Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Dau Frenin Galluog

Oddi ar Wicidestun
Y Cenhedloedd Duon Hanes Cymru O M Edwards Cyf I
Dau Frenin Galluog
gan Owen Morgan Edwards

Dau Frenin Galluog
Yr Hen Grefydd

PENNOD X
DAU FRENIN GALLUOG.

ADEG ofn a dychryn oedd y flwyddyn 1000; ac wedi iddi fyned heibio dechreuodd pobl anadlu'n rhwyddach, ac edrych oddi amgylch i chwilio am rywun a'u harweiniai i heddwch a llawnder drachefn.

Tybiai llawer mai'r flwyddyn 1000 fyddai diwedd y byd. Yr oedd pob peth yn ddrwg iawn, a thybid fod y Barnwr ar ddod ar gymylau'r nef. Y mae'n anodd rhoddi un rheswm clir am y dyb hon; o wahanol anghyson dybiau y tarddodd. Yr oedd yr apostol Paul wedi gorfod rhybuddio'r Thesaloniaid rhag tybied fod diwedd y byd yn ymyl. Ond ofer oedd ei rybudd, mynnai dychymyg y byd dynnu'r dydd olaf ar Farn yn agos. A meddylid yn sicr, pan oedd y filfed flwydd yn dod, mai hi fyddair diwedd. Yr oedd Awstin, fe ddywedid, yn credu hynny. Ac yr oedd llawer wedi cymysgu'r Milflwyddiant yn eu meddyliau gyda'r flwyddyn 1000.

Hawdd oedd meddwl fod diwedd y byd yn ymyl. Yr oedd y Babaeth, ar ôl gwrhydri dros grefydd, wedi suddo i ddyfnderoedd llygredigaeth. Anaml bab gâi farw o farwolaeth yr union, - yr oeddynt yn llofruddion, yn ysbeilwyr, ac yn odinebwyr ar y gorau. Dwy ddynes anfad oedd yn dweud pwy gâi eistedd ar orsedd Pedr a llywodraethu'r Eglwys. Yn 999 yr oedd Pab newydd wedi dod, - Sylvester yr Ail, - ac wedi penderfynu puro'r Babaeth ar offeiriadaeth. Y mae moesoldeb Rhufain yn rhyfeddod i'r byd, meddai, yn chwerw. Yr oedd Sylvester wedi bod gyda Mahometaniaid yr Yspaen, ac wedi yfed o ffynhonnau eu dysgeidiaeth, ac wedi gweled mor fawreddog â phur oedd eu crefydd hwy rhagor Cristionogaeth ddirywiedig ei ddydd. Ond prin yr oedd wedi cael yr awenau i'w ddwylaw, prin yr oedd wedi cael agor ei lygaid ar yr holl lygredigaeth oedd yn Rhufain, pan dorrodd angau ef i lawr. A oes rhywun, gofynnid, ond Barnwr y dydd diweddaf, fedr buro Rhufain a'i hoffeiriaid yn y flwyddyn 1000?

Yr oedd yr ymerawdwr yn gwisgo llawer coron - coron yr Almaen, coron haearn yr Eidal, a choron aur y byd. Ato ef y gallai'r gorthrymedig apelio yn erbyn y bleiddiaid dynol oedd yn cyniwair trwy'r gwledydd. Ac yr oedd breuddwyd wedi codi o flaen dychymyg Otto'r Trydydd, yr ymerawdwr elwid yn Rhyfeddod y Byd. Yr oedd wedi meddwi am buro byd ac eglwys, ac i roddi holl alluoedd ei ymherodraeth fawr ar waith i ddarostwng anghyfiawnder a drygioni, ac i gynorthwyo'r tlawd a chodir gwan i fyny. Ond pan ar fin sylweddoliad ei freuddwyd, a phan wedi croesi'r Alpau i'r Eidal, daeth angau mewn dull dieithr ac ofnadwy i'w dorri yntau i lawr tua'r flwyddyn honno.

