Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Agwedd Foesol a Chrefyddol y Wlad cyn y Flwyddyn 1785

Oddi ar Wicidestun
Sylwadau Arweiniol Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Y Deffroad Crefyddol yn Ymledu

PENOD II

——————

ANSAWDD FOESOL A CHREFYDDOL Y WLAD CYN Y FL. 1785.

——————

CYNWYSIAD—Cyfnewidiadau can' mlynedd—Y ddau wr a ddeffrowyd gyntaf—Profion allanol a thufewnol—Arferion y gwahanol ardaloedd Gwyl Mabsantan—Troedigaeth John Vanghan, Tonfanau Interludiau—Dr. Pugh, Pennal—Ymladd Ceiliogod—Tystiolaeth y Ficar Pritchard—Llyfr y Chwareuon"—Siol Gladdu.

  MAE y flwyddyn 1785 yn flwyddyn arbenig yn hanes y rhan yma o'r wlad, yn gystal a phob rhan arall, am mai hi ydyw blwyddyn dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Mewn cysylltiad â chrefydd Cymru, bydd y flwyddyn hon yn llythyren goch yn ei hanes ymhlith holl flynyddau yr oesoedd. Yr ydys yn ei chymeryd hi yn y benod hon fel y terfyn-gylch sydd yn gwahanu rhwng tywyllwch a goleuni: y goleuni i gyd y tu yma i'r terfyn-gylch, a'r tywyllwch y tu draw iddo. Y ffordd i werthfawrogi goleuni y dydd ydyw, ei ddal ar gyfer a'i gymharu â thywyllwch y nos sydd newydd fyned heibio. Felly, mewn trefn i weled y daioni a wnaeth crefydd i'n gwlad, mae yn angenrheidiol i ni gofio am y tywyllwch, a'r anwybodaeth, a'r annhrefn mawr oedd ynddi, a hyny mor ddiweddar a chan' mlynedd yn ol. I lawer o bobl, nid ydyw prydferthion y greadigaeth, a golygfeydd swynol natur yn meddu ond ychydig at-dyniad, ac nid ydyw hynafiaethau, ychwaith, yn meddu unrhyw swyn iddynt amgen na bod yr haul a'r lleuad wedi cyfodi a machludo yn eu tro, a bod trigolion y wlad wedi eu geni, wedi byw, ac wedi marw, a dyna ddarfod am danynt. Ond a chaniatau mai ychydig ydyw nifer y rhai a fedrant gymeryd dyddordeb mewn pethau fel hyn, y mae y lliaws yn gwybod gwahaniaeth rhwng drwg a da, rhwng annhrefn a threfn, rhwng gwlad anwaraidd a gwlad wedi ei gwareiddio, rhwng gwlad heb neb ynddi yn ofni Duw a gwlad wedi ei llenwi â chrefyddwyr. Gwnaeth dylanwad pregethu yr efengyl a sefydliad yr Ysgol Sabbothol y gwahaniaeth hwn mor amlwg fel y gall y byraf ei ddeall ei ganfod. Ac mewn mor lleied o amser y gwnaed y fath wahaniaeth! Rhyfedd y cyfnewidiadau a ddygwyd o amgylch yn arferion ac agwedd foesol y trigolion mewn can' mlynedd Gan' mlynedd yn ol, yr un oedd terfynau ac amgylchoedd daearyddol y wlad yn hollol ag ydynt yn awr. Pe buasai i un o'r hen frodorion gyfodi o'r bedd, a sefyll ar ben un o fryniau y fro eleni, gallasai adnabod y wlad oll fel yr adnabyddid hi y pryd hwnw. A phe na buasai yn sylwi ar ddim ond y golygfeydd allanol, diau mai ei leferydd fuasent, "Y mae pob peth yn aros yr un fath er pan hunodd y tadau; mae nefoedd a daear yr un fath; mae yr haul y dydd, a'r lloer a'r sêr y nos yn hollol fel yr oeddynt gynt; mae yr afonydd sydd yn rhedeg i'r môr yr un fath; y bryniau llyfnion a'u penau moelion yr un fath; y banciau a'r dolydd, y coedwigoedd a'r meusydd yr ochrau a'r llechweddau yn aros yr un fath a phan yr oeddwn i a'm cyfoedion yn fyw ar y ddaear." Ond y mae can' mlynedd o amser wedi dwyn cyfnewidiadau mawrion i mewn, yn arferion y trigolion, ac yn agwedd foesol a chrefyddol y wlad. Arferion ofer y byd, a gwasanaeth difudd yr un drwg oedd yn myn'd a sylw tlawd a chyfoethog, gwreng a bonheddig; treulio y Sabbothau mewn ofer-gampau, chwareu cardiau, interludiau, y bel droed, rhedegfeydd, ac ymladdfeydd-dyma y pethau oedd mewn bri hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf yn yr ardaloedd hyn, ac nid oeddynt yn ol ynddynt i unrhyw ran o. Gymru.

Yn y flwyddyn 1749 y ganwyd William Hugh, Llechwedd, yn agos i bentref Llanfihangel-y-Penant. Pan ydoedd yn llanc yn bugeilio defaid ei dad ar hyd llechweddau Cader Idris, meddianid ei feddwl ag ystyriaeth am fawredd y Creawdwr, ac â golygiadau arswydlawn am hollbresenoldeb a hollwybodaeth Duw. Byddai yn cymeryd gydag ef i'r mynydd Lyfr y Weddi Gyffredin, a darllenai y Salmau a'r Llithau wrtho ei hun, ac am nad oedd ganddo neb i'w gynghori a'i gyfarwyddo yn y pethau a ddarllenai, collodd yr argraffiadau hyny, a dechreuodd ddilyn cwmpeini drwg. Dilynodd arferion llygredig oeddynt ar y pryd yn arferedig, a daeth yn enwog yn yr arferion hyny ymhlith ieuenctyd gwylltion y fro. Yr oedd uwchlaw 30 oed cyn bod dim pregethu gan neb o'r Ymneillduwyr yn yr un o'r ardaloedd yn agos ato. Ar yr 2il o Fehefin, 1760, yn Nghoed-y-gweddill, ar y llechwedd uwchlaw pentref Llwyngwril, y ganwyd Lewis Morris. Fel hyn y dywed ef am ei ardal enedigol, a'r ardaloedd cylchynol yn more ei oes: Yr oedd agwedd dywyll ac annuwiol iawn ar y wlad y pryd hwnn. Campau llygredig, gwylmabsantau, nosweithiau canu a dawnsio, cwrw cyfeddach, chwareu cardiau, y bel droed ar y Sabbothau, ymladd ceiliogod, a rhedegfeydd ceffylau—pethau fel hyn oeddynt gynulliad hen ac ieuanc; ac wrth ymarfer â hwy, byddai dynion yn gyffredin yn ymladd ac yn curo eu gilydd, Gyda yr arferion annuwiol hyn y treuliais inau ddyddiau gwerthfawr fy ieuenctid, yn hollol ddifeddwl am Dduw, ac enaid, a marw, a barn, a byd arall; ac fel hyn y parheais hyd onid oeddwn yn naw mlwydd ar hugain oed; a rhyfedd rhyfedd na buaswn wedi fy nhori i lawr yn fy annuwioldeb!" Dyna y ddau wr a ddeffrowyd o'u cysgadrwydd ysbrydol gyda'r rhai cyntaf yn y cyfnod hwn, yn yr holl wlad rhwng afon Abermaw ac afon Dyfi. Daeth y ddau yn bregethwyr gyda'r Methodistiaid, a buont fyw yn hir. Eu tystiolaeth hwy, yn ddiau, yw y bwysicaf am agwedd y wlad yn moreuddydd eu hoes, ac am yr hyn a wnaeth yr Arglwydd yn ystod eu bywyd. Ac mae yn bur sicr, hefyd, fod eu hanes hwy eu hunain yn hanes y wlad o amgylch yn gyffredinol y pryd hwnw.

