Gwaith Thomas Griffiths/Rwy'n cael arwyddion amlwg
← Efengyl Crist sy'n galw | Gwaith Thomas Griffiths gan Thomas Griffiths, Meifod |
Yma 'rwyf mewn anial maith → |
III.
Rwy'n cael arwyddion amlwg
Mai 'madaw wnaf cyn hir,
Er cystal yw eich cwmni
Gan natur yma'n wir;
A'ch gadael chwithau yma
I gael y fraint yn hwy
O ymladd gyda'r fyddin
Dros lwyddiant marwol glwy.
Mi welais yn y boreu
I roddi arno 'mhwys,
Yngwyneb bod dan ddedfryd
Ac argyhoeddiad dwys,
Un cadarn a digonol,
Un addas imi'n wir,—
Ennillodd ef fy nghalon
I orphwys arno'n glir.
Mi gysgaf hun yn dawel
Ar fyr yn ngwaelod bedd,
I ddisgwyl am fy Marnwr
Ag udgorn i roi llef;
Ac yna mi gyfodaf
I gwrdd a'm Harglwydd mawr,
Yn dyfod ar y cwmmwi
I farnu'r dyrfa fawr.
Bydd yno'r fath ryfeddod
Na welodd dyn erioed,
Er pan y crewyd Adda
I'r olaf ddyn gaiff fod;
Y dyrfa yn gwahanu,
Pob un i'w le ei hun,
A ninnau yn cael gwledda
Yn nghwmni Mab y dyn.