Gwrandawed di, yr Arglwydd Ner

Oddi ar Wicidestun

Mae Gwrandawed di, yr Arglwydd Ner yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)

Gwrandawed di, yr Arglwydd Ner,
Pan ddêl cyfyngder arnad;
Enw Duw Jacob, ein Duw ni
A'th gadwo di yn wastad.


O'i gysegr rhoed it help a nerth
A braich o brydferth Seion;
Cofied dy offrwm poeth a'th rodd,
Bo'r rhain wrth fodd ei galon.


Cadw ni, Arglwydd, a'th law gref,
Boed Brenin y Nef drosom;
Gwrandawed hwnnw arnom ni
A'n gweddi pan y llefom.