Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Dinasmawddwy

Oddi ar Wicidestun
Llanuwchllyn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Bethsaida
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dinas Mawddwy
ar Wicipedia




DINASMAWDDWY.

Yn niwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd Mawddwy yn gartref i'r anwybodaeth, yr ofergoelion, a'r campiau a ffynai mor gyffredinol yn Nghymru gynt; ac yn llawn o'r rhagfarn penrydd ac erlidgar yn erbyn pob peth fel crefydd, nad oedd dan nawdd person y plwyf, a hynodai Ogledd Cymru yn hir wedi i'r Deheu ddyfod i oddef a derbyn Ymneillduaeth. Maeddwyd un pregethwr mor greulon yn Llanymawddwy, fel y bu raid iddo gyflogi rhyw ddyn i fyned ag ef yn ddiogel dros Fwlchygroes i'r Bala.[1] Aeth Mr. Lewis Rees o Lanbrynmair trwy Fawddwy i Lanuwchllyn, a'i fywyd megis yn ei law lawer gwaith. Yn y fan y deuai son fod y pregethwr yn dyfod, elai yn gynwrf trwy yr holl le. Gadawai y gof yr efail, taflai y crydd yr esgid heibio, gollyngai y teiliwr y dilledyn o'i law, brysiai y merched allan o'u tai, gan roddi pob gorchwyl o'r neilldu; a gwelwyd hyd yn nod ar adeg frysiog y cynhauaf, y llafur- wyr yn rhedeg a'u crymanau, a'u ffyrch, a'u cribynau yn eu dwylaw i amgylchu y ffordd y deuai, i'w ddifenwi, a'i fygwth, ac yn aml elai yn muhellach na bygwth y cenhadwr ffyddlawn. Gorfyddai yn aml iddo fyned trwy y Dinas liw nos, am ei bod yn rhy beryglus iddo fyned liw dydd. Yr oedd gan Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, Llanuwchllyn, frawd, o'r enw Morgan, yr hwn oedd yn "ŵr cadarn, nerthol," ac yn ymladdwr o fri, ac oblegid hyny yn ddychryn i'r holl wlad; ond yr oedd yn hoff iawn o Mr. Lewis Rees, a llawer boreu Llun y gwelwyd Morgan Dafydd yn dyfod yr holl ffordd o Lanuwchllyn i hebrwng Mr. Rees trwy Fawddwy. Cerddai o'i flaen, a phastwn onen gref, fel paladr gwaywffon, yn ei law; ac os gwelai Morgan ryw un yn gwneyd dim byd tebyg i wawdio neu fygwth y pregethwr, cauai ei ddwrn, neu codai y pastwn i fyny, a dywedai, "Bydd di ddistaw, ac ar ol i mi hebrwng y gwr da yma, mi ddof i yn ol i setlo a thi." Ond cyn y dychwelai Morgan byddent oll wedi cilio, rhag ofn y digwyddai rhyw beth gwaeth na dangos y pastwn. Dywedir fod Mr. Rees ei hun wedi dyfeisio rhyw ffyrdd diniwed er pasio yn ddiogel. Unwaith, cwalciodd ei het, a gyrodd yn Jehuaidd trwy y lle, ac aeth heibio yn ddiwrthwynebiad. Y bregeth gyntaf y mae genym hanes am dani yn y Dinas oedd gan Mr. Lewis Rees, mewn tafarndy a elwid y Bell. Yr oedd Mr. Rees yn awyddus am gael pregethu i'r bobl, ac yr oedd Thomas Williams, y tafarnwr, yn foddlon iddo gael pregethu yn ei dŷ. Aeth y swn allan fod y pregethwr o Lanbrynmair yn myned i bregethu yn y Bell, ac yn fuan yr oedd yno dorf o wrandawyr trystfawr ac anhydyn wedi dyfod yn nghyd, a'r olwg arnynt yn ddigon di-galon i feddwl dechreu pregethu iddynt. Galwodd Mr. Rees am chwart o gwrw gan y tafarnwr—canys nid oedd neb yn dychmygu fod dim allan o le yn hyny y pryd hwnw—ac aeth ag ef yn ei law at y drws, a chan godi y llestr at ei enau i gymeryd traflwnge o hono, dywedodd, "Iechyd da i chwi, gyfeillion," ac yna estynodd ef i'r agosaf ato, gan ddyweyd, "Yfwch at eich gilydd." Bu hyny fel olew ar wyneb y dyfroedd terfysglyd. Cafodd lonydd i bregethu, ac wedi iddo orphen, yr oedd pawb yn dyweyd ei fod yn ddyn "deche anmhosib." Unwaith, pan yn myned trwy Lanymawddwy, cyfarfu a Mr. Jones, person y plwyf, yr hwn, yn hytrach nag atal terfysg y bobl, oedd fwy nag unwaith wedi eu cefnogi i erlid y pregethwr. Gofynodd y person i Mr. Rees, beth ydoedd, o ba le yr oedd yn dyfod, a pha beth oedd yn ei wneyd yn Llanbrynmair, ac wedi i Mr. Rees ateb y naill beth a'r llall, dywedodd y person gan dybied mai Presbyteriaid oedd, "Peth afresymol ydyw goddef i Bresbyteriaid bregethu yn Nghymru, Scotland yw y wlad iddynt hwy, ac yno y dylasent bregethu." "Gobeithio, Syr," meddai Mr. Rees, "eich bod chwi o well egwyddor na hon'a, onide bydd raid i chwi newid eich crefydd yn ol eich gwlad. Yn Scotland byddai raid i chwi fod yn Bresbyteriaid, ac yn Rhufain byddai raid i chwi fod yn Babydd. Yr wyf fi yn ceisio ffurfio fy nghrefydd nid yn ol arfer gwlad, ond yn ol rheolau Gair Duw." Gwelodd y person gymaint o briodoldeb yn yr ateb, fel y bu yn fwyn a charedig tuag ato o hyny allan.

