Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Dau Dywysog
← Tri Chryf Arfog | Hanes Cymru O M Edwards Cyf II Dau Dywysog gan Owen Morgan Edwards Dau Dywysog |
Brycheiniog a Morgannwg → |
Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II
PENNOD III.
DAU DYWYSOG
“ |
"O garedicaf frodyr Cymry, cofiadwy iawn yw Gruffydd frenin"
|
” |
YR oedd dwy noddfa'n agored i dywysogion Cymru bob amser, yr Iwerddon a Llydaw. Y mae cysylltiad agos rhwng y ddwy wlad hon a Chymru er yr oesoedd boreuaf; ac ohonynt hwy, pan oedd y Normaniaid yn llifo dros Gymru, y daeth dau dywysog i arwain eu cenedl i lawer buddugoliaeth arhosol.
Pan fu farw Bleddyn ap Cynfyn yn 1075, yr oedd gwr ieuanc ar ffo yn yr Iwerddon yn meddu hawl i orsedd Gwynedd. Yr oedd ei hawl ef yn mynd ym mhellach yn ôl na'r Bleddyn ap Cynfyn oedd brenin Lloegr wedi gosod ar orsedd Gwynedd, ymhellach yn ôl na'r Gruffydd ap Llywelyn a'r Llywelyn ap Seisyllt oedd wedi rheoli Cymru mor rymus, Yr oedd ei hawl ef yn mynd yn ôl i adeg y Rhufeiniaid; disgynnai o Faelgwn Gwynedd a Chunedda, ac y mae Padarn Beisrudd ymysg y rhestr hir o hynafiaid roddir iddo gan ei fywgraffydd.
Yr oedd y Gruffydd ap Cynan hwn wedi treulio ei febyd yn yr Iwerddon neu ar y môr; ond nid oedd "Ŵyr Iago," fel y gelwid ef gan rai gofiai ei daid, yn ddieithr i wŵr Môn a Llŷn. A daeth atynt, i ofyn iddynt ei roddi ar orsedd wag ei deulu yn 1075.
Ddeugain mlynedd cyn hynny, yr oedd Gwyddel Danaidd o'r enw Abloyc, brenin llawer man ar draeth yr Iwerddon, yn crwydro mewn llongau rhyfel hyd y môr rhwng Cymru a'r Iwerddon. Yr oedd yn fab i'r Sitric fu'n ceisio amddiffyn Dulyn rhag holl fyddinoedd Brian, trwy gymorth y llongau hirion arfog oedd wedi logi. Yr oedd ar ffo, ond yr oedd yn perthyn, ryw ffordd neu gilydd, i brif frenhinoedd yr Iwerddon. Cyfarfyddodd ffoadur arall o frenin, Cynan fab Iago, aer hen deulu Rhodri Mawr a Maelgwn Gwynedd, yn llechu ar odre'r wlad fu gynt yn frenhiniaeth ardderchog ei deulu. Daeth Rhagfel, merch brenin yr ynysoedd a'r traethau, yn wraig i Gynan; a'u mab hwy oedd Gruffydd. Yr oedd Gruffydd ap Llywelyn yn rhy gadarn i Abloyc fedru rhoddi Cynan ar orsedd Cymru; ac am hynny treuliodd Gruffydd ap Cynan ei febyd yn yr Iwerddon yn nhŷ ei fam.
Tra'r oedd y Normaniaid yn prysur ennill Cymru, yr oedd Gruffydd ap Cynan yn hiraethu yn yr Iwerddon am gyfle i wared ei wlad. Fel yr oedd yn cyrraedd blynyddoedd ieuenctid yn nhŷ ei fam Wyddelig, ac yn troi ymysg ei chenedl, clywai beunydd mai aer brenhinoedd Cymru ydoedd, a bod treisiwr yn eistedd ar orsedd ei gyndadau. Trist fu Gruffydd lawer o ddyddiau wrth feddwl am gyflwr ei wlad,- Bleddyn ap Cynfyn yn frenin gwan a'r arglwyddi Normanaidd cryfion yn gormesu'r bobl. Cwynodd wrth frenhinoedd yr Iwerddon bod estron genedl yn arglwyddi ar deyrnas ei dad; cymerasant hwythau drugaredd arno, ac addawsant gymorth iddo pan ddelai yr amser. A llawen fu Gruffydd ap Cynan, gan ddiolch i Dduw ac i frenhinoedd yr Iwerddon.
