Gwel Grist yn dyfod ar y cwmwl draw

Oddi ar Wicidestun

Mae Gwel Grist yn dyfod ar y cwmwl draw yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)

Gwel Grist yn dyfod ar y cwmwl draw,
A phob awdurdod yn Ei nerthol law!

Cerubiaid fyrdd, yn eu cerbydau tân,
Yn gyru'n glau o gylch eu Harglwydd glân!

Y ddaear gryn, y beddau ymagorant;
Cân udgorn Duw, a'r meirw a gyfodant!