Y prif offeryn i ddwyn yr Annibynwyr i bregethu yn rheolaidd yn Ninasmawddwy oedd un Rowland Griffiths, dilledydd wrth ei alwedigaeth, yr hwn wedi hyny a ymfudodd i America, ac a fu yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr yn Utica, ac yn bregethwr achlysurol. Yr oedd Rowland Griffiths yn un o Militia sir Feirionydd, ac yn arfer myned i'r Bala yn y gwasanaeth hwnw ar dymhorau, ac yno yr oedd wedi dyfod i gyffyrddiad a'r Annibynwyr, ac wedi arfer eu gwrando. Gafaelodd gwirionedd yr Efengyl yn ei galon, a gafaelodd ei galon yntau yn mhobl yr Arglwydd, ac ymunodd â hwy yn y Bala, er iddo ddychwelyd oddiyno cyn cael ei dderbyn yn gyflawn aelod. Wedi ei ddychweliad i'r Dinas, trwyddedodd ei dŷ, er mwyn cael yr Annibynwyr i bregethu ynddo. Nis gwyddom pwy a bregethodd ynddo gyntaf; ond dechreuodd gweinidogion a phregethwyr Meirion a Maldwyn yn fuan gyrchu yma. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1791, cynhaliwyd cyfarfod pregethu ar wyneb yr heol yn ymyl y Goat, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Thomas, Bala; R. Tibbot, Llanbrynmair; J. Evans, Machynlleth; D. Richards, Tŷ'nyfawnog; ac R. Roberts, Tyddynyfelin. Bendithiodd yr Arglwydd y cyfarfod hwnw er agoriad drws helaeth i'r achos yn yr ardal, ac er dychweliad pechaduriaid. Adroddid hanes y cyfarfod wrth weinidog presenol Dinasmawddwy, gan John a Sarah James, tad a mam Mr. Hugh James, Llansantffraid—y rhai oeddynt bresenol yn y cyfarfod, ac yn ei gofio yn dda; a chawsant ill dau yn fuan wedi hyny y fraint o ymuno a'r achos. Testyn Mr. Thomas, y Bala, oedd "Y rhai sydd yn aflonyddu y byd, y rhai hyny a ddaethant yma hefyd;" a thestyn Mr. Tibbot oedd, "A gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Soniai yr olaf am rinwedd y gwaed er dileu arferion llygredig, ac er cadw eneidiau mewn modd ag a gynhyrfai y gwrandawyr yn ddirfawr. "Pe byddai," meddai, "dim ond un diferyn o'r gwaed ar yr enaid, gallai roddi her i uffern a'i holl ddiafliaid i'w niweidio byth. Pe byddai i enaid ag un diferyn o'r gwaed arno fyned i uffern, byddai yn gynhwrf ac yn wban trwy gehena i gyd. Ciliai cythreuliaid fychain a mawrion rhagddo mewn dychryn, gan waeddi 'Beth mae hwn yn ei 'mofyn yma?' a byddai yn gynwrf ac yn ysgrechain trwy holl orerau y ffiamiau, ac ni fyddai modd eu llonyddu nes cael yr enaid a'r gwaed arno oddiyno."[2]

