r bwbach,
Ryngu bodd i'r Angau bach.
A faco'r ddaear aren
A'i llwnc oll, fel afanc hen:
Nid oes nerth ar y berthyn,
Onid Duw, i enaid dyn.
Iesu wrth gyfraith Moesen,
Awr bryd, a'n prynodd ar bren.
Pruddlawn ydyw'r corff priddlyd,
Pregeth oer o beth yw'r byd.
Hoew-ddyn aur heddyw yn arwain,
Caeau, modrwyau, a main;
Gostwng gwan yn i eiste
Dan i law, a dwyn i le:
Cynnull arian dau cannyn,
Cyrchu'r da, carcharu'r dyn;

Ni roddai'n ddiau ddwy-fuw
O'i dda ddoe, er ddae o Dduw.
Heddyw mewn pridd yn ddiddim,
O'i dda nid oes ganddo ddim!
A'i ddewr-gorff i'r ddaear-gist,
A'i drwyn yn rhy laswyn drist;
A'i bais o goed, hoed hydryn;
A'i grys heb lewys, heb lun;
A'i ddir hynt i'r ddaear hon
A'i ddeu-fraich ar i ddwy-fron;
A'i wraig o'r winllan adail,
Gywir iawn, yn gwra'r ail;
A'i neuadd fawr-falch, galchbryd,
Yn arch bach, yn eiriach byd;
A da'r wlad yn i adaw
I lawr, heb ddim yn i law;
Llyffant hyll, tywyll yw'r tŷ,
Os gŵyl fydd i was gwely;
Yna ni bydd i'r enaid
Na phlas, nac urddas, na phlaid.

Am y trosedd a wneddyw
A'r camoedd tra f'oedd yn fyw,
Rhy hwyr fydd yn y dydd du,
Od wyf ŵr, i 'difaru!
Astud fod ystâd fydawl
A ddwg lawer dyn i ddiawl.
Medd Sant Bernard gredadyn,
"Ni fyn Duw fod nef ond un"
Dyn na chymmered er da,
Nwyf aml, i nef yma;
Rhag colli, medd meistri mawl,
Drwy gudd, y nef dragwyddawl;
Dig yw'r cedyrn clo-chwyrn clyd,
Dig iawn nas dioganwyd:

YR UTGYRN OLAF.


Dig yw'r gwŷr llên, a'r menaich,
Dygn fyth dwyn digon o faich
Truth noeth traethu a wnaethost,
Na chânt hwy, gwn achwyn tost,
Groen du ffol, graen yw dy ffèd,
Gaerydd nef yn agored!
Meddir, o bydd cywir cant,
I minnau, hwy a'i mynnant;
Arian glew ar y glywais,
Orddwy drud ar Dduw o drais,
Pob un heb na llun na lles,
Ofer iawn, a'i feiriones,
I weddi miloedd wiwdda,
"I wlad nef," medd ef, "ydd â'!"
Minnau o'm dysg a'm hanian,
A thrwy liw'r Ysgrythyr Lân,
Mi a gâf wiraf gwarant,
O'i gwrs ef y gorau sant,
Na lewas gwiw ras gwerin
Dewi ar i weddi win;
Na gwisgo crys gwiw ysgawn,
Na phais, ond yr un bais rawn:
Na llanw, yn ddisalw'i sain.
Y pot; na rhuthro putain.
Gwn gyfraith euriaith, arab,
V Tad, eiriau mâd, a'r Mab.
I nifer hwy nef ar hynt
Am i gael ymogelynt!
Astud wŷf, ystod ofwy,
Ystyru twyll, ystyriant hwy,
Nad o wleddau gau gymen,
Ydd air i nef ddïoer nen!
Rhyfalch ydynt yn rhwyfaw
Rhyfig, Duw yn ddig a ddaw;
Pan ddel Dydd y Farn arnam,
A chosp dros bechod a cham.

Am yr hawl a'r mawr hwyliaw,
Y Farn ddig ar frys a ddaw.
Pob plaid, ddyfynnir, pob blin
Gar ei fron, y gwir Frenin.
Ni ddichon brawd, gŵr tlawd-gall,
Na'r llaw ymddiried i'r llall.
Er pwyth byd, er peth bydawl,
Er da ydd â'r dyn i ddiawl!
Profais i megis prifardd,
Pawb o'r byd wr hyfryd hardd;
Profais yn rhwydd arglwyddi,
Tlawd, cyfoethog, rhywiog ri;B
Nid cywir gradd o naddyn,
Nid oes iawn gyfaill, ond Un!
Er neb ni thorres Iesu
I lân gyfeillach â'i lu.


XXXVII.

Y FARN.

