Gwaith ap Vychan/Etholedigaeth
Gwedd
← Ymweliad â Glan y Môr | Gwaith ap Vychan gan Robert Thomas (Ap Vychan) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Bedd Gwr Duw → |
ETHOLEDIGAETH.
𝕹ID yw etholedigaeth yn gwneyd drwg i neb, ond gwna dda i rif y gwlith. Nid yw yn rhwystro neb at Grist, ond y mae yn tynnu rhif y ser ato. Nid yw yn gwrthod neb, nid yw yn bygwth neb, nid yw yn condemnio neb; ond y mae, trwy ddwyfol ragluniaeth, gair Duw, a dylanwad yr Ysbryd Glân, yn ymgeleddu dynion rifedi tywod y môr.