Gwaith ap Vychan/Ann Morris
Gwedd
← Chware teg i'r lliaws | Gwaith ap Vychan gan Robert Thomas (Ap Vychan) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ymweliad â Glan y Môr → |
ANN MORRIS.
𝕬DWEINAI drefn cadw dynion—a gwyddai
Guddiad cryfder Cristion;
Tynnai ras y tyner Ion,
Lonnaid ei henaid union.
Ei phrofiad,—a pha ryfedd?—oedd lawen,
Oedd loew hyd y diwedd;
Trwy y Gwr llawn trugaredd,
Nid ofnai na'r bai na'r bedd.