Ychydig iawn o hanes y cymydogaethau hyn yn bellach na chan mlynedd yn ol, sydd ar gael yn un man. Ychydig o ddim hanes sydd yn argraffedig yn flaenorol i'r Diwygiad Methodistaidd, hyny ydyw, y diwygiad Methodistaidd yn yr ardaloedd yma, yr hyn oedd fwy na deugain mlynedd yn ddiweddarach na dechreuad Methodistiaeth yn Nghymru. Mae y defnyddiau felly, o angenrheidrwydd, yn brinion. Nid oes, gan hyny, ddim i'w wneyd, er mwyn cael rhyw syniad am gyflwr y trigolion cyn i grefydd wneuthur ei hôl arnynt, ond ceisio casglu ychydig hanesion a ffeithiau sydd yn wasgaredig yma a thraw ar lafar gwlad. Pe buasid yn amcanu ysgrifenu hanes rhyfeloedd, a gwleidyddiaeth, a beirdd yr amser gynt, yn y rhan yma o'r wlad, ni fuasai y defnyddiau o gwbl yn brinion. Ond gan mai rhoddi hanes crefydd ydyw yr amcan, mae y gwaith yn gyffelyb i wneuthur priddfeini heb ddim gwellt.

Ond er mai ychydig sydd wedi ei ysgrifenu yn un man am ffordd y trigolion o fyw, a'u cyflwr yn gymdeithasol a moesol, yn y Dosbarth Rhwng y Ddwy Afon, y mae cryn dipyn o hanes y rhanau eraill o'r sir a'r siroedd cylchynol ar gael. Rhydd hyny ryw gymaint o wybodaeth i ni pa fodd yr oedd yma, oblegid yr hyn oedd cyflwr un ran o Gymru, yr un peth, fel rheol, oedd cyflwr pob rhan o honi. Nid oedd y cyfleusderau. i dramwyo o'r naill fan i'r llall ond anhwylus ac anniben o'u cymharu â'r hyn ydynt yn awr; ond hynod mor gyflym yr ymledai arferion drwg a llygredig. Alaethus a thrwm ydyw yr hanes sydd wedi cael ei roddi lawer gwaith am yr hyn oedd yn cael ei wneyd yn Nghymru yn nyddiau ein tadau. Feallai mai y darluniad mwyaf cyffrous a disgrifiadol ydyw yr hyn sydd i'w gael yn yr ymddiddan rhwng Mr. Charles a'r hybarch John Evans, o'r Bala. Yr oedd John Evans wedi dyfod i fyw i'r Bala yn 1742, ac felly medrai roddi hanes yr hyn a welsai â'i lygaid ei hun. Mae ei dystiolaeth ef am gyflwr y wlad yn y cyfnod uniongyrchol o flaen y flwyddyn 1785 yn bwysig. Fel hyn yr adrodda :"Ie, yr oedd tywyllwch mawr yn y wlad. Beiblau oeddynt yn dra anaml; ychydig iawn o'r bobl gyffredin a fedrent air ar lyfr; ac arferion y wlad oeddynt yn dra llygredig ac anfoesol. Yr oedd bonedd a gwreng, gwyr llen a gwyr lleyg, yn gyffelyb i'w gilydd; y rhan fwyaf yn byw yn anghymedrol, yn ddibarch i orchymynion sanctaidd Duw, ac yn dra esgeulus o'r addoliad. Glythineb, meddwdod, ac anlladrwydd oeddynt fel ffrydiau llifeiriol wedi gorchuddio'r wlad. Ac nid oedd yr athrawiaeth a'r addysgiadau yn y llanau, yn gyffredin, ond yn dywyll a dirym iawn i wrthsefyll a diwygio oddiwrth y pechodau gwaeddfawr hyn. Nid oedd ynddynt nemawr o son am drueni gwreiddiol dyn, am ffydd yn Nghrist er cyfiawnhad pechadur, ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân." Dywedai John Evans fod pob rhan o'r wlad yn debyg yr amser hwn, ac adroddodd yr hanes am ddechreuad crefydd yn y Bala, Dolgellau, a'r Abermaw, ond dyma y lleoedd agosaf i Ddosbarth y Ddwy Afon y cyrhaedda ei adroddiad. Dosberthir profion o wirionedd hanesiaeth, yn gyffredin, i ddwy ran,—profion allanol a phrofion tufewnol. Y profion allanol ydynt, y pethau a geir y tuallan i faes yr hanesiaeth, yr hyn a ddywed eraill am dano, hanesiaeth gyffelyb mewn manau eraill yn yr un cyfnod, tystiolaeth dynion oeddynt yn byw yn yr un amser, megis y dystiolaeth uchod gan yr hybarch John Evans, o'r Bala. Y profion tumewnol ydynt y pethau a geir yn yr hanes ei hun, enwau personau a lleoedd, a digwyddiadau, y rhai a arhosant yn barhaus yn dystiolaeth fod y peth a'r peth wedi digwydd yn y lle a'r lle, yr amser a'r amser. A rhwng profion allanol a phrofion tufewnol, denir yn lled gyffredin o hyd i'r gwirionedd. Pe buasai llawer llanerch o'r gongl hon o'r greadigaeth, ar gwr de-orllewinol Sir Feirionydd, yn meddu tafod i lefaru, llawer o bethau rhyfedd a fuasai ganddynt i'w traethu am yr hyn a gymerasant le ymhlith y trigolion gan mlynedd yn ol. Yn wir, y mae tafodau amryw i'w cael yn yr enwau sydd ar leoedd yma ac acw, wedi cael eu bodolaeth oddiwrth hen arferion yr oes o'r blaen. Y mae llawer o enwau hyd heddyw yn Nghymru yn profi fod yr hen Rufeiniaid wedi bod yma yn byw. Y mae enwau hefyd i'w cael yn profi fod rhyfeloedd blinion wedi bod yn ngwahanol ranau y wlad. Gellir casglu llawer o wybodaeth oddiwrth yr amrywiol enwau hyn sydd ar leoedd. A deuir o hyd i wybod, fel hyn, ymha gyfnod y cymerodd y prif ddigwyddiadau yn hanes y wlad le; a pha rai oeddynt flynyddoedd yr anwybodaeth a'r caethiwed. Dyma y profion tumewnol sydd yn cadarnhau gwirionedd ffeithiau a digwyddiadau. Tra nad yw dynion i'w cael yn meddu lleferydd byw, i adrodd hanes eu hoes, mae y pethau a wnaethant—fel graian mân y nentydd yn dangos lle unwaith y bu y llifeiriant yn meddu tafodau byw, y rhai sydd, wedi iddynt hwy feirw, yn llefaru eto. I brofi hyn, cawn nodi rhai lleoedd fel esiamplau. Yn Nghwm y Dyffryn Gwyn, neu Cwm Maethlon, y mae gweirglodd wastad sydd yn cael ei galw hyd heddyw "gweirglodd chwareu." Saif mewn dyffryn bychan, prydferth, tawel, neillduedig, y tu cefn i Aberdyfi, o fewn tair milldir i Dowyn, a phum' milldir i Bennal. Yn y weirglodd hon y cyfarfyddai trigolion yr ardaloedd a'r pentrefi cylchynol ar y Sabbath i chwareu y bêl droed, ymladd ceiliogod, a chwareuon cyffelyb. Yma hefyd yr ymgasglai amaethwyr yr ardaloedd, ac ar ol gorphen y chwaren, edrychent i wahanol achosion y plwyf. Byddai y cyngor hwn, i raddau, yn gwneyd i fyny waith yr overseers presenol. Os byddai rhywrai heb dalu y dreth, neu os digwyddai ymrafaelion yn rhyw ranau o'r plwyf, y ffordd arferol fyddai cyhoeddi fod cockin i gael ei gynal yn y "werglodd chwareu" ar y Sabbath ar Sabbath, benderfynu y pethau hyn, yn gystal âg er mwyn difyrwch y chwareu. A phwy bynag a anufuddhai, penodai y cyngor ryw bersonau i roddi curfa dda iddynt.

