Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Yr Ysgol Sabbothol 2
← Eglwys Saesneg, Dolgellau | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I gan Robert Owen, Pennal |
Sefydliad Cyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth → |
PENOD III.
——————
YR YSGOL SABBOTHOL.
——————
CYNWYSIAD.—Dechreuad yr ysgol yn Llanfachreth—Rhoddi yr ysgol i fyny yn y Bontddu—Sefydliad y Cyfarfodydd Ysgolion—O 1838 i 1859—Mr. R. O. Rees a'r Ysgol Sul—Teyrnged o barch i Lewis Williams—Y Gymanfa Ysgolion—Swyddogion Cyfarfod Ysgolion y Cylch.
MAE cysylltiad mor agos wedi bod rhwng yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru â chrefydd, fel y mae yn anhawdd ysgrifenu hanes crefyddol unrhyw ran o'r wlad, heb roddi lle arbenig i'r sefydliad daionus hwn. Y mae i'r sefydliad ei hanes neillduol ei hun, hefyd, ymhob rhan o'r wlad. Felly yn Nosbarth Dolgellau. Gan fod yr elfen leygol mor gref ymhlith y Methodistiaid, cafwyd cynorthwy yr elfen hono yn helaeth iawn yma, fel mewn lleoedd eraill, i hyrwyddo symudiadau crefydd ymlaen mewn cysylltiad â'r Ysgol Sul. Gwnaethpwyd eisoes grybwyllion helaeth am yr ysgol wrth roddi hanes crefydd yn yr eglwysi, pan y gwelid fod ei hanes hi a hanes crefydd yn y lle yn gyd-blethedig â'u gilydd. Daeth cyfran o'i hanes yn y dosbarth hwn i mewn hefyd, o angenrheidrwydd, ynglyn â Dosbarth y Ddwy Afon. Rhoddir eto yn y benod hon y pethau pwysicaf oedd yn dal cysylltiad â hi yn y dosbarth, o'r dechreuad hyd flwyddyn y Can'mlwyddiant.
Er fod rhanbarth Dolgellau, o ran ei sefyllfa ddaearyddol, yn nes i'r Bala, cartref sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol, na dosbarthiadau eraill Gorllewin Meirionydd, eto, bu y rhanau eraill ychydig yn fwy blaenllaw, o ran amser, i sefydlu ysgolion. Yr ydys yn barod wedi gweled yr amharodrwydd oedd yn nhref Dolgellau i ymgymeryd â'r sefydliad. A chan fod y dref yn hwyrfrydig i gychwyn, nis gellid disgwyl dim yn amgen oddiwrth y lleoedd bychain cylchynol.
Ni lwyddodd yr ysgrifenydd yn ei ymchwiliadau i gyraedd sicrwydd iddi gael ei chynal yn unrhyw fan yn y dosbarth yn flaenorol i'r flwyddyn 1800, oddieithr y crybwylliad byr am dani yn cael ei chadw dros ychydig amser yn nhref Dolgellau, gan ysgolfeistr yr Ysgol Rad, John Ellis, Abermaw, cyn i'r gwrthwynebiad iddi gyfodi oddiwrth y penaethiaid. Digon posibl, er hyny, i gychwyniad gael ei roddi iddi yn achlysurol mewn rhai manau cyn hyn. Ysgol Sul Llanfachreth ydyw y gyntaf y cafwyd gwybodaeth sicr am ei dechreuad. Un o'r hen frodyr yno, a ysgrifenodd am dani yn 