Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Geni Gwladgarwch

Oddi ar Wicidestun
Llethu'r Norman a'r Cymro Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
Geni Gwladgarwch
gan Owen Morgan Edwards

Geni Gwladgarwch
Owen ab Cadwgan

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II

PENNOD VIII

GENI GWLADGARWCH.


YR oedd ysbryd rhyddid yn gryf yng Nghyrnru, er fod ei hen offerynau wedi mynd yn rhy bwl iddo eu defnyddio. Ni fedrid cadw Meirion yn dawel, ac yr oedd sŵn arfau eto yn Arwystli a Chyfeiliog a Maelenydd. Yr oedd to newydd o arweinwyr yn codi hefyd, etifeddion y gwŷr lywodraethai Gymru, ac etifeddion cynlluniau eu hieuenctyd. Ym Meirion yr oedd Uchtryd ab Edwin, yn Arwystli yr oedd Llywarch, fab y Trahaiarn hwnnw wnaethai gymaint o rymuster cyn cwympo ym Mynydd Carn. Nid oedd teulu Bleddyn wedi rhoi eu harweinwyr olaf i Gymru ychwaith, oherwydd ymysg yr arweinwyr newyddion yr oedd Owen fab Cadwgan a Madog fab Rhirid. Yr oedd Gwynedd hefyd i anfon arwr newydd, Owen Gwynedd. Ac yr oedd y Deheubarth i weled tywysog ardderchog, o'i hil frenhinol, oherwydd yr oedd merch a mab i Rys ab Tewdwr eto'n fyw. Yr oedd y ferch, - Nest brydferth, fu'n achos cymaint o gynnwrf, - yn wraig i Gerald ystiward yng nghastell Penfro. Yr oedd y mab, Gruffydd ab Rhys, i ddod i'r golwg yn y man. Yr oedd etifeddion pob un fu'n ymladd ym Mynydd Carn eto ar y maes. Yr oedd hen elyniaethau chwerwon rhyngddynt eto, blin a thrallodus fydd adrodd yr ymryson rhwng perthynasau, a brad Cymro yn erbyn Cymro.


Ond, erbyn hyn, yr oedd rhwymyn undeb yn dechreu ymddangos. Cyn hir cawn deuluoedd Cadwgan ab Bleddyn, Gruffydd ab Rhys, Gruffydd ab Cynan, a Thrahaearn yn ymgynghreirio, heb gofio'r hen elyniaeth, i gadw'r iaith Gymraeg yn fyw. Yng nghanol anrheithio a llofruddio, yn oes cwerylon rhwng brodyr, daeth GWLADGARWCH, fel angel gwarcheidiol Cymru, i roddi nod uwch o flaen Cymru nag eiddigeddu wrth berthynas tran fyw a'i ddial wedi iddo farw. Gwnaeth gwladgarwch wasanaeth anrhaethol i Gymru, er cymaint gondemnid arni gan rai byr eu golwg. Gwnaeth fywyd Cymro yn ehangach, cododd ef uwchllaw cylch cyfyng teulu a llwyth. Dygodd breuddwydion gwladgarol Owen ab Cadwgan lawer o ofidiau i ran Cymru; ond, mewn amser, newidiodd breuddwydion felly gymeriad y wlad. Yn lle mân benaethiaid lladronllyd ac eiddigeddus, cyn bo hir gwelwn gymeriad fel cymeriad Llywelyn Fawr.


Ond, cyn i'w gwladgarwch newydd roddi gwedd arall ar hanes politicaidd Cymru, cawn ymdrechfa rhwng hen wladgarwyr yr oes ar to newydd am yr awenau. Yr oedd Iorwerth yn erfyn ar y gwŷr ieuainc am iddynt fod yn llonydd, a gwell oedd gan Gadwgan wneyd gwledd nag ymladd fel cynt.


Un o'r gwŷr rhyfeddaf oedd Owen ab Cadwgan, - y gŵr ieuanc byrbwyll wnaeth y defnydd parod yn wenfflam lawer tro. Gwladgarwch yn ymylu ar fradwriaeth, cariad yn arwain i halogrwydd, chwerwder yn arwain i gasineb a llofruddiaeth, - dyna gawn yn y cymeriad hwn. Tebyg i fellten yw Owen ab Cadwgan, - weithiau'n oleuwyn ddisglaer, weithiau'n oleugoch .frawychus, - yn gwibio drwy awyr gynhyrfus y deffroad rhyfedd hwnnw.


