Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo/Ei gyfnod milwrol

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search
Ieuenctid Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo
Bywgofiant
gan Thomas Williams, Capelulo
Wedi'r fyddin


Ar ol bod am beth amser yn ngwasanaeth Mr. Titley, Penloyn, ymunais â Militia Sir Gaerynarfon, yn amser yr "Heddwch bach;" ac yr oedd guinea Sir yn dyfod i bob un o honom , yr hwn a wastreffais am oferedd tra yn exercisio yn Nghaerynarfon . Yn mhen tri mis daeth galwad (route) am y Militia i fyned i Loegr, a gosodwyd ni yn Canterbury, tu draw i Lundain. Aethom oddiyno i Bensi Barracks, yn Sussex, lle yr ymunais a'r fyddin yn filwr rheolaidd, gan dderbyn £ 10 o bounty, y rhai a weriais i gyd mewn tri neu bedwar diwrnod am ddiodydd i'w rhanu rhwng Militia Arfon, yn lle prynu crysau a phethau angenrheidiol ereill i fyned gyda'r fyddin. Aethum o Sussex i Chelsea; a chawsom orchymyn oddiwrth y llywodraeth ,gan Syr Arthur Wellesley, (Duke of Wellington,) i fyned oddiyno i Portsmouth; ac o Portsmouth hyd y môr i St. Iago, (un o ynysoedd Cape Verd,) lle dywedid fod Buonaparte wedi anfon llu o Ffrancod i'w chymeryd. Ar ol aros yno am fis, hwyliasom yn mlaen i Cape of Good Hope; ac oddiyno, yn mhen pythefnos, St. Helena; o St. Helena i Monte Vides, yn Neheudir America; ac o Monte Vides, hyd yr afon Plata i Buenos Ayres, lle yr oedd rhyfel yn myned yn mlaen rhwng ý Spaniards a'r Prydeiniaid. Rhoddwyd fi a 300 eraill i wylio Yspytty (Hospital) y Prydeiniaid. Yn mhen ychydig ddyddiau gorchymynwyd i mi a 15 ereill yn nghyd a swyddog, i fyned trwy y wlad yn genadon heddwch at ran o'r fyddin oedd mewn lle arall; a chaniateid i ni yspeilio tai y brodorion at ein cynaliaeth, Pan oeddym yn tori un tŷ gwelem hen wr yn llechu yn un o'r ystafelloedd, a mynai Gwyddel oedd yn fy ymyl ei drywanu a'i bicell . "Ymatal ddyn," meddwn inau wrtho, "a wyt ti am ladd hen greadur diniwaid fel hyn—nid oes genym ni hawl i ladd neb ond wrth amddiffyn ein hunain." "Taw yr hen Gymro hyll, onide rhoddaf hi trwot ti," meddai yntau . "Na wnei di mo hyny, chwaith," ebe finau. A phan welodd yr hen Spaniard fy mod yn ei achub, aeth o dan ei wely ac es tynodd allan gostrelaid o win,—gwnaeth arwydd i erfyn arnaf ei yfed; dangosais inau fod arnaf ofn fod gwenwyn ynddo;—yntau a yfodd o hono ei hun, i ddangos nad oedd dim niwaid ynddo: yna cym erais ef o'i law. Wrth weled byn, deisyfodd y Gwyddel gael llymaid hefyd, pryd y nacaodd yr hen wr, gan ysgwyd ei ben yn ffyrnig. Aethom yn mlaen nes cyrhaedd pen ein taith. A phan oeddym yn dyweyd ein neges wrth y prif swyddogion, a phawb o honom yn cydsefyll (stand at ease,) a gwn pob un rhwng ei fraich a'i ystlys a'i ffroen i fynu, aeth yr ergyd allan o'm gwn i, yn ddirybudd, nes oedd gwres y powdr yn poethi fy nghlust ac yn deifio fy ngwallt. Dychrynodd pawb, a chwiliwyd allan pwy a ollyngodd yr ergyd. Cafwyd fy ngwn i yn wag, a dygwyd fi ger bron penaeth y gâd, yr hwn a ofynodd i mi, "Beth oedd eich dyben yn gollwug yr ergyd yna?" "Yr wyf yn begio eich pardwn, Syr," meddwn inau,"nid oes genyf fi ddim help,—y mae rhyw ddyryswch ar glo fy ngwn er's misoedd." Edryehodd ef, a gwelodd ei fod felly. "Mae yn dda i chwi ei fod fel yna," meddai wrthyf, "onide cawsech eich fflangellu yn llymdost y funud hon yn ngwydd pawb ."