Yn fuan wedi hyn, darfu i'r rhai y cyffyrddasai yr Arglwydd a'u calonau ddechreu ymgasglu yn nghyd i weddio, a chynghori, a chadarnhau eneidiau eu gilydd; ac yn Ionawr, 1792, corpholwyd hwy yn eglwys, a gweinyddwyd Swper yr Arglwydd iddynt y waith gyntaf gan Mr. W. Thomas, o'r Bala. Saith oedd eu nifer yn y cymundeb cyntaf, ac y mae eu henwau yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Rowland Griffith, a'i wraig; Evan Williams, Siopwr; John Evans, Gwehydd; John Jones, Ceinan; John Davies, Erwhir; a Margaret Owen, Penygraig, Cwmcewydd. Erbyn gwanwyn 1795, yr oedd ganddynt gapel wedi ei adeiladu; ac yn niwedd y flwyddyn 1796, yr oeddynt wedi cynyddu i fwy na 35 o rifedi, fel y teimlasant yn ddigon calonog i roddi galwad i Mr. William Hughes, Bangor, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn nechreu 1797. Yr oedd mesur helaeth o wresawgrwydd a gweithgarwch yn yr aelodau oedd yma ar y pryd, ac elent oddiamgylch i gynal cyfarfodydd gweddio yn mha le bynag y rhoddid derbyniad iddynt. Cyrhaeddai cylch gweinidogaeth Mr. Hughes o Lanymawddwy i Cwmllynau, ac i lawr i'r Foel, a chyn belled a'r Tygwyn, Llanerfyl; ac yr oedd ymweliadau yr hen frodyr i gynal cyfarfodydd gweddio yn cyrhaedd yn llawn mor belled. Dilynwyd gweinidogaeth Mr. Hughes a llwyddiant cyson; ond cafwyd adfywiadau grymus ar rai adegau. Bu gradd o adfywiad yn Nghwmtafolog a'r Dugoed yn 1805, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys; ac yn 1807 bu un llawer grymusach; ac yn y flwyddyn 1808 helaethwyd capel y Dinas. Yn y cyfnod yma y sefydlwyd Ysgolion Sabbothol yn y Dinas a Llanymawddwy, a Chywarch, a Cherist, a'r Groeslwyd, a chymydogaeth Bethsaida; a chariasant ddylanwad daionus ar y wlad oll. Yn y flwyddyn 1821, codwyd capeli bychain yn Llanymawddwy a Bethsaida, a thalwyd am danynt; a thrwy lafur Mr. Hughes a'r eglwys, dan fendith yr Arglwydd, llwyddwyd i ddwyn y Dinas a'r amgylchoedd yn lled gyfan dan ddylanwad yr efengyl. Ond yr oedd Mr. Hughes yn heneiddio, a'i ddyddiau yn nesâu i farw; ac ar y dydd olaf o'r flwyddyn 1826, hunodd mewn tangnefedd, wedi llafurio yn y cylch eang yma am yn agos i 30 mlynedd.

