Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Y Grefydd Newydd

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Grefydd Hanes Cymru O M Edwards Cyf I
Y Grefydd Newydd
gan Owen Morgan Edwards

Y Grefydd Newydd
Trem Yn Ol

PENNOD XII.
Y GREFYDD NEWYDD.

TUA 200, dywed Tertullian yn eglur fod Cristionogion mewn lleoedd ym Mhrydain nad oedd y Rhufeiniaid wedi eu Cyrraedd. Ac o'r flwyddyn 200 y mae hanes eglwys y Cymry'n dechrau. Er mwyn eglurder gellir rhannu hanes yr eglwys fel hyn,-

200-300 Cyfnod y tyfu.
300-400 Cyfnod y trefnu.
400-500 Cyfnod yr heresïau.
500-600 Cyfnod y saint. Cyfnod annibyniaeth.

Ni wyddom ryw lawer am gyfnod y twf, nid oes fawr o fanylion am y dull yr ymledodd yr efengyl dros ein hynys gyntaf. Aneglur a chymylog, ond prydferth iawn, er hynny, ydyw bore pell ein crefydd ni. Ni fedr yr hanesydd ysgrifennu dyddiadau na darlunio cymeriad y pregethwyr cyntaf, - y mae y rhai hyn wedi cilio i ddistawrwydd bythol. Ond medr y bardd weled eglwys Brydeinig yn graddol ymffurfio, fel teml Solomon yn codi heb sŵn morthwylion, neu fel cedrwydden yn cynyddu yn Libanus. Gwelai'r tadau Cristionogol Brydain yn derbyn yr efengyl, ac y mae aml un o honynt yn ymlawenhau wrth ddarlunio'r efengyl wedi cyrraedd eithafion byd, ie wedi cyrraedd Prydain. A phan erlidiodd Diocletian y Cristionogion yn 304, cafwyd rhai ym Mhrydain i roddi eu bywyd i lawr dros y ffydd.

Gwyddom beth mwy am gyfnod y trefnu, oherwydd fod Cristionogion o Brydain wedi croesi'r môr i gydymgynghori â'u brodyr ynghylch materion eu ffydd. Ceir eu hanes mewn cyngor ar ôl cyngor, a phob amser ar ochr yr uniongred. Yr oedd tri esgob Prydeinig yng Nghyngor Arles yn 315. A phan gododd yn ymryson chwerw ynghylch natur y Drindod, cawn Brydeiniwr bron ymhob Cyngor o bwys. Yr oedd esgobion Prydeinig yn Nicea yn 325, pan oedd Athanasius yn amddiffyn y ffydd yn erbyn heresïau newyddion; a chawn hwynt yn unfryd â'u brodyr ar y cyfandir, ac yn trefnu eu heglwys a'u ffydd yn yr un modd. Erbyn 400 yr oedd Prydain yn un o wledydd cred. Yr oedd eglwysi yma ac acw ynddi, yr oedd allorau Duw ymysg allorau drylliedig yr hen dduwiau. Yr oedd sôn am demlau rhyfedd; dywed Ierom yn 388 fod llawer yn sôn am deml Duw, a gofyn iddynt gofio geiriau'r apostol, - Oni wyddoch chwi mai teml Duw ydych, a bod ysbryd Duw yn trigo ynoch? Ac yna, meddyliodd fod yr hanes wedi mynd i bob man, fod yr efengyl yn allu yng Nghaersalem, lle y dioddefodd yr Iesu, ac ym Mhrydain, y lle pellaf oddi wrth Gaersalem, - O Gaersalem ac o Brydain y mae'r wlad nefol yr un mor agored; y mae teyrnas Dduw ynoch chwi. A thra mae Ioan Aurenau, tua 400, yn llawenhau fod Prydeiniaid fu'n bwyta cnawd dynol yn awr yn meithrin eu heneidiau trwy ympryd, dywed Ierom, - Un Crist addolir gan Brydain a Gallia, ac Affrig a Phersia, ar Dwyrain ac India, ac un rheol y gwirionedd sydd iddynt. Yr oedd y cymundeb agosaf rhwng eglwysi Prydain ac eglwysi'r Cyfandir, ac yr oedd pererinion Prydeinig yn cyfarfod pererinion o eithafoedd Persia yng ngwlad Canan. Cyfnod dedwydd i'r eglwys oedd hwn, cyfnod 11awenydd llwyddiant ac ieuenctid, cyfnod gobaith fedrai weled gwaith mil o flynyddoedd yn cael ei wneud mewn un dydd, cyfnod ffydd fedrai fwrw mynyddoedd i'r môr. Yr oedd Llydaw hefyd yn derbyn yr efengyl: a chyn 400 yr oedd y Gwyddelod wedi cymeryd bachgen yn garcharor yn Ystrad Clwyd. A'r bachgen hwnnw oedd Padrig, apostol yr Iwerddon.

