Gwilym ab Ioan gan Risiart Ddu o Wynedd

Oddi ar Wicidestun

Pryddest: Gwilym ab Ioan. [1]

Pryddest gan Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd) i gofio am ei gyfaill y bardd William Williams (Gwilym ab Ioan).


"Y Bryddest hon oedd y fuddugol yn Eisteddfod Utica, Ionawr 1. 1869."

I[golygu]

"MAE wedi marw! " dyna'r geiriau sydd
Yn rhwygo'u ffordd o lawer calon brudd.
"Mae wedi marw! " O! 'r fath iaith yw hon,
Yn rhwygo'r enaid, ac yn fferu'r fron :
Llefaru wnant am wely oer y bedd,
Am arch, am amdo, ac am welw wedd ;
Ac Ow ! am welw wedd anwylaf un,
A garai pawb a garent gywir ddyn.
Nid cywir ddyn ychwaith yn unig oedd,
Medd ceinion ei athrylith ag un floedd:
Dyn anwyl, llenor gwych, a bardd o fri,
A gollwyd oll, pan y collasom di,
Ab loan hoff, a chladdwyd ein holl hedd
Pan syrthiai'r briddell ar dy dyner wedd.


Yn nghwmni gweddw drist, yn nghwmni prudd
Ei blant amddifaid, wylant nos a dydd,
Yn nghwmni llawer Cymro o'r iawn ryw,
A bron hiraethus, ac â chalon friw
Dynesu wnaf, wrth lewyrch gwan y lloer,
A dagrau brwd i wlychu'r ddaear oer:
Mae'r bedd yn oer — yn oerach nag erioed,
O herwydd bron mor gynes ynddo roed.
Ond beth ddywedaf uwch y tywyrch hyn ?
Pa iaith ddatgana fy nheimladau syn ?
Wrth ceisio cludo gofid maith fel hwn,
Pob gair sy'n pallu — cwympa dan ei bwn.
'Does dim i'w wneud ond tewi, fel y nos,
Ac wylo'n ddystaw fel y lili dlos.


II.[golygu]

Mae yr haf yn d'od a'i geinion
I addurno dol a gardd,
Ond pwy gana'i glod yr awrhon ?
Seliodd angau enau'r bardd!
Mae y tafod fu'n darlunio
Tegwch swynol bro a bryn,
Wedi fferu yn y beddrod,
Wedi tewi yn y glyn.


Deuwch, feirdd, a hidlwch ddagrau —
Dagrau cariad, uwch ei fedd,
A chydgesglwch dyner flodau
I addurno'i wely hedd :
Hawdd y gellwch alarnadu
Am eich athraw tirion gynt,
Nid oes eisieu ffug alaru —
Aed pob rhagrith gyda'r gwynt.


Hynod brydferth oedd ei fywyd,
Ac anwylaidd oedd ei wedd :
Nid oedd dichell yn ei ysbryd,
Nid oedd gwenwyn yn ei wledd;
Fel yr hoffid ei gyfarfod !
Fe'i croesawid megys tad,
Llamai'r plant o'i wel'd yn dyfod,
Gwenai henaint mewn boddhad.


Isel, hynaws oedd ei anian,
Diymhongar oedd ei fryd,
Taenai fantell gostyngeiddrwydd
Dros ei ragoriaethau i gyd ;
Fel ehedydd, gallai esgyn
Tua'r nef ar esgyll dawn,
Fel ehedydd, hoffai hefyd
Wneud ei nyth yn isel iawn.


Mae rhai adar na chanfyddir
Eu gogoniant, er mor hardd,
Nes y lledant edyn euraidd
Yn holl urdd tryliwiog ardd ;
Felly Gwilym, ni chanfyddem
Pa mor brydferth ydoedd ef
Nes y lledodd edyn dysglaer,
Gan ehedeg tua'r nef.


III.[golygu]

Tra hoff gan hiraeth dramwy
Yn ol i Feirion gu,
A syllu drwy ei ddagrau
Ar wedd y Tyddyn Du ;
Mae'r ffermdy gwledig acw
Yn meddu bythol swyn,
Can's rhwng ei furiau hoff ryw ddydd
Y ganwyd Gwilym fwyn.


Ha ! dyna'r afon Lafar
Yn llifo megys gynt,
Mor fynych ar ei glanau
Bu Gwilym ar ei hynt ;
Wrth glywed si yr afon,
Ac odlau syml ei dad,
Ei Awen ieuanc a ddeffrodd,
I byncio mewn boddhad.


Canfyddai yr Arenig
Dan goron heulwen der,
A'r Aran o'r tu arall
Yn siarad hefo'r ser ;
Canfyddai 'r Llyn* ysblenydd, (* Llyn Tegid).
Fel gwydr gloew glân —
Cynhyrfai hyn awyddfryd mwy
I seinio peraidd gân.


Lion achles yn Llanuwchllyn
A ga'dd ei Awen o,
A chanodd am y goreu
A'r Eos* lawer tro; (*Y Prifardd Eos Glan Twrch)
Yr oedd y gwobrau by chain,
Dderbyniai'r adeg hon,
Yn wystlon hoff o wobrau gwell
Dderbyniai bwnt i'r don.


