Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Heolyfelin, Casnewydd
← Abergavenny | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Ebenezer, Pontypool → |
HEOL-Y-FELIN, CASNEWYDD.
Fel cangen o eglwys Llanfaches yr ystyrid yr eglwys hon o'r dechreuad hyd ddechreu y ganrif bresenol, ac nid fel eglwys wahanedig ac annibynol. Mae genym brofion fod addoliad yn cael ei gynal gan yr Annibynwyr yn y Casnewydd a'r gymydogaeth agos yn ddiatal er dyddiau Mr. Wroth. Bu Mr. William Erbery dros ryw gymaint o amser yn pregethu yn eglwys y Stow, cyn iddo sefydlu yn Nghaerdydd, ac y mae yn ddiamheuol fod llawer o'r dref a'r cylchoedd yn wrandawyr cyson ar Mr. Wroth a'i gynnorthwyr, yn Llanfaches. O 1646 hyd 1662 cafodd y trigolion eu bendithio â rhan fawr o weinidogaeth nerthol Walter Cradock, Henry Walter, ac eraill. Yr oedd Mr. Walter yn weinidog plwyf y Stow, neu St. Woollos, yn 1660, pryd y cafodd ei droi allan. Yr oedd boneddwr parchus o'r enw Rees Williams yn byw yn y dref hon yn amser y werin-lywodraeth, yr hwn oedd yn Gristion enwog, ac yn bregethwr da. Yr oedd yn un o'r dirprwywyr yn neddf 1649, er taenu yr efengyl yn Nghymru. Mae Mr. Walter Cradock, mewn llythyr at Oliver Cromwell, dyddiedig Mawrth 29ain, 1652, yn ei alw, "yr hen Sant enwog, Mr. Rees Williams, o'r Casnewydd, yr hwn sydd wedi gwasanaethu y llywodraeth mewn amryw fanau, ond heb elwa yr un geiniog wrth hyny." Daliodd "yr hen Sant enwog" hwn at ei egwyddorion fel Ymneillduwr ac Annibynwr hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ryw bryd rhwng 1669 a 1672. Yn 1669 yr oedd addoliad cyson yn cael ei gynal yn ei dŷ, ac yntau yn pregethu i'r rhai a ddelent yno i wrandaw. Yr oedd y gynnulleidfa a ymgyfarfyddai yno tua chant o rif, ac yn eu plith rai boneddigion.[1] Yn 1672, trwyddedwyd tŷ Barbara Williams, yn y Casnewydd, at gynal addoliad gan yr Annibynwyr. Mae yn ddigon tebygol fod Rees Williams erbyn hyn wedi marw, ac mai ei weddw ef oedd Barbara Williams. Mae yn debygol i'r addoliad gael ei gynal yn y tŷ hwn, neu yn rhywle arall yn y dref, hyd nes cael Deddf y Goddefiad yn 1688. Yr oedd tŷ Jane Reynolds hefyd yn mhlwyf Marshfield wedi cael ei drwyddedu yn 1672, a thŷ Margaret Jones yn mhlwyf Henllys. Felly gwelwn fod yr Annibynwyr yn lled luosog yn y dref a'r gymydogaeth yn yr amseroedd enbyd hyn. Byddai John Powell, A.M., Watkin Jones, Mynyddislwyn; Henry Walter, yr hwn oedd yn byw yn mhlwyf Caerlleon-ar-wysg, a Thomas Barnes, yn pregethu yn y gwahanol leoedd hyn, ac ymddengys mai dan weinidogaeth Mr. Barnes yn benaf y bu Ymneillduwyr y Casnewydd o 1688 hyd 1703, pryd y bu y gwr da farw mewn oedran teg. Nis gwyddom pa bryd yr adeiladwyd capel Heol-y-felin, na phwy fu yn gweinidogaethu yno o 1703 hyd 1710, pryd yr urddwyd Mr. David Williams. Amseriad y weithred henaf, sydd yn awr ar gael, yn perthyn i'r hen gapel, yw Ebrill 27ain, 1725; ond clywsom gan rai a'i gwelodd, fod hen weithred arall yn bod, sydd flynyddau lawer yn hynach na hon. Y tebygolrwydd yw, gan fod yr Ymneillduwyr mor lluosog a selog yn y parthau hyn tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, i dŷ cyfarfod gael ei adeiladu yn Heol-y-Felin cyn gynted ag y cafwyd nawdd Deddf y Goddefiad. Bu yr achos yma, mewn cysylltiad â Llanfaches, dan ofal gweinidogaethol Mr. David Williams o 1710 hyd 1754. Nid ydym yn feddianol ar ddefnyddiau i roddi unrhyw hanes am ei helynt yn nhymor maith ei weinidogaeth ef. Rhif y ddwy gynnulleidfa yn Carwhill a Heol-y-felin, yn 1717 oedd 236, yn cynnwys chwech o fonedd—igion, un ar bymtheg o dirfeddianwyr, wyth ar hugain o fasnachwyr, pedwar ar bymtheg o amaethwyr, ac ugain o weithwyr. Yr oedd yma un masnachwr cyfrifol yr amser hwnw, o'r enw Jacob Jones, yr hwn oedd yn wr blaenllaw a defnyddiol iawn gyda yr