Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Colli'r Gogledd
← Brwydr Caer | Hanes Cymru O M Edwards Cyf I Colli'r Gogledd gan Owen Morgan Edwards Colli'r Gogledd |
Y Cenhedloedd Duon → |
A OEDD galar yng Nghymru wrth gofio fod mynyddoedd y Gogledd wedi eu colli, wrth gofio fod aml gwm Cymreig yn gorfod dal i ymladd brwydr yn erbyn yr Eingl, wrth gofio fod unbennaeth yr ynys wedi ymadael oddi wrth y Cymry? Oedd, yn ddiameu, ac oherwydd y galar hwnnw y medrodd Cadwallon uno'r Cymry i ennill eu hen goron yn ôl, - am ennyd.
Edrydd Sieffre o Fynwy hanes trawiadol am febyd Cadwallon ac am febyd Edwin, yr hwn fu'n cydymgeisio â Chadwallon am unbennaeth yr ynys. Faint o wir sydd yn yr hanes, nis gwn. Hwyrach mai hanes bywyd y ddau frenin wnaeth i ddychymyg oesau wedyn daflu cysgodion eu brwydrau yn ôl i adeg eu plentyndod. Ond dyma'r hanes. Yr oedd Aethelfrith, brenin yr Eingl, wedi ymladd â Chadfan, brenin y Cymry, am y frenhiniaeth. Gwnaethant heddwch, gan rannu yr ynys rhyngddynt, - ar goron i fod ar ben brenin Cymru. Ac yn yr amser hwnnw alltudiodd Aethelfrith greulon ei wraig. Dihangodd hithau at Gadfan, brenin Cymru, am nodded; ac wedi iddi gyrraedd Cymru, ganwyd Edwin, ei mab. Ar yr un pryd ganwyd Cadwallon, mab Cadfan. A magwyd hwy gyda'u gilydd yn yr un llys, ac anfonwyd hwy i'r ysgol gyda'u gilydd at Selyf, brenin Llydaw. Wedi hynny bu farw Cadfan ac Aethelfrith, a daeth eu dau fab yn frenhinoedd yn eu lle. Yr oedd yr un heddwch i fod rhyngddynt. Ond yr oedd Edwin am wisgo coron hefyd; a rhyw ddiwrnod gwelodd Cadwallon filwr Cymreig yn wylo wrth feddwl mai nid brenin Cymru oedd unig frenin yr ynys. Ac aeth y ddau gyfaill i ryfela am y goron; a Chadwallon a'i henillodd hi.
Y mae llawer o bethau anghywir yn yr hanes fel yr edrydd Sieffre ef, ond dengys yn eglur beth oedd ymgais Cadwallon, - ymgais i adennill brenhiniaeth Cymru. Wrth gymharu croniclau Seisnig, Cymreig, a Gwyddelig, - y cwbl sydd ar gael, - medrir dweud hanes Cadwallon heb fethu rhyw lawer iawn.
Yr oedd Eingl gogledd Lloegr yn ddau dylwyth mawr, - Eingl Bryneich ac Eingl Deifr. Tua 610 yr oedd Aethelfrith yn frenin ar Eingl Bryneich; a'i frawd yng nghyfraith Aella yn frenin ar Eingl Deifr. Bu Aella farw, gan adael ei aer Edwin yn blentyn. Ac ar hynny cymerodd Aethelfrith feddiant o deyrnas y bachgen, gan deyrnasu ar yr holl Eingl. Ffodd Edwin, a phan ar ffo daeth gŵr ato pan yn unigedd anobaith, a dywedodd wrtho y byddai'n frenin grymusach na neb o'i dadau o'i flaen. Yr oedd llwyddiant Aethelfrith yn gwneud i'r Cymry ac Eingl a Saeson y de ymosod arno. Ymladdodd y Cymry ag ef ar forfa Caer, fel y gwelsom; ac er iddo ennill y frwydr honno, ni lethwyd ei elynion. Yr oedd Cadwallon wedi dilyn Cadfan fel brenin Cymru; ac yr oedd Eingl Deifr yn dechrau anesmwytho. Yn 617 bu Aethelfrith farw, a daeth Edwin yn frenin yn ei le.