Yr un arferiad a ffynai yn rhanau uchaf y wlad, yn mhlwyf Talyllyn, fel y dangosir yn yr hanesyn a adroddai yr hen flaenor Rowland Evans, Aberllyfeni, o berthynas i neges y bugail yn myned i eglwys y plwyf ar y Sabbath. Clywsai Rowland Evans a'i glustiau ei hun yr hanes yn cael ei adrodd gan yr hen bobl. Fel hyn yr adroddir ef yn Hanes Methodistiaeth Corris—"Wrth efail y gôf yn Nghorris, un tro, gofynai bugail Aberllyfeni i gyfaill, A ydych chwi yn myned i'r llan y Sul nesaf? Na,' meddai yntau, 'dydw i ddim yn gwybod am ddim neillduol yn galw y Sul nesa'.' Byddai yn dda iawn gen i, meddai y bugail, wybod am rywun yn myn'd, oblegid mae yn Tyrau Hirion lwdwn yn perthyn i Rywogo, ac y mae arna i ofn garw iddo fyn'd oddiyno cyn iddyn nhw glywed am dano fo.' 'O, wel,' meddai ei gyfaill defosiynol a charedig, 'Os oes rhyw achos fel yna yn galw, mi äi yno, a chroeso.' Ac nid ymddengys y teimlai neb fod neges o'r fath mewn un modd yn anghyson âg amcan y gwasanaeth, nac a sancteiddrwydd y dydd, canys yr oedd yn arferiad cyson i gyhoeddi arwerthiadau, ac i wneuthur hysbysiadau amaethyddol yn hysbys ar y fynwent ar ol y gwasanaeth, cyn i'r gynulleidfa ymwasgaru. Dywedir mai Richard Anthony, yr hwn a wasanaethai ar y pryd fel clochydd yr eglwys, a roddodd derfyn bythol ar yr arferiad" Nid yn unig yr oedd y pethau hyn yn cael eu gwneuthur ar y fynwent ar y Sabbothau trwy oddefiad, ond gwnelid hwy trwy orchymyn, a byddai offeiriad y plwyf yn cymeryd y rhan fwyaf blaenllaw ynddynt, ac yr oedd yntau drachefn yn eu gwneuthur trwy orchymyn cyfraith y wlad yr amseroedd hyny.

