Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Hyfrydle

Oddi ar Wicidestun
Baladeulyn Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog

gan William Hobley

Rhosgadfan

HYFRYDLE.[1]

HYFRYDLE oedd y drydedd gangen o eglwys Talsarn. Yr oedd capel Talsarn wedi myned yn fychan i'r gynulleidfa, ac yr oedd golwg am gynnydd yng nghymdogaeth y Creigiau mawr, a thai yn cael eu hadeiladu yno. Barnai eglwys Talsarn ei hunan mai adeiladu capel yma oedd y goreu.

Tachwedd 4, 1866, y sefydlwyd eglwys yma. Y Parch. William Hughes a flaenorai gyda'r gwaith, megys mai efe oedd y prif ysgogydd gyda mudiadau crefyddol ac addysgol yn yr ardal yn gyffredinol. Cynorthwyid ef yn hynny gan Owen Rogers, Thomas Jones y crydd (Tŷ capel), a William Griffith Penycae (Coetmor). Ymadawodd 60 o aelodau o Dalsarn ar sefydliad yr eglwys yma. Rhoes y fam-eglwys £300 i'r eglwys hon ar yr achlysur. Agorwyd y capel yn ffurfiol ar y Nadolig, pryd y gwasanaethwyd gan David Jones Treborth, John Pritchard Amlwch, William Morris Rhuddlan.

Sicrhawyd y brydles ar y tir am 60 mlynedd o 1866, am £3 12s. Buwyd yn adeiladu yn ystod 1865-6. Yr holl draul, gan gynnwys y tŷ capel, £1520. Nid oedd llofft ar y capel ar y cyntaf, a chwynid am adsain ynddo. Joseph Thomas, mewn cyfarfod pregethu yma, a gwynai nad allai gael y gair olaf ganddo! Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1866, 81. Nifer y plant, 51. Athrawon yr ysgol Sul, 21; ysgolheigion, 120. Cyfrifid y gwrandawyr yn 250. Y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn, £1100. Gosodid 200 o eisteddleoedd, a chyfrifid fod y capel yn dal 410. Naw ceiniog oedd cyfartaledd pris pob eisteddle. Fe welir fod yr eglwys erbyn diwedd y flwyddyn 1866, ei hunan wedi talu £120, yn ychwanegol at y £300 a dderbyniwyd yn rhodd gan y fam-eglwys.

Symudodd y Parch. W. Hughes yma o eglwys Talsarn, ond ni ddaeth yr un o flaenoriaid y fam-eglwys yma ar y cychwyn. Yn niwedd 1866, fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Owen Rogers, Thomas. Jones Tŷ capel, William Griffith Coetmor. Y cyntaf yn flaenor yr allanolion, yr ail yn flaenor y gân, yr olaf yn flaenor y mewnolion.

Trefnwyd Hyfrydle yn daith â Bethel yn 1867.

Cynnydd graddol ar y cyntaf. Yn niwedd 1868, rhif yr eglwys, 96; casgl at y weinidogaeth, £37 7s.; swm y ddyled, £988. Yn 1873, sef ymhen pum mlynedd,-y rhif, 114: casgl at y weinidogaeth, £42 5s.; swm y ddyled, £893.

Yn 1870 ymadawodd William Griffith Coetmor i Benygroes, a galwyd ef i'r swyddogaeth yno. Cyn bo hir, sef rywbryd yn 1871, debygir, symudodd Owen Rogers, hefyd, i Lanllyfni, a bu yn flaenor yno am oddeutu 6 blynedd, sef hyd 1877, pryd y dychwelodd yn ol i ardal Talsarn ac eglwys Hyfrydle.

Ionawr 25, 1871, dewiswyd William Thomas Bron eryri yn flaenor. Tachwedd 16, 1871, dewiswyd William Griffith Bronmadoc a John Owen (Railway Terrace). Symudodd John Owen i Borthmadoc. Nodweddid ef gan ffyddlondeb i bob moddion. Bu William Griffith ar ol hyn yn ysgrifennydd yr eglwys am chwarter canrif.