Y cwestiwn yn awr oedd, - pa un a'i Cadwallon a'i Edwin oedd i fod gryfaf. Hawliai'r ddau unbennaeth a choron yr ynys. Pan ddechreuodd yr ymladd, aeth y rhyfel yn erbyn Cadwallon. Y mae traddodiadau a hanes am y rhyfel. Fel ei ewythr o'i flaen, arweiniodd Edwin fyddin i Gymru. Cyfarfyddodd Cadwallon ef ar y gefnen fynydd sy'n gorwedd rhwng dyffryn yr Hafren a Lloegr; ac wedi ymladdfa waedlyd, gorfod i'r Cymry gilio yn ôl. Yn rhywle ar lannau Conwy ceisiodd Cadwallon rwystro'r Eingl buddugoliaethus ymdeithio ymhellach i Gymru. Yno hefyd collodd y dydd; ac yn 629 yr oedd Edwin yn gwarchae arno yn ynys Glannog, ar duedd Môn. Y diwedd fu i Gadwallon ffoi o'i wlad; a daeth ynysoedd Môn a Manaw yn eiddo i Edwin. Edwin, felly, oedd unben yr ynys hon; cerddai gyda baner yr unbennaeth yn gorymdeithio o'i flaen.
Yn nydd ei lwyddiant, daeth Edwin yn Gristion, gan geisio arwain ei luoedd paganaidd i ffordd y bywyd. Dywed rhai fod y gŵr hwnnw a'i cysurodd yn unigedd ei adfyd wedi dod ato, gan gynnig cyfraith newydd iddo. Dywed eraill mai Cymro, o'r enw Rhun fab Urien, a'i bedyddiodd. Ond hyn sydd sicr, - collodd Edwin ei nerth wrth droi'n Gristion. Tra'r oedd ei bobl wedi eu rhannu rhwng y grefydd newydd ar hen, daeth Cadwallon yn ôl i Gymru. Ffurfiodd gynghrair â Phenda, brenin paganaidd Eingl y Mers, ac ymosodasant ar Edwin. Yn 633 ymladdasant yn erbyn Edwin ym Meiceren neu Heathfield yn ei wlad ei hun, gan ei lwyr orchfygu. Ac yn y frwydr honno cwympodd Edwin.
Bellach y mae Cadwallon yn unben yr holl ynys, wedi ennill y Gogledd yn ôl hyd at y mur Rhufeinig, ac y mae Cymru gymaint ag y bu erioed. Ac yr oedd Cadwallon yn dal ei deyrnwialen uwchben yr Eingl, a chafodd y Cymry oedd yn eu mysg lonydd. Dywed prif hanesydd yr Eingl, anwyd ddeugain mlynedd ar ôl y frwydr, mai caled oedd iau Cadwallon ar y gorchfygedig. Yr oedd Cadwallon, meddai, er ei fod yn proffesu Cristionogaeth, yn ymddwyn yn null barbariaid. Nid arbedai wragedd, na ieuenctid tyner plant, ond rhoddai hwynt i farwolaeth greulon, gan ddiffeithio yr holl wlad, a phenderfynu difodi holl hil yr Eingl o fewn terfynau Prydain.
Gwnawd llawer ymdrech i ysgwyd iau Cadwallon ymaith. Daeth meibion Aethelfrith,—Osric ac Eanfrid,—yn ei erbyn. Casglodd Osric fyddin, a gwarchaodd ar Gadwallon mewn dinas gadarn; ond rhuthrodd lluoedd Cadwallon allan, gan ddinistrio Osric a'i fyddin. Amser du i'r Eingl oedd yr amserau hyn, - cawsant hwythau brofi chwerwder caethiwed.
