Gwrid y Machlud (testun cyfansawdd)
← | Gwrid y Machlud (testun cyfansawdd) gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
→ |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Gwrid y Machlud |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
GWRID Y MACHLUD
Mae pedwar tudalen ar goll o'r llyfr. Tudalennau 61 a 62 (tudalen teitl yr adran "Cerddi ar Gynghanedd" a thudalen wag). Tudalennau 65 a 66 (cerddi "Y Cwm" a "Crwydro")
Gwrid y Machlud
CYFROL GOFFA
AP ALUN MABON
1903-1940
WEDI EI DETHOL A'I GOLYGU
GAN
J. W. JONES
BLAENAU FFESTINIOG
GYDA RHAGAIR GAN
Y PARCHEDIG E. LEWIS EVANS, M.A.,
PONTARDDULAIS
BLAENAU FFESTINIOG:
ARGRAFFWYD GAN J. D. DAVIES A'I GWMNI
SWYDDFA'R RHEDEGYDD
1941
CYFLWYNEDIG
I
MAM A GRACE
RHAGAIR
Yn sicr, nid oherwydd bod yr awenydd hynaws hwn yn fy nyled o ddim y telir i mi'r anrhydedd o gyflwyno'i gyfrol goffa. Yn wir, prin y gallaf obeithio imi wneuthur rhagor efallai na'i arbed rhag ambell siwrnai seithug ym myd llen. Ni ddisgwylir traethiad ychwaith ar gelfyddyd barddoniaeth, oblegid rhwng CERDD DAFOD, John Morris Jones, ac ELFENNAU BARDDONIAETH T. H. Parry-Williams, a llyfrau gwych eraill, y mae gan y Cymro bellach gyfarwyddiadau digyfeiliorn ar y pwnc. Diau mai gwell imi ydyw ceisio rhoddi i'r darllenydd yr allwedd honno sy'n agor y porth ar fyd arbennig AP ALUN MABON, fel y caffo'r dieithr ychydig gymorth i'w weld fel rhan o ddarlun mwy.
Fodd bynnag, ni ddaw ond hiraeth pur o gofio am fy nhywys i'w fyfyrgell yn haf 1926. Yn y gongl yr oedd Cadair Eisteddfod Porthmadog, ac ar y bwrdd gwelid gweithiau prydyddol Crwys, Eifion Wyn, W. J. Gruffydd a Hedd Wyn. Yr oedd y rhain ar agor, a chyfrolau eraill fel eiddo R. Williams-Parry o fewn cyrraedd agos; beirdd y ganrif hon bron i gyd. Nid oedd Islwyn yn y golwg, ac ni welid Ceiriog heb graffu'n fanwl. Os nad oedd ei awduron yn hen eu cyfnod, yr oedd tras rhai ohonynt felly, ac o ddamwain, bu'n hynod ffodus ar ei batrymau.
Yno yn ei gynefin yr oedd gŵr ieuanc, gwylaidd, rhadlon, a thwymyn prydyddu yn ei waed. Yr oedd rhyw wrando yn ei edrych, fel un yn clywed llais o ddarlun, ac yn ymwybod â lliw geiriau. Yn ei ymyl safai ei briod hawddgar, Grace Hughes—merch lygat-ddu. Edrychent ill dau megis yn cychwyn ar fordaith, ac antur obeithgar y bore yn eu trem.
Ond cyn hir wele wyneb y bardd yn pruddhau a chyn iddo gael gafael ar gan ei galon daeth gwrid fel ffoadur brysiog ar dro dros ei ruddiau, a phesychu bradwrus gydag ef. Naturiol oedd gofyn, beth sy'n cerdded enfys eu gwynfyd? ai blaendywynion rhyw "Ddeffrobani" yr yfodd gymaint o'i swyn, neu ynten wrid y machlud cynnar? Ysywaeth, daw "caledi'r graig a'r hin" i siarad yn y man, oblegid, os oedd ei ebill ef yn gryfach na'r clogwyni, yr oedd eu llwch yn wenwyn marwol iddo.
Un o blant Glanypwell, Blaenau Ffestiniog, ydoedd. Yno, ym Mryntirion, y ganwyd ef, yn fab i Alun Mabon Jones a'i briod, a galwyd ef Richard. Derbyniodd ei addysg yn ysgolion dydd Glanypwll, a Phensarn, Amlwch. Aeth i Fon at ewythr iddo, a thra bu yno dechreuodd farddoni. Bu rhai o feirdd Amlwch yn rhywiog iawn wrtho, ac anogasant ef i ddal ati, yn enwedig gwyr fel David Jones a Dyfrydog. Enillodd glust a llygad y cylch pan gipiodd wobr bwysig am draethawd ar Forgan Llwyd o Wynedd.
Ar ôl dychwelyd i 'Stiniog, troes i weithio i'r chwarel, ond bu dilyn gorchwyl y "meinar" dan y ddaear yn ormod treth ar ei gorff iraidd, a thuag wyth mlynedd yn ôl pallodd ei iechyd yn llwyr. Rhoes gynnig ar waith ysgafnach, eithr, er brwydro am fyw, a threulio ysbeidiau maith ym Machynlleth a Thalgarth, nis adferwyd. Ar Ddydd y Cadoediad 1940, angau a orfu, a chafodd yntau yr "hir hedd" y canodd droeon amdano. Gwyddai o'r gorau fod awr yr ymddatod yn nesáu. Dywedodd wrth Olygydd y gyfrol hon am gymryd gofal o'i bapurau, a nododd y fan y carai huno yng nghalon wenithfaen Bethesda, ac fe'i cafodd.
Llais o ganol yr ymdrech ddibaid hon a glywir yn y llyfr. Cerddi cystudd ydynt, a gwyrth ymron ydyw bod un yn gallu canu mor ber a chysgod y bedd yn ei ddilyn ar hyd y ffordd, Daliodd i ennill cadeiriau lawer o'r dydd y barnodd Llwyd Eryri ef yn orau yn llanc ugain oed.
Efallai y cofir amdano fel un a afradodd lawer ar ei awen ar lwybrau galar, oherwydd prin yr hebryngid neb at Droed y Manod Bach" nad oedd ef a phennill neu englyn tyner fel pelydr yn y nos. Bid a fo, yr oedd ef yn marw beunydd, a gwyddom iddo ddrachtio hyfrydwch wrth rannu cydymdeimlad. Cadwodd enw'r teulu'n loyw ym myd athrylith, ac os yw "Perorfryn" ar gadw yn y cerddi hyn, y mae ei daid, Eos Mai, a'i ewythr, Pencerdd Ffestin, yn enwog o hyd ar gof gwlad.