achos. Ar ol marwolaeth Mr. Williams, bu un Mr. Richard Davies yn weinidog yma am tua dwy flynedd, a dilynwyd ef gan Mr. James Davies, yr hwn a fu farw tua dechreu y flwyddyn 1760. Nid oes genym ddim ychwaneg o hanes am y naill na'r llall o honynt. Ar ol ysgrifenu hanes Llanfaches y tarawsom wrth eu henwau, ac o herwydd hyny ni chrybwyllwyd hwy yno. Yn Mehefin, 1760, derbyniodd Mr. Roger Rogers alwad yma, ac urddwyd ef Mai 28ain. 1761. Ni pharhaodd tymor gweinidogaeth Mr. Rogers yma ond ychydig gyda phum' mlynedd o'r amser y derbyniodd yr alwad, ond bu yn rhyfeddol o lwyddianus. Derbyniodd lawer iawn o aelodau i'r eglwys, ac yn eu plith Thomas Morgan Harry, o Faesaleg, tad y diweddar Isaac Harries, o'r Morfa, yr hwn fu yn aelod ffyddlon a defnyddiol yn eglwys Heol-y-felin am oddeutu triugain ac wyth o flynyddau. Bu farw mewn oedran teg Ebrill 17eg, 1829. Ar ol marwolaeth Mr. Rogers buwyd am tua phedair blynedd heb allu cael un cymwys i lenwi ei le. Yn niwedd y flwyddyn 1769, urddwyd Mr. Thomas Saunders, yr hwn a lafuriodd yma yn ffyddlon, ac yn anghyffredin o lwyddianus, am fwy nag ugain mlynedd. Mewn llythyr oddiwrth Mr. Edmund Jones at Mr. Howell Harries, Trefecca, dyddiedig Tachwedd 19eg, 1772, dywedir, "Y mae y tŷ cyfarfod yn y Casnewydd, er ei fod yn un mawr iawn, yn fynych yn rhy fychan i gyn—nwys y cynnulleidfaoedd. Mae Mr. Saunders, y gweinidog, yn llwyddo yn fawr yno, ac yn Carwhill a Machen." Bu Mr. Saunders am rai blynyddau yn nhymor ei weinidogaeth yn dal y swydd o oruchwyliwr tan-ddaearol (underground agent) yn ngweithiau haiarn Mr. Hanbury, o Bontypool. Yr oedd hyny i raddau mawr yn amddifadu yr eglwysi o'i wasanaeth, ac yn lleihau ei ddefnyddioldeb yntau, ond arnynt hwy yr oedd y bai, oblegid na chyfranent ddigon tuag at ei gynaliaeth. Pymtheg punt yn y flwyddyn oedd yr oll a dderbyniai yn Heol-y-felin, er fod llawer o ddynion cymharol o gyfoethog yn perthyn i'r eglwys, a gallwn fod yn sier fod ei dderbyniadau o Lanfaches lawer yn llai na hyny. Ychydig cyn marwolaeth Mr. Saunders derbyniwyd gwr ieuangc o'r enw William Thomas i'r eglwys, yr hwn wedi hyny fu yno yn aelod defnyddiol ac yn ddiacon dylanwadol am lawer o flynyddau. Bob tri mis yr arferid casglu at y weinidogaeth y pryd hwnw. Pan oedd amser y casgliad chwarterol cyntaf ar ol derbyniad W. Thomas, yn agoshau, dywedodd wrth ei fam ei fod yn bwriadu rhoddi pum' swllt yn y casgliad, yr hyn a wrthwynebwyd ganddi mewn geiriau cryfion. "Ti," ebe hi, "yn rhoddi pum' swllt pan y mae yma lawer o ddynion cyfoethog nad ydynt yn rhoddi ond swllt neu ddau; y mae hyny yn afresymol." Pa fodd bynag, eu rhoddi a wnaeth y gwr ieuangc, a bu hyny yn fuan yn foddion i ddyblu y casgliad chwarterol. Pan welodd Mr. Saunders hyny, awgrymodd i'r eglwys ei fwriad, ond iddynt hwy wneyd eu goreu tuag at ei gynaliaeth ef, y buasai yn rhoddi ei swydd yn ngweithiau Mr. Hanbury i fyny, yn symud o Bontymoil i'r Casnewydd, ac yn rhoddi ei holl amser at waith y weinidogaeth. Ond cyn iddo gael amser i osod ei fwriad mewn gweithrediad, galwodd ei Dad nefol ef i le gwell.[2]
Bu Mr. Saunders farw yn Ionawr 1790, a dilynwyd ef yn mhen y flwyddyn, gan Mr. Howell Powell, yr hwn oedd ar y pryd newydd symud o Esgairdawe, sir Gaerfyrddin, i Langattwg, Crughowell. Bu Mr. Powell yma o Ionawr 1791, hyd Chwefror neu Mawrth 1798, pryd y symudodd i Ferthyr Tydfil, i gymeryd gofal yr eglwys a gyferfydd yn awr yn Zoar, yr hon oedd y pryd hwnw, newydd gael ei chorpholi. Am y pedair neu y pum' mlynedd cyntaf, o'i weinidogaeth yn y Casnewydd, bu Mr. Powell yn rhyfeddol o boblogaidd a llwyddianus, ond tua therfyn ei amser yno, cyhuddid ef o yfed yn annghymedrol, a pha un bynag a oedd y cyhuddiad yn wir ai peidio, dinystriodd ei ddylanwad ef, fel y gorfu iddo. ymadael a'r lle.