Daethom yo ol hyd yr un ffordd i Buenos Ayres, a rhoddwyd fi drachefn i wylio Meddygdy (Hospital), bob yn ail a fy nghymdeithion. Un noswaith neillduol, cauwyd fi tu allan i ddorau y pyrth, a'r gelynion oddiamgylch hyd y maesydd yn saethu eu bwledau nes oeddynt i'w clywed yn gwibio oddeutu fy mhen. Pa fodd bynag, cefais fynedi mewn cyn cael unrhyw niwaid. Rhoddwyd fi ddiwrnod arall yn wyliedydd ar balas mawr oedd yn sefyll ar le peryglus. Pe daethai dau o'r gelynion at y lle, buasai yn rhaid i mi ymladd a'r ddau; ond pe daethai tri, caniateid i mi ddianc am fy mywyd. Dychrynais yn fawr unwaith, trwy i ni glywed trwst a saethu mewn coedwig oedd gerllaw, gau dybied mai y gelynion oedd yno; ond wrth iddynt ddynesu tuag ataf, gwelais mai Saison oeddynt, a bod un o honynt yn Gymro ac yn hen gyfaill i mi. Yn mhen ychydig funudau ar ol iddynt fy nghyraedd, daeth tri o'r gelynion tuag atom; saethodd tri neu bedwer o honom atynt, a charlamasant ymaith yn eu holau. Oni buasai i'r rhai hyn ddygwydd fod gyda mi, ne buasent yn sicr o fy lladd.

Yn fuan wedi hyn gorchfygwyd y Spaniards, a bu heddwch, ac ymadawodd y rhan fwyaf o'r fyddin, gan gyfeirio tuag adref i Loegr. Pan oeddwn i yn mnyned i'r llong oedd yn dyfod i Cape of Good Hope, syrthiodd fy ngwn i'r mor, trwy i mi ei ollwng rhwng fy mysedd wrth geisio gafael mewn rhaff. Dedfrydwyd fi i ddyoddef 300 o fflangellau, a thalu er am dano; ond ni weinyddwyd dim ond 50,— maddeuwyd y gweddill. Y mae fflangellu yn ddiachos fel hyn wedi darfod ymhlith y filwriaeth yn bresenol. Ar ol aros yn y Cape dros amryw fisoedd, aethom i Alikan Bay i wylio rhag i'r Ffraicod lanio yno. Yr oedd yno dŷ yn cael gwerthu diodydd meddwol am dair awr bob dydd ; meddwais inau yno, ac aethum gyda dynes ddu o Hottentot, ond nid ar feddwl da, fel y gellid tybio. Gwelodd un o'r swyddogion fi; a daeth ataf i fy anmharchu a fy nghuro, tarewais inau ef lawer gwaith; ac ar ol hir ffrwgwd ac ymladd mi a sobrais. Achwynodd arnaf, a rhoddodd fi yn ngharchar i gael fy mhrofi am ei darawo. Dedfrydodd y Court Martial fi i gael fy fflangellu gyda'r gath naw cyntfon fil ond un 1999) o weithiau. Pan ddaeth yr amser dywedodd un o'm cyfeillion wrthyf yn ddystaw ei fod wedi rhoddi haner potelaid o frandi yn y geudy (tŷ bach,) os medrwn gael myned yno. Gofynais i'r swyddogion am gael myned i'r geudy, a gadawsant i mi fyned, gan fy nilyn gyda'u cleddyfau yn noethion at y drws; (ond ni chaw'swn fyned pe gwybuasent pa beth oeddwn yn ei wneud yno.) Llyncais