Daeth yr amser yn fuan. Yn 1075 bu farw Bleddyn ap Cynfyn, y brenin roddasai'r estron ar Gymru. Wedi ei farw ef bu ymdrech am ei orsedd rhwng ei nai Cynwrig mab Rhiwallon a'r tywysog galluog Trahaiarn. Tra oedd y ddau hyn yn ymladd ym Mhowys, cododd Gruffydd ap Cynan hwyliau ei long, a daeth ar hyd y môr i Fôn, a glaniodd yn Aber Menai. Ond cyn iddo fedru gwneud dim, yr oedd Cynwrig a Thrahaiarn wedi ymheddychu. Trahaiarn oedd ar y gororau yn ymladd yn erbyn y Normaniaid; a Chynwrig,-" brenhinyn o Bowys" fel y geilw bywgraffydd Gruffydd ef,oedd yn rheoli Gwynedd.
Yr oedd Gruffydd ap Cynan yn aer hen linach Gwynedd, a thybiai y medrai ddarbwyllo'r Gwyneddwyr i wrthryfela yn erbyn y brenhinyn o Bowys. Anfonodd at uchelwyr Môn ac Arfon a Llŷn i ddod i'w gyfarfod. Daethant hwythau, a rhoddasant groeso cynnes iddo. Gofynnodd iddynt daflu eu hunain i'r rhyfel er ei fwyn, a'i roddi ar orsedd ei dadau, ac ymladd â'r arglwyddi o le arall oedd yn eu rheoli. Daeth y cyfarfod i ben heb benderfynu dim. Gwahanedig oedd y cyngor. Yr oedd gwyr Llŷn, yn enwedig meibion Merwydd, am godi ar ei gais; ond yr oedd gwyr Môn ac Arfon yn fwy gochelgar, gan dybied, hwyrach, na ddylent ymosod ar Bowys, a hithau'n rhagfur rhyngddynt a'r Normaniaid. Gorfod i Ruffydd ap Cynan gerdded y weilgi drachefn.
Hwyliodd o lannau'r Menai i enau'r Clwyd. Yno yr oedd castell newydd cadarn, wedi ei godi i ddychryn Cymry'r dyffryn, ac i gadw iarllaeth Caer rhag rhuthr byddin o'r mynyddoedd. Yn y castell hwn yr oedd Robert, un o'r Normaniaid creulonaf a diffeithiaf, un laddai dyrfaoedd o Gymry fel pe buasent fleiddiaid, un hoffai gael Cymry i ddihoeni yn ei ddaeargelloedd. Yr oedd wedi ymlid y Cymry dros y mynyddoedd ac i guddfeydd eu coedwigoedd, ac ofnadwy yw meddwl am yr arteithiau ddioddefodd y rhai gadwodd yn fyw. Yr oedd ei greulondeb tuag at y Cymry mor erchyll fel y cywilyddiai ei bobl ei hun wrth adrodd ei hanes. Daeth Gruffydd ap Cynan at hwn i ofyn cymorth. Cyfanfyddiad digon rhyfedd oedd,y gŵr oedd ar flaen y Normaniaid a'r gŵr achubodd Gymru rhagddynt yn ymgynghreirio. Anodd peidio meddwl am gyfamod arall ar yr un traeth rhwng yr un dau, flynyddoedd wedi hynny, pan safai Robert yn bennoeth ger bron Gruffydd, hyd nes i bicellau'r Cymry roddi terfyn ar ei regfeydd.
