Gwrid y Machlud/Symledd

Oddi ar Wicidestun
Claddu Gwrid y Machlud

gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)

Hen Wraig Drws Nesaf

SYMLEDD

DACW angladd bach yn mynd,
Dim ond hers ac wyth o ddynion;
Rhywun eto ar ei daith
Tua hendre y marwolion.

Gyrru'n araf ar y chwith
Drwy y dre â'i thorf ddi-ildio;
Ambell un yn tynnu ei het
Wrth i'r angladd bach fynd heibio.

Gyrru 'mlaen i olaf hun
Hendre dawel y marwolion;
Angladd syml, dyna i gyd,
Dim ond hers ac wyth o ddynion.


Nodiadau[golygu]