Oddeutu'r pryd hwn, fe fu yma ddigwyddiad go hynod. John Owen Jones Capel Coch oedd wedi pregethu ar fygythion yr Arglwydd yn erbyn yr anuwiol, a gofynnwyd yn y seiat ar ol, a oedd rhywun wedi aros o'r newydd. Cododd Robert Benjamin Williams ar ei draed, a gwaeddodd allan, "Oes, y fi," gan godi ei law i fyny. Eisteddodd i lawr, ac yn y fan bu farw.

Mai 3, 1874, dewiswyd yn flaenor, Robert O. Roberts Bryncelyn. Mawrth 22, 1876, galwyd y Parch. William Hughes yn ffurfiol yn fugail ar yr eglwys. Erbyn y flwyddyn hon yr oedd rhif yr eglwys yn 144, cynnydd o 30 ers 3 blynedd. Y ddyled yn £750.

Bu Thomas Jones, un o'r tri blaenor cyntaf, farw, Mawrth 22, 1877. Dywed Owen Rogers am dano ei fod yn hynod weithgar a chydwybodol gyda'r achos yn ei holl rannau." Efe hefyd oedd arweinydd y canu. Canwr gwych yn ei ddydd. Rhoid yr enw o bencantor" arno cyn dyfod ohono i Hyfrydle. Ceidwad yr athrawiaeth. Athraw rhagorol. Llafuriodd yn ffyddlon gyda'r plant.

Yn 1879 yr ail wnawd llawr y capel, ac y rhoddwyd llofft arno. Y draul oddeutu £1,000. Swm y ddyled y flwyddyn hon, £1,383. Rhif yr eglwys, 167. Tachwedd 19, o'r un flwyddyn, y dewiswyd John Williams Frondirion a William Williams Frondeg yn flaenor- iaid. Wedi symud yma yr oedd y blaenaf o Cesarea, lle yr ydoedd yn y swydd ers 1871—2. Medi 29, 1879, y bu farw y Parch. W. Hughes. Yr oedd ef yn wyr i William Dafydd, y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn Llanllyfni. Cafodd y fraint o'i fedyddio gan Mr. Lloyd Caernarvon. Hoffter neilltuol at ddarllen yn blentyn. Cyn bod ohono yn ugain oed yr oedd wedi myned drwy'r Beibl liaws o weithiau, ac yr oedd llawer ohono o'r pryd hwnnw ymlaen yn ei gof. Wedi cyrraedd deunaw oed, ar ol bod am flwyddyn mewn ysgol yng Nghaer, fe gafodd le fel cyfrifydd yng Nghloddfa'r Lôn. E fu yn y swydd honno am 41 mlynedd. Wedi ei eni yn 1818, fe'i gwnawd yn flaenor yn Llanllyfni yn 1842, ac yn 1844 fe ddechreuodd bregethu yn Nhalsarn. E fu am ysbaid yn Cesarea. Bu'n arholydd y Cyfarfod Ysgolion yn ystod 1852-70. Ymunodd â Hyfrydle am y tybiai fod mwy o angen ei wasanaeth yma. Gwr chwe troedfedd o daldra, teneu ac esgyrniog, â golwg difrif arno. Llygaid go fawrion, llym eu hedrychiad. Arafaidd, pwyllog, penderfynol ei ffordd. Cerdded â'i ben yn isel, a chamu ymlaen fel gwr yn mesur tir, pob cam yn llawn llathen. Gofalu am le sych i ddisgyn arno ar y ffordd. Tuedd at absenoldeb meddwl gyda'i orchwyl yn y chwarel. Mynnu popeth yn iawn er hynny. Synwyr da a barn ei brif nodweddion fel meddyliwr. Llefarwr diwastraff. Chwilio dipyn yn hamddenol am eiriau cymeradwy. Fel bugail eglwys, araf yn dod i adnabod ei braidd; ond yng ngrym callineb a phwyll yn arweinydd llwyddiannus. Argyhoeddai bawb o'i degwch. Porthai braidd Duw â gwybodaeth ac â deall. Ar y blaen gydag achos addysg. Y prif ysgogydd gyda'r ysgol ddyddiol a gynelid yn y capel, ac wedi hynny. Casglodd lawer tuag ati. Gweithredai hefyd fel ysgrifennydd. Etholwyd ef drachefn ar y Bwrdd Ysgol, a dewiswyd ef yn ysgrifennydd. Iddo ef yn bennaf o bawb y mae'r ardal yn ddyledus am ofalu am addysg y trigolion yn yr amser a fu.