Yr oedd byddin Cadwallon yn fawr, ac ymffrostiai ei bod yn anorchfygol. Ond brenin ar luoedd o frenhinoedd eraill oedd; ac yr oedd yn anodd cael y rhai hynny i ymlawenhau yn ei unbennaeth, yr oedd yn anodd cadw ei fyddin ar y maes o hyd. Daeth Oswald, mab arall i Aethelfrith, yn erbyn Cadwallon. Casglodd fyddin, a threfnodd hi o amgylch croes yn ymyl mur y gogledd. Ac yno, mewn lle elwir yn Denisesburn a Catscaul gan wahanol haneswyr, yng ngolwg mur y Rhufeiniaid, gorchfygwyd y Cymry a syrthiodd Cadwallon.
Ni chredai y Cymry oesoedd wedyn fod Cadwallon wedi cwympo. Credent ei fod wedi byw i reoli'r ynys fel uchel unben tra'r ymladdai mân frenhinoedd am dalaethau dano, ac y cymodent wrth ei orchymyn. Y boneddicaf a'r cyfoethocaf Gadwallon, brenin y Brytaniaid, ebe Ystorya Brenhinoedd y Brytanieit, yn dreuledig o henaint, - pythefnos wedi calan gaeaf yr aeth o'r byd hwn. A'i gorff a irwyd ag ireiddiau gwerthfawr, ac a ddodwyd mewn delw o efydd a wnaethid ar ei fesur a'i faint ei hun. Ar ddelw honno a ddodwyd ar ddelw march o efydd, yn arfog, yn rhyfedd ei thegwch. A honno a ddodwyd ar y porth parth a'r gorllewin yn Llundain, yn arwydd y rhagddywedigion fuddugoliaethau uchod, er aruthredd i'r Saeson.
Ond ar faes y gad, draw wrth y mur, y cwympodd Cadwallon, yn 635.
Ni fu diwedd ar yr ymdrech gyda marw Cadwallon. Unodd tywysogion y Cymry gyda Phenda yn erbyn Oswald. Yr oedd y Cymry ac Eingl Penda mewn perygl, oherwydd yr oedd Oswald a'i luoedd yn ymdeithio tua'r de. Fel yr aeth y Cymry i gyfarfod Edwin, aethant i gyfarfod Oswald hefyd. Ymunasant âg Eingl Penda, ac mewn lle o'r enw Maserfield, yn rhywle ar wastadedd Maelor, heb fod ymhell o Groes Oswallt, gorchfygasant a lladdasant Oswald. Yn 642 y bu hyn. Ieuanc oedd Oswald pan fu farw, dim ond deunaw ar hugain oed. Yr oedd galar mawr ymysg ei bobl ar ei ôl, oherwydd yr oedd yn frenin trugarog a da. Clywodd Baeda hen bobl yn dweud fod llawer wedi eu hiachau wrth orwedd ar y pridd lle syrthiodd Oswald.
Ieuanc hefyd oedd brenin Cymru, - Cadwaladr, mab Cadwallon. A pheth anodd iawn i wŷr ieuainc oedd cadw eu teyrnasoedd yn gyfaeon yn yr amseroedd hynny. Ond cafodd Cadwaladr le teg i dreio. Yr oedd ei gyfaill, yr hen bagan mawreddog Penda, yn gymorth iddo. Ac yr oedd Northumbria, gwlad Edwin ac Oswald, wedi ei rhannu rhwng Oswiu ac Oswine. Cyn hir medrodd Oswiu gynllunio brad Oswine, a daeth yn frenin ar Northumbria i gyd. Yna cychwynnodd ar hyd llwybr ei gyn - frenhinoedd yn erbyn Penda a Chadwaladr. Cymerodd y frwydr le mewn maes ar lan afon,-Winwaedfield, - yn 655. Cyn y frwydr gadawodd amryw frenhinoedd Penda, gyda'u lluoedd. Ymysg y rhain yr oedd rhyw frenin Cymreig o'r enw Cadafael, yr hwn a lysenwyd wedi hynny yn Gad-afael Cad-ornedd. Oswiu drechodd, a bu Penda farw yn y frwydr honno.