Yn mhen dwy flynedd i'r Sabboth y bu farw Mr. Hughes, daeth Mr. John Williams, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd, yma i weinidogaethu, ac urddwyd ef Chwefror 18fed a'r 19eg, 1829. Ar yr achlysur traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Lloyd, Towyn; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. Jones, Bala, a phregethodd Mr. E. Davies, athraw yr athrofa yn y Drefnewydd, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr. D. Morgan, Machynlleth, ar ddyledswydd yr eglwys Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Humphreys, Towyn; H. Morgan, Sammah; M. Evans, Llacharn; E. Evans, Abermaw; H. Pugh, Llandrillo; J. Davies, Llanfair; C. Jones, Dolgellau; J. Williams, Ffestiniog, ac E. Rowlands, Rhoslan.[3] Yr oedd Mr. Williams yn bregethwr poblogaidd a chynes, a bu yn hynod o ymdrechgar fel gweinidog, a chynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa trwy ei lafur. Yn 1832, ail adeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn helaethach, a chodwyd ysgoldy bychan yn nglyn ag ef er cynal ysgol ddyddiol. Codwyd hefyd ysgoldy yn Nghywarch er cynal Ysgol Sabbothol, a phob moddion yn achlysurol. Llafuriodd Mr. Williams yma am ddeng mlynedd, nes yn 1839, y derbyniodd alwad o Aberhosan a Phenegos, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at ei fywyd, a'i gymeriad, a'i lafur yn nglyn ag eglwys Penegos. Yn y flwyddyn 1840, rhoddodd yr eglwys alwadi Mr. Robert Thomas, genedigol o Lanuwchllyn, ond hwn oedd yn aros ar y pryd hwnw yn Nghonwy; ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1840. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Jones, Dolgellau; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; a phregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. E. Evans, Abermaw, i'r eglwys. Cymerwyd rhan hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. Morgan, Sammah; E. Hughes, Treffynon; H. Lloyd, Towyn; E. Griffiths, Llanegryn; J. Parry, Machynlleth, ac E. Roberts, Marton, (Cwmafon.)[4] Bu Mr. Thomas yma am tua dwy flynedd yn nodedig o boblogaidd, ac yr oedd y tymor hwnw yn dymor llewyrchus iawn ar grefydd trwy yr holl wlad, a phrofodd y Dinas oddiwrth effeithiau yr ymweliad grasol. Yn yr adeg yma y codwyd ysgoldy Hermon, Cerist. Derbyniodd Mr. Thomas alwad cyn diwedd 1842 oddiwrth yr eglwys yn Salem, Liverpool, a symudodd yno yn nghanol ei boblogrwydd yma. y flwyddyn 1843, derbyniodd Mr. John Thomas o Fachynlleth, ond a fuasai dan addysg yn Windsor, Liverpool, alwad oddiwrth yr eglwys yma, ac urddwyd ef Medi 29ain, 1843. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah; gweddiodd Mr. J. Williams, Aberhosan; pregethodd Mr. H. Llwyd, Towyn i'r gweinidog, a Mr. S. Roberts, Llanbrynmair i'r eglwys. Pregethwyd hefyd yn oedfaon y dydd gan Meistri T. Edwards, Ebenezer; D. Davies, Berea; J. H. Hughes, Llangollen; W. Roberts, Penybontfawr; H. James, Llansantffraid, ac E. Evans, Abermaw.[5] Ymroddodd Mr. Thomas a'i holl egni yn y tymor byr y bu yma, ond symudodd yn 1845, i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn Amwythig. Yn y flwyddyn 1848, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Williams, aelod o Blaenafon, ond a fuasai dan addysg yn Hanover, ac urddwyd ef Ebrill 26ain a'r 27ain, 1848. Ar yr achlysur traethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Williams, Aberhosan; holwyd y gofyniadau arferol i'r gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah; offrymwyd y weddi am fendith ar yr undeb gan Mr. C. Jones, Dolgellau; pregethodd Mr. E. Griffiths, Blaenafon, i'r gweinidog, a phregethodd Mr. R. Thomas, Liverpool, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Davies, Brynbiga; E. Roberts, Foel; J. Roberts, Llanbrynmair; R. Ellis, Brithdir; W. Roberts, Penybontfawr; R. Edwards, Rhydymain, a G. Evans, Pennal.[6] Mae Mr. Williams wedi llafurio yma yn ddiwyd am dair-blynedd-ar-hugain, ac nid yn ofer ychwaith. Mae yma dri o ysgoldai yn perthyn i'r eglwys yn y cymoedd cymydogaethol, y rhai a elwir Bethlehem, Hermon, a Salem, a chynhelir ynddynt ysgolion bob Sabboth a chyfarfodydd gweddi, a phregethu achlysurol, ond daw yr holl ganghenau yn nghyd i'r Dinas i'r oedfa ddau o'r gloch bob Sabboth. Yn y flwyddyn 1868, adeiladwyd capel newydd mewn safle llawer mwy manteisiol na'r un y safai yr hen gapel arno; ac er iddo gostio 1150p., agorwyd ef Hydref 30ain, 1868, yn rhydd o ddyled, ac y mae rhestr y tanysgrifiadau, yr hon sydd wedi ei chyhoeddi, yn anrhydedd i'r gweinidog a'r eglwys, ac i'w cyfeillion y tu allan, y rhai a'u cynorthwyasant.