RHYFEDD yw'r byd, rhywfodd beth,
Rhwyfo'r brig, rhyw fawr bregeth,
Rhyfedd na thraia Rhufain,
Rhyfel a farn rhoflaw fain;
Rhyfalch ydynt yn rhwyfaw
Rhyfig Duw yn ddig a ddaw,
Pan ddel dydd y farn arnam
A chósb am bechod a cham.
Pa ddelw neu pwy a ddilyn
Modd y derfydd dydd y dyn
A ddiango, tro trasyth,
O farn ef a ddianc fyth?
Os diraid na ysty ia
Am i derfyn, bob dyn da;
A gwae'r neb, myn y gwir Ner,
O gael uffern a gloffer.

Am yr hawl a mawr holiaw
Y farn ddig ar fryn a ddaw.
Llyma'r modd, oll gwn golled
I dechreuir coelir ced.
Mab Duw a ddaw draw drudwraisg.
Majestatu fry yn fraisg;
Pump tân a ddaw o'r awyr
O'i flaen, gwawd i flino gwyr.
Tân ysbyra copa câs
Nwyf gampodd o nef gwmpas;
Tân o'r purdan, llan llawn lloer,
A thân uffernol iaith-oer.
Tân bydol angeiriol garw,
A melltan wybr maint malltarw;
A'r Mab yn eistedd, wr mwyn,
A'i ddeuddeg, mewn modd addwyn.
Ein Ioseff had, nid rhad rus,
I eistedd yn Dduw iestus;
Ag ef a ddioddefodd,
Ag a farn y gyfryw fodd.
Dangos oll i archollion,
A'i frath, a'i ddwylaw, a'i fron,
Corff a dwylaw draw a'i draed,
A'i airw yn llawn irwaed.
Pob plaid dyfynir, pob plin,
Ger i fron, y Gwir Frenin;
Cred ac angred pob gwledydd,
Pob llu a fu ag a fydd,
Pan ganer trympau gynadl,
Peremtori dodi dadl;
Cywrain fel anrheg caerydd
Cyfyd pawb i gyd o gudd;
Yn oedran Crist ddidristyd,
Dyn a'i gorff, a'i dôn i gyd;
Medd Sant Awstin, flin flaenaif,—
"A sydd fab cymwys a saif;"

A'r gwallt tew heb un blewyn,,
Yn eisieu, 'n ddiau ar ddyn.
Holi wna'r gwr yn wrawl,
A barnu'n ôl haeddu hawl.
Ni chaiff ffailst Crist, trist yw'r tro,
Ateb na naw hoced ato:
Duw oddyna a dywaid,
Wrth y rhai da, blaena blaid,
"Gwnaethoch chwi, arglwyddi gwlad,
Drugaredd mawr drwy gariad;
Rhoi bwyd a diod yr hawg,
Rhin, enw, i'r rai newynawg;
Rhoi lle ty a gwely i'r gwan,
A dillad rhag bod allan;
Nid oes ymliw drwy wir wawd
O gywirdeb am gardawd."

Yna, rhai drwg gwg a gair.
A du ydyw i dwedair,—
"Bum i'ch plith megis rhithol,
Yn newynog enwog ôl,
Bum sychedig ddig ddigawn,
Yn noeth a phallennig iawn,
Bum drist, bum glaf, gwn drafael,
Bum yng ngharchar, fel gwâr gwael;
Chwenn hyll, ni roesoch imi
Damaid na 1lymaid i mi."
"Pa bryd, Arglwydd pob brawdwr,
Y gwelsom ni chwi, och wr,
Yn ceisio llety cyson,
Na bwyd na diod? Wyd Ion."
"Ym rhith y gwelsoch i'm rhaid
Tlodion, gweinion, a gweiniaid,
Yn erchi nerth cynerth can
V'm henw megis ym hunan.
Aed y rhai da, saethfa ser,

I nefoedd, oll a'i nifer.
Aed y rhai melldigedig,
I uffern ddu a'i ffwrn ddig,
Hwy yno a wahenir,
Rhai drwg dial a'i dwg dir."
Yno y rhoir yn unawr
Y llef hyd y gryno llawr,
Truan ydyw gwahanu,
Tristyd och am fyd a fu!
Ni chan' iechyd, och einoes,
Na dim rhwymedi nid oes.
Yna y cloir, ag y rhoir rhwys
Yn uffern a'i ffwrn affwys.
Syna, ffinia, heb ffyniant,
Heb dro, heb orffen, heb draul.
Darllenais, rhi rhoddfawr,
Pob cronics o dics ni'm dawr,
Pob cronigl fel pab cryno,
Ysgrythr lan cyfan yw'r cô,
A glywais i mewn gloew sir
Am un fwy ni 'mofynir.
Nefoedd sydd yn llawn nwyfant,
Yn dragywydd cynnydd cant.
Llan uchel yn llawn iechyd
O bob digrifwch y byd,
Llawn trwsiad yn llawn tresor,
Llawn cerdd, llawn miwsig, llawn côr,
Llawn a llawn llawn llawenydd,
Llawn oes deg, lliw nos a dydd,
Lle iawn, aml yw'r llan yma,
Llawn, llawn o bob dawn da.