'Roedd ôl cymundeb â'r ysbrydol fyd
Yn amlwg ar ei feddwl

Tua llinell y priodol
Safai ef mewn gair a moes
Gwylio byddem ar ein tafod
Yn ei bresenoldeb ef:
Mwy effeithiol na'n cydwybod
Ydoedd ei esiampl gref.

Dyma egwyl ymddifyrru
Gyda'i deulu wedi dod.


Try'r difrifol wr i wenu
Medr chware ar holl dannau
Calon bur y plentyn bach
Ond ynghanol y llawenydd
Ceidw'i le fel tad a sant.

Hen gynefin ei feddyliau
Ydyw llwybrau'r ysgrythyrau.

Iawn gyfranna air y bywyd
Wedi mynd trwy'r rhan ddechreuol
Yn ddirodres, syml, difrifol,
Edrydd i ni'r adnod fydd
Dan ystyriaeth, a naturiol
Yw y pwyslais arni rydd.
Adnod seml, hanesyddol,
Ydyw—tywys yntau ni
Drwy'r amgylchiad—(mor ddyddorol !)
Gynt a'i hachlysurodd hi.
Yna seilia arni fater—
Mater haedda sylw'r oes,
Mater cymwys iawn ar gyfer
Ei harferion, ysbryd, moes.
Nid yw'n siarad yn daranol,
Nid yw'n edrych yn fygythiol,
Nid yw'n yngan dim eithafol,
Er ei fod yn magu gwres.
Digon prin yw'r geiriau dynol,—
Gwell yw'r hen adnodau dwyfol :
Diau fod eu swn effeithiol
I'r caleta'n gwneuthur lles.
Nid oes yma ehediadau,
Na chynhyrfiol feddylddrychau,
Nac areithiol ysgogiadau,
Na hyawdledd meddwl dyn.
Dim ond syml egwyddorion,
Doeth geryddon a chynghorion
Wedi eu trwytho â detholion
Geiriau'r Beibl pur ei hun
Dyn sydd yma
yn teimlo'i fod yngwyddfod,
Ac yn llaw'r Cymodwr mawr. (Alafon).

(Cofiant W. Hughes, gan H. Menander Jones. Goleuad, 1879, Hydref 11, t.13)

Yn nechre 1881 trefnwyd Hyfrydle yn daith gyda Baladeulyn. Gynt gyda Bethel, Penygroes.

Yn 1883, R. O. Roberts yn symud i Lanllyfni. Yn 1885 y daeth y Parch. David Jones, gynt o Lanllyfni, yn ol o sir Ddinbych, ac a ymaelododd yma, gan aros yma hyd 1889.

