Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Casgwent
← Tabernacl, Casnewydd | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
St Arvans → |
CASGWENT.
Mae y dref fechan, ond brydferth hon, yn sefyll ar lan yr afon Wy, ac yn agos i'w hymarllwysiad i gulfor Caerodor. Cynwysai yn 1861, 3,364 o drigolion. Mae yn ddiddadl fod yn y dref hon, a'r gymydogaeth, lawer o Ymneillduwyr yn amser Mr. Wroth, o Lanfaches, ond yn ddiweddar iawn y dechreuwyd yr achos Annibynol sydd yma yn bresenol. Mae hanes ei ddechreuad fel y canlyn:-Tua y flwyddyn 1823, darfu i Mr. Stephens, o Hewelsfield, yn sir Gaerloew, boneddwr cyfrifol, ac aelod selog gyda yr Annibynwyr, ddeall fod rhai Annibynwyr yn Nghasgwent yn addoli gyda y Bedyddwyr, ond yn cael eu cadw oddiwrth fwrdd yr Arglwydd am na chymerent eu trochi. Aeth i siarad a hwy, a pherswadiodd hwy i rentu ystafell at gynal gwasanaeth crefyddol, a galw Mr. David N. Thomas, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn oedd y pryd hwnw yn pregethu yn Forest Green, i sefydlu yn eu plith. Cydsyniasant a'r cynghor, a daeth Mr. Thomas atynt; casglwyd yno gynnulleidfa, a chorffolwyd eglwys, ac aeth yr ystafell yn fuan yn rhy fechan i gynwys y gwrandawyr. Ar anogaeth, a thrwy gymorth Mr. Stephens, o Hewelsfield, Mr. Loader, o Drefynwy, a Mr. Armitage, o'r Casnewydd, rhentwyd hen adeilad, yr hon gynt a fuasai yn chwareudy, a chyfaddaswyd hi at gynal addoliad crefyddol. Ar y 19eg o Ebrill, 1824, cafodd y lle hwn ei agor fel capel Annibynol, a thranoeth, urddwyd Mr. David N. Thomas yn weinidog i'r eglwys ieuangc, mewn cysylltiad ag eglwys fechan arall yn Hewelsfield. Gweinyddwyd ar yr agoriad a'r urddiad gan Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd, a'r Meistriaid D. Peter, Caerfyrddin; W. Thorp, Caerodor; J. Burder, M.A., Stroud; R. Meek, Painswick; Arthur Tidman, y pryd hwnw o Frome; D. Thomas, Wotton-under-Edge; E. Jones, Pontypool; a Joshua Lewis, (Bedyddiwr) Casgwent. Cyn pen llawn dair blynedd, derbyniodd Mr. Thomas alwad oddiwrth yr eglwys yn Abergwili, sir Gaerfyrddin, a symudodd yno. Ar ol ei ymadawiad bu yr eglwys am fwy na blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogion a phregethwyr cymydogaethol. Yn nechreu y flwyddyn 1828, rhoddasant alwad i un Mr. John Owen. Urddwyd ef yma Ebrill 1af, yn y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan Dr. Lewis, Casnewydd, a'r Meistriaid Jones, Pontypool; Powell, Brynbiga; Loader, Trefynwy; a Burder, Stroud. Trodd pethau yn lled annymunol yma yn fuan rhwng Mr. Owen a'r bobl, yn benaf o herwydd ei fyrbwylldra a'i annoethineb ef. Bu ef yma hyd y flwyddyn 1831, ond ni wnaeth fawr o ddaioni. Ar ei ymadawiad oddiyma ymfudodd i'r America.