Nid annerbyniol i Robert oedd cais y gŵr ieuanc. Ni freuddwydiodd y deuai'n frenin mor enwog, ond tybiodd y gallai ysgwyd tipyn ar orsedd Trahaiarn, a'i gwneud yn haws i'r Normaniaid ennill ei ddyffrynnoedd. Ac addawodd bod yn gynhorthwy iddo; a gadawodd iddo godi tri ugeinwyr, rhyfelwyr etholedig, yn Nhegeingl. Tra yr oedd Gruffydd yn Nyffryn Clwyd daeth gwraig ddoeth o'r enw Tangwystl, gweddw gwas i Ruffydd ap Llywelyn, i gyfarch gwell iddo, ac i broffwydo y byddai'n frenin, ac i roddi anrheg iddo,- crys o'r meinaf a phais a dillad Gruffydd ap Llywelyn.
Esgynnodd Gruffydd i'w long, a moriodd yn ôl i Afon Menai. Clywodd bod Cynwrig wedi dod i Lŷn, a bod meibion Merwydd ac uchelwyr eraill wedi gorfod ffoi dros y mynydd i Glynog rhag gŵyr Powys. Penderfynodd Gruffydd wneud rhywbeth i dynnu sylw'r wlad ato; anfonodd wyr Tegeingl a phedwar ugain o wyr Môn yn sydyn i Lŷn, i ymosod ar Gynwrig. Aeth y gŵyr ar eu taith, ac arhosodd Gruffydd yn Afon Menai i weled pa dynged a ddigwyddai iddo.
Llwyddodd ystryw y gwyr hynny, ymosodasant ar Gynwrig pan nad oedd yn eu disgwyl, a lladdasant ef a llawer o'i wŷr. A daeth rhyw Arfonwr, gan redeg, i ddweud wrth Ruffydd bod ei elyn wedi ei ladd, ac i ofyn gwraig deg o'r enw Dylad yn wobr am ddod a newydd mor llawen.
Ymwrolodd Gruffydd wedi hyn o lwyddiant, a gwnaeth frys i gwblhau ei nod cyntaf, sef ennill Gwynedd. Wedi marw Cynwrig yr oedd y rhan fwyaf o Wynedd heb frenin. Buan y meddiannodd Gruffydd Môn, Arfon, a Llŷn, ynghyd â'r tir ar gyffiniau'r arglwyddiaethau Normanaidd oedd yn ymestyn, fel cysgodau hwyr Cymru, dros Ddyffryn Clwyd at ochrau mynydd Hiraethog. Cerddodd Gruffydd drwy hen deyrnas ei dadau, gan dderbyn gwrogaeth y werin ymhob man. Ond, wrth geisio adfeddiannu Gwynedd, daeth wyneb yn wyneb a. Thrahaiarn. Wrth rannu â Chynwrig, yr oedd Trahaiarn wedi cadw cantref Meirionnydd iddo ei hun. Cychwynnodd Gruffydd a'i lu i Feirionnydd, a dechreuodd y rhyfel rhyngddo a Thrahaiarn o ddifrif. Brwydr waedlyd fu'r frwydr gyntaf, galwyd ei lle yn Waed-erw'n hir. Yno gorchfygodd Gruffydd, lladdwyd llawer o wŷr Trahaiarn, ac o'r braidd y dihangodd yntau ei hun yn gwynfanus o'r frwydr, ac ychydig o wŷr gydag ef. Ciliodd Trahaiarn i Bowys, ac yr oedd ganddo ddigon i'w wneud yno yn erbyn y Normaniaid ar un llaw ac yn erbyn y Deheuwyr ar y llall. A chydnabuwyd Gruffydd ap Cynan yn frenin Gwynedd.