Ar ol ymadawiad Mr. Powell, bu y ddwy gynnulleidfa yn Llanfaches a'r Casnewydd am tua phedair blynedd dan ofal Mr. Walter Thomas, yn cael ei gynnorthwyo gan Mr. William George, Brynbiga, ac eraill. Fel y nodasom yn hanes Llanfaches, yn ardal y Groeswen yr oedd Mr. Thomas yn cyfaneddu, trwy yr holl amser y bu yn gwasanaethu y cynnulleidfaoedd hyn. Gan ei fod yn byw mor bell, nid oedd ganddo fantais i fod mor ddefnyddiol a phe buasai yn cyfaneddu yn mysg ei bobl.
Hyd derfyniad gweinidogaeth Mr. Thomas, yr oedd Heol-y-felin a Llanfaches, yn cael eu hystyried yn un eglwys, ond yn nechreu y flwyddyn 1803, rhoddodd pobl Heol-y-felin alwad eu hunain i Mr. Rees Davies, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac efe a urddwyd yno yn nechreu y flwyddyn hono, ac a barhaodd yn weinidog yno hyd y flwyddyn 1828, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny, o herwydd rhyw deimladau annymunol oedd wedi ymgyfodi yn yr eglwys. Yr oedd yr achos yn Heol-y-felin yn gryf ac yn barchus iawn yn nechreuad gweinidogaeth Mr. Davies. Perthynai amryw o brif fasnachwyr y dref i'r eglwys, a llawer o amaethwyr cyfoethocaf y wlad oddiamgylch. Yn 1806, yr oedd y cymunwyr yn 180 o rif, ac felly nid oedd ond ychydig o Eglwysi Ymneillduol yn Nghymru, y pryd hwnw, yn lluosocach ei haelodau. Er fod Mr. Davies yn ddyn da, o rodiad teilwng o'r efengyl, mae yn ddiamheu mai camgymeriad oedd ei ddewis yn weinidog i le mor bwysig a'r Casnewydd, ac yn enwedig pan gofiom mai cynnulleidfa Heol-y-felin oedd yr unig gynnulleidfa Ymneillduol yn y dref yr amser hwnw; canys yr oedd yn fyr o'r dalent a'r doniau gofynol i fod yn unig gynrychiolydd Ymneillduaeth yn y fath le pwysig. Cydweithiodd cynifer o bethau anffafriol yn erbyn yr hen eglwys hon, yn y deugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol, fel y buont yn agos a bod y angau iddi—diffyg nerth digonol yn y pulpud, cyfodiad achosion gan gwahanol enwadau Ymneillduol yn y dref, sefydliad achos Saesonig, gan Annibynwyr, ac annghydfod mewnol.
Dilynwyd Mr. Davies, gan David Hughes, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef Ion. 1af, 1829. Dechreuodd Mr. Hughes ei weinidogaeth yn y Casnewydd, dan yr amgylchiadau mwyaf anfanteisiol. Yr oedd yr eglwys yn ddirywiedig, ac yn anheddychol, ac yntau, er ei fod yn wr ieuangc nodedig o alluog, o ddawn llawer rhy drymaidd, ac o ysbryd rhy farwaidd, i wneyd un daioni mewn eglwys yn y fath gyflwr. Yn mhen dwy flynedd wedi sefydliad Mr. Hughes yno, ymadawodd pedwar-ar-ddeg-ar-hugain o'r aelodau ar unwaith, a derbyniwyd hwy i gymundeb yn Hope Chapel y Sul canlynol, gan y Dr. Jenkin Lewis. Mae y ffaith i weinidog o oed, safle, pwyll, a challineb Dr. Lewis, dderbyn y bobl hyn i'w eglwys, yn profi ar unwaith, mai nid haid o derfysgwyr afreolaidd oeddynt. Gydag ymadawiad y dynion hyn, aeth pob peth yn ddilewyrch yn Heol-y-felin. Bu Mr. Hughes yno wedi hyny, am fwy nag wyth mlynedd, yn pregethu i ryw ddeg-ar-hugain neu ddeugain o bobl. Yn 1839, derbyniodd alwad oddiwrth hen eglwys barchus Trelech, sir Gaerfyrddin, a symudodd yno; lle y llafuriodd gyda chymeradwyaeth mawr, hyd derfyn ei oes. Ceri cofnodion ei fywyd pan y deuwn at hanes Trelech.
Yn fuan ar ol ymadawiad Mr. Hughes, ymgymerodd Mr. John Jones, yr hwn oedd newydd ymadael o Benmain, a'r weinidogaeth yn Heol-y-felin. Cynyrchodd ei ddoniau bywiog ef ryw gymaint o gyffroad yno, a lluosogodd y gynnulleidfa ychydig. Ar ol bod yno rhwng tair a phedair blynedd, symudodd i Frome.