XXXVIII.

AR WELY ANGEU.

BETH a gaiff Cristion o'r byd,—a dirawd
Daeroedd a golud,
Ond bedd i orwedd wryd,
Ag un amwisg bach i gyd?

Ni lenwir i'r corff lonaid,—byth yma,
Beth amall melldigaid;
Ceisio 'ddwyf, o'm rhwyf a'm rhaid,
Wrth ran, ymborth i'r enaid.

Un doeth yw Cristion a da,—yn gyson
O geisio Duw'n benna;
A gaffo Dduw a gaiff dda,
Dawn a gaiff dŷn o'i goffa.

Da yw'r dien yn y diwedd,—i ddyn
A ddywed y gwiredd;
Duw a digon, wiwdon wedd,
Heb Dduw gwyn, heb ddigonedd.

Tostedd dialedd yn dielwi,—y sydd
Yswaeth i'm poeni;
Gwae'r un a gwae 'reini,
A gâ ran o'm gwewyr i

Clyw fi yn ochi ag yn achwyn,— yn flin,
Ail i flaidd wrth gadwyn;
Paid, Iôr Nefol, adolwyn
O fyd yn danllyd a'm dwyn.

Oes undyn, nag un a gair,-_yn ddifai
I ddyfod i'r gadair?
Oes un, er nad oes anair?
Oes, Fab yn Arglwyddes Fair.


Duw Geli, imi maddau,—o bechod
A bechais ers dyddiau,
Cyn treng, cyn cwyn taer angau,
'Ỷ nydd y sydd yn nesau.

I'r bedd, oer ddygnedd ddignawd,—asgwrn
Heb ysgog un aelawd,
Heb olwg gwiw, heb le gwawd,
Hyd ddiwedd-brawf, hyd ddydd-brawf.

Balch yw'r Cristion llawn mewn llyn,—ar ryfig
A rhyfedd yw'r englyn;
Ystyria'r dyrfa derfyn,
I'r ddaear dew ydd a'r dyn.

Da fydd ar ryw ddydd, rhyddyd,—Mab Duw
Ym mhob dyn i Ysbryd,
Gwedi'r dydd ni bydd bywyd,
Dyn na dydd ni bydd na byd.

Ni bydd gwedi'r dydd, dydd-hun,—yn llwyr
Haul na lloer uwch atyn,
Na ser, na llais aderyn,
Na bref hydd, na dydd, na dŷn.

Goreu gair, myn Mair, ymaraw—a Duw
Am nad oes dim hebddaw;
Angau dall i'm wng dwyllaw,
A'r angau'n ddiau a ddaw.


Y MYNACH GWYN.


GEIRFA

ACHRETH, natur, anian pethau.
ADANEDD, edyn.
ADONAI, Arglwydd; yr enw ddefnyddia'r Iddew, yn ol traddodiad y tadau, yn lle dweyd enw sanctaidd y Goruchaf, tra'n darllen, &c. Ni ellid mynegi yr Enw Sanctaidd hwn, namyn yn y Cysegr Sancteiddiolaf, a hynny un- waith yn y flwyddyn ar Ddydd y Cymod gan yr archoffeiriad, yn swn symbalau ac udgyrn, fel na allai'r werin ei glywed.
ADDWYN, addfwyn.
AED, cerddediad, rhodiad.
AFANC HEN, y llost-lydan yn ol rhai, ond yma, yn ddiameu, rhyw greadur anferth a berthyn i len gwerin, fel y ddraig.
AGIOS SGIRIOS, "y sanctaidd ysglodyn;" yma Crist, ond yn fynychaf y groes. Ond hwyrach mai AGIOS CYRIOS, y "Sanctaidd
Arglwydd," ddylid ddarllen yma. Tud. 49.
ALAN, brenin Llydaw, mab Hywel ab Emyr Llydaw a chwaer i Arthur.
ALPHA AGLA. Yr lesu. Vr Alpha melus."
ANNA, mam y Forwyn Fair; felly yr Iesu ydyw wyr Anna." Dywed traddodiad Cymru a Llydaw mai Brythones oedd, efallai drwy briodoli Anna, chwaer Arthur, neu Anna arall, un o dduwiesau y grefydd Geltaidd, yn fam i Fair
ARAB, ffraeth, doniol, difyr.
ARCHFAIN, teneu iawn.

