Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Hanes Cymru O M Edwards Cyf II Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
Rhagymadrodd
gan Owen Morgan Edwards

Rhagymadrodd
Ymosodwr Newydd


Hanes Cymru - Owen M Edwards

Cyfrol II - RHAGYMADRODD


Yn y gyfrol gyntaf, ceisiais roddi amlinell o hanes bore cenedl y Cymry. Dangosais fel y daeth y gwahanol bobloedd, elfennau ein cenedl megis, i'r ynys hon. Dangosais fel y daeth y Rhufeiniaid yma, ac fel y gadawsant y syniad o undeb politicaidd ar eu holau. Dangosais fel y graddol dorrwyd mynyddoedd Cymru gan y Saeson oddi wrth rannau eraill yr ynys. Dangosais amcanion prif arwyr ein hanes bore,Arthur, hanner cread dychymyg cenedl; Maelgwn Gwynedd, unwr Cymru; Cadwallon, amddiffynnydd ei huchafiaeth ym Mhrydain; Rhodri Mawr, ei tharian rhag y Cenhedloedd Duon; Hywel Dda, casglwr ei chyfreithiau; Llywelyn ap Seisyllt, adferwr ei hundeb; Gruffydd ap Llywelyn, a'r ymdrech yn erbyn Lloegr. Ceisiais godi'r llen, ryw ychydig, hefyd ar nos paganiaeth, ac ar doriad gwawr bore Cristionogaeth. A gobeithiaf mai syniad y darllenydd, wedi darllen y gyfrol, ydyw ein bod fel cenedl, hyd 1063, yn symud ymlaen at uwch gwareiddiad, at gyfraith lawnach ac at fwy o ryddid.


Yn y gyfrol hon adroddir hanes cyfnod byrrach, o 1063 i 1137, o farwolaeth Gruffydd ap Llywelyn i farwolaeth Gruffydd ap Cynan a Gruffydd ap Rhys. Y mae'r cyfnod mor fyr fel y mae un gŵr, Gruffydd ap Cynan, yn ein golwg bron ar ei hyd.


Dyma gyfnod y Normaniaid. Rhwng 1063 a 1137 y maent yn graddol orchfygu gororau Cymru, a llethrau dwyreiniol a deheuol y mynyddoedd. Ni fu gan neb ond y Rhufeiniaid fwy o ddylanwad ar Gymru na'r Normaniaid. Dygasant hi i gysylltiad â'r byd oddi allan; rhoddasant o'i heiddo i'r byd, a rhoddasant o eiddo'r byd iddi hithau.


Newidiasant ei dull o ryfela, newidiasant ei llysoedd a'i chyfraith. Newidiasant ei hadeiladau, newidiasant ei chrefydd, newidiasant hyd yn oed ei henwau. Y mae William a Robert a John yn enwau dieithr yn y gyfrol hon, ond byddant yn enwau ar Gymry gwladgarol yn y cyfrolau nesaf.

Hanes y goncwest Normanaidd a'r atalfa roddodd Gruffydd ap Cynan arni, sydd yn y gyfrol hon Yn ddiweddarach y daw'r effeithiau,y deffroad llenyddol roddodd inni ramantau swynol y Mabinogion, a'r adfywiad crefyddol gafodd gartref ym mynachdai ardderchog Tintern ac Ystrad Fflur a Glyn y Groes.


Ymgollodd y Norman yn y Cymro; a digon difyr yw darllen heddiw am godi'r cestyll a'r mynachdai sydd yn adfeilion o'n cwmpas erbyn hyn. Dalied y darllenydd sylw mai hanes y cestyll Normanaidd yn unig roddir yn y gyfrol hon; ymhellach ymlaen yn ein hanes y codwyd cestyll Caernarfon, Conwy, Caerffili, ac eraill o'r un nodwedd.


Y mae haneswyr y cyfnod Normanaidd yn aml, yn llawn, ac yn ddiddorol. O Frut y Tywysogion y cefais y rhan fwyaf o'r darluniadau o'r tywysogion Cymreig. Orderieus Vitalis, bachgen o'r Amwythig dreuliodd ei oes mewn mynachdy yn Normandi, rydd y darluniadau o'r barwniaid Normanaidd, megis Robert o Ruddlan neu Huw Flaidd. Cymerir llawer o bethau o gronicl Fflorens, mynach o Gaerwrangon, hefyd. Dyna'r tair prif ffynhonnell; ceir aml ffaith ac awgrym mewn croniclau eraill, - Cymreig, Normanaidd, Seisnig, a Gwyddelig.


Yn y bennod gyntaf disgrifir anawsterau Bleddyn ap Cynfyn, pan oedd y Norman Gwilym wedi parlysu Lloegr, wrth geisio rheoli Cymru; ac ymdrech Trahaiarn, tywysog Arwystli, i gymeryd ei le.


Yn yr ail darlunnir y tri Norman osodwyd ar y Gororau i ymladd â'r Cymry, o Gaer a'r Amwythig a Henffordd.


Yn y drydedd ymddengys y ddau dywysog oedd i atal y goncwest, Gruffydd ap Cynan yn y Gogledd a Rhys ap Tewdwr yn y De.


Yn y bedwaredd, y bumed, a'r chweched cawn hanes y goncwest Normanaidd, a gwelwn y cestyll cerrig yn codi. Yn y seithfed gwelwn Norman, Robert o Felesme, yn ceisio uno Normaniaid a Chymry. Yn yr wythfed, y nawfed, a'r ddegfed, gwelir yr hen genhedlaeth a'r newydd; yr hen am oddef uchafiaeth y brenin Normanaidd, yr ieuanc am ei herio. Gwelir cadernid Gruffydd ap Cynan, troeon meibion ac wyrion galluog Bleddyn ap Cynfyn, ac ymddangosiad Gruffydd ap Rhys. Yn yr unfed bennod ar ddeg ddangosir yr ymgais i ddarostwng Eglwys Cymru i archesgobaeth Caer Gaint. Ac yn y bennod olaf adroddir hanes diwedd y genhedlaeth o Gymry fu'n gwrthsefyll y Norman.


Gwêl yr ystyriol fod dyfodiad y Normaniaid, - uchelwyr estronol a gorthrymus,wedi newid lawer ar fywyd cymdeithasol Cymru. Ei effaith yn y pen draw oedd hyrwyddo rhyddid y werin. Ond cawn fanylu ar hyn eto.