Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Rhagdraith

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Sir Fynwy




RHAGDRAITH.


Er ein bod yn hanes yr eglwysi henaf, wedi gosod ger bron y darllenydd lawer o'r amgylchiadau dan ba rai y dechreuodd Ymneillduaeth yn Nghymru, etto, ni byddai ein gwaith yn gyflawn heb fraslun cynwysfawr o hanes gyffredin y wlad, yn foesol a chrefyddol, cyn, ac am ychydig flynyddau ar ol, cyfodiad Ymneillduaeth. Gan hyny, taflwn olwg

I.—AR SEFYLLFA Y GENEDL O DDYDDIAU HARRI VIII., HYD GYFODIAD ANGHYDFFURFIAETH. Yr oedd ychydig o ddynion dysgedig a dylanwadol yn Lloegr, pan gychwynwyd y Diwygiad Protestanaidd ar y Cyfandir gan Luther a'i gyd—ddiwygwyr, yn cydymdeimlo a'r diwygwyr hyny, ond o herwydd fod awdurdod y brenin Harri VIII. mor ddirfawr, a'i sel dros Babyddiaeth mor angerddol, ni feiddiai un o honynt agoryd ei enau dros Brotestaniaeth. Pa fodd bynag, pan aeth yr ymryson rhwng y brenhin a'r Pab, yn nghylch ysgaru ei wraig, yn ffrae danllyd, daliodd yr ychydig Brotestaniaid cuddiedig hyn ar y cyfle i weithio allan eu hegwyddorion. Gwnaethant lawer iawn mewn ychydig o amser i daenu egwyddorion Protestanaidd yn mysg y Saeson. Cafwyd awdurdod frenhinol i daenu cyfieithiad Coverdale o'r Bibl i'r iaith Saesonig, yn y wlad, a chyfododd amryw bregethwyr ac ysgrifenwyr galluog i ddynoethi cyfeiliornadau Pabyddiaeth, ac i oleuo y werin. Ond tra yr oedd y Diwygiad yn cael ei ddwyn yn mlaen yn lled lwyddianus yn Lloegr, yr oedd y Cymry yn gorwedd yn llonydd yn nhywyllwch Pabyddiaeth, heb un gronyn o oleuni yn tywynu arnynt. Nid oes un math o sail i haeriadau yr ysgrifenwyr eglwysig hyny, a honant na fu yr eglwys yn Nghymru erioed yn hollol ddarostyngedig i eglwys Rhufain. Y gwirionedd yw, i'r Cymry fod am lawer o ganrifoedd mor Babyddol a darostyngedig i Rufain ag un genedl ar y ddaear, ac felly yr ydoedd pan ddechreuodd y Diwygiad Protestanaidd weithio ei ffordd yn Lloegr, ac am flynyddau wedi hyny. Buwyd ddeng mlynedd, neu ychwaneg, ar ol cyhoeddiad y Bibl yn yr iaith Saesonig, cyn i unrhyw gynygiad gael ei wneydi argraffu unrhyw ran o hono yn y Gymraeg. Yn y flwyddyn 1546, cyhoeddodd Syr John Price, o Aberhonddu, lyfryn bychan yn cynwys gweddi yr Arglwydd, y deg gorchymyn, a chredo yr Apostolion. Hwn oedd y llyfr cyntaf yn mha un yr ymddangosodd ychydig adnodau o'r Ysgrythyr yn y Gymraeg. Yn 1551, cyhoeddodd William Salesbury gyfieithiad o gynifer o'r llithiau Ysgrythyrol a ddarllenid yn yr Eglwys ar y Suliau a'r Gwyliau trwy y flwyddyn, a dyna y cwbl a wnaed tuag at oleuo y Cymry yn Ngair Duw, hyd nes i'r Testament Newydd gael ei gyhoeddi yn 1567. Er i waith dirfawr, er dwyn y Diwygiad yn mlaen, gael ei gyflawni yn Lloegr yn nheyrnasiad byr Edward VI., nid ymddengys i braidd ddim gael ei wneyd yn Nghymru yn y blynyddoedd hyny. Pan esgynodd Mari i'r orsedd, ac y cafodd Pabyddiaeth drachefn ei gwneyd yn grefydd sefydledig, cafwyd yn Lloegr dros dri chant o bersonau y rhai a gymerasant eu llosgi yn hytrach nag ymwrthod a'u Protestaniaeth, heblaw amryw ugeiniau a ffoisent i'r cyfandir am ddiogelwch, ac a ddychwelasant ar farwolaeth y frenhines. Ond ni chafwyd ond tri merthyr yn holl Gymru, ac mae yn debygol mai tri Sais oedd y rhai hyny yr Esgob Farrar, yr hwn a losgwyd yn Nghaerfyrddin; Rawlins White, yn Nghaerdydd, a William Nichol, yn Hwlffordd. Yr oedd dau neu dri o Gymry yn mysg y ffoedigion a ddiangasant i'r Cyfandir. Y gwir yw, yr oedd cenedl y Cymry, yn offeiriaid, a phobl yn hollol Babyddol, neu ddifater ynghylch pethau crefyddol, ac yn gorwedd yn y gaddug dywyllaf. Yr oedd yr offeiriaid Cymreig yn yr oes hono mor anwybodus, anfoesol, a diegwyddor ag unrhyw genhedlaeth o offeiriaid a fu erioed yn y byd. Pan ddarfu i Harri VIII. fwrw ymaith iau y Pab, dilynwyd ef gan offeiriaid Cymru. Pan ddygid y Diwygiad yn mlaen gan Cranmer, ac eraill, yn nyddiau Edward VI., nes hollol Brotestaneiddio ffurfiau a gwasanaeth yr Eglwys, nid ydym yn cael fod un o offeiriaid Cymru yn beio nac yn canmol y gwaith. Pan adsefydlwyd Pabyddiaeth gan Mari, troisant hwy oll yn Babyddion gyda hi, a phan ddygwyd Protestaniaeth yn ol gydag esgyniad Elizabeth i'r orsedd, mae corph offeiriaid y dywysogaeth, gyda chwech neu saith o eithriadau, yn troi yn ol at grefydd y pen coronog. Nid ymddengys eu bod yn gofalu am ddim ond cadw eu bywioliaethau, a phorthi eu nwydau anifeilaidd. Dywed Dr. Meyrick, esgob Bangor, yn 1560, nad oedd ond dau offeiriad yn ei holl esgobaeth yn medru pregethu o gwbl, a digon tebygol na fedrai y ddau hyny wneyd dim amgen na darllen pregethau. Nid yn unig yr oeddynt yn ddidalent at waith y weinidogaeth, ond yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn amddifaid o gymhwysder moesol at y fath waith cysegredig. Yr oedd cadw gordderch-wragedd yn beth cyffredin yn eu mysg. Yn 1563, cymerwyd un offeiriad i'r awdurdodau fel un cymhwys i fod yn esgob yn Bangor, yr hwn a gadwai dair o ordderch-wragedd.[1] Tra yr oedd yn naturiol disgwyl i bethau fod yn yr agwedd waradwyddus yma, yn amser y cyfnewidiad oddiwrth Babyddiaeth i Brotestaniaeth, gallesid yn naturiol ddisgwyl am wellhad gydag amser, ond fel arall y bu. Yn 1587, cyhuddwyd Dr. William Hughes, Esgob Llanelwy, o gamdrin ei esgobaeth, a phan wnaed ymchwiliad, cafwyd fod yr esgob yn dal un-ar-bymtheg o'r bywiolaethau cyfoethocaf yn ei law ei hun, fod y rhan fwyaf o'r bywiolaethau goreu yn meddiant personau nad oeddynt yn cyfaneddu yn y wlad o gwbl, fod gwr a ddaliai un o'r bywiolaethau cyfoethacaf yn llettya mewn tafarndy, ac nad oedd ond tri offeiriad yn yr holl esgobaeth yn byw yn eu plwyfydd, sef Dr. David Powell, o Ruabon; Dr. William Morgan, o Lanrhaiadr-yn-mochnant, a pherson Llanfechain, yr hwn oedd yn bedwar ugain mlwydd oed.[2] Mae tystiolaeth y merthyr, John Penry, mewn iaith rymus, yn cadarnhau gwirionedd yr hyn a ddywed Strype. "Dywedir," medd Penry, "fod Cymru mewn cyflwr gweddol dda, gan fod ynddi lawer o bregethwyr er's hir amser. Mwyaf cywilydd gan hyny iddynt hwy ydyw na buasai y bobl wedi cael gwell addysg ganddynt. Yr wyf yn beiddio haeru, a sefyll at fy haeriad, pe chwilid holl goflyfrau Cymru, nas gellid cael enw y sir, y dref, na'r plwyf, lle y bu am ysbaid chwech mlynedd yn olynol, o fewn y naw-mlynedd-ar-hugain diweddaf, gymaint ag un gweinidog duwiol a dysgedig yn gwneyd gwaith athraw effeithiol a chymeradwy. I ba ddyben gan hyny y soniwch wrthyf am y segurwyr yn yr Eglwysi Cadeiriol, y rhai ni chymerent boen i ddy sgu y bobl, os ydynt yn alluog i wneyd hyny? Os wyf yn traethu yr hyn nad yw wirionedd, cerydder fi, a bydded i mi gael dyoddef fel enllibwr, ond os gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, pa ham na chaniateir i mi ei draethu? Mi a wn yn dda yr edrychir yn y dyddiau hyn ar unrhyw beth a ddywedir yn erbyn personiaid, fel yr edrychid ar waith Amos yn prophwydo yn Bethel, ac y cyfrifir ef yn ymyriad a materion gwladol. O ddyddiau truenus! Y fath amseroedd blinion a ddaeth arnom, pan na feiddir dywedyd dim yn erbyn lladron a llofruddwyr eneidiau, amddiffynwyr pob rhyw drachwant, gorthrymwyr beilchion, yn fwy na thebygol i'r Pab, dyna chwalwyr gwirionedd Duw, penbyliaid diddysg, arweinwyr deillion, halen wedi diflasu, meddwon, godinebwyr, llwynogod a bleiddiaid, tom a llaid, i fod yn fyr, cut moch pob math o aflendid, gwarth a gwaradwydd y weinidogaeth sanctaidd. Ie, ni feiddir agoryd genau yn erbyn y tylwyth hyn, heb i hyny gael ei gyfrif yn ymyriad a'r llywodraeth. Er fod yr holl drueni, yr anwybodaeth a'r anfoesoldeb sydd yn y wlad, wedi cael ei achosi yn benaf gan yr esgobion a'u harweinwyr deillion eraill, etto, ni feiddia neb ddyweyd hyny, heb gael ei gyfrif yn ddyhiryn aflonydd, ac yn wrthryfelwr yn erbyn y llywodraeth. O'm rhan i, gan hyny, fe gaiff y prophwyd Malachi ymdrin a chwi, a barned y darllenydd pa un a ddylai ei eiriau eich taro a'ch dychrynu yn ofnadwy. 'Mab a anrhydedda ei dad,' medd y prophwyd, 'a gweinidog ei feistr, ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn?' medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi esgobion Cymru, y rhai a ddirmygwch ei enw. Os dywedwch, yn mha beth y dirmygasom ei enw? Atebir mai wrth offrymu y dall, y cloff, a'r clwyfus, i'r weinidogaeth sanctaidd, a dyweyd nad yw hyny yn ddrwg, ac felly, yr ydych yn dirmygu enw yr Arglwydd, oblegid eich bod yn eich ymddygiad yn dyweyd nad yw y weinidogaeth yn deilwng o barch. Canys yr ydych chwi yn gwybod, ac y mae holl Gymru yn gwybod, eich bod wedi derbyn i'r swydd sanctaidd, ddyhirod, crwydriaid segur, sydd yn myned o gylch y wlad dan yr enw ysgolheigion, oferwyr, a dynion newynllyd, y rhai a ymwthiasant i'r weinidogaeth wedi methu ennill eu bara mewn un alwedigaeth arall. Yr ydych yn goddef rhai yn y weinidogaeth y gwyddys ou bod yn odinebwyr, yn lladron, yn frolwyr, yn dyngwyr a rhegwyr, ie, rhai y gellir dyweyd am danynt yn ngeiriau Job, Meibion yr ynfyd, a meibion y rhai anenwog, gwaelach na'r ddaear.' Onid ydych wrth osod y cyfryw yn y weinidogaeth yn dyweyd nad yw gwasanaeth yr Arglwydd yn deilwng o barch."[3]

Os awgryma rhai fod Penry yn siarad mewn iaith rhy gref oddiar ragfarn at yr Eglwys Sefydledig, ac os gwrthoda rhai ei dystiolaeth ar gyfrif hyny, mae y tystiolaethau canlynol y fath nas gall yr eglwyswr mwyaf rhagfarnllyd eu gwrthod, oblegid tystiolaethau eglwyswyr selog ydynt. Yn Gorphenaf, 1623, ymwelodd Dr. Lewis Baily, esgob Bangor, a gwahanol blwyfydd ei esgobaeth. Nid yw ei arglwyddiaeth yn canmol dim a wnelid yn un o'r plwyfydd, ond dywed am y lleoedd canlynol fel hyn:—

ΜΟΝ.