ARES, darogan.
ARMATHIA, Arimathea.
AWSTIN (354—430), Esgob Hippo, ac un o awdurdodau mwyaf yr Eglwys gyntefig. Ei brif lyfrau ydyw y De Civitate Dei (Dinas Duw), ei "Gyffesion" a'i "Waith a dyledswyddau Mynachod." Efe oedd y mwyaf egniol yn erbyn Morganiaeth.
BAR, trallod, cur.
BENDITH, Yr Wyth Gwel Matthew v. I—II.
BERNARD (1090—1153), mynach, sylfaenydd mynachdy Citeaux, a thrwy hynny urdd fynachod y Sistertiaid. Yr oedd yn bregethwr hyawdl ac yn ddiwinydd o ddylanwad mawr. Yr oedd yn gyfrinwr o ran tueddiadau ac yn wrthdystiwr yn erbyn gorfanyldra diwinyddiaeth ysgolaidd.
BOLA, un o gymeriadau crefydd werinol; felly HIL BOLA, ei ganlynwyr. Arferid cario BWLA neu BOLA o gwmpas mewn llawer lle yn y De tua diwedd y cynhaeaf. Ar ol gorymdaith lluchid y BOLA i bwll, neu rywbeth cyffelyb, er gwawd. Hwyrach y ffug-gladdid ef un amser, i sylweddoli fod yr haf trosodd—yna ceid gwledd.
BRAEG, y gro, y pridd.
BRODYR, y Brodyr Llwydion—canlynwyr Sant Ffransis.
BRUTUS AB SILVIUS, cyndad traddodiad y Brutaniaid, a ddiengys o Gaer Droia i Brydain. Ceir y traddodiad gyntaf yn Nennius, yn y ddegfed ganrif; ond yr oedd yn hen bryd hynny.
BUAIL, yr ych gwyllt; yr orocs—gair a ddefnyddir heddyw ar lethrau y Mynydd Du—er engraifft y ddiareb—"Mor wyllted ag orocs y Mynydd Du." Hefyd corn i udganu.

CAEOG, torchiog.
CAMLOT, camlod, cymysgwe o flew camel a sidan; ond heddyw fynychaf o wlan a blew geifr.
CANIAD, goleuni, y ganiad, y lleuad.
CANON, rheol neu ddeddf eglwysig; rhestr.
CARN, eithaf, yn llwyr; "cara lleidr."
CRWYS, croes.
CATWN DDOETH Marcus Porcius Priscus, c.c. 234-149. Arweiniwr Rhufain yn erbyn Carthage. Ceisiai gael ei bobl i fyw yn syml ac o foes uchel. Er y gelwid ef y doeth, efallai mai mynach Cymreig ydyw'r Catwn hwn—neu awdur y "Dicta Catonis,"-Geiriau Catwn.
CAWDNWYF, digllonedd.
CAWDD, peth wedi ei gau i fewn.
CEDOL, hael.
CELI, Duw. Duw Nef. Uchel Geli, yr aruchel Dduw.
CENNIN, uchel. Eg., Carreg Cennen, y graig uchel.
CENYW, canfu.
CIWDAWD, y werin bobl.
CLOCHWYRN, symudiad cyflym a swn uchel bloesg iddo.
COB, cope.
COR, canghell eglwys, lle priodol offeiriaid yn yr eglwys.
CRAIR, olion santaidd o unrhyw fath, fel esgyrn y saint.
CRAIR CRYS, amulet, y crair wisgir dan y crys hyd heddyw gan bob Catholig a Mwhamedan defosiynol.
CRONICS O DICs, hanesion pethau bychain.
CRWYS, croes.

CWATHROED, sawdl.
CWELLYN, pwll dwfn.
CWNDID, cân. Cwndid gwawd=can moliant.
CWST, dolur, clefyd; cymalwst.
CYFATHRACH, perthynas. CYFATHRACH WYTHNOS, cyfeillgarwch byw.
CYFR, llawn.
CYNGYD, cysswllt, cyfuniad.
CYNTYN, Cwsg byrr.
DAF, DAFON, enwau Duw.
DANAREG, Anareg ab Rhodri Mawr.
DARDAN, sylfaenydd dinas Caer Droia, cyndad Brutus ab Silvius.
DARLLAWDWR, trefnwr.
DEAR, llafar Gwent am "daear."
DELLI, dellni.
DERFFLAM, fflam gref.
DESMAS, enw y lleidr ar y chwith i Grist pan groeshoeliwyd ef. Dismas oedd y llall.
DERYW, Darius brenin Persia.
DIEN, tawel, digynwrf.
DIGABL, diwarth.
DIHAFARCH, bywiog, parod, gweithgar.
DIHEURAW, esgusodi amddiffyn.
DINWYGYDD, amddiffynwyr, erlynwyr.
DIOER, yn ddilys, yn ddiau.
DIOGAN, diwarth, disarhad, difai.
DISMAS, enw'r lleidr ar y dde i'r Iesu pan groeshoeliwyd.
DOF, DOFYDD, Duw.
DRUD, dewr.
DUELLIR, llafar Gwent am "ddeallir."
DURDRA, caledrwydd.
DUW, dydd; duw-Sul, dydd Sul.
DYFOLIAETH, llafar Gwent am "duwioliaeth."

