Neidio i'r cynnwys

Gwaith yr Hen Ficer/Gweddi Dros yr Eglwys

Oddi ar Wicidestun
Y Rhyfel Mawr Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards

GWEDDI DROS YR EGLWYS, YN LLAWN O
DDYMUNIADAU GRASOL.

ARGLWYDD grasol, cadw d'Eglwys,
winwydden deg y blanwys
Dy ddeheu-law di dy hunan,
O'r dechreuad yn dy winllan.

N'ad i'r baedd o'r coed ei thurio,
N'ad i'r bwystfil gwyllt ei chropio;
N'ad un gelyn, er mwyn Iesu,
Ei hanrheithio byth na'i sathru.

Bydd yn wal o dân o bobtu,
Ddydd a nos, gan ei chwmpasu;
Bydd a'th lygad arni'n wastad,
A'th fraich rymus yn ei gwarchad.

Cadw hi megis byw dy lygad,
Portha hi fel praidd yn ddifrad,
Trwsia hi fel dy anwyl briod,
N'ad un gelyn byth i gorfod.

Gwella ei gwelydd, cod ei bylchau,
Gwylia ei phyrth a chweiria'i thyrau,
Cadarnha bob barr sydd ynddi,
N'ad un gelyn i difrodi.

N'ad i Dwrc, na Phab, na phagan,
Na'r un pennaeth, waethu'th winllan,
Ond bydd elyn i'w gelynion,
A difetha ei digasogion.

Glawia arni yn gafode,
Dy fendithion nos a bore,
Nes y tano osgle'i gwinwydd,
Dros y byd o'r môr i'w gilydd.


Tafla i lawr, a dryllia'n gandryll,
Rwysg y ddraig, a'i theyrnas dywyll;
Adeilada ym mhob cornel
Deyrnas Crist, a sathra'r cythrel.

Crist, a'th ana'l llwyr ddifetha
Y mab anwir sy'n ymddyrcha;
A'r hen butain goch sy'n yfed
Gwaed y saint, i dorri ei syched.

Gwna i'r 'fengyl wenn farchogaeth,
Trwy'r holl fyd at bob cenhedlaeth,
I gael gorfod a gorchfygu;
A thro bawb o'th blant i'w chredu.

Adeilada o gylch gwmpas,
Ym mhob gwlad dy rasol deyrnas,
Ym mhlith Groegiaid ac Iddewon,
Gwna hwy, Arglwydd, yn Grist'nogion.

I Iddewon gwna drugaredd,
Dangos iddynt dy wirionedd;
Tynn eu hanghrediniaeth ymaith,
Derbyn hwynt i'th gorlan eilchwaith.

A bendithia bob rhyw deyrnas,
Lle addolir Crist yn addas;
Cadw'r 'fengyl sanctaidd iddynt,
Nes del Crist i farnu rhyngddynt.

Nodiadau

[golygu]