Wrth gyflwyno'r Gyfrol Goffa, mi wn nad o ffafr y croesewir hi gan feirdd a llenorion Cymru, oblegid ceir ynddi ddarnau o wir farddoniaeth, a thelynegion lled anghyffredin. Uwchlaw popeth, dylid llongyfarch y cyfaill llengar J. W. Jones, am ddethol mor gytbwys. Nid yw ond un arall o'i fyrdd cymwynasau i lên ei Wlad. Rhwydd hynt i lafur dihalog hyrwyddwyr yr anturiaeth.
E. LEWIS EVANS.
Pontarddulais,
- Mehefin 18, 1941.
CYNNWYS
I.—CERDDI RHAMANT A BYWYD
LLECH RONWY
LLYN Y MORYNION.
OLWEN
WRTH Y FFYNNON
Y GWYNT
YR HEN EGLWYS
YR OED OLAF
Y DDAU DDUWIOL
SIANI
YR ANTUR
II.—CERDDI MYFYR AC YMSON
TYBED
HIRAETH
HYDREF
Y GWRTHODEDIG
METHU â CHANU
Y DDAU FUNUD DISTAW
Y CAP GWAG
Y CADOEDIAD
Y NADOLIG HWN
III.—CERDDI'R CYSGODION
ANGEL GETHSEMANE
YN Y CYSGOD
Y GYFRINACH
CLADDU
SYMLEDD
HEN WRAIG DRWS NESAF
ELENI
CADI PUW
IORI
PERORFRYN
HUW PRYSOR
Y SANATORIUM
HOLI AC ATEB
JOS
Y GŴYS UNIG
I GOFIO TERRY BACH
CYMYDOG CAREDIG
STRAEN BYWYD
IV.—CERDDI AR GYNGHANEDD
Y MACHLUD
AR Y TRAETH
Y CWM[1]
CRWYDRO [1]
Y PARCH. GWYNHEFIN THOMAS
Y FFARWEL
Y DRYW BACH
YR ADERYN DU
FY MHROFIAD
V.—ADRODDIAD
BAD PENMAENRHOS
VI.—NOSWYLIO
FY MHRIOD
I
Cerddi Rhamant
a Bywyd
LLECH RONWY
Wrth un o feini Cwm Cynfal y cydir stori GRONWY BEBYR
ym Mabinogi Math, a thrwy'r fro y dihangodd BLODEUWEDD
cyn ei throi yn dylluan.
MI SAFWN gyda'r machlud
Yng nghysgod hir y main,
A gwelwn gochni'r dalar
Yn un â choch y llain.
Ac mi debygwn weled
Y "llech" ar fin y lli;
A gwaed y bradwr arni
Yn cuddio'i glesni hi.
Arhosais dan ganghennau
Y deri yn y cwm,
A'r gwair yn frodwaith rhuddgoch
Gan wrid y machlud trwm.
Ac mi debygwn weled
Y mab, y fun, a'r oed—
A'r gwaed yn lliwio'r blodau
A dyfai wrth fy nhroed.
Fe giliodd coch y machlud,
Daeth llwydni'r hwyr i'r llain,
A chlywn dylluan unig
Yn wylo uwch y main.
LLYN Y MORYNION
Ef biau'r enw o foddi ynddo forynion BLODEUWEDD.
Heddiw dioda Blwy Ffestiniog.
CHWYTH heno awel leddf i chwalu'r dŵr
Y cysgant dano yn eu breuddwyd hir,
A'u hirwällt llaes yn llonydd. Tawodd stŵr
Eu chwerthin llawen yn y tonnau clir;
Ni ddaw ond cwyn yr awel yn ei thro
I suo ar yr allt eu ffarwel mud,
Ac ambell hedydd bach o rug y fro
Yn swil ei dôn rhag tarfu hedd eu crud:
Tros risial gwyn y dŵr y taen y lloer
Ei chysgod trwm, fel tresi du eu gwallt,
Eu llun yn symud ar y gwaelod oer,
Ac yna'n darfod yng nghysgodau'r allt.
Ni ddeffry gwynt na lloer eu cysgu mwy,
Mae hedd y llyn yn dynn amdanynt hwy.
OLWEN
O DYWED, Olwen, pwy fu'n rhoi y glas
A'r chwerthin ysgawn yn dy lygad mwyn,
Ac ar dy ruddiau tlws y cochni trwm,
Unlliw rhosynnau'r haf ar berth a llwyn?
A phwy a weodd fanaur coeth yr allt
Yn glwstwr o fodrwyau yn dy wallt?
A gwelais neithiwr yn dy lygad glas
Ieuenctid mun yn ei deunawmlwydd oed,
A minnau'n gwasgu'n dynnach, a chael blas
Dy gusan melys yn nhawelwch coed.
'Doedd ryfedd fel yr oedai'r awel ffri
I chwarae, Olwen, yn dy dresi di.
A thariwn innau yno oediog dro
Pe ond i dynnu 'mysedd drwy dy wallt,
A syllu ar dy dlysni dan y coed,
A'r hwyr yn araf ddringo dros yr allt.
A'th wasgu'n dynnach, dynnach, Olwen ffri,
A chael yr allwedd i dy galon di.
WRTH Y FFYNNON
WRTH y ffynnon lân ddi-stŵr
Ar gae y Wenallt heno,
Ei phiser bach yn llawn o ddŵr,
Y gwelais wyneb Gweno.
Sefais ennyd gyda hi
Heb feddwl dim-ond siarad,
Ond pan ddaeth gwên i'w llygaid ffri,
Ce's fy hun ym magl cariad.
Fe soniai hi am ffynnon fach
Yn "rhoi" heb fynd yn brinnach,
A minnau'n son am galon iach
Oedd eisiau "rhoi"cyfrinach.
Wrth y ffynnon lân ddi-stŵr
Ar gae y Wenalit heno,
'Roedd cusan serch yn selio'r llw
Rhwng mab y Rhos a Gwenno
Y GWYNT
DAETH rhywun acw neithiwr
Rhwng chwech a saith, am dro,
Bu'n curo ar y ffenestr,
A chwislo yn 'nhwll y clo.