Bu yma lawer o wyr rhagorol yn mysg y brodyr yn perthyn i'r eglwys hon. Heblaw y saith oedd yn cychwyn yr achos, y mae olynwyr iddynt yn glynu wrth yr Arglwydd. Meibion i'r John Evans a enwyd oedd Richard Evans a Rowland Evans, (Morben), a Morris Evans, (Lacharn), heblaw brodyr eraill o'r un teulu, ac y mae llawer o'i wyrion yn gwasanaethu Duw eu tadau, ac yn llenwi cylchoedd o ddefnyddioldeb mawr mewn eglwysi yn Nghymru a Lloegr. Yn mysg y rhai a fu yn gwasanaethu fel swyddogion yn yr eglwys yma, yr ydym yn cael enwau Rowland Griffith, John Jones, Ceinan; Evan Jones, Castell; John Rowlands, Allt; Lewis Roberts, Llwyni; Evan Evans, Nant-yr-hedydd; John James, Tygwyn; Rowland Evans, Dolobran; Richard Evans, Dinas; Richard Rowlands, David Jones, Llwynygrug, a John Jones, Tydu. Coffeir yn barchus am John James, Tygwyn, (tad Mr. H. James,) un o gedyrn crefydd yn ei oes, ac un nas gallesid yn fuan ei symud oddiwrth y ffydd, ac yr oedd ef a Richard Evans, Dinas, a Rowland Evans, Dolobran, yn mysg y rhai mwyaf amlwg o'r rhai a fu yma gyda'r achos.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

Morris Evans. Addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Lacharn, sir Gaerfyrddin, a daw ei hanes yno dan ein sylw. Bu farw yn Mhontypool.

Hugh Evans. Bu am lawer o flynyddoedd yn pregethu yn y Dinas a'r cwmpasoedd, ond yr oedd wedi rhoddi i fyny yn mhell cyn ei farwolaeth. William Roberts. Derbyniodd addysg yn Marton. Urddwyd ef yn Pennal, ac y mae yn awr yn Nhanygrisiau, Ffestiniog. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr. J. Williams.

Hugh James. Dechreuodd bregethu yr un pryd a'r brawd a enwyd yn flaenorol. Bu yntau dan addysg yn Marton, ac urddwyd ef yn Brithdir, ac y mae yn awr yn Llansantffraid.

Richard M. Jones. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Bagillt, ac y mae yn awr yn Dolyddelen.