Yr oedd Cadwgan yn rheoli Ceredigion. Yr oedd ei fryd ar gadw'r heddwch â'r Normaniaid oedd ym Mhenfro, yr ochr arall i'r Teifi. Yr oedd Gerald ystiward, ceidwad castell cadarn .Penfro, wedi gwneyd casteil yng Nghenarth, ac yr oedd wedi dod a'i wraig a'i blant yno. Ei wraig oedd Nest, merch Rhys ab Tewdwr, brenin y Deheubarth; ac wrth feddwl am brydferthwch alaethus hon, dywed hanesydd ag yr oedd ei gwaed yn ei wythienau y buasai'n dda ganddo, er lles ei wlad, pe nas gwelsai Nest oleu dydd erioed.


Parotoes Cadwgan fab Bleddyn wledd i henaduriaid ei wlad, a gwahoddes i'r wledd Owen ei fab, - oedd yn rheoli rhan o Bowys drosto. Ar wledd honno a wnaeth ef y Nadoiig, er anrhydedd i Dduw. Ac wedi darfod y wledd, a chlywed o Owen fod Nest, ferch Rhys ab Tewdwr, gwraig Gerald ystiward, yn y dywededig gastell fry, myned a wnaeth i ymweled â hi, ac ychydig nifer gydag ef, megis â chares, - ac felly yr oeddynt, Canys yr oedd Cadwgan fab Bleddyn a Gwladus ferch Rhiwallon, mam Nest, yn gefnder a chyfnither. Ac wedi hynny daeth ef yn y nos tua'r castell, gyda rhyw bedwar gŵr ar ddeg. Gwnaethant glawdd dan y trothau yn ddirgel, a daethant i'r castell heb yn wybod i'r ceidwaid, lle yr oedd Gerald a Nest ei wraig yn cysgu. Clywodd Gerald y cynnwrf, a gwyddai ei gydwybod faint orthrymodd ar y werin, a beth fyddai'r dial os caent afael ynddo. Ond y mae'n debyg y gwyddai Nest pwy oedd yno.


Na ddos allan dros y drws, eba'i hi, canys yno y mae dy elynion yn dy aros. Tyrd ar fy ol i.


Hynny a wnaeth ef. A hi a'i harweiniodd i'r geudy, oedd gysylitiedig â'r castell. Ac yno, megis y dywedir, y dihangodd. Pan wybu Nest ei ddianc ef, llefodd , - Y gwŷr oddiallan parn y llefwch yn ofer? Nid


Yw'r gŵr a geisiwch yma, y mae wedi dianc.


Chwiliasant bob man am Erald, ond ni chawsant ef. Cymerasant Nest a'i dau fab a'i merch, a mab ordderch iddo yntau. Yna anrheithiasant y castell, a rhoddasant ef ar dân, a throisant eu cefnau arno.


Yr oedd Owen cyn hyn wedi codi cynnwrf ym Mhowys, - wedi ymladd ymrysonfa lofruddiog â meibion Trahaiarn, - ac yr oedd ei dad wedi ei alw i'r wledd, yn ol pob tebyg, er mwyn i Bowys gael llonydd ganddo am dipyn bach. Yn union wedi'r wledd, aeth yr hen Gadwgan tua Phowys i geisio dadwneyd y drwg wnaethai ei fab penboeth terfysglyd, ac i heddychu y rhai yr oedd Owen wedi cweryla â hwynt.


Erbyn dod yn ol canfyddodd, er ei alar a'i ddychryn, fod Owen wedi tynnu Gerald a Harri frenin yn ei ben. Ceisiodd Cadwgan ymheddychu ar frys, trwy roddi ei wraig a'i eiddo yn ol i Erald cyn i'r brenin lidio. Ond ni fynnai Owen anfon Nest yn ol; eithr, o draserch a chariad ati, gadawodd i'r plant fynd yn ol at eu tad ar ei chais. Ac yr oedd yr hanes wedi mynd i glustiau oedd yn ymwrando am newyddion o'r fath.