Ei waith nesaf oedd adennill y rhannau o Wynedd syrthiasai'n ysglyfaeth i'r Normaniaid. Castell Rhuddlan oedd cartref y rhain, ac yr oedd haid newydd wedi dod yno, a'u llygaid gwancus ar dir Cymru. Aeth ar ymgyrch tua Rhuddlan, a bu brwydr, un o'r brwydrau aml rhyngddo a Rhobert. Yr oedd y Cymry erbyn hyn wedi cynefino a gwisgoedd dur ac â meirch trymion y Normaniaid. Dywedir bod llawer o'r marchogion wedi eu tynnu oddi ar eu ceffylau a'u lladd yn y frwydr er gwaethaf llurig a helm, ac ni adawyd o wŷr traed Rhobert ond y rhai ddihangodd i'w twr.
Wedi cadarnhau ei derfynau fel hyn, ac wedi rhoddi pen a bob perygl oddi wrth Bowyswr a Norman, Dechreuodd Gruffydd ap Cynan am waith anoddach, - rhoddi trefn ar uchelwyr direol Gwynedd. "Dechreuodd Gruffydd wastatau ei deyrnas, a uniaethu ei werin, a'u llywodraethu yngwialen haiarnawl, yn oganiannus yn yr Arglwydd." Nid oedd ar yr uchelwyr eisiau ond gwared a Gynwrig a Thrahaiarn; ond wele, yr oedd yn rhaid iddynt wasanaethu Gruffydd ap Cynan mewn rhyfel, a byw mewn heddwch dan ei deyrnwialen haearn. Yr oedd y Gwyddelod ddaethai gydag ef, ac a wnaethai gymaint drosto, yn amhoblogaidd hefyd ymysg yr uchelwyr eraill. Y diwedd fu i dri mab Merwydd a holl wŷr aflonydd Llŷn wrthryfela yn ei erbyn, a lladd ei Wyddelod yn eu pebyll liw nos. Clywodd Trahaiarn am hyn, ac arweiniodd dywysogion Powys yn erbyn Gruffydd. Unodd gwyr Llŷn a Thrahaiarn, ac yr oedd bradwyr yn llu Gruffydd. Gwyr Môn ac Arfon, gydag ychydig o fôr?herwyr a Gwyddelod yn gefn iddynt, oedd byddin Gruffydd ap Cynan. Cyfarfyddodd y lluoedd ym Mron yr Erw. Cofid yn hir am wrhydri'n brenin, "yn eistedd am ei farch yn y fyddin, a'i gleddyf llathraidd yn medi ei fradwyr a'i elynion." Ond aeth y dydd yn ei erbyn. Cwympodd ei Wyddelod dewraf, cwympodd goreugwyr Môn. Ceisiodd bradwr ei gael ar gefn ei geffyl, i'w gludo a'i anfodd at Drahaiarn; ond achubodd Gwyn o Fôn ef, gan ei arwain yn ddiogel wedi colli'r frwydr i'w long yn Afon Menai. Gorfod iddo ffoi yn ôl i'r Iwerddon, lle yr oedd cymorth eto yn ei aros.
Daeth yn ôl gyda llond deg Llong a'r ugain o fôr?herwyr a Gwyddelod dros y dyfnderoedd. Cafodd Drahaiarn yn rheoli Gwynedd, a dechreuodd y rhyfel yr ail waith. Aeth cefnogwyr Trahaiarn o Lŷn ac Ardudwy i Feirionnydd, aeth cefnogwyr Gruffydd o'r un man i Fôn. Ond gwrthryfelodd milwyr hur Gruffydd, am na allai dalu iddynt fel y mynnent, anrheithiasant Fôn, ac aethant â Gruffydd yn ôl i'r môr o'i anfodd.
Truenus iawn oedd cyflwr Gwynedd, wedi bod am chwe blynedd yn faes ymladd parhaus. A daeth llu o Normaniaid ar warthaf y wlad ddifrodedig, gyda Huw Flaidd a Robert o Ruddlan a Walter de Laci ar eu blaen, dros fryniau Powys i eithaf Llŷn. Diffeithiwyd y wlad; pobl y wlad honno a wasgarasant yn ddielw ar hyd y byd yn rheidus, a llawer ohonynt a aeth i alltudedd i wledydd eraill.
