Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Y Rhufeneiddio

Oddi ar Wicidestun
Y Goncwest Hanes Cymru O M Edwards Cyf I
Y Rhufeiniaid
gan Owen Morgan Edwards

Y Rhufeiniaid
Amddiffyn

II Y RHUFENEIDDO 78—120

Yn 78 daeth Cnæus Julius Agricola i lywodraethu Prydain. Yr oedd ef yn fwy na chadfridog, yr oedd yn wladweinydd. Dywed ei fab yng nghyfraith, yr hanesydd Tacitus, nad oedd gerwinder y milwr yn ei ymddanghosiad,—gŵr addfwyn oedd, un yr oedd yn hawdd credu ei fod yn un da, un yr oeddis yn foddlon i gredu ei fod yn un mawr.


Ei waith cyntaf oedd gorffen gorchfygu. Ymladdodd frwydr â'r Ordovices, a gwnaeth i'w fyddin nofio'r Fenai i Fôn a llwyr orchfygu'r ynys dywell honno. Gorffennodd y goncwest, ond ni ddefnyddiodd ei fuddugoliaeth ar Gymru er ei glod ei hun, eithr defnyddiodd hi er dwyn tangnefedd a dedwyddwch i'r mynyddoedd. "Ni anfonodd lythyr llawryf i ddesgrifio ei lwyddiant."

Dechreuodd trwy roddi trefn ar ei dŷ a'i weision ei hun, gan ddewis gweision na fuasai raid eu cosbi am ddrwgweithredoedd. Rhoddodd drefn ar y fyddin hefyd,—yr oedd bob amser ymysg y milwyr yn cosbi'r drwg ac yn canmol y da. Cyn ei amser ef yr oedd ar y Prydeiniaid gorchfygedig fwy o ofn heddwch na rhyfel, yr oedd trethi anghyfiawn heddwch yn fwy annioddefol na chreulonderau rhyfel. Mewn rhyfel gwynebai'r Prydeinwyr ddur a phigyn tarian y Rhufeiniwr; mewn heddwch newynid ef nes y rhoddai ei geiniog olaf am angenrheidiau bywyd. Rhoddodd Agricola derfyn ar y gorthrwm chwerw hwn, ac enillodd serch y Prydeiniwr. Gwnaeth fywyd yn ddiogel ac yn esmwyth, gwareiddiodd farbariaid trwy godi tai a themlau a llysoedd barn yn eu mysg. Addysgodd feibion y brenhinoedd, gan hoffi cyflymder deall naturiol y Prydeiniwr. A daeth yr ynyswyr gorchfygedig i hiraethu am feddu hyawdledd iaith Rhufain, iaith a ddirmygasent hyd yn hyn. Hoffasant bopeth Rhufeinig.—tai, gwisgoedd, pleserau, pechodau. Yn eu hanwybodaeth galwasant y cyfnewidiad yn wareiddiad, ebe Tacitus, pan nad oedd mewn gwirionedd ond rhan o'u caethiwed.

O ororau Cymru aeth Agricola i ucheldiroedd yr Alban, a gorchfygodd eu trigolion rhyfelgar mewn brwydr fawr. Eiddigeddai'r ymerawdwr Domitian wrth ei fuddugoliaethau; gwrandawai am danynt gyda gwên ar ei wyneb a phryder yn ei galon. Wedi llwyr orchfygu'r ynys, a morio o'i hamgylch, ymadawodd Agricola yn 84, ond aeth ei waith ymlaen.

Yr oedd ffyrdd Rhufeinig yn croesi'r wlad ym mhob man. Gwelir eu holion eto hyd fynyddoedd Cymru, a gall unrhyw fugail ddweud mai'r Rhufeiniaid neu Helen Luyddawg a'u gwnaeth. Y maent wedi eu gwneud mor gadarn fel nas gallodd traed pobl deunaw canrif eu treulion ddim,—daear i ddechrau, cerrig mawr ar hynny, haen o gerrig bychain a morter ar y rheini, haen o galch a chlai wedyn, a phalmant yn uchaf peth. A phan golli'r y ffordd, y mae ei henw,—strata,—yn aros yn aml. Yr oedd yn dringo y llethr acw,—Llechwedd Ystrad ydyw enw'r amaethdy; yr oedd yn croesi afonig yn Rhyd Fudr draw; yr oedd yn rhedeg yn union hyd y gwastadedd isod,—y Stryd Ddŵr ei gelwir eto.

Yr oedd ffordd yn rhedeg hyd ororau Cymru o Gaer Lleon ar Wysg i Uriconium, ac oddi yno i Gaer Lleon Fawr,—ffordd y dwyrain. Yr oedd ffordd arall yn rhedeg yn gyfochrog a hi o Gaerfyrddin i Ddeganwy,—ffordd y gorllewin. Cysylltid y ddwy ffordd hyn, oedd yn rhedeg ar hyd Cymru, gan lawer o ffyrdd croesion. Rhedai ffordd o Gaer Lleon ar Wysg ar hyd Bro Morgannwg ac ymlaen trwy Gaerfyrddin a thros fryniau Penfro i Dyddewi i lan y môr; rhedai ffordd arall i fyny dyffryn yr Wysg, a chyfarfyddai'r llall yng Nghaerfyrddin. Cychwynnai ffordd

O Gaerfyrddin i fyny Dyffryn Tywi. a rhedai dros rosdiroedd cefn Plunlumon i Gaer Sws, ac oddi yno i Uriconium. Yng ngogledd Cymru, cysylltid ffordd y dwyrain a ffordd y gorllewin gan ddwy ffordd groes; rhedai y naill ar draws mynyddoedd Meirion a Maldwyn, rhedai'r llall ar draws mynyddoedd Dinbych a Chaernarfon o Gaer Lleon i Gaer Seiont.

Yr oedd dinasoedd yn codi,—Caer Lleon gadarn, Uriconium enfawr, Caer Lleon ar Wysg orwych. Yr oedd plasdai Rhufeinig i'w gweled hefyd,—onid yw eu hadfeilion eto'n aros ar rai o'n bronnydd heulog? Yr oedd y Cymro'n ysgrifennu Lladin ar ei garreg fedd fel yr ysgrifenna Saesneg yn awr. Yr oedd yn dysgu pethau newyddion rhyfel a heddwch, fel y gwelir oddi wrth y geiriau fenthyciodd o'r Lladin,—caer, ffos, twr, saeth; wal, stryd, porth; aradr, caws.