Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llandderfel
← Bethel | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Soar → |
LLANDDERFEL
Mae yn ymddangos yr arferai gweinidogion y Bala er yn foreu bregethu yn Llandderfel. Yn ol y cyfrifiad a roddodd Mr Job Orton i Mr Josiah Thompson, yr oedd gan Mr Daniel Gronow gynnulleidfa o ddau cant yma yn 1773. Nis gwyddom pa fodd i gyfrif am hyny, os na chymerodd Mr Orton y gynnulleidfa allasai fod yno gan y Methodistiaid mewn camgymeriad, ond nid oedd hono ychwaith yn cyrhaedd y rhifedi hwnw yn yr adeg hono. Pa fodd bynag, os bu yma gynnulleidfa o Annibynwyr gan Mr Gronow, yr oedd hi wedi darfod yn llwyr cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, ac aeth chwarter y ganrif bresenol heibio cyn Annibynwyr ddechreu pregethu yn mhentref Llandderfel. Dechreuwyd pregethu yma yn y flwyddyn 1826, mewn lle a elwir Brynyfedwen, lle yr oedd Edward a Catherine Jones yn byw, y rhai oeddynt yn aelodau yn Bethel. Pregethodd Mr Pugh yma rai troion, ac ennillwyd yma amryw i broffesu crefydd. Ymofynwyd am le yn mhentref Llandderfel, ac agorodd John Roberts, gwehydd, ei dy, er nad oedd yn aelod ar y pryd, a rhoddodd lofft helaeth at wasanaeth yr achos. Coffeir am Dr. Arthur Jones yn pregethu yn yr awyr agored, oblegid na chynwysai yr ystafell mor gynnulleidfa. Teimlodd un dyn mor ddwys yn yr oedfa, nes y gwaeddodd allan fod rhyw un o'r crefyddwyr wedi dyweyd ei hanes ef wrth y pregethwr. Yr oedd Robert Daniel, Rhydlydan, yn pregethu y noson hono drachefn yn yr ystafell. Yr aelodau eglwysig cyntaf yma oeddynt Edward a Catherine Jones, Brynyfedwen; John ac Elizabeth Watkin, Cae-crydd; Robert Roberts, Ty'n yfron; Evan Dafydd a Sydney Jones, Llan; Mrs Jones, Ty'nddol, ac yn fuan fe ymunodd John Roberts, gwehydd, a hwy. Efe oedd y cyntaf a dderbyniwyd o'r newydd atynt, a bu yn aelod ffyddlon, a dewiswyd ef yn ddiacon cyn hir. Efe a John Watkin oeddynt y diaconiaid cyntaf, a buont ffyddlon hyd angau. Bu Mr. David Owens, Tyuchaf, (yn awr o Newark, America,) yn ffyddlon i'r achos yma ar ei gychwyniad, a deuai o Bethel yma gynorthwyo yr achos yn ei wendid. Meddyliodd Mr Jones a Mr Pugh am gael capel yma, ond yr anhawsder oedd cael tir, a chyfododd gwrthwynebiad o le na ddisgwylid. Yr oedd gardd gan John Jones, crydd, Pensingrig, yr hon a gauwyd ganddo i mewn o'r tir cyffredin, a boddlonai gwerthu, ond pan ddeallodd gwr cyfrifol yn y gymydogaeth hyny, dyrysodd y cynllun. Yn rhagluniaethol, yr oedd gan ddyn o Gwyddelwern, dir yn nghanol y Llan, ac yr oedd yn barod i'w werthu, a phan ddeallodd y gwr mawr, yr hwn a ddyrysodd eu cynllun cyntaf hyny, cynygiodd yr hen ardd iddynt, gan feddwl y byddent yn mhellach o'i ffordd yno nag yn nghanol y pentref. Prynwyd y lle am £15 gan John Jones, crydd, a John Davies, Fronheulog, a throsglwyddwyd ef i Thomas Evans, i'w gyf- lwyno i Michael Jones, Hugh Pugh, David Owens, John Jones, Thomas Owens, a Thomas Jones, ac y mae y weithred yn cael ei dyddio Mawrth, 1828. Adeiladwyd y capel, a phregethodd Mr Pugh ynddo gyntaf ddydd Nadolig, 1828, ac agorwyd yn gyhoeddus Mawrth 3ydd a'r 4ydd, 1829. Ar yr achlysur, gweinyddodd Mr R. Ellis, Penybont; T. Simon, Llangollen; I. Williams, Dinas; T. Jones Llangollen; H. Morgan, Sammah; T. Ellis, Llangwm; J. Ridge, Bala, a D. Roberts, Dinbych.[1] Mae y lle o'r dechreu wedi bod dan yr un weinidogaeth a Bethel, ac felly y mae yn awr. Yn y flwyddyn 1840, dan weinidogaeth Mr Richard Jones, Rhuthin, yr hwn oedd yn y lle ar ymweliad, torodd diwygiad grymus allan, yr hwn a fu er codiad mawr i'r achos yn y lle. Bu yr eglwys mewn tipyn o brofedigaeth oblegid i'r llywodraeth ddyfod i hawlio ardreth am y capel, gan ddyweyd nad oedd gan y rhai a'i gwerthodd ddim hawl ynddo, ond wedi sefydliad Mr M. D. Jones yma, mynodd ef chwilio i'r mater, a'i wneyd yn ddiogel, ac ail brynwyd y tir gan y llywodraeth am £11/13/00 ac y mae yn awr yn feddiant i'r eglwys yn y lle. Wrth weled fod yr hen gapel wedi myned yn adfeiliedig, penderfynwyd adeiladu un newydd yn yr un lle, ond fod eisiau ychwaneg o dir er ei wneyd yn helaethach. Dechreuwyd arno yn 1868, ac agorwyd ef y dydd olaf o fis Mawrth, 1869. Ar yr achlysur, pregethodd Meistri Samuel Roberts, J. Williams, Castellnewydd; E. Evans, Caernarfon; D. Rowlands, B.A., Trallwm, ac R. Thomas, Bangor, a chan fod cyfarfod chwarterol y Sir yn cael ei gynal yma yr un pryd, yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y Sir yn bresenol. Galwyd ef yn Ramah. Nid oedd ond dau o'r rhai oeddynt yn aelodau yma yn agoriad y capel cyntaf yn fyw yn agoriad yr ail, sef Edward a Catherine Jones, y rhai y pregethwyd gyntaf yn eu ty yn Brynyfedwen, a rhieni Mr Robert Derfel Jones, Manchester. Yr oedd John Watkin, yr hwn a fu yn ddiacon ffyddlon am ddeugain mlynedd, wedi meddwl cael byw i weled agor y capel newydd, ond gwelodd ei Dad nefol yn oreu ei gymeryd adref cyn gweled hyn. Canmolir ffyddlondeb John Roberts, y gwehydd, yn nodedig. Rhoddodd lofft ei dy i gynal y moddion ar y dechreu, a chyfranai chwe' cheiniog yn yr wythnos at gynal yr achos, er nad ydoedd ond isel ei amgylchiadau.
Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yma ond
John Edwards. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Pentre-llyn-cymer, lle y mae etto, ond ei fod wedi ei analluogi i gyflawni ei weinidogaeth.
Mae yr achos yma mewn agwedd siriol, a nifer yr aelodau o gylch pump a deugain.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Dysgedydd 1329 tu dal 150