Gwrid y Machlud/Olwen
Gwedd
← Llyn y Morynion | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Wrth y Ffynnon → |
OLWEN
O DYWED, Olwen, pwy fu'n rhoi y glas
A'r chwerthin ysgawn yn dy lygad mwyn,
Ac ar dy ruddiau tlws y cochni trwm,
Unlliw rhosynnau'r haf ar berth a llwyn?
A phwy a weodd fanaur coeth yr allt
Yn glwstwr o fodrwyau yn dy wallt?
A gwelais neithiwr yn dy lygad glas
Ieuenctid mun yn ei deunawmlwydd oed,
A minnau'n gwasgu'n dynnach, a chael blas
Dy gusan melys yn nhawelwch coed.
'Doedd ryfedd fel yr oedai'r awel ffri
I chwarae, Olwen, yn dy dresi di.
A thariwn innau yno oediog dro
Pe ond i dynnu 'mysedd drwy dy wallt,
A syllu ar dy dlysni dan y coed,
A'r hwyr yn araf ddringo dros yr allt.
A'th wasgu'n dynnach, dynnach, Olwen ffri,
A chael yr allwedd i dy galon di.