Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Bethel, Dolgellau

Oddi ar Wicidestun
Saron (Friog) Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Eglwys Saesneg, Dolgellau
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dolgellau
ar Wicipedia

BETHEL, DOLGELLAU

Gosodwyd careg sylfaen capel Bethel, Medi 6, 1876, gan Eliazer Pugh, Ysw., Liverpool, yr hwn a roddodd £100 tuagat draul yr adeilad. A thraddodwyd anerchiadau ar yr achlysur gan y Parchn. Roger Edwards, David Jones, a Hugh Roberts. Un lle o addoliad oedd gan y Methodistiaid yn y dref cyn y flwyddyn hon. Ond yr oedd yr Arglwydd wedi bendithio gweinidogaeth yr efengyl, a llafurwaith ei bobl i'r fath raddau nes peri fod Salem, sef y capel mawr, fel ei gelwid, wedi myned yn rhy fach i'r gynulleidfa a ymgynullai ynddo. Yr oedd pob eisteddle o'i fewn ar osodiad er's rhai blynyddau, a chan y bu gorfod i lawer droi ymaith heb le, ystyrid fod yr achos yn cael colled. O'r diwedd daeth yr eglwys wyneb yn wyneb â'r angenrheidrwydd i helaethu lle y babell. Am beth amser bu dau syniad o flaen y frawdoliaeth, naill ai tynu i lawr yr hen adeilad ac adeiladu un mwy yn ei le, neu adeiladu capel newydd mewn cŵr arall o'r dref. Ond ar ol llawer o ymgynghori, penderfynwyd fod i ddau frawd, sef Mr. Edward Griffith, Springfield, a'r diweddar Mr. David Jones, Eldon Square, edrych allan am le mewn man arall ar y dref i godi capel newydd, a chyn bo hir agorodd Rhagluniaeth y drws. Wele ddarn o dir ar werth, yn y rhan a adwaenir wrth yr enw Cwrt- plas-yn-dref, yr hwn a brynwyd yn ddioed gan y brodyr a enwyd. Digwyddiad hynod oedd hwn, oblegid saif y llanerch yn y fan lle safai y tŷ bychan y sefydlwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf gan y Methodistiaid yn Nolgellau, a'r lle hefyd, fel y tybir, y dewiswyd y blaenoriaid neu henuriaid eglwysig cyntaf yr enwad yn y dref. Bu y frawdoliaeth yn dra doeth yn darparu ar gyfer yr anturiaeth hon ymlaen llaw; rhoddasid casgliad ar droed er's rhai blynyddau yn yr Ysgol Sul, fel yr oedd bron ddigon mewn llaw i dalu am y tir, yr hwn a brynwyd mewn arwerthfa gyhoeddus am y swm o £520.

Ar ol prynu y tir, symudwyd ymlaen gyda'r gwaith o adeiladu y capel; cynhaliwyd llawer o gyfarfodydd i gyd—ymddiddan a chyd ymgynghori, a gwnaed y trefniadau canlynol;—Cynllunydd y capel, Mr. Richard Owen, Liverpool; adeiladydd, Mr. John Thomas, Dolgellau; arolygydd, Mr. Humphrey Jones, Dolgellau. Swm y contract a'r extras £1720. Cyfanswm yr addewidion tuag at y draul £802 10s. Oc. Cyfranodd amryw bersonau a arosasant yn Salem yn anrhydeddus tuagat adeiladu Bethel. Y flwyddyn flaenorol, hefyd, yr ymsefydlodd y Parch. R. Roberts yn y dref, a rhoddodd ef ei ddylanwad yn gryf o blaid adeiladu y capel hwn a'r capel Saesneg. Cynhaliwyd cyfarfod agoriad y capel hwn Hydref 4ydd, 1877, pryd y pregethwyd yn Bethel a Salem gan y Parchin. Joseph Thomas, Carno, T. C. Edwards, D. D., Aberystwyth, a John Hnghes, D. D., Liverpool. Cynhaliwyd cyfarfod eglwysig hefyd, bore yr ail ddydd, yn Bethel, ac ymdrinwyd ynddo ar hanes Jacob yn Bethel, Gen. xxviii. 16—19. Hydref 11eg bu dau frawd dros y Cyfarfod Misol yn sefydlu yr eglwys yn rheolaidd, sef y Parchn. D. Jones, Garegddu, a J. Davies, Bontddu. Swyddogion yr eglwys ar ei sefydliad cyntaf oeddynt:— Gweinidog, y Parch. R. Roberts; Diaconiaid, Mri. R. O. Rees, J. Meyrick Jones, J. Williams, R. Mills. Cyfrif cyntaf yr eglwys, ar ddiwedd 1877, sef ymhen tri mis ar ol ei sefydliad: gwrandawyr 230; yr Ysgol Sabbothol 210; mewn cymundeb 94. Yn haf y flwyddyn 1880 derbyniodd yr eglwys ychwanegiad pwysig at y swyddogaeth, trwy ddyfodiad dau ddiacon o eglwysi eraill, sef Mr. Richard Williams, o Salem, a'r diweddar Mr. Evan Jones, o Lanelltyd. Gorphenaf 8fed, yr un flwyddyn, bu dan genad dros y Cyfarfod Misol yn cymeryd llais yr eglwys, pryd y galwyd y ddau i'r swyddogaeth yn eglwys Bethel, a chadarnhawyd yr alwad gan y Cyfarfod Misol. Ond cyn pen hir wedi hyn dechreuodd nifer y swyddogion a lleihau drachefn. Symudwyd Mr. R. O. Rees, oddiwrth ei lafur at ei wobr, am yr hwn y rhoddwyd hanes mewn cysylltiad a'r eglwys y bu yn swyddog ynddi y tymor hwyaf o'i oes; ac ymadawodd Mr. J. Meyrick Jones, i fyned i Salem.

