Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Dafydd Humphrey a'i Gydlafurwyr
← Trem ar Gorris | Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd gan Griffith Ellis, Bootle |
Humphrey Davies, Abercorris → |
PENOD III
DAFYDD HUMPHREY A'I GYDLAFURWYR
ADRODDWYD eisoes hanes troedigaeth Dafydd Humphrey, a'r "cyfamod" a wnaeth â Duw, "i'w gymeryd ef yn Dduw, a'i bobl yn bobl, a'i achos yn waith iddo, tra y byddai byw ar y ddaear." Yr oedd hyn yn 1781; ac nid oedd y pryd hwnw un 'achos' yn Nghorris, nac yn y plwyf ond oedd yn yr hen Eglwys. Ymhen naw mlynedd ar ol hyn, (yn 1790), fel y gwelsom, nid oedd yn ymuno â'u gilydd i gychwyn achos Methodistaidd ond pedwar heblaw efe ei hun. Credodd D.H. mai nid felly yr oedd i barhau; ac "ymdrechodd ymdrech deg" am oes faith i godi Teyrnas yr Arglwydd Iesu yn ei ardal. Ac nid hawdd i ni bellach ydyw rhoddi y gwerth priodol ar ei lafur, gan y gofyn i ni ymdrech neillduol i sylweddoli ei anfanteision.
Yn 1785 nid oedd ond pedwar o gapelau yn Sir Feirionydd, sef yn y Bala, Penrhyn, Dolgellau, a Ffestiniog. Ac yn yr un flwyddyn, nid oedd un pregethwr i'w gael o Roslan yn Sir Gaernarfon, hyd Machynlleth yn Sir Drefaldwyn. ('Methodistiaeth Cymru i. 572, 574.) Yr oedd eisoes, (yn 1780), yn y Bala rai cynghorwyr heblaw yr Hybarch John Evans. Y flwyddyn hono y dechreuodd Dafydd Cadwaladr bregethu; yn 1791 y dechreuodd Lewis Morris; ac yn 1793 y dechreuodd Robert Griffith, Dolgellau. Yn 1785 yr ymunodd Mr. Charles a'r Methodistiaid. Pan glywid fod pregeth yn cael ei disgwyl yn un o'r ardaloedd cylchynol,—Llanwrin, Towyn, Machynlleth, Dolgellau—cytunid ar fod cwpl o'r meibion yn myned yno, ac yn dwyn yn ol gyda hwynt yr hyn y gallent ei gofio i'r chwiorydd gartref.
Fel y dywedwyd eisoes, nid oedd ond tri o frodyr yn perthyn i'r gymdeithas fechan am lawer o amser; a'r rhai hyn oeddynt Dafydd Humphrey, Richard Anthony, a Lewis Pugh. Symudodd y diweddaf i ardal y Cwrt, ac oddiyno drachefn i gymydogaeth Llwyngwril neu y Bwlch. Os nad ydym yn camgymeryd, yn Bodgadfan y preswyliai; a merch iddo oedd gwraig gyntaf y diweddar Mr. William Owen, Bodgadfan. Bu y gwr hwn yn hynod ffyddlawn am lawer o flynyddoedd. Cymerwyd ei le yn yr Hen Gastell gan John Richard, yr hwn a elwid bob amser Shôn Rhisiard. Yn y cyfnod boreu hwn ystyrid fod un athraw yn ddigon yn yr Ysgol Sabbothol fel yn yr Ysgol Ddyddiol; ac arosai y tri brawd gartref yn eu tro. Tro Shôn Rhisiard oedd ar un adeg pan yr elai Dafydd Humphrey a Richard Anthony i Fryncrug, i wrando ar y seraph, Robert Roberts, o Glynnog, yn pregethu; ond yr oedd y caethiwed yn ormod i'r hen frawd ; a chyn i'r ddau eraill gyraedd pen eu taith, yr oedd y trydydd gyda hwynt yn myned am ran o'r un wledd. Ni byddai y chwiorydd yn digaloni er eu gadael eu hunain. Bu yn arfer am flynyddoedd, oherwydd arswyd y Ffrancod, gadw cyfarfod gweddi ddeuddeg o'r gloch bob dydd Mercher; a mynych y lluddid y brodyr gan gyfyngder eu hamgylchiadau i—fod yn bresenol. Ar yr adegau hyn byddai y chwiorydd yn gweddio eu hunain. Un tro torodd un chwaer i lawr, a chyfarchodd chwaer arall, "Gweddia di, Catrin bach, mae rhywbeth arna' i, y'r ydw' i yn misio." Dywedai un oedd yn bresenol na welodd gyfarfod mwy effeithiol erioed.
