Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Dyffryn
← Abermaw | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Gwynfryn → |
DYFFRYN.
"Ychydig o leoedd yn Sir Feirionydd sydd yn fwy blodeuog o ran yr achos crefyddol, gyda'r Methodistiaid, na'r ardal hon." Fel yna yr ysgrifenwyd am yr ardal yn y flwyddyn 1850. Yr oedd y sylw yn wir y pryd hwnw, faint bynag o wir all fod ynddo yn awr, a gellir nodi dwy ffaith i brofi gwirionedd y sylw, Yr oedd o'r dechreu cyntaf drefn dda wedi ei chadw ar holl amgylchiadau yr eglwys yn y lle hwn, ac heblaw hyny, bu yma gewri o weinidogion a blaenoriaid yn golofnau o dan yr achos yn yr amser aeth heibio. Hysbys ydyw mai gwlad agored ydyw yr ardal hon, yn gorwedd ar lan y môr, oddeutu haner y ffordd rhwng Abermaw a Harlech, a'i thai a'i thrigolion yn wasgaredig. Nid yw ei phoblogaeth wedi cynyddu yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, yn gyffelyb i leoedd eraill, felly y mae ganddi yr anfantais hono, o leiaf, i gadw ar y blaen ymhlith eglwysi y sir. Pa fodd bynag, i Fethodistiaid lliosog Sir Feirionydd fe bery crefyddwyr y Dyffryn yn hir yn "garedigion oblegid y tadau," ac erys y lle byth yn gysegredig yn eu teimlad, oblegid yma y mae Machpelah, lle yr huna amryw o enwogion a fu gynt yn arweinwyr crefydd yn y wlad. Ceir cryn lawer o hanes dyddorol am ddechreuad yr achos yn y Dyffryn yn Methodistiaeth Cymru, ac y mae hyny i'w briodoli yn benaf i'r ffaith fod y Parch. Richard Humphreys yn fyw pan oedd y gwaith hwnw yn cael ei barotoi i'r wasg, a dywed yr awdwr mai i'r gŵr parchedig o'r Faeldref yr oedd yn ddyledus am yr hanes. Nis gallwn wneuthur yn well, yn gyntaf oll, na rhoddi y dyfyniad canlynol yn llawn,—
"Dechreuad achos y Methodistiaid yn y Dyffryn oedd yn debyg i hyn. Yr oedd brawd a dwy chwaer, mab a merched i wr o'r enw Richard Humphrey, yn arfer myned i wrando pregethu i Ben-yr-allt, gerllaw Harlech, sef i dŷ y Griffith Ellis y soniasom fwy nag unwaith am dano, ac wedi ymuno hefyd â'r gymdeithas eglwysig a ffurfiasid yno. Fe fyddai ambell odfa, y pryd hwn, yn cael ei chynal yn y Dyffryn, yr hwn sydd tua phum milldir o Harlech ;-cedwid yr odfeuon allan yn yr awyr agored. Ymddengys mai nid yn yr un fan y cedwid yr odfeuon hyn, ond weithiau yma ac weithiau acw. Mae son, pa fodd bynag, am un yn cael ei chynal mewn lle a elwir Clwt-y-gamfa-wen; gwnaed yr odfa hon yn fwy hynod, oherwydd yr aflonyddu a fu arni.
"Yr oedd yn Nghors-y-gedol, ar y pryd, wr o'r enw Griffith Garnetts, math o ymddihynydd ar y teulu boneddig. Hwn, ynghyd ag un o'r dynion a berthynai i'r helwriaeth, a ddaeth at y gynulleidfa. Nid oedd y teulu Vaughan yn gwneyd dim sylw personol ac uniongyrchol o ysgogiadau y Methodistiaid; ond yr oedd y Garnetts hwn, naill ai wedi cael ei yru yn ddirgel ganddynt, neu ynte, yr hyn hefyd sydd yn fwyaf tebygol, yr oedd o hono ei hun yn prysuro i gyflawni y gorchwyl, a dybid ganddo yn gymeradwy ganddynt, a thrwy hyny enill mwy o'u ffafr. Y gwr ag oedd yn awr yn pregethu oedd William Evans, o'r Fedw-arian. I aflonyddu ar yr odfa, ac i ddyrysu y pregethwr, gorchmynai Garnetts i'r dyn oedd gydag ef chwythu y corn hela ei oreu, fel na chlywid llais y pregethwr. Chwyth yn ei glust o, Sionyn,—Chwyth yn nghlust y dyn â'r llyfr.' Felly y gwnaeth Sionyn, a hyny mor effeithiol, nes y bu raid i'r pregethwr dewi; y bobl hefyd a ymwasgarasant o'r lle, ond ymgynullasant eilwaith ar lan y môr, lle y tybient y gallent honi hawl i sefyll yn ddiwarafun; a lle y cawsant lonyddwch i wrando heb ychwaneg o ymyriad.
"Byddai R. Jones, Rhoslan, yn arfer dyfod y pryd hwn i bregethu i'r Dyffryn. Gwrandewid arno ef yn well nag ar nemawr neb a ddeuai; yn benaf am fod ei ddull o bregethu yn fwy tawel a digyffro, agwedd dra gwahanol i ddull y rhan fwyaf o bregethwyr y dyddiau hyny. Yr oedd hefyd yn arfer dyfod i'r ardal weithiau, i dori llythyrenau ar gerig beddau. Galwyd arno i wneyd hyn, amryw weithiau, i deulu Cors-y-gedol. Unwaith, pan yn llythyrenu yn y modd hwn, ar gareg fedd yn mynwent Llanaber, daeth Garnetts ato, i ddweyd fod yn ddrwg ganddo aflonyddu dim arno ef fel pregethwr, ac yntau yn arfer gweithio i Mr. Fychan, Cors-y-gedol; ond dywedai wrtho, yr un amser, y gwnai ef eto yr un peth, os anturiai Robert Jones bregethu yn y gymydogaeth hono. Ar hyn, ebe Robert Jones, A welwch chwi y bedd yna, Mr. Garnetts? fe fydd pregethu yn y Dyffryn pan fyddwch chwi yn gorwedd mewn lle fel hwnyna."
"Yr oedd y bedd y cyfeiriai Robert Jones ato yn agored ar y pryd, ac yntau yn ddyn yn ei gyflawn nerth. Tybiodd Garnetts ei fod ar fedr ymaflyd ynddo a'i roi yn y bedd y pryd hwnw,—dychrynodd drwy ei galon, a chan y dychryn, neu gan rywbeth o'r fath, fe'i hataliwyd rhag aflonyddu yr odfaon o hyny allan.
"Cymerodd hyn le cyn y flwyddyn 1780. Yn y flwyddyn hono, cymerodd Griffith Richard, sef mab Richard Humphrey, rwym-weithred (lease), ar ddarn o dir gan dad Dafydd Ionawr;[1] adeiladodd dŷ arno, ac i'r tŷ hwn y derbyniodd bregethu, fel na feiddiodd neb, o hyny allan, aflonyddu arnynt mwy. Yn lled fuan ar ol hyn, fe ddechreuwyd cyfarfod eglwysig mewn ystafell fechan yn y tŷ. Y mae un a ymunodd â'r eglwys fechan hon yn y flwyddyn 1785, yn awr yn fyw. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 15. Yn fuan ar ol hyny, adeiladwyd capel bychan gan Griffith Richard, yn benaf os nad yn gwbl, ar ei draul ei hun. Bellach yr oedd pregethu amlach a mwy cyson yn y lle; yr oedd rhagfarn y bobl yn lleihau, a gradd o effaith y pregethau yn aros ar feddyliau amryw. Tua'r cyfnod hwn, ymwelodd yr Arglwydd a'r ardal â diwygiad nerthol, nes yr aeth y capel bychan yn llawer rhy fychan i gynwys y gwrandawyr ag oeddynt bellach yn heidio i'r odfaon; a chwanegwyd amryw at rifedi yr eglwys.
"Y pryd hwn, yr oedd gwr o'r enw Mr. Llwyd yn gurad yn eglwysi Llanenddwyn a Llanddwywe (dau blwyf yn y fro), yr hwn oedd o leiaf yn deall yr efengyl, ac yn ei phregethu yn oleu a nerthol. Nid ydym mor sicr pa faint o ddylanwad yr efengyl a brofid gan ei galon ef ei hun. Bu farw yn Sir Aberteifi, a hyny, meddir, dan yr enw o fod yn gybydd truenus. Yr oedd ei weinidogaeth, pa fodd bynag, yn effeithiol iawn; ymgynullai canoedd i wrando arno, a mynych y byddai y llanau yn adsain gan lais gorfoledd a chân. Ond ni oddefid i'r llanau gael eu halogi (1) yn y modd yma yn hir. Gosododd teulu Cors-y-gedol eu hwynebau yn erbyn Mr. Llwyd, a bu raid i'r Wardeiniaid un Sabbath gyhoeddi yn yr eglwys, mewn ffordd o rybudd i'r gynulleidfa, y byddai raid i bawb aros yn ei blwyf ei hun, a pheidio a heidio yno yn lluoedd, gan eu bod yn difetha yr eglwys. Ond ni chafodd y cyhoeddiad hwn fawr o effaith ar y bobl.
"Yr oedd y curad yn pregethu heb lyfr, yr hyn oedd yn beth newydd iawn yn y llanau y pryd hwnw. 'Yr oedd y rector ei hun,' medd fy hysbysydd,[2] yn offeiriad o'r hen ffasiwn, yn caru byw yn llonydd a diofal, yn darllen y bregeth fel y gwasanaeth; ac y mae yn ddigon tebyg, heb nemawr o law ganddo yn nghyfansoddiad y naill mwy na'r llall. Anfonodd un o'r wardeiniaid unwaith at y rector ar ol darllen y llithoedd, i ddywedyd ei fod yn disgwyl cael pregeth yn y gosber. Yntau a anfonodd yn ol i ddywedyd fod hyny yn anmhosibl, am na ddygasai bregeth gydag ef. Ond ni fynai y warden ei droi heibio, a dywedai fod yn rhaid iddo gael un. Felly, fe drodd y person at y curad gan ddywedyd, 'Tyr'd ti, Llwyd—tyr'd ti, Llwyd, y mae pregeth gen'ti pan mynir, ac felly bu raid i Llwyd bregethu.
"Yr oedd pregethau y curad mor anghymeradwy gan deulu Cors-y-gadol, fel y penderfynasant fynu ei droi ef ymaith. Galwyd Vestry fawr o'r plwyfolion i'r diben hwnw, a gosodwyd yr achos i lawr o'n blaen, heb ameu yn ddiau, nad oedd dylanwad y teulu bonheddig yn ddigon i droi y glorian. Anturiodd un gŵr, pa fodd bynag, o'r enw Harri Roberts, Uwchlaw-y-coed, i ofyn, 'Pa ddrwg y mae Mr. Llwyd wedi ei wneyd?—am ba beth yr ydym yn ei droi ef i ffordd?' Atebodd un o'i wrthwynebwyr, Y mae ê yn curo clustog y pulpud, ac yn ei difetha hi a'r pulpud hefyd.' "Wel,' ebai Harri Roberts, 'mi dalaf fi am glustog newydd yn ei lle, pan dderfydd hi.' Ond ni wnai hyny mo'r tro, er fod y gŵr a addawodd wneuthur y glustog yn dda, yn ŵr cyfrifol a pharchus yn yr ardal;—i ffordd yr oedd yn rhaid i'r curad fyned. A myned ymaith a wnaeth; ac ar ei ymadawiad ef, ymadawodd yr holl rai hyny yn y gynulleidfa ag oedd a dim difrifol ar eu meddyliau, ac ymunasant â'r Methodistiaid: ac yn eu mysg yr oedd Harri Roberts, yr hwn, gyda'i frawd Richard Roberts, a Griffith Richard, a adeiladodd y capel, a gŵr arall o'r enw Sion Evan, oedd yn cyfansoddi y dosbarth cyntaf o flaenoriaid neu ddiaconiaid yr eglwys yn y Dyffryn." —Methodistiaeth Cymru I., 533-535.