Yn nghwr uchaf ardal Corris, y mae lle a elwir "Pencareg- Celwydd." I'r lle hwn yr ymgasglai plant ac ieuenctyd i fyned trwy eu chwareuon a'u campau ar y Sabbothau. Elai eu rhieni gyda hwy i edrych arnynt yn myned trwy eu gwahanol gampau. Ymdyrent ac eisteddent ar y glaswellt, ar hir-ddydd heulog haf—y plant i chwareu a'u rhieni i'w cefnogi. Mawr fyddai y taeru a'r dadleu plant pwy fyddai yn enill yn y chwareuon. Gwaeddai rhai, hwi gyda'r plant yma, gwaeddai eraill, hwi gyda'r plant eraill. Hwi, a hai, a dal ati hi, ebe pob un gyda'i blentyn ei hun. Y goreu daero fyddai hi wedyn, a'r chwareu yn y diwedd yn troi yn chwerw. Y rhai hyn yn taeru mai eu plant hwy a enillodd; y rhai acw yn taeru mai eu plant hwythau a enillodd. Byddai felly, mewn canlyniad, lawer o gelwyddau yn ystod un dydd, heb son am lawer o ddyddiau. Oddiwrth yr arferiad hwn o ddweyd celwyddau, yn ddiameu, y cafodd lle yr enw sydd arno hyd heddyw—"Pencareg-Celwydd." Mawnog Ystradgwyn oedd le enwog am chwareuon a chwerylon ar ddydd yr Arglwydd. Wrth fyned heibio yr ardal hon, sydd wrth droed y Gader, y gofynai Mr. Charles, o'r Bala, i'w gydymaith Dafydd Humphrey, o Gorris, "A oes yma geiliog yn canu yn y fan yma, Dafydd?" Wrth geiliog yn canu y golygai Mr. Charles yr Ysgol Sul. Yn ol atebiad Dafydd Humphrey, nid oedd yno yr un y pryd hwnw wedi ei sefydlu. Oddeutu y flwyddyn 1806, yn ol pob hanes, y dechreuwyd cadw Ysgol Sul yn Ystradgwyn. Y cynulliad lliosog ar y Sul yno cyn hyn oedd, bechgyn Corris a bechgyn Ystradgwyn, yn llafnau mawr, yn myned trwy eu campau ar y Fawnog. Nid chwareu plant fyddai ar Fawnog Ystradgwyn, ond pobl gryfion yn ymlafnio ac yn ymryson a'u gilydd i gyflawni gwrhydri, trwy nerth braich ac ysgwydd. Rhoddid prawf hefyd ar nerth traed a choesau, oblegid rhan bwysig o chwareuon y lle oedd ymryson rhedeg round o gwmpas llyn Talyllyn. Byddai rhedegfeydd o amgylch y llyn ar y Suliau y blynyddoedd hyn mewn bri mawr, fel rhedegfeydd y Groegiaid yn ngwlad Groeg. Sŵn ymrysonau o'r fath hyn a glywodd creigiau Cader Idris, hyd nes y daeth yr Ysgol Sul a phregethu y gair i'w hymlid ymaith.

Yn mis Medi, 1784, yn mhentref Bryncrug, yn mhlwyf Towyn, y ganwyd Owen William, yr hen bregethwr, yr hwn a adnabyddid yn gyffredin wrth yr enw Owen William, Towyn. Ysgrifenodd ef ychydig o hanes ei fywyd ei hun. A chan ei fod yn dechreu ei oes ar derfyn dyfodiad crefydd i'r wlad, ac yntau yn wr craffus a chofus, mae yr hyn a ysgrifenodd yn taflu rhyw gymaint o oleuni ar gyflwr y wlad. Ei dystiolaeth ef am yr ardal hon, yn moreuddydd ei fywyd, ydyw yr hyn a ganlyn,—"Yr oedd ardal Bryncrug yn llawn iawn o annuwioldeb a llygredigaethau—ymladd ceiliogod, chwareu cardiau, y delyn a'r ddawns, pitchio, coctio, a chwareu y bêl; a'r Sabbothau fyddent y prif ddyddiau i gario y rhan fwyaf o'r pethau hyn ymlaen. Byddai yr holl ardal yn ymgasglu ar y Sabbothau i'r pentref i chwareu eu campau, a'r hen bobl, na allent chwareu eu hunain, yn dyfod yno i ymddifyru wrth edrych ar eraill, ac yn gwaeddi 'hai' gyda'r naill, a 'hwi' gyda'r llall. A mynych iawn y gwaeddent, 'Hai Owen,' ac 'Mi wrantaf fi Owen.' Fy mhrif bechod yn fy ieuenctid ydoedd dibrisdod o'r Sabbath. Nid oeddwn yn teimlo dim o awdurdod Duw yn y pedwerydd gorchymyn, ac yr oedd hyny yn achlysur o lawer o bechodau eraill." Eto, dywed am y nosweithiau llawen,— "Ni ddysgais fawr o lun ar ddawnsio erioed, ond byddwn yn hoff iawn o fod gyda'r bobl ieuainc fyddent yn difyru eu hunain. a'u gilydd gyda'r delyn, a'r ddawns, a chanu maswedd. Y noson ddiweddaf y bum gyda'r gynghanedd a'r ddawns yn ysgubor Bach-yr-henllysg (yn ardal Bryncrug), cefais ddifyrwch mwy nag arfer. Dywedais wrth un o'r bechgyn oedd yno wrth ddyfod adref yn y bore, y gwnawn i noswaith lawen yn fuan wedi hyny. 'Gwna di,' ebe yntau, 'os wyt ti yn dewis, ond ni wnaf fi yr un byth ond hyny, i dynu euogrwydd ar fy nghydwybod wrth wahodd pobl iddi ar ddydd Sul.' Cyn i mi gael un noswaith lawen ar ol hono, cefais lawer o nosweithiau, ac wythnosau, a misoedd, o dristwch a thrallod mawr. Gwelais fy mod wedi dinystrio fy hun am byth, a'm bod yn ddyn colledig, a'r truenusaf o bawb yn y byd; ac ofnais yn fawr na welwn na noswaith, na diwrnod, nac un amser llawen byth mwy." Ar ol hyn â ymlaen i roddi darluniad o'i argyhoeddiad. Dywed hefyd mai y cof cyntaf oedd ganddo am dano ei hun ydoedd, cofio ei fod yn dyfod adref gyda'i dad a'i fam ar ddydd Sabbath o dŷ ei nain, ar ol bod yn Ngwylmabsant Llanegryn, pan oedd rhwng tair a phedair mlwydd oed. Yr oedd hyn felly oddeutu y flwyddyn 1788.