"Cadw tŷ yn y nos" y bu y brodyr a'r chwiorydd,—yn hytrach y tadau a'r mamau hyn; ond buont yn hynod ffyddlawn. Agorodd Dafydd Humphrey ei dŷ i dderbyn gweision yr Arglwydd ar eu hymweliadau ar gymydogaeth. Bu Mr. Charles yn y lle rai troion ; a chofiwn rai hen wragedd a adroddent gyda pheth ymffrost iddynt hwy, pan yn enethod, gael eu holwyddori ganddo. Un o'r rhai hyn oedd y ddiweddar Sarah Jones, Abercorris. I Dafydd Humphrey y gofynai Mr. Charles un tro pan yn myned heibio, "A oes yr un ceiliog yn canu yn ardal yr Ystradgwyn yma, Dafydd ?" "Nac oes, yr un," ebe yntau. "Ow, Ow," meddai Mr. Charles. "Codwch Ysgol Sabbothol yma." Ac felly y gwnaed. Bu D. H. ac eraill yn myned yno am amser i gadw ysgol, a chyfarfod gweddi: ac yn llwyddo yn achlysurol i gael ambell bregeth i'r gymydogaeth. Lled anhywaith oedd pobl yr Ystradgwyn y pryd hwnw ; ac adroddir i'r Parchedig John Roberts, Llangwm, orfod troi o'r maes unwaith heb bregethu, gan ei adael yn meddiant gwŷr y bel droed. Cafodd hamdden i bregethu mewn lle arall i'r ychydig a'i dilynasant. Dafydd Humphrey a fu yn chwilio am le i Lewis William gadw ysgol yn yr ardal ac yn Dolydd Cae y cafwyd drws agored. Tad y diweddar Mr. John Owen—Owen Dafydd—a wnaeth y caredigrwydd hwn, a hyny yn benaf er mwyn pump o fechgyn oedd ganddo mewn angen am addysg. Yn y gegin y cynhelid yr ysgol; a byddai y wraig yn gwneyd gwaith y tŷ yn y nos, er mwyn rhoddi tawelwch i'r athraw gyda'i ddisgyblion yn ystod y dydd. Nid ydym yn gwybod i sicrwydd a oedd yr Ysgol Sabbothol wedi ei dechreu cyn hyn; Dywed Mr. John Owen, Ty'nymaes, yr hwn sydd ŵyr i'r Owen Dafydd uchod, mai o ysgol Lewis William y bu ei chychwyniad. Bu Dafydd Humphrey, Richard Anthony, Shôn Rhisiard, a Richard Owen, Ceiswyn, (yr hwn a grybwyllir eto), oll yn ymdrechgar gyda'r gwaith yn ei wendid. Yn Ty'n y Wins, gerllaw y capel presenol, y buwyd yn pregethu gyntaf gyda gradd o gysondeb. Tua'r flwyddyn 1828 yr adeiladwyd y capel yno; ac ar ffurfiad yr eglwys ymunodd â hi o 25 i 30 o aelodau Corris. Ond ymddengys mai i Gorris y buont yn myned i gyfranogi o'r ordinhad o Swper yr Arglwydd am flynyddoedd. Y Parchedig John Peters, Trawsfynydd, a weinyddodd yr ordinhad hon gyntaf yn yr Ystradgwyn.
Mae ychydig ansicrwydd am yr amser yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Nghorris. Ar y gareg yn mur y capel y mae yr ysgrifen ganlynol:
Rehoboth
A adeiladwyd y tro cyntaf—1813;
" " " " Yr ail dro—1834;
" " " " Y trydydd tro—1869;
Ond yn y 'Drysorfa,' 1840, dywedir mai yn 1816 yr aed ati o ddifrif i addladu capel. Pa un bynag o'r ddau ddyddiad sydd yn gywir, gwelir i fwy na 30 mlynedd wedi dychweliad Dafydd Humphrey, a mwy nag 20 mlynedd wedi cychwyniad ffurfiol yr achos,—os bu y fath gychwyniad o gwbl—fyned heibio cyn i hyny gymeryd lle.