Yn mis Medi 1845, urddwyd Mr. David Salmon, o athrofa Aberhonddu, yno, (genedigol o ymyl Trefdraeth, yn sir Benfro), ac ymdrechodd yn ffyddlon i gyflawni ei weinidogaeth, a llwyddodd i gymaint o raddau ag y gallesid disgwyl dan yr amgylchiadau, oblegid mae yn ddigon hysbys, fod yn llawer hawddach cychwyn achos newydd, nag adferu hen achos dirywiedig. Ymadawodd Mr. Salmon yn Mai 1849, i Oak Hill, gerllaw Bath; ac y mae yn bresenol yn weinidog yr Eglwys Annibynol yn Mhenfro.
Dilynwyd Mr. Salmon gan Mr. Owen Owen, yr hwn a ymadawodd yn 1850. Un genedigol o Bankyfelin, gerllaw St. Clears, sir Gaerfyrddin ydyw; ac aelod gwreiddiol o Bethlehem. Yr oedd yn un o chwech o frodyr a droisant at y weinidogaeth er na bu yr un o honynt yn llwyddianus iawn ynddi. Mae Mr. O. Owen yn bresenol yn Birmingham, ac yn perthyn fel y deallwn i'r Eglwys Sefydledig. O ymadawiad Mr. O. Owen hyd sefydliad y gweinidog presenol, ni bu yno un gweinidog sefydlog, ond pregethid yno bob Sabboth gan bregethwyr cynnorthwyol o'r dref a'r gymydogaeth. Mae y gwasanaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen yn hollol yn yr iaith Saesoneg er's ugain mlynedd bellach; a thrwy bob cyfnewidiad, cadwyd yno ryw lun o achos fel llin yn mygu trwy y blynyddau.
Ar yr 17eg o Fedi, 1867, cafodd Mr. W. G. Edwards, o athrofa Aberhonddu, ei urddo yn weinidog, i'r ychydig enwau a lynasant wrth yr hen achos trwy bob tywydd. Mae Mr. Edwards yn llafurus iawn, ac yn bresenol y mae argoelion gobeithiol yr adfywia yr achos. Bwriedir adeiladu capel newydd yno y flwyddyn hon (1870). Mae cyflawnder o bobl yn y gymydogaeth, ac nid oes un capel arall, gan unrhyw enwad, yn agos iawn i'r lle. Hefyd y mae rhyw adgofion cysegredig yn gysylltiedig a'r fan. Mae yn y fynwent weddillion canoedd o hen grefyddwyr enwog yn gorphwys, ac yn eu mysg y tanllyd Thomas Saunders, a'r enwog Dr. Jenkin Lewis. Hyderwn y llwydda yr ymdrech a wneir yn awr i gyfodi yr hen achos i fyny i'r enwogrwydd a berthynai iddo gynt; ac y rhoddir i'r gweinidog ieuangc ysbryd selog Nehemiah i adeiladu muriau yr hen Jerusalem adfeiliedig hon.
Cafodd amryw gymanfaoedd eu cynal yn Heol-y-felin, o bryd i bryd. Yn 1796, cynhaliwyd cymanfa fawr Deheudir Cymru yno, a chymanfa sir Fynwy yno yn 1812, 1824, ac 1839.
Gan fod y defnyddiau hanesyddol am yr eglwys hon mor brin ac anmherffaith, mae yn anmhosibl i ni roddi rhestr gyflawn o'r pregethwyr a godwyd ynddi o oes i oes. Yr ydym wedi methu dyfod o hyd i enwau ychwaneg o honynt na'r rhai canlynol:
Thomas Rees. Y cwbl a wyddom am dano ef, yw ei fod yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin o 1771 hyd 1774.
David Thomas. Yr oedd ef yn bregethwr parchus yma o 1790 hyd 1796, pan y symudodd, ond nis gwyddom i ba le.
William Jones. Yr oedd yn byw yn mhlwyf Maesaleg, a bu farw Gorphenaf 6ed, 1810.
Isaac Harries. Gweinidog y Morfa, am yr hwn y bydd genym lawer i'w ddyweyd ynglyn a hanes yr eglwys hono.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL
DAVID WILLIAMS. Er pob ymchwiliad, nid ydym wedi dyfod i wybod ond y peth nesaf i ddim o hanes Mr. Williams. Yr oll a wyddom am dano ydyw, iddo gael ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin dan Mr. William Evans, ei urddo yn Llanfaches a'r Casnewydd yn 1710, ei fod yn byw mewn lle a elwir Salisbury, yn mhlwyf Magor, yn 1718, yn rhywle yn mhlwyf Maesaleg, yn 1738, ac iddo farw yn Rhagfyr, 1754.