Yn awr yr oedd Oswiu yn barod i ymosod ar Gymru a Chadwaladr. Ond daeth brenin mwy ofnadwy i'r wlad. Ar ôl y rhyfeloedd meithion, daeth haint. Ymysg eraill bu Cadwaladr farw o honno, tua 664. Oes enbyd oedd yr oes honno, fel pob oes wedi rhyfeloedd hir. Dywed traddodiad, er hynny, mai yn Rhufain y bu Cadwaladr farw.
Tywyll a niwliog ydyw hanes Cymru am dros gan mlynedd wedi cwymp Cadwallon a marw Cadwaladr. Yr oedd Eingl Northumbria wedi meddiannu gwastadedd Maelor, ac wedi gwahanu Cymry ein Cymru ni oddi wrth eu brodyr yn y gogledd. Ymladdent ar wahan mwy, -ein tadau ni yn erbyn Northumbria a Mercia, a Chymry'r gogledd yn erbyn Northumbria a'r Pictiaid, - hen Wyddyl Ffichti oedd yn parhau i ymosod arnynt o fynyddoedd gogledd yr Alban. Clywai y Cymry hanes yr ymladd rhwng eu brodyr a'r Pictiaid; clywsant am frwydr Maes Ydawc, lle lladdwyd Talargan, brenin y Pictiaid, gan y Brytaniaid; ond cyn hir daeth newydd arall, - fod y paganiaid wedi rhuthro ar Alclwyd, y gaer safai ar graig uchel fel amddiffynfa fwyaf gogleddol y Cymry, ac wedi ei dinistrio. Dumbarton, yn nyffryn y Clyde, oedd y gaer hon; ac y mae muriau duon eto'n gwgu ar ben y graig yng nghyfeiriad dyffrynnoedd mynyddig y Pictiaid ac i lawr dyffryn y Clyde, ond nid yr un muriau ag a fu'n herio'r Pictiaid ddoi i lawr dyffryn y Leven a'r paganiaid o fôr - ladron ddoi i fyny'r Clyde.
Ond yr oedd gan y Cymry ddigon o drallodion eu hunain, heb sôn am drallodion Ystrad Clwyd. Y mae'n wir fod Northumbria, eu hen ddinistrydd, yn dechrau gwanhau. Ar ôl Oswiu daeth Egfrith, efe arweiniodd fyddin yn erbyn y Pictiaid yn 686, ym mrwydr Dun Nechtain. Wedi hynny daeth llawer o drallodion i ran Northumbria; ymosodid arni gan y Pictiaid a chan fôr-ladron, ac nid oedd mwyach yn un wlad gref.
O gyfeiriadau eraill yr oedd perygl Cymru'n awr. Yr oedd perygl oddi wrthi hi ei hun. Ni fynnai ymuno. Pan fydd gwlad wedi colli rhan bwysig, fel rheol daw undeb y rhannau syn weddill yn dynnach. Ond wedi colli Ystrad Clwyd ac wedi colli ei hunbennaeth olaf, llaciodd undeb y Cymry, ac ymroddodd pob tywysog i wneud drwg yn ei ffordd ei hun. Yn ôl pob tebyg ni bu brenin ar holl Gymru am beth amser ar ôl Cadwaladr. Yr oedd Northumbria yn gwanhau, Mercia eto heb ddechreu bygwth, a'r cenhedloedd duon eto heb ddod fel cwmwl o'r môr. A chan nad oedd perygl o'r tu allan i'w huno, dechreuodd y tywysogion Cymreig ymladd â'u gilydd. Dywed Brut y Tywysogion mai Ifor, mab brenin Llydaw, fu'n teyrnasu ar y Cymry am beth amser. Dywed traddodiad mai amser mân ryfeloedd a haint a dychryn a daeargrynfâu oedd yr amser hwnnw, - trodd y llaeth a'r menyn yn waed, a'r lleuad a drodd yn waedol liw. Crynodd y ddaear yn Llydaw; glawiwyd cawod o waed ym Mhrydain; yr oedd yr haint yn yr Iwerddon. Yn yr amseroedd hynny, anodd oedd byw ond wrth ysbeilio neu ryfela. Yr oedd milwyr hur yn heidio yng Nghymru. Gyda milwyr logasent yng Nghymru yr ymladdai mân frenhinoedd yr Iwerddon â'u gilydd. Onid oedd un o hil Cunedda i gasglu byddin, i uno Cymru, ac i rwystro'r dadfeiliad andwyol?