Y mae llawer o ddelw yr Hybarch Richard Humphreys ar y pethau a adroddir uchod. Yr oedd ganddo ef fantais nodedig i adrodd yr hanes, gan ei fod yn frodor o'r ardal, ac yn dal perthynas agos â'r rhai a gychwynasant yr achos. Crybwyllir am ddau amgylchiad arall, yn ychwanegol at yr hyn a adroddir uchod, mewn cysylltiad â'r rhai y ceir enw Sidney Dafydd, gŵr a fu wedi hyny yn grefyddwr disglaer yn Abermaw, am yr hwn y coffheir ynglyn â'r eglwys yno. Daeth William Evans, or Fedw-arian, i'r Dyffryn i bregethu, ac ar y traeth yr oedd yr odfa i gymeryd lle. Ymgasglodd haid o lanciau y gymydogaeth ynghyd, gan lwyr fwriadu atlonyddu yr addoliad, a baeddu y pregethwr. Dygent gyda hwy gerig a phethau eraill i'w lluchio ato. Ymhlith y bechgyn gwylltion, ac yn flaenaf o honynt, yr oedd Sidney Dafydd. Ond pan y daeth ef i swn y canu, meddianwyd ef gan ddychryn, a gollyngodd y cerig a ddygasai gydag ef i'r llawr. Ei gyfeillion hefyd, pan welsant hyn, a lwfrhasant, ac ni bu ynddynt galon i aflonyddu ar y cyfarfod.
Y tro arall oedd pan y cedwid noswaith lawen yn Llanenddwyn, ac y digwyddai fod pregeth yr un noswaith yn nhŷ Griffith Richard. Yr oedd nifer o wŷr ieuainc wedi ymgasglu ynghyd i fyned i'r noswaith lawen, ond ofnent y byddai ambell un wedi myned i'r odfa yn lle dod gyda hwy. "Am hyny penderfynwyd ganddynt i Sidney Dafydd alw heibio'r odfa i edrych a oedd neb o'u cymdeithion yno. Pan ddaeth y genad at ddrws y tŷ, yr oedd y pregethwr yn cymeryd ei destyn, sef Ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yn nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched' (Deut. xxix. 19). Glynodd y geiriau fel saeth yn ei galon;—hoeliodd ef wrth y fan, fel na allai fyned i ffordd at ei gyfeillion. Arhosodd i wrando yr holl bregeth, a chafodd ei hun yn y diwedd yn nghanol y tŷ, wedi ei lwyr orchfygu, ac wedi bod yn gwaeddi allan am ei fywyd, fel un a welsai ei ddirfawr berygl."
Rhoddwyd yr hanes canlynol gan Mr. Robert Evans, Trefriw, tad y Parch. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd). Yr oedd y gŵr hwn yn enedigol o'r parth hwn o Orllewin Meirionydd, ac yn y sir hon yr ymunodd â chrefydd; bu yn byw am beth amser yn Mhwllheli, ond treuliodd y rhan fwyaf o lawer o'i oes yn Nhrefriw. Meddai graffder neillduol, côf rhagorol, ac ymddifyrai mewn adrodd helyntion boreuol y Cyfundeb. Yn ei hen ddyddiau ysgrifenodd grynhodeb o'r digwyddiadau a gymerasant le yn yr ardaloedd hyn yn nhymor ei ieuenctid. Ond gan na chyraeddasant y Parch. John Hughes yn ddigon prydlon i'w rhoddi gyda hanes Sir Feirionydd, y maent wedi eu cyfleu ar ol hanes Trefriw, yn y drydedd gyfrol o Fethodistiaeth Cymru. Mae yr hanes, fel y gwelir, wedi ei ysgrifenu gan un oedd yn llygad-dyst o'r holl amgylchiadau, ac y mae yn taflu goleuni, nid yn unig ar ddechreuad yr achos yn y Dyffryn, ond hefyd ar sefyllfa yr ardaloedd cylchynol, fel mai prin y byddai yr hanes yn y gyfrol hon yn gyflawn heb roddi y dyfyniad yn ei gyfanrwydd. Mae y ffeithiau yn cytuno ymhob peth o bwys â'r crynhodeb a roddwyd gan y Parch. Richard Humphreys,—
"Megis y crybwyllwyd eisoes, yr oedd pregethu yn Harlech ac Abermaw rai blynyddau cyn bod dim yn y Dyffryn. Y bregeth gyntaf, hyd y gallai Robert Evans wybod, a fu yn y Dyffryn, a draddodwyd gan Robert Jones, Rhoslan, ar y Morfa, dan Llanddwywe. Yr oedd yno dwmpath yn nghanol y gwastad, i ben yr hwn yr esgynai y pregethwr, ac oddiar y topyn gwyrddlas hwn efe a lefarodd yn hynod o ddifrifol ac effeithiol oddiar Gen. xix. 17, 'Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ol, ac na saf yn yr holl wastadedd;' a pheth teilwng i'w grybwyll ydyw na ddangoswyd y duedd leiaf i erlid, er mai dyma yr odfa gyntaf erioed a fu gan Ymneillduwyr o un enwad. Yr oedd Griffith Jones, Ynys-y-pandy, yn dechreu yr odfa o flaen Robert Jones. Ymhen enyd o amser ar ol hyn, daeth Thomas Evans, Waunfawr, i'r ardal; a'r lle y sefydlwyd arno iddo ef bregethu, oedd wrth y gareg filldir, yn y Coedcoch, lle y mae capel y Dyffryn yn sefyll yn awr. Pan glybu Rowland Williams, goruchwyliwr Cors-y-gedol, efe a ddaeth yno ar fedr lluddias Thomas Evans i bregethu; ac yr oedd yn y lle cyn i Thomas Evans gyrhaeddyd yno, ac yn ei ddisgwyl yn awyddus. Pan ganfu ef yn dyfod, efe a dorodd drwy y dorf i'w gyfarfod, a gofynodd iddo yn awdurdodol a llym, Pa beth ydyw eich gwaith yn heleyd ar draws y wlad, i ddyfod yma i beri cynwrf? Yr ydych chwi yn gwneyd llawer o ddrwg drwy beri anghydfod ac amrafaelion mewn teuluoedd; y wraig, feallai, yn myn'd ar eich ol, a'r gŵr yn sefyll yn erbyn.'
"I hyn yr atebodd Thomas Evans yn barchus ac arafaidd, 'Oni ddarllenasoch chwi yn y Beibl, Syr, i'n Hiachawdwr ei hun ragddywedyd mai felly y byddai gyda'i ddilynwyr ef? gan adrodd y geiriau yn Luc xii. 51-53; sef, 'Ydych chwi yn tybied mai heddwch y daethum i i'w roddi ar y ddaear? Nage meddaf i chwi, ond yn hytrach ymrafael, &c.'
"Yr oedd Thomas Evans mor barod yn ei atebion i holl wrthddadleuon y goruchwyliwr, fel y bu raid i'r olaf roddi y goreu iddo, a chyfaddef nad oedd wiw siarad âg ef. Felly fe droes ei gefn, gan orchymyn yn gaeth na ddeuai neb o honynt yno drachefn; a chafwyd llonydd i fyned ymlaen a'r odfa hyd ei diwedd.
"Y drydedd waith, daeth William Evans, Fedwarian, i'r Morfa, yn gyfagos i'r lle y bu Robert Jones y tro cyntaf yn pregethu. Daeth Rowland Williams y Sabbath hwn i'r eglwys, a threfnodd fyned i giniawa i'r Bennar isa', fel y byddai wrth law i atal unrhyw gyfarfod gymeryd lle ar y Morfa. A mawr oedd yr ymffrost ganddo ef a'i gyfeillion ar giniaw, pa orchestion eu maint a gyflawnent ar yr achlysur. Ymdrechai Lowri, gwraig William Bedward, eu llareiddio drwy ddweyd, Dyn, dyn! ni waeth i chwi eu gadael yn llonydd.' 'Na,' atebai Rowland Williams, os cânt lonydd, fe â yr holl wlad ar eu hol.'
"Pan welodd ef, a'r rhai oedd gydag ef, y pregethwr yn dyfod, allan a hwy i'w atal i bregethu yn y fan y bwriadwyd; ond wedi eu lluddias yno, aeth William Evans a'r dorf gynulledig i lan y môr. Yma y cawsant lonydd, gan yr ystyriai yr erlidwyr y traeth fel mynwent, yn llanerch gysegredig. Dro arall y daethai William Evans i'r Coedcoch i bregethu, daeth heliwr Corsygedol i'w ddyrysu trwy chwythu y corn hela, a bu raid i'r pregethwr a'r gynulleidfa gilio o'r lle.
"Y tri cyntaf," meddai Robert Evans, "a ymunasant â'r Methodistiaid yn y Dyffryn oeddynt, Griffith Richard a'i ddwy chwaer, Jane a Gwen Richard. Cafodd Griffith Richard ar ei feddwl adeiladu tŷ, yn y Coed-coch, am y ffordd â'r lle y mae capel y Dyffryn arno, ar gwr y cyttir. Ond fe ddarfu i deulu Cors-y-gedol ameu mai gyda golwg ar roddi lle i bregethu yr oedd ef yn adeiladu, a buont yn bygwth y gwnaent ei chwalu. Bu teulu Griffith Richard, gan hyny, yn gwylio llawer noswaith, rhag y rhoisent eu bygythiad mewn grym. Ond fe lwyddodd y gŵr i gael ei amcan i ben, er yr holl wrthwynebiad. Yr Arglwydd hefyd a'i cofiodd yntau, trwy goroni ei lafur â llwyddiant. Yr oedd Robert Evans, y pryd hyn, wedi ymadael â'r Dyffryn, ac yn aros yn y Penrhyndeudraeth. 'Mae yn gofus iawn genyf,' meddai, 'pan adeiladwyd y tŷ, cyn cael gwydr ar y ffenestri, na'i orphen, iddynt gael cyhoeddiad Robert Jones, Rhoslan, i ddyfod yno i bregethu y Sabbath, ddau o'r gloch; ac er fod ysbaid 58 mlynedd[3] er pan ddigwyddodd hyny, y mae mor gôf genyf a doe yr amgylchiadau rhyfedd a gymerasant le yn gysylltiedig â'r tro hwnw. Y nos Wener a'r dydd Sadwrn o flaen hyny, hi dorodd yn wlaw rhyfeddol. Yr oedd Robert Jones, ddydd Sadwrn, am ddau o'r gloch, yn pregethu yn Hendre-howel, lle yn agos i Dremadog, a'r nos yr oedd i fod yn y Penrhyn; ond yr oedd y traeth wedi llifo i'r fath raddau fel nad oedd obaith myned trwyddo. Gadawsai Robert Jones ei geffyl yn Hendre-howel, a daeth i lawr at y traeth ar ei draed; a phan y daeth i'r golwg, fe ganfyddai un yn parotoi ewch bychan ar fede croesi y Traeth mawr, i fyned i ddiogelu ewch arall oedd ganddo yn y Traeth bach,[4] rhag cael ei niweidio neu ei golli trwy y llifogydd. Hwn a gymerodd Robert Jones gydag ef, ac felly cafodd groesi yn brydlon a dirwystr. "Yr oedd cydweithrediad nodedig yn yr amgylchiad uchod, rhwng ymroddiad penderfynol y pregethwr ac arolygiaeth rhagluniaeth. Hawdd a fuasai i'r pregethwr ymesgusodi, ac edrychasid ar ei esgusawd yn un perffaith resymol o dan yr amgylchiadau; eto nid esgus i beidio oedd arno eisiau, ond rhwydd-deb i gyflawni ei addewid; a chan mai ar neges ei Dduw yr oedd, disgwyliai wrtho am ddrws agored. Gellir canfod pa fodd y mae y fath gyd-darawiad yn bod rhwng penderfyniad y pregethwr a darpariaeth rhagluniaeth, gan mai o'r un ffynon y codent. Ysbryd a rhagluniaeth yr un Duw oedd yma yn gweithio, a rhesymol ydyw disgwyl cyd-gordiad rhyngddynt.