LLANFAIRPWLLGWYNGYLL A LLANDYSILIO. Ni bu ond dwy bregeth yn y lleoedd hyn yn y deuddeng mis diweddaf, y rhai a draddodwyd gan y periglor, Syr John Cadwaladr.

PENMON. Ni chafwyd un bregeth yma er's pump neu chwe' blynedd.

LLANDDONA. Bob yn ail Sabboth yn unig y darllenir y gwasanaeth yma, er fod y person Syr Lewis Richards wedi cael gorchymyn i'w ddarllen bob Sabboth.

LLANDDYFNAN. Nid yw y pregethau tri—misol yn cael eu pregethu yma.

LLANGWYLLOG. Nid oes yma bregethu o gwbl.

LLANFECHELL. Achwynir ar y person yma am beidio cyfranu at gynal y tylodion, am fyw allan o'i blwyf, ac am esgeuluso pregethu.

LLANDDEUSANT a LLANFAIR-YN-NGHYNWY. Y curad yma oedd Syr John Edwards. Achwynir ei fod yn esgeuluso darllen y gwasanaeth a'r homiliau, cofrestru bedyddiadau, priodasau, a chladdedigaethau, nad oedd wedi traddodi un bregeth er y Sulgwyn blwyddyn i'r diweddaf, ei fod yn treulio llawer o'i amser yn y tafarndai, ac yn feddwyn cyhoeddus, a'i fod yn froliwr, ac yn ffraeo a'i blwyfolion, ac a dynion eraill yn fynych.

LLANFWROG a LLANFAETHLU. Ni chafwyd yn y lleoedd hyn ond dwy bregeth er's deuddeng mis.

SIR GAERNARFON.

LLANLLECHID. Achwynir fod Dr. Williams yn anfon ei geffylau i aflanhau y fynwent, ac nad oedd neb yn glanhau ar eu hol. Ni chafwyd yma ond tair pregeth yn y flwyddyn ddiweddaf.

CAERHUN. Ni chafwyd yma ond tair pregeth yn y deuddeng mis diweddaf, a buwyd am un Sabboth heb un math o wasanaeth.

LLANBEDRYCENIN. Ni chafwyd yma ond dwy neu dair pregeth yn ystod y flwyddyn ddiweddaf.

DOLYDDELEN. Nid oes yma ddim pregethu un amser.

DWYGYFYLCHI. Achwynir ar Syr Edward Jones, y Ficer, am ladd gwair ar y fynwent, a'i throi yn ydlan. Beiïir arno hefyd am gadw ei gyfrwy a chycheidiau o wenyn yn yr eglwys, ac am esgeuluso cadw cymundeb y Pasg diweddaf.

ABERDARON. Achwynir ar Syr Griffith Piers, y Ficer, am adael corph plentyn Hugh Thomas, heb ei gladdu o ddydd Sadwrn hyd ddydd Sul, a phan y daeth yno y Sul ei fod yn feddw, ac ar ol y weddi brydnhawnol aeth o'r eglwys i'r tafarndy. Cyhuddir ef hefyd o gael rhybudd ar un dydd Sadwrn i ddyfod i gladdu un marw y Sul, ond na ddaeth i gladdu y marw, nac i ddarllen y gwasanaeth arferol.

LLANGIAN. Beiïir Syr Robert Griffith, y Curad, am wrthod myned i roddi y cymun i gleifion, pan ofynid ganddo, ac hefyd am beidio myned i fedyddio plant nychlyd, a gadael iddynt farw yn ddifedydd, ac esgeuluso myned i gladdu y meirw. Dim pregethu tri-misol yma.

LLANBEBLIG. Dim pregethu tri-misol yma hefyd.

SIR FEIRIONYDD.

LLANDECWYN a LLANFIHANGEL-Y-TRAETHAU. Ni chafwyd ond un bregeth yn Llanfihangel-y-traethau, a dim ond dwy neu dair yn Llandecwyn, ac nid yw y person yn cyfranu dim at gynhaliaeth y tylodion.

LLANEGRYN. Dim ond dwy bregeth a gafwyd yma.

PENNAL. Anfynych y maent yn cael pregethau yma.

TRAWSFYNYDD. Y mae yn arferiad yn y plwyf hwn i osod cyrph i lawr ar y croes-ffyrdd, wrth eu cymeryd i'w claddu, a dyweyd gweddi neu ddwy uwch eu penau. Syr Robert Lloyd yw y person yma.

SIR DREFALDWYN.

LLANWNOG. Achwynir nad oes yma ddim pregethu.

Cymerwyd y difyniadau uchod o ysgrifau y diweddar Barch. J. Jones, person Llanllyfni, y rhai a gyhoeddwyd yn yr Archeologia Cambrensis, am Hydref, 1863. Mae yn debygol fod Mr. Jones wedi eu copïo o hen lawysgrifau perthynol i'r llys esgobol yn Mangor. Gellir casglu oddiwrth y difyniadau uchod, lle y sonir mor fynych am bregethu tri-misol, na ddysgwylid i'r offeiriaid draddodi ond un bregeth bob tri mis. Am esgeuluso hyny y beïid hwy. Yr oedd y gair Syr gynt yn cael ei arfer o flaen enw yr offeiriaid, yn gyfystyr a'r gair Parchedig yn yr oes hon.

Pe gellid dyfod o hyd i hen gofnodion pob un o lysoedd esgobyddol Cymru, mae yn ddiameu y tarewid wrth luaws o ffeithiau cyffelyb yn mhob un o honynt. Mae desgrifiad Ficer Llanymddyfri o anfoesoldeb offeiriaid Cymru, yn ei oes ef, yn hysbys i bob darllenydd Cymreig, ac y mae yn wybyddus nad oedd yr hen Ficer mewn un radd yn gogwyddo at Ymneillduaeth, yr hon oedd wedi dechreu gwneyd ei hymddangosiad yn y Dywysogaeth tua saith neu wyth mlynedd cyn ei farwolaeth ef. Mewn deiseb a gyflwynwyd i'r Senedd Mehefin 26ain, 1641, dywedir nad oedd yn Nghymru gynifer o bregethwyr galluog a chydwybodol ag oedd ynddi o siroedd, a bod yr ychydig oedd i'w cael mewn rhai parthau yn cael eu herlid yn ddidrugaredd. Yn rhestr yr offeiriaid a fwriwyd allan o'u bywioliaethau rhwng 1642 a 1650, yr ydym yn cael i amryw gael eu diswyddo am beidio cartrefu yn eu plwyfydd, eraill am annghymwysder i waith y weinidogaeth, a llawer am feddwdod, puteindra, a phechodau cyffelyb.

Pan yr oedd yr offeiriaid—athrawon y bobl—yn gymeriadau mor lygredig ac anheilwng, nis gellir disgwyl dim amgen na bod y werin yn gorwedd mewn anwybodaeth, ac yn ymdroi yn mhob rhyw aflendid a drygioni. Yn rhagymadrodd y weithred Seneddol a basiwyd yn y flwyddyn 1563, er awdurdodi cyfieithiad y Bibl i'r Gymraeg, dywedir, "fod deiliaid hoffus ei Mawrhydi, y rhai a gyfaneddant yn Nghymru, yr hon sydd ran nid bychan o'r deyrnas hon, yn hollol amddifaid o Air sanctaidd Duw, ac yn byw mewn cyffelyb, neu yn hytrach fwy, o dywyllwch ac anwybodaeth nag yr oeddynt ynddo yn amser Pabyddiaeth." Mae Dr. Richard Davies, esgob Tyddewi, yn ei lythyr o flaen cyfieithiad Salesbury o'r Testament Newydd, yn dyweyd fod trais, lladrad, tyngu anudon, twyll, a phob math o ddrygau, yn gwarthruddo pob dosbarth o gymdeithas trwy y wlad, a bod palasdai y pendefigion yn ffauau lladron. Mae ysgrifeniadau John Penry yn cynwys y desgrifiadau mwyaf torcalonus o gyflwr moesol, anwybodaeth, a thrueni ysbrydol ei gydwladwyr. Dywed esgob Llanelwy, mewn llythyr at yr archesgob Laud, yn 1634, "Nid ydym mewn un ran o'r esgobaeth yn cael ein blino gan Anghydffurfiaeth, ond fe fyddai yn dda genyf pe gallwn ddyweyd ein bod mor rydd oddiwrth goel—grefydd ac anfoesoldeb ag yr ydym oddiwrth Anghydffurfiaeth."[4] Dywed Ficer Llanymddyfri, nad oedd un o bob cant o'i gydwladwyr yn medru darllen Gair Duw, nad oedd un copi o hono i'w gael hyd yn oed yn mhalasdai llawer o'r boneddigion, chwaithach yn anedd-dai y tylodion, a bod aflendid y Sodomiaid, lladrad y Cretiaid, meddwdod y Parthiaid, celwydd y Groegiaid, ac anffyddiaeth y Samariaid yn ffynu trwy yr holl wlad. Yn y flwyddyn 1646, cyhoeddodd John Lewis, Yswain, o'r Glasgrug, yn sir Aberteifi, lyfryn bychan a alwai "Myfyrdodau ar yr amserau presenol, neu y Senedd yn cael ei hegluro i Gymru," Yn y llyfryn hwn, dywed, "Mewn gair, gydwladwyr, mae yn rhaid i mi ddyweyd wrthych ein bod yn ein twyllo ein hunain, ac nad ydym yn deall ein cyflwr. Ni a fynwn gael ein cyfrif yn Brotestaniaid da, ond och, pa fodd y gallwn fod yn gyfryw, pan yr ydym yn ddiffygiol o'r moddion angenrheidiol tuag at fod felly. Dyweyd y gall darlleniad diofal o'r Llyfr Gweddi Cyffredin ein gwneyd yn Brotestaniaid, yw dyweyd y gall hyny wneuthur gwyrthiau. Pregeth druenus o wael, yn awr a phryd arall, a hyny, naill ai gan weinidog anwybodus, neu un gwaradwyddus ei gymeriad, neu bob un o'r ddau. Och, pa beth a all hyny wneyd? Ac yn gyffredin, y mae y cyfryw bregethau yn cael eu llenwi a'r fath sothach, fel y mae yn anhawdd penderfynu, pa un a'i arogl y cwrw neu y llogell sydd gryfaf arnynt. Mewn llawer o fanau, prin unwaith yn y flwyddyn y ceir unrhyw fath o bregeth. Ychydig o les a wna haner awr o gawod i'r ddaear agenog ar dymor o sychder mawr. Mae yn rhaid i mi ddyweyd wrthych, a gadael allan y boneddigion, ac ychydig bersonau a gawsant addysg, ie, yr wyf yn beiddio dywedyd yn hyf, nas gallwn ni yn Nghymru, fod yn ddim amgen na Phabyddion, neu rywbeth gwaeth. Nid oes raid i mi eich adgofio am yr heidiau o seremoniau deillion a choel-grefyddol sydd yn ein mysg, yn myned dan yr enw hen arferion diddrwg, y mynych weddio ar y seintiau, a'r pererindodau at fynonau a chreigiau. Na thybiwch fy mod i yn ymhyfrydu i ddynoethi gwendidau fy ngwlad. Mae yn arwydd o ewyllys da i ddyweyd wrth un am ei glefyd yn ngwydd y meddyg. Nid myfi yw y cyntaf, ond y mae ein cydwladwr dysgedig, Dr. Powell, yn cwyno yn ei lyfrau o herwydd ein cyflwr gresynol."

