Hanes Bywyd Pio Nono/Afiechyd a Marwolaeth
← Pabaeth Pio Nono | Hanes Bywyd Pio Nono gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Penillion ar Farwolaeth Pio Nono → |
EI AFIECHYD.
Cadwodd ei enw ger bron y wlad o bryd i bryd, drwy ryw ffolineb newydd o'i eiddo; ac hyd ddydd ei farwolaeth ni pheidiodd ag amlygu mai hunanawdurdod, hunanogoniant a hunanaddoliant, yn enw lles a dyrchafiad ei Eglwys, ydoedd prif amcan a phrif ddybenion ei holl weithredoedd amryfal. Ust—dyma newydd prudd i Babyddiaeth yn cael ei daenu drwy'r gwledydd,—"Mae Pio Nono yn wael, a gobaith am ei adferiad ond bychan." Brithwyd papurau y teyrnasoedd a'r newydd yn ddyddiol; dadleuwyd y canlyniadau yn mhob cymdeithas, manwl ddyfalwyd pwy fyddai ei olynydd yn mysg penau coronog y ddaear; ond tra yr anadlai, ac hyd nes cyfarfyddai y celgynghor, nid oedd damcanion y naill na'r llall yn deilwng o ymddiried, ac nis gallasai yr hwn oedd ar ei wely angeu ddatod sôl y dyfodol, er ei fod ar drothwy y datguddedigaethau tragwyddol.
Pellebryn—Rhufain, Dydd Iau, 7fed o Chwefror, 1878. At y byd gwareiddiedig— Am haner awr wedi pump,
BU FARWY PAB PIUS IX.
Fflachiwyd y newydd i bob rhan o'r byd; derbyniwyd ef gyda theimladau gwahanol, a gwneid cyfalaf o hono yn ol y gwerth a roddid ar y dygwyddiad, a'i effaith ar wleidyddiaeth, moesoldeb a chrefydd ddatguddiedig. Gan rai bydd ei farwolaeth yn symudiad o'r Hen ddyn, ac yn gyflawniad llythyrenol o ddarostyngiad bwystfil Ioan y Difinydd. Ereill a'i hadgoffant gyda dagrau, oblegyd colli o honynt eu Tad a'u nawdd ysprydol. Fe allai y bydd rhai hefyd yn ymsythu ao yn ymddeffro i ryddid, wedi bod o dan gaethiwed hunllef oes; ond un peth a allwn sicrhau y bydd ei olynydd yn falch o'r urddas a feddianna ar ei ddyrchafiad i lenwi ei le. Bu farw! yr hwn y crynai breninoedd o'i flaen, ac y cusanai mawrion y ddaear ei draed; gair yr hwn a siglai deyrnasoedd, ac wrth wefus yr hwn yn ol ei hunandyb—yr hongíai tynged yr holl deulu dynol. Hawliai hwn, yn rhinwedd ei swydd, y fath lywodraeth dros y byd crefyddol a gwleidyddol fel mai anhawdd ydyw credu fod y fath hwn y crynai breninoedd o'i flaen, ac y cusanai mawrion y ddaear ei draed; gair yr hwn a siglai deyrnasoedd, ac wrth wefus yr hwn yn ol ei hunandyb—yr hongíai tynged yr holl deulu dynol. Hawliai hwn, yn rhinwedd ei swydd, y fath lywodraeth dros y byd crefyddol a gwleidyddol fel mai anhawdd ydyw credu fod y fath haerllugrwydd yn cael ei oddef. Dyn wedi ei greu ar lun a delw Duw, fel dyn arall, yn rhyfygu tynu ei Grewr o'i orsedd; yn meiddio arddel ei deitlau, a dwyn rhan o'i briodoleddau, ac yn honi yn ddigywilydd iddo ei hun dadoliaeth dros bawb. Bu adeg pan nad oedd iddo ond ewyllysio, a chynhyrfid cenedl yn erbyn cenedl, y coronai freninoedd ac y diorseddai hwynt. Credid unwaith—ac ysywaeth eto—fod ei goron driphlyg yn arwydd o'r terfynol, y presenol, a'r dyfodol, ac nad oedd terfyn i'w uwchreolaeth.
Nis gallwn beidio a gofyn wrth fyned heibio, pa ryfedd fod y fath ddynion yn honi iddynt eu hunain gymaint o bethau, pan y meddyliom am y miliynau sydd yn cynal i fyny eu honiadau; pan edrychom yn ol ar yr ofergoeledd a erdoai y byd, a phan gofiwn am y galluoedd mawrion a'u meithrinent ac a'u hamddiffynent. Dysgwyd y werin a'r mawrion am ganrifoedd nad oedd a fynent hwy a'u bywyd ysprydol, ac nad oedd ond yr Eglwys i ofalu am dano drostynt; a chan mai tuedd naturiol dyn ydyw taflu ei faich ar arall, yr oedd yr athrawiaeth hon yn swynol a melus i deimlad y diog a'r esgeulus, ac yn gryfder a maeth i hud ac oforgoeledd. Gwnaed trysorau i'w dysgyblion o'u creiriau sanctaidd, (?) a daeth hyny yn allu pennodol i'r Eglwys, ac ofnwn os na ddaw rhyw allu symudol goruwchnaturiol y cymer oesau eto i'w dileu. Yn ngwyneb y cyfan yr ydym yn credu fod olion dadfeiliad ar yr hen Rufain a'r Rhufain newydd—Mahometaniaeth a Phabyddiaeth ; a pha faint bynag o naws bywyd sydd ynddynt, cawn weled y dydd y bydd baner rhyddid crefyddol yn chwyno ar gaerau Caer Cystenyn a'r Ddinas Dragywyddol y bydd. hysbysleni "Trugaredd i'r euog," ar furiau China; y bydd Pyramidiau yr Aipht yn dathlu enw y Gwaredwr..