Ni ddaeth i mewn i'r gegin,
Na chodi'r gliced chwaith;
Ond bu y gwalch yn curo
A chwislo lawer gwaith.
Mae'n rhaid nad oedd yn ddiarth,—
Pwy fedrai fod mor hy
A dod fel hyn i grwydro,
A ninnau yn y tŷ?
Daeth acw wedyn heno,
Yn gynnar ar ei dro;—
Ond crwydryn ydyw Morus,
A'i swn yn nhwll y clo
YR HEN EGLWYS
A THRISTWCH hwyr yn cau, lle bu y cain
Allorau a'r canhwyllau, crwydrais dro; '
Roedd cysgod lloer yn llercian ar y main,
Ac awel lesg yn wylo drwy y tô;
Mud oedd y gloch a alwai'r dyrfa draw,
A'i rhaff yn pydru ar y trawstiau pren,
A llwch gaeafau'n cuddio ôl y llaw,
Llaw gywrain rhyw bensaer ar y ddelw wen;
Peidiasai'r ave hen a'r pader hir
O flaen y delwau Ilonydd ar yr hoel,
A thawodd mawl y saint a'r organ glir;
A gwibiai'r ystlum rhwng parwydydd moel
Yn haid ddiflino ar ddi-orffwys hynt
Dan gysgod llwyd y lloer a sŵn y gwynt.
****
DAN y lloer a'r gwynt, mor drist ei muriau llwyd
Yn nistawrwydd unig y nos ddi-wên,—
Minnau o grwydro weithion drwy y glwyd
Ar ofnus droed yn llaw atgofion hen
Debygwn glywed sŵn y clychau clir
O'r clochty tal yn galw dros y cwm,
A'r awel, hithau, drwy ganghennau hir
Y coed o bobtu'r ffordd yn sio'n drwm,
Minnau yn un o'r plant di-ofid, iach,
Yn cerdded drwy y glwyd yn sŵn ei chân—
Cyn dyfod poen i ran y bywyd bach,
Na phechod câs yn staen ar galon lân;
Ond breuddwyd oedd o ddalen atgof pêr,
Can's gwelwn uwch fy mhen y lloer a'r sêr.
OED OLAF
A'R hwyr yn cau ar y coed,
A'r lloer ar lannau'r lli,
Ym min yr allt 'r oedd man yr oed
I Men a mi.
A'r eira'n cau ar y coed,
Un hwyr yn gaenen wen,—
Y main a'r ŷw oedd man yr oed
I mi a Men.
Y DDAU DDUWIOL
sef Mr. a Mrs. JOHN ELLIS, Llwyn Eithin, Caeclyd.
DAU Syml oeddynt, digon plaen,
Dirodres—dyna'i gyd;
Ond ar eu crefydd yr oedd graen
Sydd heddiw'n brin drwy'r byd.
Nid crefydd undydd, sydd â'i dawn
Yn eglur ar y Sul;
Pwy fedr foli Duw yn iawn
A thynnu wyneb cul?
Nid crefydd pedwar mur a tho,
Sy'n llawn o ffugio byw;
Wnai hynny iddynt hwy mo'r tro
A hwythau'n 'nabod Duw.
Duwioldeb syml, dyna'i gyd,
Heb ffug tu ôl i'r wên;
Y bywyd hwnnw sydd o hyd
Yn dal heb fynd yn hen.
A heddiw uwch eu beddrod clyd
Hawdd gofyn dyma'r iaith—
"Paham mae seintiau yn y byd
Yn marw yn eu gwaith?
O na chaem weld eu tebyg hwy
Yn ein capelau'n awr;
Nid rhaid a fyddai ofni mwy
I'r" achos" fynd i lawr!
SIANI
Hen ferlen: gyda hi yr arferai'r bardd fynd â phregethwyr
i gapel Carmel, Pensarn, Môn.
NI DDAETH yr un pregethwr
I'th angladd, yr hen Siân,
Na neb o wŷr y capel
I uno yn y gân;
Rhyw angladd bach cyffredin
Heb fawr o stŵr na son,
Ond rhoi y pridd a'r cerrig
I'th guddio yn naear Môn.
Ni chanwyd geiriau Moab,
Nac Aberystwyth chwaith,
'Doedd ond y gwas a minnau
A'n gruddiau yno'n llaith;
A'r awel ar y cloddiau
Yn canu'i ffarwel drist
I un na bu'i ffyddlonach
I weision Iesu Grist.
Ni ddaeth yr un pregethwr
I'r angladd, yr hen Sian,
Am nad oedd yno fodur
I'w cludo ôl a blaen;
Mae'r harnais yn y stabal,
A thithau yn ddi-sôn,—
A'th drot yn ddistaw mwyach
I glyw pregethwyr Môn.
YR ANTUR
DILYNWN lwybr cam y ffridd
Ag antur yn fy ngwythi hen,
Pan gododd blodyn bach o'r pridd
A haul y gwanwyn yn ei wén.
Anadlwn awyr iach yr allt
Wrth groesi gwâl y cadno coch,
A threiddiai awel leddf drwy 'ngwallt
I ddwyn ei chusan ar fy moch.
Breuddwydiwn am oludoedd mwy
Na golud cynnar gallt a dôl,
A gwelwn fydoedd tlysach drwy
Yr antur yn fy nghalon ffôl.
Dilynais lwybr cam y ffridd,
Yn fud i'r gân oedd wrth fy nhraed,
Ac aeth yn angof flodau'r pridd
Pan gerddodd antur drwy fy ngwaed.
II.
Cerddi Myfyr ac Ymson
TYBED
A MI yn loetran ar y trothwy oer
Rhwng byd a'r olaf ffin,
A'r angau cas yn mynnu chwythu ei boer
Ar f'enaid blin
Tybed a ddeil fy lamp rhag llosgi'n llwyr?
A ddiffy'r golau gwan
A'm gadael yn nhywyllwch niwl yr hwyr
Ymhell o'r lan?
A'm hesgyrn gwael yn pydru yn y gro
Yn un o feirw'r bedd,
Ac anweledig wynt y nos ar dro
Yn gwylio'm hedd.
Tybed a ddaw rhyw ffrind at fin y main
Yn erw dawel Duw,
I blannu blodau'r grug yn lle y drain
Roed imi'n fyw?
HIRAETH
BREUDDWYD llwyd y lloer
Yn llonydd ar y lli,
Mor dawel y mordwyem—
Mair a mi.