1862, ac efe yn hynafgwr y flwyddyn hono" Dechreuodd yr Ysgol Sabbothol yn Llanfachreth yn y flwyddyn un fil ac wyth cant. Y person y rhoes yr Arglwydd ei Ysbryd arno i'w dechreu oedd Lewis Evans, o'r Caeglas. Aeth ef at John Jones, Penyparc, i'r ysgol ddyddiol, ac erbyn iddo fyned yno, yr oedd yr Ysgol Sabbothol yno o'i flaen; a chan iddo dderbyn yn helaeth o ysbryd ei athraw, dechreuodd yntau yr ysgol ar ol iddo ddod adref i Lanfachreth. Wrth weled anwybodaeth dybryd yr ardal—mor lleied a fedrai ddarllen—y Sabbath yn cael ei halogi—dynion o bob oedran yn chwareu pêl ar do yr eglwys ar ddydd yr Arglwydd—yn diweddu'r dydd mewn ymrafaelion, ac ymladdfeydd yn y dafarn—teimlodd yn ddwys dros ei gymydogion, a phenderfynodd roddi cychwyn ar yr hyn a welsai yn gwneuthur les mewn rhan arall o'r wlad, Gwaith mawr a gafodd ef oedd perswadio ei gyd—frodyr i fod yn gynorthwy iddo. O'r diwedd, fe ddechreuodd Sion Dafydd, Dolclochydd, ei gynorthwyo. Am lawer o amser, ni fyddai dim ond un proffeswr yn yr ysgol ar y tro. Y nesaf a gydiodd yn ngwaith yr ysgol oedd Edward Thomas, yr hwn oedd yn byw yn un darn o'r hen dy lle dechreuodd yr achos. Drachefn, ymunodd Hugh Roberts, o'r Rhedyn Cochion, â hi; yr oedd ef yn ysgolhaig da, a pharhaodd yn ffyddlon i'r ysgol. Robert Griffith, o'r Bryn Blew, hefyd, oedd ymhlith y ffyddloniaid cyntaf. Ar ol hyn, byddai Mr. Charles yn dyfod yma yn bur aml, ac yn dweyd yn gynes am yr ysgol, ac yn anog pawb i ddyfod iddi. Ymhen blynyddau ar ol hyn, bu Richard Roberts (Parch. R. Roberts, Dolgellau), Hafodfedw, yn dyfod yma am lawer o amser. Byddai yn Llanelltyd y boreu, Buarthyrê am ddau, a'r Llan y nos. Nos Sabbath y byddai yr ysgol yn Llanfachreth y blynyddau hyny. Gwneid casgliad yn yr ysgol at gael canwyllau, a byddai Sarah Pugh, Cwmeisian, yn anrhegu yr ysgol bob blwyddyn â phwys o ganwyllau." Dywed yr un gŵr, hefyd, yn yr un ysgrif, ddarfod i'r erledigaeth fawr a brofwyd oddiwrth y boneddwr a breswyliai yn yr ardal wanychu yr ysgol yn fawr, nes ar un adeg ei dwyn yn llai o rif nag ugain. Ond, bob yn dipyn, crefydd a orfyddodd; yn ol y daeth deiliaid yr ysgol, a thywalltodd yr Arglwydd ei Ysbryd ar ei bobl. Un nos Sul, torodd allan yn orfoledd wrth i Lewis William holi y bedwaredd benod o'r Hyfforddwr. Pan ofynodd y cwestiwn, Pa beth sydd i'w ddeall wrth fod ei ben (y sarff) yn cael ei ysigo, ac yr adroddwyd yr adnod fel atebiad, 'I hyn yr ymddangosodd' Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol,' dyna floedd fawr nes oedd y cedrwydd cryfa yn syrthio i'r llawr."