DYDD BRAWD, dydd y farn.
DYFYN, galw, gwysio.
ECTOR, Hector, un o arwron gwarchae Caer Droia; lladdwyd ef gan Achilles.
EIGR, morwyn, llances.
ELAMI, galwad ar Dduw.
ELERCH WEDD, fel yr alarch o ran gwedd.
ELEISON, talfyriad o'r Groeg "Kyrie eleison,"—"Arglwydd, trugarha wrthym."
ELI, fy Nuw.
ENAR, ener, enaid, ymwybyddiaeth.
ELEN LUDDIOG, Elen Luyddawg. Yn ol y Iolo MSS., merch Eudaf ab Caradog o Gaernarfon; ac yn ol mabinogi Breuddwyd Macsen, priod Macsen Wledig. Ond amheus iawn ai yr un ydynt. Y mae rhyw Elen wedi priodoli iddi ei hun briodoleddau duwies Geltaidd, duwies rhyfel, fel Bellona y Lladinwyr. Cyduna y traddodiadau am Sarnau Helen brofi rhywbeth tebyg i hyn. Cymharer y traddodiad Gwyddelig am Cathlin ni Houlihan, a'r traddodiad Cymreig am y frenines ar y march a'r gwddw brith.
ESGUD, cyflym, diwyd, dyfal.
ESSYLLT, arwres y rhamant Tristan ac Essyllt.
FARSI, oedd; trugaredd, mercy.
FUTAL, bwyd, victual.
FFED, appearance.
FFERYLL, y bardd Lladin Publius Vergilius Maro. Yn ystod y Canol Oesoedd cyfrifid ef yn un o ddoethion y byd, ac yn swynwr mawr. O'r gair hwn y daw ein gair "fferyllwr," alchemist, yn awr chemist.

GALER, Galerius Valerius Maximianus, Ymerawdr Rufain o.c. 205-314.
GARMON, St. Garmon, o.c. (?) 400-474, Esgob Manaw. Neu y sant arall o'r un enw, Esgob Auxerre.
GEI O WARWIG. Arwr rhamant Saesneg elwir ar yr enw.
GELERAS, Galerius Trachalus, Consul Rhufain o.c. 68. Dywed Quintilian mai efe oedd areithiwr hyawdlaf ei oes.
GLWTWN, glutton.
GODRIG, oediad.
GOGRAN GAWR, cawr neu bennaeth Powys ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid.
GORDDWY, ar y blaen; y blaen-fyddin.
GRYGOR (O.C. 540-604), Gregori Fawr, Pab Rhufain 596-604. Efe ddanfonodd Awstin Fynach yn genhadwr at y Saeson.
GWAEWYR, poen, gwewyr.
GWALCHMAI, Gwalchmai, nai i Arthur; fab i Gwyar ei chwaer a Lludd. Oherwydd ei hyawdledd gelwid ef yn Dafod Aur. Cred rhai mai yr un yw efe a Llew Llaw Gyffes a Gawain y rhamantau.
GWYL EI ARGLWYDDES, Gwyl Fair.
GWEHELYTH, ach, tadogaeth; ANGEL GWEHELYTH, nawdd sant y wehelyth; COED GWEHELYTH, achres.
GWENHWYFAR, brenhines Arthur.
GWIAILYDD GELI, Amddiffynydd y nef.
GWIWRWYF, llywydd addas.
Gwyn, bendigaid; Duw gwyn, Iesu gwyn; &c.
GWYSWG, yn y blaen, yn bendramwnwgl.
GWARSEDDA, gorsedda.

HAINAR, heiniar, eiddo, twf.
HED, llafar Gwent am "hyd."
HELYTH, llafar Gwent am "helaeth."
HEURYN, hiring, cyflog.
HODNI SWYDD, sir Frycheiniog.
HUON, Hu Gadarn; hefyd un o enwau y Goruchaf; "Gwae wynt ddydd brawd ger bron Huon."
HUR, hire, cyflog.
HYWEL Y FWYALL, Hywel ab Einon ab Gruffydd .. ab Collwyn ap Tango. Genedigol_o
Eifionnydd, Cadlywydd dan y Tywysog Du ym mrwydr Poitiers. Efe gymerodd frenin Ffrainc yn garcharor.
HYWEL Y PEDOLE, mab Gruffydd ab Iorwerth a Gwenllian merch Rhirid Flaidd. Gelwid ef felly am y medrai unioni pedol ceffyl drwy nerth ei ddwylaw yn unig. Claddwyd ef yng Nghaerfyddin yn Eglwys St. Pedr.
I=ei.
IAF, un o enwau y Goruchaf,-megis Iahwe, Iof.
IANGWR, dyn anfoesgar.
IGRAM OGRAFF, yn bendram wngl.
IESIN, disglair, ysplenydd; aur iesin, disglair fel aur.
IFAN EBOSTOL, Ioan.
Io, Job. Tud. 33.
Io, ION, enwau Duw.
IONAWR, Ianuarius, nid y mis.
IORC, DUC o, Edward Plantagenet, mab Iorwerth III., a fu farw yn 1402; neu Edward, mab hwn, a lâs yn Agincourt 1415.
Iuxta arcem, yn ymyl y gaer.
LEG, cyngrair.