Dywed y Parchedig Robert Owen, M.A Pennal, wrthym fod cofnodau y Cyfarfod Misoi yn dangos mai yn 1832 yr adeiladwyd capel yr Ystradgwyn. Nid ydym yn gwybod pa fodd i gysoni hyn a'r hanes uchod a gawsom oddiyno. Nid yw :yn debyg i•r Parchedig John Peters fod yno ar ol 1832, y blwyddyn y cyfarfu A damwain a'i hanalluogodd i fyned nemawr oddicartref hyd ddiwedd ei oes yn 1835 heibio cyn i hyny gymeryd lle. Ychydig cyn adeiladu y capel, bu y cyfeillion crefyddol mewn sefyllfa o ddigalondid mawr. Yr oedd yr amseroedd yn gyfyng, a thlodi y preswylwyr yn ddygn; ac am ryw ysbaid gollyngwyd i lawr y cyfarfodydd eglwysig; ond cymerwyd ail feddwl, a gweithiwyd yn egniol nes cael y capel i fyny. Rhoddodd D. H. dir i'w adeiladu arno, a gweithiodd ef, a'i weision, a'i anifeiliaid, yn galed er dwyn y gwaith i ben. Yn 1819, cafwyd diwygiad grymus trwy yr hwn yr ychwanegwyd o 65 i 70 o aelodau; a chyfododd y cyfanrif i 80, ond syrthiodd drachefn i 60 trwy farwolaethau, symudiadau, a gwrthgiliadau. Yr adeg uchod y dechreuodd yr achos yn Nghorris enill goruchafiaeth; ac o hyny allan bu ganddo ddigon o nerth i dori dros bob anhaws- derau yn ei ffordd.
Nid hawdd erbyn hyn ydyw cyflwyno darlun bywiog a chywir o'r hen bererinion fuont yn gychwynwyr Methodistiaeth yn Nghorris. Cyfyng oedd gwybodaeth yr hynaf a'r blaenaf o honynt, Dafydd Humphrey, neu fel y gelwid ef gan bawb yn ei flynyddoedd olaf, "fy ewyrtlı Dafydd Wmphra;" a bychain oeddynt ei ddoniau. Ei ragoriaethau amlwg gyda chrefydd oeddynt ffyddlondeb a gwres. Ac yr oedd bob amser yn hynod gysurus. Rhoddodd ei "achos drwy" yn y dechreu i'r Arglwydd Iesu, ac ni fynai ei faeddu mwyach gan ddyn na diafol. Bu y "cyfamod" yn ffaith ddiamheuol byth yn ei brofiad. Yr oedd y cyfarfod eglwysig un tro yn bur ddihwyl; a dechreuodd Shon Rhisiard,—y mwyaf ei allu a'i ddoniau o'r tri—adrodd ei deimlad mewn tôn hynod bruddglwyfus. "Mae arna' i ofn y dyddiau yma," meddai, "nad ydw'i ddim wedi dechreu yn iawn gyda chrefydd erioed; ond y mae yn gysur gen' i feddwl y cảf ei hail ddechreu o'r newydd heno eto." Athrawiaeth nad oedd yr hen batriarch yn ei deall oedd hon; ac nid oedd ganddo amynedd gyda hi o gwbl. "Twt, twt, twt," meddai, "y peth gwiriona' glywas i erioed; ail ddechra, ail ddechra, o hyd o hyd—Mi wnes i gyfamod â'r Gwr unwaith yn y dechra, a gloewi'r cyfamod, gloewi'r cyfamod y bydda' i byth wedyn. Pa eisio all ddechra o hyd o hyd! Twt, twt, twt." I feddwl Dafydd Humphrey yr oedd y cyfamod a 'wnaethai unwaith yn gyfamod tragwyddol.