Mae Thomas Davies, Dinas; Edward Evans, Llwyndu; Lewis Jones, Bwlch; Morris Evans, Dinas, a Robert Evans, Llwyngrug, yn ddiaconiaid yn yr eglwys yn bresenol, ac y mae rhifedi yr aelodau yn fwy na chant a haner, ac nid yw yr achos heb arwyddion fod yr amddiffyn ar yr holl ogoniant.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM HUGHES. Ganwyd ef yn Rhos-cyll-bach, plwyf Llanystumdwy, sir Gaernarfon, yn mis Mai, 1761. Yr oedd ychydig gloffni arno yn naturiol, ac aeth ei rieni ag ef pan yn blentyn at Mr. John Thomas, gweinidog Pwllheli, i ofyn a oedd yn tybied y gallasai y meddygon wneyd rhyw les iddo, ond cynghorodd Mr. Thomas hwy i adael iddo, gan mai gwaith yr Arglwydd ydoedd, y buasai iddo ef ofalu am dano, a dichon yr âi trwy y byd yn gystal ag un o'u plant. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenlan, Pwllheli, pan oedd yn ugain oed, ac yn fuan cymhellwyd ef i ddechreu pregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn y Capel Newydd, Lleyn, ar y geiriau, "Edifarhewch, gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau." Treuliodd ychydig amser yn Llanuwchllyn dan addysg gyda Mr. A. Tibbot, ond yn y flwyddyn 1788, aeth i Fangor a'r amgylchoedd i lafurio, ar gais gweinidogion y wlad yn benaf. Urddwyd ef yn Caegwigin, (Bethlehem yn awr,) yn y flwyddyn 1789, ac yr oedd Meistri B. Jones, Pwllheli; D. Lloyd, Dinbych; A. Tibbot, Llanuwchllyn, a G. Lewis, Caernarfon, yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth ei urddiad. Trwy ymdrech caled y llwyddodd i gael lle i'r achos roddi ei droed i lawr yn Mangor. Yr oedd tir ar werth yn Tyddynordor, fwy na haner milldir o'r dref, ar ffordd Caernarfon, ond ni fynai ei berchenog ei werthu i weinidog Ymneillduol, ond rhoddodd yr Arglwydd yn nghalon un David Owen, crydd, i brynu y tir, ac i ganiatau darn o hono at godi addoldy bychan, yr hwn trwy ddiwydrwydd Mr. Hughes a godwyd, a thalwyd am dano. Dyoddefodd fesur o erledigaeth yn achos yr efengyl, a phan yn pregethu yn Llanrwst unwaith, ymosodwyd arno, a dygwyd ef ger bron yr ynadon, a dirwywyd ef i dalu deg punt, a chadwyd ef yn nwylaw creulawn yr heddgeidwaid nes iddo dalu yr arian, neu ryw rai i dalu drosto. Barnai pawb fod y dirwyad yn anghyfreithlon, ond gwell oedd gan Mr. Hughes oddef cam, na chodi terfysg. Teimlodd pobl Bangor yn fawr pan glywsant am ei helbul, oblegid cyfrifai pawb ef y diniweitiaf o feibion dynion. Priododd yn y flwyddyn 1790, a Margaret, merch Ellis Roberts, Tyddynyddol, gerllaw y Bala, o ba un y bu iddo ddeg o blant. Mab iddo ef ydyw Mr. Ellis Hughes, Penmain, Mynwy, ac y mae Mr. William Hughes, mab arall iddo, yn ddiacon parchus yn yr eglwys gynnulleidfaol yn y Crescent, Liverpool, dan ofal Mr. J. Kelly, ac un o'i ferched ydyw gwraig Mr. H. Morgan, Sammah, ac y mae ei ferched eraill, y rhai a dyfasant i fyny, wedi llenwi eu cylchoedd fel gwragedd rhinweddol. Yn nechreu y flwyddyn 1797, symudodd Mr. Hughes i Dinasmawddwy, ac yno y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes, fel "gweinidog da i Iesu Grist." Mewn llafur dibaid, mewn gostyngeiddrwydd diddichell, mewn duwioldeb diamheuol, mewn gofal bugeiliol, mewn gweinidogaeth Ysgrythyrol, ac mewn awydd cyson am wneyd daioni, nid oedd Mr. Hughes yn ail i neb yn ei oes. Dywed Mr. J. Roberts, Llanbrynmair yn ei gofiant iddo :—"Mae yn sicr nad oes neb yn fyw yn bresenol yn mhlith yr Ymneillduwyr a deithiodd gymaint ar hyd Cymru i bregethu yr efengyl a Mr. Hughes. Arferai bob blwyddyn wneyd