"Cyrhaeddodd Robert Jones y Penrhyn heb ei ddisgwyl, oherwydd gorlifiant y Traeth. Tranoeth, sef y Sabbath, yr oedd ei gyhoeddiad i fod yn Harlech am naw o'r gloch; ond yr oedd y fath lif yn y Traeth bach, drachefn, fel yr oedd yn annichonadwy i neb fyned trwyddo heb gwch; a chwch nid oedd gan neb o'i amgylch; am hyny bwriadwyd iddo bregethu yn y Penrhyn. Ond cyn rhoddi i fyny yn llwyr, aeth Robert Jones, a rhai cyfeillion gydag ef, ac yn eu mysg yr oedd Robert Evans, i olwg y traeth, i edrych a geid unrhyw gyfleusdra i fyned trosodd. Ar eu gwaith yn dynesu at y lan, hwy a welsent gwch yn dyfod oddiwrth Tŷ-gwyn-y-gamlas, i fyny rhyngddo â'r lan arall. Aethant oll i'w gyfarfod, ac erbyn edrych, ewch ydoedd yn perthyn i long o Bwllheli, oedd wrth angor gerllaw y Tŷ-gwyn. Yr oedd myglus (tobacco) un o'r dwylaw ar y llong wedi darfod, a chyrchai tua'r Penrhyn er mwyn gwneyd y diffyg i fyny. Ar ddeisyfiad y brodyr, efe a gludodd yr holl fintai drosodd, a chafodd fodd trwy y wobr a roddwyd iddo i gael mwy o dobacco nag a ddisgwyliasai. "Gwnaethant bob brys bellach i gyraedd Harlech erbyn yr amser crybwylledig, sef naw o'r gloch; ond erbyn cyraedd yno, deallasant mai yn Mhen'rallt yr oedd yr odfa i fod, yn lle yn Harlech. Erbyn hyn, yr oedd wedi myned ymhell ar y diwrnod, a'r bobl a ddaethant ynghyd i Ben'rallt wedi blino yn aros, ac wedi ymwasgaru; rhai wedi myned tua'u cartrefi, ac eraill tuag eglwys y plwyf. Ond wedi eu myned at yr eglwys, digwyddodd fod yr offeiriad yn glaf, ac nad oedd dim gwasanaeth y Sabbath hwnw. Yr oedd Robert Jones a'i gymdeithion erbyn hyn yn neshau at Ben'rallt, ac yn ngolwg yr eglwys; a phan y gwelodd y bobl hwy, daethant yn lluoedd i'w dilyn a llanwyd tŷ Pen'rallt o ben bwy gilydd. Wedi darfod yr odfa yma, yr oedd yn rhy hwyr teithio i'r Dyffryn erbyn dau o'r gloch. Gan mai yr un offeiriad oedd yn darllen yn Llanbedr ac yn Llanfair, yr oedd y rhai a ddaethant at yr eglwys i ddisgwyl gwasanaeth yno wedi cael eu siomi fel y cawsai eu cymydogion yn y plwyf arall. Wrth i'r pregethwr a'i gwmni fyned trwodd, y plwyfolion hyn a'u dilynasant yn finteioedd i'r Dyffryn; a llanwyd tŷ newydd Griffith Richard y waith gyntaf erioed y defnyddiwyd ef i'r perwyl.
"Pan welodd amaethwr cyfrifol o'r plwyf y bobl yn gadael yr eglwys yn Llanfair ac yn myned i Ben'rallt, a'r lleill yn gadael eglwys Llanbedr i fyned i'r Dyffryn, efe a gymerodd ei geffyl ac a aeth nerth y carnau i Lanaber, i geisio y person, Mr. Parry, yr hwn oedd beriglor y ddau blwyf. Fel yr oedd mintai Robert Jones yn dychwelyd o'r Dyffryn, wedi darfod yr odfa, dyma y ddau, sef y person a'r ffermwr, yn dynesu atynt ac yn gyru yn erwin; a'r blaenaf yn gofyn yn gyffrous iawn i'w blwyfolion wrth yru heibio iddynt, A ydych chwi wedi myn'd i ddilyn y ffydd hon?' Un o'r plwyfolion a'i hatebai, 'Y mae yn ddigon rhaid i ni fyned i ddilyn rhyw ffydd; nid oedd acw ffydd yn y byd heddyw.'
"Pan oedd y brodyr crefyddol yn dychwelyd adref ar y Sarn hir tua machludiad haul, yr oedd cloch Llanbedr a Llanwnog yn canu. Yr oedd yr offeiriad yn ei waeledd wedi codi allan, fel y byddai i'r person gadw gosper yn un, a'r offeiriad yn y llall; er na fyddai gosper byth yn yr un o'r ddwy amseroedd eraill. Yr oedd Robert Jones yn dweyd ar ol hyn, ei fod yn meddwl yn sicr fod gan yr Arglwydd waith i'w wneyd yn y Dyffryn, ac na welodd ef dro hynotach un amser. Troes yr holl amgylchiadau i gydweithio fel ag i arwain y bobl i swn efengyl. Y ddau gwch i groesi y traethydd-dyfodiad diweddar y pregethwr yn cyraedd Pen'rallt—afiechyd yr offeiriad, a'r cwbl yn cyd-dueddu i'r un amcan."-Methodistiaeth Cymru, III. 196-199.
Y mae digon o sicrwydd i eglwys gael ei ffurfio yn y Dyffryn ymhen blwyddyn neu ddwy ar ol 1780, ac yn nhŷ Griffith. Richard y dechreuwyd cynal cyfarfodydd eglwysig. Nifer y crefyddwyr ar y pryd oedd pymtheg. Yr oedd rhai o'r aelodau cyntaf o sefyllfa dda yn y byd, ac yn ddiameu yn meddu mesur o ddylanwad yn yr ardal. Ceid yma hefyd, megis y crybwyllwyd eisoes, drefn dda ar yr achos o'r dechreuad. Mor foreu a'r flwyddyn 1787, ceir enwau yr holl aelodau yn ysgrifenedig mewn llyfr perthynol i'r eglwys. Eu nifer y flwyddyn. hon oedd saith ar hugain. Wele eu henwau fel y maent i lawr yn y llyfr-Griffith Richard, Caty Griffith, Owen Morgan, Jane Richards, Richard Roberts, Margaret Ellis, Anna Griffith, Richard Roberts, Richard Davies, Lowri Pugh, Griffith Griffiths, Jane Evan, William Jones, Thomas Roberts, Robert Richard, Evan Williams, Henry Roberts, Jane Roberts, Jane Roberts, Pentra; Jane Jones, Ellin Griffith, Frances Poole, Betty Richards, Lowri Evan, Catherine Williams, Margaret Price, Ellin Harry. Yn y rhestr hon, gwelir fod y meibion yn yr eglwys yn lliosog mewn cymhariaeth i'r hyn a geid yn eglwysi y sir yn y cyfnod hwn, eto, hyd yn nod yma, mae nifer y gwragedd oeddynt wedi ymrestru yn ganlynwyr yr Iesu yn lliosocach na'r meibion. Yr oedd eu casgliad at y weinidogaeth yn dyfod tuag wyth swllt y mis. Yn y flwyddyn 1800 ceir rhif yr aelodau yn y llyfr yn 80. Dengys hyn fod yr eglwys hon y tymor hwn y liosocaf yn Ngorllewin Meirionydd. Y mae yn deilwng o sylw fod cofrestr aelodau yr eglwys wedi ei chadw yn bellach yn ol, o leiaf o ugain mlynedd, na dim y daethpwyd o hyd iddo yn yr un ardal arall. Ac mae y gofrestr wedi ei chadw yn ddifwlch o hyny hyd yn awr. Ymhen llawer o amser ar ol dechreu cadw y cyfrifon cyntaf hyn, cymerodd rhywun y dyddordeb i ail rwymo yr hen lyfr mewn rhwymiad lledr cryf a chadarn, yr hyn a rydd gyfrif dros fod enwau ffyddloniaid yr eglwys hon wedi goroesi cynifer o flynyddoedd heb gael eu difwyno.
Gwnaethpwyd gwaith nid ychydig gan eglwys y Methodistiaid yn y Dyffryn o dro i dro, mewn adeiladu a harddu tŷ yr Arglwydd. Adeiladwyd y capel cyntaf, yr hwn oedd yn gapel bychan, gan Griffith Richard, yn benaf, os nad yn gwbl, ar ei draul ei hun.' Cymerodd hyn le, fel y gellir casglu oddiwrth y gwahanol ddigwyddiadau yn yr hanes, yn y flwyddyn 1790, ymhen rhyw saith neu wyth mlynedd wedi dechreu cynal cyfarfod eglwysig yn nhŷ yr un gŵr. I'r capel hwn, sef yr adeg y gwnaethpwyd ef yn dy y tro cyntaf, y gwnaeth Robert Jones, Rhoslan, yr ymdrech neillduol, y cyfeiriwyd ati yn barod, i ddyfod i bregethu am Sabbath o Sir Gaernarfon, tra yr oedd y gwaith o'i adeiladu ar y canol, sef 'cyn rhoi gwydr ar y ffenestri.' Yn fuan wedi hyn, ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal a diwygiad nerthol, ac mewn canlyniad, daeth y gwrandawyr yn, llawer lliosocach, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys. Yn y flwyddyn 1795, helaethwyd y capel dri chymaint ag oedd ar y dechreu; er hyny, mynych y byddai yn llawer rhy lawn i fod yn hapus ynddo,' Ymddengys i'r eglwys gymeryd rhan yn y gwaith o adeiladu y tro hwn, ond yr oll a wyddis am y draul ydyw ddarfod talu y swm o 43p. 15s. 6c. am weithio y capel. Y pryd hwn byddai y Sassiwn yn estyn cymorth i adeiladu capeli yn yr holl siroedd. Ond nid oes hanes i'r Dyffryn dderbyn yr un ddimai o'r ffynhonell hono. Gelwid y capel cyntaf, ac wedi iddo gael ei ail adeiladu yr un modd, Capel Coch, oherwydd iddo gael ei adeiladu ar lanerch o dir oedd yn myned dan yr enw Coed Coch. Safai yn is i lawr na'r capel presenol, heb fod ymhell oddiwrth y Post Office. Capel Coch y geilw hen bobl y Dyffryn y capel cyntaf hwn hyd heddyw.
Yn y flwyddyn 1820 yr adeiladwyd y capel yn y lle y mae yn bresenol. Dyddiad y weithred am hwn ydyw 1823. Cafwyd y tir gan Henry Roberts, Uwchlaw'rcoed, am 18p. Dyled y capel ymhen y flwyddyn ar ol ei adeiladu, yn ol papyrau a gafwyd yn Uwchlaw'rcoed, oedd 476p. Ymhen y deng mlynedd helaethwyd ef drachefn, trwy osod oriel (gallery) arno. Yn y capel hwn y daeth yr eglwys a'r achos yn nodedig o flodenog, yn nyddiau y cewri oedd yn byw yn yr ardal. Yn 1850, yr ydym yn cael fod 100p. o ddyled arno. Ond 100p. oedd hwn, fel y tybir, a osodasid arno rhyw bum' mlynedd yn flaenorol, i dalu dyled y capelau yn nosbarth Ffestiniog. Helaethwyd ac addurnwyd y capel eto, a dygwyd ef i'r wedd allanol y mae ynddo yn bresenol oddeutu y flwyddyn 1863. Mae y ddyled ar ei gyfer yn yr ystadegau ymhen dwy flynedd ar ol hyn yn 1150p., a diameu i'r capel y waith hon gostio llawer mwy, gan eu bod wedi talu swm da o'r ddyled yn flaenorol. Hysbys ydyw i'r Parch. E. Morgan gymeryd rhan helaeth o'r trymwaith gyda'r adeiladu y tro hwn, ac yr oedd ef yn dwyn mawr sel, nid yn unig am i'r capel fod yn adeilad da, ond am iddo edrych yn dda oddimewn ac oddiallan. Y flwyddyn hon (1889), mae y capel yn myned dan gyfnewidiad trwyadl o'r tumewn, ond gadewir y tuallan yn gwbl fel yr oedd o'r blaen. Eir i draul gyda hyn o dros 800p. Adeiladwyd Ysgoldy Egryn, yr hwn sydd tua dwy filldir yn nes i'r Abermaw, oddeutu y flwyddyn 1836. Helaethwyd ac adnewydd wyd ef drachefn yn 1870. Cynhelir yma Ysgol Sul y boreu, a phregeth ddau o'r gloch.