Yr oedd cedyrn arfog ymhob man, ac nid oedd ymwared i'r tlawd a'r gwan. Yr oedd Ffrainc yn llawn o ysbeilwyr mewn cestyll cedyrn, a phrin y meiddiai'r blodau dyfu yn y wlad honno. Yn Spaen yr oedd y Mahometaniaid anorchfygol yn rhuthro dros gaerau tref ar ôl tref. Yr oedd llofrudd ar orseddfainc Cystenyn yng Nghaercystenyn ardderchog; a thraw, y tu hwnt i'r Tigris ar Gihon, yr oedd y Twrc creulon yn dechrau edrych yn flysig ar sefyllfa ddiamddiffyn gwledydd cred.

Yn Lloegr yr oedd rhyfel enbyd rhwng y brenin Ethelred ar Daniaid. Yr oedd y Saeson a'r Daniaid wedi ymgreuloni, a llawer lladdfa fawr fu yn amser heddwch. Yn y flwyddyn 999 yr oedd Swegen a'i farbariaid yn ymosod ar yr ynys, ac nid oedd a fedrai ei wrthsefyll. Yr oedd Cymru hefyd yn cael ei hanrheithio yn druan. Ymosodai'r Daniaid arni'n ddibaid o ochr y môr, ymosodai'r Saeson arni o'r tir, ac yr oedd ei thywysogion yn ymladd â'u gilydd tra'r oedd y gelyn yn ymosod arnynt o bob tu. Drachefn a thrachefn codai mwg Tyddewi a Llanbadarn a Chaer Gybi i'r nefoedd, a'r barbariad yn crechwen wrth ei weled o'i long, - arwydd sicr fod ei ffagl wedi llwyddo. Drachefn a thrachefn treiddiodd lluoedd Seisnig i ganol Cymru, gan ddiffeithio'r dyffrynnoedd a'u gwneud yn anialwch unig.

Ac ymysg y tywysogion yr oedd ymladd. Yr oedd teulu Rhodri wedi colli eu gafael ar bob rhan o Gymru; ac ni wyddai neb ym mha le yr oeddynt, ac a oedd rhai o honynt ar dir y rhai byw. Yr oedd cred gref yng Nghymru mewn brenin, yr oedd yno adar na chanent ond ar arch y brenin cyfiawn. Bu rhyfel rhwng tywysogion am le'r brenin. Rhyw Aedan, fab Blegywryd, oedd fwyaf nerthol, ac efe a'i bedwar mab oedd yn tra-arglwyddiaethu ar Gymru.

Ni ddaeth Barnwr y byd ar y cymylau yn y flwyddyn 1000. Daeth blynyddoedd ar ei hol fel o'r blaen. Yr oedd llawer wedi trosglwyddo eu tiroedd i'r eglwysi, - fel pe buasai'r eglwysi'n meddu gallu i'w rhwystro i losgi yn y goelcerth ddiweddaf, - a gwelsant yn awr na fuasai waeth iddynt heb. Ailddechreuodd bywyd pob gwlad. Daeth Flildebrand cyn bo hir i buro'r Babaeth trwy ymdrechion mawr. Daeth Harri'r Sant i godi'r Ymherodraeth i binacl uchaf ei gogoniant. Trodd Cnut, brenin Danaidd Lloegr, yn ŵr trugarog a mwyn. Ac yr oedd obaith fod y barbariaid symudol yn peidio â'u cyffro; yn Spaen yr oedd brenin Castile wedi gorchfygu'r Mahometaniaid, draw ar ororau Poland a Hungari yr oedd y barbariaid newydd ddod yn Gristionogion eiddgar; ac yn ymyl, yn yr Iwerddon, yr oedd Brian Borumha wedi dinistrio gallu'r cenhedloedd duon ym mrwydr fawr Clontarf.