taith go hir trwy ranau o'r Gogledd a'r Deheu. Ar y teithiau hyny, pregethai yn gyffredin dair gwaith y dydd, a sicrhai ei bregethau dwys a'i ymddygiad boneddigaidd a duwiol, iddo barch mawr gan bawb oedd yn ofni yr Arglwydd. Ymddangosai bob amser pan yn pregethu ei fod dan ystyriaeth ddifrifol o bwys ei waith, ac o fawredd y canlyniadau i'w wrandawyr, pa un a wnaent ai gwrando ai peidio. Adderchawgrwydd penaf ei bregethau oedd, eu bod oll yn Ysgrythyrol. Yr wyf yn cofio pan glywais ef gyntaf yn Llanbrynmair, yn y flwyddyn 1784, fy mod yn meddwl fod yn rhaid ei fod yn cofio yn mron yr holl Fibl. Nodwedd mwyaf eglur Mr. Hughes oedd duwioldeb gwastad. Yr oedd yn wastad yn rhodio megis ger bron yr Arglwydd. Gofalus iawn ydoedd na ddeuai un ymadrodd llygredig allan o'i enau. Nid wyf yn meddwl fod neb yn llettya meddyliau gwaelach am dano ei hun nag efe. Pan fyddai yn dyweyd ychydig o'i brofiad gyda'i frodyr mewn cyfeillachau neillduol yn ein Cymanfaoedd, byddai bron bob amser dan ddwys deimlad o'i wendidau, ac nid anfynych y byddai yn dyweyd fod llawer o anmheuon yn ei feddwl yn nghylch ei gyflwr ei hun. Byddai yn arfer dyweyd ei brofiad ar yr achlysuron hyn mor deimladwy a thoddedig, fel yr oedd yn anhawdd i neb ei glywed ef a'i lygaid yn sy chion. Mae pawb a'i hadwaenai yn gwybod ei fod yn cyfateb i'r desgrifiad a wneir gan Paul o ddyn duwiol, yn 1 Corinthiaid xiii." Sonir gan y rhai a'i clywsant yn arbenig am dano fel gweddiwr, ac mor afaelgar ac ymdrechgar ydoedd. Dywedai un brawd ffraeth unwaith, y ceid cyfarfod cyflawn ond cael Hughes o'r Dinas i weddio, Williams o'r Wern i bregethu, a Roberts, Llanbrynmair i wylo. O ran ei berson yr oedd Mr. Hughes yn ddyn mawr, esgyrniog, ac yn camu ychydig yn ei war. Dywedir gan hen bobl, fod ei fab, Mr. Hughes, Penmain, fel y mae yn heneiddio, yn myned yn fwy-fwy tebyg iddo. Gwisgai fynychaf yn blaen, mewn dillad gwlad, gyda napcyn sidan India am ei wddf, ond yr oedd yn wastad yn lân a thrwsiadas, a llafuriodd yn y weinidogaeth mewn amser ac allan o amser, heb arbed ei gorph. Cyfarfu a phrofedigaethau chwerwon, gwelodd gladdu amryw o'i blant, ac yn neillduol bu y ddamwain angeuol a gyfarfu ei fab, John, yn mis Mai, 1811, yn brofedigaeth danllyd iddo ef a'i anwyl briod. Yr oedd yn fachgen 15 oed, ac yn egwyddor was gyda Miss Mary Ann Jones, yn Llansantffraid, ac wrth geisio atal yr anifail oedd ganddo yn y drol rhag rhedeg, tarawyd ef yn ei ben gan y drol, fel y bu farw yn mhen wyth niwrnod. Claddwyd ef yn mynwent capel y Sarnau, a chanodd ei dad alargan ar yr achlysur. Mae yn llawn o syniadau prydferth, ac yn neillduol o deimlad dwys. Ond yn ei holl brofedigaethau daliodd ei ymddiried yn ei Dduw. Mae ei enw yn perarogli hyd heddyw yn Ninasmawddwy, a'r holl ardaloedd cymydogaethol; a dywed Mr. Williams o'r Dinas wrthym, "er teithio yn fynych ar hyd ei lwybrau, ac yn mysg y rhai a'i hadwaenent oreu, ni chawsom erioed yr un awgrym ond oedd dda a pharchusol am dano."

Nid oes ond un arall o'r gweinidogion a fu yn y Dinas wedi gorphen eu gyrfa, a gwnaethum gyfeiriad eisioes ato ef yn nglyn ag eglwys Penegos, ac am y brodyr eraill a fu yma, a'r brawd sydd yma, gobeithio fod y dydd yn mhell pan y gelwir ar neb i ysgrifenu eu cofnodion bywgraphyddol.

Nodiadau[golygu]

  1. Drych yr Amseroedd. Tu dal. 123.
  2. Llythyr Mr. E. Williams, Dinas.
  3. Dysgedydd, 1829. Tu dal. 117.
  4. Dysgedydd, 1840. Tu dal. 288.
  5. Dysgedydd, 1843. Tu dal. 249
  6. Dysgedydd 1848 tu dal 187