Mae diofalwch pechadurus yr esgobion a'r offeiriaid Cymreig yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg, ac amddifadrwydd y bobl o foddion gwybodaeth, fel y canlyniad o hyny, i'w gweled yn amlwg yn y ffaith i Air yr Arglwydd gael ei gadw oddiwrth y werin am yn agos i gan' mlynedd ar ol i Babyddiaeth beidio bob yn grefydd sefydledig y wlad. "Buwyd am fwy na thri—ugain—a—deg o flynyddau ar ol sefydliad y diwygiad dan y frenhines Elizabeth, ac am yn agos i gan' mlynedd ar ol ysgariad Prydain oddiwrth Eglwys Rhufain, heb Fiblau yn Nghymru, ond yn unig yn yr eglwysi cadeiriol a'r eglwysi plwyfol. Nid oedd dim darpariaeth wedi cael ei wneyd ar gyfer y bobl yn gyffredin, fel pe na buasai dim a wnelsent hwy a Gair Duw, yn ychwaneg na'i wrandaw yn cael ei ddarllen yn yr eglwysi.[5]

Sylwyd yn barod fod rhanau bychain o'r Ysgrythyrau Sanctaidd wedi cael eu cyfieithu a'u hargraffu yn y Gymraeg yn 1546 a 1551. Yn y flwyddyn 1563, gwnaed gweithred Seneddol yn gorchymyn, "Fod y Bibl, cynwysedig o'r Testament Newydd a'r Hen, yn nghyd a'r Llyfr Gweddi Cyffredin, a Gweinyddiad y Sacramentau, i gael eu cyfieithu i'r Frythonaeg, neu y Gymraeg; fod y gwaith i gael ei arolygu, ei ddarllen, a'i awdurdodi gan esgobion Llanelwy, Bangor, Tyddewi, Llandaf, a Henffordd; a'i fod i gael ei argraffu, ac i fod yn barod i gael ei ddefnyddio yn yr eglwysi erbyn y dydd cyntaf o Fawrth yn y flwyddyn pymtheg-cant-a-thri-ugain-a-chwech, a bod pob un o'r esgobion rhag-grybwylledig i gael eu dirwyo i ddeugain punt os na fydd y gwaith wedi ei orphen." Pa beth bynag a ddaeth o'r dirwyon, fe esgeuluswyd y gwaith. Yn mhen blwyddyn ar ol yr amser a nodid yn y ddeddf, gwnaeth y Testament Newydd yn unig, ac nid yr holl Fibl, fel y gorchymynid, ei ymddangosiad. Gan William Salesbury, Yswain, y cyfieithwyd ef oll, oddieithr 1 Timotheus, yr Hebreaid, Iago, a dau epistol Pedr, y rhai a gyfieithwyd gan Dr. Richard Davies, Esgob Tyddewi, a'r Datguddiad, cyfieithiedig gan Thomas Huet, offeiriaid Cefnllys, yn sir Frycheiniog, a Dyserth, yn sir Faesyfed. Ar ol hyn aeth un-mlynedd-ar-hugain heibio cyn i'r Hen Destament gael ei gyfieithu a'i gyhoeddi; Dr. William Morgan, person Llanrhaiadr-yn-Mochnant, a gyfieithodd yr Hen Destament. Darfu iddo hefyd ddiwygio cyfieithiad Salesbury o'r Testament Newydd, a chyhoeddi y Bibl yn gyflawn mewn cyfrol fawr un plyg, yn 1588. Mae Dr. Llewellyn yn ymdrechu esgusodi yr esgobion am eu hesgeulusdod i ddwyn allan gyfieithiad o'r holl Fibl rhwng 1563 a 1566, ac yn awgrymu na roddwyd digon o amser iddynt at y fath waith, ond y mae Dr. Morgan, yn ei lythyr Lladin at y frenhines Elizabeth, yr hwn sydd yn ei argraffiad o'r Bibl, yn priodoli y peth i ddiofalwch a seguryd, ac y mae y seraphaidd John Penry, yr hwn, fel yr ymddengys, oedd wedi cyfieithu y Prophwydi lleiaf, pan y gosodwyd ataliad ar waith ei ffydd, a llafur ei gariad, gan ei erlidwyr, yn dyweyd y gallasai unrhyw ddyn cyfarwydd a'r ieithoedd gwreiddiol, wneyd yr holl waith, gyda bendith Duw, mewn dwy flynedd, ac y gallasai ychwaneg o ddwylaw ei wneyd yn gynt.[6] Prin ddigon o gopïau oedd yn argraffiad Dr. Morgan i gael un Bibl ar bob pulpud yn Nghymru. Ond ni chafwyd un argraffiad arall cyn 1620. pryd yr oedd y rhan fwyaf o'r argraffiad cyntaf wedi treulio a phydru ar bulpudau lleithion yr eglwysi. Argraffiad mawr unplyg drachefn oedd yr un a ddygwyd allan yn 1620, gan Dr. Richard Parry, Esgob Llanelwy. Amcenid hwn etto yn benaf at wasanaeth pulpudau y Llanau. Yn 1630, y cafwyd yr argraffiad cyntaf o'r Bibl Cymreig at wasanaeth y bobl. Mae hwn wedi ei argraffu yn hardd, ond fod y llythyrenau yn fân. Ar draul Rowland Heylin, Ysw., a Syr Thomas Middleton, dau Gymro gwladgarol a gyfaneddent yn Llundain, y cyhoeddwyd yr argraffiad hwn. Bernir mai tua 1500 o gopïau a argraffwyd—rhy brin ddau gopi ar gyfer pob plwyf yn y Dywysogaeth.

Yn nghanol y tywyllwch Aiphtaidd a ordôai ein henafiaid, o ddyddiau Harri VIII. hyd ddyddiau Siarl I., mae yn hyfryd canfod ambell seren fechan yn rhoddi ychydig o oleu gwan yn y ffurfafen dywyll. Dylai enwau William Salesbury, Dr. Richard Davies, Dr. William Morgan, Dr. David Powell, Dr. Richard Parry, Mr. Edmund Prys, a Dr. John Davies, o Fallwyd, fod yn barchus gan bob Cymro. Er nad oedd un o'r gwyr hyn yn deilwng i'w cymharu a'r lleiaf enwog yn mysg Diwygwyr Protestanaidd y Cyfandir, Lloegr a Scotland, fel gweinidogion llafurus a phregethwyr galluog, etto, yr oeddynt yn ysgolheigion o'r radd uchaf yn eu hoes, yn wladgarwyr trwyadl, ac yn ddynion o ymarweddiad teilwng. Er i Gymru, yn y cyfnod hwn, gael ei bendithio ag ysgolheigion rhagorol, a chymhwys yn mhob ystyr at gyfieithu yr Ysgrythyrau, etto nid ymddengys i un Cymro galluog, selog, a phoblogaidd, gyfodi i bregethu y Gair yn effeithiol i'r werin yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg, ond y merthyredig JOHN PENRY. Gan y gellir edrych ar y gwr enwog hwn fel seren-ddydd Ymneillduaeth Cymru, ni byddai ein rhagdraith i Hanes yr Eglwysi Annibynol yn gyflawn heb ei hanes ef yn gymedrol helaeth.

Ganwyd John Penry yn y Cefnbrith, yn mblwyf Llangamarch, yn sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1559. Enw ei dad oedd Meredith Penry. Pan yn bedair-ar-bymtheg oed, aeth i brif athrofa Caergrawnt, lle y bu am yn agos i wyth mlynedd. Pan yr aeth i'r athrofa, yr oedd fel y rhan fwyaf o'i gydwladwyr, yn rhagfarnllyd dros Babyddiaeth, ond trwy ymgyfeillachu a'r Puritaniaid yno, ennillwyd ef, nid yn unig i fod yn Brotestant, ond hefyd yn Buritan selog. Yn y flwyddyn 1586, aeth yn fyfyriwr i St. Alban's Hall, Rhydychain. Ni wyddys pa beth oedd yr achos iddo symud o Gaergrawnt i Rydychain, ond daeth yn fuan yno i enwogrwydd mawr fel pregethwr nodedig yn y brif athrofa.