Yr oedd Gwynedd wedi dioddef gormod erbyn hyn i godi i groesawu Gruffydd wedyn. Ond yr oedd gobaith y medrai ymosod ar Drahaiarn o gyfeiriad arall. Cafodd lynges yn yr Iwerddon drachefn, a chyda Gwyddelod a'i gymdeithion o Wynedd, lledodd hwyliau ar y môr, gan gyfeirio tua Dyfed. Yr oedd y gwynt o'u hol a'r môr yn dangnefeddus, a daethant i Borth Clais yn ddiogel, ger Tyddewi. A dywed yr hanes i lu ddod i'w cyfarfod yno,-esgob Tyddewi a'i glerigwyr a'i athrawon, a brenin oedd ar ffo. Ebe'r brenin hwnnw, yn ôl hanesydd Gruffydd ab Cynan,- Henffych well, Ruffydd, brenin brenhinoedd
Cymru, atat ti yr wyf yn ffoi, ger dy fron y syrthiaf ar fy ngliniau i erfyn dy gymorth a'th nerth.
Pwy wyt ti, ebe Gruffydd, ac i beth y daethost yma?
Rhys ab Tewdwr wyf fi, ebe yntau, arglwydd y deyrnas hon ychydig amser yn ôl, ac yn awr yn orchfygedig ac yn ffoadur yr wyf yn ymddirgelu yn y noddfa hon.
Pwy a'th yrrodd ar ffo? Ebe Gruffydd.
Tri brenin o'r gwledydd pennaf yng Nghymru - Caradog ap Gruffydd o Went a'i Wenhwyson a gwŷr Morgannwg, Meilir ab Rhiwallon a'i Bowyswyr, a Thrahaiarn frenin a gwýr Arwystli.
Diwrnod eu cyfarfyddiad cerddodd y ddau frenin tua'r gogledd, ac yn rhywle ar derfynau Dyfed a Cheredigion, wedi taith hir, daethant i olwg gwersyll eu gelynion y dydd hwnnw. Ond cyn sôn am frwydr Mynydd Carn, gadewch i ni weled o ba le y daeth Rhys ap Tewdwr ar ffo i gyfarfod Gruffydd ap Cynan.
Fel Gruffydd ap Cynan yr oedd Rhys ap Tewdwr yn disgyn o frenhinoedd Cymru, o Rodri Mawr a Chunedda Wledig. Olrheiniai y naill ei hun i Anarawd mab Rhodri, a'r llall i Gadell mab Rhodri.
Yr oedd Rhys ap Tewdwr yn frenin holl ddeheudir Cymru, ond nid oedd yn dywysog uniongyrchol ond ar Ystrad Tywi a Cheredigion. Yr oedd Gwent dan Garadog ap Gruffydd, ac o afon Gwy i ben tir Dyfed yr oedd tywysogion annibynnol ar Rys, ond mewn enw. Dyffryn Tywi oedd ardal frenhinol y De; a Dinefwr, ar y bryn serth uwch y dyffryn prydferth, oedd cartref ei brenhinoedd. Oddi yma y bu cynrychiolwyr y Cymry yn y De yn ceisio una'r tywysogion eraill ac yn ceisio cadw'n Normaniaid draw.
Yr oedd yn naturiol i ddisgynyddion Rhodri yn y Gogledd ymgyfeillachu a disgynyddion Rhodri yn y De. A phan oedd Bleddyn ap Cynfyn yn trawsfeddiannu brenhiniaeth yn y Gogledd, yr oedd y teulu brenhinol yn Ninefwr yn barod i adfer eu cefndryd ffoëdig pe medrent. Ymosododd Rhys ab Owen ac uchelwyr Ystrad Tywi ar Fleddyn ap Cynfyn, brenin Cymru, a lladdasant ef. Ond daeth ei gefnder Trahaiarn a gŵyr Arwystli,-gwyr y mynyddoedd lle tardd yr Hafren a'r Gwy,i ddial ei farw. Gorchfygodd Trahaiarn y Rhys ab Owen oedd yn adfer y De i ach Rhodri, cymerodd rhannau eraill y De fantais i daflu iau brenin Ystrad Tywi oddi arnynt, a ffodd holl deulu Rhys i'r Iwerddon a Llydaw.