Y blynyddoedd cyntaf, byddai yr Ysgol Sul yn cael ei rhoddi i fyny mewn llawer man o ddiffyg zel a chrediniaeth yn yr angenrheidrwydd am dani. Ac ni ystyrid ei rhoddi i fyny yn beth hynod. Ceir engraifft o hyn yn y Bontddu, ymhen deuddeng mlynedd ar ol ei sefydliad yno. Awst 20fed, 1815, cynhaliwyd cyfarfod athrawon yn y lle, "I ystyried pa un ai cadw yr ysgol yn hwy a wneid, ai ei diddymu o fod." Yr oedd L. William yn bresenol, ac efe a ysgrifenodd yr hanes am y cyfarfod. Penderfynwyd, modd bynag, iddi gael ei pharhau, ac yn erbyn ei diddymiad, oblegid y rhesymau canlynol:—(1.) "Fod llawer o blant ac eraill mewn oedran yn yr ardal eto heb eu dysgu, ac fe fyddai rhoddi yr ysgol i fyny yn bresenol fel rhoi gwaith heibio ar haner ei wneyd. (2.) Fod hen bobl heb fedru darllen, gan nad oedd Ysgol Sabbothol yn amser eu hieuenctid, ac os ninau a adawn i'r ysgol fynd i lawr, bydd plant yr oes hon yn yr un sefyllfa anfanteisiol i gael gwybodaeth o'r Gwirionedd. (3.) Nad yw y Beibl yn ateb un diben heb ei ddarllen, ac felly fod eisiau ei ddefnyddio. (4.) Byddai ein gwlad yn ddidrefn, tywyll, anwybodus, a thlawd yr olwg arni, pe na byddai neb yn medru darllen ynddi. (5.) Fod bron holl ardaloedd Cymru yn yr adeg hon wedi eu gwisgo yn hardd â gwybodaeth trwy yr Ysgol Sabbothol, a byddem ni fel ardal dan ein gwarth, yn anad neb yn ein hoes, o ddiffyg defnyddio y moddion. (6.) Elai holl lafur Cymdeithasau y Beiblau i argraffu y Beibl yn ofer o'n rhan ni, oddieithr i ni ddefnyddio moddion i ddysgu ei ddarllen." Rhoddir yn yr oll ddeuddeg o resymau cyffelyb. Yna, yn y fan a'r lle, "ystyriwyd a oedd dim yn bosibl cael un tro ar yr ysgol er ei diwygio."
Gellir yn briodol ystyried yr amser hyd y Diwygiad yn 1817-18 yn gyfnod y dechreuad gyda gwaith yr ysgol. Derbyniodd adgyfnerthiad anghyffredin o fawr yn Nolgellau a'r ardaloedd bychain cylchynol trwy yr ymweliad gwerthfawr hwnw. hyny allan, dechreuodd cyfnod gweithio ymhob cangen o honi. Ceir, wrth ddilyn ei hanes i lawr i'r adeg bresenol, na bu cyfeillion yr Ysgol Sul na segur na diffrwyth yn y dosbarth hwn. Os bu gwrthwynebiad iddi yn nechreuad y ganrif, oddiwrth swyddogion crefydd, daethant hwy allan o'i phlaid wedi hyny yma yn llawn mor gryfed ag unrhyw ran o'r sir. Rhoddodd y dynion blaenaf gyda chrefydd eu talent a'u gwasanaeth i hyrwyddo y gwaith ymlaen trwy yr holl flynyddau a aethant heibio. Nis gellir eu nodi bob yn un ac un. Ond o blith y lliaws ffyddloniaid sydd wedi myned i'r orphwysfa, saif tri o honynt yn uchel ar gyfrif eu zel a'u llafur, ac nid anmhriodol y gellir eu galw yn dri chedyrn yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth—Lewis William, Llanfachreth, R. O. Rees, Dolgellau, a David Jones, Eldon Square, Dolgellau. Llafuriodd eraill ar dymhorau gydag amlygrwydd a llwyddiant mawr, nid yn unig yn eu cartrefi, ond yn y cylch cyffredinol. Mae a ganlyn yn engraifft o'r pethau fyddent yn cael sylw gan y tadau. O Gyfarfod Ysgol a gynhaliwyd yn y Bontddu, Mai. 2il, 1847, anfonwyd y cenadwriaethau canlynol adref i'r ysgolion (1). Anogwyd fod cyfarfod eglwysig i'w gynal. ymhob lle y nos Sadwrn o flaen Sabbath y Cyfarfod Ysgolion, a hwnw i'w dreulio mewn ymddiddan am yr Ysgol Sabbothol, ac os bydd amgylchiadau yn rhoi, gofaler am i'r pregethwr fydd yn cadw y Cyfarfod Ysgol fod yn hwnw. (2). Rhoddwyd anogaeth i'r athrawon i beidio rhoi gormod o waith i'r un un, ond ei ranu rhwng llawer, fel na byddo y gwaith yn ddieithr wedi i angau symud y tadau oddiwrth bwys y gwasanaeth. (3). Cymhellwyd i geisio cael gafael ar yr hen ddull o ddysgu yr Hyfforddwr, a'i adrodd yn gyhoeddus.
Nodiadau
[golygu]