Gwrid y Machlud/Y Gyfrinach

Oddi ar Wicidestun
Yn y Cysgod Gwrid y Machlud

gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)

Claddu

Y GYFRINACH

DIM ond hers a chist fach wen
Yn troi yn araf tua'r glwyd,
A'r dyrfa bob yn ddau a dau
Yn dilyn drwy yr heol lwyd.

Neb yn gofyn Pwy na Ph'le,
Dim ond gyrru 'mlaen fel cynt;
Maddeued Duw brysurdeb tre
Pan fo'r marw'n mynd i'w hynt.

Dim ond hers yn troi yn ôl,—
Yn ôl yn wag trwy'r heol lwyd;
Duw'n unig ŵyr gyfrinach leddf
Y daith ddi-dychwel hwnt i'r glwyd.


Nodiadau[golygu]