Gwarchan Cynfelyn

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Pei mi brytwn
pei mi ganwn;
tardei warchan gorchegin.
Gweilging torch trychdrwyt
trychethin trychinfwrth.
Kyrchessit en avon
kynn noe geinnyon.
Tyllei garn gaffon;
rac carneu riwrhon.
Ryveluodogyon.
Esgyrn vyrr vyrrvach varchogyon.
Tyllei ylvach
gwryt govurthyach.
Ryt gwynn rae eingul
yawn llad. yawn vriwyn vriwyal.
Rach canhwynawl cann.
Lluc yr duc dyvel
disgynnyal alel.
Y bob dewr dy sel.
Trwy hoel trwy hemin;
trwy gibellawr a gemin.
Ac eur ar dhrein
a galar dwvyn dyvyd;
y wynnassed velyn.
E greu oe gylchin;
Keledic ewyn.
Med mygyr melyn.
Eil creu oe gylchyn;
rac cadeu Kynvelyn.
Kynvelyn gasnar
Ysgwn bryffwn bar.
Goborhtyat adar
ar denin dwyar.
Dyrreith grad voryon;
adan vordwyt haelon.
Kyvret kerd wyllyon;
ar welling diryon.
Teyrn tut anaw
ysemu e gwynaw;
eny vwyf y dyd taw.
Gomynyat gelyn;
ehangsett ervyn.
Gochaw kyrd keinmyn;
yw gwarchan Kynvelyn.
Gorchan Kynvelyn kylchwy wylat;
etvyn gwr gwned gwyned e wlat.
Dychiannawr dewr dychianat.
Eidyn gaer gleissyon glaer
kyverthrynneit.
Kein dy en rud enys gwerth
ruduolawt ved meirch
eithinyn neut ynt blennyd.
Gwarchan kynvelyn ar ododin
neus goruc o dyn dogyn gymhwylleit.
E wayw drwn oreureit am rodes
poet yr lles yw eneit.
Etmygir e vab tecvann;
wrth rif ac wrth rann wyr catvan
colovyn greit.
Pan vyrywyt arveu
tros benn cat vleidyeu
buan deu en dyd reit.
Try wyr a thrivgeint a thrychant
i vreithyell gatraeth y d aethant.
Or sawl yt gryssyassant
uch med menestri; namyn tri nyt atcorsant.
Kynon a chadreith. a chatlew o gatnant.
A minhe oni creu dychiorant.
Mab coel kerth vygwerth y a wnaethant;
o eur pur a dur ac aryant.
Evnyvet nyt nodet e cawssant;
gwarchan kyrd kynvelyn kyvnovant.