Yna daeth cyfnod o ofidiau i'r eglwys ieuanc. Rhwng 400 a 500 daeth heresïau i'w rhannu, a daeth y Saeson paganaidd i ymosod arni o'r tu allan. Cyn 415, yr oedd yr Eglwys Gristionogol yn gwybod am ddysgawdwr o Brydain, oedd wedi teithio trwy Rufain ac Affrica i Gaersalem, gydag efengyl newydd. Pelagius oedd ei enw; a chan mai Prydeiniwr oedd o genedl, mae rhai, gyda mwy o wladgarwch nag o wybodaeth, wedi tybied mai cyfieithiad o'r enw Morgan yw'r enw Pelagius. Dysgai Pelagius ryddid yr ewyllys, a chondemniwyd ef yn ddiarbed gan Ierom o'i gell ym Methlehem, a chan Awstin, y mynach sydd wedi goruwch lywodraethu cyhyd ar feddwl dyn. Y mae dwy ochr i'r gwirionedd.-annibyniaeth ac ufudd-dod, rhyddid ewyllys ac etholedigaeth, rhyddid cydwybod a chyfundrefn. Pregethai Pelagius y naill, pregethai Awstin y llall. Rhyddid crefyddol ydyw dyhead y Prydeiniwr erioed: am drefn anhyblyg, am un ffydd uniongred, am un Eglwys, y dyheai Rhufain. Yr oedd ysbryd ei oes yn erbyn Pelagius, medrodd Awstin gondemnio ei ddysgeidiaeth, nid fel hanner gwirionedd, ond fel heresi groes i'r gwirionedd; a medrodd ddefnyddio grym y gallu gwladol i erlid disgyblion y Prydeiniwr. Ymosodwyd ar ei heresi yn ei wlad enedigol. Yn 429 daeth Germanus a Lupus, - Garmon a Bleiddian, - esgobion Auxerre a Troyes, i bregethu yn erbyn Pelagiaeth ym Mhrydain. Daeth cynulliad enfawr i'w cyfarfod i Verulanium, a dywed eu brodyr yn y ffydd i'w hyawdledd orchfygu eu gwrthwynebwyr yn llwyr. Dywed traddodiad iddynt fod yng Nghymru, ac y mae yn ddiamau fod iddo sylfaen o wirionedd. O'r cyfarfod mawr yn Verulanium, aeth y ddau esgob ymlaen i'r gogledd orllewin, hyd nes y daethant i lannau'r Ddyfrdwy ac i fro'r Alun. Tra yn pregethu yno, daeth y newydd fod y Pictiaid barbaraidd ar ymosod arnynt. Arweiniodd Garmon ei disgyblion yn erbyn y gelyn, a ffodd y gelyn wrth eu clywed yn bloeddio "Haleliwia", - gair eu gorfoledd, - a'r bryniau yn eu hateb. Llwyddodd y disgyblion yn eu neges; dros gan mlynedd wedi eu dod, y mae Gildas yn sôn am heresi Pelagius gyda'r casineb ar ddiystyrwch mwyaf. Ond, rhwng 450 a 500, dylifodd barbariaid Teutonaidd i ynys Prydain; daeth fel ffrwd dros ran ddwyreiniol yr ynys, gan ei thaflu'n ôl i baganiaeth, a chan wahanu eglwysi Cymru ar Iwerddon yn y gorllewin oddi wrth eglwysi'r Cyfandir. Rhwng 500 a 600 gadawyd eglwys y Cymry iddi ei hun, - yr oedd gwlad o farbariaid terfysglyd gelynol rhyngddi â Rhufain ac a Chanan, man geni a man trefnu y ffydd Gristionogol. Y canlyniad oedd, ymddadblygodd y ddwy eglwys mewn dulliau gwahanol; a phan ail gyfarfyddodd Cristionogion o Gymru a Christionogion o Rufain dan goeden dderwen yn rhywle yn nyffryn yr Hafren, darganfyddasant nad oedd eu ffydd mwyach yr un.

Nis gallasid disgwyl i Gristionogaeth Cymru ar Iwerddon a Christionogaeth Rhufain ddatblygu yn yr un dull. Yn y gwledydd Lladinaidd, yr oedd traddodiadau am drefn anhyblyg llywodraeth Rhufain yn gryfion iawn. Ond yng Nghymru, ac yn enwedig yn yr Iwerddon, yr oedd ysbryd annibyniaeth yn gryfach nag ysbryd trefn. Ar ffurf llywodraeth berffeithiedig y tyfodd Cristionogaeth, - yn fuan iawn ffurfiwyd yr eglwysi'n esgobaethau, yr esgobaethau'n arch esgobaethau, ac unwyd yr holl gyfundrefn daclus dan lywodraeth esgob Rhufain, fel yr unid yr ymherodraeth dan lywodraeth ymerawdwr Rhufain.