Limbo Patrwm. Yn ol duwinyddiaeth ysgolaidd yr oedd lle neillduol i'r eneidiau nad
oeddynt deilwng o le gerbron y Goruchaf; eto, gan na throseddent ac yr oedd iddynt ddaioni, ni ddylid eu danfon i'r lle arall. Gelwid y lle hwn "Limbus" (ymyl, goror). Felly cawn Limbus Patrum i'r pur eu moes a'u hysbryd na chawsent gyfle i glywed am Grist a chael bedydd; a'r Limbus Infantum i'r plant na chawsant fedydd. Am esboniad llawn gweler Inferno Dante. Felly "Limbus Patrum" yw "goror y tadau."
LIWSIFFER, pennaeth y cythreuliaid; hefyd y Seren Fore, ein Lleufer ni.
LLAMHIDYDD, llamwr.
LLASWYR, y Sallwyr; Llyfr y Salmau.
LLAWIAWG, Llawdde, deheuig.
LLEWAS, llewis.
LLOEGR, DWYBLAID, teuluoedd Caer Efrog a Chaer Hirfryn.
LLOCID, rhoi mewn caead, lloc, neu ffald.
LLU, canlynwyr. Tri llu, tair urdd y brodyr
llwydion, sef (1) y Capuchin, y rhai ddilynant reol Ffransis yn yr ysbryd ac yn llythrenol; (2) lleianod urdd St. Clara; (3) y drydedd urdd, sef y rhai sy'n canlyn y rheol yn yr ysbryd, ac eto yn byw yn y byd.
LLWYD, bendigaid, e.e., Mair Lwyd.
LLYFR HERCULYS, drama Euripides, "Heracles."
LLYFR POLICSENA, drama Euripedes, "Hecube."
MACSEN, Macsen Wledig, sef Maximus, ymherawdr Rufain (383-388).
MADWYS, daionus, cyflawnder amser.
MAENIN, math o garreg feddal, "tai maenin."
MAIR, EMYNAU, yr emynau er clod i Fair yn Llyfr yr Offeren.
Majestatu, mewn mawrhydi.

MEDROD, y nai i Arthur a'i bradychodd.
MODUR, amddiffynydd, felly, brenin, yna un o enwau y Goruchaf.
MEIRONES, morones, llaethwraig.
MUDO, symud.
Mundo, Hoc, yn y byd hwn.
MUNER, arglwydd, rheolwr.
MUR GRISIAU, tapestry.
MWNAI, money.
MWRN, trwm, twym.
MWSTR, MWSTWR, mynachdy. O'r Lladin I, cymharer Coed y Mwstwr,. Allt y Mwstwr; a'r Lydaweg mouster.
MWSTWR ION, y Nefoedd.
MWYDIC, boneddig.
MYNIG, boddlon, moesgar, caredig.
MYRIAITH, iaeth felus goeth.
NAWRADD NEF, naw gradd engyl nef yn ol y cyfrinwyr.
NAIDR DDU, y wiber.
NAITIAU, llafar Gwent am "eneidiau."
NAWRODD NER, gwel Gal. v. 22.
NEMROTH GAWR, Nimrod.
NUDD. Anhawdd dweyd pa run-ai (1) Nudd ab Ceidio ab Arthwys, un o seintiau Llan Illtyd (cylch 570); (2) Nudd Hael ab Senyllt ab Cedig ab Dyfnwal Hen, un o dri haelion Ynys Prydain; un o wyr y Gogledd a ddaeth i Arfon i ddial angau Elidyr Mwynfawr tua 570; (3) Nudd neu Lludd (Nuada Law Arian lên yr Iwerddon). Gweler y Pedair Cainc am ei hanes. Gwyl Nudd. Os Nudd y Mabinogion yw, gwyl canol haf (Mehefin 21).