Prif nod bywyd Mr. Penry, o'r pryd y trowyd ef at Brotestaniaeth, hyd ddydd ei farwolaeth, oedd tynu cynlluniau er efengyleiddio gwlad ei enedigaeth. Mae yn dra thebygol iddo fod yn pregethu yn fynych yn Nghymru ar adegau ei ymweliadau a'i berthynasau pan yr oedd yn yr athrofa, ac i lawer o'i gydwladwyr gael eu hennill trwyddo i wybodaeth o'r gwirionedd. Yn y flwyddyn 1587, cyhoeddodd lyfryn a alwai, The equity of an humble Supplication. Yn y llyfryn hwn, yr hwn sydd fath o ddeiseb at y Frenhines a'r Senedd, galara o herwydd amddifadrwydd ei gydwladwyr o foddion gwybodaeth grefyddol, ac anoga ei Mawrhydi a'r Senedd i fabwysiadu moddion effeithiol er gwneyd yr efengyl yn hysbys i'r Cymry. "Y mae miloedd," meddai, "o'n pobl ni yn Nghymru na wyddent ddim am Iesu Grist fel Duw na Dyn, Prophwyd nac Offeiriad, prin y maent erioed wedi clywed am dano. O gyflwr truenus a diymgeledd! Mae pregethu mewn llawer rhan o'r wlad yn hollol anadnabyddus. Mewn x rhai manau, darllenir pregeth unwaith bob tri mis." Priodola Mr. Penry gyflwr truenus ei gydwladwyr, i'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r offeiriaid a ddalient y bywioliaethau eglwysig yn byw allan o'r wlad, neu yn mhell o'u plwyfydd, eu bod eu hunain yn anwybodus o'r efengyl, yn anfoesol eu bucheddau, neu yn anwybodus o'r iaith Gymraeg. Efe a ddywed ei fod o'r farn nad oedd dim ond efengyl bur yn cael ei phregethu yn alluog, a difrifol yn iaith y bobl, gan ddynion sanctaidd a chymhwys, a allasai symud ymaith yr anwybodaeth a'r drygioni a lanwant y wlad. Y cynllun a gynygiai ef er cael digon o weinidogion effeithiol, oedd cael cynifer o'r Cymry ag oedd yn weinidogion yn Lloegr i ddychwelyd i'w gwlad enedigol, a rhoddi anogaeth i gynifer o leygwyr duwiol ag a allesid ddyfod o hyd iddynt, i arfer eu doniau fel pregethwyr. Cyfansoddwyd deiseb yn cynwys sylwedd y llyfryn, a chyflwynwyd hi i'r Senedd gan un o'r aelodau Cymreig, yr hwn mewn araeth yn y Tŷ a sicrhaodd fod y ffeithiau a gynwysai yn gywir. Ond yr unig sylw a wnaed o'r peth oedd anfon allan warant i ddal yr awdwr, gyda gorchymyn i ddinystrio pob copi o'r llyfr. Rhoddwyd Penry yn ngharchar, ac ar ol ei gadw yno am fis, dygwyd ef ger bron i gael math o brawf, neu gerydd. Condemniwyd ei gynllun i efengyleiddio Cymru gan yr Archesgob Whitgift, fel peth "anoddefadwy," a'r syniad a osodid allan yn y llyfr, nad oedd un offeiriad na fedrai bregethu yn weinidog Cristionogol, fel "heresi felldigedig." Atebodd Penry yr Archesgob yn ddiarswyd, "Yr wyf yn diolch i Dduw fy mod wedi dysgu y fath heresi, a thrwy ras Duw, byddai yn well genyf roddi i fyny fy mywyd na rhoddi i fyny yr heresi hon." Ebe Esgob Winchester, yr hwn oedd yn y llys, "Yr wyf fi yn dyweyd i ti mai heresi ydyw, ac y bydd raid i ti alw dy eiriau yn ol." "Dim tra y byddaf byw trwy gymorth Duw," atebai Penry. Mewn canlyniad i hyn, cadwyd ef yn ngharchar am dymor yn hwy. Nid dyn i gymeryd ei ddigaloni gan fygythion ac erledigaethau esgobol, nac i gilio o'i lwybr rhag ofn angau oedd Penry, gan hyny, yr ydym yn ei gael yn y flwyddyn nesaf etto (1588), yn cyhoeddi llyfryn arall ar yr un pwngc, a thrachefn yr un flwyddyn, cyhoeddodd drydydd llyfryn, yr hwn a elwid Anogaeth i Lywodraethwyr a phobl Cymru i lafurio yn ddifrifol am gael pregethiad o'r efengyl yn eu plith. Yn y llyfr hwn y mae yn anerch offeiriaid mudion Cymru yn y dull grymus a ganlyn: "Yr wyf yn gwybod mai dynion penweinion ydyw y rhan fwyaf o honoch chwi-trueiniaid heb ddim amgen mewn golwg genych na chael bywioliaeth. Pa beth a ddywedaf wrthych chwi, y rhai a allech ddyweyd wrthych eich hunain, yr un modd a'r prophwydi ynfyd yn Zech. xiii. 5. Er ein bod yn gwisgo dillad duon ac offeryn-grys, llafurwyr y ddaear ydym ni. Byddai yr un peth i ddyn fyned i ofyn cyngor i'w drothwy, neu geisio gan ei ffon i ddysgu gwybodaeth iddo, a dyfod atoch chwi am addysg. Nid gweinidogion ydych chwi, fel yr wyf fi wedi profi, ac y profaf etto. Yr ydych yn y modd mwyaf haerllug yn halogi y Sacramentau, ac yn galw am lid a dialedd Duw i gael ei dywallt arnoch. Rhoddwch y swyddau yr ydych wedi ymruthro iddynt i fyny, heb yr hyn nid wyf fi yn gweled ei bod yn bosibl i chwi fod yn gadwedig. Byddai yn well i chwi fyw yn dylawd yma am dymor, na bod yn golledig byth. A oes rhyw reswm i chwi mewn achos mor ddifrifol a hwn, adael i olwg ar eich bywioliaeth yn y byd hwn eich cadw mewn swydd nad ydych yn gymhwys iddi? Fe ofala yr Arglwydd am danoch chwi, a'ch gwragedd, a'ch plant, os bydd i chwi o gydwybod roddi y weinidogaeth i fyny, ac y mae yr ynadon yn rhwym o edrych na byddoch mewn eisiau. Yr ydych yn awr yn byw ar ladrad, cysegr-yspail, a dinystr eneidiau." Ar ol rhoddi gwers i'r offeiriaid mudion na fedrent bregethu, y mae yn troi at y bobl, gan eu cymell i ymdrechu cael gweinidogion cymhwys i'w porthi a gwybodaeth grefyddol, ac yn hytrach na bod dim a wnelent a'r gau-fugeiliaid oedd wedi eu gosod arnynt, cynghora hwynt i fynu gweinidogion cymhwys, pe buasent yn eu cynal a chyfraniadau gwirfoddol, mewn ychwanegiad at y tâl y gorfodai y gyfraith hwy i'w dalu i'r segurwyr. Y mae y Cymry er's canrifoedd bellach wedi dysgu y wers hon—wedi cynal eu hachosion gwirfoddol eu hunain, ac Eglwys y Llywodraeth hefyd, a pha agwedd fuasai ar y wlad oni buasai i hyn gael ei wneyd? Hwn oedd apeliad olaf y gwladgarwr Cristionogol at ei gydwladwyr. Gwyddai ei fod yn peryglu ei fywyd wrth ymdrechu dros les ysbrydol ei wlad. "Nis gwn," meddai, "faint y perygl yr wyf yn fy ngosod fy hun ynddo wrth hyn, ond yr wyf yn eich gweled, chwi fy anwyl gydwladwyr yn marw, ac yr wyf yn gresynu. Yr wyf yn dyfod megis a rhaff am fy ngwddf i geisio eich hachub. Pa fodd bynag y digwyddo i mi, yr wyf yn ymdrechu cael pregethiad o'r efengyl i chwi. Os costia hyny fy mywyd, byddaf wedi ei rhoddi i fyny mewn achos teilwng." Darfu i'r ysgrifeniadau hyn gyffroi llid yr esgobion—pleidwyr llygredigaeth eglwysig—yn ddifesur, fel na chafodd yr awdwr ddim llonyddwch mwy nes iddynt yn farbaraidd ei osod i farwolaeth. Yr oedd gwaith myfyriwr Cymreig tylawd, ac o egwyddorion Puritanaidd, yn beiddio galw sylw at y cynllun o efengyleiddio Cymru trwy offerynoliaeth pregethwyr cynorthwyol, a chyfraniadau gwirfoddol, yn bechod mor ofnadwy yn erbyn yr esgobion, nes y cynhyrfwyd eu llid i'r fath raddau, fel nad oedd dim a'u dofai ond gwaed calon y troseddwr. Dilynid ef i bob lle gan geisbwliaid yr esgobion, fel y bu raid iddo ffoi am ei fywyd i Scotland. Cyrhaeddodd ef a'i deulu bychan yno yn nechreu y flwyddyn 1589, a chafodd ei dderbyn a'i ymgeleddu yn garedig gan gyfeillion crefyddol, a bu yn ddiwyd a defnyddiol iawn yn eu mysg am fwy na thair blynedd, fel pregethwr ac ysgrifenwr llyfrau crefyddol. Pan y clywodd Archesgob Canterbury ei fod yn Scotland, cafodd gan y Frenhines Elizabeth, ysgrifenu llythyr at James, Brenin y wlad hono, i ddeisyf arno ei anfon yn ol i Loegr. Mewn ufudd-dod i gais ei chwaer-goronog o Loegr, cyhoeddodd James ddedfryd alldudiaeth arno o'i wlad ef, ond gwrthododd y gweinidogion yn mhob man wneyd y cyhoeddiad Brenhinol yn hysbys. Gallasai dreulio ai holl fywyd yn Scotland yn ddiogel a defnyddiol, ond o herwydd ei awydd angerddol am wneyd lles crefyddol i'w gydwladwyr yn Nghymru, dychwelodd i Loegr yn Medi, 1592, ac ymunodd yn Llundain a'r gynnulleidfa ddirgelaidd o Ymneillduwyr oedd yno. Bwriadai ar ei ddychweliad o Scotland, ofyn caniatâd y Frenhines i fyned i Gymru i bregethu yno yn mhob lle y cawsai dderbyniad. Ar ol bod yn ddefnyddiol yn mysg yr Ymneillduwyr yn Llundain am chwe' mis, a phan yn disgwyl cyfle i osod ei gais o flaen y Frenhines, ar ran Cymru, daliwyd ef Mawrth 22ain, 1593, a dygwyd ef fath o brawf, yr hwn, medd Syr Thomas Phillips, "Sydd yn warth i lysoedd barn Lloegr." Pryd nad oedd un gyfraith i'w gondemnio, ni phetrusodd yr Archesgob a'i gyngreiriaid, i droi yn llofruddion iddo. Cafodd ei ddienyddio yn St. Thomas-a-Watering, ger Llundain, am bump o'r gloch yn y prydnawn Mai 29ain, 1593, pan nad oedd ond pedair-ar-ddeg-ar- hugain oed. Gadawodd weddw a phedair o ferched bychain, a lluaws of gyfeillion Cristionogol i alaru ar ei ol. Nid ymyrodd Penry ddim erioed a phethau gwladol. Ei unig drosedd yn erbyn ei leiddiaid oedd dynoethi, mewn iaith gref, ymddygiadau gwaradwyddus offeiriaid Cymru, y rhai a ddinystrient eneidiau ei gydwladwyr, ac addef ei hun yn Ymneillduwr yn y chwe' mis olaf o'i fywyd.

Mae y llythyrau a ysgrifenwyd ganddo yn y carchar at ei wraig, ei ferched, ac Arglwydd Barleigh, ychydig amser cyn ei ddienyddiad, y fath y byddai yn anhawdd i neb eu darllen gyda llygaid sychion. Yn ei lythyr at ei ferched bychain dywed, "Y mae cenedl y Cymru er's amryw ganrifoedd bellach wedi bod dan wialen yr Arglwydd, ond yr wyf yn gobeithio fod yr amser i drugarhau wrthynt, trwy beri i wir oleuni yr efengyl lewyrchu arnynt, yn awr wedi dyfod. Fy anwyl ferched, gweddiwch chwi yn daer ar yr Arglwydd am hyn, pan ddeloch i oed i ddeall pa beth yw gweddi; a byddwch yn wastad yn barod i gynorthwyo y plentyn lleiaf o'r wlad dylawd hono, a fyddo mewn angen am eich cymorth. Pa fodd bynag ad-dalwch, os byddwch yn alluog, i'm perthynasau agosaf i, megis fy mam, fy mrodyr, fy chwiorydd, &c., am eu caredigr wydd i mi. Byddant hwy, yr wyf yn sicr, yn garedig hyd eithaf eu gallu i chwi a'ch mam, er fy mwyn i. Ac ymdrechwch fod yn gysur neillduol yn fy lle i, i benwyni fy mam, yr hon fu yn foddion yn llaw yr Arglwydd i ddwyn traul fy addysg i, trwy yr hyn y daethum i wybodaeth o'r ffydd werthfawr hono yn Nghrist Iesu, er amddiffyn yr hon yr wyf yn sefyll yn awr mewn llawenydd mawr yn fy enaid, er yn drallodus iawn yn fy amgylchiadau allanol. Gweddiwch lawer yn ddibaid am lwyddiant teyrnasiad ei hardderchocaf fawrhydi y Frenhines Elizabeth, ac am ddiogelwch ei chorph a'i henaid. Byddwch yn gynorthwyol a charedig i bob dyeithriaid, ac yn neillduol i bobl Scotland, lle y bum i, a'ch mam, a dwy o honoch chwi, yn byw fel dyeithriaid, ac etto yn cael ein croesawi, ac yn derbyn caredigrwydd mawr er mwyn enw ein Duw. Byddwch yn hynaws i'r weddw a'r amddifad, nid yn unig am fod deddf Duw a natur yn gofyn hyny ar eich dwylaw, ond hefyd, oblegid am ddim a wn i yn amgen, fy mod i yn debyg o'ch gadael chwi yn amddifaid, a'ch mam yn weddw.