Yr ydym yn casglu oddiwrth ddistawrwydd hollol pob llyfr argraffedig, a phob llaw ysgrif y gallasom daro wrthi, yn ei gylch, nad oedd unrhyw gyhoeddusrwydd nac enwogrwydd yn perthyn iddo; ac o'r tu arall, mae y ffaith iddo allu cadw ei le fel gweinidog i'r un gynnulleidfa am bedair a deugain o flynyddau, heb lwyr ladd yr achos, yn dangos fod ynddo ryw gymhwysder at waith y weinidogaeth,
ROGER ROGERS. Ganwyd Mr. Rogers yn y flwyddyn 1732, yn mhlwyf Bedwellty, ond nis gwyddom yn mha dy yn y plwyf hwnw. Ymunodd a'r eglwys yn Mhenmain, ond ymddengys mai dan nawdd Mr. Edmund Jones, Pontypool, yn benaf y dechreuodd bregethu, canys yr oedd ei weinidog, Mr. Phillip Dafydd, yn teimlo rhyw oerni tuag ato. Yr ydym yn cael y ddau gofnodiad oerllyd a ganlyn yn nyddlyfrau Mr. Phillip Dafydd o berthynas iddo: "Mehefin 28ain, 1760.—Heddyw yr oedd ein cyfarfod parotoad. Nid oedd y cynnulliad ond bychan. Hysbysodd Roger Rogers i'r eglwys ei fod wedi derbyn rhywbeth a alwai yn alwad i bregethu yn y Casnewydd. Pa beth a feddyliai wrth wneuthur felly nis gwn i. Ni ddarfu iddo erioed ofyn cynghor yr eglwys, ond aeth oddiamgylch i bregethu o hono ei hun, fel y gwna y bobl a elwir y Methodistiaid, ac nid yw yn un o gymmeriad da yn ei gymydogaeth." "Awst 6ed, 1761—Yr oedd cyfarfod gweinidogion yn Abergavenny heddyw, ac amryw weinidogion wedi dyfod yn nghyd yno. Pregethodd Mr. Joseph Simmons, yn Saesoneg, oddiwrth Mat. xxiv. 45; a Mr. William Evans, Cwmllynfell, yn Gymraeg, oddiwrth Mat. xxv. 13. Y prif fater fu dan sylw y Gynhadledd oedd achos Roger Rogers, yr hwn a urddwyd ar yr 28ain o Fai diweddaf, trwy waith Mr. Edmund Jones, heb edrych i mewn i gymmeriad y dyn; ond yn awr yr ydys wedi edrych i mewn iddo, ac y mae wedi ei gael yn anheilwng o'r enw sydd arno, er gofid i lawer.' Pa beth bynag oedd allan o le yn Mr. Rogers, mae genym bob sail i gredu nad oedd yn euog o unrhyw fath o anfoesoldeb, pe amgen, ni buasai gŵr o dduwioldeb Mr. Edmund Jones yn gosod ei ddwylaw arno; ac nid yn fyrbwyll y gwnaed hyny, canys yr oedd Mr. Rogers wedi hysbysu eglwys Penmain ei fod wedi cael galwad o'r Casnewydd tuag un mis ar ddeg cyn i Mr. E. Jones, ac eraill, fyned yno i'w urddo. Yr ydym yn gwbl argyhoeddedig mai rhyw ychydig o afreoleiddiwch gyda golwg ar ei gychwyniad fel pregethwr cyhoeddus, yn nghyda'r ysbryd Methodistaidd a amlygai, oedd cyfanswm pechodau Roger Rogers yn erbyn Phillip Dafydd a'i gyfeillion. Bu Mr. Rogers yn rhyfeddol o lwyddianus dros dymor byr ei weinidogaeth. Bu farw yn dair ar ddeg ar hugain oed, Awst 27ain, 1765, nid 1766, fel cam-nodasom yn hanes Llanfaches. Cafodd rai wythnosau o gystudd, a bu farw mewn llawn fwynhad o orfoledd crefydd. Dywedai ar ei wely angau, fod arno chwant cael ei ddattod ac i fod gyda Christ; "Ond," meddai, "buasai yn dda genyf gael gwneyd ychydig yn rhagor o waith dros fy Arglwydd ar y ddaear." Cyhoeddodd Mr. John Thomas, awdwr "Caniadau Sion," farwnad i Mr. Rogers, yn mha un y cawn ddarluniad lled dda o'i gymmeriad. Caiff y dyfyniadau canlynol o'i farwnad orphen yr ychydig hanes sydd genym i'w roddi am y gweinidog ieuangc rhagorol hwn:—
"Mwyn cariadus oedd ei dymer, tyner, tawel ydoedd Roger;
'Dwy'n gweled fawr y ffordd 'rwy'n rhodio, yn mhob peth sydd debyg iddo;
Diwyd, doniol, hardd, a duwiol, defnyddiol, dewr o anian nefol;
Yn awr mewn hedd, draw i'r bedd, yn hardd ei wedd mae'n canu,
Canodd lawer yma o ddifri, mae'n canu'n well yn ngwlad goleuni.
"Er nad oedd ef, nid wy'yn ameu, mwy nag eraill heb wendidau,
Er hyn rhagorai, gwn, a'i wirio, ar rai ag oedd yn beio arno;
Eto mae fy ffydd neu'm ffansi, 'n ei glywed heddyw yn cyhoeddi,
'Does dim clod, i mi'n bod, fy Mhriod canmolwch,
'Rhwn a'm dygodd trwy'r anialwch, ei foli byth fydd fy nedwyddwch.
"Yn Ebenezer a Bedwellty, bu'n pregethu 'fengyl Iesu,
Casnewydd, Carwhill ar gyhoedd, a chyda hyn mewn amryw leoedd;
Mewn byr amser llwyddiant helaeth, gafodd yn y weinidogaeth;
Enillgar iawn, yn ei ddawn, araf, llawn cariad,
Gwahoddai'n daer bob gradd yn ddifrad, i ddod at Iesu wrthfawr Geidwad.