A'r amser hwnnw daeth ymwared i Gymru hefyd, drwy rym a doethineb Llywelyn ab Seisyll. O'r De y daethai Llywelyn, ond yn y Gogledd yr oedd ei nerth. Yr oedd wedi priodi un o hil Rhodri, os nad oedd o hil Rhodri ei hun. Angharad oedd ei wraig, merch y Meredydd oedd wedi rheoli gwyr Dyfed am beth amser wrth eu bodd. Yr oedd Meredydd yn fab i Owen, a hwnnw'n fab i Hywel Dda.

Yr oedd Meredydd wedi marw yng nghanol y rhyfeloedd â'r cenhedloedd duon ac â phennau teuluoedd Cymreig oedd yn ymgeisio am y goron. Yr oedd Daniaid y môr a Saeson y tir wedi cyfarfod eu gilydd wrth ddiffeithio, ac nid oedd lle diogel i'r gwan yng Nghymru i gyd.

Ar Wynedd y dechreuodd Llywelyn deyrnasu, drwy orchfygu Aedan a'i feibion, a Meurig fab Artlifael. Tybiodd rhyw Ysgotyn y medrai yntau deyrnasu ar y De, trwy ddychmygu yn gelwydd ei fod yn fab i Feredydd frenin. Cymerodd gwyr y De y Rhein hwn yn frenin arnynt, a chynyddodd ei allu. Nis gallai dau fod yn frenin Cymru, ac apeliwyd at y cledd i benderfynu rhwng Llywelyn ar ymhonnwr. Ymdeithiodd Llywelyn a'i luoedd tua'r De; a daeth yr Ysgotyn i'w gyfarfod. Dywedodd Rhein yn ymddiriedus wrth wŷr y De mai efe a orfyddai, a chredasant hwythau y chwyddedig drahaus anogwr hwnnw. A rhuthrodd y ddwy fyddin yn erbyn eu gilydd yn Aber Gwili, gan fedi eu gilydd i lawr. Gwnaeth gwyr Gwynedd lewder, a darfu ymffrost Rhein, ac a gilyawdd yn waradwyddus o lwynogawl ddefawt". Ar ol y frwydr hon, y mae'n amlwg i Gymru i gyd ddod dan lywodraeth Llywelyn.

Peidiodd y cenhedloedd duon a diffeithio, a daeth y wlad yn heddychlon a llawn drachefn. Peidiodd cyffro'r tywysogion, yr oedd y brenin yn ddigon cryf i gadw'r heddwch rhyngddynt. Cofid am Lywelyn fel pennaf a chlodforusaf frenin o'r holl Frytaniaid. Arferai hen wŷr y deyrnas ddweud yn ei amser ef fod ei deyrnas, o'r môr bwy gilydd, yn gyflawn o amlder da a dynion, hyd na thebygid fod tlawd na gwan yn yr holl wledydd, na thref wag na chyfle diffyg.

Paham y daeth Llywelyn mor gryf, a pha fodd y medrodd wneud ei wlad mor ddedwydd? Trwy ymgyfamodi â brenhinoedd y Gwyddelod yn erbyn y cenhedloedd duon. Yr oedd clod brenin Cymru wedi cyrraedd i gyrrau eithaf yr Iwerddon, ac y mae'r croniclydd Gwyddelig yn sôn am ei farw wrth sôn am farw ei frenhinoedd ei hun.

Cyn marw Llywelyn dechreuodd y cenhedloedd ail anrheithio, a thraw yng nghwr pellaf ei deyrnas gwelodd y brenin Dyddewi ar dân.