OD, hynod, rhyfedd.
OGODES, cododd.
OES, PUM, gwel Matthew i.
OLDCASTR, Syr John Oldcastle, Arglwydd Cobham, un o uchelwyr swydd Henffordd, Cynorthwyodd y brenin yn erbyn Glyndŵr, a brwydrodd drosto yn Ffrainc. Sylfaenwr y Lolardiaid. Ysgrifennodd amryw o lyfrau, y prif lyfr ydyw ei "Twelve Conclusions." Cafodd ei gyhuddo o fod yn heretic—ac o gynllunio yn erbyn y brenin. Dedfrydwyd ef i'w losgi (1413). Diangodd i Gymru, ond daliwyd ef, a llosgwyd ef yn 1417. Ysgrifenwyd Cywydd y Llyfr Arall," tud. 21, wedi 1410, fel y gwelir oddiwrth y cyfeiriad at Olcastr.
Omnes terra Roma, holl diroedd Rhufain.
O. I. W., un o gyfrin enwau y Goruchaf.
OESBRAFF, oes helaeth gyflawn.
ORDDWY, violence.
OSGED, cawg, ffiol.
OSGEN, sarhad.
OWEN. (1) Owen Gwynedd, (2) Owen Cyfeiliog, neu (3) Owen y Rhamantau Arthuraidd.
OWNIAS, Ovinius, cynllunydd Lex Ovinia Rhufain.
PABILWN, Babilon. Yma Babel.
PAIS BREN, arch.
PAIS RAWN, y bais wisgid fel penyd am bechod.
PAND, pa+ond, onide.
PAWL, yr apostol.
PEL, gwreiddyn, neu achos rhyfel. Ceir y gwreidd-air mewn amryw ieithoedd, y Lladin, bellum, rhyfel. Hefyd "apêl,' appeal.

PENBWL, pen-wag, ffol.
PEREMPTRI, peremptory, yn gofyn ufudd-dod uniongyrchol.
PILCHWANT, dymuniad am bethau bychain isel.
POLYXENA, drama Sophocles, Polyxena.
POR, y Gallu, sef y Goruchaf,
POST, dyn cryf, arweiniwr.
PRYDYR, Peredur, arwr rhamant y Greal.
PUM, un o'r rhifau cyfrin; pum archoll, y clwyfau yn nwylaw, traed a bron Crist; pum oes byd, gwel Matth. i., sut y rhanwyd y cyfnodau hyn.
ROLANT, arwr y Chanson de Roland. Nai i Carl Fawr, brenin Ffrainc. Ymosododd y Saraseniaid arno yn Roncevalles, ar ororau y Pyrenees. Yr oedd corn ganddo y gellid ei glywed am 30 lêg. Er iddo ei chwythu ac er i'w ewythr ei glywed, dywedwyd wrtho gan fradwr mai hela yr oedd Rolant, felly ni ddaeth i'w gymorth. Llwyr ddinistriwyd ei fyddin a lladdwyd ef. Efe yw arwr mwyaf rhamantau Carl Fawr.
RHAITH, dedfryd.
RHEOLWAS, unben, neu dywysog,-o'r Lladin regulus.
RHI, brenin.
RHIDILS, ymylon, ymylwaith-ac felly darnau; "torri yn ridils."
RHIDYS, rhewyn, nant fechan.
RHION, brenin.
RHISIART, y brenin cyntaf a'r enw hwn.
RHIOLION, arweinwyr, rheolwyr.
RHIWAIL, rhyfel.
RHON, rhyngom.
RHUS, cyfyngder, perigl.

RHWYM RHY, rhywbeth neillduol yn ei ansawdd neu berthynas.
RHWYF, uchelgais, llywiawdwr.
RHYCH YR HAWG, llwybr hir, amser maith.
RHYLL, frank, free.
SALMON, LLYFR, Llyfr Solomon-llyfr athronyddiaeth.
SALEG, Llyfr y Salmau.
SAETHUG, yn ofer.
SAIRCH, llafar Gwent am "seirch"—harness.
SAITH, un o'r rhifau cyfrin; y saith archangel,—Mihangel, Gabriel, Raffael, Uriel, Chamuel, Iophiel, Zadkiel; saith celfyddyd; saith pen; saith rhif enwau.
SAIRNAL, charnal, ty lle cedwid meirw.
SARBISTANUM,? un o eiriau nerthol y cyfrinwyr.
SECETOR, executor. Yr hwn a drefna osodiadau a threfniadau dyn marw yn ol ei ewyllys.
SELYF, Solomon.
SIARLAS REOLWAS, un o enwau Siarlymaen yn y Brut Lladin-yr unben Siarl. Claddwyd ef yn Aachen, ac ai pob olynydd i'w weled wedi ei goroniad, i sylweddoli mai dyna fyddai ei ddrych yntau.
SIARLYMAEN, Carl Fawr, Charles I. (c. 742-814); brenin y Ffreinc; ymherawdr y gorllewin; sylfaenydd y Santaidd Ymherodraeth Rufeinig.
SIBLI DDOETH, y wraig hysbys, neu broffwydes, yr hon yn ol llên Rufain werthodd y llyfrau Sibylaidd, llyfrau darogan, i Darcwin falch. Cynygiodd ddeuddeg, y rhai a wrthodwyd; llosgodd dri, yna cynygiodd y naw am bris y deuddeg, ac felly ymlaen hyd nes prynwyd tri. Chwiliwyd y llyfrau darogan hyn er cael deall y dyfodol, pan oedd y ddinas mewn cyfyngder. Dywedir y tardd y gair o Roeg Sparta Sio a bolle—ewyllys Duw.