Pa beth bynag a ddel o honoch chwi yn eich hamgylchiadau allanol, gofelwch am aros yn yr eglwys orthry medig hon, yn yr hon yr wyf fi yn eich gadael, neu mewn rhyw gymdeithas bur arall o saint. Mae yn ddi- ameu genyf y bydd i Dduw gyffroi llawer o'i blant i fod yn garedig i'w ffyddlon chwaer, a'm gwraig, eich mam, ac i chwithau hefyd, er fy mwyn i. Er i chwi gael eich dwyn i fyny mewn sefyllfa isel, etto, fy anwyl blant, dysgwch ddarllen, fel y byddoch ddydd a nos yn medru ymgynefino a Gair yr Arglwydd. Os bydd eich mam yn alluog i'ch cadw gyda eich gilydd, yr wyf yn sicr y dysga hi chwi i ddarllen ac ysgrifenu. Yr wyf wedi gadael pedwar o Fiblau, un i bob un o honoch, a hyn yw yr unig dreftadaeth, neu waddol sydd genyf i'w adael i chwi. Yr wyf yn deisyf arnoch, ac yn gorchymyn i chwi, nid yn unig eu cadw, ond hefyd eu darllen ddydd a nos, ac hefyd cyn darllen, ac wrth ac ar ol darllen, byddwch daer mewn gweddi a myfyrdod am fodd i ddeall a gwneyd ewyllys eich Duw. O garchar cyfyng, gyda llawer o ddagrau, etto, mewn mwynhad o lawer o lawenydd yn yr Ysbryd Glan, y 10fed dydd, o'r pedwerydd mis hwn, Ebrill, 1593, eich tad tylawd, yma ar y ddaear yn bryderus iawn am gael ail uno a chwi mewn cymdeithas dragywyddol yn nheyrnas Iesu Grist.
JOHN PENRY.
Tyst eiddil yn y byd hwn dros hawliau Iesu Grist, ac yn erbyn ffieidddra y Babel Rufeinig."

Yn ei lythyr at Arglwydd Burleigh, yr hwn a ysgrifenodd saith niwrnod cyn ei ddienyddiad, dywed, "Yr wyf yn diolch i Dduw, pa bryd bynag y daw terfyn i'm dyddiau, ac nid wyf yn disgwyl y caf fyw hyd ddiwedd yr wythnos hon, y bydd fy niniweidrwydd mor amlwg, fel y byddaf farw yn un o ddeiliaid ffyddlonaf y Frenhines Elizabeth, ie, yn nghyfrif fy ngwrthwynebwyr, os byddant yn wyddfodol, ac yr wyf yn hyderu y gallaf trwy fy marwolaeth eu hargyhoeddi hwy ger bron yr holl fyd, fy mod wedi byw felly hefyd. Ac yr wyf yn gobeithio y pair fy Nuw ryw ddiwrnod i'm diniweidrwydd ddysgleirio fel hanerdydd ger bron fy ngrasol Frenhines ei hun. Dyn ieuange tlawd ydwyf fi, wedi fy ngeni a'm dwyn i fyny ar fynyddoedd Cymru. Myfi yw y cyntaf, ar ol yr adfywiad diweddaf ar yr efengyl yn yr oes hon, a lafuriodd i gael ei had bendigedig wedi ei hau yn y mynyddoedd diffrwyth hyny. Yr wyf lawer gwaith wedi llawenychu ger born Duw, fel y mae Efe yn gwybod, am fy mod wedi cael y fraint o fod wedi fy ngeni a byw dan lywodraeth ei Mawrhydi, er dwyn yn mlaen y gwaith hwn. Yn angerdd yr awydd oedd ynof am weled yr efengyl yn ngwlad. fy ngenedigaeth, a'r llygredigaethau gwrthwynebol iddi wedi eu symud, gallaswn ddyweyd, fel y gwnaethum yn fy ysgrifeniadau argraffedig, yr un fath a Hegetorides y Thruciad, fy mod yn anghofio fy mherygl fy hun o gariad at fy ngwlad, ond ni ddarfu i mi erioed anghofio fy nheyrngarwch i'm Brenhines. Ac yn awr, pan yr wyf i gael diwedd fy nyddiau, cyn cyrhaedd haner y blynyddoedd a allaswn gael wrth gwrs cyffredin natur, yr wyf yn gadael llwyddiant fy llafur i'r cyfryw o'm cydwladwyr ag a gyfodo yr Arglwydd ar fy ol i gwblhau y gwaith o alw fy ngwlad i wybodaeth o efengyl fendigedig Crist, a ddechreuwyd genyf fi."

Fel hyn y bu fyw ae y bu farw y gwr a gyfododd yr Arglwydd i arloesi y ffordd o flaen Ymneillduaeth Cymru. Bu ei enw da am oesau yn cael ei dduo a'i enllibio gan haneswyr rhagfarnllyd ac anwybodus, ond bellach mae llwch a llysnafedd enllib yn cael eu golchi ymaith oddi arno, a'i gy- meriad glân, fel seren oleu yn mysg y Diwygwyr Protestanaidd, yn dysgleirio. Bu ei lofruddiad of yn un ddolen bwysig yn nghadwyn y dygwyddiadau a arweiniasant i ddymchweliad awdurdod yr esgobion, a sefydliad rhyddid crefyddol gan y Senedd yn amser Siarl I. Cafodd holl dechreu ddysgwyliadau ein Diwygiwr llofruddiedig, y buasai yr Arglwydd yn cyfodi yn mysg ei gydwladwyr, ddynion cymhwysi gario yn mlaen y gwaith a ddechreuwyd ganddo ef, eu cyflawn gwblhau. Cyn pen deugain mlynedd ar ol ei farwolaeth, yr oedd yn Nghymru saith neu wyth o bregethwyr efengylaidd a grymus-megis, William Wroth, o Lanfaches; William Erbery, o Gaerdydd; Mr. Phillips, o sir Benfro; Rees Pritchard, o Lanymddyfri; David Roberts, o Landinam; Robert Powell, o Langattwg, Glynnedd; Marmaduke Mathews, o Abertawy; Walter Cradock, a rhai eraill llai enwog; fe luosogodd eu nifer mewn ychydig o flynyddau, nes yr oeddynt yn amryw ugeiniau o rif, ac erbyn heddyw, y mae y gwyr a bregethant yn Nghymru yr egwyddorion y bu Penry farw drostynt, dros ddwy fil o nifer. Diau fod ysbryd gogoneddedig y merthyr yn llawenhau mewn gogoniant wrth ganfod hyn.

Yn y tu dalenau blaenorol taflasom frasolwg dros agwedd Cymru tra y bu yn ymddibynol yn unig ar yr Eglwys Sefydledig am ei haddysg gref- yddol, a gwelsom y fath olwg alaethus oedd arni o 1534, hyd ar ol 1646- Yn awr taflwn

II.—GIPOLWG AR AGWEDD PETHAU O GYFODIAD YMNEILL DUAETH HYD DDEDDF UNFFURFIAETH, YN 1662. Fel y nodasom yn barod, yr oedd ychydig o bregethwyr, o egwyddorion Puritanaidd, wedi cyfodi yn Nghymru yn nheyrnasiad James I., ac yn gynar yn nheyrnasiad Siarl I., ond gan fod yr offeiriaid agos oll yn anfoesol, anwybodus, neu o dueddiadau Pabyddol, gwnaethant bob peth a fedrent i gyfodi rhagfarn yn y werin anwybodus yn eu herbyn, ac i'w herlid. Er fod un o'r pregethwyr hyn—Rees Prichard, Llanymddyfri, yn gydffurfiwr selog, ni ddiangodd ef o herwydd ei lafur a'i sêl yn erbyn pechod, rhag cael llawer o'i erlid, llawer llai y diangodd Worth, o Lanfaches, ac eraill, a ddechreuent ogwyddo at Ymneillduaeth. Pan ddarfu i'r Brenhin Siarl, dan gyfarwyddyd yr Archesgob Laud, orchymyn i'r holl offeiriaid ddarllen y llyfr chwareuyddiaethau o'r pulpudau ar y Sabboth, gorfodwyd Mr. Wroth, Mr. Erbery, Mr. Cradock, ac fe ddichon rai eraill yn Nghymru, i droi yn Ymneillduwyr cyhoeddus. Yn fuan wedi hyn, sef yn Tachwedd, 1640, agorwyd y Senedd. a elwid "y Senedd hir," a chyn pen nemawr o amser wedi hyny, cyfododd anghydfod rhwng y Brenhin a'r Senedd, yr hwn a derfynodd mewn rhyfel gwladol, ac yn nienyddiad y Brenhin a'i ddau brif gynghorwr, Iarll Strafford a'r Archesgob Laud. Yr achosion o'r anghydfod oedd y gorthrwm mewn pethau gwladol a chrefyddol a arferai y Brenhin a'i ddau gynghorwr. Yr oedd Siarl wedi cymeryd i'w ben, nas gallasai ef fod yn deilwng o'r enw brenhin, heb iddo draws-arglwyddiaethu ar y Senedd a'r wlad, a gwneyd ei ewyllys ei hun yn ddeddf ddigyfnewid, a mynai Laud i bawb yn ddieithriad blygu mewn pethau crefyddol i'w olygiadau a'i ddefodau Pabyddol ef, dan boen carchariad, ac amddifadiad o bob braint fel gwladwyr am anufudd-dod. Wedi i'r wlad ddyoddef hyn am wyth neu ddeng mlynedd, aeth y baich yn rhy annyoddefol i'w ddyoddef yn hwy, a'r canlyniad fu i'r Senedd sefyll dros y wlad a hawlio rhyddid, a'i fynu trwy rym arfau, pryd nad oedd dim arall yn tycio. Mae haneswyr toriaidd ac esgobyddol wedi arfer rhoddi camddarluniad gwaradwyddus o'r rhyfel yn nyddiau Siarl I., sef ci osod allan fel rhyfel y Puritaniaid Ymneillduol yn erbyn yr Eglwys Wladol, ond nis gall dim fod yn fwy anghywir na hyny. Eglwyswyr proffesedig oll oedd aelodau "y Senedd hir" ar y cyntaf, ond amddiffynent ryddid gwladol a chrefyddol, yr hyn ni fynai y Brenhin, yr Archesgob, a'u pleidwyr, ei ganiatau. Rhanwyd y wlad yn fuan i ddwy blaid, sef pleidwyr trais, a phleidwyr rhyddid. Yr oedd mwyafrif dirfawr y boneddigion, y werin anwybodus, y meddwon, a phawb a gymerent eu llwgrwobrwyo, yn mhlaid y Brenhin, a'r rhan fwyaf o'r dosbarth canol o gymdeithas, megis y masnachwyr, y mân dirfeddianwyr, a'r Puritaniaid agos oll o blaid y Senedd, am fod y Senedd o blaid rhyddid. Yr oedd y Puritaniaid o ddechreuad teyrnasiad Elizabeth hyd yn awr, wedi bod yn wrthrychau gwg y penau coronog a'r esgobion; nid rhyfedd, gan hyny, iddynt uno a'r blaid a ymdrechai lifio cyrn a thori danedd eu gelynion marwol hwy. Y mae hefyd yn deilwng o sylw, fod yr holl Babyddion trwy y deyrnas, a'r dynion mwyaf annuwiol a gelynol i grefydd bur, yn mhlaid y Brenin, ac yr oedd hyny, heb son am ddim arall, yn ddigon i droi y Puritaniaid yn ei erbyn.[7] Gan nad oedd y Puritaniaid yn Nghymru ond ychydig ò rif, ac yn cyfaneddu mewn conglau tair neu bedair o siroedd, a bod y gwyr mawr a'r offeiriaid, yn cael eu dilyn gan y lluaws anwybodus, oll o blaid y Brenhin, yr oedd eu sefyllfa hwy ar doriad y rhyfel allan yn enbyd i'r eithaf. Pe buasent yn ymuno a byddin y brenhin, buasai raid iddynt ryfela yn erbyn yr egwyddorion yr oeddynt er's blynyddau wedi dyoddef llawer er eu mwyn, a phan oedd corph eu cydwladwyr gyda y Brenhin, yr oedd yn anhawdd ac yn beryglus iddynt ddangos eu hochr. Yn y cyfyngder hwn, cynghorwyd y gweinidogion i ffoi i Loegr am ddyogelwch, lle yr oedd byddinoedd y Senedd yn gryfion a lluosog, ac felly y gwnaethant. Buont yno yn ddefnyddiol o 1642, hyd 1646, pryd y dychwelasant i Gymru ar ol i Cromwell ddarostwng plaid y Brenhin, a sefydlu awdurdod y Senedd trwy yr holl wlad. Darfu i'r ychydig grefyddwyr a adawyd yn y wlad ddyoddef y triniaethau mwyaf barbaraidd rhwng 1642 a 1646. Cymerwyd ymaith eu hanifeiliaid, ysbeiliwyd a llosgwyd tai llawer o honynt, dinystriwyd eu hyd ar y maesydd, a chafodd rhai o honynt eu blingo yn fyw, a'u haner pobi o flaen tanau, ac eraill eu crogi a'u lladd mewn gwaed oer.[8] Ond er eu holl ddyoddefiadau, safasant gyda gwroldeb merthyron at eu hegwyddorion, a llwyddasant, dan yr amgylchiadau trallodus hyn, i ennill tuag wyth gant i'r ffydd, wrth fyned o dŷ i dŷ i ymddyddan am bethau crefyddol, yn ystod y pedair blynedd y buont heb weinidogion.

