Gwyn fyd y rhai sy'n byw trwy ffydd

Oddi ar Wicidestun

Mae Gwyn fyd y rhai sy'n byw trwy ffydd yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).


Gwyn fyd y rhai sy'n byw trwy ffydd
Cant nerth o'r nef yn ol y dydd
Mae Crist o'u plaid, bob dydd, bob nos
Fe'u deil i'r lan, er dan y groes


Ni all y ddraig, na'r cnawd, na'r byd
Mo'u dal yn ol, er maint eu llid
Mae'u pwys ar Grist, bob dydd, bob awr
Pa le mae neb a'u teifl i lawr


Er bod yn wan, ânt fawr a man
I wlad yr hedd, trwy ddwfr a than,
Cant fod dros byth, heb boen na chur,
O fewn i'r nef, oll cyn bo hir.