Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Cynwyd
| ← Corwen | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Bettws Gwerfil Goch → |
CYNWYD.
Mae pregethu wedi bod gan yr Annibynwyr yn y lle yma er's pedwarugain-mlynedd yn ol. Yr oedd Sion Edward, yr hwn oedd yn byw yn
melin Cynwyd, yn aelod yn Rhydywernen, a bu llawer o bregethu yn ei
dŷ gan Meistri A. Tibbot, W. Thomas, Bala, ac R. Roberts, Tyddynyfelin,
ond wedi ymadawiad Sion Edward, rhoddwyd i fyny bregethu yma, gan mai
efe a'i wraig oeddynt yr unig aelodau perthynol i'r Annibynwyr yn y lle.[1]
Ni wnaed cynyg ar bregethu gydag un cysondeb yma ar ol hyny hyd y
flwyddyn 1838. Yr oedd yma hen wraig o'r enw Gwen Jones yn byw.
Symudasai yma o'r Bala, a bu yn myned yn fisol am flynyddoedd yno
i gymundeb, hyd nes yr adeiladwyd Bethel. Ar ol codi capel yn Llandrillo, elai yno yn rheolaidd, ond aeth o'r diwedd yn analluog i gerdded na
marchogaeth yno, a chwynai yn ei dagrau wrth Mr. Thomas Davies, Llandrillo, ei fod yn ei gadael yno heb roddi ambell bregeth iddi. Boddlonodd
Mr. Davies i ddyfod os gellid cael rhywle i bregethu. Cymerodd yr hen
wraig Coach-house oedd yno yn wag am yr ardreth o 2p. yn y flwyddyn,
a'r nos Fercher cyntaf yn y flwyddyn 1838, cynhaliwyd cyfarfod gweddi
yno gan frodyr o Landrillo, a'r boreu Sabboth canlynol, pregethodd Mr. T.
Ellis, Llangwm. Bu yr achos yn y lle yma am ddeuddeng mis, hyd nes
y collwyd yr ystafell, ac am chwe' mis ar ol hyny, ymgynnullid yn mharlwr tafarndy yn y lle. Symudwyd wedi hyny i'r Boncynglas, ty Griffith
Hughes. Yr oedd y gwr hwnw yn aelod gyda'r Methodistiaid, ond nid
amlygwyd un gwrthwynebiad iddo roddi ei dy i'r Annibynwyr i bregethu
ynddo. Gwelwyd yn fuan fod yr ystafell yno yn rhy gyfyng, ac wedi
ymddiddan a'r eglwysi a'r gweinidogion cylchynol, ac yn neillduol a
Meistri M. Jones, Llanuwchllyn, a J. Griffith, Rhydywernen, penderfynwyd ymofyn am le i godi capel. Cafwyd prydles am fil o flynyddoedd ar
ddarn o dir gan Mr. Thomas Williams, Felinuchaf, a thalwyd am dano 16p.
Adeiladwyd y capel, ac agorwyd ef Mehefin 27ain a'r 28ain, 1842.[2]
Galwyd ef Carmel; ac yn yr agoriad, pregethodd Meistri T. Ridge, Llangwyfan; H. Ellis, Llangwm; J. Davies, Llanfaircaereinion; W. Jones,
Dolyddelen; E. Hughes, Treffynon; J. Jones, Rhos; J. Parry, Wern, a
D. Price, Rhos. Bu Mr. Thomas Davies, Llandrillo o gynorthwy mawr
i'r achos yma o'i gychwyniad, a chaffaeliad mawr i'r achos a fu symudiad
Mr. Morgan Edwards o Faentwrog i Benybont, Cynwyd. Mae y lle wedi
bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Chorwen, ac felly y mae yn parhau, ond fod y ddau le ar hyn o bryd yn amddifaid o weinidog, ond gofelir am y lle hwn yn benaf gan Mr. T. Davies, Llandrillo.