Neidio i'r cynnwys

Gwaith yr Hen Ficer/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Gwaith yr Hen Ficer Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y Cynhwysiad

Rhagymadrodd.

GANWYD Rhys Prichard yn Llanymddyfri, tua 1579. Yr oedd yn hynaf o blant tad da ei fyd. Aeth i Rydychen, i Goleg yr Iesu, yn 1597; cymerodd ei urdd a'i radd yn 1602; a daeth yn ol yn ficer Llandingad a chapelwr Llanfair ar y Bryn. O hynny i'w fedd, bu'n byw yn ei dŷ ei hun yn Llanymddyfri, rhwng y ddwy eglwys. Gŵr prudd a charcus oedd, mewn oes lawen a gwastraffus,—

Rhai sy'n chwerthin am fy mhen,
Am fod yn sobr heb fawr wên:
Minne'n wylo'r dagrau heilltion
Weld pob rhai o'r rhain yn feddwon.

Y meddw chwarddodd am fy mod
Yn cadw ngheiniog yn fy nghôd,
Yn awr sy'n wylo'r dŵr yn ffrwd
Wrth fegian ceiniog fach o'm cwd.

Yr oedd iddo wraig, Gwenllian; a mab, "Sami Bach," gafodd fywyd gwyllt a marwolaeth ddisyfyd. Cafodd ffafr gan ddau archesgob, Abbott Biwritanaidd a Laud ddefosyniol, ficeriaeth Llanedi yn 1613, prebendariaeth yn Aberhonddu yn 1614, a changeloriaeth Tyddewi yn 1626. Ac nid segur oedd y Ficer yn ei swyddi; pregethodd mewn oes ddi-bregeth. Bu farw tua 1644, a chladdwyd ef yn Llandingad; ond ni wyr neb ple mae man ei fedd.

Daliodd i lefaru yn ei benhillion byrion, syml, llawn profiad. O 1646 hyd heddyw, goleuwyd ei Ganwyll tuag ugain o weithiau. Bu Stephen Hughes, Gruffydd Jones o Landdowror, a'r Athro Rice Rees, ymysg casglwyr a chyhoeddwyr ei waith. Yn y gyfrol hon ceir y caneuon sy'n taflu goleuni ar fywyd Cymru yn ei oes ef ei hun. Treuliodd ei febyd ym mlynyddoedd olaf rhwysg Elizabeth, pan oedd y genedl yn un, a'r eglwys yn borth iddi. Yn ddyn, gwelodd ddwy blaid, dan deyrnasiad lago I. a Siarl I., yn graddol ymffurfio, ymchwerwi, a pharotoi i ryfel. Puritan oedd ef; ond arhosodd yn Eglwyswr a Brenhinwr. Ym merw y Rhyfel Mawr y bu farw.

Yr oedd ei Gymru ef yn dywell, meddw, anonest, ac aniwair; ac amcan ei bregethu a'i ganu oedd ei gwneyd yn oleu, sobr, gonest, a glân. O Loegr deuai awydd am gyfoeth ac awydd am bleser, plant naturiol llwyddiant masnach y dyddiau hynny. O Loegr hefyd, deuai Beibl a phla. Rhydd y ficer holl groesaw ei galon i'r Beibl bach. Y mae ei ddarluniadau o bla 1625 yn hynod gywir, yn ogystal a byw a chynhyrfus, fel y gellir gweled trwy eu cymharu â "Britain's Remembrancer" George Wither. Yn wir, ni cheir gwell darlun o dyfiant Puritaniaeth na'r hyn a fedrwn dynnu o benhillion y Ficer. Y peth yw Morgan Llwyd i ail hanner yr unfed ganrif a'r bymtheg, hynny yw'r Ficer Prichard i'r hanner cyntaf.

Ac o'r penhillion hyn y tarddodd llenyddiaeth gwerin Cymru. Canwyll, nwy, trydan,—dyna'r Ficer, Williams Pantycelyn, Islwyn.

Llanuwchllyn,OWEN M. EDWARDS.

Rhag. 31, 1908.

Nodiadau

[golygu]