Yn 1816, ceir ymysg rhestr y Teithiau Sabbothol fod Bontddu, Abermaw, a'r Dyffryn yn un daith. Wedi hyny, bu y Dyffryn a'r Gwynfryn yn hir gyda'u gilydd. Ionawr 1854, penderfynwyd, trwy ganiatad y Cyfarfod Misol, i'r Dyffryn ac Ysgoldy Egryn fod yn daith, ac felly y maent hyd yn awr.
YR YSGOL SABBOTHOL.
Yn ol yr hysbysiadau a geir, oddeutu y flwyddyn 1797 y dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol yma gyntaf, sef ar lawr pridd yr hen Gapel Coch. Yr oedd trigolion yr ardal y pryd hwn yn ddwfn iawn mewn anwybodaeth o'r Ysgrythyrau; nid oedd nemawr drefn ychwaith ar yr ysgol yn ei dechreuad cyntaf. Yn fuan ar ol ei chychwyniad, cafodd yr ysgol fantais fawr trwy ddyfodiad Mr. Thomas Bywater i'r gymydogaeth i gadw ysgol ddyddiol. Bu ef o wasanaeth mawr i'r brodyr yma, megis y bu yn y Bermo, trwy eu cynorthwyo i drefnu yr ysgol yn ddosbarthiadau o feibion a merched, cymwys o ran cyfartaledd mewn oedran a chyrhaeddiadau. Bu un Mr. Davies, hefyd, hen athraw ysgol ddyddiol, wedi hyn yn help mawr yn yr ystyr yma. Teilynga y rhai canlynol i'w henwau gael eu trosglwyddo i'r oesoedd a ddel mewn cysylltiad a sefydliad a dygiad ymlaen yr Ysgol Sabbothol yn yr ardal:— Sion Evan, Caetani; Harry Roberts, Uwchlaw'rcoed; Robert Sion, Glanrhaiadr; Hugh Evan, Hendre-eirian; Robert Sion, y Felin; Evan Sion, Llwyngwian; Rhisiart Sion, y Ffeltiwr, &c., rhai nad oes betrusder i ddweyd ddarfod iddynt wasanaethu eu cenhedlaeth yn ol ewyllys Duw" cyn cael eu casglu at eu tadau." Bu yr Hybarch Richard Humphreys yn dysgu plant bach i sillebu geiriau unsill yn yr hen Gapel Coch; ac adroddir ambell chwedl ddigrifol am dano yn traethu adnoddau ei feddwl cyfoethog, a'i arabedd yn yr ymarferiad hwn. Wedi symud i'r capel mawr, fel ei gelwid, yn 1820, ac am yr ugain mlynedd dilynol-tymor euraidd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru-dywed y bobl hynaf sydd yn awr yn fyw, fod gwedd flodeuog ac ardderchog ar y sefydliad yn y Dyffryn; y capel eang yn orlawn adeg yr ysgol bob amser; y dosbarthiadau yn drefnus, a phawb yn ufuddhau gyda phob parodrwydd i bob trefniadau a osodid ar yr athrawon a'r deiliaid. Bu Harry Roberts, Uwchlaw'rcoed, a Sion Evan, Caetani, yn ddau gyd-arolygwr tra buont byw. Nid oedd son am newid arolygwyr yn eu hamser hwy, ac yn wir nid arolygwyr oeddynt, ond blaenoriaid yr ysgol, a'r rheol gyffredin fyddai, pan y cyfodai dadl ar unrhyw bwnc ag y methid ei benderfynu yn y dosbarth, galw un o'r ddau arolygwr i'r dosbarth i benderfynu y ddadl. O'r ysgol flodeuog hon y sefydlwyd cangen yn Hendre-cirian, yr hon a symudwyd i Ysgoldy Egryn. Bu cangen hefyd unwaith mewn tŷ wrth droed y Moelfra a elwid Bronyfoel. Bu cangen arall yn Nghoed Ystumgwern. Rhifa ysgol y Dyffryn yn bresenol (1889), gan gynwys y canghenau, 332.
Y COFNODYDD EGLWYSIG.
Llyfr ydyw hwn y dechreuwyd ei gadw Ionawr 1847, lle y ceir hanes yr holl aelodau, cofnodion cyfarfodydd eglwysig, symudiadau, diarddeliadau, &c., enwau y rhai y buwyd yn ymddiddan â hwy; yr hyn fu dan sylw yn y cyfarfodydd eglwysig, darllen cyfrifon, pregethau y Sabbath, &c. Yr oedd y Parch. John Williams, Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol, yı hwn a ymfudodd wedi hyny i'r America, yn byw yma dros ryw hyd y tymor hwn. Ei waith ef oedd darparu y llyfr hwn, ac yn ei lawysgrif ef y mae yr holl gofnodion sydd ynddo am ddwy neu dair blynedd. Wele rai engreifftiau o'i gynwys,—Rhag. 8, 1847, y son oedd fod teulu————wedi colli eu lle yn y ffair fu yno; dangoswyd nad oedd y drwg cynddrwg a'r son oedd yn ei gylch." "Cynghorwyd pawb i ymgadw rhag yr ysfa bechadurus o frokio ar hyd glan y môr." "Rhag. 29, ymdriniwyd am bregethau y Sabbath gan Lewis William." Adeg arall, "Am yr ordinhad." Adeg arall, "Am bethau y Cyfarfod Misol," "Talu ein ffordd, a gwneuthur cyfiawnder, yr hyn a achlysurwyd trwy wrthgiliad————" "Anog plant y Society rhag myned i'r ffair." "Hysbyswyd na oddefid neb yn yr eglwys i fyned i briodasau pan fyddai y rhai a briodid yn myned i'r stat hono yn anweddus." "Holi penau tenluoedd ynghylch y ddyledswydd deuluaidd." "Rheolau y Society." "Pregethau y Sabbath, gan D. D., Penmachno." "Erthyglau y Gyffes Ffydd." Engreifftiau yn unig yma ac acw ydyw yr uchod. Pe cadwesid y llyfr fel hyn yn ddifwlch, buasai cyfoeth o hanes yr eglwys ar gael, ond ni wnaed hyny ond ar adegau yn unig.
Y CYMDEITHASFAOEDD.
Ni chedwid Cymdeithasfaoedd yma yn yr hen amser, yr hyn oedd braidd yn hynod, ac ystyried fod yr eglwys y pryd hwnw yn un mor gref ac enwog yn y sir. Ond y tebyg ydyw, mai yr achos o hyn oedd fod yr ardal yn wasgarog, ac ychydig o dai ynddi yn gymwys i letya dieithriaid. Y gyntaf y ceir ei hanes oedd yr un a gynhaliwyd yma yn mis Hydref, 1845. Nid oedd hon yn Gymdeithasfa Chwarterol, ond un sirol a gedwid yn lle y rhai fyddai arferol a bod yn flynyddol yn Nolgellau a Thowyn. Ceir ei hanes yn y Goleuad am Dachwedd 29, 1888. Cynhelid y moddion cyhoeddus yn y maes agored o flaen y capel presenol. Pregethwyd y nos gyntaf gan y Parchn. John Jones, Capel Dewi, a L. Edwards, M.A., Bala. Yr ail noson, gan y Parchn. John Phillips, Bangor, a John Hughes, Liverpool. "Ar ol y bregeth hon," adroddai un o'r dieithriaid oedd wedi dyfod i'r Sassiwn, "Cyhoeddodd Mr. Humphreys ar i bawb dieithriaid oedd eisiau lle i aros ar ol, a phawb cymydogion oedd yn bwriadu cymeryd dieithriaid hefyd i ddyfod i'r llawr ar ei law ddeheu. Erbyn hyn yr oedd ein hofnau am le yn dechreu chwalu, gan y gwelem fod yno fwy yn disgwyl am ddieithriaid nag oedd o ddieithriaid yn disgwyl am le, a Mr. Humphreys yn dod o'r naill ochr i'r llall o hyd tan ofyn, 'Oes yma neb eto eisiau lle? Deued i'r ochr yma.' Rhoddodd un Lewis Evans bedwar o honom-dau o Sir Gaernarfon, a da o Sir Feirionydd-i ofal merch ieuanc, gan addaw i ni lety cysurus, a chawsom ef felly wedi ei gyraedd. Wedi goddiweddyd y teulu, gofynodd y fam i'r ferch faint oedd gyda hi o ddieithriaid? Wedi cael y cyfrif, 'Purion, purion,' atebai yr hen ŵr, 'fe gant fyned i'r daflod neu rywle.' 'Mae Lewis Evans,' ebai hithau, wedi dweyd y cant le pur gysurus.' Ho, y mae Lewis Evans yn un go groesawgar ei hunan, ac y mae yn meddwl fod pawb fel y fo ei hun.' Cawsom, yn ol rhagfynegiad Lewis Evans, le cysurus dros ben, a style uwch nag yn y wlad yn gyffredin. Rhaid i mi goffa yn arbenig am ferch fechan oedd yno, yr ieuangaf yn y teulu. Nid oedd dim modd cael lle digon gwastad ganddi i bobl ddieithr y Sassiwn. Ar ol i bawb ddarfod bwyta, gwaeddodd allan, Rhowch ddigon o fwyd i'r bobl ddieithr, mam.' Boreu dranoeth, am chwech, pregethodd Morris Anwyl, Bala, a Mr. Williams, Carneddi, Sir Gaernarfon. Am wyth, society, pryd yr ymdriniwyd ar ddyledswyddau rhieni tuag at eu plant. Daeth yn gawod o wlaw lled drom, a gollyngwyd y dyrfa oedd yn y cae i'r capel, a throwyd y gweddill o'r seiat yn gyfarfod dirwest. Areithiwyd ar ddirwest gan Mr. Rees. Pregethwyd yn gyntaf am ddeg gan y Parch. John Hughes, oddiar y frawddeg, Ac yn y byd a ddaw,' yn niwedd y 30ain adnod, o'r 10fed benod o Marc. 'Y byd a ddaw' oedd y testyn a'r bregeth. Dadseiniai y pregethwr y frawddeg hon laweroedd o weithiau gyda'i lais addfwyn a nefolaidd, nes yr oedd wedi dwyn y gynulleidfa oll i deimlo fod y byd a ddaw yn agos atynt. Testyn y Parch. Henry Rees ar ei ol oedd, 'Beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw.' Pregeth effeithiol a nodedig iawn oedd hon. Ar ol trin yn effeithiol am wreiddyn, natur, a llwybrau anghrediniaeth, daeth at y cwestiwn, 'Beth fydd y diwedd?' Gofynai, 'Beth fydd y diwedd?' deirgwaith neu bedair, mewn dull syn a difrifol dros ben, heb gynyg rhoddi yr un atebiad, a chan sefyll yn fud am enyd rhwng pob gofyniad, ac yna gofynai,
Beth fydd y diwedd?' fel pe buasai yn myned i ateb, ond yn lle hyny dywedai, 'Fedra' i ddim ddweyd, wn i ddim.' 'Beth fydd y diwedd?' Fedra' i ddim dweyd, y mae y Beibl yn methu dweyd; 'dydyw y Beibl yn rhoi yr un ateb,' nes yr oedd y sobrwydd hyny y gweddiai ef ei hun mor ddwys am dano wrth fyned i ddweyd am hyn, wedi disgyn i raddau ar y gynulleidfa. Ar ol cyhoeddi pwy oedd i bregethu am ddau, anogai Mr. Humphreys bawb i fod yn groesawus o'r dieithriaid, 'Ac os gwelwch rywun,' meddai, 'a chôt go lwyd am dano, a blewyn go fras ynddi, wnaiff y bwyd ddim colli ei flas wrth ei roddi i hwnw,' Am ddau, pregethodd y Parchn. John Jones, Capel Dewi, a John Hughes, Liverpool. Am chwech, Mr. Phillips a Mr. Rees."