Yr oedd y Senedd yn 1641, wedi awdurdodi Meistri Walter Cradock, Henry Walter, David Walter, ac eraill, i fyned oddiamgylch i bregethu, cnd gan i'r rhyfel dori allan yn lled fuan wedi hyny, ni chawsant nemawr o gyfleusdra i hyny. Ond wedi dychwelyd, ar derfyniad y rhyfel yn 1646, aethant allan yn ysbryd a nerth yr Apostolion, i bregethu ar hyd a lled y wlad. Heblaw Cradock, V. Powell, y ddau Walter, Richard, Symmonds, Ambrose Mostyn, a rhai gweinidogion urddedig eraill. Cafodd tuag ugain o aelodau yr eglwysi yn Llanfaches a Mynyddislwyn eu hanfon allan fel pregethwyr lleyg, heb un math o urdd Esgobol na Phresbyteraidd. Gorchymynodd y Senedd i bob un o honynt gael dwy-bunt-ar-bymtheg yn y flwyddyn at eu cynaliaeth, yr hyn, y pryd hwnw oedd yn gyfwerth i tua chan punt yn awr. Gwelsom fod y merthyr Penry tua thriugain mlynedd cyn hyn wedi awgrymu mai un ffordd tuag at efengyleiddio Cymru, oedd anfon allan ddynion duwiol, er heb urddau, i bregethu yn deithiol, ac yn awr wele gynllun y merthyr yn cael ei fabwysiadu, ac yn troi allan yn effeithiol. Darfu i'r "Senedd hir" yn fuan ar ol ei hagoriad, gymeryd yr eglwys a'i chamdrefniadau gwaradwyddus dan sylw. Penododd amryw bwyllgorau i edrych i mewn i sefyllfa pethau. Un oedd Pwyllgor y gweinidogion gwaradwyddus, amcan yr hwn oedd troi allan offeiriaid anfoesol, didalent, ac esgeulus, o'u bywioliaethau, a gosod cynnifer o rai cymhwys a allesid gael yn eu lleoedd, a phan nas gallesid cael digon o bersonau addas i lenwi y lleoedd gweigion, gosodid amryw bregethwyr poblogaidd i deithio o fan i fan, fel y gallasai pob plwyf gael o leiaf un bregeth bob wythnos. neu bythefnos. Pwyllgor arall oedd Pwyllgor y gweinidogion ysbeiliedig, amcan pa un oedd adferu y gweinidogion Puritanaidd a droisid allan o'u by wioliaethau gan Laud a'i gydoeswyr, ac edrych fod y colledion oeddynt wedi ddyoddef yn cael eu gwneyd i fyny. Ni chafodd un o'r pwyllgorau hyn nemawr o fantais i wneyd dim er lles y Cymru, hyd ar ol gorchfygiad plaid y Brenhin yn 1646, am fod corph y genedl hyd hyny, dan arweiniad y gwyr mawr a'r offeiriaid, yn rhyfela dros y Brenhin, ac yn erbyn y Senedd. Ar ol 1646, gweithiasant yn effeithiol yn y Dywysogaeth. Mae yn ymddangos i'r Pwyllgor hwn yn y blynyddoedd 1646-48, droi allan ychydig o offeiriaid nodedig o anfoesol neu anghymwys o'u bywioliaethau yn Nghymru. Chwefror 22ain, 1650, pasiwyd gweithred gan y Senedd, a elwid Gweithred er gwell taeniad o'r efengyl yn Nghymru, ac er diwygiad rhyw bethau afreolaidd. Dan y weithred hon yr oedd triugain ac un-ar-ddeg o ddirprwywyr i droi allan weinidogion anghymwys o'r eglwysi, i drafod a meddianau eglwysig, ac i osod personau cymhwys yn lle y rhai a droisid allan. Y mae y weithred hefyd yn enwi pump-ar-hugain o weinidogion, gwaith y rhai oedd cymeradwyo i'r dirprwywyr bregethwyr cymhwys i'w rhoddi yn y bywioliaethau gweigion, neu i'w hanfon allan fel teithwyr. Mae ysgrifenwyr Esgobyddol yn yr oes hono, ac yn mhob oes ddilynol, wedi trin y weithred hon, a'i gweinyddwyr, yn ddiarbed, ac yn son am dani fel ymosodiad erlidgar yr Anghydffurfwyr ar yr Eglwyswyr, ond nis gall dim fod yn fwy anheg ac anghy wir na hyny. Cydffurfwyr oedd naw o bob deg o'r dirprwywyr cyn y rhyfel, a chydymffurfiodd pawb o honynt, ond tri neu bedwar, drachefn ar ol adferiad Siarl II. Am y gweinidogion a enwir yn y weithred, y cwbl oedd ganddynt hwy i'w wneuthur oedd, barnu cymhwysderau pregethwyr. Nid eu diswyddo na'u rhoddi mewn swydd. Addefir yn rhwydd eu bod fel Anghydffurfwyr yn gweithredu yn anghyson ag egwyddorion Anghydffurfiaeth, fel y deallir hwy yn yr oes hon, trwy gydsynio i ymdrafod dim a phethau crefyddol dan ddarbodaeth gweithred Seneddol, ond ychydig iawn o Ymneillduwyr yr oes hono, oedd wedi dyfod yn ddigon goleu i ganfod na ddylai Seneddau ymyraeth dim a chrefydd. Gan mai Esgobyddion, cyn ac ar ol tymor y werinlywodraeth, oedd y rhan fwyaf o lawer o wneuthurwyr a gweinyddwyr y weithred hon, nis gall Eglwyswyr ddyweyd dim yn ei herbyn heb boeri ar eu dillad eu hunain. Cafodd llawer o offeiriaid eu troi allan o'u bywioliaethau dan y ddeddf hon. Dywed Dr. Walker, eu bod yn chwe' chant o rif, ond y mae yn sicr nad oeddynt yn un o bedwar o'r nifer hyny, ac y mae yn sicr hefyd fod rheswm digonol dros droi allan bob un a dröwyd. Yr oedd llawer o honynt yn feddwon, tafarnwyr, tyngwyr a rhegwyr, a phuteinwyr, eraill yn anghymwys o ran galluoedd at waith y weinidogaeth, eraill yn hollol anwybodus o'r iaith Gymraeg. Dywed un o honynt hwy eu hunain, mai prin un o bob pymtheg o offeiriaid Mynwy, a'r cylchoedd, a fedrai siarad ac ysgrifenu y Gymraeg. Nis gellir profi fod cymaint ag un person o foesau teilwng, ac o ryw fedr canolig i bregethu, wedi cael ei droi allan, oddieithr ei fod yn derfysgwr cyhoeddus yn erbyn y llywodraeth.

Er nad oedd yn holl Gymru yn 1641, dros tua deuddeg neu dri-ar-ddeg o bregethwyr galluog a duwiol; yr oeddynt erbyn 1652, wedi lluosogi i fwy na chant a haner o rif, a phob un o honynt yn pregethu dair a phedair gwaith yn yr wythnos, a rhai lawer yn amlach.[9]

Er i ryddid crefyddol gael ei sefydlu trwy gyfraith, a bod yr holl bregethwyr yn awr yn Nghymru dan nawdd y Senedd, etto, cyfarfyddodd y rhan fwyaf o honynt a rhwystrau dirfawr yn eu hymdrech i efengyleiddio y wlad. Yr oedd corph y genedl yn anwybodus a gelynol i grefydd bur. Y rhan fwyaf o lawer o'r gwyr mawr yn llawn gelyniaeth at y Senedd a'r pregethwyr, a'r offeiriaid drygionus a droisid allan o'u bywioliaethau yn arfer pob ystryw a fedrent i rwystro pregethiad yr efengyl. Terfysgent y cyfarfodydd, taenent chwedlau celwyddog am y pregethwyr, a chyhoeddent lyfrynau enllibus a chableddus i'w diraddio; mewn gair, ni adawent unrhyw ddrwg y gallent feddwl am dano heb ei wneyd er atal y gwaith da i fyned rhagddo. Ond er y cwbl yn mlaen yr oedd yn myned. Yn 1646 a 1647, cyhoeddwyd dau argraffiad o'r Testament Newydd, yn cynwys tua chwe' mil o gopïau, gan Mr. Walter Cradock, ac yn 1654, cyhoeddwyd yr holl Fibl, tua chwe' mil o gopïau, ac argraffiad o'r Testament Newydd ar ei ben ei hun, yn yr un flwyddyn, gan Mr. Cradock, a Mr. V. Powell.

