Gweledigaeth Olwen

Oddi ar Wicidestun
Gweledigaeth Olwen

gan Robert Roberts (Silyn)

A mi yn niwl un nawn yn crwydro'n brudd
Damweiniodd gweledigaeth ar fy oes,
A thrymder tristwch rhag ei glaned ffoes,
A gwrid ail fywyd ddaeth i liwio 'ngrudd.

Mi welwn gyfoeth tlysni deunaw oed
Ar degach pryd na blodau'r afal bren,
A gwallt mor ddu a'r muchudd ar ei phen,
A meillion glân yn tyfu'n ôl ei throed.

A gosgedd duwies rhoddodd im' ei llaw,
Ei llais fel swyn ddisgynnai ar fy nghlyw,
Mewn gwên ymloewai 'i llygaid duon hardd;
O flaen ei goleu ciliodd niwl a glaw,
A thwnnodd haul i beri imi fyw
Byth mwy i'r delediwaf ferch yn fardd.