Rhodri Molwynog oedd y cyntaf i wneud hynny. Mab Tudwal, ac wŷr Cadwaladr oedd efe. Gelwir ef yn frenin y Brytaniaid, - edrychid arno fel olynydd Cadwaladr a Chadwallon. Paham y gadawodd y mân dywysogion i ŵr o linach Cunedda ail osod iau brenin ar eu gwarrau? Yr oedd Mercia'n dechrau bygwth Cymru, - dyna'r rheswm. Gwastad-diroedd canolbarth Lloegr oedd Mercia, tylwythau'r Eingl wedi ymuno dan frenhinoedd galluog. Daeth tri brenin nerthol ar ôl eu gilydd ,- Aethelbaid, Offa, Cenwulf, - a'u penderfyniad oedd darostwng yr ynys a gwisgo ei choron., Ymosododd Mercia ar Gymru yn y gorllewin ac ar Wessex yn y de, gan geisio ehangu ei therfynau dros y Tafwys ar Hafren yr un pryd. Bu brwydrau yn Heilin yng Nghernyw, ac yng Ngarthmaelog ac ym Mhen Coed yn y Deheubarth; ond ni wyddys i sicrwydd pa frenin oedd yn ymosod ar Gymru yn y brwydrau hyn, na pha frenin oedd yn amddiffyn. Y tebyg yw mai brwydrau rhwng Rhodri Molwynog ac Aethelbald oeddynt. Collodd Aethelbald frwydr yn erbyn Saeson Wessex; a bu ef a Rhodri Molwynog farw yn 755, - y brenin geisiai unbennaeth y Saeson a'r brenin geisiai unbennaeth y Cymry.
Wedi marw Rhodri Molwynog, diflannodd pob gobaith am undeb Cymru drachefn. Dechreuodd ei ddau fab ieuanc, Cynan Tindaethwy a Hywel, ymladd â'u gilydd am ynys Môn, gan yrru y naill y llall allan o honni lawer tro. Tra'r oeddynt hwy yn ymladd â'u gilydd, a thywysogion Cymru'n dilyn eu harfer, yr oedd Offa'n teyrnasu. Dyma un o'r gelynion chwerwaf a galluocaf gafodd Cymru erioed. Yr oedd ganddo amcan clir o'i flaen. Fel yr oedd Siarl Fawr yn gwneud y cyfandir yn un ymherodraeth, felly meddyliai Offa am wneud pob rhan o ynys Prydain naill a'i yn rhan o'i dalaeth ef, Mercia, neu'n ddarostyngedig iddi. Sefydlodd archesgobaeth yn Lichfield, i wneud Mercia'n anibynnol ar Gaer Grawnt a Chaer Efrog; cafodd feddiant o brif afonydd Lloegr, tramwyfeydd masnach, a dengys yr arian a fathodd fod ei fryd ar lywodraethu masnach Prydain. Ymysg yr afonydd ddaeth yn eiddo iddo, yr oedd yr Hafren o'r .Amwythig i'r môr. Estynnodd derfynau Mercia ymhell i Gymru, a galwyd hen glawdd redai gydag ymylon y mynyddoedd ar ei enw ef.