"Duw a'i llwyddodd ffordd y cerddodd, cadd fod yn fendith, do, i ganoedd;
Mae llawer ar ei ol hyd heddy', yn sir Fynwy'n prudd alaru;
Cafwyd colled, do, nid bychan, yn mhlith y rhai lle 'roedd ei drigfan,
Seren fawr, aeth i lawr, ni welir 'nawr o'i goleu;
Cyfod Arglwydd un o rywle, yn ei le, fel byddo eisiau,"
THOMAS SAUNDERS. Yr ydym yn tybied mai un genedigol o ardal Pontypool oedd Mr. Saunders, ac mai dan weinidogaeth Mr. Edmund Jones y dechreuodd grefydda a phregethu, ond nid ydym yn sicr o hyny. Cafodd ei urddo yn Llanfaches a'r Casnewydd, yn niwedd y flwyddyn 1769. Bu farw, Ionawr 9fed, 1790, yn 58 oed; a chladdwyd ef yn mynwent Heol-y-felin, lle mae ei gareg fedd i'w gweled etto. Clywsom, o enau rhai a'i hadwaenent ac a'i gwrandawsent, ei fod yn un o'r dynion mwyaf siriol ac adeiladol yn ei gyfeillach—fod y fath hynawsedd yn perthyn iddo fel y tynai bawb a'i hadwaenai i'w anwylo. Ni chyfrifid ef yn bregethwr mawr, ond oedd yn anarferol o felus i'w wrandaw. Dengys y cofnodion am fedyddiadau a marwolaethau, a ysgrifenwyd ganddo yn llyfr yr eglwys, ei fod yn ysgolhaig da. Gresyn na byddai genym ddefnyddiau i roddi hanes cyflawnach am dano.
HOWELL POWELL. Darfu i Mr. Powell ysgrifenu ychydig o hanes ei fywyd, yr hwn a ymddangosodd yn y Cenhadwr Americanaidd am Chwefror, 1851, ychydig o amser ar ol marwolaeth yr ysgrifenydd. Ganed ef mewn lle a elwir Meity fawr, Cwmhyfer, plwyf Llywel, sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1758. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac felly cafodd y fraint o gael ei ddwyn i fyny o'i febyd yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Byddai yn cael ei gymeryd gan ei rieni i wrandaw y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhrecastell a Defynog, a'r Annibynwyr yn y Brychgoed. Ond er ei holl fanteision, bu am rai blynyddau yn lled wyllt ac anystyriol, ond ni byddai un amser yn chwareu gyda phlant y gymydogaeth ar y Sabboth, nac yn cyflawni unrhyw bechod, heb fod ei gyd—wybod yn ei aflonyddu. Cafodd ei osod, pan yn un-ar-ddeg oed, yn egwyddorwas i ddysgu bod yn ddilledydd, a bu yn dilyn y gelfyddyd hono am flynyddau. Gwrandaw pregethau gan David Morris, a David Jones, o Bontypool, pregethwr enwog gyda y Bedyddwyr, fu yn foddion i'w arwain i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Ymunodd a'r Methodistiaid yn Llanspyddid pan yn bedair-ar-ddeg oed. Bu yn aelod gyda'r Methodistiaid am rai blynyddau, ac, yn ol arferiad y dyddiau hyny, yn myned yn aml gyda y lluaws i Langeitho. Yn mhen amser diflasodd ar drefn y Methodistiaid o gymuno yn yr eglwysi plwyfol gydag offeiriaid annuwiol a dynion anfoesol, ac ymunodd a'r eglwys Annibynol yn y Brychgoed. Pan yn ddwy-ar-hugain a chwe mis oed anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod yn pregethu yn y Brychgoed a'r gymydogaeth, gyda chymeradwyaeth mawr, am ychydig o amser; symudodd i ardal Esgairdawe, yn sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef yno Mehefin, 13eg, 1786. Yr oedd pedwar-ar-ddeg o weinidogion yn ei urddiad. Bu yno tua phedair blynedd ar ol cael ei urddo, ac, fel yr ymddengys, tua yr un faint o amser cyn ei urddiad. Dilynwyd ei lafur yn yr ardal hono gyda llwyddiant rhyfeddol, ond o herwydd gorfod teithio llawer, ddydd a nos, ar hyd a lled y gymydogaeth fynyddig hono, collodd ei iechyd i raddau, fel y barnodd fod yn angenrheidiol iddo symud i le iachusach. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Llangattwg, Crughowell, a symudodd yno yn 1790, ond ni bu yno yn hir. Symudodd i'r Casnewydd yn Ionawr 1791, a bu yno hyd Wanwyn 1798. Yna symudodd i Ferthyr Tydfil, lle bu yn foddion i adeiladu capel Zoar. Yr oedd tra y bu yn Merthyr yn rhoddi haner ei amser i wasanaethu eglwys y Maendy. Tua y flwyddyn 1803 neu 1804, ymfudodd i'r America, lle y treuliodd weddill ei oes. Wedi myned yno ymunodd drachefn â'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu am flynyddau lawer yn weinidog iddynt yn Palmyra, Ohio, lle y bu farw Ebrill 12fed, 1850, yn 92 oed, wedi bod dros 69 o flynyddau yn pregethu yr efengyl. Brawd iddo ef oedd Jonathan Powell, Rhosymeirch, Mon.