Ar ol bod drachefn heb weinidog am ddwy flynedd, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Thomas Rees, Llanfaple, yr hwn a symudodd yma yn 1833. Yr oedd y gynnulleidfa hyd yn hyn wedi bod yn ymgynnull i'r hen chwareudy, ond cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Rees yn y lle, ymroddodd yn benderfynol i adeiladu capel. Llwyddodd i gael darn o dir cyfleus iawn, ac adeiladodd arno addoldy hardd, yr hwn a agorwyd yn Medi 1834, pryd y pregethwyd gan Mr. Jay, o Bath; a Dr. George Legge, y pryd hwnw o Gaerodor. Ni orphwysodd Mr. Rees nes iddo gasglu digon o arian i dalu am y capel a'r tir, a chafodd yr hyfrydwch fwy na deuddeng mlynedd cyn ei farwolaeth o weled y lle yn ddiddyled. Gwan iawn oedd yr achos yma ar ddechreu ei weinidogaeth ef, ond ychwanegodd nerth yn raddol, fel yr oedd yr eglwys yn rhifo tua chant o aelodau flynyddau cyn terfyn ei oes ef, a'r gwrandawyr tua 200. Parhaodd Mr. Rees i fod yn barchus a nodedig o ddefnyddiol yma hyd ddydd ei farwolaeth yn Ebrill 1865.
Yn Mehefin 1865, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i Mr. John Thomas, gwr ieuangc doniol iawn o athrofa yr Annibynwyr yn Nghaerodor. Darfu i ddoniau cyffrous Mr. Thomas greu cryn gyffroad yn y dref a'r ardal, fel yr aeth y capel lawer yn rhy fychan. Penderfynwyd ar unwaith adgyweirio y capel, gosod oriel ac eisteddleoedd newyddion ynddo, ac adeiladu ysgoldy y tu cefn iddo. Yr oedd y draul dros 600p., ac wedi tynu y ddyled ar y lle, pan welodd Mr. Thomas nad oedd y bobl mor barod ag y disgwyliasai efe i'w dalu, gwnaeth ei feddwl i fyny yn ddisymwth yn Rhagfyr 1867, i ateb galwad a dderbyniasai o Portland Chapel, St. John's Wood, Llundain, a symudodd yno, gan adael y cyfeillion yn Nghasgwent i ymladd a rhyw 500p. o ddyled goreu y medrent.
Ar ol ei ymadawiad ef bu pethau yn lled ddigalon yma am fwy na blwyddyn. Yn Mawrth 1869, rhoddwyd galwad i Mr. G. Orme, o Grampound, Cornwall. Mae yn ymddangos fod Mr. Orme yn ateb y lle yn dda. Mae yn awr yn gwneyd ymdrech egniol i dalu yr holl ddyled y flwyddyn hon, ac yn lled sicr o lwyddo yn ei ymdrech.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
THOMAS REES. Ganwyd y dyn da a defnyddiol hwn yn mhlwyf Llansamlet, gerllaw Abertawy, Gorphenaf 23ain, 1788. Ni wyddom ond y peth nesaf i ddim o hanes ei rieni. Mae yn ymddangos fod ei fam yn ddynes dduwiol iawn. Byddai yn arfer ei gymeryd ef pan yn blentyn i ystafell, yn gosod ei dwylaw ar ei ben, ac yn gweddio drosto wrth ei enw. I gapel y Methodistiaid yn y Cwm, Llansamlet, yr arferai ei rieni fyned, ac mae yn ymddangos iddo yntau ymuno a'r eglwys yno yn dra ieuangc. Priododd yn ieuangc iawn a dynes oedd wyth neu ddeng mlynedd yn henach nag ef ei hun, yr hon, er ei bod yn ferch dlawd, ac heb gael dim manteision addysg, a drodd allan yn gymhares werthfawr iddo.
