Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Sylwadau Rhagarweiniol

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd

gan Griffith Ellis, Bootle

Trem ar Gorris

SYLWADAU RHAGARWEINIOL.

——————♦——————

TREF-DDEGWM yn mhlwyf Talyllyn, Swydd Feirionydd, ydyw Corris; ond defnyddir y gair yn fwy cyffredin fel enw ar ardal gyfansoddedig o'r dref-ddegwm uchod, a rhan o dref- ddegwm Ceiswyn, yn yr un plwyf. Yn y lle ei hun cyfyngir yr enw i'r pentref gwasgarog sydd wedi ei adeiladu ar derfyn y ddwy dref-ddegwm. Mae y pentref hwn ryw bum' milldir a haner o Fachynlleth, a thua deng milldir o Ddolgellau. Cyn dyddiau y rheilffyrdd yr oedd y ffordd sydd yn cysylltu y ddwy dref uchod, ac yn myned drwy Gorris, y brif dramwyfa rhwng Dê a Gogledd Cymru. Cafodd yr ardal felly lawer o freintiau pan oedd y pregethu teithiol yn ei ogoniant, ond fod y breintiau yn dyfod yn gyffredin ar ganol dydd,—adeg hynod anghyfleus i lawer o'r ardalwyr.

Llechweddog ac anwastad yw y tir ar ba un y saif y pentref, yn nghyfarfyddiad tri o gymoedd culion; ac y mae y bryniau uchel sydd o'i amgylch yn ymgau arno o bob tu. Pe safai dyn ar ei ganol,—yn ymyl y Ty-newydd, preswylfod Mr. Humphrey Davies, dyweder,—ni allai, gan dröadau ac anwastadrwydd y cymoedd, ac agosrwydd y bryniau, weled mwy na milldir i unrhyw gyfeiriad. Cauir y trigolion gan hyny i fesur mawr i gymundeb â'r ddaear dan eu traed, ac â'r nefoedd uwch eu penau, a gorfodir hwy i ddibynu ar ymweliadau achlysurol am wybodaeth ynghylch, hyd yn nod, y rhanau agosaf atynt o'r byd. Nid llawer o brydferthwch a berthyn i'r golygfeydd, er fod y coedwigoedd ar y naill law, a'r grûg a'r clogwyni ar y llaw arall, yn swynol, yn enwedig i ymwelwyr. Mae y llech-chwarelau wedi anffurfio cryn lawer ar wyneb y ddaear yno, a pheri i'w hesgyrn dremio yn hyllig trwy ei chroen; ond anhawdd, er hyny, yw cael unrhyw gymydogaeth yn meddu gafael dynach yn serch ei thrigolion. Cofiant am dani yn eithafoedd y ddaear, a llawenychant pan gaffont eilwaith olwg ar ei chymoedd a'i hafonydd, ei chlogwyni a'i mynyddoedd, ac yn enwedig ar weddill arbedol ei phreswylwyr.

Yn mlaen un o'r tri chwm a nodwyd, ychydig yn llai na dwy filldir o bentref Corris, y mae ardal Aberllefenni. Cymer yr ardal ei henw oddiwrth yr hen balasdy, sydd yn awr yn feddiant i R. D. Pryce, Yswain, Cyfronydd, Arglwydd Raglaw Sir Feirionydd. Wrth yr hen balasdy, y mae y cwm yn ymranu yn ddau: y naill o'r rhai hyn yw Cwm yr Hengae; ac y mae y llall, cyn cael unrhyw enw, yn ymranu yn ddau eraill, sef Cwm y Ddolgoed (neu Ceiswyn, ac yn ddiweddar yr Alltgoed), a Chwm Llwydiarth. Cofus genym glywed mai saith milldir yw y pellder o'r bont, gerllaw y palasdy, i Fachynlleth, Dolgellau, a Dinas Mawddwy; ond amheuasom gywirdeb y mesuriad lawer gwaith wrth gerdded y llwybrau meithion dros y mynyddoedd i'r ddau le olaf. Nid yw y mynyddoedd lawn mor agos yma ag ydynt yn Nghorris; ac y mae Dol y Felin a Gweirglodd Arthur yn rhoddi yn ddiau i'r Cwm fwy o hawl i urddas Dyffryn na dim y gellid yn rhesymol ei seilio ar Gae Dolybont a Gweirglodd Braichgoch yn Nghorris.

Yn yr ail Gwm, ar hyd ochr pa un y gorwedd y ffordd newydd rhwng Machynlleth a Dolgellau, y ceir yn awr y rhan fwyaf o'r boblogaeth. Yma y mae ardaloedd y Geuwern a Thy'n y berth. Wedi gadael y ddiweddaf o'r tu ôl, a myned ychydig ymlaen i gyfeiriad Dolgellau, deuir i ardal Ystradgwyn, yn gorwedd mewn dyffryn bychan, prydferth, a dymunol. Yn ngwaelod y dyffryn y mae Llyn Talyllyn,—y pysgodlyn goreu yn ddiau yn Nghymru; ac uwch ei ben y saif urddasol Gadair Idris. Mae y golygfeydd ar bob llaw, wrth fyned o Minffordd, amaethdy a arferai fod hefyd yn westy hyd yn ddiweddar, tua Dolgellau, gan adael y dyffryn a’r llyn o’r tu ol, mor ramantus ag unrhyw olygfeydd braidd yn Ngogledd Cymru. Wrth gongl isaf y llyn y mae hen Eglwys y plwyf, lawn saith milldir oddiwrth yr amaethdai yn mlaen Cwm Ceiswyn. Ond er y pellder, yr oedd amryw flynyddoedd o’r ganrif bresenol wedi myned heibio cyn bod un addoldy arall yn y plwyf; ac nid oedd ynddo yr un gladdfa oddieithr yr un gerllaw yr Eglwys hyd 1846.

Ar ganol y dyffryn y mae yn awr gapel bychan, perthynol i’r Methodistiaid. Gerllaw iddo y mae y llanerch a adwaenid gynt fel “Mawnog Ystradgwyn,” ond sydd yn awr yn feusydd trefnus a chynyrchiol. Bu y lle hwn am lawer o flynyddoedd yn fan cyfarfod “bechgyn Corris” a “bechgyn Ystradgwyn” i gicio pêl droed. Tua dwy filldir yn nes i Dowyn na’r hen Eglwys y mae pentref poblog Abergynolwyn. Mae y Cwrt wedi ei golli yn awr yn yr Aber. Saif y pentref hwn ar derfynau plwyfi Talyllyn, Towyn, a Llanfihangel-y-pennant. Yn ystod y pum’ mlynedd ar hugain diweddaf, y mae agoriad chwarel Bryneglwys wedi peri i’r ardal hon wisgo gwedd hollol newydd.

I gyfeiriad Machynlleth y rhêd y trydydd o’r cymoedd. Ychydig gyda milldir o Gorris y mae pentref Esgairgeiliog. Trwy y crybwyllion uchod, bydd gan y darllenydd ryw syniad am safle a pherthynas y gwahanol leoedd a ddaw dan sylw yn y tudalenau dyfodol.