Ymysg y ffoaduriaid hyn yr oedd Rhys ap Tewdwr, a bu hwn am ddwy flynedd neu dair yn Llydaw, yn meddwl am estroniaid yn ymgyndynnu am orsedd ei dadau. Tua 1077 trodd tua Chymru'n ôl, ac fel yr oedd Gruffydd ap Cynan yn gwneud yn y Gogledd, ceisiodd adfer teulu Rhodri yn y De. Nid hawdd oedd ei waith,yr oedd gallu Trahaiarn yn cynyddu o hyd yn y Gogledd, yr oedd tywysog uchelgeisiol yng Ngwent yn ei ofni, yr oedd y Normaniaid yn gwneud aml ruthr i Frycheiniog a thros fynydd Epynt i ddyffryn Tywi ei hun, yr oedd y môr?ladron yn methu cael un a brynai eu gwasanaeth ac yn anrheithio Dyfed yn druan. Ac o'r diwedd yr oedd ei deyrnasiad fel pe ar ben,yr oedd tywysogion galluocaf Cymru yn anrheithio ei wlad. Ymlaenaf ymysg ei elynion yr oedd Caradog ap Gruffydd, map y Gruffydd bu'n rheoli holl Ddeheudir Cymru ac yn ymladd a Gruffydd ap Llywelyn am orsedd Cymru. Hwn oedd wedi cynnull gwyr ieuanc Gwent i ymosod ar bebyll Harold, yr iarll Seisnig feddyliodd ar ymddifyrru ar y tir orchfygasai. Dro ar ôl tro yr oedd wedi arwain gwyr anhyblyg Gwent o'r gwastadeddau hyfryd yn erbyn brenhinoedd fynnai deyrnasu arnynt. A phan geisiodd Rhys ap Tewdwr wneud Dinefwr yn llys y De, yr oedd Caradog ap Gruffydd aflonydd a'i Wenhwyson ymysg y cyntaf i ymosod arno. A daeth gwyr Morgannwg gyda hwy.
Os gwelodd Caradog berygl i Rys estyn ei deyrnwialen dros Forgannwg a Gwent, gwelodd tywysogion Powys bod perygl iddynt hwythau orfod ymostwng i frenin Ystrad Tywi a Cheredigion. Casglodd Meilir, nai Bleddyn ap Cynfyn, wŷr Powys isaf, a gadwodd Trahaiarn ar wŷr parod Arwystli, ac ymdeithiasant hwythau i ymosod ar Rys ap Tewdwr.
Ni fedrai Rhys wynebu'r byddinoedd hyn heb gymorth. Aeth i Ddyfed, disgynfa'r môr?ladron, i'w llogi. Ac yna, trwy ddamwain neu trwy benodiad, cyfanfyddodd Ruffydd ap Cynan a byddin fechan daclus o Wyddelod a Gwyneddwyr. Unodd y rhain â'i fyddin ei hun, ac ymdeithiodd y ddau frenin i gyfanfod y gŵr oedd elyn iddynt eu dau,Trahaiarn, ffug-frenin Cymru.
Ac wedi cerdded dirfawr ymdaith diwrnod, ynghylch gosber hwy a ddaethant i fynydd lle yr oedd lluestai eu gelynion. Ac yna dywedodd Rhys ap Tewdwr wrth Ruffydd ap Cynan,- "Oedwn awr y frwydr hyd yfory, canys gosber yw yr awron, a'r dydd sydd yn trengi."
"Oeda di os mynni," ebe Gruffydd, "myfi a'r fyddin a ruthraf iddynt hwy."