Er fod ei serch yn llosgi
At Gymru, megys mam,
A'i galon oll yn gariad
At anwyl iaith ei fam,
Fe foriodd i'r Amerig
Dros donau'r eigion llaith,
A'i ddwfn wladgarwch llawn o dan,
Ni chollodd ar y daith.


Yn gyflym y cynyddodd,
Er bod yn mhell o'i wlad,
Ac uchel yr esgynodd
Hyd risiau gwir fawrhad ;
Ei odlau per gyrhaeddent
I glustiau Cymru Ion,
Anfonai hithau euraidd dlws* (*Cyfeiriad at dlws aur a enillodd yn Eisteddfod y Fenni)
Yn addurn hardd i'w fron.


Mor hyfryd yw yr adgof
Am gampau gwych ei oes,
Am swyn ei Awen dyner
A'i garedicaf foes ;
Ond try y wledd yn alar,
A derfydd ein holl hedd,
Pan gofiom fod yr anwyl un
Yn nystaw lwch y bedd.


IV.[golygu]

Angel i ni fel englynwr — ydoedd
Y nodedig fydrwr ;
Elai'n llon galon pob gwr
Tan nodau pert ein hawdwr.


Nyddai ei gynghaneddion— a'i odlau
Fel odlais angelion ;
Toddai, gwefreiddiai y fron
A ffrwd ei amgyffredion.


Nid dewrwyllt yni taran — hynododd
Ganiadau Ab loan ;
Ond swynol a denol dân
Enynai dirion anian.


Canai ei lwys acenion — ac adar
Y coedydd äi'n fudion;
Gwrandawent, adwaenent dôn
Ei fir odlau hyfrydlon.


Yn angladd y saer englyn — Awen hoff
Wylai'n hallt mewn dychryn:
Rho'i o'i dwylaw aur delyn
Gyda gloes ar goed y glyn.


Y bardd ariandlysog Ab Ioan,
Pa le'r wyt yn oedi cyhyd ?
Er chwilio am danat yn mhobman,.
'Rwy'n methu dy weled o hyd ;
A aethost yn ôl tua'r Bala,
Lie cefaist dy fagu yn llon ?
Na ! aethost yn mlaen tua'r beddrod,
Nes peri dwfn dristwch i'n bron.


Mor hoff fyddai'th glywed yn traethu
Hanesion am Gymru a'i phlant,
A'th fwynlais yn cyffwrdd y galon,
Fel cerddor yn taraw ei dant ;
Ac yna dy beraidd englynion
A'n llonent fel cyfaill ar daith —
'Roedd pob ryw ddigwyddiad Cymroaidd
Yn rhoddi dy Awen ar waith.


Yr enwog wladgarwr, Ab loan,
Pa le'r wyt yn oedi cyhyd ?
Enwogion ddylifant o Gymru,
A hoffent gael gweled dy bryd;
Paham na phrysuret, fel arfer,
I'w cyfarch yn fwynaidd a llon?
Ha! angau yn unig a allai
Dy atal ar adeg fel hon !


VI.[golygu]

Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn effro, —
Effro gan ofid, gorthrymder, a gwae ;
Effro gan derfysg anhyfryd freuddwydion,
Effro gan hiraeth yn holi " P'le mae ? "
Pan fyddaf o'm blinfyd am enyd yn huno,
Dych'mygaf y gwelaf diriondeb ei wedd,
Ond buan deffroaf o'm mwyniant i gofio
Na welaf fi mwyach ond careg ei fedd.


Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn effro, —
Effro fel gwyliwr y nos ar y mur ;
Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn wylo, —
Wylo dan bwysau ei chyni a'i chur ;
'Rwy'n cysgu gan ofid, un wedd a'r dysgyblion,
Pan hunent yn bruddaidd ar dywyrch yr ardd
Ond ofer im' gysgu, can's effro yw'm calon, —
Effro wrth chwilio am Wilym y bardd.


Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn effro,
Ond derfydd yn fuan fy mreuddwyd dihedd :
Pan ddelo marwolaeth i gloi fy amrantau,
Caf huno'n dawelacb dan leni y bedd ;
Caf gysgu'n ddialar, a deffro i wynfyd, —
Deffro i wynfyd, gogoniant, a chân ;
A gwelaf Ab loan, a theimlaf ei ganiad
Yn rboddi holl deimlad fy mynwes ar dân.


Rhosynau a blodau prydfertbaf fo'n gwylio
O amgylch ei feddrod, fel engyl bach heirdd,
A bydded i anian A'i dagrau eneinio
Y fan lle gorwedda'r anwylaf o'r beirdd ;
Fel cywir wladgarwr bydd ddysglaer ei goron,
A'i enw a geidw pob Cymro rhag cam,
Tra'n teimlo gwefreidd-dân ei wresog englynion
Yn enyn ei galon Gymroaidd yn fflam.

Ffynhonell[golygu]