Y gorchwyl pwysig nesaf ydoedd rhoddi oriel (gallery) ar y capel, yr hyn yr ymgymerwyd ag ef yn y flwyddyn 1884. Oriel ar un pen i'r capel a roddwyd ar ei wneuthuriad cyntaf, ond barnodd y frawdoliaeth y buasai ei hestyn i'r ddwy ochr yn ei wneuthur yn fwy cysurus, yr hyn hefyd sydd wedi dyfod i fyny yn hollol a'u disgwyliad. Cynllunydd yr oriel newydd ydoedd Mr. Richard Davies, Bangor; adeiladydd, Mr. Thomas Morris, Dolgellau. Swm y contract a'r extras—£227 5s. 7c. Sabbath, Hydref 7fed, aeth y gynulleidfa i'r capel i addoli wedi gosod yr oriel i fyny, pryd y pregethwyd gan y Parch. D. Charles Davies, M. A., Bangor. A'r Llun canlynol cynhaliwyd cyfarfod pregethu, a phregethwyd ganddo ef a'r Parch. D. Lloyd Jones, M. A., Llandinam. Yr hanes a rydd y brodyr am y cyfarfod hwn ydyw, ei fod yn dra rhagorol, cawodydd bendith wedi disgyn ar y cyfarfod gweddi y bore Sabbath, y y pregethau yn rymus a gafaelgar, ac arwyddion fod yr Arglwydd yn amlwg gyda'i bobl. Swm yr addewidion at y draul o osod i fyny yr oriel newydd—116 14s. 7c. Cafwyd y gweddill trwy gasglu yn yr Ysgol Sul, fel yr oedd holl draul yr oriel wedi ei gwbl dalu erbyn diwedd 1886.

Wedi colli tri o'i swyddogion, a chan nad oedd ond tri eraill yn aros, penderfynodd yr eglwys wneuthur cais i ychwanegu at eu nifer, ac yn Ionawr 28ain, 1886, ymwelodd y Parch. R. H. Morgan, M.A., a Mr. Thos. Griffith, Llanelltyd, â hi, dros y Cyfarfod Misol, i'w chynorthwyo yn y gorchwyl; a dewiswyd yn rheolaidd i'r swydd Mri. Thomas Richards, D. E. Hughes, O. D. Roberts, a W. Williams. Yn y Dyffryn, Mawrth 7fed, derbyniwyd y brodyr hyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Hwy eu pedwar, a Mri. R. Williams, J. Williams, a R. Mills, ynghyd â'r Parch. R. Roberts ydyw swyddogion presenol yr eglwys. Dyma fel y cyrhaedda crynhodeb o hanes yr achos yn nghapel Bethel o'r dechreuad hyd yn hyn. Mae yr olwg sydd arno yn awr (1888) ymhell o fod yn ddigalon. Nis gellir disgwyl i'r gynulleidfa gynyddu llawer ar hyn o bryd, ond mae rhif yr eglwys eisoes o fewn dau yn ddwy waith ei rhif pan ei sefydlwyd hi gyntaf, ac yn ychwanegol at ei holl dreuliau eraill, yr oedd dyled y capel ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf wedi ei dynu i lawr i £570. Y mae cyfrifon yr eglwys i'w gweled oll yn yr Ystadegau Blynyddol. Canmola y brodyr fod gwedd lewyrchus ar gyfarfod gweddi y bobl ieuainc boreu Sabbath, y cyfarfodydd darllen, a'r Ysgol Sabbothol, ac fel ffrwyth, daw cyfran dda o wobrwyon y Gymanfa Ysgolion a'r Cyfarfod Misol i'w rhan, ac, er hyny, cydnabyddant, pa astudrwydd, pa lafur, pa ffyddlondeb bynag a fu gyda'r achos, fod y llwyddiant i'w briodoli yn gwbl i fendith yr Arglwydd a gras ei Ysbryd Ef.

Evan Jones, Cader Villa.—Ar brydnhawn hwyr ei oes y symudodd ef i Ddolgellau, ac y dewiswyd ef yn swyddog yr eglwys hon. Gwasanaethodd y swydd yn Llanelltyd yn flaenorol am dros ugain mlynedd. Syniad ei frodyr am dano oedd, ei fod yn ddyn da, yn Gristion cywir, yn athraw llwyddianus, yn ddoeth mewn cyngor, yn ddiwyd mewn ffyddlondeb yn ngwinllan ei Arglwydd. Bu farw mewn tangnefedd yn y

Nodiadau[golygu]