Yr oedd Howell Powell, fel yr ymddengys, yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn ei oes, ac oni buasai fod rhyw beth yn ei ymarweddiad yn lladd ei ddylanwad, buasai yn un o'r dynion mwyaf defnyddiol yn Nghymru; ac, er ei ddiffygion, bu ei weinidogaeth gyffrous yn fendith i filoedd. Nid oedd yn ddim ysgolhaig, ond yr oedd ei ddoniau effeithiol yn gwneyd i fynu i raddau mawr am y diffyg hwnw.
REES DAVIES. Ganwyd ef yn Erwyddalen, gerllaw Troedrhiwdalar, sir Frycheiniog. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhroedrhiwdalar gan Mr. Isaac Price, a dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1798. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn Heol-y-felin, yn niwedd mis Mawrth neu ddechreu Ebrill, 1803, a rhoddodd ei weinidogaeth i fyny tuag Awst 1828. Bu yn briod ddwy waith. Bu farw ei wraig gyntaf Chwefror 21ain, 1823, a'r ail, Ionawr 7fed, 1849, yn mhen deng mlynedd ar ei ol ef. Darlunir y ddwy wraig yn llyfr yr eglwys, fel aelodau ffyddlon a defnyddiol gyda yr achos. Bu Mr. Davies ei hun farw yn Chwefror, 1839, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Heol-y-felin. Ar ddydd ei gladdedigaeth cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan Mr. Davies, Penywaun; Mr. Gillman, Casnewydd; a Mr. Gethin, Caerlleon; a'r Sabboth canlynol traddododd ei ganlyniedydd, Mr. D. Hughes, ei bregeth angladdol, oddiwrth Esay lvii. 1, 2.
Yr oedd Mr. Davies trwy ei oes yn gysurus iawn o ran ei amgylchiadau bydol. Fel dyn, yr oedd yn llawn hynawsedd a mwyneidddra; ac fel cristion, yn ddidwyll, gostyngedig, a phur; ond yr oedd rhyw ddiniweidrwydd plentynaidd ynddo. Swm ei bregethau bob Sabboth fyddai adrodd digwyddiadau yr wythnos flaenorol. Un Sabboth dywedai wrth ei wrandawyr mewn tôn gwynfanus, "Mae Mr. Davies, o'r Aber, wedi marw yr wythnos ddiweddaf, ac wn i yn y byd pwy gan nhw yn ei le; ac o ran hyny wn i ddim pwy gewch chwithau yn fy lle inau. Nid am na ellwch chwi gael digon yn fwy eu dawn, ond chewch chwi neb cystal ei rodiad." Yr oedd unwaith wedi adeiladu nifer o dai, ac wedi cael ei siomi yn y crefftwyr, a digwyddodd fod rhai o honynt o leiaf yn grefyddwyr. Tua'r adeg hono aeth i Droedrhiwdalar—ei ardal enedigol—i ryw gyfarfod gweinidogion, ac ar ei bregeth dechreuodd drin crefftwyr fel dynion twyllodrus ac anonest; ac ychwanegai "Ac o bawb crefftwyr, crefyddwyr yw y rhai mwyaf twyllodrus, cymerwch chwi hyny gen i." Cyffrodd yr hen batriarch o Droedrhiwdalar, a rhoddodd iddo wers nad annghofiodd yn fuan, am ddyfod yno i "godi godre yr eglwys," fel y dywedai yntau. Nid oedd dim yn ei ddawn na'i ysbryd yn ateb lle mawr a phwysig fel Casnewydd, ac anffawd fawr i'r achos oedd iddo aros yno cyhyd, er fod ei ymarweddiad yn hollol ddiargyhoedd.
JOHN JONES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanganmarch, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1789. Dychwelwyd ef at grefydd ar adeg o ddiwygiad grymus, o gylch y flwyddyn 1812, ond nis gallasom gael y dyddiad yn gywir. Aeth i gapel y Methodistiaid yn Llanganmarch, yn benaf er mwyn cael difyrwch ar draul y gorfoleddwyr. Pan oedd y pregethwr yn dyweyd yr adnod hono "Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genhedloedd a annghofiant Dduw," tybiodd yn sicr ei fod yn cyfeirio ato ef, ac yr oedd yn llefain am drugaredd cyfuwch a neb cyn diwedd y cyfarfod.