Ac felly y bu. Daeth dychryn dros y gelynion eisoes wrth weled torfeydd buddugol amrywiol a baneri Gruffydd ap Cynan,-gwyr Denmarc a'u bwyeill daufiniog, a'r Gwyddelod a'u gwaywffyn haearn cyllellog, a'r Gwyneddwyr disglair tariannog. Yr oedd Gruffydd ei hun ar flaen ei fyddin, yn gyffelyb i gawr ac i lew, a'i gleddyf fel mellten yn ei law. Wrth ei weled cafodd ei wŷr rym i ymladd eu gelynion yn wrol, a phenderfynasant na throent eu cefnau y dydd hwnnw. Ac yna bu brwydr ddirfawr. Crynodd y ddaear gan dwrf y meirch a'r gŵyr traed, a chlywid sain ymladdgar ymhell. Ym mhoethder y frwydr, pan oedd y milwyr yn chwys eu llafur a'r gwaed yn gwneuthur ffrydiau rhedegog, trywanwyd Trahaiarn. Syrthiodd i'r llawr yn farw, a'i ddannedd yn pori y llysiau ir, ac yn palfalu ar gefn ei arfau, "a Gwcharis Wyddel a wnaeth baccwn a honaw fel o hwch." Syrthiodd gyda Thrahaiarn yn y frwydr bum marchog ar hugain o'i deulu ei hun, lladdwyd miloedd o'i wŷr, a throdd y lleill eu cefnau.
Cododd y lleuad ar y frwydr waedlyd, ac ar y fföedigion. Er eu lludded, ymlidiodd Gruffydd a'i wŷr ar ôl y Powyswyr a'r Gwenhwyson "trwy y llwyni a'r glynnoedd a'r mynyddoedd yn hyd y nos honno wrth y lleuad, ac yn hyd y dydd drannoeth, ac o'r braidd y dihangodd neb ohonynt o'r frwydr i'w wlad ei hun."
Y mae brwydr Mynydd Carn, ymladdwyd ger carnedd bedd rhyw hen ryfelwr ar fryniau Dyfed, yn un o'r brwydrau pwysicaf yn hanes Cymru. Ynddi hi adferwyd hen hil frenhinol Cymru i'w gorsedd, yn y Gogledd a'r De. Ynddi hi ymladdai'r rhannau brenhinol yn erbyn y rhannau ddarostyngwyd, - Gwynedd yn erbyn Powys, Ceredigion ac Ystrad Tywi a Dyfed yn erbyn Morgannwg a Gwent. Yn y frwydr hon penderfynwyd pa un ai yn nwyrain ai yng ngorllewin Cymru yr oedd y gallu brenhinol i fod. Penderfynwyd ynddi hi mai y rhan oedd dan ddylanwad uniongyrchol yr Iwerddon, ac nid y rhan oedd dan ddylanwad uniongyrchol Lloegr, oedd i fod yn ben. Ac y mae'n bwysig cofio hyn wrth feddwl ar y deffroad llenyddol nerthol ddaeth gyda buddugoliaethau Gruffydd a Rhys.
Yr oedd y frwydr yn derfynol oherwydd cwymp Trahaiarn, rhyfelwr llwyddiannus a rheolwr galluog. Am beth amser penderfynwyd pwy oedd i reoli yng Nghymru. Ac yr oedd yn hen bryd cad tawelwch, oherwydd yr oedd lluoedd y Normaniaid ar y gororau yn ymgrynhoi o hyd. Nis gallai Rhys a Gruffydd ddechrau ymladd am unbennaeth Cymru, yr oedd Huw Flaidd yn cynllwyn brad y naill, a Bernard a Neufmarché'n parotai i ymosod ar y llall.
