Gwrid y Machlud/Ar y Traeth

Oddi ar Wicidestun
Y Machlu Gwrid y Machlud

gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)

Y Parch. Gwynhefin Thomas

AR Y TRAETH

GWYLAIN a welwn fel glân oleuni,
A'u swyn hudolus yn suon dyli,
Yr ewyn terwyn ar draeth yn torri,
A'r dyner heulwen ar donnau'r heli;
Islais chwerthin o'r glasli,—a hud haf
Ar hedd y geinaf erw ddigyni.


Nodiadau[golygu]