Un o'r gwyliau neillduol y byddai llawer o gyrchu iddi yn yr ardaloedd hyn yr adeg yma oedd yr Wyl-mab-sant. Y Sabbath oedd y dydd y cynhelid yr wyl, ac ar hyd y dydd byddai gloddesta, a meddwi, a phob rhysedd yn cymeryd lle; a pharhai y gymdeithas lawen hyd drymder y nos, ac yn fynych hyd oleuni dydd dranoeth. Adroddir am dro digrifol a ddigwyddodd i ddau amaethwr cyfrifol, yn ardal Llaenrchgoediog, wrth ddyfod adref o Wylmabsant Llanfihangel-y-Pennant. Y llan hwnw oedd yr agosaf i'w cartref, ac yr oedd y ddau amaethwr, sef Harry Sion, Nanymynach, a William Sion, Tyddynyberllan, wedi cytuno i fyned yno gyda'u gilydd, ac aros y naill am y Hall. Ond pallodd amynedd William Sion, cychwynodd er's hir amser cyn i'w gymydog, Harry Sion, ddyfod heibio ei dŷ. Pan welodd y diweddaf hyn aeth i ystabl ei gymydog, W. Sion, cyfrwyodd ei farch, ac ymaith ag ef yn farchogwr tua'r wyl i'r llan, ond ni oddiweddodd ei gyfaill er hyny. Cychwynent gyda'u gilydd tuag adref, gefn trymder y nos. "Mae genyf fi geffyl," ebe Harry Sion. "A wnaiff o gario ei ddwbwl?" gofynai y llall. "Gwnaiff" oedd yr ateb. Felly aethant tuag adref, y cymydog yn farchogwr, a'r perchenog wrth ei sgil. Wedi cyraedd Tyddynyberllan disgynodd y perchenog, heb wybod dim hyd yn hyn mai ar ei geffyl ei hun yr oedd wedi dyfod, a disgynodd ei gymydog hefyd, a dywedai, "Cymer ofal o dy geffyl." "Yr andros o honot ti," ebe W. Sion," wrth dy sgil di ar gefn fy ngheffyl fy hun!" Y pryd hyny y gwybu mai ei anifail ef ei hun oedd yr anifail. Digon tebyg fod y ddau o dan ddylanwad y gloddesta oedd wedi bod yn yr wyl. Yn fuan wedi hyn daeth Harry Sion at grefydd, a dewiswyd ef yn flaenor yn Bryncrug, a daeth yn un o'r dynion goreu yn y rhan yna o'r wlad. Ceir coffâd am dano eto yn mhellach ymlaen.

Yn hanes tröedigaeth Lewis Morris, Coedygweddill, Llwyngwril, yr ydym yn cael fod Gwylmabsant Machynlleth yn un o'r rhai penaf yn y wlad, ac yr oedd yn arfer cael ei chynal yn flynyddol, yn mis Awst, rhwng y ddau gynhauaf. Yr oedd hefyd redegfa ceffylau enwog wedi ei chysylltu â'r wyl hon, er mwyn bod yn fwy o gyrchfa pobl, ac i fod yn brif ddigwyddiad y flwyddyn. "Yn mhen blwyddyn wedi hyn," adroddai Lewis Morris, yn hanes ei fywyd ganddo ef ei hun, "sef yn mis Awst, 1789, aethum i Fachynlleth, i'r Wylmabsant a'r rhedegfa ceffylau a gynhelid yno yn flynyddol; a dyma y pryd y cyfarfum â thro digyffelyb, ie, tro a gofiaf byth." Cyfeirio y mae y "tro digyffelyb" at ei dröedigaeth. Yr oedd yn dyfod i lawr heol y Maengwyn, pryd y clywai sŵn canu gwresog. Diweddu odfa yr oeddynt mewn tŷ yn y fan hono, a Dafydd Morris oedd y pregethwr. Aeth saeth lem i galon. Lewis Morris wrth glywed y canu, yr hyn a fu yn ddechreuad ei dröedigaeth. Yr ydym yn gweled fod gwylmabsantau yn bethau cyffredin yr adeg yma, a byddai hen ac ienainc yn eu mynychu. Yr oedd amaethwyr penaf Llanerchgoediog yn myned iddynt; yr oedd rhieni Owen Williams yn myned iddynt, a'u plant gyda hwy. Ac ni feddai rhieni well esiampl i'w roddi i'w plant na'r hyn oedd yn peri y difyrwch penaf iddynt hwy eu hunain.

Hen arferiad fu yn flodeuog a phoblogaidd yn yr hen amser oedd rhedegfeydd ceffylau. Cynhelid y cyfryw redegfeydd bob blwyddyn ar wastadedd, a elwir Morfa Towyn. Byddai llawer o gyrchu iddynt, llawer o greulondeb yn cael ei arfer at geffylau druain, a llawer o annuwioldeb ymhlith y cynulliad a ymgynullai ynghyd ar y cyfryw amseroedd. Parhaodd yr arferiad flynyddol hon i oroesi llawer o arferion creulon a thywyll yr oes o'r blaen. Y mae llawer yn fyw yn y wlad yn awr yn cofio yn dda y rhedegfeydd ceffylau ar Forfa Towyn, ac ar wastadedd Aberdyfi. Cymerodd digwyddiad le yn un o'r rhedegfeydd hyn, sydd yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth, sef tröedigaeth hynod John Vaughan, Ysw., Tonfanau, neu Tryfana, wedi hyny o Cefncamberth. Yr oedd ef yn uchelwr, yn un o'r rhai mwyaf ei barch yn yr ardaloedd, yn ŵr o gyngor, ac yn fedrus i drin y byd ac i enill cyfoeth. Yr oedd yn gampus am redeg ceffyl mewn rhedegfa, ac yn hoff iawn o hyny. Ni byddai yr un flwyddyn yn myned heibio heb fod ganddo geffyl yn rhedeg. Nid yw hyn yn rhyfedd, oblegid y mae Tonfanau, y lle yr oedd yn byw, yn un o'r manau agosaf at y rhedfa, yr ochr arall i'r Afon Dysyni i Forfa Towyn, ar lan yr afon. Fel hyn y dywed Methodistiaeth Cymru am y tro: "Pan oedd ar ganol y rhedfa, efe a glywai y ceffyl oedd tano yn gruddfan yn dost, ac yn ddisymwth daeth y geiriau hyn i'w feddwl:—

Bydd gruddfanau rhai'n ryw ddiwrnod,
O'th flaen i'th boeni yn benaf penod.""

Ond y gwir ydyw, yr oedd ef wedi clywed y geiriau hyn yn cael eu hadrodd wrtho y diwrnod cynt, gan fachgen ieuanc oedd yn byw yn y Castell fawr, yr hwn a adnabyddid wedi hyny fel William Dafydd, Llechlwyd. Nid ydyw y geiriau, ychwaith, yn hollol gywir yn Methodistiaeth Cymru. Yr oedd Mr. Vaughan yn y Castell y diwrnod cynt yn prynu gwartheg, ac yn dweyd wrth y bachgen na allai ddyfod i'w ceisio dranoeth, ei fod yn myned i'r races. "Ydych chwi yn mynd i'r races?" ebe y bachgen. "Ydwyf, be sy' genyt ti yn erbyn, Will?" Ydych chwi ddim yn cofio," ebe yntau, "be ddeudodd y bardd,—

"Gwae a yro'r nifail gwirion
I ferwi o chwys heb fawr achosion,
Bydd gruddfanau rhai'n ryw ddiwrnod
Yn dyst i'w poeni'n dosta penod."