Bu Owen Rogers farw Mawrth 3, 1890, yn 68 oed, ac wedi bod yn flaenor yma o'r cychwyn. Yr ydoedd ef yn frawd i'r Parch. Robert Owen Tŷ draw, ac yn dwyn tebygrwydd gwanaidd iddo. Nid hwyrach mai yn yr arwyddion o ddiystyrrwch y gwelid y tebygrwydd hwnnw fwyaf, sef yn y wên ysgafn, y chwerthiniad isel yn y gwddf, y troi ymaith yn ffrwt. Gwelid y tebygrwydd, hefyd, yn sydynrwydd eu hysgogiadau. Nid oedd gryfed cymeriad a'i frawd, ac, yn enwedig, yr oedd cylch ei feddwl yn llai. Fel ei frawd, yn wr call, ymarferol, ymroddedig iw orchwyl, o argyhoeddiadau crefyddol, ac yn wasanaethgar drwy gydol ei oes gyda'r achos. Bu ef yn oruchwyliwr am flynyddau ar chwarelau Coedmadoc a Chloddfa'r coed, ac enillodd ymddiried meistriaid a gweithwyr. Fel blaenor yn Hyfrydle, bu'n ffyddlon dros ystod ei dymor: ni fu neb mwy felly yma. Mewn pethau yn dwyn perthynas â gwedd allanol yr achos y rhagorai. Yr ymarferol oedd ei gylch; ac ni honnai yntau bethau rhy uchel iddo. Dyma eiriau Mr. W. Williams am dano yn y wedd honno arno: "Dyn y pethau bychain ydoedd yn hytrach na'r pethau mawr. Ac anaml y gwelwyd neb yn adnabod ei le a'i waith yn well nag ef. Nid oedd neb yn fwy parod i gyflawni unrhyw wasanaeth a fyddai ei eisieu gyda'r achos; ac nid ymaflai yn unrhyw orchwyl na fedrai arno. A pha beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo, fe'i gwnae a'i holl egni-yn brydlawn a thrwyadl. Bu am flynyddau yn arolygu chwareli, ac ystyrrid ef yn un o'r goruchwylwyr mwyaf medrus yn y Dyffryn. Nid oedd ei ofalon fel goruchwyliwr, chwaith, yn gormesu i raddau gormodol ar ei gysondeb a'i ffyddlondeb gyda'r achos crefyddol. Er mai efe oedd yr aelod a'r swyddog hynaf yn yr eglwys, a bod ei amgylchiadau a'i safle yn y byd dipyn uwch na'r cyffredin, nid oedd oherwydd hynny am gael mwy o sylw a gwrandawiad na'r lleiaf o'r swyddogion. Yr oedd yr elfen anhunanol hon yn ei ymwneud â'r swyddogion yn werthfawr iawn ynddo."

Symudodd H. Menander Jones yma o Garmel yn 1893, a galwyd ef i'r swyddogaeth yma, megys ag yr ydoedd o'r blaen yng Ngharmel. Efe yr olaf yn Arfon a alwyd i'r swydd heb bleidlais ddirgel.

Ar ei ymddiswyddiad fel gweinidog Tanrallt yn niwedd 1893, ymaelododd Mr. Owen Hughes yma.

Arweinwyr y gân ar ol Thomas Jones y crydd: Henry Hughes (Tanrallt), Trevor Owen Lewis, Owen Roberts, William Owen Jones, J. O. Jones.

Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol: "Ysgol fywiog, wedi ei threfnu yn dda, ac yn meddu ystafell gyfleus i'r plant. Gwneir mwy o ddefnydd o gardiau yma, gyda'r dosbarthiadau ieuengaf, nag yn yr un ysgol arall yn y dosbarth. Nodir meusydd i'r ysgol i'w dysgu allan, a phrofir y gwaith yn hyn gan swyddog penodedig. Ystyriem hyn yn gam yn y blaen. Arferir cyfnewid athrawon y dosbarthiadau oll yn flynyddol. Dichon fod i hyn ei fantais a'i anfantais."

Gellir cael rhyw syniad pellach am raddau cynnydd a gweithgarwch yr eglwys drwy'r ffigyrau yma: Rhif yr eglwys yn 1885, 207; dyled, £983. Yn 1890, rhif, 155; dyled £965. Yn 1895, rhif, 158; dyled, £815. Yn 1900, rhif, 199; dyled, £526.

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif Owen Rogers, yn dwyn yr hanes i lawr i 1883. Cofiant William Hughes, gan Hugh Menander Jones, 1881. Nodiad ar Owen Rogers gan Mr. William Williams. Nodiadau gan Mr. G. H. Roberts Tŷ capel.