Heno, trist ar y traeth
Yw'r gwyn o sŵn y gwynt,
Yn holi am anwylyd
Gerais gynt.
HYDREF
O GWYBUM heno gur
A phenyd blin Yr hydref garw,
Megis deilen grin Y cludir finnau
Gan y gwynt
Tu draw i'r ffiniau
Pellaf; diwedd hynt
A ddaw yn sgil yr hydre'
A'r gaeaf yn y coed
Yn galw'r crinddail adre'
Yn drwm ei droed.
Y GWRTHODEDIG
BREUDDWYDIAIS neithiwr ddyfod Crist
I'r byd dros drothwy'r nef;
Nid oedd ond mintai fechan drist
Yn ei groesawu Ef.
Gwibiai'r peiriannau bomio fry
A'u nadau yn ddi-daw,
A chyrff plant bach a mamau lu
Yn ddarnau yn y baw.
Gwelais Y siom oedd yn Ei lygaid prudd
Mewn byd heb iddo drefn ;
Ni dd'wedodd air, ond sychu'i rudd
Yn ddistaw, a throi Ei gefn.
METHU â. CHANU
Cyfansoddwyd yn Sanatorium Machynlleth, wedi gwrando
darlledu o Eglwys Jeriwsalem, Blaenau Ffestiniog,
nawn Sul, Tachwedd 27, 1938.
OEDD hiraeth? Wel oedd, debyg iawn, bois bach,
A'r galon â'i thannau'n friw,—
Clywed y mynd ar yr emyn a'r dôn,
Yn sŵn hen organ Jeriw.
Ni fedrais i ganu'r un bar fy hun,
Ond mwmian rhyw air ar dro:
Peidiwch â 'meio am fethu fel hyn,
A minnau mewn dieithr fro.
Na, fedrwn i ddim, bois bach, chwarae teg,
Neu'n ei morio hi y buaswn yn braf;
Mae hi'n anodd canu mewn lle fel hwn—
Canu, a minnau yn glaf.
Pwy ŵyr na ddaw pethau'n well eto, bois?—
Mae hynny yn dywyll, ond yw,—
Disgwyliaf caf droi eto'n ôl i'r hen fro,
I glywed yr hwyl yn Jeriw.
Y DDAU FUNUD DISTAW
MAE'N un ar ddeg. Chwychwi â'r nwyd
Ryfelgar yn eich gwythi hen,
Penliniwch ger y gofeb lwyd
Yn rhan o'r dyrfa drist, ddi-wên.
Codwch eich llef dros heddwch byd—
Am droi y gwn a'r cledd yn swch;
A mynnwch gadw'r drefn o hyd—
Dau funud distaw dros eu llwch.
Mae'n hanner dydd. Chwychwi â'r nwyd
Ryfelgar ar eich gwarrau'n bwn,
Anghofiwch waed y gofeb lwyd,
A gwerthwch Grist am gledd a gwn!
Y CAP GWAG
MAE'N un ar ddeg. Clyw gorned clir
Y biwglar ar y sgwâr,
A dwys yw gweld y dyrfa hir
Yn wylo am ei châr.
Paid symud pen na throed na llaw,
Na mwmian gair na rheg,—
Mae'r dewrion yn yr angof draw
Ynghwsg.—Mae'n un ar ddeg.
Mae'n hanner dydd, a'r dyrfa hir
Ym mhleser byd ar goll;
A dwed cap gwag hen filwr cloff
Mai rhagrith oedd yr oll.
Y CADOEDIAD
MAE yn ddydd y cadoediad eto, Syr,
A'r faner ar dŵr y dre,
A phawb yn prysuro er bod mewn pryd
Wrth gofeb yr hogiau, yntê;
Mae'r coffa yn annwyl, mi wn hynny, Syr,
A'u colli o'r ardal yn flin;
A fyddwch chwi weithiau yn gwrido, Syr,
Wrth gofio am nineteen fourteen?
Mae deunaw mlynedd er hynny, Syr,
Mae'n debyg na chofiwch y tro,
Ond chwi wnaeth y "boced", ryw'n cofio'n iawn,
Wrth listio hogiau y fro;
'Y chwi yn y parlwr yn smocio'n braf
Ynghanol miwsig a chainc;
A'r hogiau diniwed yn colli eu gwaed
O flaen gynnau mawr yn Ffrainc.
Daw rhai adre'n ôl i Walia Wen,
I hedd yr aelwyd glyd,
A rhai sydd yn cysgu dan groes o bren
Yn rhywle 'mhellafoedd byd;
A dyma ni heddiw yn cadw'r coffâd
Wrth gofeb yr arwyr glân,
Dau funud distaw i gofio gwerth
Eu haberth ar faes y tân.
â hyn heibio eto, ac ni bydd sôn
Am werth yr aberth a'r pris,
Dau funud sydd ddigon i gofio'r dewr—
Dau funud o'r deuddeng mis;
Ba waeth am y beddau ym mrodir Ffrainc,
Na chwaith yr amddifaid di-gefn,
Bydd y wlad yn fud i eisiau y "byw"
Nes daw hi'n Gadoediad drachefn.
Y NADOLIG HWN
ALAW: Little Welsh Home
MAE'R Nadolig atom eto yn nesau,
A'r hen flwyddyn dros y gorwel yn pellhau,
Ond Nadolig prudd fydd hwn,
A sŵn tincian cledd a gwn,
Dros aelwydydd bach Ffestiniog yn trymhau.
Mae yr hogiau draw "yn rhywle" ar eu hynt,
Ac ni chlywn sŵn eu lleisiau megis cynt,
Ond dros lawer bryn a dôl,
Ym mraich atgof, dônt yn ôl
I'w cartrefi tlws yng nghysgod Bwlch y Gwynt.
Dim ond cadair wag a welir wrth y bwrdd,
Lle'r oedd unwaith deulu dedwydd yn cyd gwrdd,
Ond dros Fwlch Gorddinen draw,
Ar adanedd hiraeth daw
Serch yr hogiau sydd "yn rhywle" 'mhell i ffwrdd.
Trist fydd calon yr hen hogiau'r 'Dolig hwn,
Canu'r garol fydd i hwythau'n ormod pwn;
Haws yw wylo na rhoi cainc
Ar y daith i ffosydd Ffrainc,—
Mae hi'n anodd cadw gŵyl—a chario gwn.