Yn 1022 (yn 1023 yn ôl y croniclau Gwyddelig) y bu Llywelyn ab Seisyll farw. Gyda'i farwolaeth ymadawodd yr heddwch a'r llwyddiant i gyd. Aeth Rhydderch fab Iestyn a'r De oddi wrth y Gogledd. Lladdwyd Cynan fab Seisyll; ac aeth Gruffydd, mabo Llywelyn, ar ffo. Lladdwyd Rhydderch gan yr Ysgotiaid; a daeth meibion Edwin, - Meredydd a Hywel, - i'w le. Yna bu brwydr Hiraethwy rhyngddynt a meibion Cynan. Yr oedd y Saeson yn bygwth hefyd; ag yr oedd Iago frenin Gwynedd yn rhy wan i'w gwrthsefyll. Ymha le yr oedd Gruffydd, mab Llywelyn?

Tua 1038 lladdwyd Iago, ac yr oedd y ffordd yn rhydd i Ruffydd ab Llywelyn. Yr oedd ei dad wedi dangos iddo pa fodd i ennill ei deyrnas, a pha fodd i'w rheoli. Y peth cyntaf oedd gyrru'r Saeson dros y terfyn adre, yr ail beth oedd darostwng penaethiaid Cymreig gwrthryfelgar oedd yn gwrthod ymostwng iddo. Wedi hynny, tybiai Gruffydd ab Llywelyn y medrai herio pob ymosodiad o Loegr arno. Ei waith cyntaf oedd rhyddhau Cymru oddi wrth y Saeson oedd yn diffeithio dyffrynnoedd yr Hafren ar Ddyfrdwy. Casglodd fyddin fawr, a llwyr orchfygodd ei elynion ym mrwydr Rhyd y croes, ar afon Hafren. Yn y frwydr honno cwympodd Edwin, brawd iarll Mercia, a llawer o swyddogion pwysig eraill. Cafodd y Cymry lonydd gan y Saeson am flynyddoedd lawer wedi'r frwydr hon. Tua 1039 yr ymladdwyd hi.

Gwaith nesaf Gruffydd oedd gwneud ei hun yn frenin yr holl Gymry. Ym mlwyddyn buddugoliaeth Rhyd y Groes, trodd ef a'i fyddin tua'r Deheubarth, lle'r oedd Hywel ab Edwin yn mynnu teyrnasu. Cymerodd Gruffydd Lanbadarn, gyrrodd Hywel o'r wlad, a llywodraethodd ar y Deheubarth ei hun. Ymhen rhyw flwyddyn daeth Hywel yn ôl o'r môr, a llu o fôr-ladron gydag ef, a bu brwydr rhyngddo â Gruffydd ym Mhen Cader, yn 1041. Ac y gorfu Ruffydd ar Hywel, ebe Brut y Tywysogion, ac y delis y wreic, ac ae kymerth yn wreic idaw ei hun. Dywed cronicl arall mai dyna'r unig dro wnaeth Gruffydd ab Llywelyn yn groes i feddwl gwŷr doeth ei wlad. Yr un fu ymddygiad ei orchfygwr ato yntau, fwy nag ugain mlynedd wedi brwydr Pen Cader.

Gydag i Ruffydd orchfygu Hywel fab Edwin, ymosododd y cenhedloedd duon ar oror Cymru. Gorfu Hywel ar y rhai oedd yn diffeithio Dyfed ym mrwydr Pwll Dyfach; ond syrthiodd Gruffydd ab Llywelyn i ddwylaw Daniaid Dulyn. Prynodd ei ryddid, ac yn fuan yr oedd yn ei ôl. Prynodd Hywel yntau wasanaeth llu o fôr-ladron, a daeth a llynges o genedl Iwerddon ymosod ar Gymru. Ym mrwydr Aber Tywi, yn 1044, cyfarfyddodd Gruffydd ef. Ac wedi bod creulawn frwydr a dirfawr aerfa ar lu Hywel a'r Gwyddyl, yno daeth diwedd Hywel a lladdwyd ef. Er marw o Hywel, nid oedd Gruffydd ab Llywelyn i gael y Deheubarth heb ymdrech arall. Yr oedd meibion Edwin wedi gyrru meibion Rhydderch, - Gruffydd a Rhys,-o'u gwlad, gan deyrnasu yn eu lle. Wedi clywed am farw mab Edwin yn Aber Tywi, daethant i'r Deheubarth. Ond, trwy gymorth y Saeson, gorchfygodd Gruffydd ab Llywelyn hwy, a gorfod iddynt fyned ar ffo drachefn. Er hynny nid oedd derfyn ar lid gŵyr y De yn erbyn un aethai i gyfamod â'r Saeson fu'n elynion iddynt er ys canrifoedd. Lladdwyd gwŷr Gruffydd drwy dwyll yn Ystrad Tywi, a diffeithiodd Gruffydd ab Llywelyn y fro i ddial ei wŷr. Daeth Gruffydd ab Rhydderch a'i ladron cyflogedig i ddiffeithio Dyfed hefyd. Ac ar y Deheubarth difrodedig disgynnodd eira mawr yr amser hwnnw, gan aros o galan Ionawr hyd ŵyl Badrig.

