Gwaith ap Vychan/Rhys Thomas
Gwedd
← Y Gof | Gwaith ap Vychan gan Robert Thomas (Ap Vychan) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cywydd y Trwnc Mawr → |
RHYS THOMAS.
Beddargraff a fwriadwyd i'r diweddar Barch. Rhys M. Thomas, Rhes y Cae.
𝕽𝕳YS Thomas oedd was i ddwy—eglwys dda;
Gloes ddofn fu ei ofwy,
A'u pobl ffyddlon haelion hwy
Roes y maen ar Rys Mynwy.
Gweinidog enwog ac anwyl—i Dduw
Oedd ef hyd ei arwyl;
Cafodd a mwynhaodd hwyl,
Hyd ei arch, gyda'i orchwyl.