Gwreichion

Oddi ar Wicidestun
Saunders Lewis Gwreichion

gan Robin Llwyd ab Owain

Amser
Ymgais aflwyddiannus am Goron yr Eisteddfod Genelaethol; cyhoeddwyd gyntaf yn Barddas, Medi 1990). Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Is-deitl: I Ble'r Awn fel Cenedl?

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



1. Creu[golygu]


Draw,
gwelaf dren
mewn gorsaf
dan eira'n gaeth, tan glo,
a than yr amdo'n barlys o rew.

"Un dydd," medd taniwr y tren
a'i drem ar ysgawen draw,
fe dry'r brigau sychion hyn yn aeron iraidd!"

Draw, ar ben y berth, dacw lygedyn melynwyn
yn fflam o aileni
a cholomen ddinam a fu'n cardota am dir
yn stwyrian yn y distawrwydd wrth wneud ei nyth.

Dacw eginyn planhigyn yn agor,
fel murmur o olau'n meirioli gafael y gaeaf
ac yng ngwyll y goedwig angau, llygedyn arall
yn dadmer y fyddin gonifferaidd,
un bore hir,
a hi'n bwrw haul.

Mi welaf yr olwynion ar y rheiliau yn gwreichioni ymylon a lon
ac yn cynnau cenedl,
a draw, lle bu'r gawod o ser, y dadmer yn dirf!

Clychau'r dref yn tincial ochor draw:
fe'u clywaf hwy'n atseinio'r drin
a chyfrinach forwynol
y gyrrwr, y taniwr a'r llumanwr mwyn.

Arhosaf o fewn yr orsaf, ennyd.

Crensian esgidiau-loncian yn pystylad ar lon
ac oernad rwygol aradr eira.

Ffatrioedd yn gwallgofi tan graffiti'r ieuanc,
pob slogan yn riddfan rhugl
a phob sgribl yn sgrech.

Wybren yn dadebru
a'r pibonwy'n diferu ar dir ein hamynedd
yn fysedd ar fwrdd
neu dadwrdd drymiau dawns,
neu fwledi'n cofleidio cyrff.
Blociau o fflatiau'n dihuno yn hafflau'r haul;
cryndodau gwingllyd ceir yn cynhesu
ac oernadu seiren ar ol seiren yn llenwi'r dref -
a'r cyfan yn datgan
fod un
yn dadlaith ohoni hi ei hun
genhedlaeth newydd.


2. Dileu[golygu]


"Edrychwch drwy'r ffenestri!"
Uchod, mae'r mynydd du'n diferu o dan
a'r hogiau'n ei ffyrnig ddiwel dros y ddaear
gan lygadu'r egin a'r Mehefin y tu hwnt i'r heth.

Ein geni ddoe ohoni hi'r Famddaear yn noeth,
yn benboethiaid,
heb fresys, heb grys ar groen!

'Does dim yn eiddo i ni,
na phiano na ffenestr na ffôn,
a 'dydi'r llestri pridd yn ddim ond rhai dros dro;
'dydi cyfreithlondeb y dderbyneb yn ddim
mwy na gweithredoedd neu gytundeb y ty.

Ar fenthyg mae'r egin a'r grug
a brych pydredig y groth,
benthyciwyd i ni ein breuddwydion,
nid yw'n coluddion ond clai.

Nid oes einioes yn eiddo i neb,
na gwas na chaethwas na'r un forwyn chwaith,
nac enaid wedi'i lurgunio gan genedl,
nac un anifail genetig wedi'i gynaeafu.

Y ddaear bia'r bywyd i gyd sy'n ei gwely gwâr!
ninnau ei lletywyr esgeulus yn ei gwylad
a hithau'n gwelwi.
Ei gwarchod a wnawn am brynhawn ein hoes
fel y Winllan honno a roddwyd i'n gofal gynt.
A phwy yw perchen y ddaear ond y dyfodol pellennig:
y grym yn y groth,
ein hyfory niferus?
Hyn yw'n heiddo, nid heddiw.

Llunio'r yfory yw ein difyrrwch,
ein heiddo a'n meddiant,
a'i lunio
drwy greu,
dileu
ac adeiladu.
Oblegid ni yw etifeddion y tân a lysg yr hil
o'i gaeaf i'w haf hi,
a'i thraddodi o genhedlaeth i genhedlaeth.