Gwaith nesaf Gruffydd ab Llywelyn oedd cadarnhau Cymru yn erbyn Lloegr. Yr adeg honno yr oedd gallu Wessex yn cynyddu bob dydd, dan lywodraeth teulu uchelgeisiol ac athrylithgar Godwin. Yr oedd yn amlwg mai Harold, fab Godwin, fyddai Brenin Lloegr wedi marw'r Edward dduwiol oedd yn hanner cysgu ar yr orsedd yr adeg honno. Ac yr oedd yn amlwg y ceisiai ddarostwng yr holl ynys.

Gwelodd Gruffydd mai'r peth gorau iddo ef oedd ail godi teyrnas Mercia, i rannu'r Saeson yn eu herbyn eu hunain. Yr oedd Aelfgar, mab Leofric, yn alltudiedig gan deulu Godwin er 1039. Yr oedd hen gynnen rhyngddo â Gruffydd, oherwydd syrthiasa [CySill : xxx]'i ei ewythr Edwin ym mrwydr Rhyd y Groes. Ond aeth y ddau hen elyn i gyfamod; a phriododd Gruffydd ferch brydferth Aelfgar, - Eadgyth, - yr hon oedd wedi syrthio mewn cariad âg ef. Yna dechreuodd Gruffydd ymosod ar Loegr. Ciliodd y Saeson o'i flaen, yn ieirll a milwyr, yn waradwyddus, wedi brwydr chwerwdost. Yr oedd Henffordd a Llanllieni at ei drugaredd. a gorfod i'r Saeson gynnig amodau heddwch. Gwnaed yr heddwch hwnnw yn 1054, a chafodd Gruffydd ei amcan, - rhoddi Aelfgar, ei dad yng nghyfraith, yn iarll Mercia.

Ymhen dwy flynedd yr oedd Gruffydd yn cychwyn tua Henffordd drachefn. Gwnaed pob ymdrech gan y Saeson i'w wrthsefyll, ond ni safai dim o'i flaen. Enillodd frwydr fawr, cwympodd esgob Henffordd a'r sirydd ynddi, a gorfod gwneud heddwch â Gruffydd ar ei delerau ei hun. Am chwe blynedd wedi hyn, yr oedd yn frenin Cymru; a phrin y medrai holl nerth Lloegr wneud dim iddo. Yr oedd mewn cyfamod â'r Daniaid, ac yr oedd ganddo lynges ei hun, felly gallasai ymosod ar Gaer Loew o'r tir neu o'r môr. Yr oedd Aelfgar, iarll Mercia, mewn cynghrair cadarn âg ef; a phan fedrodd Harold yrru Aelfgar ar ffo o'i dalaeth yn 1058, buan y rhoddodd Gruffydd ef yn ei ôl.

Yr oedd Harold yn rheoli Lloegr erbyn hyn, er fod Edward frenin eto'n fyw. Ac yn 1062 dechreuodd yr ymdrech rhwng Harold a Gruffydd ab Llywelyn, rhwng Lloegr a Chymru.