Ydyw, mae hen Wyl y Cofio yn nesau,
Hithau'r flwyddyn yn ei henaint yn llesgáu,
Rhyw Nadolig prudd fydd hwn,-
Gweld yr hogiau'n cario gwn,
A'r cysgodion dros gartrefi'n bro yn cau.
Rhagfyr 1939.
III
Cerddi'r Cysgodion
ANGEL GETHSEMANE
O, ANGEL Gethsemane drist,
Dy hanes sydd yn hen;
Tydi fu'n gymwynaswr Crist
Ar noson oer ddi-wên.
Ni wn dy enw, angel mwyn,
Ymhlith angylion Duw,
Ond gwn mai ti fu'n lleddfu cwyn
Gwaredwr dynol ryw.
Yn yr unigedd, Iesu'n brudd
Blygasai dan y pren,
A blodau tristwch ar ei rudd
A barrug ar ei ben.
Ei chwys yn disgyn wrth ei draed
Oddiar ei wyneb hardd;
Defnynnau lliw y cochaf waed
Ar farrug oer yr ardd.
Yn nos y gofid bryntaf du
Pob ffrind ynghwsg ond Un,
Yng Ngethsemane gwelwyd di
Yn ymyl Mab y Dyn.
Dy law osodaist dan ei ben
Yn awr y drymaf loes;
A'th wên oleuodd dywyll nen
Y ffordd i Fryn y Groes.
YN Y CYSGOD
CLUDAI'R awel ryw wylofus
Suon hyd y rhos;
Pwy ond ambell wylan ofnus
Wyddai hynt y nos?
Troes y gweithiwr olaf adref
Dros y creigiau blin;
Dim ond torf o ddail yr hydref
Dan ei droed yn grin.
Dim ond breuddwyd hir aflonydd
Dan ddewiniaeth lloer,
A'r hen grwydryn gwelw, llonydd,
Yn y cysgod oer.
Y GYFRINACH
DIM ond hers a chist fach wen
Yn troi yn araf tua'r glwyd,
A'r dyrfa bob yn ddau a dau
Yn dilyn drwy yr heol lwyd.
Neb yn gofyn Pwy na Ph'le,
Dim ond gyrru 'mlaen fel cynt;
Maddeued Duw brysurdeb tre
Pan fo'r marw'n mynd i'w hynt.
Dim ond hers yn troi yn ôl,—
Yn ôl yn wag trwy'r heol lwyd;
Duw'n unig ŵyr gyfrinach leddf
Y daith ddi-dychwel hwnt i'r glwyd.
CLADDU
LLUDW i'r lludw, pridd i'r pridd,"
Wynebau y dyrfa'n drist;
Sŵn dyrnaid o bridd o'r domen lac
Yn chwalu ar blât y gist.
Gweddi ac emyn uwch y bedd,
A hwyrach, air o barch,
Wedyn gwahanu, ac ambell un hy
Yn aros i weld yr arch.
Hers a cherbyd yn troi i ffwrdd,
Y dyrfa'n parablu'n rhydd;
A neb yn meddwl wrth gilio draw
Claddu pwy nesaf fydd.
SYMLEDD
DACW angladd bach yn mynd,
Dim ond hers ac wyth o ddynion;
Rhywun eto ar ei daith
Tua hendre y marwolion.
Gyrru'n araf ar y chwith
Drwy y dre â'i thorf ddi-ildio;
Ambell un yn tynnu ei het
Wrth i'r angladd bach fynd heibio.
Gyrru 'mlaen i olaf hun
Hendre dawel y marwolion;
Angladd syml, dyna i gyd,
Dim ond hers ac wyth o ddynion.
HEN WRAIG Y DRWS NESAF
Mrs. Margaret Williams, y Frondeg, Blaenau Ffestiniog
'ROEDD Cryndod yn ei llais a'i llaw,
A chronnai deigryn slei
Yng nghil ei llygaid dwys pan ddaeth
Hi acw i roi "gwd-bei "
I mi, cyn imi droi i ffwrdd
I'r "San" i wella 'nghlwy';
A waeth cyfaddef, 'rown i f'hun
A 'nghalon bron yn ddwy.
Gafaelodd yn fy llaw yn dynn,
Ac meddai cyn troi'i chefn,
Rwyt ti yn ifanc, a chei ddod
Yn ôl yn iach drachefn;
A phan ddaw'r gwanwyn i'r hen fro,
A'i gawod flodau hardd,
Cawn lawer ymgom y pryd hyn
Ein dau yn nhop yr ardd."
Dychwelyd wnes i'r henfro'n ôl,
I gwmni ffrindiau iach,
Pan oedd y blodau yn eu tw'
Yn llond pob "bordor bach,"
Ond siom a gefais yno dro
Er bod y blodau'n hardd,
Ni welwn yr hen wraig yn dod
Am sgwrs i dop yr ardd.
Na, ni ddaeth yno y tro hwn,
Er disgwyl am ei gwên,
'Roedd galwad arall arni hi,
A hithau'n mynd yn hen;
Ond cofiaf byth y cryndod llais
A llaw, a'r deigryn slei
Oedd yn ei llygaid dwys pan ddaeth
Hi acw i ddweud "gwd bei."
ELENI
GWELAIS faban bychan tlws—
Geneth newydd-eni;
Daeth yn siriol at fy nrws,
A'i henw oedd—Eleni.
Golau oedd ei llygaid hoff,
Flodyn di-ofalon;
Gobaith oedd ei bywyd hi,
A chariad oedd ei chalon.
Neithiwr yn yr wylnos oer;
Clywais chwerthin tyrfa
Ar y sgwâr, a'r flwyddyn hen
Yn dod i ben ei gyrfa.
CADI PUW
'ROEDD pawb yn 'nabod Cadi Puw,
A'i symledd gwledig iach;
Hen wraig fu'n treulio'i hoes i Dduw
Rhwng muriau'r capel bach.
Cyffredin oedd ei gwisg a'i dawn,
A phlaen ei dull o fyw,
Ond ni bu calon neb mor llawn
O ras â Chadi Puw.
Adnodau'r Llyfr a'r claspiau pres,
Oleuai lamp ei ffydd ;
Yng ngolau hon 'r oedd Duw yn nes
At Gadi Puw bob dydd.
A gwyddwn innau, ffrind, bob dydd,
O'i hebrwng dan yr yw,
Mai mynd wrth olau lamp ei ffydd
I'r nef wnaeth Cadi Puw.
