Gwyn fyd y dyn a gred yn Nuw

Oddi ar Wicidestun

Mae Gwyn fyd y dyn a gred yn Nuw yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)

Gwyn fyd y dyn a gred yn Nuw,
Efe gaiff fyw'n dragwyddol;
Ei hyder sanctaidd cadarn sydd
Fel mynydd Seion siriol.


Tragwyddol fraich trugaredd gu
Sy'n amgylchynu'i enaid;
O'r llaw alluog nid bu 'ngholl
Fyth un o'r holl ffyddloniaid.


Pe syrthiai braisg golofnau'r byd
A'r brynian i gyd i'r eigion,
Saif Eglwys Dduw - ni sigla darn
O gadarn sylfaen Seion.