Cynhaliwyd yr ail Gymdeithasfa, yr hon oedd yn un Chwarterol, o dan lywyddiaeth y Parch. W. James, B.A., Manchester, yn y Dyffryn, Rhagfyr 11, 12, 13, 1888. Dygwyd yr holl drefniadau ymlaen ar ran yr eglwys mewn modd hynod o hwylus a didramgwydd.
Cyn rhoddi byr hanes am y swyddogion, buddiol fyddai crybwylliad am rai eraill a fu yn wasanaethgar i'r achos, ymhlith y meibion a'r gwragedd. Lewis Evans o'r Ffactri, a fu yn athraw diwyd, cyson, ac ymroddgar. Dangosodd mewn adeg foreu ar ei oes, a chyn iddo symud i fyw i'r ardal hon ei fod yn ŵr crefyddol, ac yn berchen ar egwyddor sefydlog. Gwnaeth lawer o wasanaeth i grefydd yn ei ddydd. Bu farw Medi 12, 1852. Hugh Evan, o Hendre-eirian, oedd wr rhadlon, cymeradwy gan bawb, a ffyddlon i achos crefydd yn ei holl ranau. Robert Jones, y Felin, oedd frawd selog a brwdfrydig, yn ddarllenwr mawr ar y Beibl, a llyfrau eraill; a thrwy ei sylwadau gadawai i'r frawdoliaeth gael mwynhau yn helaeth o ffrwyth yr hyn a ddarllenai. Un o ddynion mwyaf craffus ac anturiaethus yr ardal oedd Griffith Richard o Ddolgau, "Yr oedd yn proffesu crefydd gyda'r Methodistiaid, ac yn arddangos cryn dipyn o sel ac yni." "Prif arebydd y wlad oedd Rhisiart William o Gors Dolgau; ac yr oedd yn deilwng iawn o'r gadair."
O blith gwragedd a merched rhagorol yr ardal, gellir nodi rhestr faith. "Yr oedd Catherine Pool, o Egryn, yn un hynod mewn synwyr, pwyll, a doethineb." Lowri Williams, o'r Benar Isaf, neu modryb Lowri, fel y cyfeirid ati gyda pharch ac edmygedd gan Mr. Humphreys yn yr ysgrif a ymddangosodd ganddo yn y Methodist yn y flwyddyn 1855, oedd un o gymeriadau amlycaf yr ardal mewn addfedrwydd barn, uniondeb egwyddor, a hynawsedd ysbryd a thymer dda. Gwen Evans, Ffactri, fel ei phriod Lewis Evans, a fendithiwyd â chymeriad crefyddol uchel anghyffredin. Crefydd a son am grefydd oedd ei hyfrydwch penaf hi. Cyrhaeddodd oedran mawr; yr oedd dyddiau blynyddoedd ei heinioes ryw gymaint dros gan' mlynedd; ac yn ei chanfed flwyddyn, arddangosai gymaint o sel grefyddol ag unrhyw un o'i chyd-broffeswyr. Un o wragedd parchusaf yr eglwys oedd Mrs. Gwen Pugh, gweddw Mr. Pugh, blaenor enwog yn eglwys Salem, Dolgellau, a pherthynas agos i Mr. Humphreys. Ar ol myned yn weddw cadwai dŷ capel y Dyffryn, ac yn y sefyllfa hon, lletyodd lu mawr o weision yr Arglwydd, a chyflawnodd eu hangenrheidiau yn rhad am lawer o flynyddoedd. Gan ei bod yn gefnog o ran pethau y byd, cyfranodd lawer at achos y Gwaredwr. Ar lawer cyfrif, ystyrid hi yn un o'r llywodraethwyr yn yr eglwys. Pan yr aeth ei chlyw yn ddrwg, eisteddai ar risiau y pulpud. Yn y seiat o flaen Cyfarfod Misol a gynhelid yn y Dyffryn, gofynai Mr. Humphreys i Mrs. Pugh, medd ein hysbysydd, "Wel modryb, beth sydd arnoch chwi eisiau at y Cyfarfod Misol?" "Mae arnaf eisiau," atebai hithau, "hyn a hyn o wenith, a hyn a hyn o fenyn, a hyn a hyn o bytatws," &c. Yna penderfynid gan yr eglwys fod iddi gael yr hyn a ofynid ganddi, ac weithiau trefnid yn gyhoeddus fod un i dd'od a'r peth yma, a'r llall y peth arall, yn ol fel byddai yr angen, ac yn ol fel byddai cyfleusdra y gwahanol aelodau. Fel hyn yn gyffredin yn y dyddiau hyny, y trefnid tuag at dreuliau allanol y Cyfarfod Misol. Sarah Jones, Llanddwywe, oodd un arall o'r ffyddloniaid. Er ei bod yn cadw tafarn, profodd y wraig hon fod byw yn dduwiol yn beth posibl mewn unrhyw sefyllfa. "Cedwid dyledswydd yn y teulu hwyr a boreu, a gweinyddai hithau yn ei chylch yn y gwasanaeth." Gadawodd ar ei hol gymeriad anrhydeddus; wyr iddi hi ydyw y Parch. W. Davies, Llanegryn, ac wyrion iddi hefyd ydyw Mri. W. Price Jones, Chatham, Liverpool, a Robert Jones, gynt o Werneinion. "Gwraig gynes ei chalon, ac yn galw ar enw yr Arglwydd, ac yn ei garu o galon bur ydoedd Betti Roberts o Uwchlaw'rcoed. Yr oedd yn un o'r rhai tebycaf a ellid dybio a fuasai ymhlith y gwragedd a barotoisant beraroglau i eneinio corff yr Arglwydd Iesu." Mrs. Margaret Davies, Taltreuddyn bach, oedd o gymeriad uchel o ran synwyr a gras. Darllenodd hi, ebai Mr. Humphreys, draethawd Dr. Edwards ar yr Iawn amryw weithiau drosodd, ac yr oedd yn ei ddeall yn lled. drwyadl. Mrs. Humphreys, o'r Faeldref, a deilynga y lle amlycaf ymhlith gwragedd rhagorol y Dyffryn. Y mae ei rhinweddau hi yn hysbys trwy Gymru oherwydd ei chysylltiadau teuluaidd. Yr oedd yn uwch na'r cyffredin o ran gwybodaeth a chwaeth. Llinell amlwg yn ei chymeriad oedd y byddai yn dangos yr un caredigrwydd at y tlawd a'r cyfoethog, ac yn rhoddi yr un parch i bregethwyr o ddoniau bychain a'r rhai o radd uchel yn y Cyfundeb. Duwioldeb a thynerwch oeddynt rinweddau arbenig yn ei chymeriad. Cofnodir yn llyfr yr eglwys iddi huno yn yr Iesu Mehefin 8, 1852.[5] Ei merch, Mrs. Morgan, a ddilynodd yr esiampl odidog a roddwyd iddi gan ei mam. Yn nghofnodion Cyfarfod Misol Gorphenaf, 1888, y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol ei marwolaeth-ceir y sylw canlynol am dani,—" Coffhawyd gyda theimlad a pharch am ymadawiad Mrs. Morgan, o'r Faeldref, gweddw y diweddar Barch. E. Morgan. Hysbys i bawb o'r Methodistiaid ydyw y gwasanaeth mawr a wnaeth hi i achos crefydd yn ystod ei bywyd. Yn ei pherthynas â'i thad, y Parch. Richard Humphreys, ac â'i phriod drachefn, llanwodd le pwysig yn hanes crefydd yn Sir Feirionydd. Cymerai ddyddordeb helaeth yn llwyddiant crefydd yn holl gylchoedd y Methodistiaid. Yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf hyddysg yn holl symudiadau y Cyfundeb, a hi a wnaeth wasanaeth mawr i achos yr Arglwydd Iesu, yn arbenig mewn cynal i fyny freichiau ei phriod, yr hwn a weithiodd mor egniol i gyfodi crefydd yn y wlad. Nid oedd dim pall ar ei charedigrwydd tuag at weision yr Arglwydd, a'r gofal am danynt tra yn lletya yn ei thŷ. Mawr yw y parch a deimlir i'w choffadwriaeth yn y sir hon, a thu allan i'r sir." Enwir hefyd Ann Williams, o Dy'nycae, a Mary Hughes, o Lecheiddior, ymysg canlynwyr ffyddlawn yr Iesu. Y gwragedd duwiol hyn a ymgynullent i ymddiddan â'u gilydd am y pethau a berthynent i Iesu o Nazareth, a throent y gyfeillach yn gyfarfod gweddi. John Roberts, a'i briod, Mrs. Roberts, Shop Isaf, mewn amser diweddarach a ddangosasant lawer o garedigrwydd tuag at yr achos yma.
Gallesid, yn ddiameu, chwanegu llawer at y rhestr o ffyddloniaid yr eglwys hon, oni buasai ein bod yn ofni myned yn rhy faith. Rhoddir crynhodeb bywgraffyddol am y pregethwyr a'r blaenoriaid fuont feirw, ond y mae amryw wedi dechreu pregethu yma sydd eto yn fyw. Yn nghofnodion Cyfarfod Misol Trawsfynydd, Hydref 5, 6, 1847, ceir y sylw a ganlyn, -"Coffhawyd am farwolaeth Rowland Davies, Dyffryn, pregethwr oedranus. Crybwyllwyd fod pob lle i feddwl ddarfod iddo farw mewn ffydd a thangnefedd, ac yn nghymeradwyaeth ei gyfeillion yn fawr." Bu y Parch. John Williams yn byw yma dros rai blynyddoedd, cyn ei ymfudiad i'r America, oherwydd cysylltiadau ei briod. Ceir ei hanes ef ynglyn â Salem, Dolgellau. Genedigol oddiyma hefyd oedd y diweddar Dr. Morris Davies, Caernarfon; yn Nolgellau y dechreuodd bregethu. Yma y dechreuodd y Parch. R. H. Morgan, M.A., yn awr o Menai Bridge, bregethu. Y Parch. Edward Jones, Rhydlydan, a ddechreuodd ei flwyddyn brawf Awst 1871; E. V. Humphreys, yn awr o Bontddu, Medi 1879. Mr. John Davies, hefyd, a ddechreuodd bregethu o fewn chwech neu saith mlynedd yn flaenorol i'r tri diweddaf.
Y mae lliaws o ddynion rhagorol wedi symud i'r America, o dro i dro, o ardal y Dyffryn. Y Parch. R. G. Jones, Minnesota, a anwyd yn Caegarw. Pregethodd lawer i'r gwartheg yn y Benar isaf, pan yno mewn gwasanaeth; dechreuodd bregethu i'w gydwladwyr yn Wisconsin. Bu yn llafurus am flynyddau yn Blue Mounds. Mae ganddo un o'r llyfrgelloedd goreu yn y wlad. Thomas Richards, mab Dolgau, oedd un o ragorolion y ddaear. Gwasanaethodd y swydd ddiaconaidd gyda'r Annibynwyr yn Pike Grove dros amryw flynyddau, ac wedi hyny gyda'r Methodistiaid yn ninas Racine tra fu byw. Robert Owen, o Bronyfoel ganol, a fu yn ffyddlawn a gweithgar ymhob cylch yn nghyffiniau Racine, ac yn olynol hyd derfyn ei oes, yn Caledonia, Wisconsin. Thomas Richards, ei frawd-yn-nghyfraith, oedd yn grefyddwr gwresog, a swyddog eglwysig ffyddlon yn America. Griffith Owen, brawd i'r diweddar flaenor, David Owen, sydd wedi bod yn ffyddlon yn ardal Lime Springs, Iowa, a manau eraill, dros oes faith, gyda phob rhan o achos crefydd, yn arbenig yr Ysgol Sul. Mr. John G. Jones a anwyd yn Meifod isaf; preswylia yn awr yn Red Oak, Iowa. Cydnabyddir ef fel un o'r blaenoriaid mwyaf ymdrechgar a ffyddlon yn y Dalaeth. Mr. Thomas Lloyd Williams, Racine, yr hwn a ymfudodd o'r Dyffryn ddeugain mlynedd yn ol, sydd adnabyddus iawn yn yr America, fel un wedi bod yn wasanaethgar i'w gydgenedl mewn llawer o gylchoedd.