IORI
Ei frawd IORWERTH JONES, Dinas Road, Rhiwbryfdir,
a fu farw Ionawr 9, 1937, yn 13 oed.
Cwyn y gwynt sy'n crwydro heno
Lle mae Iori bach yn huno;
Dim ond lloer yn tynnu cysgod
Araf dros ei gynnar feddrod.
Plant y Rhiw sy'n chwarae heno
Ar y groesffordd yn llawn cyffro;
Iori bach yn tawel gysgu
Yn ei fedd heb ddim i'w darfu.
Tristach mwy fydd clywed lleisiau
Plant y Rhiw ar noson olau
Wrth y Post yn mwyn ymgomio,
Am fod un o'r criw ddim yno.
Hiraeth dynn ei ddarlun heno
Lle mae Iori bach yn huno;
Clywed ubain gwynt aflonydd
Ionawr ar ei feddrod llonydd.
Melys fyddo'i gwsg, un tirion,
Flodyn gwyn yn nhir y meirwon;
Gwn na ddaw un boen i flino
Iori bach rhag cysgu heno.
Ionawr 1937-
PERORFRYN
sef ROBERT PERORFRYN JONES, brawd i fam y bardd,
a fu farw yn Llanddeusant, Mon, Mawrth 1937.
DIM ond aelwyd unig,
Unig a di-sôn,
Dan y lloer oedrannus
Yn nhawelwch Môn.
Nid yw'r tenant yno
Gyda'i groeso brwd;
Dim ond clo a chliced
Heno dan eu rhwd.
Gwn, pe gwyddai Pero
'Mod i'n dod i Fôn,
Deuai ef i'm cyfwrdd
Draw ar hyd y lôn.
Dim ond aelwyd unig
A gardd fach ddi-lun;
Angau ddaeth i dynnu'r
Blinds i lawr bob un.
HUW PRYSOR
sef HUGH JONES, Tanymanod, cymydog i'r bardd.
HEN ŵr di-goleg, dyna oedd,
Gwerinwr trwm ei ddawn;
A thân yr awen yn ei waed
Ac yn ei galon lawn.
Ei droediad araf hyd y stryd,
Ei air a'i wenau iach,
A'i fywyd syml mor ddi-ffug
â grug y Manod Bach.
Oedfaon distaw gallt a chwm
A garodd ef erioed,
A gwyddai am bob deilen gêl
Ar lwybrau mêl y coed.
Ond heno, dan y pridd a'r main
Mae'r hen werinwr iach,
Yn cysgu'n dawel a diboen
Wrth droed y Manod Bach.
Y SANATORIUM
(TALGARTH)
O, DDISTAW LOER, a glywaist ti
Bangfeydd y claf ym mhlygion nos?
Pan grwydri'n araf ar y rhos
A wyddost ti?
Pan ddel dy gysgod llonydd, llwyd,
Ar draws fy ngwely unig oer,
A minnau yn breuddwydio, loer,
Paid tarfu 'nghwsg.
A thithau wynt wylofus lleddf,
Pan chwythech ar aflonydd daith,
Bydd "rhywun" yn ei wewyr maith
Yn gorffen byw.
O, loer y nos, a thithau wynt,
Ar gerdded heno hyd yr iard,
Na chwynwch dan ffenestri ward
Yr hanner byw.
HOLI AC ATEB
Anfonodd yr englynwr pert DAVID ANWYL WILLIAMS,
Croesor, yr englynion canlynol i AP ALUN MABON.
HOLAF, pa hwyl Ap Alun?—a ydych
Frawd, yn codi tipyn
Er rhodio'n ddifyr wedyn
A dyddiau ha'n y strydoedd hyn?
Minnau wyf yn dymuno—difyrraf
Adferiad, gobeithio,
I chwi, frawd, yn yr iach fro,
Heb oer ofid i'ch brifo.
Am gân ar ôl marwolion—pa cilydd
Fel Ap Alun Mabon?
Cân yn bêr â'i dyner dôn
Ag enaid lond ei geinion.
Er afiaith y blin ryfel—a'i gynnwrf,
Dal i ganu'n uchel,
Er ofn a braw, fardd tawel,
â dawn fwyn dy awen fêl.
ATEBIAD
WEL na, pur ddi-hwyl ydi pethau, 'r hen Ddei,
Y frest yn mynd yn fwy caeth;
Ond pa achos cwyno, yntê, mae'n siŵr
Fod rhywun yn rhywle yn waeth.
Plwc ar ol plwc,--dyna f' hanes i, Dei,
A'r frwydr i fyw sydd yn flin;
Y poenau'n gwaethygu, a'r clefyd brwnt
Yn cerdded fy esgyrn crin.
Ond er i mi gael fy nghaethiwo fel hyn
Rhwng muriau fy 'stafell, yn glaf,
'Rwy'n disgwyl ca'i wella a mynd am dro
I'r meysydd cyn diwedd yr haf.
Ac fel'na 'rwy'n byw--rhyw gysuro fy hun
Y daw pethau'n well yn eu tro;
Mae'r dyfodol yn dywyll, mae'n wir, 'r hen Ddei,
Ond mae gen' i ffydd ynddo Fo.
JOS
sef JOSEPH GOMER WILLIAMS, Isfryn, Blaenau Ffestiniog,
Gwasanaethodd yn Rhyfel 1914-18 gyda'r Welsh Guards.
Brwydrodd am 22 mlynedd yn erbyn effeithiau'r nwy.
Bu farw Hydref 5, 1939.
Y BLINDS wedi eu tynnu i lawr i gyd,
A drws yr ystafell ynghau;
Mae'n rhaid fod newid go fawr, 'r hen Jos,
Er pan gawsom ni sgwrs ein dau.
'Roedd pethau yn eitha'r pryd hwnnw, Jos,
Rhyw egwyl fach lonydd, ddi-boen,
Y plwc wedi cilio am dipyn, 'te Jos,
A bywyd am ennyd yn hoen.
Rhyw siarad am ddigwyddiadau ddoe,
Am glefyd ein gwythi gwyw;
Cans gwyddwn innau, fel tithau, 'r hen Jos,
Mor galed y brwydro-a byw.
A phwy oedd yn well na ni ein dau,
I gysuro ein gilydd, ynte?