y brandy a daethum allan. Yna arweiniwyd fi at yr ystanc trithroed, a thyrfa fawr o filwyr arfog yn fy am gylchynu. Wedi i mi ddyoddef 800 o ffrewylliadau, dywedodd y meddyg nas gallwn ddal ychwaneg ; "Na gorphenwch y cwbl," ebe finau, yn fy ffyrnigrwydd. "Williams," meddai yntau , "gwell i chwi atal eich tafod, onide rhaid i chwi gymeryd y cwbl." "O'r goreu, Syr, gwnewch felly," ebe finau. "Na cymerwch ef ymaith i'r clafdy," meddai yntau: ac felly y bu:—ni soniwyd byth am y gweddill. Cefais amgeledd dda yn y clafdy; oblegid yr oedd pawb yn hoff iawn o honwyf, ac yn casâu fy erlynydd, sef y swyddog a'm carcharodd. Ar ol gwellâu ychydig, anfonwyd fi ac ereill o'r milwyr i le bychan, ugain milldir yn y wlad, i lafurio ar dyddyn y Major; ac un diwrnod daethom o hyd i wîn yn y palas, ac yfasom o hono; ond ni feddwodd neb ond myfi yn unig. Dedfrydodd y Major fi i gael fy flangellu; ond cefais fy arbed trwy i'w wraig eiriol troswyf, am fy mod wedi bod yn adrodd hanesion am y Cymry wrthi ryw dro cyn hyn.

Dychwelsom o'r lle hwn i Alikan bay; ac oddi yno hyd y môr i Cape of Good Hope. Pan oeddym oddeutu saith milldir oddiwrth y tir, meddwais yn drwm, ac yn fy meddwdod ymdrechais gael lle i neidio i'r môr, gan feddwl am nofio at y lan, a dianc oddiwrth y fyddin; ond pan oeddwn ar neidio dros ymyl y llong i'r môr, gafaelodd un o'r milwyr yn fy hugan, ac wedi perswadio ychydig arnaf aeth a fi i le diogel nes sobri. Wedi cyrhaedd Cape Town rhoddwyd ni yn y Barracks oedd yno. Ar ol paradio yn y prydnawn byddem yn cael myned allan hyd y dref: ac er mwyn cael pres i gael diodydd, byddwn i yn myned i balasau ac at foneddigion i ganu hen donau Cymreig, ac i chwareu y "delyn bren" a dynwared y bands; a byddwn yn cael llawer o fwyd ac arian lle byddai fy nghydfilwyr yn methu cael dim heb ladrata: yr oeddwnl yn rhagori ar bawb o'r fyddin yn hyny o beth. Meddwais yno, ac arosais yn y tafarndai am ddau ddiwrnod yn lle myned i'r Barracks bob dydd yn rheolaidd; a phan ddeuais yn ol i'r Barracks, rboddwyd fi mewn cyffion yn y garchargell. Dygwyd fi ger bron y Court Martial, — a'r gosb a gefais oedd dyoddef 500 o flangellau. Pan oeddid yn fy fflangellu, gwaeddais ar y Major an iddo drugarhau wrth Gymro tlawd a diniwaid; a gwrandawodd ar fy llef, a maddeuodd 300 i mi. Cymerwyd fi i'r Meddygdy (Hospital) at ugain 'ereill oedit yn yr un cyflwr; a gyrid ni fel gyru anifeiliaid bob bore i'r môr; ac yr oedd y dwfr hallt yn llosgi yn dost yn y briwiau ar ol y gath naw cynffon.