Modd bynag, mae yn sicr i'r geiriau hyn ddyfod i feddwl y gwr ar ganol y rhedfa, ac fe ddywedir iddo ymatal rhag curo yr anifail, a gadawodd iddo fyned i'r pen mor araf ag y mynai. Gadawodd yntau yr arferiad o redeg ceffylau am byth, a daeth yn fuan yn grefyddwr da, ac yn un o'r rhai goreu fel rhedegwr am goron y bywyd. Cymerodd yr amgylchiad hwn le yn bur agos yr un amser ag yr argyhoeddwyd Lewis Morris yn Ngwylmabsant Machynlleth, o gylch y flwyddyn 1789.

"Yn nhymor fy ieuenctid," ebe gwr oedd wedi ei eni oddeutu 1780, yn y parthau o Sir Feirionydd (o Harlech i Aberdyfi), "lle yr oeddwn yn byw, yr oedd gwylmabsantau a nosweithiau llawen yn fawr iawn eu rhwysg. Yn y cyfarfodydd hyn, yr oedd dawnsiau, canu gyda'r tànau, y cardiau, a meddwi yn ffynu; a dibenai y cwbl yn gyffredin mewn ymrysonau ac ymladdau." Am yr un cyfnod yr ysgrifena John Davies, Nantglyn, yn y geiriau canlynol: "Interludiau oedd yn fawr eu cymeradwyad y pryd hwn; byddai llawer o bobl yn myned ymhell o ffordd i weled a chlywed y rhai hyn, a byddid yn eu cyhoeddi ar ol y gwasanaeth gan y clochydd yn y llan; a chyhoeddid y campau yr un fath! Byddai y bobl ieuainc yn cyflogi fiddler i ganu ynddynt am y tymor, ac yn rhoddi iddo lawer o arian am ei wasanaeth. Cyfarfyddent yn y nos i ddweyd rhyw storiau a chwedlau celwyddog, ynghyd â hanes eu cymydogion yn agos ac ymhell. Sonid llawer am ymddangosiad ysbrydion, a thylwythau teg, a chredid pob math ar goelion, swynion, a dewiniaeth." Byddai y nosweithiau llawen yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw, a byddent yn myned ar gylch trwy y gymydogaeth, yn debyg fel y mae y peiriant dyrnu yn y blynyddoedd hyn, yn symud o ffarm i ffarm, ond fod y naill beiriant yn dyrnu yr yd, a'r peiriant arall yn dyrnu eneidiau dynion. Y lle yr oedd y nosweithiau llawen yn y cymydogaethau hyn yn fawr eu bri ydoedd ardal Bryncrug Yr oedd un o'r tai ar dop y graig, yn agos i'r lle y saif y Board School yn awr, yn dy tafarn. Cedwid nosweithiau llawen yn y dafarn hon yn fynych, a chyflogid fiddler i wneuthur y gwyddfodolwyr yn fwyaf llawen ag y gellid. Adroddir am dro rhyfedd ar un o'r nosweithiau hyn. Rywbryd yn y nos, aeth y fiddler allan, ac yn ebrwydd wedi iddo fyned allan, clywai y bobl oddimewn ryw leisiau anhyfryd iawn; aethant allan bob un. Erbyn hyn, yr oedd wedi ei godi uwch eu penau, ac yn ysgrechian fel mochyn, ac yn fuan, clywent rywbeth yn disgyn yn glwt ar y llawr. Rhedasant i'r fan, a dyna lle yr oedd mewn llesmair ar domen o ludw, ac yr oedd yn drugaredd mai ar domen o ludw y disgyn- odd, ac nid ar y graig. Yr oedd yno rywbeth neu rywun wedi bod yno yn ei godi i fyny i'r uchelder, ac am enyd, yn ei sgytian fel babi. Bu yr amgylchiad yn atalfa am dymor ar y nosweithiau llawen. Credid yr hanes hwn yn ddiamheuol, oblegid ewythr i Griffith Pugh, Berthlwyd, brawd ei dad, oedd y fiddler.