Gruffydd ymosododd gyntaf. Cychwynnodd i Loegr: a phan ddaeth Harold i'w gyrraedd, ni chynhigiai frwydr. Gwyddai Gruffydd nad oedd bosibl i'w Gymry ef, heb ddim ond gwaywffyn, wrthsefyll y traed-filwyr Seisnig yn eu haearn-wisg trwm. A gwyddai Harold na fedrai orchfygu Gruffydd heb fedru dal ei fyddinoedd o filwyr cyflym. Penderfynodd Harold arfogi ei wŷr fel yr arfogai Gruffydd ei wŷr yntau - gydag arfau digon ysgafn iddynt fedru symud mor gyflym â'r Cymry. Wedi gwneud hyn, treiodd Harold ddau gynllun i ddinistrio gallu Gruffydd ab Llywelyn.

Y dull cyntaf oedd hwn.- teithio'n gyflym ar hyd Cymru, a dal Gruffydd yn ei gartref, a'i ladd cyn i'w filwyr fedru ymgasglu. Caer Loew wnaeth Harold yn gartref yn ystod y rhyfel; ac yn Rhuddlan, yn nyffryn Clwyd, yr oedd cartref Gruffydd ab Llywelyn. Medrodd Harold gyrraedd Rhuddlan yn ddiogel yng nghanol y gaeaf, ond methodd gyrraedd ei amcan. Er mor annisgwyliadwy y daethai Harold, medrodd Gruffydd ddianc i'r môr yn ei long. Cysur gwael i Harold oedd llosgi cartref y brenin Cymreig, a chychwynnodd yn ei ôl cyn i'r plas a'r llys orffen llosgi.

Wedi methu yn yr amcan hwn, penderfynodd Harold ymosod ar Gymru o'i chwr, a'i gorchfygu. Cychwynnodd ef ei hun o Fryste, gan arwain ei lynges ar hyd traeth Cymru i'r gogledd. Ac o'r tir yr oedd byddin o wŷr Northumbria, dan ei frawd Tostig, yn dod i'w gyfarfod. Canmolir llawer ar Harold am y gwaith hwn; ond cofier fod Gruffydd dan anfantais fawr. Yr oedd gan Harold fyddin fawr yn barod i'w ddilyn bob dydd o gwmwd i gwmwd yng Nghymru, ac yr oedd yn cael dewis ei fan i ymosod. Ond peth anodd iawn i Ruffydd oedd cadw byddin digon cref i wrthsefyll Harold ymhob man y disgwylid ymosodiad. Crwydrodd Harold a'i fyddin drwy Gymru, dan orchfygu byddinoedd bychain, a chan ladd yn ddidrugaredd. Yma y gorchfygodd Harold oedd yr ymadrodd adawodd ar lawer carreg o'i ôl.

Yr oedd Cymru'n anrheithiedig, ond ni fedrai Gruffydd ab Llywelyn roddi byddin ddigon cref i orchfygu Harold ar y maes. Gwyddai y byddai raid i Harold droi'n ei ôl cyn hir, ac yna gallai ei ddilyn ac ymosod ar ei lu wrth iddo encilio. Ond yr oedd amynedd y Cymry'n fyrrach nag amynedd eu brenin, ac nid oeddynt yn gweld mor bell. Tybient mai oherwydd ystyfnigrwydd eu brenin y daliai'r Saeson i'w hanrheithio o'r Mai hyd yr Awst hynny. Ac aeth rhyw fradwyr a lladdasant eu brenin, er mwyn cyhuddo'r Saeson. A dyna ddiwedd un o frenhinoedd galluocaf Cymru ar galan Awst, 1063.

Pen a tharian ac amddiffynnwr y Cymry oedd y gŵr laddwyd drwy dwyll ei wŷr ei hun. Y gŵr a fuasai anorchfygedig cyn hynny, yr awr hon a adewid mewn glynnoedd diffaith, wedi dirfawr anrheithiau a buddugoliaethau difesur, wedi aneirif oludoedd, - aur ac arian a gemau a gwisgoedd porffor.