Wedi priodi, symudasant i Ferthyr Tydfil. Yr oeddynt y pryd hwnw mewn amgylchiadau isel iawn. Darfu iddynt ill dau ymuno a'r eglwys Annibynol yn Zoar, ac yn mhen ychydig amser gwelodd yr eglwys fod defnyddiau pregethwr yn Thomas Rees, ac er ei fod yn isel ei amgylchiadau, ac a gofal gwraig a phlant arno, anogasant ef i ddechreu pregethu. Daeth yn fuan yn adnabyddus i'r eglwysi cymydogaethol, ac ennillai barch pa le bynag yr elai. Yn mhen amser rhoddodd heibio ei alwedigaeth fydol fel gweithiwr, a chynaliodd ei deulu am rai blynyddau wrth gadw ysgol a phregethu yma a thraw ar y Sabbothau. Tua y flwyddyn 1821, aeth i Cendl i gadw ysgol, a bu yno nes iddo gael galwad o Lanfaple yn 1823. Wedi ei urddiad yn Llanfaple, aeth i'r ysgol at Mr. Skeel i Abergavenny. Byddai yn pregethu i'w bobl yn Llanfaple bob Sabboth, ac yn ymroddi a'i holl egni i ddysgu ei wersi yn yr ysgol am bum' diwrnod o'r wythnos. Aeth rhagddo mor enwog fel ysgolhaig, fel y gosododd Mr. Skeel ef yn mhen ychydig amser yn is-athraw, a chymaint oedd anwyldeb Mr. Skeel ato fel y gadawodd swm o arian yn nghyd a'i lyfrau oll iddo yn ei ewyllys. Ar of llafurio yn llwyddianus yn Llanfaple fel gweinidog am fwy na deng mlynedd, ac yn Abergavenny fel ysgolhaig ac is-athraw am rai blynyddau, symudodd yn 1833 i Gasgwent. Cymerodd y cam hwn ar gais taer amryw weinidogion ac eraill, y rhai a farnent mai efe oedd y dyn cymhwysaf i godi yr achos yno o'i iselder, a phrofodd y canlyniad eu bod yn barnu yn gywir. Adeiladodd gapeli yn Nghasgwent a St. Arvans, a thalodd am danynt. Cyfododd achos oedd ar farw o wendid i fod yn gymharol gryf a hungynaliol. Parhaodd ei weinidogaeth yn Nghasgwent ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac yr oedd yn sefyll lawer yn uwch yn ngolwg y dref a'r gymydogaeth yn y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd nag yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth yno. Bu farw Ebrill 30ain, 1865, ar ol tri diwrnod o gystudd, ac amlygwyd galar cyffredinol trwy y dref o herwydd colli un a berchid mor fawr gan y trigolion yn gyffredinol.
Mae hanes bywyd Thomas Rees yn benod ryfedd yn llyfr rhagluniaeth. Nid ymddengys iddo gael ond y peth nesaf i ddim o fanteision addysg yn moreu ei oes; bu mor annoeth a phriodi cyn ei fod yn ugain oed, a thaflu ei hun i dlodi mawr trwy hyny; ond er pob anfantais cyfododd i sylw a chylch o ddefnyddioldeb pwysig. Er ei holl anfanteision yr oedd cyn ei fod yn bymtheg ar hugain oed yn weinidog eglwys lle yr oedd yn rhaid iddo bregethu yn y ddwy iaith bob Sabboth, ac mewn ychwanegiad at hyny cyflawnai ei ddyledswyddau yn effeithiol fel is-athraw mewn ysgol nid anenwog yn nhref foneddigaidd Abergavenny. Mae ei hanes yn dangos yn eglur nad oes unrhyw anhawsder nas gall meddwl penderfynol dori trwyddo. Nid oedd dim yn annghyffredin ynddo o ran ei alluoedd meddyliol na'i ddoniau fel pregethwr i gyfrif am ei lwyddiant. Mae yn rhaid priodoli y cwbl i ofal neillduol Rhagluniaeth am dano, ac i'w lafur dibaid yntau, ac uniondeb diwyrni ei egwyddorion. Mae ei lwyddiant yn anogaeth rymus i ddynion ieuaingc tlodion i ymdrechu yn erbyn anhawsderau i gyrhaedd safleoedd o ddefnyddioldeb ac enwogrwydd, ac yn condemnio mewn iaith uchel ac eglur fusgrellni y rhai hyny a gawsant ddeg cymaint o fanteision a'r gwr rhagorol hwn, ond a foddlonant dreulio eu holl fywyd yn wagnodau diwerth mewn byd ac eglwys.