Gwallt Llio

Oddi ar Wicidestun
Neidio i: llywio, chwilio

gan Dafydd Nanmor

Llio eurwallt lliw arian,
llewychu mae fal lluwch mân.
Mae ar ei phen, seren serch,
lliw rhuddaur, Llio Rhydderch.
Ni bu ar wŷdd, un bêr iach,
afal Anna felynach.
Mewn moled aur a melyn
mae'n un lliw â'r maen yn Llŷn.
Ar iad Llio rhoed llyweth
a noblau aur yn y bleth.
Gwnaed o'r bleth ganbleth i'w gwau,
tair brwynen tua'r bronnau.
Ac na fynned gwen fanwallt
gribau gwŷdd i gribo'i gwallt;
dycer i wen er deg grod
gribau esgyrn geirw bysgod.
Mae ar ei phen, mor hoff yw,
mawr fanwallt Mair o Fynyw.
Mae'r un wallt, mal am war Non,
ar fronnau'r môr forynion.
Mihangel sy walltfelyn,
ac un wallt ag ef yw 'nyn.
On'd un lliw y fantell hon
â chawgiau y marchogion?
Mal efydd, mil a ofyn
`Ai mellt nef?' am wallt fy nyn;
ai plisg y gneuen wisgi?
Ai dellt aur yw dy wallt di?'
Llwyn aur neu ddau i'r llan a ddoeth,
llwyn banadl, Llio'n bennoeth.
Llen gêl a fo ei llwyn gwallt
am ein gwarrau mewn gorallt.
Dwy did lle y dodid awdl,
dau dasel hyd ei dwysawdl;
y mae'r ddwydid o sidan
am Lio'n glog melyn glân,
ac mae'n debyg mewn deubeth
i flaen fflam felen ei phleth.
Llwyn pen lle ceid llinyn parch,
Padreuau y padrïarch.
Ar iad bun erioed y bu
wisg i allel asgellu.
Crwybr o aur ban i cribai,
pwn mawr o esgyll paun Mai,
yn ail cyrs neu wiail caets,
fal aur neu afal oraets.
Mawr y twf, mae ar iad hon
mil o winwydd melynion.
Unlliw ei gwallt, yn lle gwir,
â chwyr aberth o chribir.
Mae'r gwallt mwya' ar a gaid
am ei gwar fal mwg euraid.
Ni ad Duw gwyn (nid du ei gwallt)
farw Llio frialluwallt.