Anfynych y bu neb yn mwynhau gweinidogaeth yr efengyl yn fwy; ac yn yr oes hono nid oedd ein tadau wedi meddwl yn angenrheidiol gelu eu mwynhad oddiwrth eu gilydd. Clywsom y Parchedig Roger Edwards yn adrodd ei hanes yn pregethu yn Nghorris, yn nechreu 1831. Llencyn ieuanc oedd efe y pryd hwnw, wedi dechreu pregethu yn niwedd 1830; ond nid oedd ei ieuenctid yn creu dim rhagfarn yn ei erbyn yn meddyliau yr hen frodyr yno. Pregethai yn Aberllefenni nos Sadwrn; yr oedd yn Rehoboth foreu Sabbath, yn y Cwrt am ddau, ac yn yr Ystradgwyn y nos. Yr oedd D. H. mewn hwyl orfoleddus, yn chwerthin yn uchel, gan ddywedyd drachefn a thrachefn, "Ha, Ha, Ha! 0! diolch, 0! diolch." Curai ei ddwylaw yn barhaus, a chyfarchai y pregethwr mewn modd hynod o gartrefol ac anwyl. Byddai yn mwynhau y gwirionedd yn rhyfeddol ei hun; ond yn llawn mor ofalus yn gwylio ei effeithiau ar eraill. Gwrandawai yn fynych a'i wyneb at y gynulleidfa; ac os gwelai arwyddion fod y gwrandawyr yn teimlo nis gallai beidlo dangos ei lawenydd ar y pryd; a bydd.ai yn siwr o alw gyda hwy ar unwaith i geisio dwyn y mater mawr adref at eu meddyliau. Fel hyn y dywedir yn ei gofiant yn y 'Drysorfa '—
"Bob amser sylwai yn moddion gras pwy fyddai yn cael ei nodi dan y Gair; yna ai yn ddioed i ymofyn y cyfryw i'r ty gan ddweyd wrtho "Tyred, y mae efe yn dy alw di" Ai ei hun un fynych hyd flaenau cymoedd Coirris [ac Aberllefenni hefyd] i wahodd pawb i'r Ysgol Sabbothol; a'r rhai y byddai dim ar eu meddwl am eu cyflwr, dangosai iddynt y croesaw sydd iddynt yn yr egwys, ac yn nhrugaredd Duw." Yn mhrofiad Dafydd Humphrey—neu yr oedd diogelwch yr—efengyl yn ffaith fyw; a'i amcan mawr. ar hyd ei oes fu cael ei gymydogion i feddiant o'r un peth ag oedd wedi ei brofi yn ei ysbryd ei hun. Yr oedd arno, ofn rhagrith yn yr eglwys. Ei genadwri olaf o wely angau gyda William Richard ac Owen Jones,—dau o'r blaenoriaid—ydoedd, "Dywedwch wrthynt oll am ymofyn am grefydd dda; Mae crefydd llawer yn darfod yn angau." Ond yr oedd yn hollol ymwybodol fod y gwirionedd ganddo ef ei hun. Teimlai bryder gyda golwg ar ei wyrion, a'i gyngor olaf iddynt oedd, "Byddwch fyw yn dduwiol; rhodiwch ar hyd canol llwybrau barn. Gweddiwch a gwyliwch rhag i chwi byth adael eglwys Dduw." A theimlai bryder hefyd gyda golwg ar ddyfodol yr eglwys. Ddeuddydd cyn ei farwolaeth,—felly yr adroddir yn y 'Drysorfa'—" galwodd ar y brawd Rees Jones, Bermo, at ei wely a dywedodd wrtho :—' Mewn perthynas i'r cyfeiliornadau sy'n codi y dyddiau hyn yn nghylch gwaith yr ysbryd Glan, dymunaf i chwi adael chwareu teg i'r TRI ddyfod i'r maes yn iachawdwriaeth pechadur. Cedwch ddigon o glychau o'u deutu; a gweddiwch lawer na chaffoch byth eich gollwng i'r fath dir a gwadu yr angen am Ei waith.'" cyhuddwyd aml un o'r 'cyfeiliornad' hwn yn y cyfnod uchod yn bur ddiachos; ond y Mae yn amlwg fod yr hen batriarch o Abercorris ei hunan yn weddol iach yn y ffydd, ac yn dra awyddus pan yn ymyl tragwyddoldeb am i'r praidd, ar ol ei ymadawiad ef, gael derbyn "y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu." Wedi llefaru y geiriau uchod, dywedodd "ddarfod i'r Arglwydd ddaw y byddai Efe yn Dduw iddo yn nechreu ei grefydd; a bod y 'cyfamod' yn dal yn y dymestl." A chanodd y llinellau:—"
'Does bwlch yn hwn, fel modrwy 'n grwn y mae A'i glwm mor glòs, heb os nac oni bae."