Teyrnasodd Offa am amser maith, am ddeugain mlynedd namyn un, o 755 i 794. Pan ddechreuodd deyrnasu, yr Hafren oedd y terfyn rhwng Cymru a Lloegr, yr oedd Cymru yn cyrraedd hyd Gaer Wrangon (Worcester) a Chaer Loew (Gloucester). Ar ddiwedd oes Offa yr oedd y Cymry wedi colli, nid yn unig y wlad dda rhwng Hafren a Gwy, ond llawer o'r hyn sydd y tu yma i'r Wy a'r ar Ddyfrdwy. Aeth yr Amwythig, prif ddinas Powys, a Henffordd yn eiddo i'r Eingl. Nid heb ymladd brwydrau lawer yr aeth Cymru mor fechan,-yn llai nag ydyw yn awr. Bu brwydr yn Henffordd, pan groesodd Offa'r Hafren, i'w rwystro rhag croesi'r Wy hefyd. Dro ar ôl tro arweiniodd ei fyddin i Gymru, gan ddiffeithio. Ac yna y bu distryw y Deheubarthwyr gan Offa frenin, - dyna'r hanes adroddir o hyd. Yr oedd Cymru ar ei drugaredd; yr oedd dau fab Rhodri Molwynog yn ymladd â'u gilydd draw ym Môn; ac ni fedrai tywysogion gwahanol dalaethau Cymru ond aros hyd nes y byddai raid iddynt wynebu Offa bob yn un.
Ar ôl Offa daeth Cenwulf, a bu yntau'n ddychryn i Gymru o 785 hyd 819. Hawdd oedd iddo orchfygu'r tywysogion; ni fynnent ymuno. Meredydd, brenin Dyfed; Caradog, brenin Gwynedd; Cadell, brenin Powys; Arthen, brenin Ceredigion, - syrthiasant bob yn un. Brodyr yn ymladd, a'r Saeson yn diffeithio, - dyna hanes brenhiniaeth anhapus Cynan Tindaethwy, rhwng 755 a 815. Y Saeson yn lladd brenin Gwynedd; colli anibyniaeth Eglwys Cymru llosgi Tyddewi yn y de a Deganwy yn y gogledd; y Saeson yn diffeithio mannau diogelaf Cymru, - mynyddoedd Eryri a breniniaethau Dyfed; colli brwydr, colli Rhufoniog, darnio Powys, - nid oes adeg mor alaethus yn hanes Cymru i gyd. Yr oedd yn hawdd gweled fod y gogledd wedi ei golli am byth; ac yr oedd yr undeb ar unbennaeth oedd ynglyn a'r mur wedi diflannu o Gymru. Ac yr oedd gelyn arall yn dod o'r môr.
—————————————
==NODYN VI.==
Prif ffynonellau ein gwybodaeth am y blynyddoedd y sonnir am danynt yn y bennod hon ac yn y penodau sy'n dilyn yw,- Y CRONICLAU CYMREIG, yn Lladin a Chymraeg,-Annales Cambrice a Brut y Tywysogion (o farwolaeth Cadwaladr ymlaen). Ceir llawer o oleuni hefyd o'r caneuon sydd yn Llyfr Du Caerfyrddin, o'r caneuon a'r rhamantau sydd yn Llyfr Coch Hergest, ac o ganeuon Llyfr Taliesin. Gweler hefyd Fucheddau'r Saint, a'r hen gyfreithiau Cymreig. Ac nac anghofier Nennius a hanes bywyd Alfred gan Asser.
Y CRONICLAU SEISNIG, - yr Anglo - Saxon Chronicles. - A phwysicach o lawer na'r rhain yw hanes Baeda, - yr Historia Ecclesiastica.
Y CRONICLAU GWYDDELIG, - Tighernach, Cronicl Ulster, Chronicon Scotorum, Cronicl Loch Ce, Cronicl Inisfallen.
Cyhoeddir yr Annales Cambria yn y Rolls Series; y rhannau o Lyfr Coch Hergest sy'n cynnwys y Brutiau a'r Mabinogion gan Rhys a Gwenogfryn Evans; Llyfr Du Caerfyrddin mewn facsimile gan Gwenogfryn Evans; Gildas, Nennius, ac Asser, yng nghyfrolau CYMRU. Y mae rhai o Fucheddau'r Saint wedi eu cyhoeddi, a'u cyfieithu'n wael gan Rees; y mae tri yn Llyfr Llan Daf, cyhoeddedig gan Gwenogfryn Evans.
Cyhoeddir y Croniclau Seisnig gan y Clarendon Press, dan olyglaeth Earle a Plummer; cyhoeddir Baeda yn yr un gyfres hefyd, dan olygiaeth Plummer. Y mae rhai o'r croniclau Gwyddelig yn y Rolls Series.