Ond yng Nghymru ac yn yr Iwerddon, nid oedd datblygiad yr Eglwys mor rheolaidd, yr oedd yr holl drefniadau'n llawer mwy ystwyth. Ar anibyniaeth llwythau, nid ar undeb ymerodraeth, yr oedd Eglwys Cymru ac Eglwys yr Iwerddon wedi eu sylfaenu. Llac iawn oedd yr undeb, yr oedd yr annibyniaeth yn gryf. Yr oedd llu o esgobion yng Nghymru fel mewn gwledydd eraill, ond y mae'n debyg mai pregethwyr enwocaf y wlad oeddynt; ac nid oedd y wlad wedi ei rhannu'n esgobaethau, ac un esgobaeth wedi ei rhoddi dan ofal neilltuol un dyn. Ni bu archesgob ar Gymru erioed.

Rhwng y blynyddoedd 500 a 600, yr oedd gan y saint ddau waith. Un oedd efengylu i'r rhai oedd eto'n baganiaid, - megis y Gwyddyl oedd yn eithafion Dyfed a'r Pictiaid oedd yn parhau i ymwthio o fynyddoedd yr Alban tua'r de. A'u gwaith arall oedd cadw ysbryd Cristionogaeth yn fyw yn ystod cyfnod o ryfeloedd gwaedlyd. Aml iawn y cawn hanes sant yn ceryddu brenin.

Y prif saint oedd Dyfrig, gysylltu'r â Llan Daf ac a fu farw, meddir, yn ynys Enlli; Deiniol, yng Ngwynedd; Cyndeyrn, ym Mhowys; Gwynllyw, tywysog Gwynllwg ym Morgannwg; Catwg, ei fab; Illtyd; Samson, aeth wedi hynny i Ddôl Llydaw; Cybi yn ynys Môn; Dewi yn Nyfed; Teilo ym Morgannwg: a Phadarn yng Ngheredigion. Y rhai hyn roddodd i'r efengyl lwyr fuddugoliaeth yng ngwahanol rannau Cymru. Cenhadon oeddynt, wedi eu geni yn Llydaw neu yng Nghernyw neu yng Nghymru ei hun.

Yn ystod y ganrif hon, dechreuwyd edrych ar y sant enwocaf ym mhob teyrnas yng Nghymru fel esgob y deyrnas honno. Yr oedd mynachdy,- teulu o wŷr crefyddol, - ym mhob teyrnas; ac o dipyn i beth, daeth pen y teulu hwn yn esgob y deyrnas. Edrychid ar deyrnas Gwynedd, mewn ystyr eglwysig, fel esgobaeth Bangor: a Deiniol, fu farw yn 584, roddir yn esgob cyntaf iddi. Yn raddol edrychid ar Bowys fel esgobaeth Llanelwy; a Chyndeyrn, medd haneswyr y ddeuddegfed ganrif, a wnaeth yr esgobaeth. Dyfed, gyda'i therfynau symudol, ddaeth yn esgobaeth Tyddewi; Ceredigion oedd esgobaeth Llanbadarn. Bu Brycheiniog, hwyrach, yn esgobaeth iddi ei hun, - esgobaeth Llanafan. Daeth Gwent a Morgannwg yn esgobaeth Llandaf; ond hwyrach fod Morgannwg hefyd wedi bod unwaith yn esgobaeth iddi ei hun, - esgobaeth Margam.

Tra'r oedd Eglwys y Cymry'n ymffurfio fel hyn, yr oedd y Saeson yn derbyn yr efengyl, a daeth Cristionogion y gorllewin a Christionogion Rhufain i gyffyrddiad â'u gilydd drachefn. Ond erbyn hynny prin yr oeddynt yn adnabod eu gilydd. Yr oedd Eglwys Rhufain dan unbennaeth Pab erbyn hyn; ond yr oedd annibyniaeth yr eglwys gyntefig eto'n feddiant i'r Cymry. Ac yr oedd llu o fân wahaniaethau, - nid yr un oedd amser eu Pasg; nid yr un oedd eu cyfieithiad o'r Beibl; nid oedd eilliad eu mynachod yr un,-eilliai'r Rhufeiniwr ei goryn, a'r Prydeiniwr ei dalcen; nid oedd dull y bedydd yr un, na dull ordeinio esgob. A chyfarfod rhyfedd oedd cyfarfod cyntaf y cefndryd fu gynt yn frodyr yn y ffydd.