Bu farw Rhagfyr 19, 1839, yn 83 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Talyllyn a dyma yr argraff ar gareg ei fedd:—
Yma y claddwyd Humphrey Davies Ty'nyceunant a Mary Howells ei wraig. | |
Efe a fu farw Ionawr 24 1785 Yn 70 mlwydd oed |
Hi a fu farw Awst 24 1804 Yn 86 mlwydd oed |
Hefyd Eu Mab David Humphreys, ABERCORRIS. ac Elisabeth Owens ei wraig | |
Efe a fu farw Rhagfyr 19 1839 Yn 83 mlwydd oed. |
Hi a fu farw Gorphenaf 22 1834 Yn 74 mlwydd oed. |
Paham y gelwid ei wraig Elisabeth Owens nid ydym yn sicr. Merch ydoedd, fel y gwelwyd, i Jane Roberts, y Rugog. Digon tebyg mai Owens oedd cyfenw priod Jane Roberts. Gwelir mai mab Ty'nyceunant oedd Dafydd Humphrey. Dywedasom eisoes mai yn Eglwys y plwyf y priodwyd hwy Chwefror 27, 1781 Buont ill dau yn byw gyda'u gilydd am fwy na 53 mlynedd.
Mae hanes yr hen batriarch hwn yn llawn addysg ymhen chwe' blynedd a deugain wedi ei farwolaeth, Fel y sylw'a Mr. Daniel Evans, yn yr hanes o ba un y gwnaethom ddyfyniadau mor fynych yn y 'Drysorfa,' "golwg isel iawn fu ar achos yr Arglwydd am y deugain mlynedd cyntaf yn Nghorris." Cyn y diwygiad yn 1819 nid oedd ond o 15 i 20 yn aelodau, er y buasent ar un adeg cyn hyny yn rhifo ychwaneg; ond erbyn marwolaeth yr hen batriarch, yn 1839, yr oeddynt yn rhifo o 180 i 190 Ac yn y diwygiad uchod cafodd D. H. y fraint o weled braidd yr holl blant y buasai yn eu dwyn i'r Ysgol yn y blynyddoedd gynt wedi eu dwyn i mewn i'r eglwys. Gweithiodd yn ffyddlon dan anfanteision mawrion, ac y mae y gymydogaeth hyd heddyw yn dra dyledus am y wedd sydd arni i'w lafur ef. Gwnaed yn y benod flaenorol gyfeiriad at Richard Anthony, fel clochydd Talyllyn, yn gwrthod cyhoeddi arwerthiadau amaethyddol ar y fynwent ar ol y gwasanaeth crefyddol ar ddydd yr Arglwydd. Yr oedd efe yn un o'r blaenoriaid cyntaf yn eglwys Corris. Bychain oeddynt ei ddoniau yntau; ond yr oedd yn hynod ffyddlon a chydwybodol. Yr ydym yn cofio yn dda hen rigwm, fu yn bur adnabyddus yn yr ardal am fychander ei ddoniau; ond nid ydym yn tybio y gwnaem unrhyw wasanaeth i grefydd wrth ei ddodi i lawr yma. Daw enw R. A. gerbron eto mewn cysylltiad â Rowland Evans.
Gwr a lanwodd le pwysig yn y cyfnod boreuol hwn yn eglwys Corris, er na bu erioed yn swyddog ynddi, ydoedd Shôn Rhisiard, yr Hen Shop. Yr oedd yn ehangach ei wybodaeth, ac yn helaethach ei ddoniau na'r brodyr oeddynt yn flaenoriaid yno, ac yn hynod mewn gwirionedd fel gweddiwr. "Mi hoffwn, Dic bach," meddai unwaith wrth Richard Anthony, "allu gweddio nes gwneyd plwyf Talyllyn yma yn nefoedd i bawb o'i fewn."