Wedi i ni wellâu ychydig cychwynasom i Bombay, yn yr India. Ac ar y fordaith hono dechreuodd y llong ollwng dwr i mewn; a byddem yn ei bympio allan ddydd a nos yn ddigyswllt. Yr oedd y Captain yn methu gwybod beth i'w wneud, a oedd yn werth ei throi i ryw borthladd ai peidio, i edrych beth oedd arni. Un diwrnod galwodd ar bawb i fynu ar ei bwrdd, yn cynwys Gwyddelod, Scots, Saeson, Danes, Swedes, Portuguse, a minau yn unig Gymro. Gofynodd i bob un o honom a fedrem ni nofio, gael iddo wybod pa ffordd yr oedd y dwfr yn dyfod i'r llong, a nacaodd pawb addef y medrent. Pan ydoedd yn gofyn fel hyn i mi, a minau yn gwada y medrwn, daeth rhyw lieutenant oedd yn fy adnabod yn mlaen, a dywedodd wrthyf, "Peidiwch a dweyd celwydd wrth eich Captain, Williams,—chwi yw y nofiwr goreu a welais i erioed." "Wel, yn wir, Syr, y mae arnaf fi ofn i'r Sharks fy llyncu," ebe finau : ac felly naceais wneuthur eu cais. Ond yn mhen oddeutu haner awr daeth Steward y Captain heibio wrth ranu bwyd, a dywedodd wrthyf fy mod yn un gwael iawn yn nacâụ gwneud cais y Captain: "Dowch menirwch," meddai, gan roddi "liquors" i mi i'w yfed. Dywedais inau yn mhen ychydig funndau fy mod am fentro, a thynais fy nghrys a neidiais dros ymyl y llong i'r môr. Suddais o dani, a gwelais fod un o'r estyll yn dechreu hollti, a bod y lleni cop (copper-sheets) yn codi oddiar yr agen. Pan ddeuais i fynu o'r dwfr, gwnaeth y Captain i mi fyned ar fy llw fy mod yn dweud y gwir: a dywedais wrtho bob peth a welais, a fy mod yn meddwl yn sicr mai trwy yr agen hono yr oedd y dwfr yn cael ei sugno i fewn. Pan glywodd y Captain hyny gorchymynodd ei throi i mewn i Bombay can gynted ag y gallesid; ac wrth ei hadgyweiro gwelsant ei bod fel y dywedais: a rhoddodd y Captain £l i mi am fy anturiaeth.

Y mae yn hawdd iawn gan gabdeiniaid roddi cant ac ychwaneg o'r gath naw gynffonog ar gefn troseddwyr, ond pan yr anturiai un ei fywyd yn nghanol y lle mwyaf arswydus am sharkes yn y byd, ie, ac i achub y llong a'r dwylaw , ni chaiff opd un £1. Pan y mae cyfraniadau o greulonder, ac haelfrydedd mòr anghyfartal nid rhyfedd i rinwedd fyned yn isel.

Pan oeddym yn aros fel hyn yn Bombay, cafodd pob un o honom £2 o'n cyflog i brynu dillad, ond yn lle gwneud hyny â hwy, aethum i bentref bach, ychydig o'r dref, i'w gwario am ddiodyd, ac am gael myned gyda merched duon; a lladratawyd rhan o honynt oddiarnaf. Cysgais allan un nos waith yn feddw ar y tywod, a phe buaswn yn aros ychydig funudau yn hwy heb ddeffro , buasai y llanw yn fy ngolchi ymaith i'r môr. Ac fel hyn, yn fy meddwdod, ymdroais hyd y dref yn hirach na'r amser goddefedig, sef, tri diwrnod: oblęgid nid oedd rhyddid i ddyeithriaid i aros ar y tir ddim mwy na thri diwrnod. Daeth Sergeant du oddiamgylch y pedwerydd dydd i edrych a oedd rhywun wedi aros ar ol heb fyned i'w llongau, a chafodd fi mewn tŷ tafarn, yn bur sal ac wedi gwario fy holl arian er y diwrnod cynt. Gofynodd beth oedd fy enw mewn Saesoneg pur ddrwg, dywedais inau mai Williams, yn