Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Corris
← Abergynolwyn | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Aberllefeni → |
CORRIS
Dechreuwyd yr achos hwn mewn amaethdy a elwir Rhiwgwreiddyn, o fewn milldir a haner i'r lle yma, ar y ffordd i Fachynlleth. Preswylid y lle ar y pryd gan Mr Hugh Pugh, ac yr oedd ei wraig, Mrs Gwen Pugh, yn aelod yn nghapel y Graig, Machynlleth. Oblegid pellder y ffordd i'r dref, meddyliodd teulu Rhiwgwreiddyn am gael Ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol yn eu ty, a dechreuwyd ar hyny yn ddioed, ac elai Mr Morgan, Machynlleth, yno i bregethu mor aml ag y gallai. O gylch y flwyddyn 1824, adeiladwyd capel bychan ar ddarn o dir a roddwyd gan Mr Hugh Pugh, Rhiwgwreiddyn. Galwyd ef Achor. Yn fuan ar ol dechreu yr achos yma derbyniwyd Mr Pugh yn aelod, a pharhaodd yn ffyddlon hyd ei farwolaeth, ac yr oedd ei wraig, yn arbenig, yn hynod garedig i'r achos, a llettygar i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Bu mab iddynt, Mr William Pugh, yn byw yma dros ychydig wedi marw ei rieni, ac yn ofalus iawn am yr achos, hyd nes y symudodd i gymydogaeth y Drefnewydd, ond er symud arferai am flynyddau gyfranu £5 yn y flwydd- yn at yr achos yn Achor. Merch Rhiwgwreiddyn ydyw Mrs Evans, Hengae, Aberllefeni, ac y mae ysbryd llettygar hen deulu Rhiwgwreiddyn yn aros yn Hengae.[1] Bu gofal Achor ar Mr Morgan, hyd nes yr ymadawodd a Machynlleth yn 1836. Yn 1837, cymerodd Mr John Parry ofal y lle mewn cysylltiad a Machynlleth, ond yn mhen ychydig gyda blwyddyn rhoddodd Achor a Phennal i fyny, ac unasant hwythau i roddi galwad i Mr William Roberts, yr hwn a ddaeth yma yn nechreu 1839, ac a fu yma yn ymdrechgar, nes y symudodd i Benybontfawr yn 1841. Daeth Mr Grey Evans yma cyn diwedd y flwyddyn hono, ond rhoddodd ef y lle i fyny, er cymeryd gofal Aberdyfi, a bu Meistri John Parry, a William Davies yn gofalu am y lle yn olynol, mewn cysylltiad a Salem, Machynlleth. Parhau yn wan yr oedd yr achos yn Achor trwy y blynyddoedd, ac yr oedd ei bellder oddiwrth y chwarelau, lle yr oedd lluaws y boblogaeth, yn gwneyd nad oedd fawr o obaith am gynnulleidfa gref yno' ac oblegid hyny, yn 1851, penderfynwyd gwerthu hen gapel Achor, a symud yr achos i Corris, i ganol y boblogaeth. Cymerwyd yma ystafell am ddeng mlynedd o dan ardreth flynyddol. Hen Lodge perthynol i'r Odyddion oedd yr ystafell, ond ad-drefnwyd hi, a gwnaed un ran o honi yn dy anedd, a'r rhan arall yn lle i bregethu, ac ar y 27ain a'r 28ain o Fedi, 1851, cadwyd yma gyfarfod i agor y lle, pryd y gweinyddwyd gan Meistri W. Davies, Machynlleth ; E. Stephen, Dwygyfylchi; I. Thomas, Towyn; R. Ellis, Brithdir, ac S. Edwards, Machynlleth. Yn fuan wedi dechreu yn Nghorris, unodd yr eglwys a Pennal i roddi galwad i Mr David Evans, o Sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 17eg, 1853. Tua dwy flynedd yr arhosodd yma, canys dychwelodd i Sir Gaerfyrddin. Bu yr eglwys am ysbaid ar ol ymadawiad Mr Evans heb sefydlu ar weinidog. Rhoddwyd galwad i Mr Richard Hughes, Gwalchmai, Mon, ond gwrthododd gydsynio. Yn niwedd 1857, rhoddwyd galwad i Mr William Rees, o Lanrhaiadr-yn-Mochnant, ac urddwyd ef Ionawr 3ydd, 1858. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr R. Ellis, Brithdir ; holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr C. Jones, Dolgellau ; pregethodd Mr W. Roberts, Penybontfawr, i'r gweinidog, a Mr S. Edwards, Machynlleth, i'r eglwys. Yr oedd sefyllfa wanaidd iechyd Mr Rees, a'r mynych gystudd oedd yn ei deulu, yn anfantais fawr iddo gydag achos mewn lle newydd, i weithio yn erbyn anhawsderau, ond yr oedd yn dderbyniol a chymeradwy gan yr holl ardalwyr. Bu yma hyd 1866, pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol, a bu farw yn fuan ar ol hyny. Y flwyddyn ganlynol i ymadawiad Mr Rees, rhoddwyd galwad i Mr John C. Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, urddwyd ef yn Aberllefeni, Ebrill 19eg, 1867; ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr R. Thomas, Llanuwchllyn ; holwyd y gofyniadau gan Mr R. Ellis, Brithdir ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr H. T. Parry, Abersoch ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr J. Jones, Machynlleth. Yr oedd yr achos yma wedi casglu nerth yn raddol, ac yr oedd teimlad cryf er's blynyddoedd y dylesid cael gwell lle addoli na'r hen ystafell yn Mhenygraig, ac ar ol sefydliad Mr Williams, penderfynwyd myned yn nghyd a'r gorchwyl o ddifrif. Rhoddwyd lle cyfleus i adeiladu arno yn rhad gan Mr D . Morgan, Machynlleth, ac nid hyny yn unig, ond cyfranodd hefyd yn haelionus at godi y capel. Dechreuwyd adeiladu yn Hydref, 1867, ac agorwyd y capel Ebrill 22ain, 1869; ac ar yr achlysur, pregethwyd gan Meistri J. Jones, Machynlleth; E. Evans, Caernarfon; O. Evans, Llanbrynmair; M. D. Jones, Bala, ac R. Thomas, Bangor. Costiodd £600, ac y mae ynddo eisteddleoedd i dri chant. Mae dau gant a haner o'r ddyled eisioes wedi thalu, ac nid yw y ddyled sydd yn aros yn cael theimlo mewn un modd yn faich rhy drwm i'w dwyn. Rhifa yr eglwys dros bedwar ugain o aelodau, a llawer o honynt yn weithgar a selog. Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yn yr eglwys yma, ond Roderick Lumley, yr hwn a addysgwyd yn athrofa y Bala. ac a urddwyd yn Elim, Cwmbran, Mynwy, ond sydd yn awr yn Bwlchyffridd, Maldwyn.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
WILLIAM REES. Ganwyd ef yn Llanrhiadr-yn-Mochnant, Tachwedd 7fed, 1822. Yr oedd ei dad yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond yn wr o feddwl rhydd a diragfarn, a chan nad oedd gan y Methodistiaid yn Llanrhaiadr ar y pryd le i addoli, aeth ei blant at yr Annibynwyr. Brawd i wrthrych ein cofnodiad, oedd Mr Edward Rees, yr hwn a urddwyd yn Brynsion, ac a fu farw yn nghanol ei ddyddiau, ac yn nghanol ei boblogrwydd yn Llanymddyfri. Derbyniwyd Mr W. Rees yn aelod yn Llanrhaiadr gan Mr D. Price, y gweinidog, yn y flwyddyn 1839, a bu am flynyddau yn aelod defnyddiol yn yr eglwys, ac yn athraw llafurus yn yr Ysgol Sabbothol. Dechreuodd bregethu Rhagfyr 19eg, 1845 ; ac yr oedd fel pregethwr yn dderbyniol gan y cynnulleidfaoedd yr ymwelai a hwynt. Bu yn cadw ysgol yn Llanrhaiadr, a Dolanog, ac wedi hyny yn Rhuddlan, lle hefyd y cynorthwyai yn y weinidogaeth, a thra yn aros yno, y priododd a Miss Sarah Williams. Derbyniodd alwad o Gorris ac Aberllefeni, ac urddwyd ef Ionawr 3ydd, 1858. Profodd yn nhymor weinidogaeth ei fod yn weithiwr ffyddlon, ac yn gristion gloyw, ac er iddo gael rhan helaeth o gystuddiau a phrofedigaethau, dyoddefodd y cwbl yn dawel. Claddodd ei wraig yn niwedd y flwyddyn 1865, ae yn fuan wedi hyny, aeth ar daith i'r Deheudir yn achos y Dysgedydd, ond cymerwyd ef yn glaf, a dychwelodd adref i dy ei fam yn Llanrhaiadr, a gwaelach, waelach yr aeth, nes y bu farw Mai 14eg, 1866, yn 43 oed, a gadawodd ar ei ol ferch fechan wyth oed, yn amddifad o dad a mam.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Llythyr Mr J. C. Williams.