Awstin Fynach, abad mynachdy Andreas Sant yn Rhufain, a ddaeth yn genhadwr dros y Pab at Saeson ac Eingl paganaidd Lloegr. Cychwynnodd yn 595, ond trodd yn ei ôl. Ail gychwynnodd yn haf y flwyddyn wedyn, a chyrhaeddodd oror Caint yn 597. Yr oedd tua deugain o gyd - grefyddwyr gydag ef, ac ymysg y cyfieithwyr yr oedd rhai o'r un iaith ar Saeson, - rhai wedi aros ar ôl eu brodyr ar y Cyfandir.

Unwaith gallasid meddwl fod Rhagluniaeth wedi bwriadu i Gregori ddod i efengylu i Loegr. Ond rhoddwyd gwaith mwy iddo, - efe drefnodd Eglwys y Gorllewin ac a sylfaenodd Babaeth y canol oesoedd, y Babaeth wnaeth ddaioni mor ddifesur cyn ymddirywio. Mewn adegau pwysig a rhyfedd yn unig yr ymddengys dynion fel Gregori Fawr. Mewn byd drwg, mewn amser anfoesoldeb yn dilyn rhyfeloedd, yr oedd yn bosibl cael sêl mor danllyd â hunanaberth mor lwyr. Dechreuodd Greogri fel mynach, drwy gwbl orchfygu ei nwydau ei hun, a chyflwyno ei enaid, - heb chwant ac heb gariad at ddim darfodedig, - i'w Dduw. Yn nistawrwydd a thawelwch mynachdy Andreas bu'n ymladd a phob temtasiwn fedrai dychymyg nerthol greu, gan feddwl mai gwaith ei fywyd oedd achub ei enaid ei hun i Grist. Ond ryw ddiwrnod cerddodd allan i'r farchnad brysur. Ac ymysg y pethau oedd ar werth wele blant bychain o Eingl wedi eu cludo o Loegr i farchnad Rhufain. Fel pob un wnaeth ei ôl ar y byd, yr oedd gan Gregori hoffder at wyneb plentyn. Nid Eingl, ond engyl, meddai, wrth edrych ar lygaid gleision a gwallt euraidd y Saeson bach; a phenderfynodd gychwyn i'w hynys i bregethu Crist i'w cydgenedl. Cafodd ganiatâd y Pab, ac yr oedd wedi teithio tri diwrnod pan ddaeth negesydd buan i'w alwn ôl. Yr oedd i wneud gwaith mwy pwysig. Efe oedd i fynd i Gaercystenyn i gymodi ymerawdwyr, i gasglu byddinoedd i wrthsefyll y Lombardiaid annynol a heintus, ac efe oedd i drefnu Eglwys Rhufain, i estyn ei therfynau, ac i'w hamddiffyn.

Un arall ddaeth i Loegr, ac yr oedd Awstin yn llai dyn na Gregori. Yr oedd yn hoff o ddangos ei awdurdod, ac mewn rhwysg y dygodd yr efengyl i'r Saeson. Effeithiodd y rhwysg hwnnw ar feddyliau'r brenhinoedd Seisnig, ond bu'n achos rhwyg am ganrifoedd rhwng Eglwys Rufain ac Eglwys y Cymry. Cariai ei genhadon groes arian o'i flaen yn lle baner, a darlun o'r Iesu, a chanent. Llwyddodd yn rhyfedd ac yn fuan; ac erbyn 603 y mae'n hawlio awdurdod ar esgobion y Cymry yn y gorllewin.Tua 603 teithiodd i gyffiniau Cymru. Mewn lle adwaenid yr oes wedyn wrth yr enw Derwen Awstin, galwodd ar brif wŷr eglwysig y rhannau Cymreig agosaf -esgobion a gwŷr dysgedig Gwent,-a gofynnodd iddynt gydymffurfio â defodau Eglwys Rhufain, a gadael eu hen ddefion eu hunain. Ni thyciodd na dadl nac erfyn na bygwth; ni fynnai'r Cymry ymwrthod â dull ffydd eu tadau. A gwaith oesau wedyn oedd llethu annibyniaeth eu heglwys.

Yn 739 y mae'r pab Gregori III yn condemnio cenhadon Cymreig fel hereticiaid. Ond erbyn tua 800 y mae esgobion Cymru wedi cymodi â Rhufain, trwy Elfod, archesgob Gwynedd. Ond ni fynnai esgobion eraill Cymru gydnabod uchafiaeth esgob Bangor lle yr oeddynt eu hunain yn archesgobion hŷn o fraint.

Ymdrech nesaf esgobion Cymru yw bod yn annibynnol ar bob man ond Rhufain. Yr oedd Caer Gaint yn dechrau hawlio uchafiaeth arnynt.