Pan glybu Richard, esgob Llundain, y gŵr a oedd yn ystiward i Harri frenin yn yr Amwythig, meddwl a wnaeth am ddial ar Owen sarhad Gerald ystiward. Galwodd ato rai y gwyddai fod cas rhyngddynt ag Owen, Ithel a Madog, feibion Rhirid fab Bleddyn, cefndryd Owen; Llywarch fab Trahaiarn, y gŵr y lladdasai Owen ei frodyr; ac Uchtryd fab Edwin o Feirion.


A fynnwch chwi, eber temtiw'r wrth y Cymry hygred hyn, regi bodd i Harri frenin, a chael ei gariad a'i gymdeithas yn dragwyddol, iddo eich mawrhau yn bennach na neb och cyd-diriogion?


Ac ateb a wnaethant, - Mynnwn, ebe hwynt.


Ewch chwithau, ebe ef, a daliwch Owen fab Cadwgan os gellwch; ac onis geliwch, gyrrwch ef a'i dad o'r wlad. Canys efe a wnaeth gam a sarhad yn erbyn y brenin, a dirfawr golled i Erald ystiward.


A hwythau, wedi credu yr addewidion hynny, a gasglasant fyddin, ac a gychwynasant tua gwlad Cadwgan. Ond nid oedd Uchtryd o Feirion am ddifa Ceredigion. Anfonodd at wŷr y wlad honno y cawsent nodded ond dianc ato ef; cawsant.hwythau oll gyfle i ddianc mewn pryd. Yr oedd Ithel a Madog yn barod i ddinistrio, ond yr oedd Uchtryd yn hir yn dod. O'r diwedd daeth, ond cadwodd hwy â'i eiriau teg rhag ymosod ar unwaith.


Ni ddyiem ddirmygu gallu Cadwgan ac Owen, ebai, canys gwyr da a grymus ynt, a dewrion, ac ni wyddom ni pwy sydd yn gefn iddynt. Arhoswch, cymerwch bwyll, ni ddylem ruthro ar Geredigion yn fyrbwyll. Rhaid i ni aros i drefnu ein lluoedd. Trwy eiriau felly yr enillodd Uchtryd amser, a dihangodd pobl Ceredigion oll. Ond, pan ddaeth meibion Rhirid i Geredigion, gwelsant yno, nid byddin yn barod i ymladd, ond y wlad yn ddiffaeth, a'r holl bobl wedi ffoi. Ymgeryddu a wnaethant, a dywedyd, - Dyma weniaith Uchtryd. Gwibiasant drwyr wlad i chwilio am ysbail, ond ni chawsant ddim. Llosgi y tai ar ysguboriau ar ydau a wnaethant.


Clywsant fod rhai o wŷr Ceredigion, yn lle ffoi i Feirion ac Ystrad Tywi a Dyfed, wedi ymnoddi yn eglwysi Llanbadarn a Llanddewi Brefi gyda'r offeiriaid. Anfonasant ddyhirod yno, i ladd ac ysbeilio. Yna clychwelasant yn orwag, heb ddim ond anfoliannus ysbail y ddwy eglwys.


Yr oedd Cadwgan ac Owen wedi ffoi o flaen y dymestl i'r Iwerddon, noddfa tywysogion Cymru yn yr amser hwnnw, gyda'r gwŷr oedd gydag Owen yn llosgi castell Gerald. Gwnaeth brenin yr Iwerddon groesaw mawr iddynt. Ond yr oedd Cadwgan am heddychu â'r brenin. Cafodd gennad i aros i ddechreu ac yna cafodd Geredigion yn ol. Y mae'n ymddangos na fedrai neb arall reoli Ceredigion, a phan glywodd y bobl fod Cadwgan wedi dod yn ol, daethent adref o bob man yr oeddynt wedi ffoi iddo am nodded. Prynnodd Cadwgan Geredigion er canpunt; ond yr oedd hyn amod, - nid oedd na chymdeithas na chyfeillach i fod rhwng Cadwgan a'i fab Owen; nid oedd Owen i gael dod i'r wlad, ac nid oedd ei dad i roddi iddo gyngor na nerth.