Hawdd oedd i mi gydymdeimlo â thi—
Wedi diodde'r un fath—yn 'r un lle.
Heddiw mae pethau'n wahanol, 'r hen Jos,
Ac ni chawn sgwrs eto ein dau;
Mae'r blinds ar y ffenestr i lawr, 'r hen Jos,
A drws dy ystafell ynghau.
Y GWYS UNIG
Na, fawr o hwyliau, Gwenno,
Waeth heb na phoeni chwaith,
Os yw oriau'r dydd yn fyrion
Ac oriau'r nos yn faith.
Mae'r cloc yn taro deuddeg
Dos dithau i gysgu, dos.
Na, paid â chau y ffenestr
Na thynnu'r llenni gwyn
Bydd cawod fach o awel
Yn help i frest mor dynn.
Gwen, eist ti byth i gysgu
A'r cloc yn taro un?
Os nad wyt yn fy ymyl,
Gwen bach, nid wyf fy hun.
Mi wn dy fod yn ofni
I'r clefyd droi yn straen.
Nid rhaid i ti bryderu
Dois trwy bob plwc o'r blaen.
Pan glywaf sŵn ticiadau
Yr awrlais ar y bwrdd
Pob tic yn canu ffarwel
Eiliadau oes i ffwrdd,
Pryd hynny bydda'i'n gofyn
Wrth drosi'n ôl a blaen,
Paham mae corff mor egwan
Yn byw dan gymaint straen.
Pan ddelo gwŷs yr alwad
A minnau'n gorfod mynd,
'Rwy'n disgwyl caf faddeuant
A'r Iesu i mi'n ffrind:
Mae'r daith i fro Brycheiniog
Ymhell, a minnau'n flin,
A iasau poeth y clefyd
Yn gwanu'r esgyrn crin.
Waeth am y maith filltiroedd
Sydd yno, Gwenno bach,
Os caf ddychwelyd adref
Yn hogyn bochgoch iach.
Dan gysgod bryniau Talgarth
Ac awel leddf y ddôl,
Fe all y daw i minnau
A gollwyd yn ei ôl.
Na, paid â phoeni, Gwenno,
Os ydi'r siwrnai 'mhell,
Beth ydyw treulio seithmis
Mewn ward, am amser gwell?
I GOFIO TERRY BACH
Plentyn bychan MR. a MRS. HAYDN HUGHES, Gelli Blaenau Ffestiniog
Prin rhyw lathen, dyna i gyd
Oedd ei arch fach wen o dderi,
Ond roedd trysor mwy na'r byd
Dan y blodau gwynion rheini .
Dyna 'chwi dlws oedd Terry bach,
Ar aelwyd ei dad a'i fam:
Chwarae drwy'r dydd yn llon ac iach
Heb boen i'w fywyd di-nam.
Dyna 'chwi brudd oedd Terry bach,
Yn llonydd mewn arch fach wen;
Clwstwr o eirlys gwyn yn ei law,
A swp o gyrls aur ar ei ben.
Dyna 'chwi dlws fydd Terry bach
Pan awn tua'r nefoedd wen,
A gweld Iesu Grist yn tynnu ei law
Drwy'r cyrls bach aur ar ei ben!
CYMYDOG CAREDIG
MR. EDWARD JONES, Ariel House, Blaenau Ffestiniog.
(tad LLINOS MANOD)
Gwelais o'n pasio am dro lawer gwaith
Er nad oedd mor sionc ar ei droed,
A gwyddwn wrth weld ei gam yn byrhau
Ei fod yntau yn mynd i oed.
Mi gollais ei weld yn pasio ryw ddydd,
Ac er i mi ddisgwyl cyhyd,
Welais i mono, na chlywed ei sŵn,
Yn mynd a dod drwy'r stryd.
Ond heddiw'r oedd angladd yn pasio 'nrws
A thyrfa mewn "dillad parch ";
Mynd yn yr hers 'roedd yr hen Edward Jo's
A blodau mis Mai ar ei arch.
STRAEN BYWYD
Heno mae byw yn straen ar wely'r claf
A staeniau gwaed ar fy ngobennydd gwyn,
I'm grudd mae lliw gwridocaf ros yr haf
A gwynder lili i'r gwefusau cryn:
Bu imi hafau aur yn ieuanc oed
A mil breuddwydion dros fy mywyd gwyn.
Pan dyngais lw addewid dan y coed
Y carwn di, anwylyd, yn fwy tynn.
Mi welais y modrwyau drwy dy wallt
Yn trosi yn yr awel dyner ffri,—
Melyn oedd aur y banadl ar yr allt—
Melynnach aur oedd yn dy dresi di:—
Tyrd, dyro'r lliain ar y gwely Gwenno,
Mae stacniau'r gwaed yn cochi'r glustog heno.
IV
CERDDI AR GYNGHANEDD
Y MACHLUD
Y MACHLUD tawel sydd ar orwelion,
A marw y dydd a'i ddedwydd freuddwydion;
I minnau darfu mwynion—oriau'r coed,
Ba les yr oed a roed i gariadon?
Awr caru mwyniant, hwyr caru mynydd,
Mynd i dawelwch mwyn hyd y dolydd,
Onid oedd poenau y dydd,—a'i niwl trwch
Yn cau ei dristwch ar harddwch hirddydd.
Heno y niwloedd ar y panylau,
A'r hiraeth ddug y grug o'r hen greigiau,
Yn dweud i'r gaeaf wywo yr hafau
Ieuanc a luniodd dau'n eu calonnau;
Ymhenyd gwybûm innau—golli swyn
Awel o'r brwyn a'r haul o'r bryniau.
Ennyd o chwerthin yw serch a'i winoedd,
A marw yn ifanc ym more'i nefoedd;
Ddoe'n olau, heddiw niwloedd—oer yn hel,
Ar orwel tawel yw rhodiad deuoedd.
AR Y TRAETH
GWYLAIN a welwn fel glân oleuni,
A'u swyn hudolus yn suon dyli,
Yr ewyn terwyn ar draeth yn torri,
A'r dyner heulwen ar donnau'r heli;
Islais chwerthin o'r glasli,—a hud haf
Ar hedd y geinaf erw ddigyni.