Y BLAENORIAID.
GRIFFITH RICHARD, SIOP Y CAPEL.
Efe oedd y blaenor cyntaf; cychwynydd yr achos, ei brif noddwr a'i fagwrydd o'i fabandod; yn ei dy ef y cadwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf; efe a roddodd y tir ar yr hwn yr adeiladwyd y capel cyntaf, sef y Capel Coch, ac ar ei draul ef yn benaf yr adeiladwyd ef. Yr oedd yn ewythr i'r Parch. Richard Humphreys, frawd ei dad. Dywedai y doethwr o'r Faeldref am Griffith Richard, "Ei fod yn meddu ar raddau helaeth o foneddigeiddrwydd y Bereaid-yn drwyadl onest ymhob peth, heb ganddo ddim tebyg i ffug-sancteiddrwydd crefyddol yn lled gwta yn ei ddull, ac yn tueddu at fod yn ddreng."
HARRY ROBERTS, UWCHLAW'RCOED.
Amaethwr cyfrifol oedd ef, ac yn sefyll o ran ei alluoedd a'i ddylanwad, uwchlaw ei gydwladwyr yn gyffredin. Mewn achosion o bwys, y rhai y methai ei gymydogion eu penderfynu, eu dywediad fyddai, "Gofynwch i Harri Roberts, y mae efe ond odid yn lled agos i'r line." Yr oedd yn meddu ar ddawn yn gystal a barn, ac uwchlaw'r cwbl, yn ŵr ffyddlawn gyda'r hyn a ymddiriedid iddo. "Efe," ebai Methodistiaeth Cymru, "a fyddai yn gofalu mwyaf am amgylchiadau yr achos crefyddol, a gellid dywedyd am dano fel am Timotheus, 'ei fod yn gwir ofalu.'" Magodd dŷad o blant, y rhai a ddaethant yn dra defnyddiol gyda'r achos goreu mewn amryw ardaloedd yn y sir. Bu farw oddeutu 1842, yn 88 mlwydd oed.
SION EVAN, CAETANI.
Cyd-flaenor & Harri Roberts am flynyddoedd lawer. Dyn cadarn yn yr Ysgrythyrau, diysgog mewn buchedd, a sefydlog mewn barn. "Yr oedd Sion Evan," yn ol yr hyn a ysgrifenwyd am dano gan Mr. Humphreys ddeugain mlynedd yn ol, "yn cael ei ystyried yn golofn yn yr eglwys-yn wastad iawn ei dymer. Nid oedd newidiad yr hin grefyddol yn effeithio nemawr ddim arno. Yr oedd yn meddu graddau helaeth o farn, ac yn gymeriad pwysig yn nghydwybodau y sawl a'i hadwaenai." Yr oedd efe yn dad i Morris Jones, blaenor yn niwedd ei oes yn y Bermo. Bu farw Rhagfyr 16, 1839, yn 88 mlwydd oed, wedi bod yn henadur ffyddlon uwchlaw deugain mlynedd.
Yr uchod oeddynt y set gyntaf o flaenoriaid yr eglwys. "Bu rhai o honynt," ebai Mr. Humphreys, "yn haelionus iawn at yr achos, ond yn ddiffygiol, fel llawer o'u cydswyddogion y dyddiau hyny, i addysgu yr eglwys i fod yn haelionus. Ai yr achos yn fynych i ddyled, ond ni ddywedid hyn un amser wrth yr eglwys, ond gwneid y diffyg i fyny gan un o honynt hwy eu hunain."
WILLIAM EVANS, CAE'RLLWYN.
Dewiswyd ef; yn flaenor yn un o chwech oddeutu y flwyddyn 1837, a bu farw ddiwedd y flwyddyn 1857. Dyn unplyg, cywir, a dihoced. Un o'i ragoriaethau oedd y medrai ddweyd gair yn ei amser, a hwnw yn air i bwrpas. "Yr oedd ganddo halen ynddo ei hun, ac yr oedd ef ei hun yn halen i erail!."
WILLIAM OWEN, BRONYFOEL.
Pan yn fachgen, fel yn hysbysir, elai i gapel y Methodistiaid yn Harlech, a dychwelwyd ef at grefydd yn amser diwygiad Beddgelert. Ymhen ysbaid o amser ar ol ei ddyfodiad i'r Dyffryn, neillduwyd ef yn flaenor, a bu yn cydweithio dros ryw dymor â'r set gyntaf o flaenoriaid yr eglwys. Yr oedd yn ddyn o feddwl uwch na'r cyffredin; ceir ei enw rai gweithiau fel un defnyddiol gyda'r Ysgol Sul yr y cylch. Ond ni byddai yn cydweled â'r brodyr mwyaf blaenllaw gyda symudiadau y Cyfundeb. Bu farw Tach. 20, 1862, yn 61 oed.
JOHN OWEN, BYRLLYSG.
Daeth ef at grefydd yn ieuanc, a gwnaeth ymdrech mawr i ddilyn crefydd trwy lawer o anhawsderau yn nhymor ei ieuenctid. Bu yn byw yn ardal y Gwynfryn, ac yr oedd yn un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys yno. Geiriau a ddywedir am dano tra y bu yn y Gwynfryn ydynt, "Yr oedd yn gymeradwy iawn gan yr eglwys, a chanddo brofiad melus bob amser." Neillduwyd ef yn flaenor ar ol ei ddyfodiad i'r Dyffryn, a pharhaodd yn ffyddlon, ac i gynyddu mewn duwioldeb i'r diwedd. Bu farw Mehefin, 1874, yn 77 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am dair blynedd a deugain.
EVAN EVANS, CARLEG.
Oedd ŵr deallus ac ymchwilgar; bu o ddefnydd mawr gyda'r -Ysgol Sul, yn arolygwr, ac yn athraw ar y dosbarthiadau uchaf. Bu farw yn 1883, wedi cyraedd yr oedran teg o 90. Oherwydd rhyw amgylchiadau, yr oedd wedi cilio o'r swydd o flaenor er's blynyddau.
MORGAN OWEN, O EGRYN (wedi hyny o'r Glyn, Talsarnau),
a neillduwyd yn flaenor oddeutu y flwyddyn 1837. Gŵr a berchid yn fawr oedd ef gan fyd ac eglwys. Rhoddai ei sefyllfa yn y byd ddylanwad iddo, ac heblaw hyny yr oedd yn ŵr bucheddol yn llawn ystyr y gair, a'i rodiad bob amser yn wastad ac uniawn. Rhagorai yn fawr fel athraw yn yr Ysgol Sul. Treuliodd ddiwedd ei oes yn Nhalsarnau, lle y neillduwyd ef drachefn yn flaenor; ac yno y bu farw, Gorphenaf 12, 1865, yn 78 mlwydd oed. Mab iddo ef ydyw Mr. Owen Owen, Penrhyndeudraeth.
WILLIAM EVANS, LLECHEIDDIOR.
Treuliodd ddechreu ei oes mewn oferedd, ond cafodd dröedigaeth amlwg iawn. Ar ddechreuad dirwest yn y wlad, daeth yn areithiwr selog o blaid y symudiad. Tra yn myned i areithio gyda Mr. Humphreys un tro, dywedai, "Mae arnaf ofn na wnaiff y bobl ddim gwrando arnaf, am i mi fod yn ddyn mor ofer fy hun." Ebai Mr. Humphreys wrtho, "Tafl garreg atat dy hun yn gyntaf, fe fydd y bobl yn sicr o wrando arnat." Ac felly y gwnaent. Neillduwyd ef yn flaenor yr un adeg a'r ddau frawd a enwyd ddiweddaf, ac ymhen tua deng mlynedd, ymfudodd i America.
EDWARD JONES, HENDREWAELOD.
O'r Gwynfryn y daeth ef i gartrefu i'r Dyffryn. Bu yn flaenor yno, a neillduwyd ef i'r swydd yma yn un o'r chwech yn 1837. Gellir dweyd am dano yntau, fel llawer o'i frodyr y dyddiau hyny, ei fod yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd hefyd yn dra hyddysg yn yr hen awduron, megis Baxter a Gurnal.
EDWARD JONES, Y PANDY (wedi hyny o'r Frongoch).
O ran gweithgarwch a dylanwad, safai ef yn uchel, os nad yr uchaf oll yn rhestr faith blaenoriaid eglwys y Dyffryn. Bu yn flaenor pan yn ddyn lled ieuanc yn Salem, Dolgellau; ac wedi symud i drigianu yn y Dyffryn, neillduwyd ef yn flaenor yma. Gwnaeth ddefnydd da o'r ddau fyd: o'r byd hwn, fel yr oedd wedi casglu digon i'w alluogi i fyw arno yn ei henaint; o'r byd arall, fel yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ymwybodol ei fod yn sicr o feddianu coron y bywyd. Nodweddid ei holl ymwneyd â chrefydd gan dynerwch a chymedroldeb. Mor batriarchaidd yr eisteddai yn niwedd ei oes yn y sêt fawr, ac mor addolgar fyddai yr olwg arno yn gwrando y weinidogaeth ! A byddai ei sylwadau yn y cyfarfod eglwysig ar nos Sabbath yn hynod o briodol. Bu ef yn cynal breichiau y ddau weinidog enwog, y Parchn. Richard Humphreys ac Edward Morgan, trwy holl gydol eu hoes weinidogaethol, a mawr oedd eu parch hwythau iddo, oblegid y cynorthwy a roddai iddynt, ac a roddai trwy hyny i achos Duw yn yr ardal. Cymerwyd ef oddiar y ddaear Hydref 20, 1876, wedi cyraedd yr oedran teg o 88 mlwydd, ac wedi bod yn ddiacon am bum mlynedd a thriugain.
EVAN WILLIAMS, HENDRE-EIRIAN.
Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor Ionawr 1857, ac yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr 1865, "gwnaed crybwylliad parchus am farwolaeth Mr. Evan Williams, Hendre-eirian, yr hwn oedd yn ddiacon nodedig am ei ffyddlondeb a'i weithgarwch yn eglwys y Dyffryn; yr oedd hefyd yn drysorydd y Genhadaeth Sirol, ac yn ei farwolaeth collodd yr achos hwn un a ofalai bob amser am ei gyflawni yn ffyddlon." Dyn rhagorol iawn oedd ef ymhob ystyr; cariai ei farn a'i gymeriad ddylanwad mawr yn yr ardal, ac yn yr eglwys yr oedd yn flaenor ynddi. Dygodd ei blant i fyny yn grefyddol, dau o ba rai sydd yn flaenoriaid yn y Dyffryn yn awr.
DAVID OWEN.
Ganwyd ef yn y Goetre, Bontddu. Bu yn flaenor da yno, fel ei dad o'i flaen. Ymhen amser symudodd i fyw i'r Penrhyn, ar lan afon Abermaw, a bu yn flaenor gweithgar yn eglwys Seion dros lawer o flynyddoedd. Am yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes, yr oedd yn byw yn y Dyffryn. Rhwng y tri lle, bu yn gwasanaethu swydd diacon am haner can mlynedd. Dyn o dueddiadau tawel oedd; mab tangnefedd. Yr oedd yn bwyllog a doeth, ac yn meddu craffder tuhwnt i'r cyffredin. Profodd ei hun bob amser yn ŵr o ymddiried. Daeth yn gysurus ei amgylchiadau cyn diwedd ei oes. Ac wedi gorphen ei yrfa ddaearol, cafodd fynediad helaeth i mewn "i deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist." Bu farw Mai 3, 1883, yn 84 mlwydd oed. Mae ei goffadwriaeth yn barchus yn yr ardaloedd y bu yn byw ynddynt.
OWEN HUGHES, YNYS.
Yr oedd yn frawd i'r Parch. R. Hughes, Uwchlaw'rffynon. Daeth yma o Harlech. Dewiswyd ef yn flaenor tua 1865, ac ymadawodd yn fuan wedi hyny i Sir Gaernarfon.
