Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Cynwysiad

RHAGYMADRODD

—————————————

CYNHALIAD Gwyl Can'mlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn 1885 fu yr achlysur uniongyrchol i ymddangosiad y gwaith hwn. Syrthiodd i ran yr ysgrifenydd i roddi hanes yr ysgol o'r dechreuad, mewn rhan o'r sir, yn yr wyl a gynhaliwyd yn Aberdyfi. Wrth wneuthur ymchwiliadau ar gyfer y gorchwyl hwnw, daeth rhai pethau i'r golwg, a ddangosent yn bur eglur yr angenrheidrwydd am ysgrifenu mewn trefn hanes dechreuad a chynydd crefydd yn yr eglwysi. Teimlid yn awyddus i gael hanes yr Ysgol Sul yn argraffedig. Ac os hanes yr ysgol, paham na cheid hanes crefydd yn ei holl symudiadau?

Y mae yn perthyn i gylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd yn awr 60 o eglwysi, ac ni cheir crybwylliad hyd yn nod am enw, o leiaf ddwy ran o dair o honynt yn Methodistiaeth Cymru. Gwir fod llawer o'r cyfryw yn eglwysi lled newyddion, ond y mae amryw hefyd o hen eglwysi heb ddim o'u hanes wedi ei ysgrifenu. Amcan proffesedig yr awdwr yn Methodistiaeth Cymru ydoedd, ysgrifenu HANES CYFFREDINOL, sef prif linellau yr hanes yn y gwahanol siroedd. Ac y mae wedi gwneuthur hyny yn y modd mwyaf canmoladwy. Erys y tair cyfrol a ysgrifenodd yn drysor arhosol o'r fath werthfawrocaf tra parhao crefydd yn Nghymru. Ond gan ei bod yn ymyl deugain mlynedd er pan eu hysgrifenwyd, amlwg ydyw fod llawer o ddigwyddiadau wedi cymeryd lle yn ddiweddarach mewn cysylltiad â chrefydd yn ein plith y dylid eu cadw mewn coffadwriaeth.

Allan o ddeugain o eglwysi oedd yn perthyn i'r rhan Orllewinol o'r sir yn 1850, mae yr hanes am ryw haner dwsin wedi ei gofnodi yn Methodistiaeth Cymru yn lled gyflawn, am y rheswm fod dynion yn perthyn i'r eglwysi hyny ar y pryd, yn fedrus yn y gwaith o ysgrifenu, ac yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr hanes a ysgrifenid, y rhai a anfonasant gyflawnder o ddefnyddiau i Mr. Hughes at y gwaith; aethpwyd heibio i leoedd eraill heb gofnodi nemawr ddim am danynt, yn unig oherwydd nad anfonodd pobl y lleoedd ddefnyddiau i'r awdwr.

Cedwid tri pheth mewn golwg wrth ysgrifenu yr hanes hwn.

1. Cofnodi cymaint a ellid gael o hen hanes am yr eglwysi hyny nad oedd dim wedi ei ysgrifenu o'r blaen. I gyraedd yr amcan hwn, gwnaethpwyd llawer o ymchwiliadau gyda hen bobl hynaf pob ardal. Yn ychwanegol hefyd, daethpwyd o hyd i gryn swm o ddefnyddiau yn ysgrifau yr ysgolfeistr hynod, a'r pregethwr zelog, Lewis William, o Lanfachreth. Am y cyfryw ddefnyddiau, gwir yw yr ymadrodd, "Goreu côf, côf llyfr."

2. Crynhoi pob hanes oedd eisoes wedi ei ysgrifenu, a'i ddwyn hyd y gellid i gysylltiad â phob eglwys lle y perthynai. Gwnaethpwyd defnydd helaeth o'r hanesion rhyfedd am y mawrion weithredoedd a amlygwyd yn nechreuad crefydd yn ein gwlad,. gan ystyried y gallai dwyn y cyfryw i gyraedd darllenwyr yr oes-bresenol fod o fendith.

3. Croniclo y prif ffeithiau a'r digwyddiadau a gymerasant le i lawr hyd yr adeg bresenol.

Pe buasai rhywun wedi ymgymeryd ag ysgrifenu yr hanes, gyda gradd o fanylwch, haner can' mlynedd yn ol, buasai y gwaith yn llawer haws i'w gyflawni, oblegid yr oedd rhywrai yn fyw ymhob ardal y pryd hwnw, a allasent roddi gwybodaeth am bob peth, fel y bu o'r dechreuad. O flwyddyn i flwyddyn, mae nifer yr hen bobl yn myned lai lai, a helyntion yr amseroedd gynt yn myned bellach bellach o'r cyraedd. A sicr ydyw, pe na buasid yn achub y cyfle i gasglu y lloffion a ddaethant i'r wyneb yn ystod y flwyddyn gofiadwy 1885, buasai llawer iawn mwy o goffadwriaeth y tadau yn myned am byth ar ddifancoll.

Amcanwyd rhoddi cofnodiad am holl swyddogion yr eglwysi, yn bregethwyr a blaenoriaid. Os gadawyd rhywrai allan, mewn amryfusedd hollol y bu; ni ddaethpwyd o hyd i'w henwau. Galf rhai dybio, drachefn, mai ychydig a ysgrifenwyd am ambell un. Yr unig ateb i hyn ydyw, mai ychydig o ddefnyddiau a gafwyd, ac anmhosibl ydoedd eu creu. Hyd yr oedd yn bosibl, gadawyd allan yr hyn a dybid a fyddai yn esgyrn sychion, sef gormod o fanylion lleol, rhag i'r hanes fyned yn annyddorol. Am yr anmherffeithderau sydd yn y gwaith, nid oes neb yn fwy ymwybodol o honynt na'r ysgrifenydd ei hun. Ac os gwnaed camgymeriadau, ceir eto gyfle i'w cywiro.

Wele y Gyfrol Gyntaf wedi ei chwblhau. Gan rai, buasai yr holl hanes mewn un gyfrol yn fwy dewisol, ond fe'i rhoddwyd yn ddwy yn bwrpasol er mwyn iddo fod yn gyraeddadwy o ran ei bris i'r lliaws. A chalondid mawr ydyw gweled cynifer yn rhoddi eu cefnogaeth trwy ddyfod yn dderbynwyr. Priodol hefyd ydyw cydnabod gyda diolchgarwch cynes y brodyr lawer a roddasant eu cymorth i gasglu defnyddiau o'r gwahanol ardaloedd. "Os yr Arglwydd a'i myn, ac os byddaf byw," bwriedir, mewn amser rhesymol, ddwyn allan yr Ail Gyfrol, yr hon a gynwys y gweddill o hanes eglwysi cylch y Cyfarfod Misol, ynghyd â rhai pethau eraill o ddyddordeb.

Pennal, Rhagfyr, 1888.

R. O.