Un enwad, sef Annibynwyr, oedd holl Ymneillduwyr Cymru hyd 1649, pryd y darfu i Mr. John Myles a Thomas Proud gasglu a chorpholi eglwys o Fedyddwyr yn Ilston, gerllaw Abertawy. Ymdaenodd yr enwad hwn yn fuan trwy ranau o siroedd Morganwg, Caerfyrddin, Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, Aberteifi, a Phenfro, a pharodd ei gyfodiad gryn lawer o gyffro a dadleuon poethion ar fedydd mewn gwahanol ardaloedd, ac nid oes un ddadl na fu y dadleuon hyn am dymor yn rhwystr mawr i efengyleiddiad y wlad. Cyn pen dwy flynedd ar ol cyfodiad y Bedyddwyr, gwnaeth trydydd enwad o Ymneillduwyr ei ymddangosiad yn Nghymru, sef y Crynwyr. Darfu iddynt hwythau yn fuan, fel y Bedyddwyr, luosogi yn fawr, ac achlysuro dadleuon poethion. Ond er yr ychydig derfysg a achlysurwyd gan gyfodiad yr enwadau newyddion yn amser y werinlywodraeth, etto, aeth y gwaith o daenu yr efengyl yn mlaen yn llwyddianus hyd farwolaeth Oliver Cromwell. Yn fuan wedi hyny, cafodd Siarl II. ei ddewis yn frenhin, a chyda ei ddyfodiad i'r Orsedd, adferwyd Esgobyddiaeth i fod yn Grefydd Wladol, ac adferwyd erlidigaeth ffyrnig gyda hi. Yn ystod y pedair-blynedd-ar-ddeg o ryddid a fwynhawyd o 1646 hyd adferiad Siarl II., gwnaed gwaith gogoneddus yn Nghymru, ac ystyried yr amrywiol anfanteision dan ba rai yr oedd y pregethwyr yn llafurio. Hauwyd yn y tymor hwnw gymaint o hadau gwybodaeth ac egwyddorion crefyddol, fel nas gallodd holl ffyrnigrwydd yr erledigaethau yn y blynyddoedd dyfodol eu difetha, ac y mae yr had a hauwyd y pryd hwnw yn parhau i ddwyn ffrwyth hyd y dydd hwn. Cyn gynted ag yr esgynodd Siarl i'r Orsedd, ac yn wir, rai dyddiau cyn hyny, dechreuwyd erlid yr Ymneillduwyr yn Nghymru, ac adferu yr offeiriaid a droisid allan gan weinyddwyr y cyfreithiau yn y blynyddoedd blaenorol. Cafodd pob pregethwr a feddianai fywioliaeth y cyfryw oedd yn fyw o'r offeiriaid hyny, eu troi allan yn haf 1660, ond cafodd y rhai a weinyddent mewn plwyf nad oedd y meddianwyr blaenorol yn fyw, gadw eu lleoedd hyd nes i Ddeddf Unffurfiaeth ddyfod i rym yn 1662. Yna cafodd pob un na chydymffurfiai a'r ddeddf hono, ei droi allan a'i drin yn ddidrugaredd.

Yr oedd Deddf Unffurfiaeth yn gofyn i bob un er cael hawl i weinyddu fel gweinidog yn yr Eglwys Sefydledig i gymeryd urddau esgobol, os oedd heb yr urddau hyny yn flaenorol, ac ardystio ei gydsyniad a phob peth a gynwysai y Llyfr Gweddi Cyffredin, fel pethau cyson a Gair Duw. A'r argraffiad newydd o'r Llyfr Gweddi Cyffredin y gofynid y cydsyniad hwn, ac yr oedd canoedd o bregethwyr yn y cyrau pellaf o'r deyrnas nad oedd yn bosibl iddynt gael golwg ar y llyfr y gofynid eu cydsyniad ag ef cyn gwneyd yr ardystiad, am mai ychydig ddyddiau cyn fod yn rhaid iddynt oll gydffurfio yr oedd y llyfr wedi dyfod allan o'r wasg. Darfu i ganoedd o ddynion digydwybod ardystio eu cydsyniad heb weled y llyfr o gwbl; ond yr oedd ei gynwysiad y fath fel nas gallasai miloedd o ddynion. cydwybodol gydsynio ag ef ar ol ei weled, chwaethach cyn hyny. Gorfodwyd dros ddwy fil o'r pregethwyr goreu a duwiolaf yn y deyrnas i roddi eu lleoedd i fyny, am nas medrent gydymffurfio a'r ddeddf orthrymus hon. Y rhai canlynol oedd y rhai a dröwyd allan neu a waharddwyd i bregethu yn Nghymru.

BRYCHEINIOG.

John Edwards, Cathedin. Bedyddiwr oedd ef.

Thomas Evans, Maesmynys, ger Llanfairmuallt. Dyn da, a dyoddefydd mawr. Un o'r Bedyddwyr ydoedd.

David William Probert, Llandefeilog.

Elias Harry, Patrishw, ger Crughowell.

Thomas Watkins, o gymydogaeth y Gelli. Dyn gweithgar, a dylanwadol. Bu yn weinidog yr eglwys yn Olchon hyd 1694, pryd y bu farw.

Thomas Parry. Bedyddiwr ydoedd yntau. Bu farw yn 1709, mewn oedran teg.

Henry Maurice. O Church Stretton, yn sir Amwythig, y trowyd ef allan, ond yn y sir hon y bu fyw a marw fel Ymneillduwr.

ABERTEIFI.

John Evans, Bangor, ger Castellnewydd-yn-Emlyn.

Charles Price, Aberteifi.

David Jones, Llanbadarnfawr.

Evan Hughes, Llandyfriog.

Lewis Price, Llangunllo.

Richard Davies, Penybryn.

John Harris, Tregaron. Pregethodd lawer yn siroedd Aberteifi a Maesyfed, yn amser y werin-lywodraeth. Ni wyddys pa beth a ddaeth o hono ar ol ei droi allan.

John Hanmer. Pregethwr teithiol defnyddiol yn Maesyfed ac Aberteifi.

Rodrick Thomas, Llanfihangel-y-creuddyn.

Morgan Howel, Bettws, ger Llanbedr.

CAERFYRDDIN.

William Jones, Cilmaenllwyd. Bedyddiwr oedd ef a gwr llafurus iawn.

David Jones, Llandysilio.

John Powell, Llangynwr. Nid oes dim o'i hanes ef ar gael.

Meredith Davies, Llanon. Terfynodd ei oes yn Mrowyr, Morganwg.

James Davies, Merthyr, ger Caerfyrddin.

Stephen Hughes, Meidrym.

Rees Prydderch, Ystrad-Walter, ger Llanymddyfri.

Phillip Lewis, pregethwr teithiol yn y sir hon. Bu farw yn anghydffurfiwr.

William Thomas. Pregethwr teithiol a Bedyddiwr. Bu farw yn Llan- trisant, Mynwy, yn 1671.

ARFON.

John Williams. Dywed rhai mai o Landwrog, ac eraill mai o Ynys-cyn-haiarn, y trowyd ef allan. Efe oedd yr unig weinidog a anghydffurfiodd yn y sir hon.

DINBYCH.

William Jones, Dinbych.

Richard Jones, Dinbych.

Richard Taylor, Holt. Symudodd i Lundain, ac wedi hyny i Barking yn Essex, lle y bu yn weinidog yr eglwys Annibynol, hyd ei farwolaeth yn 1697.

Jonathan Roberts, A.M., Llanfair, Dyffryn Clwyd.

Ellis Rowlands, Ruthin.

Ambrose Mostyn, Gwrecsam.

Ambrose Lewis, Gwrecsam. Newydd ddechreu pregethu, ac heb ei urddo, yr oedd ef yn 1662.

FLINT.

Robert Fogg, Bangor. Bu farw yn orfoleddus yn Nantwich, yn 1676, yn 80 oed.

Richard Steel, A.M., Hanmere. Ar ol ei droi allan aeth i Lundain, lle y casglodd gynnulleidfa yn Coleman-street. Bu farw yn 1692. Dyn dysgedig, duwiol, ac enwog iawn ydoedd.

Phillip Henry, M.A. Tad yr enwog Mathew Henry. Mab ydoedd ef i John Henry, ac wyr i Henry Williams, Britton Ferry, Morganwg. Ganwyd ef yn Llundain, yn 1632, a bu farw yn 1696. Un o'r dynion duwiolaf a rhagoraf yn ei oes ydoedd.

MORGANWG.

Josua Miller, St. Andrew's.

Jenkin Jones. Llangattwg, Glynnedd.

Thomas Proud, Cheriton, Browyr. Efe oedd un o'r ddau Fedyddiwr cyntaf yn Nghymru.

John Myles, Ilston. Efe a Thomas Proud oedd sylfaenwyr enwad y Bedyddwyr yn Nghymru.

Edmund Ellis, St. Ffagan. Yr oedd ef yn un o'r pump-ar-hugain gweinidogion a enwir yn y Weithred, er taenu yr efengyl yn Nghymru, i brofi cymhwysderau y rhai a anfonasid allan i bregethu. Mae yn debygol iddo fyned i Lundain ar ol cael ei droi allan o'i fywioliaeth. Bedyddiwr ydoedd.

Howell Thomas, Glyncorwg.

Thomas Joseph, Llangeinwr. Bedyddiwr oedd yntau.

Morgan Jones, Llanmadog. Yr oedd yntau yn Fedyddiwr, ond ni wyddys dim o'i hanes ar ol ei droad allan.

Samuel Jones, A.M., Llangynwyd.

Henry Williams, Llantrisant.

John Powell, A.M., St. Lythian.

William Thomas, A.M., Eglwys Fair, ger Penybont-ar-ogwy. Yr oedd yn ddyn enwog am ei dduwioldeb a'i ddysg. Treuliodd weddill ei oes fel ysgolfeistr yn Abertawy.

Daniel Higgs, A.M., Rhosili, yn Mrowyr.

Marmaduke Mathews, Eglwys Ifan, Abertawy.

John French, Wenfoe. Treuliodd weddill ei oes fel meddyg a phregeth- wr achlysurol yn Nghaerdydd a'r cylchoedd.

George Seal, Caerdydd. Ar ol ei droad allan, cymerodd ofal yr eglwys Ymneillduol yn Marshfield, sir Gaerloew, lle y mae yn debygol y bu farw.

Robert Thomas, Baglan, ger Castellnedd.

Jacob Christopher. Yr oedd yntau yn byw yn rhyw le yn agos i Gastellnedd.

Richard Cradock, Drefnewydd yn Notais.

David Davies, Castellnedd. Bedyddiwr oedd ef, a phregethwr llafurus a defnyddiol.

Thomas Jones. Gwr duwiol a defnyddiol, perthynol i'r Bedyddwyr.

Lewis Thomas y Mwr, yn mhlwyf y Drefnewydd. Prif weinidog y Bedyddwyr yn y rhan orllewinol o Forganwg, am fwy na deugain mlynedd.

Robert Morgan, Llandilo, Talybont. Bu am flynyddau yn gyd-weinidog a Mr. Lewis Thomas ar eglwys y Bedyddwyr yn Abertawy.

Evan Llewelyn, Abertawy. Cadw ysgol yr oedd ef, ond gwaharddwyd iddo wneyd hyny o herwydd ei anghydffurfiaeth.

MEIRIONYDD,

Hugh Owen, Bronyclydwr. Efe oedd yr unig weinidog anghydffurfiol yn y sir hon.

MYNWY.

John Abbot, Abergavenny. Bedyddiwr oedd ef.

George Robinson, Caerlleon. Yr oedd ef yn un o'r cymeradwywyr yn y Weithred er taenu yr efengyl yn Nghymru.

Hopkin Rogers, Caerwent.

Owen Morgan, Llanfertherine. Bu ef yn llafurio yn sir Drefaldwyn yn gystal ag yn y sir hon.

Mr. Robins, a fwriwyd allan o Langatwg. Y mae pump o blwyfydd o'r enw hwn yn y sir yma, ac nis gwyddom o ba un o honynt y bwriwyd Mr. Robins allan.

Charles Williams, a fwriwyd allan o Lanfaple.

Thomas Barnes, a fwriwyd allan o Magor.

Nicholas Cary, o Drefynwy. Symudodd i Lundain, lle y bu yn feddyg llwyddianus am lawer o flynyddau.

Henry Walter, a fwriwyd allan o'r Casnewydd.

Walter Prosser, o Dredynog. Bu am dymor yn weinidog eglwys y Bedyddwyr yn y Gelli, Brycheiniog. Bernir iddo farw tua 1670.