Ond nid oedd un perygl oddi allan yn ddigon i ddychrynu'n tywysogion Cymreig i uno a'u gilydd. Mae'n wir bod undeb yn awr rhwng Gwynedd a Deheubarth, oherwydd bod yr un hil yn rheoli yn Aberffraw a Dinefwr, - hen hil frenhinol Maelgwn Gwynedd. Ond yr oedd teuluoedd eraill yn eiddigeddus iawn o fuddugwyr Mynydd Carn, yn enwedig Rys ap Tewdwr. Cafodd Gruffydd ap Cynan beth llonydd i grynhoi ei allu yng Ngwynedd; ond cafodd Rhys ap Tewdwr ei wanhau, ar fin yr ymdrech a'r Norman, gan ei gymdogion.
Gelyn cryfaf teulu Dinefwr oedd teulu Powys,- meibion galluog Bleddyn ap Cynfyn; edrychai y rhain ar y Deheubarth a Dyfed a Cheredigion fel rhan o deyrnas eu tad, ac iddynt hwy yr oedd tywysog adferedig y Deheubarth yn wrth ymgeisydd perygl. Yr oedd tywysogion Morgannwg, dros y Mynydd Du, yn ofni tywysog y Deheubarth hefyd, ac estyniad ei deynriwialen. Ac nid oedd meibion Cedifor, tywysog Dyfed, yn esmwyth dan iau y Deheubarth ychwaith.
Cyn i'r Norman eu gwanhau, ymosododd Powys a Morgannwg ar Rys ap Tewdwr unwaith eto. Yn 1087 daeth meibion Bleddyn,-Cadwgan, Madog, a Rhirid,-a'u lluoedd o Bowys yn erbyn Dinefwr. A daeth Iestyn, tywysog Morgannwg, i anrheithio i'r un cyfeiriad. Gorchfygodd Rys ap Tewdwr, ac ar ennyd dad-wnawd gwaith Mynydd Carn. Ond daeth Rhys yn ôl o'r Iwerddon a llu ganddo; ac ym mrwydr Llwch Crei, yn rhywle ger Tyddewi, bu brwydr boeth. Lladdwyd dau o feibion Bleddyn, ond dihangodd Cadwgan. Gorfod i Rys dalu'n ddrud i'r herwyr gyflogasai; ac mae'n debyg iddynt gael, heblaw y "dirfawr swllt" dalwyd iddynt, drysorau Dewi Sant yn lladrad hefyd.
Wedi ail ennill ei wlad, gwaith nesaf Rhys oedd all ennill ei awdurdod ar ei dywysogion. Fel Llŷn yn y Gogledd, yr oedd Dyfed yn ddraenen yn y De. Pan fyddai y brenin ar ffo, uchelwyr Dyfed a'i galwent adref; pan fyddai ar ei orsedd, hwy a wrthryfelent yn ei erbyn. Bu Cedifor ap Collwyn, arglwydd Dyfed, farw; ac nid oedd ei feibion yn esmwyth dan iau Rhys ap Tewdwr. Ac yn oedd meibion Cedifor wedi clywed am arglwyddi eraill y buasai eu hiau yn esmwythach.
Cyn marw daethai Gwilym Orchfygwr ar bererindod i Dyddewi, gan weddïo. Ar ei ffordd yr oedd wedi taflu golwg ar y wlad, ac aeth Einion, brawd arglwydd Dyfed, gydag ef yn ôl i Loegr. Daeth Einion adref wedi marw ei frawd, a dysgodd i Lywelyn ap Cedifor a'i frodyr wrthryfela. Galwasant Ruffydd ap Meredydd yn gynhorthwy iddynt, a safasant o flaen Rhys ap Tewdwr mewn brwydr ffyrnig ger Llandudoch, lle mae'r Teifi'n mynd i' môr. Yn y frwydr honno bu Rhys yn fuddugoliaethus, syrthiodd Gruffydd ap Meredydd, ond dihangodd yr Einion oedd wedi gwneud y drwg. Gwanhawyd Dyfed, ac nid oedd ond Rhys ap Tewdwr fedrai ei hamddiffyn rhag y Normaniaid oedd yn gwybod yn barod am degwch ei bryniau tonnog.