Tlawd a helbulus iawn oedd yn wastad o ran ei amgylchiadau. Cyfeiriwyd mewn penod flaenorol at ei siwrnai i le gerllaw yr Abermaw, i geisio ychydig o rûg yn ddefnydd ymborth iddo ef a'i deulu. Bu raid iddo gychwyn yn y boreu heb damaid o fwyd, a cherdded o 15 i 18 milldir i geisio y rhûg. Cafodd ar lawr, ar y glaswellt, yn rhywle ar ei daith, ddernyn chwe' cheiniog, yr hwn oedd yn ychwanegiad gwerthfawr at yr ychydig oedd ganddo i brynu. Cymerodd y rhûg ar ei gefn i'w falu yn Melin Aberllefenni; a rhaid oedd iddo aros i hyny gael ei wneyd, a myned a'r blawd adref drachefn i'r Hen Shop, a'i bobi yno cyn cael dim ymborth. Rhwng y lle y saif yn awr Tan yr allt ac Abercorris, teimlai yn hynod luddedig a digalon; a dywedai ynddo ei hun :—"Fy Nhad nefol 'rydw' i'n meddwl fy mod i yn un o dŷ blant di; ond yr wyt ti yn gwneyd yn bur galed â mi heddyw." Yr oedd erbyn hyn yn hwyr, ac yn lled dywyll; ond yn ebrwydd daeth ar draws pecyn bychan ar y ffordd. Erbyn ei godi, beth ydoedd ond torth, gyda swm o ymenyn mewn twll yn ei gwyneb, wedi ei cholli o un o'r gwageni a dramwyent y ffordd hono. Siriolodd hyn galon yr hen frawd; a mynych yr adroddai wedi hyny chwedl y darn torth, gan ychwanegu, "Yr oedd hi fel pe buasai wedi ei thori â chyllell angel."
Dyma y brodyr; dyma y tadau fuont yn gychwynwyr Methodistiaeth yn Nghorris. Nid oeddynt o lawer mor alluog a medrus ag amryw o'u dilynwyr; ond gwnaethant er hyny waith mwy anhawdd na neb a ddaeth ar eu holau. Myned i mewn i'w llafur hwy a wnaeth eraill; yn wir, eu llafur hwy a wnaeth y llwyddiant dilynol yn bosibl. Parchus byth fyddo eu coffadwriaeth!
Nid ydym yn proffesu ysgrifenu hanes yr enwadau crefyddol eraill yn y gymydogaeth; ond dichon nad ystyrir ni yn ymyryd â'r hyn na pherthyn i ni wrth wneuthur ychydig grybwyllion am danynt. A dodwn hwynt lawr yma, er fod amryw ohonynt yn ein cymeryd i adegau llawer diweddarach na dyddiau 'Dafydd Humphrey a'i gydlafurwyr.' Tua dechreu y ganrif bresenol y dechreuodd nifer o Wesleyaid o Ddolgellau ddyfod i gynal cyfarfodydd o dŷ i dŷ yn Nghorris. Thomas Owen, Ty'n y ceunant, tad y diweddar Hugh Owen, yr hwn a gafodd y fraint yn yr ardaloedd hyn o hebrwng allan hen oruchwyliaeth yr Ysgolion Dyddiol, a fu yn brif offeryn i adeiladu y capel cyntaf iddynt yn y gymydogaeth. Adeiladodd ef ar ei dir ei hun, ac i fesur mawr ar ei draul ei hun. Nid oedd yr adeilad ond bychan,—Capel Bach y gelwid ef; a safai yn nhroad yr hen ffordd yn ymyl Ty'n y ceunant. Yr oedd y Wesleyaid wedi ei adael cyn y côf cyntaf sydd genym ni am dano, a'r Methodistiaid yn cadw Ysgol Sabbothol ynddo. Y prif ŵr yn yr ysgol hono yn adeg ein mebyd ni oedd Richard Williams, yr Hen Ffactri, yr hwn hefyd oedd y dechreuwr canu yn Rehoboth. James Evans, Ty'n llechwedd, oedd un o brif golofnau yr achos Wesleyaidd yn ei gychwyniad. Taid Oedd efe i'r diweddar Barchedig James Evans, gweinidog gobeithiol a galluog gyda'r un Cyfundeb, a gymerwyd ymaith yn mlodau ei ddyddiau. Byddai pethau tra digrifol yn digwydd weithiau yn yr Hen Gastell. Wrth holwyddori yno un Sabbath gofynwyd y cwestiwn, "A ydyw yn ddyledswydd arnom gyflawni gweithredoedd da?" "Ydyw," oedd yr ateb. Gofynwyd eilwaith, "A gawn ni fyned i'r nefoedd am ein gweithredoedd da?" Ar ol distawrwydd am beth amser, atebodd un hen ŵr "Na chawn." "Wel, am ba beth y cawn ni fyned yno, ynte" meddai un arall, "ai am ein gweithredoedd drwg ?" "Ië, yn wir," meddai y trydydd, "am ba beth hefyd? Y mae yn ddigon i beri i'r plant feddwl fod yn well gwneyd drwg na da." Ond digwyddodd llawer mwy o bethau o natur ddigrifol yn y Capel Bach. Clywsom nifer o honynt, ond nid ydym yn teimlo unrhyw duedd i'w dodi i lawr yma. Gellir crybwyll un, sydd dra adnabyddus yn y gymydogaeth, a'r hwn sydd wedi ymddangos trwy y wasg o'r blaen. Pan Oedd hen frawd, yr hwn oedd un o'r cymeriadau mwyaf digrifol, yn gweddio unwaith, clywyd swn cerbyd yn dyfod, a rhuthrodd y plant oll tua'r drws neu y ffenestr i'w weled yn myned heibio. Yr oedd y brofedigaeth yn rhy gref i'r gweddiwr, a chododd yntau oddiar ei liniau i edrych gyda hwynt. Wedi i'r cerbyd ddyfod i'r golwg, dywedodd yr hen frawd, "Hŷ! Hen Sês Plas Isa'! ni awn ni ati hi i weddio tipyn eto, 'mhlant i."