Am ysbrydion, a straeon, a chwedlau am y tylwyth teg, &c., ni ddeuid i ben a'u hadrodd. "Credid pob math ar goelion, swynion, a dewiniaeth." Nid oedd hyn yn beth i synu ato lle nad oedd goleuni yr efengyl ond prin wedi gwawrio. Yr oedd traddodiad yn ardal Pennal, fod crochan a'i lonaid o arian yn guddiedig yn rhywle ar dyddyn Cefncaer, a mawr fyddai yr awydd am dd'od o hyd iddo. Bu amaethwr cyfrifol o'r gymydogaeth mor ffol a rhoddi y swm o 20p. i ddywedwyr tesni am ddweyd ymha le yr ydoedd. Yr oedd hefyd yn byw yn ardal Pennal ŵr yn arfer dewiniaeth, "cunger" (conjurer) proffesedig, yr hwn oedd yn meddu dylanwad mawr ar ddosbarth liosog o bobl trwy yr holl wlad. Honai ei hun yn feddyg, ac yr oedd oblegid hyny yn gallu tynu mwy o bobl ato. Gelwid ef Dr. Pugh, ond nid oedd mewn gwirionedd yn ddim ond quack doctor. Adnabyddid ef ymhob man trwy y cylchoedd o amgylch fel cunger llwyddianus, a byddai cyrchu mawr ato am feddyginiaeth i'r corff a gwellhad i'r meddwl, ac ato ef yr elid am gyfarwyddyd os byddai unrhyw anhwyldeb ar anifeiliaid neu anhap wedi digwydd i eiddo a meddianau. Rhoddai yntau iddynt ryw bapyryn a llythyrenau arno fel moddion anffaeledig rhag pob anhwyldeb, a chlwy, ac anhap. Byddai ganddo nifer o bobl loerig ac anmhwyllus yn eu cadw o dan ei ofal, rhai yn ei dŷ ei hun, a rhai yn nhai cymydogion, a dygid y rhai hyn ato o bellder ffordd. Adroddir am un o'r enw M——D——, oedd yn byw yn C——fn——rh——s, yn myned a'i fam ato, yr hon oedd yn ngafael rhyw afiechyd nad oedd yn gwella o hono, a dywedai wrth fyn'd a hi at Dr. Pugh, "Dydyw yr ysbryd drwg yn gwybod dim am dani, a chymer Duw mohoni, ac yr wyf yn myn'd a hi at Dr. Pugh, i Bennal, i edrych a all ef wneyd rhywbeth o honi." Yr oedd y Dr. Pagh hwn yn elyniaethus iawn i grefydd ac yn erlidiwr penaf yn yr holl wlad. Yr oedd yn haner brawd i William Hugh, Llechwedd, yr hen bregethwr cyntaf gan y Methodistiaid rhwng y Ddwy Afon. Ar gyfrif y berthynas hon, ac oherwydd fod y wlad yn dyfod a dynion lloerig ato i'w gwella, byddai yn arfer dweyd, "fagodd yr un fam erioed ddau frawd yr un fath a Will a minau—un yn gyru dynion o'u coëau, a'r llall yn dyfod a hwy i'w coëau." Cael eu twyllo y byddai y bobl druain a ddeuent at y quack doctor. "O ble mae'r bobl yn d'od yma," gofynai Hugh Rolant, y tailiwr, iddo un tro; "wedi eu witchio y maent?" "Huwcyn bach," ebe yntau, "nid oes dim o'r fath beth a witchio mewn bod." "I beth ynte yr ydych yn eu twyllo?" "Y nhw sydd yn dyfod ataf fi, y ffyliaid, fe ânt at rywun arall os na roddaf fi beth iddynt." Cafodd Hugh Rolant wybod llawer am ddirgelion y grefft gan ei gâr a'i gymydog Dr. Pugh, fel y daeth i ffieiddio y grefft o eigion ei galon, a gresynai hyd ddiwedd ei oes fod neb mor ffol i'w gael ag i roddi crediniaeth mewn dywedyd tesni. Ond yr oedd y fath anwybodaeth dwfn a'r fath dywyllwch teimladwy ag oedd yn y wlad y pryd hwnw yn peri fod twyllwyr, a rhai yn cael eu twyllo yn aml iawn. Yr oedd crediniaeth mewn swynion a dewiniaeth mor gryf a chyffredinol gan' mlynedd yn ol, fel y mae olion y cyfryw bethau i'w gweled hyd y dydd hwn. Er nad oes, hyd y gwyddis, yr un cunger proffesedig yn byw yn awr yn y parth hwn o Sir Feirionydd, y mae eto yn yr "oes oleu hon," fel mae gwaetha'r modd, rai yn credu mewn dywedyd tesni, ac a ânt filldiroedd o ffordd i siroedd eraill i ymgynghori â'r gwr sydd yn cymeryd arno ei fod yn medru dewiniaeth. Mor hir o amser raid gael i yru hen arferiad ddrwg allan o'r wlad! Yn Methodistiaeth Cymru adroddir yr hanesyn canlynol a gymerodd le yn yr un cyfnod. "Un tro, yr oedd y person a'r clochydd yn myned i roddi y cymun i ffermwr oedd yn glaf. Daeth y clochydd i'r tŷ o flaen y person, a gofynodd yr hen wraig iddo, "Pa beth sydd genych chwi Tomos yn y cŵd gwyrdd yna?" "Beibl a Chommon Prayer" ebai yntau. "Rhoddwch wel'd y Beibl Tomos?" Dyma fo modryb" ebai Tomos. "Wel, moliant i'r gŵr goreu," ebai yr hen wraig, "ni bu yma yr un o'r blaen erioed yn ein tŷ ni, nac angen am dano erioed o'r blaen, moliant i Dduw am hyny."

Ymhlith arferion niweidiol a chreulon y wlad, yn niwedd y ganrif o'r blaen, ac ymhell ymlaen i'r ganrif hon, feallai mai y mwyaf cyffredinol ydoedd ymladd ceiliogod. Un o arferion barbaraidd gwlad heb ei gwareiddio ydoedd hon. Ymddengys ei bod wedi gwreiddio yn ddyfnach yn ein gwlad na'r un o'r ofer-gampau y clywsom y tadau yn son am danynt. Un rheswm am hyn oedd fod pob gradd, o'r boneddwr i lawr at y dyn tlawd, yn cymeryd rhan yn y chwareuon hyn. Ni byddai neb ond y boneddigion a ffermwyr clyd yn meddianu anifeiliaid i redeg yn y rhedegfeydd ceffylau, ond gallai y dyn tlawd fod yn berchen ceiliogod i'w dwyn i'r ymrysonfa. Dywed y rhai sydd wedi bod yn ysgrifenu hanes y wlad am y cyfnod hwn, mai yr adeg ar y flwyddyn y byddai ymladd ceiliogod yn cymeryd lle fyddai Iau Dyrchafael, Gwener y Groglith, a Llun y Pasg. Un sydd yn fyw yn awr, ac wedi gweled llawer o'r arferiad hwn, a ddywed, mai dydd Llun y Pasg oedd y diwrnod mawr yn yr ardaloedd hyn. Adrodda yn mhellach ei fod ef wedi bod ei hun mewn cockin ceiliogod yn Abergynolwyn, ac yn cario ceiliogod ar ei gefn yno i ymladd, pan yr oedd yn fachgen ieuanc. Yr oedd Abergynolwyn yn lle canolog, a byddai ardaloedd Llanegryn a Machynlleth yn cyd-gyfarfod yno i ymryson â'u gilydd, a dywed y gŵr y cyfeiriwyd ato uchod ei fod yn cofio gweled ochr y mynydd yn ddu o bobl yn cyrchu tuag yno o Fachynlleth ar ddydd Llun y Pasg. Nid oedd ardal o Lwyngwril i Gorris heb fod pit ceiliogod ynddi, ond ystyrid ambell i le yn fwy enwog na'i gilydd i gario ymlaen yr ymladdfeydd, megis Abergynolwyn, lle byddai ardal yn cyfarfod yn erbyn ardal, a phlwy yn erbyn plwy. Y gwanwyn oedd yr adeg fwyaf manteisiol o'r flwyddyn i'r gwaith hwn, oblegid dyma yr adeg y byddai y ceiliogod yn y cyflwr goreu i ymladd, yn hoew, yn gryfion, ac yn llawn nerth. Byddai ambell i wr mewn ardal yn flaenllaw iawn gyda'r ymladdfeydd, yn cael ei ystyried yn hero yr ardaloedd o gwmpas; darparai nifer mawr o adar pwrpasol, y rhai a adnabyddid wrth yr enw game cocks, a byddai un yn cael ei gadw iddo ymhob ffermdy yn barod erbyn y tymor ymladd, yn debyg fel y cadwai tenantiaid gwn hela i'w meistriaid tir. Yr oedd offeiriad mewn plwyf yn y sir yn magu ceiliogod i'r amcan hwn, y rhai a gedwid yn barod iddo gan amaethwyr ei blwyf. Yr oedd yn yr un plwyf wr duwiol perthynol i'r Methodistiaid; ar y Sabbath yr elai yr offeiriad i geisio ei geiliogod, gan eu cario dan ei gesail i fod yn barod erbyn boreu Llun, ac os digwyddai iddo gyfarfod y gŵr duwiol, troai yn ei ol gan ei arswyd. Gwisgid y ceiliogod âg arfau pwrpasol i ryfel cyn y gollyngid hwy i'r pit i ymladd; rhwymid yspardynau dur, mawrion, hirion, yn dynion am eu traed, a thynid ymaith y plyf oddiam eu gyddfau, er mwyn iddynt fod yn ysgafn i wynebu y frwydr; ac os digwyddai i'r aderyn daro ei wrthwynebydd yn deg â'r yspardynau llymion oedd am ei goesau, dyna ddiwedd ar yr ymladdfa ar unwaith, a pherchen yr aderyn wedi enill y game. Y mae gan Mr. David Rowlands, Pennal, bâr o'r arfau hyn yn ei feddiant, wedi eu cael ar ol ei hynafiaid, ac y maent yn cael eu cadw yn ofalus er cof am yr hen arferion poblogaidd yn yr amser gynt. Yr oedd yn un o ardaloedd y cylch hwn wr bonheddig dall yn byw, yn berchen un o'r etifeddiaethau mwyaf yn y wlad, yr hwn oedd yn bengampwr mewn ymladd ceiliogod. Er ei fod yn ddall, ymhyfrydai yn y gorchwyl hwn; ymgymysgai â'r bobl gyffredin, a heriai y plwyfydd a'r ardaloedd cyfagos i ymladd yn ei erbyn. Gwiria hyn y ffaith sydd yn hysbys am Gymru, sef, fod y boneddigion a'r werin yn ymgymysgu â'u gilydd gyda'r hen arferiad isel hwn. Gymaint oedd yr arferiad wedi gydio yn y wlad, fel yr oedd boneddig a gwreng, hen. ac ieuainc, penau teuluoedd a phlant, yn eu hafiaeth yn eu dilyn. Yn hanes bywyd Harri Jones, Nantymynach, dywedir fod ei fab hynaf, pan oedd yn 14eg oed, yn dilyn yr arferiad hwn bob cyfle y gallai, a'i fod yn cadw ceiliogod o bwrpas i ymladd yn yr oedran cynharol hwnw. Ceisiai ei dad ganddo ymhob rhyw ffordd i beidio; ond nid oedd dim byd yn tycio, hyd nes y darfu ei dad a'i fam, y rhai oeddynt ill dau yn bobl grefyddol iawn, roddi ei ddewisiad iddo, naill ai iddo ymadael â thy ei dad yn gwbl oll, neu ymadael â'r arferiad. lygredig. Pan y rhoddwyd y bachgen yn y fath gyfyngder, fe ddewisodd adael yr arferiad yn hytrach na gadael tŷ ei dad,. ac fe werthodd yr adar, a bu y tro yn foddion argyhoeddiad iddo.

