Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Bryncrug

Oddi ar Wicidestun
Towyn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Pennal
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Bryn-crug
ar Wicipedia




BRYNCRUG.

Mae y lle hwn o fewn dwy filldir i Dowyn. Dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio yn Rhydyronen, pentref o fewn haner milldir i'r fan lle y saif y capel presenol. Bu yr achos yn y lle hwnw mewn gwedd flodeuog dros flynyddau, ac er y cynhelid yno bregethu cyson a chyfeillachau crefyddol yn rheolaidd, etto, elai yr aelodau i Dowyn i gymundeb. Trwy lafur Mr. Lloyd, Towyn, ac eraill o'r cyfeillion, yn enwedig Mr. Hugh Davies, Gwyndy, cafwyd lle i adeiladu addoldy ar brydles.[1] Mae y capel yn mesur wyth llath yn ysgwar. Galwyd ef Saron. Agorwyd ef Awst 1af, 1837, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Jones, Aberhosan; J. Williams, Dinas; E. Evans, Abermaw; J. Roberts, Llanbrynmair, a J. Parry, Machynlleth. Ffurfiwyd eglwys yma yn ddioed wedi codi y capel, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod o dan yr un weinidogaeth a Towyn, ac felly y mae yn parhau. Ni bu yr achos yma. erioed yn gryf, ac nis gellir disgwyl iddo fod, oblegid cyfyng yw y maes, ond y mae yn cryfhau ac yn ennill tir yn raddol, a'r eglwys a'i gweinidog yn cydweithio yn galonog.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

John Thomas. Aelod o Machynlleth ydoedd, ond yma yn cadw ysgol yr oedd pan ddechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn Dinasmawddwy, ac y mae yn awr yn Abertawy.

Hugh D. Pughe. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Meifod. Symudodd i'r Drefnewydd, lle y bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Yr ydym eisioes yn nglyn a'r eglwys hono wedi gwneyd byr grybwylliad am dano.

Robert Thomas. Bu yn efrydydd yn athrofa y Bala, ac y mae wedi ei urddo yn Llanelltyd.

Lewis Jones. Yr oedd yn wr ieuangc cymeradwy, ond bu farw yn ieuangc.

Nodiadau[golygu]

  1. Llythyr Mr. Isaac Thomas