nghyd ag enw y llong y perthynwn iddi. Rhoddodd wydraid o wirod i mi, gan ddymuno arnaf aros yno am ychydig o oriau, ac aeth ymaith. Daeth ataf yn ol cyn y nos a dau o filwyr arfog gydag ef, a hwy a’m cymerasant i garchardy, neu adeilad mawr lle'r oedd Blacks. yn gwylio. Arweiniasant fi yn nilaen i ddaeargell ëang, a rhoisant fi mewn cyffion ar wastad fy nghefn ar lawr cerig, a fy nhraed i fynu,—bum yn y cyflwr hwn drwy y nos heb ddim bwyd. A thranoeth dygwyd fi o flaen yr ynadon, a daeth cadben y llong y perthynwn iddi yno i'n rhyddâu trwy dalu £2 o ddirwy tros wyf; yna aethum gydag ef yn ol i'r llong. Pan oeddwn ar ymadaelo Bombay daeth rhai o foneddigion y wlad hono gyda ni, ac yn eu plith foneddiges weddw o Loegr, yn nghyd a'i thri phlentyn a'i morwyn . Yr oedd ar hon eisiau un o ddwylo y llong i'w gwasanaethu ar hyd y fordaith, a dy wedodd y Captain y cai hi fi. A gweini iddi hi oedd fy ngwaith o Bombay i Cape of good Hope. Yr oedd hi yn hoff iawn o honwyf,—byddai yn rhoddi llawer o ddiodydd i mi, a meddwodd fi un noswaith: a phan oeddwn yn myned allan trwy gaban y Captain i wneud neges iddı, gofynodd y Captain. "Pwy sydd yna ?" "Gofynwch i fy ***** ebe finau, a rhedais yn mlaen cyn iddo ddweud dim arall. Aethum ato yn fore dranoeth i ofyn ei bardwn am fy ymddygiad cywilyddus y noswaith o'r blaen, a maddeuodd i mi: gan feio fy meistres am roddi cymaint o wirod i mi. Ar ol cyraedd y Cape, aeth y boneddigion i'r lan, a lletyasant i gyd yn yr un tŷ, a chymerodd y foneddiges fi gyda hi. Yr oedd hi yn fy hoffi mor fawr fel y byddwn yn cael ei dilyn i blith y boneddigion mwyaf. Wrth weled fy ngwisg braidd yn wael, rhoddodd £3 i mi i brynu dillad newydd; ond yn lle gwneud yn ol gorchymyn y foneddiges rhoddais hwy am ddiodydd, a tharewais ar hen filwr adnabyddus i mi, a gweriais y cwbl cyn ymadaw â hwnw. Yn mhen diwrnod neu ddau aethum yn ol at fy meistres mor llwm ag , oeddwn yn cychwyn. Ac wedi i mi ddywedyd wrthi fel y bu, dymunodd arnaf beidio gwneud felly byth mwy; a rhoddodd ychydig arian imi drachefn i geisio dillad: ond gwastreffais y rhai hyny yr un modd. Arosais allan yn feddw ar gam amser ar y nos; cymerodd y cwnstabliaid fi yn garcharor i gas tell mawr. Yn mhen rhai wythnosau dygasant saer yn perthyn i'r un llong a mi yno am yr un trosedd; a daeth y Captain yno i'r ymofyn ac i'w ryddâu, a gwelodd finau yno, ac a'm rhyddaodd. Oni buasai i’r saer hwnw ddygwydd cael ei garcharu, ni buaswn i byth yn medru dyfod oddiyno: oblegid nid oeddwn yn ngolwg y Captain yn werth chwilio am danaf. Ymgasglodd y milwyr â phawb o'r mor deithwyr i'r llong, ac aethom heibio St. Helena i geisio dwfr croyw. Ni chefais i fyned yn was i'r foneddiges mwyach: rhoddwyd fi i wneud gwaith caled perthynol i'r llong. Yn mhen yr wythnos hwyliasom o St. Helena tua Lloegr, a glaniasom yn Plymouth, lle yr ydoedd Buonaparte mewn dalfa mewn llong, wedi ei gymeryd ar ol rhyfel Waterloo, yr hon oedd wedi terfynu ddiwrnod neu ddau cyn i mi gyraedd Plymouth.