Gwrid y Machlud/Y Gwynt
Gwedd
← Wrth y Ffynnon | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Yr Hen Eglwys → |
Y GWYNT
DAETH rhywun acw neithiwr
Rhwng chwech a saith, am dro,
Bu'n curo ar y ffenestr,
A chwislo yn 'nhwll y clo.
Ni ddaeth i mewn i'r gegin,
Na chodi'r gliced chwaith;
Ond bu y gwalch yn curo
A chwislo lawer gwaith.
Mae'n rhaid nad oedd yn ddiarth,—
Pwy fedrai fod mor hy
A dod fel hyn i grwydro,
A ninnau yn y tŷ?
Daeth acw wedyn heno,
Yn gynnar ar ei dro;—
Ond crwydryn ydyw Morus,
A'i swn yn nhwll y clo