Dau gerdd ar goll sef "Y Cwm" a "Crwydro"
Y PARCH E. GWYNHEFIN THOMAS
Daeth o Gwm Rhondda yn weinidog ar eglwys
Seion (B.) Blaenau Ffestiniog
GWYNHEFIN hygar, di-dwyll ei gariad,
Eilun aur ydoedd a glân ei rodiad;
I Dde a Gwynedd bu'n ufudd gennad,
A gem o arwr tlws ei gymeriad ;
Ei lais a glywir drwy'r wlad—er i angau
Roi clo ar enau oracl yr enwad.
Y FFARWEL
Dyfyniad o awdl ar "Atgof."
GWEDI'R hud ar goed yr haf
Daeth gwywiant adwyth gaeaf,
A chiliodd tegwch heulwen
O'r mynydd i mi a Men.
Lle bu'r gerdd a llwybrau'r gwin
Oedd hir eco y ddrycin,
A nodau'i chân gwynfanus
A'i lluwch ar y llwyni llus;
A'r gwrid coch a roed i fochau—y dlos
âi yn dlysach lliwiau,
Ac aelwyd ein breuddwyd brau
Dan ing cadwyni angau.
A chiliodd heulwen o fywyd Menna
Dirion dan oerni y gawod eira;
A daeth gwae taith y gaea'—i'm rhianedd
O'i dwyn i orwedd, y fun dynera',
I ro y llan ger y lli'
A'i mynwent oer a'i meini.
Yno i huno yn suon ewyn,
Ac awel dawel y môr a'i dywyn
Yn canu'i ffarwel ar delyn-y traeth,
A nodau'i hiraeth yng nghân aderyn
Gwyllt y coed a fynn oedi
Uwch unigedd ei hedd hi.
Y DRYW BACH
MAIN ei goes a mwyn ei gân,—mynn y berth
Fel man byw, un bychan;
Del ei glog, hudol a glân,
Yn dod atad i dwitian.
YR ADERYN DU
O, AROS i delori—ym min hwyr,
'Rwy'n mwynhau dy gerddi;
Tlawd o swyn fyddai'r llwyni,
A di-sôn heb dy dôn di.
FY MHROFIAD
OD o wan yw'r traed danaf,—a rhyw gaeth
Ydyw'r gwynt pan gerddaf;
Hen o gorff,-lle bynnag af
Rhaid yn awr rhodio'n araf.
V
Darn i'w Adrodd
BAD PENMAENRHOS
Pentref rhwng Colwyn a Llanddulas
Y STORM ddywetsoch chwi, fechgyn?
Fe gofiaf y nos yn iawn;
Y bad yn gwthio i'r tonnau
A'r hwyliau i gyd yn llawn;
Y môr fel gwydr yn llonydd
A'r don yn dawel ei su;
Dim ond ambell wylan ar grwydr
Rhwng creigiau y Gilfach Ddu.
Noswyliai'r pentrefwyr tawel
A'r bad yn pellhau i ffwrdd,
Sisial yr awel drwy'r rigin
A chwerthin y criw ar y bwrdd;
Lampau y sêr yn goleuo
Wybren y nos ddi-stŵr,
A llewych y lloer fel lledrith
Yn symud ar draws y dŵr.
Ciliodd y bad i'r gorwel
Mor esmwyth â'r nos ei hun,
Cân o lawenydd a gobaith
Yng nghalon y criw bob un;
Gobaith dychwelyd drannoeth
Ar ysgwydd y llanw cry'
I gysgod y cei tawelaf
Rhwng creigiau y Gilfach Ddu.
Cododd y gwynt ei lais cyn hir,
A chwmwl gwyllt yn yr awyr glir;
A sŵn y gêl yn gryfach acth
Nes chwipio'r tonnau ar y traeth.
Curai y gwynt yn ddi-drugaredd,
A berwai'r môr yn ei gynddaredd;
Ei chwerthin cras fel gwaeau hen,
A sawyr angau ar ei wên.
Dyna fellten! dyna ddwy, yn goleuo'r nos,
A rhuad y daran ar Benmaenrhos.
Trwy'r nefoedd y gwibiai pob mellten olau
Fel seirff yn gwau rhwng gwair y dolau.
Rhuthr taranau yn rhwygo'r nen
Bob yn ail â fflachiad y fellten wen.
Gormod oedd byw dan straen y gwynt
A'r môr yn ei wallgofus hynt
Yn gyrru ei lid fel haid o ddreigiau
Yn ôl a blaen i ddannedd y creigiau.
Cynhyrfwyd y pentrefwyr gan ruthr y corwynt cry',
Ac ofn yn llenwi'u calon, i draeth y Gilfach Ddu.
Dros y creigiau pob un brysurodd i ddisgwyl y bad yn ôl,
Ond gwawd digofus dorrodd o ochenaid flin y sgôl.
Cryfach âi'r gwynt, ac amlach âi'r mellt drwy'r awyr ddu
Ffyrnicach âi rhwygiad y daran, a thrymach ei rhu;
A rhuthrai y môr i'r creigiau gan boeri ei ewyn oer,
A gwawdio griddfannau mamau a phlant yn y nos ddi-loer.
Distawodd llais y dymestl, a gwên y wawrddydd dlos
Yn deffro dros y creigiau ar bentref Penmaenrhos.
Mor llonydd oedd y môr ar draeth y Gilfach Ddu
A'r gwylain ar y tonnau yn tawel drwsio'u plu.
Ystorm i'w chofio oedd honno, a nos ola'r flwyddyn oedd hi,
Mamau a phlant ar y creigiau drwy'r nos yn edrych i'r lli'.
Dychwelyd? na fechgyn, 'roedd nerthoedd y corwynt yn gryfach na hwy,
'Does a ŵyr gyfrinach y fordaith-y môr guddia honno mwy.
Mae'n anodd dweud rhagor, fechgyn, mae'r hiraeth yn agor briw,
A thrysor fy mywyd heno "yn rhywle" yn un o'r criw.
Ond er i flynyddoedd fynd heibio, a rhwyg llawer tymestl a sgôl,
'Rwy'n credu o hyd y daw'r tonnau â bad Penmaenrhos yn ôl.
VI
Noswylio
NOSWYLIO
I'w briod, wrth wylio uwchben ei wely.
'Dwy'n malio dim tra pery'r plwc
A'r caethdra, tra bydd hi
Yn gwylio trwy y plygain trwm
Uwchben fy ngwely i.
Tachwedd 1940
Y geiriau olaf a ysgrifennodd cyn marw
BLAENAU FFESTINIOG:
J. D. DAVIES AND CO., HIGH ST.
Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.