Onid oblegid y blagur y tasgwn y tân ohonom
yn gawod, uchod ar y mynydd du
lle buom yn dileu'r heth, y banadl a'r eithin
a gwreichioni'r grug?

Ac yna, wedi diffodd ohonom fel cannwyll,
dychwelwn i'r ddaear yn noeth
ac yn oer,
heb fresys na chrys na chroen!

3. Dileu (eilwaith)[golygu]


Môr o law'n gorthrymu'r wlad,
yn dirlithriad ar lethrau,
yna, eiliad o dawelwch.

O 'mlaen ar y cledrau saif maen mud
yn fur rhyngom a'n hyfory.

Clywch! Dacw'r taniwr yn galw'r gofaint i wneud gyrdd!
Gwneud i ddadwneud a wnawn,
a dadwneud i ddadeni wedyn.
Af i ganlyn y gwyr ifanc i efail
y fro sy'n goleuo gwlad.

Braich ar ôl braich yn rhannu ffurfafen o wreichion
i'n calonnau clyd, a'r fflam yn llamu ym mhob corff!
Troi, i ddychwelyd i'r trên:
'Y tren olaf adref!'
yn swn trosolion ac ergydion gyrdd.

Miwsig cyntefig grwp mewn tafarn
yn torri difaterwch hynafgwyr
yn seibiau oerion o ddistawrwydd rhwng barrau eirias;
a gwelais genhedlaeth yn dileu cenhedlaeth
mewn anadliad!

Llafnau o feirdd mewn ymryson
yn unioni hunaniaeth ar hen einion.
Trywanu'r gwreichion yn farddoniaeth
gyfoes o oesol,
yn ferw ei nwyd, nid rhyw farwnadau.

Pren ysgawen mewn parc yn gwisgo'i hun
â les ei gwanwyn hi, a'r gwyn fel plisgyn wy.
Wrth ei bôn: swp o arwyddion ffyrdd yn deilchion
yn ei llwyn fel dail llynedd.

Draw ar fryncyn,
dacw furddun a fu'n gartref unwaith.
'Gwell adfail na phlas ysbeiliwr!' ebe'r taniwr, toc.

Chwiban y llumanwr -
ond yna, rasal o sgrech las, 'Arhoswch!
Mae hyn yn drais.'

'Trais,' ebe'r llumanwr
'yw'r ffust yn ystlys fy merch,
y gatrisen ym mhen fy mab
a'r hollt ym mhenglog fy mrawd.
Hyn yw trais.
Ni wyr na maen na phren na dur un dim
am gur a gwewyr hil!'

Ac ebe'r taniwr, 'Ymlaen!
Nid yw'r daith ar ben!'


4. Adeiladu[golygu]


Try olwynion olyniaeth
tua'r haf y tu hwnt i'r trwyn.

Aros orig am seibiant cyn ei gyraedd.

Clywch swn plant fel clychau,
draw ar wefus o draeth;
pob un yn Gymro uniaith yn adeiladu wal lydan
o dywod a'i chodi'n warcheidiol
rhag i'r môr estron ddiffodd fflam eu calonnau.

Gair ar ben gair yn troi'n frawddegau hirion
a'r geiriau'n union fel y gronynau
yn treiglo, llithro i'w lle.

Brawddeg ar frawddeg yn ynganu 'Rhyddid!'
gan fydryddu'n orchest o rap
a'r geiriau ifanc, gwyryfol
yn glystyrau tanbaid ar glawdd!

Rhawiad ar rawiad o baragraffau diatalnod
a'u nodau'n codi a dringo fel ehedydd;
llefaru'r plant yn llif euraid,
pob un â'i dafod ar dân
fel draig ar wefl o draeth.
Pob gair yn clecian fel gwreichionen eirias
neu follten ar fur!

Mor hyglyw ydyw'r iaith â hi'n doreithiog,
yn gyfoethog ar riniog yr haf -
nid rhyw gyfieithiad!

Clywch!
Iaith euraidd yw gwneuthuriad
y mur, a mur yr hil yw'r Gymraeg;
hi yw'r gobeithion bythol,
y gwreichion
a'r aeron ifanc a dyf ar bren hynafol
yr ysgawen.

Troi at daniwr y trên
i'w holi'n awchus pa bryd y cawn ni gychwyn
tua'r haf y tu hwnt i'r trwyn.

Ond nid oedd yno
ond ei fflam
a'i air.