Syrthiodd ei wraig yn anrhaith i Harold, yr hwn a'i priododd. Rhannwyd ei deyrnas, oedd wedi uno trwy gymaint gallu, rhwng dau hanner brawd iddo, - Bleddyn a Rhiwallon, meibion Cynfyn. Ond yr oedd y rhain yn talu treth a than warogaeth, ac nid fel Gruffydd ab Llywelyn.

Yr oedd diwedd truenus Gruffydd ab Llywelyn, ar ôl ysblander ei deyrnasiad, yn ddigon i ennyn tosturi hyd yn oed ei elynion. Yn hanes ei gwymp y mae ffawd fel pen cellwair â'r buddugwr, - buasai'n dda i Harold ei orchfygwr wrtho ymhen y tair blynedd. Cawsai Harold ei gymorth cyfamserol i wrthwynebu'r Normaniaid.

Edrychir ar Ruffydd ab Llywelyn gan haneswyr y Saeson, o'i oes ei hun hyd ein hoes ni, fel un o frenhinoedd galluocaf y Cymry. Yr oedd ef yn frenin ar holl hil y Cymry, ebe croniclydd ysgrifennai newydd glywed am ei farw. [1]. "Lladdwyd Gruffydd fab Llywelyn, ardderchocaf frenin y Brytaniaid, ebe croniclydd Normanaidd oes wedi hynny, drwy dwyll ei wŷr ei hun". [2] "Efe oedd y pennaeth Cymreig olaf", ebe hanesydd gor-Seisnig sydd newydd huno, "i'w enw fod yn wir ddychryn i glustiau Seisnig".[3] Wedi ei gwymp ef gadawyd Cymru'n wan ac yn rhanedig fel o'r blaen. A phan nad oedd amddiffynnydd, yr oedd y Norman yn parotoi i gyrchu tua dyffrynnoedd mwyaf dymunol Cymru, Efe oedd yr olaf i ddod i'r mynyddoedd, a chyda'i ddyfodiad ef dechreua cyfnod newydd yn ei hanes.

NODYN VII.[golygu]

Gyda chwymp Gruffydd ab Llywelyn yn 1063, cawn ddiwedd cyfnodau cyntaf a thywyllaf hanes Cymru. Gallesid meddwl fod Cymru, wedi ei farw ef, at drugaredd Saeson. Wessex. Ond yn 1066 daeth William, y gorchfygwr Normanaidd, a darostyngodd Loegr iddo ei hun rhwng 1066 a 1087. Dechreuodd ei farwniaid orchfygu Cymru hefyd. Ond, fel y cododd Llywelyn ab Seisyll a Gruffydd ab Llyweiyn yn erbyn y Saeson, cododd Gruffydd ab Cynan a Gruffydd ab Rhys yn erbyn y Normaniaid. Mewn cyfnod wedyn, pan aeth y Saeson ar Normaniaid yn un bobl, arweinid y Cymry gan Owen Gwynedd, Llywelyn Fawr, a'r Llywelyn Olaf. Mewn cyfnod wedi hynny, pan geisiai'r Cymry gyfiawnder fel deiliaid brenin Cymru a Lloegr, arweinid hwy gan Owen Glyn Dŵr.

Fel yr awn ymlaen, daw hanes Cymru'n llai politicaidd, ac yn fwy cymdeithasol a llenyddol. Yn y rhan nesaf o'r hanes, rhoddir cipolygon amlach ar fywyd yr hen Gymro yn ei gartref.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Se waes kyning ofer eall Weal cyn. A. S. Chron
  2. Griffinus fllius Lewelini Rex Britonum nobilissimus dolo suorum occisus est
  3. The last British chief whose name was really terrible to Saxon ears. E. A. Freeman, Norman Conquest, 11. 462.