SIESEROM, St. Ierôm.
SIESSWS, yr Iesu.
SILI, epil.
SIOHASYM, Ioachym, tad-cu yr Iesu.
SION CENT, y darlun sy'n wynebddalen. Yn ddios paentiwyd y llun tua 1400. Yr oedd y gŵr a'i gwnaeth dan ddylanwad yr Iseldiroedd, os nad yn Fflamwr. Yr oedd hefyd dan ddylanwad Ysgol Umbria, ac wedi arfer a phaentio mewn tempera.
SIOSAFFED, Iehosaphat.
SIOSSWAS, Ioshua.
SOD, cadarn, cryf.
SOR, digllonedd.
SYDDYN, tyddyn. Gelwir y från fawr yn fran
syddyn, am mai un o honynt (neu ddwy) yn
unig geir ar un tyddyn; h.y., nid ydynt yn
tyrru'n heidiau fel y frân gyffredin.
SEDRWS, SIPRESSWS, PRYSUR, y gedrwydden, a'r gypresswydden. Defnyddir y gair "prysur" yng Ngwent, yn gyfateb i'r Saesneg sad. Odd a golwg brysur arno "=" yr oedd agwedd ofidus arno." Felly yma the sad cypress. Dyry Sion Cent y geiriau Lladin yn ol llafar Seisnig-neu Ffrengig.
SEW, gravy.
TALIESIN, y bardd cyfrin, casglwr Llyfr Taliesin, bu farw o.c. 601.
TEGFEDD, tegwedd.
TELORI, rhannu, e.g., telori gwin; telori bara; telori cân.
TOBIAS, gwel yr Apocrypha, Tobit iv. 7.

THOMAS, yr apostol. Dywedir iddo bregethu'r efengyl yn yr India, ac efe yw nawdd sant y wlad honno.
TRAFAELION, gwaith.
TRAGRAMETON, y tetragrammaton, y gair o bedair llythyren. Ystyrrid enw Hebreig y Goruchaf fel yn rhy santaidd i'w lefaru gan yr Iddewon, ac hefyd gan y cyfrinwyr. Felly cyfeiria'r cyfrinwr yma at enw Duw ac a'i geilw y "tragrameton;" ac yn lle ei lefaru, dywed yr Iddew "Adonai."
TRALLU, llu cryf; gallu mawr.
TRASYW, taflennau perthynas.
TRUTH, lol, siarad di-amcan.
TRUTHYLLWG, pleser, gloddest.
TUDDED, dillad, neu rywbeth ellir ei daenu.
TUWBALW, Tubal, y gof cyntaf.
UNINS, yr Undod. Hynny ydyw, y Drindod. Hwyrach mai lled gyfieithiad yw'r gair o'r Groeg monos, unigol; a hwyrach y tardd o'r Lladin unitas.
WEGLYD, gochelyd.
YN= ein.
YMOROL, gofyn e.e., "O daw 'morol pwy wnae'r carol."
YMRWNTAN, grwgnach.
YNIAL, anial.
YSGARS, cyfran.
YSGRWD, celain.


Nodiadau

[golygu]
  1. Y mae rhai yn amau mai Sion Cent yw awdwr y cywydd hwn. Dywed traddodiad llenyddol y cawd y copi "ar fedd Gronw Hen (Fychan?) o Fon."
  2. Worship,
  3. North Sea. German Ocean.
  4. Dydd. Duw Gwener-dydd Gwener. Cym. Duwsul a duwllyn.
  5. Salma, baich, yn enwedig pwn anifail; ceir y gair yn y Ffrancaeg yn y ffurf somme. Tybid yn y canol oesoedd fod breichiau'r groes o balmwydd (palma), ei throed o gedrwydd (cedrus), ei chorff o gypreswydd (cupressus), a'r ystyllen o olewydd (oliva). Ceir y pedwar yng nghywydd Iolo Goch. Am "sipresws prysur" gwel yr Eirfa ar y diwedd.
  6. Mul esmwyth, distaw.
  7. glutton.
  8. Traitor

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.