"Ac hefyd y byd cyfan—a fyn hi
Yn glau goroni, ac ail greu anian!"
Wrth derfynu dymunom awgrymu fod a wnelo Cristionogaeth â marwolaeth yr Archdwyllwr Pabyddol, ac y dylai pob gweinidog sydd yn pregethu Crist fel yr unig Gyfryngwr gymeryd mantais o'r achlysur, i ddadorchuddio yr hen eulun goreuredig; a'i ddwyn i lygad haul Protestaniaeth, a than wlith treiddiol symledd yr Efengyl; ac yn fuan gwelwn ei wisg fenthyg yn dirisglo yn dalpiau oddiarno. Diosger y grefydd Babaidd o'i chreiriau, a'i seremoniau; o'i seintiau ac o'i ffuganffaeledigrwydd; ac ymddengys yn ei hagrwydd yn gybolfa garpiog o dwyll, rhagrith, a chnawdolrwydd; ond bu farw ei haddurn penaf, a daeth yr adeg i chwythu udgyrn Seion o amgylch caerau dadfeiliol ei hadeiladwaith, nes y byddant yn chwalu yn deilchion ar ben ei olynydd, ac yn ffurfio carnedd gofnodol o drangcedigaeth Pio Nono a'i Anffaeledigrwydd.
PER-ENEINNIAD EI GORPH A'I GLADDEDIGAETH.
Per-eneinniwyd y corph ychydig amser wedi ei farwolaeth, a chymerwyd allan y galon yn ol yr arferiad cyffredin, a dodwyd hi yn nghuddgell Eglwys St. Pedr. Cadwyd y corph dan deyrngrwydd, a'i draed yn ddiorchudd, er mwyn rhwyddineb i'r ymwelwyr i'w cusanu, a dywedir fod miloedd o urddasolion wedi cymeryd mantais o'r fraint aruchel hon am y tro olaf. Yr oedd plisgyn allanol ei arch wedi ei wneyd o blwm, a'r plisgyn mewnol o gypreswydden, wedi ei leinio â phali rhuddgoch.
Claddwyd y corph mewn cloarfa yn Eglwys St. Pedr, Rhufain, yr hon a dorwyd yn y mur uwchben y fynedfa i Gapel y Cor. Bwriedir adeiladu Eglwys Goffadwriaethol i'r Pab Pio Nono yn y rhanbarth newydd o Ddinas Rhufain, a dywedir y bydd yn gampwaith cywrain o adeiladwaith, teilwng o'r mwyaf o'r Pabau. Wedi ei gladdedig aeth, ymgyunllodd
Y CEL-GYNGHOR
i ethol ei olynydd. Dygir yr etholiad yn mlaen mewn ystafell ddirgel, lle y gwysir yr holl Cardinaliaid i gymeryd rhan ynddo, Wedi eu cau yn yr ystafell, nid oes rhyddid iddynt fyned i mewn ac allan, ond y maent dan orfod i gwblhau y gwaith mewn llaw cyn cael eu rhyddhau. Y tro hwn rhoddwyd caniatâd i'r Cynghor cynulledig dderbyn papurau newyddion a llythyrau, ond yr oedd yn rhaid i'r rhai hyny fyned trwy ddwylaw y cardinaliaid mewn awdurdod. Nid oes rhyddid iddynt gyd-ymddiddan nac ysgrifenu y naill at y llall tra yn y gel-gynghorfa. Penderfynir ar olynydd o dan orchudd y tugel, ac nis gellir ethol Pab nes y derbynia ddwy ran o dair o bleidleisiau y cardinaliaid cynulledig. Gellir gweled oddiwrth simnai y gynghorfa pa un a fyddant wedi penderfynu ar Bab yr etholiad cyntaf ai nad ydynt, oblegyd llosgir y papurau etholiadol bob tro nes y ceir y mwyafrif crybwylledig. Wedi gwybod pwy ydyw yr etholedig, plyga y cardinaliaid gwyddfodol i gusanu ei droed, a chymerant lw o ffyddlondeb iddo fel eu tad ysprydol a'u teyrn tymhorol, ac arwisgant ef yn ei urddwisgoedd awdurdodol. Ar yr ugeinfed o Chwefror, wedi eisteddiad byr oddeuddydd, syrthiodd coelbron y coleg gysegredig ar y Cardinal Pecci, y prif weinidog (o dan Pio Nono) ar yr Eglwys Rufeinig Sanctaidd, ac wedi ei etholiad dewisodd gael ei gydnabod o hyn allan dan yr enw Leo XIII. Desgrifir ef fel un o dueddiadau gwleidyddol cymedrol, yn ddyn o ymddangosiad uwchraddol, ac yn llym yn ei ddullwedd, ond yn berffaith foneddig. Ganwyd ef ar yr ail o Fawrth, 1810, o deulu da, ac y mae yn awr yn 68ain oed. Un peth ynglyn a'i ddyrchafiad sydd yn taro yn hyfryd ar glustiau y rhai a ddymunant aflwydd i'w deyrnas ydyw, fod si i'r perwyl fod y llywodraeth Eidalaidd yn myned i roddi mewn grym y gyfraith sydd yn ei galluogi i roddi i lawr fynachdai, a thai crefyddol ereill, ac yn bwriadu drwy yr hawl hono gymeryd meddiant o'r palas Pabaidd, y Vatican, ac y bydd raid i'r. Pab presenol chwilio am breswylfa newydd. A fydd iddynt fyned mor bell a hyn sydd gwestiwn, ond pa un bynag, meiddiwn brophwydo FOD PABYDDIAETH I DDARFOD.