Ymwasgodd y Llanwyr mwyaf zelog at y Wesleyaid yn lled fuan ar ol eu dyfodiad cyntaf i'r gymydogaeth; yr hyn a fu yn fantais neillduol i'w cynydd. Ac ymunodd rhai a hwynt a fuasent yn Fethodistiaid cyn hyny. Dau o'r cyfryw oeddynt Edward Thomas, a'i wraig Sarah Rhys. Glynodd un ferch iddynt, Elen Roberts, wedi hyny o Benygroes, wrth y Methodistiaid hyd ddiwedd ei hoes. Bu y dadleuon rhwng y ddau enwad yn frwd iawn am flynyddoedd, a'r teimladau a gynyrchid trwyddynt yn dra chwerwon. Dywedai Rowland Evans am y dadleuon hyn, fod y naill blaid a'r llall yn ymddwyn megis pe na buasai yn yr holl Feibl ond rhyw ddwsin o adnodau, a'r rhai hyny oll ar y materion mewn dadl rhwng y ddau enwad. Erbyn hyn y maent ymhlith y pethau a fu, a'r teimladau chwerwon wedi hen ddiflanu. Ein perygl bellach ydyw difrawder hollol am bob athrawiaeth; ac os disgynwn i'r tir hwn bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf.
Dywedwyd wrthym mai yn 1838 yr adeiladwyd capel Carmel, yn ymyl y ffordd newydd, yr ochr arall i'r afon ar gyfer Rehoboth. ac mai yn 1853 yr helaethwyd ef. Yn 1866 yr adeiladwyd Siloh, y trydydd o gapeli y Wesleyaid yn yr ardal. Yr un achos oedd yn y tri. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol adeiladu Siloh yr adeiladwyd capel yn agos i Dy'n y ceunant, gerllaw y fan y cychwynwyd yr achos y tro cyntaf.
Yn 1824 yr adeiladwyd Acchor, capel yr Annibynwyr, gerllaw Rhywgwreiddyn. Prif golofn yr achos yno oedd Hugh Pugh. Yn 1850, ar y 27ain a'r 28ain o Fedi, y symudwyd yi achos i Ben—y—graig, Corris; ac yn 1869 yr adeiladwyd Salem, y capel presenol, mewn lle mwy canolog a chyfleus. Yn 1855, ac yn benaf trwy lafur y diweddar John Stephen, yr adeiladwyd capel cyntaf yr Annibynwyr yn Aberllefenni; ac yn 1871 yr adeiladwyd, ar yr un llanerch, y capel presenol. Acchor oedd enw y cyntaf, a Bethesda yw y newydd.
Wnaed cais flynyddoedd lawer yn ol gan frawd a breswyliai yn Twrnpike Cefnyclawdd, i sefydlu yn y Capel Bach achos i'r Bedyddwyr; ond hyd yma y tri enwad uchod yn unig sydd yn meddu achosion yn y gymydogaeth. Y mae oddeutu 25 mlynedd er pan adeiladwyd yr eglwys newydd yn Nghorris gan y diweddar Ardalydd Londonderry.