Gwelir mai'r bedd yw llety'r doeth

Oddi ar Wicidestun
Mynwent yn ninas Caer

Mae Gwelir mai'r bedd yw llety'r doeth yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Gwelir mai'r bedd yw llety'r doeth,
Y ffôl a'r annoeth hefyd;
Marw yw'r naill, a marw yw'r llall,
I arall gad ei annedd.


Daw dydd i'r cyfiawn, trannoeth teg,
Daw i'm ychwaneg estyn,
Daw i'm o'r bedd godiad i fyw,
Deheulaw Duw a'm derbyn.