Yr oedd yr arferion hyn wedi cael llonydd i wreiddio yn y wlad er cyn côf, a mwy na chael llonydd, yr oeddynt wedi cael. pob magwraeth oddiwrth uchelwyr, oddiwrth y Wladwriaeth, ac oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Dywed Ficar Pritchard,. Llanymddyfri, am ei amser ef, "fod yn anhawdd penderfynu. pa un ai yr offeiriad, y ffermwr, y labrwr, y crefftwr, y ceisbwl, y barnwr, neu y boneddwr oedd y mwyaf rhyfygus mewn annuwioldeb." Yn y flwyddyn 1633 y darfu Charles I., trwy ddylanwad yr esgobion, basio cyfraith fod yn rhaid darllen "Llyfr y Chwarenon" yn yr eglwysi ar y Sabbothau. Gwnaed. hyn gyda'r amcan o ddial ar y Puritaniaid, eu cael i ymadael a'r eglwysi, a'u gyru allan o'r wlad, er mwyn paganeiddio y wlad, a'i chadw mewn anwybodaeth, a thywyllwch ac ofergoel- edd. Ni allesid dyfeisio yr un ddyfais well i gyfateb i chwaeth y werin bobl. Ymddengys, yn ol pob hanes sydd ar gael, fod y gyfraith hon wedi dwyn ffrwyth yn y rhanau yma o Sir Feirionydd yn fwy na dim byd arall. Dilynodd ei heffeithiau ymlaen, gan ychwanegu yn ei dylanwad, am 150 o flynydd- oedd.

Yn 1623, deng mlynedd cyn pasio deddf "Llyfr y Chwareuon," talodd Dr. Lewis Baily, Esgob Bangor, ymweliad â phlwyfydd ei esgobaeth. Cyhoeddwyd hyny oedd ar gael o'i adroddiad yn yr Archaeologia Cambrensis, am Hydref, 1863. Crybwyllir am bedwar plwyf yn Sir Feirionydd, a dau o honynt o'r dosbarth hwn:—

LLANEGRYN. "Dim ond dwy bregeth a gafwyd yma."

PENAL. Anfynych y maent yn cael pregethau yma."

Cyffelyb ydoedd, yn ddiameu, yn y plwyfydd eraill. Tebyg i hyn y parhaodd pethau am y ganrif o flaen y Diwygiad Meth- odistaidd.

Dyma fras-ddarluniad o'r wlad cyn i grefydd ei gwneuthur y peth ydyw yn awr. Ac fe gofir nad yw yr hyn a ddywedwyd yn cynwys dim ond rhai o brif arferion y wlad. Yr oedd llawer iawn o ofergoeledd a Phabyddiaeth yn ffynu ynglyn â chladdu y marw. Ystyrid yn anmharch ar y trancedig os na renid diod boeth cyn cychwyn oddiwrth y tŷ, a myned i'r dafarn i yfed wedi gorphen claddu. Byddai tafarn a llan yn ymyl eu gilydd bob amser, ac yn ol geiriau un oedd yn byw yn y cyfnod hwn, "ar ol claddu y marw, byddai y peth a alwent yn siot, sef postio swllt y llaw i gael cwrw." A'r mwyaf ei siot fyddai y mwyaf ei barch. Prawf fod yr arferion hyn wedi gwreiddio yn ddwfn yn y wlad ydoedd, y bu raid cael amser mor faith i'w dadwreiddio. Parhaodd yr arferiad o ymladd ceiliogod hyd yn agos i driugain mlynedd yn ol, ac nid oedd rhanu diod boeth mewn claddedigaethau ond prin wedi darfod pan ddaeth dirwest i'r wlad, haner can mlynedd yn ol.

Nodiadau[golygu]