Ond ni fedrai Owen fod yn llonydd. Cyn pen ychydig daeth i Gymru'n ol. Ni ddaeth i Geredigion,.- yr oedd wedi gwneyd digon o ddrwg i'w dad yn barod, - ond i Bowys. Yno cafodd Ithel a Madog yn rheoli ei ran ef o Bowys. Ond nid oedd Madog wrth ei fodd, ac nid oedd y gororau'n heddychlon. Yr oedd Madog yn noddi y rhai ymosodent ar y Normaniaid, ar diwedd fu ffraeo rhwng Madog a'r esgob hwnnw yn yr Amwythig, soniasai wrtho unwaith am gariad y brenin tuag ato. Trodd Madog at ei gefnder ffoedig, Owen fab Cadwgan, a gwnawd heddwch rhwng rhai a oedd yn elynion cyn hynny. Tyngasant uwch ben creiriau na wnai'r naill heddwch â'r brenin heb y llall, na fradychai y naill y llall, ac yr aent gyda'u gilydd i ba le bynnag yr arweiniai ffawd hwy. A dechreuasant anrheithio ar eu crwydr.


Wrth weled Powys mor gynhyrfus, cofiodd Harri frenin am Iorwerth fab Bleddyn, ewythr Owen, oedd wedi roddi yng ngharchar ar gam. Anfonodd gennad ato i ofyn beth a roddai am gael ei ollwng yn rhydd, canys blin yw hir garchar, a gwyddai Harri fod y caethiwed wedi dofi ysbryd y gŵr fu unwaith yn disgwyl gweled llawenhau ei wlad o ryddid. Yr oedd yn barod i addaw unpeth am ryddid yng Nghymru unwaith eto. Yr oedd ei nai, Ithel fab Rhirid, i fod yn wystl drosto,. ac yr oedd i dalu tri chan punt. A rhoddwyd y wlad iddo, a llawer a dalodd.


Wedi dod i Bowys, cafodd Iorwerth ei hun mewn perygl. Yr oedd Owen, gŵr y gynnen a'r helynt, a Madog, yn gwneyd ei dir yn gartref iddynt, a hwy oedd gelynion chwerwaf y brenin. Gwelodd Iorwerth mai ar ffo y byddai raid iddo yntau fynd, fel yr aethai Cadwgan, o achos Owen. Ac areithiodd drwy gennad wrth Owen a Madog, ei ddau nai, ebe'r croniclydd Cymreig, fel hyn,- Duw a'n rhoddes ni yn llaw ,ein gelynion, ac a'n darostyngodd ni fel na allwn wneyd clim y mae gennym ewyllys i'w wneyd. Gwaharddedig i ni, bawb o'r Brytaniaid, ydyw rhoddi bwyd na diod i chwi, na nerth na chynhorthwy, ond eich ceisio a'ch hela ymhob lle, a'ch rhoddi yn y diwedd yn llaw y brenin, i'ch carcharu neu eich lladd neu i wneyd a fynno a chwi. Ac yn bennaf y gorchymynnwyd i mi a Chadwgan nac ymgredem â chwi. Ni ddichon neb debygu na ddymuna tad ac ewythr dda eu meibion a'u neiaint; ond, os ymgydymdeithiwn â chwi, neu os awn yn erbyn gorchymyn y brenin, ni a gollwn ein teyrnas, ac fe'n carcherir hyd nes y bom farw, neu fe'n lleddir. Am hynny, mi a erfyniaf arnoch fel cyfaill, ac a'ch gorchymynnaf megis arglwydd, ac a'ch eiriolaf megis câr, nac eloch i'm teyrnas i nac i deyrnas Cadwgan, canys ceisir achos yn ein herbyn ni.


Ni wrandawai Owen a Madog ar eu hewythr. Credent hwy eto mai trwy ddewrder yr ieuanc, ac nid trwy gyngor yr hen, y gyrrent yr estron o'u gwlad. Trwy niwl dyddiau brad a llofruddiaeth, cawsant gipolwg ar ffurf Gwladgarwch. Tybient mai rhyfela â'r estron oedd dyledswydd Cymru, ac am hynny gorfod i Iorwerth eu gyrru o'r wlad trwy rym arfau. Yna heriodd y ddau gefnder frenin Lloegr, ac ail ddechreuasant ymosod ar y Saeson ar Normaniaid