RICHARD WILLIAMS, CAE'RFFYNON.
Ymunodd â chrefydd, fel ein hysbyswyd, Awst 30, 1853. Gwasanaethodd swydd blaenor am un mlynedd ar hugain. Bu farw Rhagfyr 11, 1886, yn 65 oed. Efe oedd y blaenor hynaf yn yr eglwys ar y pryd. Er fod ei ffordd ymhell i'r capel, nid oedd neb yn fwy cyson yn y moddion. Yn y cyfarfodydd eglwysig siaradai gyda gwres ac angerddoldeb. Yr oedd yn wastad yn barod, a'i gyngor yn briodol. Dywedodd lawer ar haelioni crefyddol, a chafodd ei erlid ar dafod gan aml un. Enillodd le dwfn yn serch yr eglwys, ac yr oedd iddo barch mawr yn yr ardal yn gyffredinol. Rhoed iddo gladdedigaeth gŵr Duw.
JOHN JONES, YSTUMGWERN.
Mab Nantymynach, gerllaw Bryncrug, ydoedd ef-amaethdy nid anenwog oherwydd ei gysylltiadau crefyddol. Bu yn byw am dymor yn Tŷ mawr, Towyn. Nid oedd ond tair blynedd er pan ddaethai i fyw i'r Dyfiryn; eto yn yr ysbaid byr hwn enillodd le dwfn yn serch yr eglwys. Dewiswyd ef yn flaenor ymhen ychydig wedi iddo ddyfod yma. Yr oedd yn ŵr hynod o gymeradwy ar gyfrif ei addfwynder, a lledneisrwydd ei gymeriad. Cydgyfarfyddai ynddo gyfuniad prydferth o'r boneddwr a'r Cristion. Bu farw Hydref 18, 1882, er galar a cholled i'w deulu ac i'r eglwys.
Y mae eraill sydd eto yn fyw, ond a symudasant o'r ardal, wedi gwasanaethu swydd blaenor yn yr eglwys hon,-Mri. Robert Jones, Caemurpoeth—yn awr yn Ffestiniog; Thomas Lloyd-yn awr yn Nghwm Nancol; R. Williams, Ysgol y Bwrdd yn awr yn Nhanygrisiau; Richard Ellis-yn awr yn America; y Parch. Edward Jones, Rhydlydan, ac eraill.
Y blaenoriaid yn bresenol ydynt,-Mri. Hugh Williams, R. J. Williams, Ellis E. Williams, Robert Jones, Robert Wynne, Lewis Jones, Howell Powell.
Bu y gweinidogion canlynol mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r eglwys,-y Parch. Edward Morgan, o'i ymsefydliad yma yn arhosol yn 1849, hyd ei farwolaeth, Mai 9fed, 1871; y Parch. Evan Jones, o 1872 hyd ei symudiad i Foriah, Caernarfon, yn 1875; y Parch. Edward Jones, am oddeutu blwyddyn cyn ei fynediad i Rydlydan; y Parch. William Thomas, o 1879 hyd ei fynediad i Bwllheli yn 1888. Mae y Parch. Evan Roberts, y gweinidog presenol, wedi ymsefydlu yma er y flwyddyn 1888.
Nifer y gwrandawyr, 524: cymunwyr, 297; Ysgol Sul, 330.
Y GWEINIDOGION.
Y PARCH. THOMAS WILLIAMS.
Genedigol ydoedd ef o Sir Gaernarfon. Daeth i'r sir hon i gadw ysgol ddyddiol. A'r crybwylliad cyntaf am dano yn ei gysylltiadau cyhoeddus ydyw yr hyn a geir ynglŷn â Chyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Maethlon, Chwefror 22 23, 1843, pryd yr oedd y Parch. Cadwaladr Owen yn Gymedrolwr. Yn y Cyfarfod Misol hwnw y rhoddwyd caniatad iddo i ddechreu pregethu, ac adnabyddid ef yr adeg hono fel "Thomas Williams, Athraw Ysgol yn Corris." Yr oedd yn gymeradwy yn Nghorris, nid yn unig fel athraw ysgol, ond hefyd fel dyn ieuanc gweithgar a defnyddiol gyda chrefydd. Daeth i'r Dyffryn ar y cyntaf i gadw ysgol ddyddiol, a chanmolid ef fel ysgolfeistr da. Heblaw pregethu ar y Sabbath, llafuriodd lawer hefyd, gyda chymeradwyaeth, mewn cysylltiad â chyfarfodydd ysgolion yn ngwahanol ddosbarthiadau y sir, a meddai raddau helaeth o gymhwysderau at y gwaith hwn. Ymhen amser, aeth i gysylltiadau â'r byd, yr hyn fu yn anfantais iddo gyda'r weinidogaeth. Parhaodd i bregethu, modd bynag, tra daliodd ei nerth, a bu farw, mewn llawn sicrwydd gobaith, Hydref 16, 1861. Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol hyny, gwnaethpwyd coffa am dano, a dywedid, "Fod ei haul wedi machludo yn bur obeithiol, gan arwyddo fod iddo dranoeth teg wedi yr holl ystormydd yr aethai trwyddynt; a bod y gwirioneddau yr oedd wedi eu proffesu, a'u cymell ar eraill dros amryw flynyddoedd, yn greigiau cedyrn dan ei draed yn yr awr gyfyngaf."
Y PARCHEDIG RICHARD HUMPHREYS.
Cyfarfyddir âg enwau y Parchn. Richard Humphreys ac Edward Morgan yn amlach yn yr hanes hwn na neb arall; y rheswm am hyny ydyw, hwy eu dau fuont brif arweinwyr crefydd, nid yn unig yn y Dyffryn, ond yn holl eglwysi Gorllewin Meirionydd—y cyntaf am dros ddeugain mlynedd, a'r olaf am ddeng mlynedd ar hugain; a hwy eu dau ydynt hyd heddyw y ddwy seren ddisgleiriaf yn ffurfafen yr eglwysi. Ar un olwg, nid oes eisiau adrodd dim o'u hanes hwy, gan ei fod eisoes yn ddigon hysbys. Nis gellir ychwaith mewn ychydig o dudalenau wneuthur cyfiawnder â'r lle a deilyngant, ac â'r gwaith a wnaethant. O'r tu arall, byddai gadael allan y ddau weithiwr penaf, yn peri bwlch a gwagder yn yr hanes. Er mwyn y rhai nad oeddynt yn eu hadnabod, rhoddwn grynhodeb byr o'u hanes, cyffelyb i'r gweinidogion eraill, mewn cysylltiad â'u cartref, gan adael eu gwaith a'u llafur cyffredinol i gael sylw yn mhellach ymlaen, yn y benod ar y Cyfarfod Misol. Ysgrifenwyd Cofiant rhagorol am Mr. Humphreys, gan y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, yr hwn a gyhoeddwyd gan Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn y flwyddyn 1873.
Yr oedd y Parch. Richard Humphreys yn Ddyffrynwr trwyad!. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1790, yn Ngwernycanyddion, tyddyn heb fod yn nepell o'r Faeldref, cartref ei dad a'i daid. Yr oedd ei hynafiaid yn bobl barchusaf y gymydogaeth; ei dad a'i fam yn aelodau crefyddol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a'i berthynasau ef a roddodd y cychwyniad cyntaf i Ymneillduaeth yn y Dyffryn. Tra yr oedd ef yn ieuanc, symudodd y teulu i drigianu i'r Faeldref, enw a ddaeth, oblegid cyhoeddusrwydd yr enwogion fu yn byw yno, yn adnabyddus trwy Gymru. Gan ei fod o duedd fyfyrgar pan yn blentyn, ni ystyrid ef gan y plant eraill mor galled a hwy. Ymhen amser, gofynai un o'i gyfoedion iddo, "Sut y mae hyn yn bod, Richard Humphreys? Nid oeddym ni yn eich ystyried ehwi mor galled a ni pan yn blant, ond erbyn hyn dyma chwi wedi myned o'n blaen ymhell." "Oni wyddost ti, Morris," ebai yntau, "fod pob llysieuyn mawr yn cymeryd mwy o amser i ymagor." Pan ydoedd o gylch un ar hugain oed, bwriodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd; ac un o'r rhai a'i derbyniodd i'r eglwys y noson y cyflwynodd ei hun iddi ydoedd y Parch. Daniel Evans, yr hwn oedd yn cadw ysgol ddyddiol yn y gymydogaeth. Ymhen ysbaid o amser, dewiswyd ef yn flaenor. A dechreuodd bregethu yn 1819, pan yn naw ar hugain oed.
Bu cysylltiadau teuluaidd Mr. Humphreys yn hynod o ddedwydd. Priododd Miss Anne Griffith, merch i Cadben William Griffith, Abermaw, un o flaenoriaid mwyaf dylanwadol y sir. Daeth eu cartref yn gartref gweinidogion y gair, ac yn ganolbwynt crefydd y wlad. Yr oedd swyn ac atdyniad yn perthyn i'r Faeldref; cai dieithr a phriodor, gweision a morwynion, ac hyd yn nod yr anifeiliaid direswm bob chwareu teg yno. Yr oedd y pen teulu yn offeiriad, yn broffwyd, ac yn frenin, yn yr ystyr gyflawnaf. Wedi byw yn hapus am ddeng mlynedd ar hugain, collodd ei briod. Bu am rai blynyddau wedi hyn yn byw yn y Faeldref, gyda'i ferch a'i fab-yn-nghyfraith, Mr. Morgan. Yn y flwyddyn 1858, priododd yr ail waith & Mrs. Evans, Gwerniago, Pennal. Ac yn Ngwerniago y treuliodd flynyddoedd olaf ei oes. Bu un ferch o'r briodas hon, sef yr hon a ddaeth yn briod i'r Parch. William Thomas, yn awr o Bwllheli. Yr oedd hithau yn meddu synwyr, a ffraethineb, a chrefydd ei thad.
Yr oedd dylanwad Mr. Humphreys yn fawr iawn yn y Dyffryn ar hyd ei oes. Meddai y ddynoliaeth oreu, a synwyr cyffredin ymhell uwchlaw y cyffredin. Ymgymysgai â'r bobl; siaradai â hwy am eu helyntion; cydymdeimlai â hwy yn eu trallodion; gweinyddai gysur iddynt trwy ei haelioni a'i ymMedrai y ffordd i serchiadau pawb, adroddion diddanus. oblegid yr oedd yn bencampwr am ddeall y natur ddynol. Heblaw hyny, yr oedd pwysau anghyffredin yn ei gymeriad fel Oll yn oll, ni bu yr un dyn yn amdyn crefyddol a duwiol. gylchoedd ei gartref yn meddu mwy o ddylanwad personol. Hynodrwydd mawr ynddo ydoedd ei ffraeth-airiau, ei ddywediadau parod, a'i sylwadau synhwyrlawn, y rhai, pe y cesglid hwy ynghyd, a wnaent gyfrol o gryn faintioli. "Bydd llawer o'ch dywediadau," ebai Dr. Edwards, y Bala, wrtho mewn llythyr, "mewn cof fel diarhebion ymysg y Cymry am oesoedd." Un o frodorion y Dyffryn, sef Mr. Rees Roberts, Harlech, a rydd y desgrifiad canlynol o hono yn ei gartref,-
"Yr oedd yr olwg ar ei berson pan yn ymsymud tua'r capel ar noson seiat, yn deffroi ar unwaith yn y fynwes bob syniad hawddgar a theimlad caruaidd; ei gorff talgryf, y wynebpryd llydan braf, llygaid gloewon mawrion, ei bwyll dihafal, gyda thymer addfwyn a da, fel olew yn peri i wyneb y cyfan ddisgleirio, fel nad oedd fodd peidio ei edmygu a'i garu ar unwaith. Yr oedd yn gyffelyb i long marsiandwr fawr, yn nofio ar fôr âg olew yn dywalltedig ar hyd ei wyneb, gan mor dawel a digyffro yr ymsymudai, a hono yn llwythog o nwyddau gwerthfawrocaf y wlad bell, i gael eu rhanu yn rhad ac yn rhodd i bechaduriaid tlotaf y fro. Teimlwn fod cadeiriau uniondeb, tynerwch, a doethineb, ie, mwyneidd-dra doethineb, yn cael eu llenwi yn deilwng pan y byddai ef yn bresenol yn y cyfarfod eglwysig."