[3] Unodd a'r Methodistiaid yn Llanganmarch, er fod y rhan fwyaf o'i berthynasau yn perthyn i'r gynnulleidfa yn Nhroedrhiwdalar. Aeth yn fuan i Lundain, lle yr oedd brawd ganddo yn ddilledydd; yr hwn oedd yn adnabyddus wrth yr enw "Isaac o Dreflys," am mai dan y ffugenw hwnw yr arferai ysgrifenu i fisolion y dyddiau hyny. Ac ysgrifenodd Mr. Jones lawer i'r cyhoeddiadau dan y ffugenw "Brawd Isaac o Dreflys." Pan yn Llundain unodd Mr. Jones a'r eglwys yn y Boro', ac yno y dechreuodd bregethu. Daeth i'r athrofa i Lanfyllin o Lundain, ac fel "Jones bach, Llundain " yr adnabyddid ef yn gyffredin. Wedi bod am ysbaid dan addysg, dan ofal Dr. Lewis, derbyniodd alwad o'r Main, gerllaw Llanfyllin, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1818. Llafuriodd yma yn ddiwyd am 12 mlynedd, ac nid yn ofer ychwaith. Gwnaeth ddaioni mawr trwy y wlad oddiamgylch. Dichon na bu mor ddefnyddiol a llwyddianus yn un cyfnod o'i weinidogaeth ag y bu y blynyddoedd hyn yn y Main a'r cylchoedd. Adeiladodd gapeli yn Mhontrobert a Phentre'rbeirdd, a thalodd am danynt. Priododd wraig o gymydogaeth Llanymynech, a chafodd ychydig o eiddo gyda hi, yr hyn a fu o help mawr iddo at fyw, gan nad oedd yn cael ond ychydig gan yr eglwysi yn mysg rhai bu yn llafurio. Yr oedd bywiogrwydd ei ysbryd, a'i fedr i bregethu yn rhwydd yn Gymraeg a Saesoneg, yn ei wneyd yn gymhwys iawn i faes cyntaf ei lafur. Derbyniodd alwad o Lanidloes, a symudodd yno yn Awst, 1830, i ddechreu ei weinidogaeth. Tynodd ei fywiogrwydd sylw y dref a'r amgylchoedd ar ei sefydliad yno; ond yr oedd yr achos yn wan a'r ddyled yn drom, fel nad arhosodd yno ond pum' mlynedd. Cafodd alwad i fod yn gydweinidog a Mr. D. Thomas, yn Mhenmain; ac fel y crybwyllasom eisoes tywyll ac ystormus fu cyfnod byr ei weinidogaeth yno. Beth bynag a ddywedir am gyndynrwydd y bobl, y mae yn rhaid i bawb a'i hadwaenai addef ei fod yntau yn fyrbwyll ac annoeth; ac yn cymeryd ei arwain gan rai cyfrwysach nag ef ei hun, ond heb feddu ei ddiniweidrwydd. Codwyd capel iddo gan y blaid a aeth allan gydag ef, ond nid hir yr arhosodd gyda hwy. Cafodd alwad gan hen eglwys Heol-y-felin, a symudodd yno yn y flwyddyn 1840, ond deuai i Jerusalem unwaith bob mis. Adfywiodd yr achos yn nghapel Heol-y-felin dipyn ar ei symudiad yno, a gwnaed ad-drefniad ar yr hen addoldy; ond ni bu ei arosiad yno yn hir.
Yn haf 1843, derbyniodd alwad o Frome, Somersetshire, a llafuriodd yno yn ddiwyd a defnyddiol hyd haf 1848. Derbyniodd fwy na 120 o aelodau yn ystod y 5 mlynedd y bu yn Rook Lane, Frome. Ond collodd ei iechyd a bu raid iddo roddi ei weinidogaeth i fyny. Mae yn awr ger ein bron gymeradwyaeth uchel yr eglwys iddo, a sicrheir mai yn hollol o hono ei hun, oblegid sefyllfa ei iechyd, y rhoddodd yr eglwys i fyny. Arosodd yn Frome am ddwy flynedd wedi iddo roddi i fyny ei weinidogaeth; ond cynghorwyd ef gan ei feddyg i symud i awyr Cymru, gan ddisgwyl y gwnaethai hyny les i'w iechyd. Penderfynodd ar Lanymynech fel lle i ddiweddu ei oes, gan mai un oddiyno oedd Mrs. Jones, ond bu farw yn mhen y mis wedi cyrhaedd yno, a chladdwyd ef yn mynwent Llanymynech yn 1852. Mae ei weddw etto yn fyw yn yr un gymydogaeth, ac yn ymyl 85 oed. Dyn byr, cryf, crwn, oedd Mr. Jones o ran ei gorff—bywiog a byrbwyll o ran ei dymer—caredig dros ben, yn enwedig iddynion ieuaingc—a selog a thanllyd iawn fel pregethwr. Yr oedd fel y rhan fwyaf o ddynion yn hoff iawn o gael ei ganmol, ac ni chai y dyn a wnelai hyny iddo fyned o'i dŷ yn waglaw. Yr oedd yn rhy hoff o gyfeirio yn ei bregethau at feiau yr eglwys, a soniai yn aml am y black sheep oedd ganddo yn ei ddeadell gartref; ond yr oedd y black sheep yn dyfod i glywed y pethau hyn, ac nid hir y byddent heb osod eu cyrn dano. Yr oedd yn hynod o ddifeddwl pa beth a ddywedai. Daeth drosodd i gladdedigaeth Mr. Evans, Rhaiadr. Yr oedd Mr. Williams, Troedrhiwdalar, a Mr. Lewis, Llanfair-muallt, wedi eu trefnu i wasanaethu yn yr angladd; ond yr oedd yn rhaid iddo ef gael dyweyd gair ar lan y bedd, yr hyn a ganiatawyd iddo. "Wel frodyr bach" meddai "dyma un hen frawd anwyl wedi myn'd, ac y mae yma un arall etto ymron a'i ganlyn," gan gyfeirio at Mr. Williams, Troedrhiwdalar. "Gan bwyll" ebe Mr. Williams yn y fan, "mi ddalia atat ti dipyn etto; ac mi wna hefyd;" ac y mae Mr. Williams yn dal etto, er fod oes gyfan wedi codi er y claddwyd Mr. Jones. Un gonest a diddichell, caredig a maddeugar ydoedd; ac er ei holl wendidau yr oedd yn "Israeliad yn wir."