Mr. Sims, a fwriwyd allan o Drelech. Achwyna y Crynwyr iddo ymddwyn yn angharedig at rai o'u pregethwyr hwy. Nid ydym yn gwybod dim o'i hanes.

William Millman. Bedyddiwr o farn ydoedd. Bu farw tua 1690.

Watkin Jones, Mynyddislwyn.

Christopher Price, Abergavenny. Gelwid ef Dr. Price, am ei fod yn feddyg yn gystal ag yn bregethwr. Bedyddiwr ydoedd.

William John Pritchard. Bu am flynyddau lawer yn weinidog eglwys y Bedyddwyr yn Llanwenarth.

Rice Williams, Casnewydd. Yr oedd ef yn ŵr cyfoethog, cyfrifol, a defnyddiol.

MALDWYN.

Gabriel Jones, a fwriwyd allan o'r Bettws. Nis gwyddom ddim o'i hanes.

Martin Grundman, Llandysil. Symudodd i Lundain ar ol ei fwrw allan, a bu farw yno o'r pla. Yr oedd yn ddyn da, ac yn weinidog galluog.

Hugh Rogers, a fwriwyd allan o'r Drefnewydd. Yr oedd yn ddyn rhagorol, ac yn bregethwr galluog. Bu farw Mawrth 17eg, 1680, a chladdwyd ef yn y Trallwm.

Nathaniel Ravens, a fwriwyd allan o'r Trallwm. Nid oes genym ddim. o'i hanes ar ol hyny.

Henry Williams, o'r Ysgafell, ger y Drefnewydd.

Vavasor Powell. Ni chafodd ef ei fwrw allan o un lle neillduol, canys yr oedd yn fath o Apostol i'r holl sir, ie, i holl Gymru.

James Quarrell. Pregethwr teithiol enwog ydoedd. Treuliodd flynydd- oedd diweddaf ei oes yn weinidog yr eglwys Annibynol yn yr Amwythig. Mae yn debygol iddo farw rhwng 1672 a 1675.

Thomas Quarrell. Mae yn debygol mai brawd Mr. James Quarrell ydoedd ef.

John Evans, Gwrecsam. Tad Dr. John Evans, Llundain.

David ap Hugh. Pregethwr teithiol enwog. Cafodd ei droedigaeth dan weinidogaeth Mr. Walter Cradock, yn Ngwrecsam, tua y flwyddyn 1635.

Rowland Nevet, A.M., Croesoswallt. Gan ei fod ef ar derfynau Cymru, ac iddo gymeryd rhan bwysig yn ngweithrediadau crefyddol y genedl, mae yn briodol ei enwi yn mysg Ymneillduwyr Cymru.

Timothy Thomas, Morton. Bu ef yn Gaplan i Mrs. Baker, o Swiney, ger Croesoswallt, lle y bu farw yn 1676.

Titus Thomas, brawd Timothy Thomas. Trowyd ef allan o Aston, ger Croesoswallt. Ar farwolaeth Mr. James Quarrel, cafodd Mr. Thomas alwad i'w ddilyn fel gweinidog yr eglwys Annibynol yn yr Amwythig, lle y bu farw yn Rhagfyr, 1686. Yr oedd yn enwog am ei ddefnyddioldeb, ei sel, a'i dduwioldeb.

John Williams. Gelwid ef yn gyffredin "Y Cadben Williams," oblegid iddo fod yn swyddog yn myddin Cromwell. Bu hefyd yn Aelod Seneddol dros un o siroedd Cymru. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd iawn. Yr oedd yn ei flynyddoedd diweddaf yn cyfaneddu yn Llangollen, ac yno y bu farw. Ar ol ei gladdu yn mynwent eglwys y plwyf, aeth haid o erlidwyr yno, a chodasant ei gorph o'r bedd, a bu raid i'w gyfeillion ei gymeryd a'i gladdu yn ddirgel yn ei ardd ei hun. Nid ydym yn hysbys o amser ei farwolaeth.

PENFRO. Thomas Hughes, o Bugeli. Nid oes genym ddim o'i hanes.

Adam Hawkins, o St. Ismael. Yr oedd yn fyw yn 1669.

Pergrine Phillips, Hwlffordd.

Christopher Jackson, o Lanbedr. Bu ef farw yn Llundain.

John Luntley, Llanstadwell. Bu farw yn 1672.

Morgan Thomas, Mathri. Nid oes genym un hanes i'w roddi am dano.

John Bywater, Penfro. Mae ei hanes yntau yn anhysbys.

John Carver, a fwriwyd allan o Tenby.

MAESYFED.

John Weaver, o Faesyfed. Parhaodd i bregethu yn ddirgel yn yr ardal trwy holl dymor yr erledigaeth. Tua 1688, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Henffordd, lle y bu farw mewn henaint teg yn 1712. Merch iddo ef oedd gwraig yr enwog Samuel Jones, athraw yr athrofa yn Tewkesbury.

Richard Swaine. Cafodd ei droi allan o ryw blwyf yn y sir hon. Yr oedd ef yn un o'r cymeradwywyr yn y Weithred er taenu yr efengyl yn Nghymru. Bu farw yn yr Amwythig, ond nis gwyddom amser ei farwolaeth.

David Jenks. Trowyd ef allan o blwyf y Bryngwyn. Ar ol bod yn ddyoddefydd dros Ymneillduaeth am bymtheng mlynedd, cydymffurfiodd a'r Eglwys Wladol, a threuliodd weddill ei oes yn ddibarch.

Morris Griffiths. Pregethwr teithiol enwog, a dyn o ddylanwad mawr. Yr oedd yn fyw yn 1675. Nis gwyddom pa bryd y bu farw.

Henry Gregory. Bedyddiwr ac Arminiad o ran barn ydoedd. Yr oedd yn ddyn defnyddiol, a dyoddefodd erledigaethau creulon. Bu farw yn 1700.

Felly gwelir fod yn Nghymru o 1660 i 1662 gant a chwech o bregethwyr digon cydwybodol i wrthod bywioliaethau breision er mwyn cadw cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion. Heblaw y rhai a enwir yn y tudalenau blaenorol, mae genym enwau tua phymtheg eraill a wrthodasant gydymffurfio am dymor, ond wedi hyny, a roisant ffordd i'r brofedigaeth. Yn 1633, pan orchymynwyd darllen y Llyfr Chwareuyddiaethau, ni chafwyd yn holl Gymru ond tri neu bedwar yn ddigon cydwybodol i wrthod cydsynio, ond yn 1662, cafwyd cant a chwech. Dengys hyn fod gwaith mawr wedi cael ei wneyd yn mysg ein tadau o 1633 hyd 1662. Yr oedd y gweinidogion a drowyd allan o'u bywioliaethau, neu a waharddwyd i bregethu ar adferiad Siarl II., fel y gwelsom yn rhanedig i ddau enwad, sef Annibynwyr a Bedyddwyr-pedwar-ugain-a-phedwar yn Annibynwyr, a dau-ar-hugain yn Fedyddwyr. Nid oedd eu troi allan o'u bywioliaethau a'u hatal i bregethu yn y Llanau yn ddigon i foddio cynddaredd eu herlidwyr, heb gael deddfau creulawn i'w herlid a'u gorthrymu. Yn 1661, pasiwyd Gweithred y Cyfarfodydd Anghyfreithlon, yr hon a waharddai i fwy na phump o bersonau dros un-ar-bymtheg oed, heblaw y teulu, i fod yn wyddfodol mewn un tŷ lle buasai unrhyw fath o wasanaeth crefyddol yn cael ei gynal. Yr oedd y pregethwr a weinyddai yn y cyfarfod i gael tri mis o garchar, neu dalu dirwy o bum' punt y trosedd cyntaf, chwech mis o garchar, neu dalu dirwy o ddeg punt am yr ail drosedd, ac alldudiaeth am ei oes, neu ddirwy o gan' punt am y trydydd troseddiad.

Yr un gosp oedd i ŵr y tŷ neu ei ysgubor. Rhoddid hefyd ddirwy o ddwy bunt ar bob gwraig briod a ddaliesid yn y fath gyfarfod, neu ddeuddeng mis o garchar. Cafodd y ddeddf greulon hon ei hadnewyddu, gydag ychydig gyfnewidiadau yn 1673. Yr oedd un ran o dair o'r holl ddirwyon i fyned i'r cyhuddwr, yr hwn hefyd a allasai gosbi unrhyw Ynad a wrthodasai weinyddu y gosp ar ei dystiolaeth ef. Yn y modd hwn gosodwyd holl Ymneillduwyr y wlad a'r Ynadon ar drugaredd y dyhirod gwaethaf yn mhob ardal. Y canlyniad fu i'r carcharau gael eu gorlenwi a dynion crefyddol, ac i eiddo miloedd o honynt fyned yn ysglyfaeth i'w cyhuddwyr. Yn 1665, pasiwyd Gweithred y Pum Milldir, yr hon a waharddai un gweinidog Ymneillduol fyned o fewn pum' milldir i un dref na bwrdeisdref, ond yn unig wrth groesi heol, na myned ychwaith o fewn pum milldir i'r plwyf lle y buasai yn gweinidogaethu cyn cael ei droi allan. Gwaherddid iddynt hefyd i gadw ysgolion. Amcan y ddeddf hon oedd ysgaru y bugeiliaid oddiwrth eu praidd, a'u hatal i gael un ffordd i gynal eu teuluoedd. Yn 1678, pasiwyd y weithred a elwid y Test Act', yr hon a gauai allan bob Ymneillduwr o bob swydd o elw a dylanwad yn y wlad, yn gystal a'r trefi. Dilynwyd y rhan fwyaf o'r deddfau creulon hyn gan Ddeddf Goddefiad. Ond y mae yr enw Deddf Goddefiad, dan yr hon y mae holl Ymneillduwyr Prydain yn mwynhau eu rhyddid i'r dydd hwn, yn ddirmyg ar synwyr cyffredin. Pa hawl sydd gan Eglwyswyr i ddyweyd eu bod yn ein goddef ni i addoli, mwy nag sydd genym ninau i ddyweyd ein bod ni yn eu goddef hwy. Onid oes hawl gan bob dyn i addoli ei Greawdwr yn y dull a'r modd y myn, heb hawl gan neb o'i gyd-ddynion i ymyraeth ag ef. Yr ydym yn ddiolchgar i Dduw am y rhyddid a fwynheir genym, ond nid ydym yn diolch i ddynion, canys nid oes ganddynt hawl i'w atal oddiwrthym. Ni bydd Rhyddid Crefyddol Prydain yn gyflawn nes y byddo y sectau a elwir Eglwysi Lloegr a Scotland wedi eu dadgysylltu oddiwrth y Llywodraeth, a'u gosod ar yr un tir a'r enwadau eraill. Mae arwyddion yr amserau yn dangos, nad yw yr adeg pan y cymer hyny le yn mhell.

Nodiadau[golygu]

  1. Strype's Life of Archbishop Parker. Vol I., pp. 404—5. Ed. 1821.
  2. Strype's Annals of the Reformation. Vol. IV., pp. 293.
  3. Penry's Exhortation. Page 31, &c. 1588.
  4. The Lambeth, MSS. Vol. 943.
  5. Dr. Llewellyn's Historical Account. P. 36.
  6. Penry's Equity of an humble Supplication, pp. 57. 1587.
  7. Baxter's life and times, by Calamy. Vol. I., p.p. 46-52. Ed. 1713.
  8. . Powell's Bird in the Cage.—Second Edition, 1662. Neabs History of the Puritans. Vol. III., p. 22
  9. Whitelock's Memorials, p.p. 518.