Yn holl gylchoedd cyhoeddus y wlad, ac yn arbenig cylchoedd cyhoeddus y Cyfundeb, safai Mr. Humphreys ymysg y tywysogion. Efe a gyfrifid yn un o gedyrn dirwest Cymru. Rhoddid ef bob amser i areithio yn lleoedd amlaf y bobl, a byth ni fethai a sicrhau yr hoelion. Fel gwladwr, perchid ac edmygid ef gan bob dosbarth o ddynion. Fel cynghorwr ac arweinydd y Cyfarfod Misol a'r Cymanfaoedd, ni chafwyd neb yn ei amser ef, nac wedi hyny, yn fwy medrus a llwyddianus. Ond nesaodd ei ddyddiau yntau i farw. Ar ol pregethu yn felus yn y Dyffryn, ar ryw foreu Sabbath, tua diwedd ei oes, dywedai Edward Jones, y blaenor, wrtho, "Yr ydych chwi yn lwcus iawn, Mr. Humphreys, yr ydych chwi yn sicr o'r nefoedd." "Na, nid ydwyf ddim yn siwr," atebai yntau, "ond yr ydwyf yn siwr o hyn, fy mod yn caru pawb sydd yn caru Duw, ac yn casau pawb sydd yn pechu yn wirfoddol yn ei erbyn, ac yr wyf yn meddwl na rydd fy Nghreawdwr mo honof gyda'r rhai sydd gas genyf." Cyrhaeddodd derfyn ei yrfa ddaearol Chwefror 15fed, 1863, yn 72 mlwydd oed. Gwyr bucheddol" a'i dygasant i'w gladdu i ymyl capel y. Dyffryn, "ac a wnaethant alar mawr am dano ef."
Y PARCHEDIG EDWARD MORGAN.
Ganwyd ef yn y Pentref, treflan fechan yn agos i Lanidloes, Medi 20fed, 1817. Arferai y Methodistiaid gadw Ysgol Sabbothol yn nhŷ ei dad, a chafodd y plant felly y fantais o fod mewn awyrgylch grefyddol, ac i ymgydnabyddu â'r Beibl. Symudodd y teulu, pan oedd Edward tua deuddeg oed, i fyw i Lanidloes, ac yn y dref hono y treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid. Dygwyd ef i fyny yn siopwr; ac ar ol treulio ei brentisiaeth, aeth i wasanaeth y Mri. Edmund a William Cleaton. Bu farw ei fam, yr hon oedd yn wraig grefyddol, pan oedd ef yn ieuanc, ac effeithiodd yr amgylchiad yn ddwys arno. Nid hir ar ol hyn ymunodd yntau â'r eglwys. Oddeutu yr un pryd ymunodd, hefyd, â Chymdeithas y Cymreigyddion, yr hon oedd yr adeg hono yn flodeuog yn y dref. Tystiolaeth ei gydnabod oedd, ei fod y blynyddoedd hyn yn dangos syched angerddol am wybodaeth. Treuliai bob mynyd o'i oriau hamddenol, nos a dydd, i ddiwyllo ei hun; byddai ei lyfr yn agored y tu ol i'r counter pan na byddai cwsmeriaid yn y siop; a mynai gael canwyll hir i fyned i'w wely, er mwyn cael darllen cyn rhoddi ei ben i lawr i gysgu. Daeth ei ddoniau cyhoeddus i'r golwg mewn cysylltiad a'r gymdeithas lenyddol, cymdeithas y Cymreigyddion, a'r gymdeithas ddirwestol. Gosodwyd ef hefyd yn ysgrifenydd yr Ysgol Sabbothol, yr hon oedd yn flodeuog iawn yn Llanidloes yn ei amser ef. Yn nechreu y flwyddyn 1839, ac efe yn ychydig dros un ar hugain oed, y mae yn cyfeirio ei gamrau tuag Athrofa y Bala. Ysgrifenodd lyth at lywydd yr Athrofa, y Parch. Dr. Edwards, i ymholi o berthynas i goleg Cheshunt. Anfonodd yr athraw parchedig yn ol, y gallai gael ysgol am ddim yn y Bala, er nad oedd wedi dechreu pregethu, oblegid yn y cyfnod hwnw yr oedd gan lywydd yr athrofa hawl i wneuthur hyn o gymwynas, Wedi bod yn y Bala yn agos i flwyddyn, daeth cais o'r Dyffryn, trwy y Parch. Richard Humphreys, am wr ieuanc i gadw ysgol ddyddiol yn yr ardal. Anogodd Dr. Edwards Edward Morgan i dderbyn y cynygiad. A hyn y cydsyniodd yntau; ac yn nechreu Chwefror, 1840, mae yn dyfod i faes newydd ei lafur fel ysgolfeistr, lle oedd yn hollol ddieithr iddo. Cynhelid yr ysgol yn nghapel y Methodistiaid. Daeth yn fuan yn un o'r ysgolion mwyaf blodeuog yn y wlad, oblegid yr oedd ynddi yn awr ysgolfeistr medrus a meistrolgar.
Yr oedd Mr. Humphreys yn noddwr o'r fath oreu i'r ysgolfeistr. Deallodd ei fod yn meddu talentau; anogodd ef i ddechreu pregethu, a rhoddodd bob cyfleustra iddo i ymbarotoi, yn y cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd gweddi. Ac yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, a gynhaliwyd Rhagfyr 1af a'r 2il, 1840, "Penderfynwyd fod i'r Parch. Robert Griffith, Dolgellau; Cadben William Griffith, Abermaw, a William Richard, Gwynfryn, fyned i'r Dyffryn ar gais yr eglwys yno, i ymddiddan â gŵr ieuanc sydd ar ei feddwl fyned i bregethu." Y gŵr ieuanc hwn oedd y Parch. Edward Morgan, yr hwn a ddaeth cyn pen ychydig o flynyddoedd, trwy ei hyawdledd anghymarol, i wefreiddio cynulleidfaoedd. lliosog ei wlad, ac i gael ei gydnabod gan bawb fel un o enwogion penaf Cymru. Yn hen gapel y Gwynfryn y traddododd ei bregeth gyntaf, Rhagfyr 20fed o'r flwyddyn a grybwyllwyd, ymhen tair wythnos ar ol i'r sylw cyntaf fod ar ei achos yn y Cyfarfod Misol. Parhaodd i gadw ysgol, ac i bregethu ar y Sabbothau, hyd ddechreu 1842, pryd yr aeth i'r Bala am dymor eto. Dychwelodd eilwaith, ymhen tua blwyddyn, i'r Dyffryn i ail ymaflyd yn ei waith. Tua diwedd y flwyddyn 1845, aeth i Edinburgh, i Athrofa Dduwinyddol yr Eglwys Rydd, ac arhosodd yno dros dymor neu ddau. Yn Nghymdeithasfa y Bala, 1847, ordeiniwyd ef i holl waith y weinidogaeth. Daeth allan yn rymus fel pregethwr ar y cychwyn. Cafodd genad i fyned i daith y Bontddu a Llanelltyd un o'r Sabbothau cyntaf ar ol dechreu, ac aeth son am dano ar led fel pregethwr rhagorol. Gofynai Lewis Morris yn y Cyfarfod Misol ar ol hyny, "Mi leiciwn i wybod pwy roddodd genad i'r pregethwr ieuanc i dori dros ei derfyn?" "Y ni roes genad iddo," atebai y Parch. R. Griffith, Dolgellau, "ac fe bregetha yn well na chwi na finau bob dydd." Llafuriodd yn galed ac egniol y tymor hwn ar ei oes. Cyfodai yn foreu, ac elai yn hwyr i gysgu, y gauaf fel yr haf. Trwy ddiwydrwydd a dyfal-barhad diail cyfoethogodd ei feddwl, a chymhwysodd ei hun at waith mawr ei fywyd. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd wedi ei addurno gan ei Arglwydd â thalentau disglaer i waith y weinidogaeth. Ac ni ddarfu neb erioed ymgysegru yn fwy llwyr i waith ei swydd nag efe. Arferai ef ei hun ddweyd, os oedd rhyw ragoriaeth ynddo ar ei frodyr, fod hyny i'w briodoli i'w lafur a'i ddiwydrwydd, ac nid i'w alluoedd.
Yn mis Awst, 1847, blwyddyn ei ordeiniad, y mae yn ymgymeryd âg eglwys Salem, Dolgellau, fel ei gweinidog—yr engraifft gyntaf o weinidog cyflogedig yn y sir. Wedi llenwi y cylch hwnw gyda llwyddiant mawr am ddwy flynedd, y mae yn dychwelyd i'r Dyffryn, ac yr ydym yn gweled ei enw yn cael ei roddi i lawr yn llyfr yr eglwys yno, Awst 1, 1849. Yr achlysur iddo ddychwelyd i'r Dyffryn yn awr ydoedd, ei fynediad i'r ystad briodasol gyda merch ieuengaf y Parch. Richard Humphreys. Yma yr arhosodd bellach hyd ddiwedd ei oes.
Yr oedd cysylltiad gweinidogaethol rhyngddo âg eglwys y Dyffryn, a phregethai yma un Sabbath yn y mis, ac nid oedd yn fwy poblogaidd yn unman nag yn ei gartref ei hun. Heblaw llafurio yn ei ardal ac ymhlith pobl ei ofal, llafuriodd yn helaethach na'i frodyr oll yn nghylch y Cyfarfod Misol, ac ymhob cylch a berthynai i'r Cyfundeb. Dygwyd oddiamgylch yn ei amser ef, a thrwy ei offerynoliaeth ef, gyfnewidiadau a diwygiadau mawrion, y fath na chlybuwyd am danynt er dechreuad Methodistiaeth yn Ngorllewin Meirionydd. Dau brif orchestwaith ei fywyd, yn ychwanegol at ei waith penaf, sef pregethu efengyl y deyrnas, oeddynt,-casglu cronfa o 26,000p. at Athrofa y Bala, a sefydlu gweinidogion ar eglwysi Sir Feirionydd. Ceir gweled ei lafur yn y cysylltiad hwn yn mhellach ymlaen yn yr hanes. Wedi oes lafurus a nodedig o lwyddianus, cymerwyd ef i dderbyn ei wobr, Mai 9fed, 1871, yn yr oedran cynar o 53. A theimlid drwy holl wersyll y Methodistiaid y dydd hwnw fod "tywysog a gŵr mawr yn Israel" wedi syrthio. Gadawodd ar ei ol weddw-hithau hefyd erbyn hyn wedi ei chymeryd i'r orphwysfa—ac wyth o blant. Mab iddo ef ydyw y Parch. R. H. Morgan, M.A., yn awr o Menai Bridge. Colled fawr, a pheth i ofidio o'i herwydd ydyw, na buasai cofiant i ŵr mor enwog â Mr. Morgan wedi ei ysgrifenu ymhell cyn hyn. Ond "gwell hwyr na hwyrach," hyderir y ceir un cyn hir, fel y mae yr addewid wedi ei rhoddi.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tad y bardd a elwid Dafydd Ionawr.
- ↑ Y Parch. Richard Humphreys.
- ↑ Ysgrifena R. Evans hyn, fel y tybir, yn y flwyddyn 1838, oblegid ymhen un mlynedd ar ddeg wedi hyny y bu farw. Felly cymerodd y digwyddiad a grybwyllir le yn y flwyddyn 1780.
- ↑ Mae y Penrhyndeudraeth, fel yr arwydda ei enw, yn ymestyn tua'r mor, rhwng y ddau draeth y Traeth mawr sydd nesaf i Dremadog, a'r Traeth bach yn ochr Sir Feirionydd. [Rhaid cofio hefyd fod hyn wedi digwydd lawer o flynyddoedd cyn gwneuthur y Cob rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth.]
- ↑ Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r sylwadau uchod, yn gystal a'r crynhodeb a roddwyd am yr Ysgol Sul, i Mr. Rees Roberts, Harlech.