Gwnes addunedau fil

Oddi ar Wicidestun
Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru

gan Morgan Rhys

506[1] Cadw'r llwybyr cul
664. 6664.

1 GWNES addunedau fil
I gadw'r llwybyr cul,
Ond methu'r wy';
Preswylydd mawr y berth,
Chwanega eto nerth
I ddringo'r creigiau serth
Heb flino mwy.

2 Gelynion lawer mil
Sy o ddeutu'r llwybyr cul,
A minnau'n wan;
Dal fi â'th nerthol law
Rhag cŵympo yma a thraw:
Ym mhob rhyw drallod ddaw
Bydd ar fy rhan.

3 Dan gysgod gwych y pren
Sy â'i frigau uwch y nen,
Trig f'enaid byw;
Er g'lynion rif y gwlith,
A sŵn y stormydd chwith,
Mi lechaf tano byth,
Fy noddfa yw.

Morgan Rhys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 506, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930